Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BVoiiJi) gr atioigsgtiii.…

- CYBTADLEUAEIH "Y LLAN,"

[No title]

Advertising

- NODIADAU SENEDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Parhad o tudal. 5. GWELLIANT ARALL. Dywedodd Syr George Campbell nad oedd ef am fod yn galed wrth Ganghellydd y Trysorlys- (chwerthin)-ond ei fod yn dymnno cynyg gostyngiad o ;tlOO yn ei gyflog fel fjwrthdystiad yn erbyn ei ymddygiad mewn perthynas a'r Aipbt, yn rhoddi rhoddion i'r Llywodraeth Aipbtaidd ar draul y tretbdalwyr yn y wlad hon i chwyddo cyllid yr Aipbt mewn cysylltiad 4 rhyfelgyrch 1882. Dywedodd Mr. Gosoben fod y cybnddiad yn un hollol annbeg, oblegid un o'r gweithredoedd cyntaf a wnaeth wedi iddo ymgymeryd a'r swydd o Ganghellydd y Trysorlys oedd gwrtbod claim am £ 500,000 a wnaed gan y Llywodraeth Aiphtaidd. Nid oedd rboddion o gwbl wedi en gwneyd i'r Llywodraeth Aiphtaidd. Yr oedd y taliadau a wnaed yn ddyledus mewn canlyniad i'r rhyfel- gyrch blaenorol. Gwrtbodwyd y gwelliant heb ranu y Ty. CYFLOG YR YSGRIFENYDD CARTREFOL. Cynygiodd Mr John Ellis fod gostyngiad i gael ei wneyd o £1,000 yn nghyflog yr Ysgrifenydd Cartrefol, a chymerodd dadl boeth le. Cyhudd- odd Mr W. Redmond Mr Matthews o newid ei farn ar y ewestiwn o Home Rule, a dywedodd ei fod wedi cyfranu at ryw gronfa ynglyn A'r mud- iad. Galwyd y-Gwyddel taeog hwn i 11 drefn fwy nag nnwaith gan y Llefarydd. Cymerodd amryw o'r aelodau Parnellaidd a Gladstonaidd ran yn yr ymgiprys. Cyhuddid yr Ysgrifenydd Cartrefol o fod mewn cyngrair a'r Times drwy adael i'w is-swyddogion ymyraeth yn achos y Ddirprwyaeth Barnellaidd. Diwedd y ffrwgwd Wyddelig fn i'r pwyllgor ymranu, pryd y cafwyd- Dros y gostyngiad 70 Yn erbyn 119 Mwyafrif 49 Bu amryw faterion eraill dan sylw, a llwydd- wyd i wastraffa yr amser hyd haner nos ac am 12.20 ymwahanwyd.