Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAU SENEDDOL. ..
NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Y GYLLIDEB. Nos Lun, yr wythnos ddiweddaf, dygodd Canghell- ydd y Trysorlys ei Gyllideb o flaen y Senedd mewn araiiih faith a galluog. Dywedodd fod ganddo i ddarparu pedair miliwn a chwarter yn fwy y flwydd- yn hon na'r un ddiweddaf, yr hyn a wneid i fyny o filiwta a haner at drethiant lleol, a swm cyffelyb fel oyfran-daliad blynyddol tuag at adgyfnerthiad y Llynges, a miliwn a chwarter o gynydd yn amcan- gyfrifon arferol y Fyddin a'r Llynges. Cyfanswm treuliadau y flwyddyn ddiweddaf oedd £ 85,673,872, yr hyn oedd yn,2941,072 yn llai nag amoangyfrif gwreiddiol y Gyllideb, a £1,350,185 ynllaina chyfan- swm amcangyfrifon y treuliadau, a chymeryd i fewn yr amcangyfrifon attodiadol (supplementary estimates.) Yr oedd lleihad dirfawr wedi oymeryd lie yn y pleidleisiau ychwanegol hyn yn ystod y flwyddyn. A chymeryd pobpeth gyda'u gilydd yr oedd yr amcangyfrifon attodiadol yn llai na dim a gyflwynwyd i'r Ty er y flwyddyn 1868-69. Cyfanswm derbyniadau y flwyddyn ddiweddaf ydoedd zeSS,473,000, yr hyn oedd yn £1,646,000 uwchlaw yr amcangyfrifon. Yr oedd cynynydd wedi cymeryd lie yn y oyllid oddiwrth ffrwythau, ond colled o X41,000 ar y myglys yr oedd coffi yn dal ei dir, ond yr oedd cynydd dirfawr mewn ooooa nid oedd y oynydd mewn tê ond zCI5,000, yr hyn a briodolid mewn rhan i'r ffaith fod mwy o alwad am de cryf yr India. Nid^oedd y cyllid oddiwrth witodydd wedi oynyddu gyda chynydd y boblogaoth, aoyroedd yn parhau i wneyd bwlch yn nerbyniadau y Trysor- lys. Y cynyroh oddiwrth win y flwyddyn ddiweddaf ydoedd;21,210,000, yr hyn oedd yn yohwanegiad o 2163,000, yr hyn a briodolai Mr. Goschen i'r doll yohwanegol ar sparkling winea." Yr oedd cryn gynydd wedi eymeryd lie yn y gwinoedd ysgafnaf. Yr oedd y derbyniadau oddiwrth wirodydd poethion ar y cyfan yn llai na'r flwyddyn ddiweddaf, yn enwedig gwirodydd Prydeinig. Yr oedd y derbyn- iadau oddiwrth drwyddedau yn awr wedi myned o afael Canghellydd y Trysorlys i Fwrdd y Llywodraeth Leol; ac yr oedd ef (Mr. Goschen) hefyd wedi gorfod rhoddi i fyny swm mawr oddiwrth y trano-dollau (death duties), ac nid oedd y derbyniadau oddiwrth y cyfryw y flwyddyn ddiweddaf ond X2,816,000, yn lie zC4,234,000 yn y flwyddyn flaenorol. Yr oedd y doll ar stampiau wedi cynyddu 4880,000, a threth yr incwm £ 500,000, a hyny yn ngwyneb y ffaith ei bod wedi ei gostwng i chwe' cheiniog y flwyddyn ddi- weddaf. Yr oedd profiad yr yohydig flynyddau diweddaf yn eu dysgu mai o'r biaidd y gellid ym- ddiried yn yr hen bolisi o drethu rhyw nifec bychan
Advertising
flRrms for Abbtrtisittg. ™ A J _II I Number of Bate per Class of Advertisements. insertions. Inch. s. d. Parliamentary Notices ) 6D. per Line Legal and Public Notices — I per Insertion Auction Announcements f 4D. Per Line > per Insertion Religious Services and Lectures •••• 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & Eisteddfodau | I 6 to 11 | 6 Publishers and Educational > s 12 to 25 13 Announcements. I Business Addresses 26 and up. I 0 PREPAID ADVERTISEMENTS. TO One Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. a. d. 20 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 THESE CHARGES, which must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the foliowmg classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments to Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for Sale. Lost and Found, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. THE GREATEST CARB is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly printed; but we cannot be responsible for inaccuracies^ in either of these respects, nor for any consequences arising either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. IF THE INSERTIONS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less than three shillings. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to II DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. Y Llan Offices, Cardif, n djtstatt, &r. LLANFAIRFECHAN. Wanted, at an JLJ early date, a Curate in Priest's Orders. Must be a singer, and equally well qualified to minister in Welsh and English.—Apply to the Rector. 390 LANBRYNMAIR, MONTGOMERY- SHIRE.—An Ex. P. Teacher, not under 20; knowing Welsh well; musical; fond of Church work. Salary, X26, Pence, Grants (if any. )-Help in Latin and Greek. There are three other schools in the parish.— Apply to Rector. 386 OtlllJndrbiabau &r. YR ATEBION I'R LITANI A'R i. GWASANAETH PRYDNAWNOL (TALLIS). TREFNEDIG GAN Y PARCH. O. JONES, PENTREVOELAS, BETTWS-Y-COED. Dan Nodiant-Pris Dwy Geiniog. 3S9 GilESTJ, Y BUGAIL DA." JL CANTATA GYSEGREDIG, Pris 60. yn yr Hen Nodiant; 4c. yn y Tonic Solffa. Dwsin o'r Hen Nodiant, 5s.; dwsin o'r Tonic Solffa, 3s.; yn rhydd trwy y Post.—Anfoner at Griffith Williams, Curate, Wrexham. 372 /1\ pABELL J) 0 F Y D D I SEF CYFRINION Y GREFYDD DDERWYDDOL, Wedi eu dadgaddio (Pamp ar hugain o Benodau) gan MORIEN, B.B.D., Llwyn Onn, Trefforeat, S.W. Rhydd gyda'r post am 2a. 2c., oddiwrth yr awdwr. Principal Edwards—" Llyfr dyddorol iawn." Glan- ffrwd-11 I Pabell Dofydd' yw un o'r llyfrau mwyaf dyddorol ag sydd wedi dyfod allan o'r wasg Gymreig oddiar amser lolo Morganwg. Fel llawlyfr i'r Oraedd nid oes genym ddim cyffelyb iddo mewn un iaith." Y Parch. W. Parry, Pontypridd—"Y mae Pabell Dofydd yn bynod o ddyddorol." 391 s. NOW 'PUBLISHED, DEMY Svo., 160 PAGES.—PRICE SIXPENCE. By Posr EIGHTPENCE. THE WELSH SUNDAY CLOSING ACT. LORD ABERDARE'S CHALLENGE TO THE "WESTERN MAIL." Is the Increase in Sunday Drunkenness in Wales real, or apparent only?" WITH INTRODUCTION BY H. LUSHINGTON STEPHEN, ESQ., LL.B., OF THE INNER TEMPLE, BAHBISTEB-AT-LAW, AND OF CARDIFF. CARDIFF DANIEL OWEN AND COMPANY (LIMITED). LONDON: W.KENT & CO., PATERNOSTER.ROW. AND OF ALL BOOKSELLERS otvhøtbbíahau, &c. Netvydd ei Gyhoeddi, < J>ETHLEHEM I'R OLEWYDD." Cyfres o Wersi ar Fywyd Iesu Grist ar gyfer Athrawon yr Ysgol Sul ac eraill, GAN JOHN PALMER. RRAN I. Cyfieithedig dros Gymdeithas Traethodau Esgobaeth Bangor. PRIS CHWE'CHEINIOG TRWY'R POST 7JC. Anfoner archebion at Messrs. Nixon and Jarvis, Bangor. 380 Hjsbjjsiabatt ^ttasuatljal. -J"J-I"o.rv- QUININE JITTERS GJ-WILTM EVANS. DARGASFYDDIAD PENAF YR OES BRESENOL mewn MEDDYGIN- IAETH IiYSIEUOL YW QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Ar gyfrif ei rinweddau iachaol rhyfeddol eymeradwyir hwn gan brif feddygon gwahanol wledydd fel meddyginiaeth sicr a diogel at holl anhwylderau y Cylla, yr Afa, a'r Gian.-Ceir miloedd o dystiolaethau o bob parth o'r byd yn tystio i'w effeithiau iaoh- usol, ac ystyrir ef gan Inoedd yn Feddyginiaeth Anmhrisiadwy. TYSTIOLAETHAU DIWEDDAR. Trallwyn Terrace, Carmel, Upper Llandwrog, Hydref 24ain, 1888.— Anwyl Syr,—Yr wyf yn credn y buaswn wedi marw, oni bae am Quinine Bitters Gwilym Evans. Bam am ddwy flynedd yn methu gorwedd, gan mor ddrwg yr oedd fy lungs wedi myned, ac mor wan- Ilyd nes byddwn yn chwysu hyd yn nod ar fy eistedd; cymeraia ch we' potelaid o'r Q uinine Bitters; ac erbyn hyn yr wyf yn ddyn iach, ac yn dilyn fy ngorchwylion bob dydd yn y chwarel. Yr eidd- och yn wir, H. WILLIAMS. CRYNIAD Y GALON A PHOEN YN YR OCHB.—4, Tanner Terrace, Porth- madog, Rhag. 16eg, 1888.—Anwyl Syr,-Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddyginiaeth werthfawr. Yr wyf wedi bod yn dioddef gan gryniad y galon, a phoen mawr yn fy ochr, ac yn methu cael dim i wneyd lleB i mi, er treio Hawer. Ond cymhellwyd fi gan gyfaill i ro'i prawf ar un botelaid, 4s. 6c., o Quinine Bitters Gwilym Evans, a heddyw yr wyf yn bolliach. ELLEN OWEN. CLEFYD YR YSGYFAINT.—16, Upper Gongh Street, Birmingham, Rhag. 3yddi 1888-Anwyl Syr,-Bura yu, dioddef am ddeng mlynedd gan Glefyd a Llid yr Ysgyfaint (11 Bron. chitis and Inflammation of the Lungs"), Oerfel yr Arenau, a Phoenau yn y Cefn. Cymhellwyd fi i roddi prawf ar Qninine Bitters Gwilym Evans. Yr wyf wedi cym- eryd dwy o boteli bychain, ac un botel fawr, a gallaf eich sicrhau fy mod eisioes yn teimlo yn ddyn arall hollol, a gallaf ddilyn fy ngorchwyllon lawer yn rhwydd- ach yn awr. Yr eiddoch yn ddiolchgar, J. PBATT. Swyddfa'r Observer, Mumbles, Mawrth 25ain, 1889.-Anwyl Syr,- Mae yn bleser mawr genyf alln tystio i effeithiolrwydd Qninine Bitters Gwilym Evans mewn achosion o Wendid, Diffyg Yni, ao Iselder Meddwl. Prof odd un hotel. aid o lea annhraethol i mi. Yr eiddoch yn gywir, ROBT. MORRISON (ieu.), Golygydd y Mumbles Observer. Peidiwch dioddef poenan tra y gellir eich gwella trwy ddefnyddio QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Pris, poteli, 2a. 9c.; eto dwbl faint, 4a. 6c.; blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 60. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyliwr, R. D. Williama. I Medical Hall, Plymouth, Penn. I'w gael ymhob man. Gornchwyliwr ymhob parth o'r bya. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y prisian uchod yn rhad a diogel drwy y Post i nnrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol yn union- gyrchol oddiwrth y perchenogion :-Quinine Bitters' Manufacturing Company, Limited, Llanelly South Wales. at tut (Hofcttluei. Dymunwnalw sylw in darllenwyiTeo^^ wyr at y cyfnewidiadau canlynol sydd wedi eu gvvneyd mewn cysylltiad a dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan cyfeirier NEWYDDION LLEOL A HYSBYSIADAU fel y eanlyn THE EDITOR. LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BAEDDONIAETH Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, „ Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADAU, YSGRIFAU. A GOHEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd a Llyfrau i'w hadolygu Rev. LL. M. WILLIAMS, The Vicarage, Beaufort, Mon. L. J. (Rhy1.)-Dioloh i chwi. Ymddengya yn ein nesaf. TYWOTYN (Llanbedrog).—Daeth eich gohebiaeth i law yn fyr o'r tudalen cyntaf. Gwnewch y diffyg i fyny erbyn ein nesaf. MEWN LLAW A THAN YsTyEtTA-PT .-Wil y Gwas; Myfyr; Ceitho bant; Mallwyd; Byodor; Mab yr Hen Fam a Calcraft. MYRDDIN COCH (Llanelli).-Daeth eich gohebiaeth i law yn rhy ddiweddar. r
OROESDYNIL
OROESDYNIL CYMYSGEDIG a thywyll, yr adeg bresenol, ydyw agwedd weledig y rhan fwyaf o brif bynciau a symudiadau y dydd. Ni fu erioed gymaint o groes-ddarllen arwyddion yr am- serau. Ar y Cyfandir gwelir Ffrainc mewn gwewyr enbyd oherwydd y frwydr boeth sydd yn cael ei chario ymlaen rhwng y Llywodraeth a'r Cadfridog BOULANGER. Anhawdd penderfynu pa sut y terfyna yr ymladdfa. Y mae un peth yn sicr, fod y CADFRIDOG ar un Haw yn benderfynol, os gall, o ddadymchwelyd y Werin-lywodraeth Ffrengig fel y saif yn bresenol, a sefydlu un arall yn ei lie a bod aelodau y Llywodr- aeth a'u canlynwyr ar y llaw arall yr un mor benderfynol, os yn bosibl, i roddi diwedd ar gynlluniau BOULANGEB yn eu herbyn. Er's wythnosau bellach y mae y CADFRIDOG wedi gadael Ffrainc, a chyn diwedd yr wythnos hon fe fydd wedi cyr- aedd Prydain Fawr er mwyn gosod ei hun allan o gyraedd ei elynion. Yn ei absenol- deb y mae ei edmygwyr yn ymladd a'i wrth- wynebwyr gyda llawer o benderfyniad a gradd helaeth o lwyddiant. Myn rhai fod BOULANGER ar golli ei ddylanwad ar ei gyd- wladwyr poeth a byrbwyll, ond haera eraill ei fod yn sicr yn y pen draw o lwyddo yn ei amcan. Sut y try pethau allan yn Ffrainc werinol ac anffyddol nis gall dyn na dewin raafynegu ar hyn o amser digon cyth- ryblus a gofidus ydyw sefyllfa pethau. Gan fod etholiad cyffredinol yn agos y mae pleidwyr y Llywodraeth yn bryderus iawn, ac nid oes lie i'w beio, am fod BOULANGEB wedi enill amryw fuddugoliaethau pwysig yn ddiweddar mewn amryw ethclaethau. Nid ydyw sefyllfa Rwsia fawr yn well. Parhau i gynhyrfu y wlad y mae y Nihilist- iaid, ac, yn ol rhai, y mae yr Ymerodraetb, y foment hon, fel magwyr ogwyddedig. I raddau, y mae Ffrainc a Rwsia yn gynrych- iolwyr teilwng o wledydd eraill y Cyfandir. Ymhob cyfeiriad y mae cymdeithas yn af- lonydd, ac y mae y dyfodol yn llawn o an- sicrwydd. Nid ydyw ein gwlad ni ein hunain fawr yn well na'r ddwy wlad y eyfeiriasom atynt uchod. Croesdynu, croesddadleu, ac ang- hydfod sydd yn ganfyddadwy ymhob cyfeir- iad. Hyd yn nod ya Nghymru y mae hyn yn fwy amlwg yn awr nag ydoedd flynydd- au yn ol. Prif destyn y croes ddadleu ydyw sefyllfa grefyddol y Dywysogaeth. Ymhob etholiad gymer le-ac y mae rhif yr etholiadau hyn bellach yn lleng, agorir llif- ddorau ysbryd cynen, a phorthir nwyd yr arweinwyr hyny yn ein mysg ydynt yn byw drwy anadlu awyr afiach terfysg ac anghar- i iadoldeb. Yn ddiweddar dygwyd elfen newydd i mewn i'r cythrwfi sydd yn bodoli yn ein plith. Hysbys i'n darllenwyr fod un o newyddiaduron Cymru wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o brofi fod Deddf Cau y Tafarn- au ar y Sul yn fethiant. Arddangosodd y newyddiadur hwn lawer o allu wrth gyflawni y gocrhwyl crybwylledig, a'r canlyniad yd- oedd i'r Llywodraeth apwyntio Comisiwn i chwilio i fewn i elfaith y ddeddf ar feddwdod. Byth oddiar hyny y mae un blalct yn ein plith yn taeru mai methiant trwyadl a chyfangwbl ydyw y Weithred Seneddol hon, a dygir profion wythnos ar ol wythnos er maentumio y I gosodiadau y mae yr ochr ymosodol wedi eu mabwyaiadu. Ond ar yr un pryd y mae pleidwyr y Ddeddf yn dadleu fod y Weithred yn fendith i'r wlad, a'i bod yn ystod y chwe' blynedd diweddaf wedi amlygu gwerthfawrogrwydd yr egwyddor ar ba un y sylfaenwyd hi, ac y dylesid estyn yr un fendith i'r deyrnas yn gyffredinol. Pan yr ystyrir mai ffeithiau ac nid egwvdd- orion sydd yn ffurfio'r tir ar yr hwn y saif y ddwy blaid wrthwynebol, dengys eu hym- ddygiad yn amlwg fod un o'r ddwy ochr, os nad y ddwy, wedi ei dallu gan ragfarn. "Facts are stubborn things," medd y ddiareb Seisnig, ac er ei bod yn hawdd i ddynion cydwybodol a gonest wahaniaethu ar bynciau perthynol i ddamcaniaeth yn unig, nid hawdd iddynt heb droseddu deddf- au cyfiawnder a rheswm gamddarllen yr yr hyn a ddysgir yn amlwg gan ffeithiau sydd mor eglur a'r haul ganol dydd. Hyderwn y bydd i'r Comisiwn sydd ar gael ei benodi ladd yr ysbryd rhagfarnllyd sydd yn meddianu pleidiau gwleidyddol Cymru yn y dyddiau rhai'n mor belled ag sydd a fynont a'r Ddeddf hon a'i chanlyniadau. Amlygir yr un gwirionedd yn y driniaeth a fesurir allan i weithrediadau y Llys sydd yn gwneuthur ymholiad i gysylltiad y Blaid Barnellaidd a'r Troseddau ofnadwy sydd wedi anurddo yr Iwerddon yn ystod y blytt' yddoedd diweddaf. Cyn gynted ag y darfu i'r Times dynu y Llythyrau yn ol, ac addef mai ffugwaith oeddynt, wele holl lu y Gladstoniaid yn y wasg ac ar bob llwyfan yn y deyrnas yn cyhoeddi fod y Times wedi colli'r dydd, fod y Gwyddelod wedi profi eu hunain yn angylion y goleuni, a bod Mr. PAENELL, yr hwn ychydig amser yn ol ydoedd am ddistrywio'r dorch olaf a gysylltai yr Iwerddon wrth Lloegr, yn dduw, teilwng o'r anrhydedd a'r parch mwyaf allesid dalu iddo. Gwyddai y bobl hyn yn eithaf da, mai rhan ddistadl mewn cydmariaeth o'r cwyn yn erbyn Mri. DARNELL A'¡ GYF., ydoedd ) llythyrau," a bod pynciau llawer mwy pwysig i'w pender- fynu gan y Comisiwn. Ond yn ngwynebhyn y mae arweinwyr yr Wrthblaid wedi ang- hofio eu cyfrifoldeb a'u sefyllfa i'r fath raddau ag i geisio twyllo'r werin fod yr aelodau Gwyddelig wedi dyfod allan yn fuddugoliaethus o'r ymdrafodaeth. Yn hyn dilynir hwy gan:newyddiaduron a phregeth- wyr Cymru. Yn ddiau- y mae y fath ym- ddygiad yn brawf eglur fod dirywiad ofnadwy wedi cymeryd lie yn nghymer- iadau ein dynion cyhoeddus. Pan y mae arweinwyr y bobl wedi eu dallu gan rag- farn, ac yn eu dallineb yn sathru'r gwir- ionedd dan draed, y mae y genedl mewn dygn berygl, ac y mae amser pwysig yn ei haros. Y mae ein sylwadau blaenorol yn gymhwysedig at y pwnc mwyaf o'r holl bynciau gwleidyddol sydd yn cynhyrfu y wlad yn awr. Y mae yr un cymaint o groesdynu a dadleu uwchben hwn heddyw a fu erioed. Y mae yn druenus i'r eithaf i weled Mr, GLADSTONE a'i ganlynwyr ar eu goreu, ar draul gwirionedd, tegwch, a phob peth arall, yn ceisio troi pob ffrwd o ddwfr, pa un a'i glan a'i aflan, i'w melin eu hun. Gall celwydd lwyddo am enyd awr, ond y mae yr hwn a hauo'r gwynt yn sicr o fedi'r corwynt. Felly gall y penboethyn gau ei lygaid a gwrthod sylwi ar ffeithiau, ac yn ei ragfarn ddarnio'r gwir, ond mown gwlad ac Eglwys, yn ysbrydol ac yn dymhorol, y gwir sydd i lwyddo yn y pen draw. Dyma ein cysur a'n gobaith ynghanol y croesdynu a'r croes-ddadleu cynhenllyd sydd yn andwyo cymdeithas y dyddiau drwg yr ydym yn byw ynddynt.