Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
— M,4 y Frenhines wedi amlygu ei bwriad i dalu ymweliad d Chymru yn ystod mis Awst. Bydd iddi drigo yn Pale, Llandderfel, ger Bala, ac y mae amryw fanau yn Ngogledd Cymru yn gwneyd ymgais i wahodd ei Mawrhydi i dalu ymweliad.
Advertising
at ciii Gobeblupr. SHON DAFYDD.-Rhy brin o diyddordeb oyffredinol ydyw y Chwedlau," &o. Buasai yn dda genym eu cyhoeddi, ond thaid rhoi'r lie blaenaf i'r hyn y perthyn y dyddordeb mwyaf iddo. All--s o'R D--N. -Mwy o ddrwg nag o les wnel- ai ddeilliaw oddiwrth gymhwysiad tebyg i'r eidd- och chwi o'r lancet at y olwyf erchyll y cwynwoh o'i blegid. Deuwch allan in a serious vein i ddi- noothi'r drwg heb gyfeirio at un person byw neu farw, ac yna ni bydd i chwi beri llawenydd i ferched y Philistiaid na gorfoledd i ferched y di- enwaededig. Mae dynion mor groen deneu, fel y gwyddoch, y dyddiau rbai'n COLENsa.-Anmhosibl ateb eich cwe3tiynau yn y golofn hon. Ceisiwch Ramadeg Cymraeg, ao astudiwch y pwnc eich hun. Y mae Cydymaith y Cymro," gan Dyfrig, Aberdyfi, yn eich taro i'r dim, Diolck i chwi am eich llafur a'oh cynorth wy. Bydd yn bleeec genym gydsynio &'ch cais. J\IORFIL.-¥ mae'r ddwy fiud yn rheolaidd ac yn gywir. Gwell genym un 7t yn yr ail air. Ond fel arall y myn llawer ei sillebu. BRYTHON.-Diolch i chwi, ond nid yw eich llith yn hollol gymwys i newyddiadur. Danfonwoh newyddion lleol. EGLWYSWB (St. Paul's, Llanelli).—ER ein bod yn methu yn Ian loew a chael allan y gwrthbronad" yn eich llytbyr, eto yr ydym yn barod i'w gyhceddi os y danfonwch eich enw priodol a'ch cyfeiriad i'r swyddfa. MEWN LLAW.—Owain Dinorwig.
Advertising
4rerms for Abtottisittg. p a 3 Number of Eate per Class of Advertisements. insertions. Inch. e. d. Parliamentary Notices 6D. per Line Legal acd Public Notices j per Insertion Auction Announcements 1 4d per Line ) per Insertion Religious Services and Lectures 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & Eisteddfodau | 6 to ] 1 | g Publishers and Educational >< 12 to 25 I 3 Announcements. I ( Business Addresses „ 26 and up. | Q Busi."Addresses 26 and up. ) 0 1 PREPAID ADVERTISEMENTS. w One Three Six '0iQ3' Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. s. d. 29 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 i CHEQUES and POST OFFICE ORDErs should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. Y Liar*" Offices, Cardiff. n (Eisiau, &r. -r'J" TITAN TED, Priest, bilingual, for a new, populous district at Landore, near Swansea; stipend, £ 120.—Apply to Vicar, Morriston. 400 TITANTED, by an M.A. of Oxford, bilin- gnaI, accepted by the Bishop of St. Asaph, a Title for Tiinity or later.-Appy to A.B., LLAN Office, Cardiff. 402 CURATE WANTED. Welsh chiefly; stipend, £100, or £ 90 with title.—Apply, with references, Rev. M.A., LLAN Office, Cardiff. ii.byhuhbíott Œ12hatbbus. /1\ EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU ABERHONDDU, A TYST 27ain, SSain, 29ain, 30ain, 1889. AIL ARGRAPHIAD RHESTR TESTYNAU, PRIS 4C. DHWY Y POST. RHYS DAVIES, YSGRIFENYSD. Mai 14eg, 1889. 401 ot11lJnbbiabau, &r. iTyESuTaTL^DTAT1 X CANTATA GYSEGREDIG, Pria 6c. yn yr Hen Nodiant; 4e. yn y Tonic Solffa. Dwain o'r Hen Nodiant, 59.; dwsin o'r Tonic Solffa, 3a.; yu rhydd trwy y Post.—Anfoner at Griffith Williams, Curate, Wrexham. 372 7K — oJ p A BELL J) OF TDD: SEF CYFRINION Y GREFYDD DDERWYDDOL, Wedi eu dadgnddio (Pamp ar hugain o Benodau) gan MORIEN, B.B.D., Llwyn Onn, Trefforest, S.W. Rhydd gydwr post am 2s. 2c., oddiwrth yr awdwr. Principal F, d ward a-" Lj'y fr dvddorol iawn." Glan- £ cwd—1"' Pabell Dofydd' yw an o'r llyfraa mwyaf dyddorol ag sydd wedi dyfod allan o'r wasg Gymreig nddiar amaer lolo Morganwg. Fel llawlyfr i'r Oraedd nid oes genym ddim cyffelyb iddo mewn un iaith." Y Parch. W. Patry, Pontypridd-" Y mae Pafceil Doffdd yn hynod o ddyddorol." 391 NOW PUBLISHED, DEMY 8vo., 160 PAGES.-PRICE SIXPENCE. BY POST EIGHTPESCE. THE WELSH SUNDAY CLOSING ACT. LORD ABERDARE'S CHALLENGE TO THE" WESTERN MAIL." Is the Increase in Sunday Drunkenness in Wales real, or apparent only WITH INTRODUCTION BY H. LUSHINGTON STEPHEN, ESQ., LL.B., OF THE INNER TEMPLE, BARRISTER-AT-LAW, AND OF CARRIFF. CARDIFF DANIEL OWEN AND COMPANY (LIMITED). LONDON: W. KENT & CO., PATERNOSTER-ROW. AND OF ALL BOOKSELLERS UgsbiJsta&jm Jltasttatljol. 'J" QUININE BLTTERS (JWILYM EVANS. DARGANFYDDIAD PENAF YR OES BRESENOL mewn MEDDYGIN- IAETH LYSIEUOL YW QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Ar gyfrif ei rinweddan iachaol rhyfeddol cymerad wyir h wn gan brif feddygon gwahanol wledydd fel meddyginiaeth sicr a diogel at holl anhwylderau y Cylla, yr Afn, a'r Gian.-Ceir miloedd o dyetiolaethau o bob parth o'r byd yn tystio i'w effeithiau iach- usol, ae ystyrir ef gan lnoedd yn Feddyginiaeth Anmhrisiadwy, TYSTIOLAETHAU DIWEDDAR. Trallwyn Terrace, Carmel, Upper Llandwrog, Hydref 24ain, 1888.— Anwyl Syr,—Yr wyf yn credn y buaswn wedi marw, oni bae am Quinine Bitters Gwilym Evans. Bum am ddwy flynedd yn methu gorwsdd, gan mor ddrwg yr oedd fy lungs wedi myned, ac uior wan- Uyd ne3 byddwn yn chwyau hyd yn nod ar fy eistedd; cymerais ch we' potelaid o'r Q ainine Bitters; ac erbyn hyn yr wyf yn ddyn iach, ao yn dilyn fy ngorchwylion bob dydd yn y chwarel. Yr eidd- och yn wir, H. WILLIAMS. CRYNIAD Y GALON A PHOEN YN YR OCRR.-4, Tanner Terrace, Porth- madog, Rhag. 16eg, 1888.—Anwyl Syr,—Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich meddj^iniaeth werthfawr. Yr wyf wedi bod yn dioddef gan gryniad y galon, a phoen mawr yn fy ochr, ac yn metha cael dim i wneyd ilea i mi, er treio llawer. Ond eymbellwyd fi gan gyfaill i ro'i prawf ar nn botelaid, 4s. 6c., o Quinine Bitters Gwilym Evans, a heddyw yr wyf yn holliach, ELLEN OWEN. CLEFYD Yn YSGYFAINT.-16, Upper Gongh Street, Birmingham, Rhag. 3ydd, 1888.—Anwyl Syr,—Bum yn dioddef am ddeng mlynedd gan Glefyd a Llid yr Ysgyfaint ("Bron- chitis and Inflammation of the Lungs''), Oerfel yr Arenau, a Phoenau yn y Cefn. Cymhellwyd fi i roddi prawf ar Quinine Bitters Gwilym Evans. Yr wyf wedi cym- eryd dwy o boteli bychain, ac un botel fawr, a gallaf eich sicrhau fy mod eisioes yn teimlo yn ddyn arall hollol, a gallaf ddilyn fy ngorchwyllon lawer yn rhwydd- ach yn awr. Yr eiddoch yn ddiolchgar, J. PBATT. Swyddfa'r Observer, Mumbles, Mawrth 25ain, 1889.—Anwyl Syr,- Mae yn bleser mawr genyf alia tystio i effeithiolrwydd Quinine Bitters Gwilym Evana mewn acbosion o Wendid, Diffyg Yni, ac Iaelder Meddwl. Profodd un botel- aid o les annhraethol i mi. Yr eiddoch yn gywir, HOST. MORRISON Observer. Peidiwch aioddef poenan tra y geilir eich gwella trwy ddefnyddio QUININE BITTERS GWILYM EYANS. Pria, poieii, 2s. 9c oto dwbl faint, 413. 6e. i blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12s. 6c. Gellir cael "Quinine Bitters Gwilyin Evans yzj America oddiwrth y prif oruchwyliwr, R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Penn. I'w gael ymhob man. Gornchwyliwr ymhob parth o'r byd. Oa ceir nmhyw anhawsder i'w gael, danfonii ef am y prisiau uchod yn rhad a diogel clrwy y Past i nmiiyw gyfe-iriad yn y Deyrnas Gyfnnol yn union- gyichoi u(iii%vrLli- y percbenogion :-Quinine Bitters' Manufacturing Company, Limited, Lionel ly Soutlj Waits. CYSTADLEUAETH "Y LLAN." A ganlyn ydyw rhestr yr ymgeisioyr yn y gystadleuaeth itchod Alban. Ap Gwilym Llwyd. Bar-Iona, Caradog. Mab Jephanneh. Llais Jacob, oncV dwylaw Esau. Wittemberg. Ymgeisydd Ieuanc, Ymgeisiwr.
BODFARI.
BODFARI. Dydd Ian diweddaf cynhaliwyd festri yn y plwyf uchod i'r diben o ethol wardeniaid am y flwyddyn bres. enol. Wedi cymeryd y gadair, Canon Browne a lon- gyfarchodd y cyfarfod am ddyfod mor brydlon at eu gilydd i drafod gorchwylion y plwyf; ond, ar yr nn pryd, yr oedd yn flin iawn ganddo eu hysbysa fod ei hen gyfaill, Mr. Samuel Roberts, o'r Pandy, oherwydd ei oedran a'i fynych wendidan, yn gorfod rhoi ei swydd i fyny ond diamen y byddai yn dda ganddynt glywed ei fod wedi trin y cyUid a ddigwyddai iddo trwy gyfrwng y casgliadan Eglwysig mor fedrus, nes bod ganddo dros bedair punt yn ngweddill i'w trosglwyddo i'w olynydd. Yna Canon Browne a nododd y Pencadben Mesham yn warden rheithor. Mr. Samsel Roberts, Pandy, a gynygiodd Mr. Joseph Littler, o'r Pentre Uohaf yn warden dros y plwyf; ac wedi ei gefnogi gan Mr. James Rowland, o'r Warren, cymeradwywyd y cynygiad yn unfrydol. Heblaw y Canon Browne, y gwyddfodolion oedd y Pencadben Meshajo; Mri. Roberta, Hendre; James Rowlands; J. Jones; E. Williams; J. Roberts, Railway Terrace T. Roberta, Pandy; E. Reece, Nantgwilym, &c.
Y 14EG O EAI.
Y 14EG O EAI. NI adawvd un gareg heb ei throi gan y blaid Wrth-Eglwysig yn y Senedd er sicr- hau dadl ar gynygiad Mr. DILLWYN mewn perthynas a Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru. Er fod Mr. DILLWYN yn ddigon hwyrfrydig, eto y mae cyfeillion o'r tu ol iddo sydd a/u gwaed yn berwi am enwogi eu hunain drwy ymuno yn y rhuthr a wneir ar ein Heglwys ar hyn o bryd. Fel canlyniad i'r dirwasgiad a osodwyd ar aelodau yr Wrthblaid, sicrha- wyd Ty i'r boneddwr oedranus o Abertawe i draddodi ei gwyn blynyddol yn erbyn y Sofydliad Eglwysig. Cafwyd dadl ar y pwnc, a rhanwyd' y Ty, a'r canlyniad yd- oedd mwyafrif o dri ar ddeg a deugain yn erbyn Mr. DILLWYN, sef dros y cynvgiad, 231; yn erbyn, 284. Pan y dadleuwyd y pwnc ar y 9fed o Fawrth, 1886, safai y ffigyrau fel y canlyn :—Dros, 229 yn erbyn y cynygiad, 241 neu fwyafrif o ddauddeg. Os cysylltir yr hyn ddigwyddodd i elynion yr Eglwys yn y Senedd nos Fawrth di- weddaf a'r cyfarfod erthylaidd a gynhal- iwyd ar y laf o Fai gan y Liberation Society yn nhy cwrdd Mr. SPURGEON, gwelir yn amlwg fod llinellau y fyddin ddad- gysylltiol wedi syrthic. mewn Ueoedd an- hyfryd dros ben. Nid ydym yn bwriadu ar hyn o bryd i ddilyn yr areithiau a dra- ddodwyd yn y Senedd nos Fawrth, am y rheswm fod pleidwyr y cynygiad yn waeth nag arferol mewn iaith, yni, a dadleuon. MABON ydoedd yr olaf o gynrychiolwyr Cymru i anerch ein Seneddwyr, ac ni ddar- llenasom y fath glafaerion di-enaid erioed. Cawn hamdden yn ol Haw i ddilyn cwrs y ddadl. Digon heddyw fydd dangos cym- eriad y blaid gymysglyd a daflodd eu pleid- leisiau yn erbyn yr Eglwys, gan hawlio ei dadgysylltiad a'i dadwaddoliad. Yn y 231 o bleidwyr dadgysylltiad, gwelir, fel y gall- esid disgwyl, nifer fechan o Ymneillduwyr cydwybodol, pa rai a roddasant gynorthwy i Mr, DILLWYN am eu bod yn credu fod cy- sylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn rhwystr i gynydd crefydd. Y mae y bon- eddigion hyn yn hawlio pob parch am eu C) bod yn eu bywydau cyhoeddus a chym- deithasol wedi profi eu bod yn gydwybodol a gonest yn eu hymddygiad tuag at yr Eg lwys. Ond ychydig yw y rhai'n mewn rhif, ac y mae arwyddion amlwg eu bod yn blino ar gwmpeini eu cyfeillion. Cvn hir fe fydd arnynt gywilydd i sefyll i fyny yk erbyn yr Eglwys ymhlith yr haid ddi-olwg sydd heddyw yn ymgyngreirio er mwyn ei dinystrio. Y dosbarth nesaf yw y tryblith gelyniaethus ydyw yr Ymneillduwyr gwleidyddol. Yn mynwesau y bobl hyn nid oes gronyn o grefydd, ac"nis geilir cyfrif am eu hymddygiad ond drwy eu hystyried fel chwyldrowyr sydd yn awyddus am ddinystrio gwlad ac Eglwys er mwyn i wleidyddiaeth y mob ac anwybod- aeth-cteyrnasu yn ein plith. Danfonir ami un o'r cymeriadau hyn i'r Senedd gan etholaethau Cymreig, ac ni phetruswn eu disgrifio fel cynrychiolwyr pobpeth sydd yn ddirmygedig ac isel yn ein bywyd cenedl- aethol. Dyma yr unig ffordd i egluro iaith isel, anwireddus y dynion diegwyddor hyn. Heb feddianu w un gymhwysder gyrir hwy i'r Senedd, ac yno ni pharchant nac egwyddor na gwirionedd, ond ymddygant fel bodau sydd wedi meddwi arhunanoldeb a hunan-bwysigrwydd. Yn y rh 231 ceir eraill, sef y gwleidyddwyr hyny ag sydd yn barod i bleidio unrhyw beth, dim ond iddynt hwy gael yr anrhydedd o fyned i'r Senedd. Abertha y rhai'n egwyddorion oes, sarnant dan draed y cysylltiadau mwyaf cysegredig er mwyn diogelu eu sedd. Nid tynu darlun ydym o'r hyn a fodola mewn dychymyg yn unig, ond traethu y gwir am lawer un sydd heddyw yn ddadgysylltwr ac yn enllibwr yr Eglwys am fod ei ddychweliad i'r Senedd yn ymddibynu ar ei broftes o gredo Cym* deithas Ehyddhad Crefydd. Adran liosog o'r 281 ydyw y blaid Barnell- aidd. Pabyddion rhonc a chwerw ydyw cynrychiolwyr diweddar yr Iwerddon, ac nid oes un amcan arall ganddynt mewn golwg ond llwyr ddinystrio nertha gogoniant Prydain. Felly ymgysylltant a'u gelynion naturiol-yr Ymneillduwyr Protestanaidd- er clwyfo ac anafu yr Eglwys. Nid am eu bod yn gydwybodol yn erbyn sefydliad Eglwysig fel ein Heglwys y pleidiant Mr. DILLWYN a'r Liberation Society, ond am eu bod am dalu yn ol i'r Radicaliaid Cymreig am eu cynorthwyo hwy i gael Ymreolaeth Gartrefol i'r Iwerddon, ac am eu bod yn ffieiddio pobpeth Protestanaidd. Y dosbarth olaf yn y 231 dan sylw ydyw y Freethinkers a'r Anffyddwyr. Casbeth y bobl hyn ydyw Cristionogaeth, ac am mai yr Eglwys ydyw prif amddiflynfa'r Gwirionedd dwyfol y maent yn fwy na pharod i ymuno ag unrhyw elyn er mwyn drygu ein Heglwys. Dyna fraslun i ti, ddarllenydd, o'r eymeriadau sydd yn cyfansoddi y blaid wrth-Eglwysig. Mae holl alluoedd anonestrwydd, anfoesol- deb, a thywyllwch wedi ymgyfathrachu er ceisio darostwng Seion Duw. 0 Mae genym hyn o gysur, nid yn hir y bydd i'r gyfeillach hon barhau. Y mae yr Eglwys wedi sicr- hau buddugoliaeth ardderchog, ac y mae y gelyn wedi gorfod cilio. Nid cariad dros egwyddorion sydd yn cysylltu y Dadgys- ylltwyr a'u 'gilydd, ond hunan-les, felly nis gallant barhau, yn hir mewn undeb a'u gilydd. Pe na ba'i genym yr un gobaith arall i'n calonogi yn nydd y frwydr, y mae sicrwydd dadgorfforiad buan yr elfenau gwrthwynebol ac anghydmarus sydd yn ffurfio rhengoedd y gelyn yn wystl fod budd- ugoliaethau uwch a gogoneddusach yn ein haros yn y dyfodol agos.
WARDENIAID EGLWYS.
WARDENIAID EGLWYS. ODDEUTU'I: tymor hwn y gosodir wardeniaid Eglwys yn eu swydd. Un o arwyddion gobeithiol yr oes yw fod dynion fuwy cym- mwys, a dynion a mwy o gariad at y gwaith yn caekeu dewis nag oeddynt flynyddau yn ol. Ni ddewisir neb yn awr ond cymunwyr a llawn aelodau o'r Eglwys, oddieithr lie byddo yr Ymneillduwyr yn ceisio gwthio gelyn i'r swydd. Ond yn anaml iawn y gwneir hyn yn awr. Mae gormod o degwch ynddynt hwy yn gyffredin i ddewis yrnyr- aeth a materion yr Eglwys. Gobeithiwn, hefyd, y newidir y gyfraith heb fod yn hir, fel na byddo gallu gan neb ond cymunwyr i bleidleisio yn etholiad wardeniaid. Ond mae defnyddioldeb wardeniaid yn ymddi- bynu, i raddau pell, ar y gwaith a'r gallu a roddir iddynt gan yr offeiriaid. Mae gan- ddynt lawer o allu ac awdurdod yn ol y gyfraith. Ond doeth, yn ein.barn ni, fydd- ai i offeiriaid beidio a sefyll yn hollol ar y gyfraith. Dylid disgwyl iddynt wneuthur pob peth ag y byddo'r gyfraith yn ofyn gan- ddynt, ond da fyddai ymgynghori a hwy mewn pethau eraill ag y gallai yr offeiriad wneuthur fel y myno yn eu cylch heb ofyn i neb. Oes cyd-weithrediad y lleygwyr ydyw yr oes hon a byddai er lies yr Eg- lwys mawrygu swydd y warden, a'i gwneyd mor anrhydeddus ag Q fyddo yn bosibl Annoeth ydyw i offeiriad hawlio ac arferyd yr holl awdurdod ag y mae y gyfraith yn roddi iddo gwna pob offeiriad syn- hwyrol ymgynghori a'r wardeniaid ac aelod- 1 0 t) au yr glWYS mewn rhai pethau ag y mae y gyfraith yn osod yn ei law ef. Bydd yn ddigon i'r offeiriad hawlio ei allu os bydd y wardeniaid a'r bobl yn gwneuthur cam- ddefnydd o hono, e.g., gallai offeiriad dreulio pob casgliad a wneir yn yr Eglwys oddieitr ar amser y Cymun Bendigaid, fel y gwelo yn dda heb ymgynghori a neb. Ond "yr arian a roddwyd ar yr offrym.iadau a ddosperthir i ryw wasanaeth duwiol a chardodol, fel y bo i'r gweinidog a warden- iaid yr Eglwys weled yn gymwys." Gwel y rhuddell ar ddiwedd y Cymun. Ond y mae llawer mwy o arianj yn cael eu rhoddi, yn agos pob Eglwys mewn gwasanaethau > eraill^ ac annoeth iawn, yn ein barn ni, fyddai i weinidog hawlio gwneuthur fel y myno ag unrhyw casgliadau. Tebygol nad oec-ld casgliadau yii cael eu gwneuthur mewn gwasanaethau eraill pan drefnwyd y Llyfr Gweddi yn ei ddull prescnol. Ac yn ddiau mae llawn gymaint o achos i ofyn cyd- syniad y wardeniaid wrth ddosbarthu y