Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD CHWARTEROL DEONIAETH…
CYFARFOD CHWARTEROL DEONIAETH LLEYN. At Olygydd T Llan a'r Dywysogaeih.; Syr,-Er's rhai degau o flynyddöedd yrwyf yn byw yn Lleyn yma, ac ni chanfyddais gymaint a llinell o hanes y oyfarfod uchod. A phaham, hefyd ? Mae yn rhaid fod rbyw reswm am y difaterwoh hwn o beidio gadael i'n gwasg Eglwysig gael clywed rhyw gymaint am dano. Gyda phob dyledus baroh I r Deon Gwladol diweddaf, yr ydym yn gorfed oyf. addef na welsom ddim o'i ysgrifell yntau ynglyri. k chofnodi y cyfarfodydd hyn. Fel y gwyr darllenwyr Y LLAN, y Parch. J. Rowlands, rheithor Llan- bediog, yw y deon gwladol yn bresenol. Yn awr, yr wyf am anturio gofyn (maddeued pawb i mi os wyf yn cyfeiliorni), pa bryd, pa le, ei cynhelir ? Hefyd, pahain. na anfonir rhai crybwylliadau o'r cyfarfod i'r LLAN ? Mae. deoniaetb Eifionydd yn anfon ei chof- nodion i'r wasg, a phaham na wna ysgrifenydd neu, ddeon gwladot yddeoniaethhonyr un modd ? Nid oes genyf na Ilid nachenfigen at neb, ond am geisio argyhoeddi os yn bosibl, deoniaeth Lleyn i ganlyn yr oes bresenol.—Yr eiddoch,.&c., Lleyn. HEN LEYGWB.
I---HYMNAL A THONAU OYMREIG…
HYMNAL A THONAU OYMREIG YR EGLWYS YN NGHYMRU. At Olygydd y Llan a'r Dywysogaeih." Syr,-Y,mas Dr. Walters yn Y LLAN am yr wyth- nos ddiweddaf yn galw sylw at y dymunoldeb o gael llyfr tonau at wasanaeth yr Eglwys, a gallai y godd- efwch i mi ddweyd fod pwyllgor bychan o gerddox- ion a gawsant brofiad ymarferolfel corgeiniaid ao arweinwyr canu wedi bod er's blwyddyn neu yoh- waneg yn dethol a chasglu tua thri chant o'r tonau mwyaf adnabyddus yn Ngbymru a LlOegr i'w har- graffu gyda Hymnau yr ^Eglwyb," o gasgliad Elis Wyn o Wyrfai. Y mae'r ail argraffiad o'r llyfr hwnw, wedi ei ddi- wygio a'i berSeitbio, yn awr yn barod i'r wasg. Cynwysa 422 o emynau, a dygir y llyfr tonau allan mor fuan ag y gellir. Y mae o'n blaen lyfrau tonau pertbynol i bob enwad yn Nghymru, yn gystal a'r llyfrau Eglwysig Cymraeg a Saesneg. Ond y mae ambell i d6n boblogaidd nad yw i'w chael yn yr un o honynt, a byddai yn ddymunol iawn cael gwybod am y cyfryw. Er engraifft, dyma d6n y clywais ei ohanu mewn amryw ardaloedd yn Nghymru a Lloegr, ond ni welais erioed gopi o honi. Fel hyn y dechreua M.C.B.D. A wnaiff rhyw un o ddarllenwyr Y LLAN ddweyd i mi beth yw enw y d6n hon, a phwy yw ei hawdwr? Y mae ein cwmni yn hyddysg a.chann eynulleidfa- plymhob sir bron o'r Gogledd, ond dymunol iawn fyddai cael gair o'r Deheodir.Yr eiddocb, &o., E. G. ROBEETS, M.A. Rheithordy, Llangwm, Corwen. llyfr Hymnau y Wesleyaicl, Seisnig—-llyfr a elwir "Collection of Hymns fo the people called Methodists, by the Rev. John Wêsley" M,A.E.dition with Tusea." Enw y d6n yw Sauley," rhif, yn y llyfr uohod, 360. Yr awdwr, yn ol yr un awdurdod, yw J. Watch, GOL. Y LLAN.] At Olygydd:" Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Goddefwch i mi eich li-ongyfarch am ddodj eioh bys yn eofn ar un o ddiffygion anfaddeuol a oddefir yn ein Heglwys mewn perthynas i'w hemyn- yddiaeth a'i cherddoriaeth eilraddol. I gael un llyfr, i fod yn gydymaith i'r Llyfr Gweddi Gyffredin, rhaid cael pwyllgor oymwys o feirdd a cherddorion wadi ea dethol yn benaf allan. olr pedair Esgobaeth Gymreig, beb wreichionen crychni tueddiad i led- ocbri i gyfeiriad Geneva neu Rhufain. Diamheu y. bydd ofudd i Doctor Walters ac eraill 08 byddwoh. mor garedig ag argrafiu y daflen isod a dderbynieis gan ysgrifenydd ein rnadiad niawreddog trwy holl Gymru—yr hwn, er hyny, a, drengodd yn iuan wedi cychwynygwaith trwy orchymyn yr Esgob Hughes yn ein hysbysu ei fod wedi ymddiried y gwaith o gasgJu Hymnau Cymraeg i'r Parch. Glanfirwd Thomas ac Elia Wyn o Wyrfai. Gan mai gwasanr aethu yr Eglwys a'n cenedl, ao nid hunanoldeb, oedd yn ein got lwg, fe. ddarlu i ni ymostwag yn y fan i awdurdod unveh. I Maddeued Pataon Llawrybett-ws i mi am anfon c< CynseiLiau y Llyfr." i chwi a darllenwyr lliosog Y LLAN.-Yr eiddooh, &o., BAKDD ALAW. [CYNSEILIAU Y LLYFR.] I. The proposed New Welsh Hymn and Tune Book is to be called- Etuyniadur yr, Eglwys yn Ngbymru, ynghyd Thonau," and to contain from 400 to 500 hymns, with a distinctivetnne for each hymn. II. The "Emyniadur" is not to be based on any particular hymn book, although the materials from every available source may be wisely utilised in pro- ducing it. III. To avoid doggerel hymns, nnscriptnral opinions, and to take as a model the Te Denm hymn. IV. To add mor direct hymns for special occasions than are to be found in other books. That there should be a sufficient number of hymns for at least three ser- vices on festivals. V. Au extra index for indirect hymns that may be HBed reciprocally in, lien of special hymns, so as not to be confined to the very sanae hymns year after. year. JAMES JONES, Vicar of Llawrybettws, Corwen. January,1884. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Da -gan fy nghalon weled fod fy hen Ficer dewr-galon yn codi ei lais ar y teetyn uchpd. Y mas y Dr. Walters wedi arwain ei gyd-Eglwyswyr i fuddugoliaeth mor fynych, feL mai nid rhyfedd fyddai iddo ein tywys i undeb a., gwellhad hyd yn nodyn y mater hwn. Heb os, y mae eisiau diwygio ein Hymnau a'n Tonau Cymreig. Dylai y genedl gofio, gyda pharch a diolchgarwch yn wir, waith y diweddar Canon Evans yn y cyfeiriad yma, ond dylai gofio, hafyd, ein bod, fel Egl wyswyr, ymhell ar ein brodyr Ym- neillduol mewn ptrthynas a Hymnau a Thonau. Gellid ysgrifenu cyfrolau ar ddylanwad cerddoriaeth y cysegr. Ymae dylanwad hwnw yn fawr ymhob gwlad, ond, hwyraob, yn fwyaf oil yn ein gwlad fach ni,—hen Gymru dwymn-galon a cherddgar, Odid nad yehydig iawn o honom ni, Eglwyswyr,, sydd heb fod yn eiddigeddu rhyw dipyn bach, yn awr ae yn y man, wrth Iwyddiant Ymneillduaeth yn Nghymru. Yn y dyddiau diweddaf hyn, o leiaf, y mye ynom ninau raixo'r rhinweddau hyny—brwd- frydedd, gweithgarweh, zel-a fuont yn offerynol i lanw a ohacarnhau rhengoedd Ymneillduaeth, Gymreig,; ond hyd heddyw yr ydym wecli ymgadw rhag edmygu eu holl rinweddau. Hyd yn nod yn awr, pan mae, Ymneillduaeth fel pe yn dechreu diffygio, aed yr Ei glwypwr zelog i, un o oedfa-on" y brodyr Ymneillduol, a gwrandawed ar y doif fawr, yn cydganu Yh y dyfroedd," neu Bydd myrdd o ryfeddodau," neu unrhyw emyn arall—ni waeth p'un yn y byd—bydd hyny. yn ddigon i brofi idclo fod genym ni lawer iawn i ddysgu oddiwrth yr Ym. neillduwyr mewn oysylltiad â. cherddoriaeth y cysegr. Nidydym yn yr un doBbarth a hwynt o gwbl-yr ydym. ymhell bellafoedd ar ol. A haws ddigon fyddai esbonio y ffaith. Y mae oanu-canu oorawl yn neilldaol-wedi derbyn sylw ananwl iawn gan. Ymneillduwyr ACymru, Pan glywn ein cenedl yn cael ei ohanmol am. ei chanu godidog, dylem ni Eglwyswy blygu pen mewn cywilydd, oblegid, ar y oyfan, yr Ymneillduwyr sydd wedi,, ein,.l codi i'r bri hwn, ao Ymneillduwyr sydd yn ein cadw yno. Heblaw hyny, fel achos mewn rhan, ond hefyd-, mewn rhan fel achos, y mae gan y gwahanol sectau ymhlith < Ymneillduwyr Cymru eu casgliadau gwychion o Hymnau a Thonau. Ynf y casgliadau hyny, ceir digon o amrywiaeth fel rheol, ceir tonau gafaelgar a chaboledig, ceir yr hymnau mwyaf hwylus yn eu gwisgoedd tlysaf-ac hefyd-yr hyn sydd mor, bwysig-ceir y tonau a'r hymnau wedi eu huno yn gydmarus, ae nid yn anghydmarus. Yn sicr i chwi, Syr, os yr ydym ni fel Eglwyswyr am adenill ein cydwladwyr, y mae yn rhaid i ni dalu mil mwy o sylw yn y dyfodol nag yr ydym wedi gwneyd hyd yma i gerddoriaeth y cysegr. A oes yn ein plith ni rhyw Ambrose Lloyd, rhyw Ieuan Gwyllt, neu rhyw Danymarian ? Os oes, y mae yn warth i ni na byddem wedi eu taer gymell er's talm i ddwyn alliin gasgliad mwy perffaith o lawer nag un sydd yn ein helw yn awi lp os nad oes, y mae yn warth i ni na byddem wedi eu dwyn i fodolaeth er's llawer dydd trwy dalu y sylw dyladwy i gerdd- oriaeth y cysegr. Un gair bach cyn terfynu. Dymunwn grybwyll mai nid y tonau yn unig, mai nid y torisuyn, fwyaf, neillduol, ddyloi dderbyu- sylw divvygwyr y dyfodol, eithr yr hymnau. Edryched a fyno ar y casgliadau sydd genym yn awr, a bydd hyn yn amlwg iddo. Derbynied y Dr. Walters fy Dghydymdeimlad dwysaf yn ei ymdreph presenol, ac os bydd hyny yn rhywbeth iddo, disgwylied fy nghydweithrediad hefyd, a ohydweithrediad lliaws eraill o offeiriaid ao Eglwyswyr ieuainc sydd yn dyheu am weled yf- lawniad boddhaol y gorchwyl clodwiw y mae efe wedi gafaelyd ynddo.—Yr eiddoch, &c., T.M.E.
LLITH 0 LEKFWL.
LLITH 0 LEKFWL. [GAN E, L-; GOHEBYDD AEBENIG.,] i EGLWYS GYMREIG ST. NATHANIEL. Cynlialiwyd cylchwyl flynyddol agoriad, Eglwys Gymreig St. Nathaniel y Sul diweddaf, Mehefin 31ain, pryd ypregetbwyd yn y boreu a'r bwyr gan y Parch. David Williams, B.D., rheithor Llandyrnog a Deon Gwladol Dinbych, gynulleid- faoedd lliosog, yn enwedig yn yr hwyr. Y GWASANAETHROREUOL. Dechreuwyd y gwasanaeth boreuol am 10.30, ac wedi canu emyn darllenwyd yraail lith gan y Parch. D. Williams, a'r Lit ani gan Mr. J. D. Jones, yr hwn sydd yn wr ieuanc hynod addawol yn ymbarotoi i'r weinidogacth. Pregethodd Mr. Williams oddiwrth 1 Pedr ii. 29, Gan addaw rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasan- aethwyr llygredigaeth canys gan bwy bynag y gorchfygwyd neb, i bwnw befyd yr aeth efa yn gaeth. Ganys os, wedi iddynt ddianc oddiwrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Aebubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwydrachefn i'r pethau hyn, a'u gorchfygu aeth diwedd-y rhai hyn yn waeth- na'u dechreuad." Wrth egluro geiriau y testyn dangoeodd fod cysylltiad agos rhwng yr Epistol hwn &'r Efengylau, yn enwedig yr Efengyl yn ol St. Marc. Ysgrifenu oedd yt Apostol at gaethweision a chaeiihforwynion yn Rhufain y rhai oedd yn dioddef oherwydd-eu cred yn y, G wared wr, am fod perygl iddynt i ymgodi mewn gwrthiryfel dan yr amgylchiadau, a tbrwy hyny beri i'r awdurdodac Rhufeinig ddinystrio, i raddau helaeth ddylanwad yr Efengyl. Sylwodd fod amynedd yn y cyfryw amgylchiadau yn rasol ger bron Duw, ac mai dyna yr amddiffyniadgEglwysig goreu a ellid gael., Yr oedd yr Eglwys Brydeinig y dyddiau hyn yngorfod dioddef yr un fath, ond er hyny fod gwir grefydd o fewa ei chynteddau. Yr Eglwys oedd y sefydliad hynaf yn Mbrydain, a cheid o'i mewn dduwinyddion, gwyddonwyr, a phregethwyr penaf y byd. Paley ceid dysgeid- iaeth uwch nag yn yr Eglwys Brydeinig? Pale y ceid gwasanaeth mor ardderchog ag yn ly Llyfr Gweddi Gyffredin ? Pa la y ceid mwy o ymrodd- i wasanaeth yr Arglwydd, a mwy o aberth gwir- ioneddol nag yn yr Eglwys Brydeinig, y dyddiau hyn ? Yr oedd y bywyd, y gweithgarweh ysbrydol a'r duwioldeb diamheuol oedd yn yr Eglwys yn ddigon o reswm dros ei pharhad. Eregeth amserol ac effeithiol oedd hon ar ddyledswydd Cristion- ogion mown amseroedd o ddiod-lefiadau ac eried- igaeth a buasai yn dda genyf ymhelaethu, ond rhaid i mi frysio ymlaen at Y GWASANAETH HWYROL. Darllenwyd y gwasanaeth yn yr hwyr gan Mr. J. D. JoB, a'r aii lith gan y Parch. D. Williams. Pregethodd Mr, Williams oddiwrth Philippiaid ii. 5—8, Canys bydded ynooh y meddwl yma, yr hwn oedd yn Nghrist lesu: yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni tbybiodd yn draisfod yn ogyfuwch & Duw; eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arco ag,wedd gwag, ac a wnaed mewn, cyffelybiaeth dynion. A'i gael mewn dull fol-dyn efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, hyd angau y groes." Sylwodd fod y deffiniad yma o fawredd Person yr Arglwydd Iesu Grist wedi ei ddwyn i mewn gan St. Paul fel argymelliad i ddynion i garu eu gilydd- II. Canys bydded ynoch y meddwl yma," &c. Yr oedd ynengraifftdeg o ddull yr Apostol yn ymresymu—dwyp gerbron y byd esiampl yr Arglwydd lesu. Hwn oedd y dull mwyaf nerthol o ymresymu. Yr ymresymiad cyffredin ydoedd- II OS gwnewcb chwi fel ar fsl, cewch'fyned i'r nefoedd," &c., ond nid. felly yr oedd St. Paul yn ymresymu. Nid oedd un dyn mawr wedi bod yn y byd erioed yn edrych at wobr. Dwyn i oleuni yr hyn oedd Crist wedi ei wneyd oedd yr Apostol, a'i osod fel cynllun i'w efelychu gerbron y byd. 1 Yr oedd y safon yn ucbel ac yn sefylldrwy yr oesau. Yr oedd wedi bod yn thy uchel i'r byd am ganrifoedd, a gallasai tod yn rhy uchel am oesau. i ddyfod. Peth mawr i greadur"ineidrol oedd ol- rhain meddwl Duw yn y, deddfau mawrion a, tbragywyddol oedd yn. rhoddi sefydlogrwydd i'r greadigaeth» Peth mawr oedd olrhain-gweitb, rediadau Dnw, mewn unrhyw beth:—yn y -byd-i llysieuol, yn myd y msynau, ac yn y ger aneirif nwchhen oedd yn tryfrithio llwybrauyr eangdey- au diderfyn. Yr;, oedd gwyddonwyr wedi eodi i Bylw, y byd drwy chwilio gwaith Duw yn y greadigaeth, ae yn eefyll yn y rhes-flaenaf 4) feddylwyr yr oesau. Yr oeddynt wedi cael allan feddwl Daw yn y byd Ilysieuol a Tmatexol, a deall But yr oedd Duw yn gweithio. Yr oeddypt wedi cyraedd safon, uwch nag un creadur aralh Dy- wedid fod pob dyn mawr wedi cyraedd; nod nas galliti, fyned uwchlaw iddi, neu, fel y dywedl-d, wedi rhagori arno ei hun. Yr oedd rlapi arlub- wyr; beiitdd, a gwyddonwyr wedi cyraeddi nod nad oodd yn bosibl iddynt fyned yn uwch, a,'u dy- muniad ydoedd cael eu llyncu i fyny yn y erea- digaethau, arutlirol hyn o eiddo y meddwl dynol. Wedi i'r Apostol Paul egluro y gwirioneddau Inawrion hyn am Berson y Gwaredvyi'dywedai fod arno chwant i ymddatod. Nidoedd (yn bosibl iddo gyrhaeddyd safle uwch. Yr oedd y byd am filoeddo flynyddau wedi bod ynchwilip i mewn i'r cweetiwa pa fodd yr oedd Duw i achub dvn. ac yn disgwyl am ymddangosiad y Massia. Yr oedd cyraedd y safon uchel hon yn> cynyreba balchder.lyebrydol; neu ostyngeiddpwydd. Dy- wedid mai peth balch oedd gwyddoniaeth, ac nid oedd yn fater i ryfeddu cymaint o'i blegid fod dyn wedi cael gqlwg ar weithredoedd Duw yn y grea- digaeth ýD. ymfaIchio. Yr oedd yn cynyrchu balchder neu ostyngeiddrwydd. Nid oedd ganddo ef (y pregethwr) yr un amcan i ddifflnio mawredd Person y Gwaredwr yr oedd yn gadael hyny i'r Apostol Paul. Pe b'ai hyny yn bosibl iddo ni ddeilliai dim lies oddiwrtho. Peth dwyfol fyddai. ac o ganlyaiad tuhwnt i amgyffrediad dynoi.i NM oedd y disgrifiad a roddid gan bregethwyr yn gyffredin o ddarostyngiad yr Afglwydd Iesu =yn cynwys yr un syniad o gwbl fel un wedi; gadael heuliau y bydoedd aneirif a dyfod i lawr drwy y gwagle diderfyn i barthau isaf y ddaear. A mwy na hyny, nid oedd yn wir-ni adawodd yr un brul. Yr oedd St. Paul yn rhy. athronyddol i ddweyd pethau felly. Dibrisio" eihlm oedd y pwnc, ac nid gadael bydoedd. Yr hwjQ, ac eie yn ffurf Duw, ni thybiodd yn draia fod yn ogyfuwch k Duw eithr efe a'i dibrisiodd ei hue." &e. Aeth ymlaen i sylwi ar y gwahaniaeth rhwng "ffurf" a "dull." Yr ymresymwr. mwyaf cywrain a luyn y byd erioedoedd yr Aoatol Paul: yr oedd yn rhoddi e feddwl arbenig i beb gair. Yr oeld ffurf yn dangos natur a hanfod peth yr oedd yn anmhosibl diddymu ffurf heb ddiddymu bodolaeth. Petb digwyddiad- ol oedd cyffelybiaeth. "A'i gael mewn dull fal dyn." Dull oedd yr agwedd y byddai dyn ynddi ar y pryd. Nid oedd ffurf byth yn eyfnewid- "ffariDuw." Yr oedd i bob creadur ei ffurf, yr bwn nad oedd byth yn cyfaewid, ond yr oedd y dull yn newid. Yr eedd pysgod, adarVilochaa, &c., yn meddu ffurf, ond yr oedd eu duiliall yn wahanol. Gellid dweyd wrth ffurf aderyi. Ynai aderyn ydoedd, ond yr oedd yn gwahaniaethu oddiwrth adar eraill yn ei liw, ei lun, a'i faifitioli. Ffurf Duw." Yr oedd y ffurf yn arcs yn dra- gywyddol, ond yr oedd y dull yn amrywio. Ym- ddangosodd Duw i Adda yn yr ardd yn awel y dydd, i Moses yn y berth yn llosgi ac heb ei difa., i Elias yn agen y graig, pan oedd y ddaear yn crynuo'i amgylch, yn y llais distaw, main, i loan yn Ynys Patmos mewn llef fawr fel llais nd- gorn," ac i Esaiah pardaLlwyd yr holl dy ag arogldarth. Yr oedd yno rhywbeth yn daneos fod Duw yn agos yr oedd yn ymddangos mewn gwahanol ddulliau drwy yr holl oesau. Ymddios- godd yr Arglwydd Iesu Grist o'r ffurf, a chyiner- odd agwedd gwas. Yn hyn y gwelid gostyng- eiddrwydd yr Arglwydd Iesu Grist yn ymwadu a'i urJdas cynwynol ac a hawlfraint y Duwdod o'i fodd. "Men cyffelybiaeth dynion," sef y ddyn- oliaeth. Yr oedd fel dyn yn holl amgylchiadar. bywyd, ac yn hyn yr oedd ei ddarostyngiad yn gynwysedig, Gan fod yn ufudd hyd angau, ie; anga-a'r groes." Yr oodd cariad y groes yn an- niegrifiadwy, ac uwchlaw gwybodaeth. Yr oedd yn cyraedd hyd orsedd y nef, yn lletach nac, y gallem ei amgyffred, ae yn anfeidrol ddyfnach nag y gallem ei blymio. Efelychu yr Arglwydd lesu oedd pwne uchelaf ymgais yr hil ddynoL Nid oedd un gair am ostyngeiddrwydd i'w gael cyn rr syniad gael ei greu gan yr Athraw mawr. Taflodd hen syniadau y cread i ddyryswch bytbol-" Cer" weh eich gelynion," &e. Aeth y pregethwr ym- laen i siarad ar ddyrchafiad yr Arglwydd Iesu Grist, a gwnaeth apeliad difrifol wrth ddiweddu at y gynulleidfa, yn enwedig y bobl ieuainc oedd yn bresenol, i ddarllen hanes bywyd y Gwaredwr bendigedig, yr Hwn a adawodd i ni esiampl fel y canlynem ei 61 Ef. Yr oedd yr ystafell yn llawn o wrandawyr astud, y canu yn fywiog a chynulleidfaol, a rhyw; eneiniad dwyfol ar y gwasanaeth drwyddo. Mae'r Parch. D. Williams, Llandyrnog, yn feddyliwr galluog, yn rhesymwr cywrain, ac yn o'r pregeth- wyr goreu, yn ddiddadl, yn yr Eglwys Gymreig: ac yn wir deilwng i eiatedd yn un o'i phrif gadeir- iau. Hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn pregetbu yn Lerpwl, o leiaf yn Eglwys Gymreig St. Nathaniel. Gwnaed casgliadau ar ddiwedd y gwasanaethau, tuag at dreuliau yr Eglwys. Yr oedd y Parch. W. At Ellis vn Llandyrnog yn lianw lie Mr. Wil- liams yn ei absenoldeb. Bendith y nef fyddo ar y praidd bychan," ond cyflym-gynyddol, yn Smithdown Lane, ac ar eu bngail ffyddlon ac ym. roddgar.
Advertising
A CARD.—AN IMPORTANT DISCOVERY is announced in the Paris Figaro," of a valuable remedy for nervous debility, physical exhaustion, and; kindred complaints. The discovery was made by a missionary in Old Mexico it saved him from a miserable existence and an early grave. The Rev. Joseph Hofeaes, Bloomsbury Mansions, Bloombury Square, London, W.C., will send the prescription, free of charge, on s receipt of a self address.ed,stampedenvelope. Mention this paper.
Y WASG EGLWYSIG GYMREIG.
Hyderwo y, daw*'z tanysgrifiadau i law eleni mor fuan ag y byddo modd, ao y byddant gan mwyaf yn ddwbl yr hyn oeddent y Uynedd, fel y gallom eu danfon i'r Parch. Ganon Lewis, o Dy Ddewi, yn ddi- oodi. Hyderwn hefyd y cawn danysgrifiadau newyddion eleni eto. Diolchwn amyr addewidion i'r perwyl yma. Nid ydym yn addaw danfan ad- roddiadau am weithrediadau Eglwysig i'r LLAN ond o'r plwyfi hyny a'i pleidiant, gan nad ydym yn elwa dim oddiwrth hyn ao mai abertbu ein hamser yn unig er mwyn y LLAN ydym. Nis gall neb feio arnom am ymgadw aty rlieol uohod. eleni.-Yr eiddocb, &c., GOHEBYDD HENDY GWYN-AE-DAF. At Olygydd YLlan a'r Dywysogaeih." Syr,—Yr ydys wedi yggrifenu.cry n lawer yn ddi- weddar yn Y LLAN, ar y penawd uchod, ac efallai fod digon wedi ei ysgrifenu arno ar hyn o bryd. Y. mae perygl i yagrifenu gormod yn gystal a rhy fach. Er mwyn oagoi y blaenaf, ni wnaf fi heddyw ysgrif* enu ar Y Wasg Eglwysig Gymreig yn gyffredinol 'fel oyfangorph, ond yr wyf am, drwy eioh oaniataid, alw sylw at un gangen o'r pwnc uchoa. Y mae'r pwnc yn un mor fawr ae amlochrog fel nas gellir gwneyd cyfiawnder ag ef mewn cylch bychan. Y mae y pwne mor fawr fel y mae eioh gohebwyr yn ai. drin, gan osod eu hysgwyddau wrtho, yn methu ei gyffro. Yr ydym ni, gan hyny, yn ei adael fel cyfangorph heddyw, ae yn panderfynu cymeryd mewn llaw un gangen o hono. Bydd hon yn llai i'r Haw na'r Hall i'r ysgwydd. Os llwyddwn i gyffro y gangen y tro hwn, gwnawn gymeryd cangen arall o'r pwno rywbryd eto. Gwell rbanu pwnc mor fawr yn dameidiau man fel y gellir ea trafod. Y mae eich gohebwyr wedi anghofio hyh yn druenus yn ddi- weddar. Un gangen ar y tro, ynte. Pan yn ysgrifenu ar y pwnouchod yn YLLAN am yr wythnos ddiweddaf, dywed eichgohebydd "L.J. Rhyl, fel hyn:—" Efallai y goddefir, i mi, mewn oysylltiad a'r pwno yma, gyfeirio yn fyr at y Parish Magazines fel cyfryngau rhagorol yn ngwasanaeth yr Eglwys a datgan fy llawenydd etf bod mewn nifer ar gynydd dirfawr. Yr wyf yn gydnabyddus a swyddfa lie yr argreffir rhai i chwech o wahanol blwyfydd o fewn cylch o lai nag ugain milldir, tra nad oedd ond un o honynt mewn bodolaeth bum' mlynedd yn ol. Mewn pedwar o'r plwyfyddhyny. mae'r Cyfaill Eglwysig yn cael ei I leoli'; A'm crêd yw y dylai. pob ptwyf yn yi: hwn y ceir haner cant o gymunwyr, 08 na:111ai, faddu ei gylchgrawn plwyfol." Dyna'r gangen yr wyf am alw sylw ati heddyw. Buwyd yn ddiweddar yn ymdrin a'r mater hwn yn Aberaeron-yn un o gyfarfodydd Deoniaeth Wladol Glyn Aeron. Ceiais fy mhenodi ynycyfarfod hwnw i ohebu a pherchenogion y Cyfaill Eglwysig, er mwyn ei leoli," os yn bosibl, yn y gwahanol blwyfi yn y Ddeoniaeth. Yn unol âhyn ysgrifenais at y perchenogion, gan ddywedyd wrthynt ein bod am "leoli" y Cyfaill Eglwysig, gan ei wneyd yn gy. hoeddiad plwyfol neu ddeoniaethol, fel y byddid yn gweled yn oreu. Yr oeddem an gofyn amlen newydd iddo-printio y teitl ar y tudalen gyntRtf-newyddiön lleol ar yr ail a'r trydydd tudalen, a gadaal y tudalen olaf yn wag. Yr oeddem am gael gwybod bath y cant fyddai y pria ychwanegol am hyn. Er mwyn bodyn eglur a chywir rhoddaf yr atebiad yn y fan hon, yn yr iaith Saeene, fel ag y daeth i law :— "37, King Street, Carmarthen, April 24eh, 1889. "Dear Sir,—Yonr favour of the 16th reLoealizing the Cyfaill came daly to han. Onr price for printing wrappers, same sample sent, would be as follows:— Standing Title, 2nd and 3rd p.p. new matter, and 4tb;p. blank-300. 7s. 6d 200, 9s. 6d.; 300, lis. 6d.; 400,13a, 6d.; 500, 15s 6d; 600, 17a. 3d. per 100 extra for stitching if neceasary. We shall not: raebj any charge for the extra postage.—Yours very truly, W. SPURKELL & SON." Ymae yr atebiad hwn, fel y gwelir, yn un afrosymol So anymarferol, gan ei fod yn rhy uchel o ran pris. Y mae atebiad fel hwn yn ddigon cerllyd i rewi teimladau rhai lied dwymn a brwdfrydig. Yn wir, pan y derbyniais yr atebiad, yr oeddwn yn meddwl fod lleoliad y Cyfaill wedi cael brathiad marwol yn nhy ei gyfeillion yn Nghaerfyrddin. Dan yr am- gylchiadau hyn, darllenais gyda bias anghyffredin y paragraph erybwylledigyn llythyr L. J. Rhyl. Y mae localiso Magazines Seisnig, gan eu gwneyd yn gyfryngau plwyfol, yn waith rhwydd a rhad, fel ag yr ydym yn gwybod, ond y mae y gorchwyl, fel ag yr wyf yn deal), yn llawer mwy anhawdd pan yr ymgymerir a lleoli cyhoeddiadau Cymreig. Yn awr, gan fod y peth yn ddichonadwy ac yn cael ei wneyd yn barod yn y Gogledd, yr wyf yn galw ar L. J." i'n cyfarwyddo a'n cynorthwyo yn y mater, fel y gallom weithio allan y cynllun yn y Deheudir yma. Wrth wneyd hyn dymunwn i ohwi gofio nad oes genym un argraffydd cyhoeddas yn y ddeoniaeth. Y mae hyn yn ein gorfodi i fynod at y perchenogion i Gaerfyrddm. fe Dyaaerr. yn cytuno ag argraffwyr mewn rhyw dref arall, byddai hyny yn ein gorfodi i dalu cludiad y sypyn ddwywaith cyn y cyrhaeddai ben ei daith, hyny yw, cludiad y Cyfaill o Gaerfyrddin i'r swyddfanewydd lie y gwneij ef yn gyhoeddiad lleoll, ac oddiyno i ben ei daith. Wel, yn lie ymhelaethu rhagor ar hyn o bryd, gan fod ounce o brofiad yn well na bushel o siarad am- gylchynol, yr wyf yn apelio yn y modd mwyaf carol edig at L. J." ein gosod ar yr iawn ffordd i leoli y Cyfaill Eglwysig yn Neheudir Oymru. Y mae ugeiniau o blwyfi yn y Deheudir yn "lleoli" oy- hoeddiadau Seisnig, ac yr ydym .am wneyd hyn &'r Cyfaill Eglwysig, os gellir gwneyd hyny yn gymedrol râd. Bydd lIawer yn ymhyfrydu clywed am leol- iad y Cyfaill yn y Gogledd, ao yr wyf yn gobeithio y rhydd eioh manylion am y oyfryw anogaeth i ninau yn y Deheudir ymgymeryd a'r peth ar un. waith. Os bydd eich cyfarwyddiadau yn foddhaol, bydd ugeiniau o blwyfi yn debyg o fabwysiadu'r cynllun o hyn i ddechreu'r flwyddyn nesaf. Felly y bo hi, ynte.-Yr eiddoch, &c., Llandysiliogogo. DEWI CYNFAB.