Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
ILLITH O'R BRIFDDINAS.
LLITH O'R BRIFDDINAS. Dywedais yn fy llith diweddaf y buasai genyf air ar ganu yr Eglwys Gymreig. Y mae canu a mawl yn rhai o brif nodweddion y cysegr, ac o ganlyniad y mae'n gofyn sylw arbenig sut y mae i ni eu trefnu a'u diwyllio. 0 berthynas i ganu a mawl yr Eglwys Gymreig yn y Brifddinas, rhaid i ni addef gyda pharch ac ymostyngiad ei fod ymhell yn ol i'r peth y dylasai fod. Gellid yn naturiol feddwl y dylasai yr Eglwys hon o bob Eglwys fod yn meddu ar wasanaeth gwresog, a chan a mawl yn ymylu ar berffeithrwydd mewn ystyr gelfyddydol. Ya ol ei manteision nid oes lie i ni oclielyd y dyb hon, gan y gallasai yn hawdd gaffael pigion Eglwyswyr Caerludd i'w chynorthwyo yn hyn o beth pe buasai yn rhoddi yr anogaeth leiaf iddynt. Ond rhaid i ni beidio neidio at ganlyniadau heb yn gyntaf daflu bras- olwg dros y rbesymau sydd genym dros gredu hyn. Cyfeiriasom yn flaenorol at y ffaith fod yma filoedd o Eglwyswyr Cymreig yn y Brifddinas, y rhai sydd gan mwyaf, yn ddiameu, wedi ymuno a'r Ymneillduwyr Cymreig a Seisnig, a hefyd Eglwysi Seisnig, ae eraill yn ddiddadl wedi syrtbio i dir difaterweh ac angbrediniaetli. Y mae'n haws genym gredu hyn gan mor hynod ddiofal yw'r Eglwys Gymreig nea eu llesiant a'u cysur mewn ystyr ysbrydol yn ogystal a moesol, ac o ganlyniad yr ydym yn tybied fod y cyfryw ag sydd wedi ymuno ag Eglwysi Seisnig a'r Ym. neillduwyr Cymreig a Seisnig wedi gwneyd yr hyn yr oedd temtasiwn gref iddynt ei wneyd, ond yn ddiameu y gwnaetbent yn well pe buasent wedi aros yn yr Eglwys Gymreig, ac ymuno A'u gilydd fel un gwr er rhoddi gwell agwedd ar bethau yn yr Eglwys hon Ond un rheswm paham iddynt ymuno ag achosion dieithr yw, fod peirianwaith yr Eglwys Gymreig yn fyr o at- dyniadau. Y mae dau beth neillduol yn nod- weddu addoliad, sef yw hyny, mawl a chin. [Feallai fod y gair mawl yn cynwys fel rheol y syniad o gan; ond er mwyn cyfleusdra, dodwn ystyr hollol wahanol i'r ddau air yn y fan yma]. Dywedasom o'r blaen fod cyfleusderau mawl yn yr Eglwys uchod yn lied anghyfartal gogyfer ag anghenion ysbrydol yr Eglwyswyr Cymreig yn y Brifddinas. Dywedwn yn awr fod y canu, a'i gymeryd yn ei holl agweddau, yn annheilwng o ganu Eglwys Gymreig. Cofier nad ydym mewn un modd yn hdni ein chwaeth bersonol ein hunain pan yn dweyd hyn. Yr ydym yn ei ddweyd gan fod y mwyafrif o ddigon o'r rhai yr ymgynghor- asom a hwynt yn ei gylch o'r farn hon. Ac yr ydym yn credu yn gydwybodol y funyd hon pe buasid yn gofyn barn pob un o aelodau yr Eglwys ar y pwnc, y cawsid fod y mwyafrif o ddigon o'r un feddwl a nyni., Wel, i fyned rhag ein blaen. Ymha ystyron y mae y canu yn fyt o'r hyn ddylai fod ? (1.) Y mae, fel rheol, ormod o donaa dieithr i'r gynulleidfa yn cael eu canu. Enwn rhai tonau sydd bob amser yn cynhyrfu y brwd- frydigrwydd a'r defosiwn mwyaf yn y Cymro, ond nad ydynt byth yn cael eu canu yn yr Eg- lwys uchod. Dyma hwy—Diniweidrwsdd, Taly- bont, Eifionydd, Cyfamod, Dorcas, Moriah, Oroeshoeliad, Llydaw, Clod, Erfyniad, Mission- ary, Twrgwyn, Joanna, Rhyddid, Hyder, Gor- phwysfa (ac amryw eraill y gallaswn eu henwi), sydd yn y Llyfr Tonau, sef eiddo Dr. Evans. (2.) Y canlyniad o hynlydyw nad oes ond ychydig iawn o'r gynulleidfa yn gallu canu gyda'r cor, a thra yn y cyflwr hwn y mae y canu yn an. nghynulleidfaol, ac nid ydyw yr addoliad yn gyf- lawn. (3.) Feallai yr awgrymir yma pe buasai y gynulleidfa yn gwybed y tonau a genir yno yn bresenol, y gallasent ymarllwys eu teimladau iddynt yr un peth yn gywir a phe buasent yn canu y tonau a enwasom uchod. Mewn atebiad dywedwn na allasent yn y mwyafrif o honyDt, oherwydd natur cyfansoddiad y tonau. Y mae tonau da a thonau gwael yn gwahaniaethu oddi- wrth eu gilydd fel peiriant perffaith a pheiriant anmherffaith. Doder agGr yn y cyntaf, fe weithia gyda'r rhwyddineb a'r hwylusdod mwyaf; doder ager yn y diweddaf, fe weithia rhan o'r peiriant yn erbyn rhan arall, neu ni fydd yn gweithio mewn trefn a chysondeb, ac oherwydd hyny metha ateb y pwrpas. Felly y mai gyda thonau, tra y mae rhai mor naturiol i'r teimlad ag sydd bosibl, y mae eraill mor an-naturiel a hyny. Dywedwn yn mhellach fod cerddoriaeth yr Eglwys Gymreig yn gwneuthur llawer tuag at greu difaterwch yu mynwesau Eglwyswyr Cym. reig y Brifddinas tuag ati. Nid yn unig y mae'r Eglwys wedi dioddef yn uniongyrchol oddiwrth y difaterweh hwn, ond y mae y cor wedi lleihau yn rhif y gwrywod a'r benywod yn neillduol yn ddi- weddar. Ni wyddom ni yn bersonol beth sydd wedi achosi hyn, gan na fuom erioed yn y cor. Modd bynag, dymunem ddweyd y dylasid, ar bob cyfrif, astudio chwaeth y gynulleidfa pan yn dewis tonau i'w canu yn yr Eglwys. Wrth ysgrifenu hyn nid ydym am feio y rhai hyny sydd yn liafurio yn y rhan yma o'r gwaith Eglwysig. Ein hamcan ydyw galw sylw ein cantorion at yr hyn a ystyriwn yn feius yn nghaniadaeth cysegr yr Eglwys Gymreig. Nis gellir disgwyl i gynull- eidfa o Gymry fwynhan, er yn trigo yn Llundain, tonau dieithr pan y mae eu heneidiau yn adna- byddus &'r hen alawon Cymreig ac yn fyw gan adgofion melus am danynt. Dymunwn o waelod ein calon weied diwygiad yn y cyfeiried hwn. Bwriadwn yn ein llith nesaf ddechreu traethu ein barn ar y Conaclaethau Eglwysig Cymreig. Yr ydym yn credu y bydd ein hymchwiliad i gyflwr y rhaI hyn yn achos gorfoiedd i ddarllenwyr ihosog Y LLAN. Er eu bod, eto, yn ngwanwyn eubodolaetb, y mae argoelion fod cynhau toreithiog i'w ddisgwyl.—Excelsior'.
NODIADAU SENEDDOL.
NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] DALOGOA BAY. Ddeohreu yr wythnos ddiweddaf, dywedodd y Prif Weinidog, mewn atebiad i Arglwydd Roseberry, fod y Llywodraeth wedi gorchymyn ar fod i daic o long- 0111 gael ea hanfon allan i Dalogoa Bay, ao er nad Oeddynt o'r maintioli mwyaf, en bod yn ddigon i Syfarfod unrbyw ddigwyddiad a allasai gymeryd lie 11lewn canlyniad i ymddygiad Llywodraeth Portugal. Condemniodd ei arglwyddiaeth yr ymddygiad yn UYIll fel un angbyfiawn a thrahaus, ao fel un a Mlasai brofi yn golledus i ddeiliaid Prydeinig. Yr Oeddis wedi hysbysa y Llywodraeth Bortuguaidd y delid hwynt yn gyfrifol am unrhyw golledion a allatiai ddigwydd mewn canlyniad i'w hymddygiad, buasent yn sior o gael eu dal at y eyfrifoldeb hwnw. Yr oedd y Prif Weinidog yn llefaru fel un ag aWdurdod ganddo, ac nid mewn ymadroddion amwys a ohymysglyd fel Mr. Gladstone. Er i'r darllenydd fldeall sefyllfa pethau yn Mai Dologoa, digon yw dweyd fod cwmni Portuguaidd wedi dyfod i gytun- deb â chwmni Seisnig i godi arian i wneyd rheil- Jfordd, a bod Llywodraeth Portugal yn awr wedi cy- Ueryd meddiant o'r rheilffordd hono, fel y mae pecygi i'r cyfranddalwyr Prydeinig gael eu oollada Yn yr ymgymeriad. Dylai y genedl Brydeinig fod Yll ddiolchgar fod ganddi un yn awr wrth lyw y llywodraeth ag sydd yn medda nid ,yn unig yr ewyllys. ond gallu i amddiffyn bywydau a meddian- 8,0 ei deiliaid ymha le bynag y byddant. Yn Nhy y Cyffredin, mewn atebiad i gwestiynau, dYWedodd Syr James Ferguason fod y cwestiynau cYfreithiol ynglyn Ag ymddygiad y Llywodraeth bortuguaidd dan ystyriaeth. Nid rhyw lawer o bYSbysrwydd oedd eto wedi ein cyraedd, ond gallasai ddweyd fod yr awdurdodau Portuguaidd wedi cy m0ijd meddiant o'r rheilffordd, a bod cryn lawer o ddychryn a phryder wedi meddianu y preswylwyr PtYdeinig. Pa fodd bynag, yr oedd y Llywodraeth wadi mabwysiadu moddion i ddiogelu y deiliaid Prydeinig mewn unrhyw amgylchiad a allasai ddigwydd. Ond yr oedd yr hysbysrwydd diweddaf a dderbyniasid yn rhoddi lie i obeithio nad oedd dim Perygl. Gofynwyd amryw gweBtiynau pellach yngtyn a'r tnlloter gan Syr George Campbellla Dr. Clark, a bllornodd y Llefarydd rai o honynt yn afreolaidd. ili fyddai yn syndod yn y byd olywed yr Ysgar- \'lYr eto yn areithio yn hyf, ao yn ddoniol, ao yn ^esog, ae yn herfeiddiol mewn amddiffyniad i OrtngaL DADL WYDDELIG. Treuliwyd y rhan fwyaf o eisteddiad nos Lun ar Syaygiad Mr. Sexton i ohirio y Ty, m galw sylw; at ymddygiad yr heddgeidwaid yn yr Iwerddon yn cymeryd Mr. William O'Brien i't ddalfa. Dywed. old fod ymddygiad y Llywodraeth a'r heddgeidwaid J* waradwyddus, a gwadodd fod un cysylltiad y oyfarfod gwaharddedig a'x Plan of Cam- paign. BlIornai Cyfreithiwr Cyffredinol yr Iwerddon nad Oedd. y niweidiau oedd y bobl wedi dderbyn drwy yr yiQosodiad a wnaed gan yr heddgeidwaid yn agos 01 ddifrifol ag y dywedid eu bod, a dadleuai nad Oedd y Llywodraeth i'w beio am yr hyn oedd wedi °ymeryd lie. Mawn perthynas i waith yr hedd- geidwaid yn tanio o'r trên, nid oedd hyny wedi ei \VneYd cyn i'r dorf danio a.r yr heddgeidwaid. Wedi i amryw o'r aelodau Gwyddelig dywallt eu Ilid ar y Llywodraeth, Dywedodd Mr. Gladstone nad oedd y oyhuddiadau dlf.tifol wedi eu hateb o gwbl, a bod yn rhaid i'r lywodraeth beidio synu os caent glywed eto am y ^atar hwn. Nid oes neb yn fwy paroa na Mr. ^adatone i amddiffyn y terfysgwyr Gwyddelig am ^Oseddu y gyfraith Wedi i Mr. Balfour siarad mawn amddiffyniad i'r ywodraeth, ymranodd y Ty, a chafwyd— Dros y gobiriad 128 Mwyafrif yn erbyn 212 Mwyafrif yn erbyn 84 NEGESAU BRENHINOL. ttydd Mawrth eyflwynodd Mr. W. H. Smith i'r .,f ddwy genadwri oddiwrth ei Mawrhydi yn gofyn Ir Ty wneyd darpariaeth ar gyfer mab hynaf ^Wyaog Cymru, Tywyaog Albert Victor Christian Ward, a!r Dywysoges Louise ar achlysur ei phriod- 8 ag larll Fife, a rhoddodd rybudd y byddai iddo yg fod y conadwriaethau i gael eu hystyried dydd kercher. llhOddodd Mr, Labouchere rybudd y byddai iddo lyllyg gwelliant os oedd unrbyw gynygiad i gael ei yd i bleidleisio arian i'r dibenion a nodid yn y e§esa,u oedd wedi eu darllen. ^ESUR Y PRIFYSGOLION (YSGOTLAND). J, a8l°dd y mesur uchod "drwy y pwyllgor nos o'r i R chyhoe<i<lwyd ef i'r Ty yn fuan wedi deg ,g y rhybudd a roddodd Mr. W. H. g*t!o Ty fod y Llywodraeth yn benderfynol i ge ° allan eu program, i ba hyd bynag yr estynid y eedd -dyrnor, effaith ddymunol ar y llssteirwyr Nid oes dadl nad yw llawer o honynt wycldus i daflu pob rhwystrau ar fiordd deddf. wriaeth Ysgotaidd er mwyn gwneyd y Llywodraeth yn anmhoblogaidd yn eu cynryohiolaethau. MESUR DREINIAD Y BARROW (IWERDDON). Nos Fawrth cynygiodd Mr. A. J. Balfour fod y mesur uchod i gael ei ddarllen yr ail waith. Cynygiodd Mr. Storey fod iddo gael ei ddarllen yr ail waith ymhen tri mis. Dywedodd Mr. Balfour fod yr aelodan Gwyddelig oedd yn wrthwynebol i'r. mesurau wedi datgan pa un bynag ai da ai drwg a fyddent y gwnaent gynyg; y gwrthwynebiad mwyaf penderfynol iddynt. Wedi, amryw eraill siarad gohiriwyd y ddadl. HYSBYSIADAU ANWEDDUS. Pasiodd y mesur hwn drwy y pwyllgor. CREULONDEB I BLANT. Cymerodd y mesur hwn i fyny ran fawr o eistedd- iad dydd Mercher, a pbasiodd drwy y pwyllgor, yn nghanol bloeddia.du uchel o gymeradwyaeth, am; bum' munyd ar hugain wedi tri o'r glocb. MESUR ADDYSG GANOLRADDOL I GYMRU. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y mesur uobod. Ar adran 2, yr hon eydd yn mynegu amcan yr Act, Cynygiodd Syr W. Hart-Dyke fod sir Fynwy i gael ei gadael allan o ddarpariaethan yr Act. Gwrthwynebwyd y gwelliant gan Mr. T. P. Price ar ran pobl Mynwy, y rhai oeddynt yn Gymry o genedl, iaith, a theimlad, a'r rhai oedd yn dymuno oael eu cynwys yn narbodion y mesur. Dywedodd Mr. Warmington ei fod wedi cael ei siomi yn ddirfawr yn ymddygiad y Llywodraeth ar y mater hwn, oblegid mai dyma y cynyg cyntaf i gau air Fynwy allan o'r darpariadau addysgawl a wneid i Gymru. Yr oedd cyrfl cynrychioliadol y sir bron yn ddieithriad wedi datgan, ea gwrthwynebiad i'r cynygiad. Dywedodd Mr. Radcliffe Cooke y gallent yn y mesur gynwys siroedd eraill ar y gororau yn gystal a sir Fynwy. Yr oedd yn ddigon hyabys fod sir Fynwy yn oynwys awm mawr o waddoliadau, ao yr oedd awydd i feddianu y gwaddoliadau hyn. L. Cwynai Mr. Osborne Morgan fod Syr Hart-Dyke wedi dwyn ei gynygiad ymlaen heb rybudd digonol. Dadleuai fod Sir Fynwy droa gael ei chynwys yn y Mesur. Yr oedd Sir Fynwy mewn gwirionedd yn rhan o Gymru, ac edryohid arni bob amser mewn materion o addysg yn rhan a chyfran o Gymru. Yr oedd Sir Fynwy yn meddu poblogaeth aruthrol, yn nesaf at Sir Forganwg. Nid yn y rhanbarthau mwn- awl yr oedd yr ysgolion gwaddoledig, ond yn y rhanau amaethyddol. Yr oedd angen symud rhai o'r ysgolion hyn i fanau lIe yr oedd y boblogaeth yn fawr, Dywedodd y Milwriad Morgan nad oedd ef yn rhoddi fawr o bwys ar beaderfynisdau y Cynghorau Sirol. Yn 1871 yr oedd gwaddoliadau y air ar draws £ 4,000. Yr oedd yn gwbl sicr fod Sir Fynwy yn cynwys mwy o waddoliadau na'r rhanau eraill o Gymru gyda'u gilydd. Yr unig reawm droa ei dwyn i mewn ydoedd-eu bod wedi ei huno a Chymru yn y Mesur Addysg diweddaf. Gwnai ef bleidleisio dros y gwelliant. Siaradodd Mr. Kenyon yn erbyn cau Sir Fynwy allan o ddarpariaethau y Mesur, ao anogai y Llyw- odtaeth i gymeryd y mater i ystyriaeth ddifrifol, a pheidio dyfod i benderfyniad terfynol arnoj nea y byddent wedi cael allan wir anghenion a dymun- iadau Sir Fynwy a rhanau eraill o Gymru. Dywedodd Syr W. Hart-Dyke ei fod yn awyddus i wybod barn yr aelodau Cymreig ar y mater. Dy- wedodd mai rheswm y Llywodraeth dros gau Sir Fynwy allan ydoedd-ei bod yn meddu digon o waddoliadau i gyfarfod âi hangenion addysgol hob dreth. Ar y tir hwn yr oedd yn naturiol iddynt adael Sir Fynwy allan o'r Mesur, ond ar yr un pryd yr oedd y Llywodraeth yn dra awyddus i beidio gwneyd llongddrylliad o'r Mesur ar y pwynt hwn, a buasai yn dda ganddynt glywed barn yr aelodau Cymreig. Dywedodd Mr. Mundella ei fod yn synu fod y Llywodraeth yn awyddus i gau Sir Fynwy allan, ac awgrymodd mai yr amcan oedd ganddynt mewn golwg ydoedd gwneyd llongddrylliad o'r Mesur. Gwadodd Mr. W. H. Smith y cyhuddiad yn y modd mwyaf penderfynol. Yr oedd y boneddwr gwir anrhydeddus (Mr. Mundella) yn awyddus i or- faelu bwriadau da, ond yr oedd y Llywodraeth yn hawlio cyfran o'r bwrialau da byny, ac yn awyddus i basio Mesur a fyddai yn dderbyniol gan Gymru. Siaradpdd Mr. A. J. Williams, Mr. Thomas Ellis, Mr. Swetenham, Mr. Rendel, Mr. A. Thomas, a Syr H. Vivian hefyd yn erbyn y gwelliant, a gohiriwyd y ddadl. Os yw y Mesur i ddyfod yn gyfraith y senedd- dymor presenol bydd yn rhaid iddynt iidio ar y mater hwn, ac nid yw o fawr pwys. CAU AR Y SUL YN LLOEGR. Dydd Iau, gofynodd Mr. Stevenson i Brif Arg- lwydd y Trysorlys a wnai, ar gyfrif y dyddordeb mawr a amlygid yn y wlad yn ffafr Mesur Cau y Tafarnau ar y Sul, roddi cyfleusderau drwy ganiatau i'r Ty eistedd ar ddyddiau Sadwrn, neu unrhyw ffordd arall, i basio y Mesur drwy y Ty y senedd- dymor presenol. Dywedodd Mr. W. H. Smith ac ystyried yr holl welliantau oedd ar y papyr, mai gobaith gwan oedd i'r Mesur basio y senedd-dymor hwn, ao o ganlyniad yr oedd yn ofni nad oedd yn bosibl cydsynio & cbais y boneddwr gwir anrbydeddus, gan na wnai unrhyw nifer rhesymol o eisteddiadau ar ddyddiau Sadwrn sicrhau ei fynediad drwy y Ty. NEGESAU EI MAWRHYDI A RHODDION BRENHINOL. Cynygiodd Mr. W. H. Smith fod i Bwyllgor: Detholedig gaal ei apwyntio i ystyried negesau Brenhinol ac i wneyd ymchwiliad i arferiad blaen- orol y Ty mewn perthynas i gynysgaeth aelodau o'r Teulu Brenhinol, ac, i gyhoeddi adroddiad i'r Ty at; yr egwyddorion y rhai y byddai yn fuddiol eu mabwysiadu yn y eyfeiriad hwnw yn y dyfodol. Eiliwyd y oynygiad gan Mr. Gladstone. Yr oedd yn edrych gyda boddbad neillduol ar y gwelliant, oedd wedi cymaryd lie yn y cwrs a arferid ddilyn gan Lywodraethau blaenorol, o wneyd cynygiadau am roddion (gragits) yn uniongyrchol i'r Ty heb ym- yriad pwyllgor. Dywedodd Mr. Gladstone yr arferid gynt roddi £ 500,000 i'r Teulu Brenhinol, ar wahan oddiwrth y Penadur, ond nad oedd y swm yn bras- enol ond £ 160,000. Addefodd fod y rhoddion Bren- hinol yn haelionus, ond nid oedd yn eu hystyried yn afradus. Yr oedd Mr. Labouchere yn awyddus i wybod a oedd ymchwiliad i gael ei wneyd i'r holl roddion Brenhinol, a dadleuai fod gan y Ty hawl i wybod a oedd arian yn cael ei roddi heibio o'r Civil List, a'r rheswm fod y Frenhines yn gofyn i'r wlad ddarparu ar gyfer eu hwyrion. Ei syniad ef am deulu ydoedd y dylai y rhieni gadw eu plant. Cynygiodd Mr. Bradlaugh welliant i ychwanegu geiriau at y cynygiad i'r perwyl fod yr ymchwiliad i gymeryd i fewn y Llechres Wladol (Civil List), yr hwn a gefnogwyd gan Mr. Picton a Mr. Storey. Dywedodd Mr W, H. Smith nad oedd y Llyw- odraeth mewn. aafle. i dderbyn y gwelliant. Yr oeddynt yn edryeh ar y Civil List fel Cytundeb &'r Goron pr esgyniad y Penadur, ac nis gallai y Senedd ei newid heb. brofi yn anffyddlon i'w hymrwymiadan. Yr oedd Syr W. Harcourt yn eyduno a'r boneddwr gwir anrhydeddus nad oedd gan y Ty hawl i ymyr. aeth a'r Civil List, ac yr oedd yn gobeithio y tynid y gwelliant yn ol. Wedi peth ymdrafodaeth pellach, yn yr hon y cymerodd Mr. Gladstone a Mr. Laboucheie ran, ym- ¡: ranodd y Ty ar welliant Mr. Bradlaagb. Droa y gwelliant 125 Yn erbyn, 313 Mwyafrif^dros y Llywodraeth. 188 Paaiwyd cynygiad Mr. Smith yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth heb ranu y Ty. MESUR LLYWODRAETH LEOL. Bu y Ty yn eistedd, mewn canlyniad, ar y Mesur uohod gyda'r hwn y gwnaed cryn gynydd. MESUR TRO SGLW YDDIAD TIR. Gorchfygwyd y Llywodraeth, yn Nhy yr Arglwyddi ar y Mesur hwn nos Wener. Cynygiodd Ardalydd Bath adael allan un o adran- au y Mesur, yr hon oedd yn cynWYB darpariaeth fed y tir a'r hwn yr oedd a wnelai y Mesur i aros dan reolaeth yr ysgutoriaid am flwyddyn fel.gydag eiddo personol. Gwrthwynebwyd y gwelliant gan yr Arglwydd Ganghellydd,, Arglwydd Hersehell,tac Arglwydd Selborne, ac ymranodd y Ty- Dros y gwellian 122 Yn erbyn 113 Mwyafrif yn erbyn y Llywodraeth 9 Dywedodd Arglwydd Salisbury, gan fod yr adran yn rhan hanfodol o'r Mesur, nad oedd yn ei hystyr- ied yn angenrheidiol nac yn ddymunol i fyned ymlaen yn mhellaoh, ac felly tynwyd y Mesur yn ol. Yr hyn "a arweiniodd i'1: gorchfygiad ydoedd gwrthwynebiad tir-berchenogion i'r Mesur, ao absen- oldeb llawer o'i gefnogwyr. Gan fod y Mesur wedi pasio yr ail a'r trydydd darlleniad, tro gwaol oedd ei lindagu mewn pwyllgor. Yr oedd yn Fesur da, ao yn debyg o brofi yn fendithiol i'r wlad. Y NEGESAU BRENHINOL. Cynygiodd larll Cadogan fod i anerchiadau gostyngedig gael eu hanfon i'r Frenhines mewn atebiad i'r ddwy genadwri oddiwrth ei Mawrhydi mewn perthynas i gynyagaefch y Tywyeog Albert Victor a'r Dywysoges Louise, yn ei sicrhau y byddai i'w harglwyddiaethau gyduno ar unrhyw fesurau a gynygid i ystyriaeth y Ty. Eiliwyd y cynygiad mewn araith fer a phwrpasol gan larll Granville, a phasiwyd ef yn unfrydol. TY Y CYFFREDIN. Nid oedd dim o ddyddordeb cyffredinol yn Nhy y Cyffredin. Gwnaed peth cynydd gyda Mesur Llyw- odraeth Leol (Ysgotland).
MARWOLAETH RHEITHOR LLA.NY.…
MARWOLAETH RHEITHOR LLA.NY. MAWDDWY. Ysgrifsna gohebydd atom Gofidus iawn genym gofnodi marwolaeth ein hanwyl reithor, y Parch. John Griffith, yr hyn a gymerodd le foreu ddydd Sadwrn diweddaf. Ceir manylion pellach yn eich rhifyn nesaf.