Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH MR, W. SPURRILL,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH MR, W. SPURRILL, Y.H., CAERFYRDDIN. Y mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marw- olaeth Mr. William Spurrell, argrafiwr a chyhoedd- wr yr Haul, yr hyn a gymerodd Ie prydnawn Llun y Pasg, Ebrill 22ain. Ganwyd ef ar y 30ain o Orphen- af, 1813, ac felly yr oedd o fewn ychydig i 76 oed. Yr oedd yr ymadawedig yn un o hen drigolion tref Caerfyrddin, lie y mawr berchid ef gan bob dosbarth; yma y ganwyd ao y magwyd ef. Yn ystod ei oes, cymercdd ddyddordeb ymhob aymudiad a dueddai i lesoli ei gyd-ddinasyddion. Efe ydoedd un o'r rhai blaenaf fel sefydlwr y Literary and Scientific Insti- tution yn y dref, ao y mae'r sefydliad hwn wedi troi allan yn llwyddianus ymhob ystyr, ao wedi bod o fawr les i'r dref yn gyfiredinol. Treuliodd rai.blyn- yddau o'i ieuenctyd yn Llundain fel cysodydd yn swyddfa Bradbury and Evans. Ar ol ei ddych- weliad i'w dref enedigol, ymgymerodd &g argraffu drosto ei hun, a daeth allan o'i swyddfa amryw lyfrau a gyfoethogasant lenyddiaeth Gymreig. Efe ydoedd perchenog yr Haul o 1857 hyd 1885, dan olygyddiaoth Brutus. Yn ei swyddfa ef hefyd y cychwynwyd y Cyfaill EgZwysig yn 1862. Heblaw cyhoeddi ac argrafiu amryw gyfrolau pwysig o bryd bwy-gilydd, yr oedd yn awdwr amryw lyfrau ei hun. Bu trwy ystod ei oes yn ddyn llafurus ac aiddgar. Nid oedd dim yn fwy adgas ganddo na. musgrellni a segurdod. Magodd deulu lliosog, ac y mae gweddw nifer fawr o blant heddyw yn alarus ar ei pi. Claddwyd ei weddillion dydi Gwener, Ebrill 26ain, yn mynwent Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin.

CONFFIRMASIWN.

AGORIAD EGLWYS NEWYDD CROESFAEN.

DOWLAIS.

ABERDAR.

WHITLAND.

LLANBEDROG.;

FFEITHIAU GWERTH EU GWYBOD.

CYSTADLEUAETH II Y LLAN."

[No title]

ST. FFAGAN, ABERDAR.

Family Notices

[No title]

NODJADAU SENEDDOL. .