Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Y GYNGRES EGLWYSIG, 1889.
Y GYNGRES EGLWYSIG, 1889. At Olygydd r Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Byddai yn dda genyf fi a llawer eraill gael tipyn o wybodaeth mewn cysylltiad a'r uchod trwy gyfrwng y Wasg Eglwysig Gymreig. Yn gyntaf, hofiwn wybod a oes dim gwell gair Cymraeg am Congress" na'r gair Cyngres ? Mae y gair Cyngres yn swnio, gallwn feddwl, yn rhy wan a rhy Seisnig- aidd. Efallai y bydd i'r Parchedig Canon Silvan Evans, neu ryw Gymreigiwr arall, fod mor garedig &g ymdrin a'r mater yma. Yn ail, mae arnom ni, y Cymry, awydd am wybodaeth mewn cysylltiad i'r Gyngres eleni yn Oaerdydd. Pwy o'r urddasolion fydd yno, a beth fydd y pynciau fydd yn cael eu trin? Mynych y gofynir, "A fydd Archesgob y Dalaeth yno, ac Archesgob Gaerefrog ?" Mae genym berffaith hyder fod y darpariadau ar gyfer y Gyngres yn y dwylaw priodol. Mae Arglwydd Esgob Llandaf, ar yr hwn y mae y gofal penaf, yn deall ein hajg- h-enion yn dda. Mae yn Esgob y werin. Nid wyf YQ meddwl fod esgob wedi bod yn fwy poblogaidd Hag Esgob presenol Llandaf oddiar yr amser yr an- **fonwyd°y saith esgob i Dwr Llundain am beidio tori W gyfraith er boddhau y brenin. Mae gan offeiriaid baroh iddo, a chan Eglwyswyr barch iddo. Maehyd yn nod y Cymmrodorion wedi pasio pleidlais o ddiolohgarwch iddo am ei ymddygiad fel esgob. FoUy, gan fod y f«tb. be r son a jofa.1 darparu ar gyfer y Gyngres arno, nid oes aohos i ni bryderu-fe fydd i bobpeth. angenrheidiol gael eu darparu ar ein cyfer. Ond yr hyn sydd arnom ni eisiau yn bresenol fel Oymry ydyw cael ein hysbysu o dro i dro pa fodd ma,elr darpariadau yn myned ymlaen, er mwyn oreu dyddordab a chael gan Eglwyswyr yn neillduol i gymeryd y peth i fyny. Gwlad y pregethu ydyw Oymrp, ac f0'fydd mwy o ddynion yn myned i Gaar- i wrando y pregethau na gwrando dim arall. son mawr am Esgob Peterborough fel pregeth- Wr. A gawn ni y Cymry y fraint o'i glywed ? Hefyd niae yn galondid meddwl fod digon o dalent yn ^fghymru i foddloni y Cymro uniaith. Ao nid wyf A yn meddwl y bydd y darpariadau yn gyflawn heb oregeth yn Gymraeg gan Canon Howells a'r Arch- Qdiaoon o Gastellnedd.—Yr eiddoch, &o., EGLWYSWR. [Cyhoeddwyd rhestr o destynau y Gyngres yn Y LLAN rai misoedd yn ol.—GOL.J
COFEB YR ESGOB MORGAN.
COFEB YR ESGOB MORGAN. At Olygydd T Llan a'r Dyioysogaeth." Syr,—Oa digwydd i hyn o linellau gyfarfod & Hygaid rhyw bersonau sydd yn meddu copi neu gopiau, perffaith neu anmherffaitb, o Descarneat Salesbury (1567), Beibl yr Esgob Morgan (1538), a Beibl yr Esgob Parry (1620), teimlaf yn dra diolch- gar am air oddiwrthynt-Yr eiddooh, &c., WILLIAM HUGHES, Ficer Llanuwchllyn, Bala, Cyd-ysgrifenydd^Mygedol Pwyllgor y Gofeb.
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR.
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR. At Olygydd y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—A gaf fi ofyn am gongl feohan o'r LLAN Besaf i ofyn am eglurhad ar bwnc perthynol i'r Bwrdd Addysg uchod ? Yr wyf wedi cymeryd rhyw Jchydig o lafur arnaf fy hun, a llawer iawn o bleser, mewn ceisio dysgu y plant yn y llawlyfr, 0 Bethle hem i'r Olewydd," ao y mae rhai o honynt wedi enill tystysgrifau yn y dosbarth cyntaf, eraill yn yr ail a'r trydydd. Gan fod yr arholiad yma wedi creu oryn ddyddordeb ymysg yr ieuaino, yr ydym wedi ail afael yn y llawlyfr gyda dosbarth mwy o lawer. Ond dyma y peth wyf yn ei ofyn. Beth sydd i mi i'w ddysgu i'r plant hyny a enillasant dystysgrifau yn y dosbarth cyntaf neu'r ail ? Os bydd raid iddynt hwy fynod drwy yr unllafur drachsfn, bydd hyny yn fceth digon diflaa iddynt. A oes yna ddim rhyw law- lyfr arall ellir ei gael gyda'r rhai hyn, a gadael y liawlyfr presenol, Bethlehem i'r Olewydd," at was- anaeth y sawl na chawsant eu harholi o gwbJ, neu a enillasant ond tystysgrif yn y dosbarth isaf ? Os bydd i'r ysgrifenydd parchedig, neu i rywun arall sydd yn alluog i hyny, egluro yr uchod i mi, teimlaf yn dra diolchgar iddynt.—Yr eiddoch, &o., ABFONYDD.
" PAROCHIAL MAGAZINES."
PAROCHIAL MAGAZINES." At Olygydd Y Llan a'r Dyivysogaeth," Syr,—Mewn cyfeiriad at lythyr "Dewi Cynfab," at yr hwn yr wyf wedi ysgrifenu yn gyfrinachol, rhaid i mi ddweyd nas gallaf ddisgwyl i'r perchenogion a'r golygydd oddef i mi gyhoeddi yn Y LLAN drefniadau Baasnachol y ewyddfa argraHu y cyfeiriwn ati. Ond bydd vn <Jda genyf ro'i pob cyfarwyddyd a allaf yn gyfriifacholr, i unrhyw un a ddewisa ymboli a mi ynghylch cynllunian ar ba rai y gellir lleoli cylch- gconau Eglwysig Cymraeg a Saesneg.—Yr eidd- oob, &c., LEWIS JONES. Rbyl.
YR EGLWYS GYMREIG YN PATAGONIA.
YR EGLWYS GYMREIG YN PATAGONIA. At Olygydd Y Llan a'r Dyioysogaeth.' Syr,—Y mae ryw frith get genyf fod arian wedi eu hpinfon drosodd i Patagonia ychydig flynyddau yn ol tuag at godi Eglwys i'r Cymry yno. Os felly, onid teilwng fyddai i ni gael gwybod beth sydd wedi d'od o honynt ? Yr ceddwn yn siarad ag un Cymro yr V/ythnos ddiweddaf ag oedd newydd ddyfod drosodd oddiyno, ao yr oedd ef yn dweyd fod bricks wedi eu Uosgi yn barod, a choed wedi en cario at eu gilydd, er's cryn amser yn ol er mwyn codi Eglwys, a'r rhai hyny yn tIowr yn hollti ac yn warpio gan y gwres. Felly, os oes defnyddiau wedi eu parotoi at Eglwys, a hyny ar draul Cymry yn Nghymru, teg fyddai iddynt gael gwybod paham nad yw yr adeilad yn tnyned ymlaen. Feallai y bydd ysgrifenydd y Gen- faadaeth Gymreig yn Patagonia gyatal a rhoddi gait o oleuni ar y mater yma ar un o dudalenau Y LLAN. Yr eiddoch, &c., IWAN.
ATHRAW CYMREIG LLANBEDR.
ATHRAW CYMREIG LLANBEDR. At Olygydd 61 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Yr wyf yn gweled yn ngholofnau Y LLAN a Pbapyrauerail1 fod y gadair Gymreig i gael ei llanw yn fuan yn y Coleg uchod. Ar yr adeg bresenol y ttiae llawer o ysgrifenu yngbylch y Wasg Eglwysig Gymreig. Mae dadleu am ei Ilwyddiant a'i haf. lWYddiant, ao os goddefwch i mi ddweyd, Mr. Gol. ygydd, yr wyf yn credu fod llwyddiant y Wasg Gym. elg yn ymddibynu i raddau helaeth ar yr apwynt. iad i'r gadair uchod. Dyma gyfleustra yn awr ddyrchafu Cymro, ac i ddyrchafu un ao, sydd wed bod yn gefnogydd i'r Wasg Gymreig. Yn yr amsei y* oedd y Dean Owen ya llanw y gadair Gymreig yr Llanbedr yr oeddem ni fel Cymry yn gwybod llawer am y Coleg. Yr oeddem yn gwybod beth oedd sefyllfa y myfyrwyr-pa fodd yr oeddynt yn pasio yr arholiadau, &c. Hefyd yr oedd y Proffeswr Gymreig yn anfon erthyglau galluog i'r LLAN. (Felly, yr ydym ni fel Cymry yn diolch yn wresog i'r Esgob Edwards am ddyrchafu un o honom ni. Yr ydym yn gobeithio y bydd gan y Deon fwy o seibiant yn Llanelwy nag oedd ganddo yn Llanymddyfri fel y gallo eto ymddangos yn fwy mynych ar dudalenau Y LLAN). Caxilynwyd Deon Owen yn Llanbedr gan Proffeswr Ev-ans yn y gadair Gymreig. Drwg genyf ddweyd mai ychydig iawn o gefnogaeth a roddodd i'r Wasg Gymreig. Yn fynych yr oedd yr arholiadau yn pasio heb anfon rhestr o'r myfyrwyr a'u sefyllfa i'r LLAN. Yr oeddem yn cael ein cadw mewn cymaint o anwybodaeth am Llanbedr ag am Trefecca a'r Bala. Cawsom ein anrhegu a'r rhestr ddiweddaf a fu dan arhcliad fel math o ffarwel. Felly mae dyrchafiad presenol y Proffeswr Evans i gael ei deilyngu i rywbeth heblaw ei ddefnyddioldeb i ni fel Cymry. Yn awr, gyda golwg ar yr apwyntiad nesaf. Ein gobaith ydyw y caiff cefnogydd i'r iaith Gymraeg ei ethol, un hefyd a wna gefnogi y Wasg Gymreig. Mae gwahaniaeth mawr rhwng addaw cefnogi y WaFg Gymreig yn y dyfodol a wedi bod yn gefnogydd ffyddlon am flynyddau. Dyrchafer, yntau, un ag sydd wedi dal pwys a gwres y dydd. Mae yn rhaid cyfaddef fod y nifar i ethol o honynt yn brin iawn. Bydd digon o ymgeiswyr, ond nifyad ond ychydig iawn yn deilwng, gan na wna ein dynion goreu ymgeisio am y swydd, maent mewn gwell lleoedd a lleoedd mwy pwysig yn barod. Hefyd maa yn rhaid fod yr ymgeisydd yn ysgolhaig da. Mor bell ag ydwyf fi yn gallu barnu,_ Mr. Golygydd, nid oes ond un M.A. yn anfon gohebiaeth wythnosol i'r LLAN, sef y Parch. D. W. Thomas, St. Ann's, Bangor. Os wyf yn gwyro, gwnewch faddeu i mi. Mae M.A. arall yn anfon ambell lythyr i ni hefyd, a diolch iddo am hyny, sef y Parch. Lewis Hughes, Rhymni. (Ond trodd i'r Saesneg yn ei lythyr di. weddaf). Wrth derfynu, gofynaf am i'r Cymry draethu eu barn ar hyn. Mae gyda ni yn awr o leiaf ddau Gymro yn barod i wrando ar ein llais.— Yr eiddoch, &c., SYLWEDYDD. [Gadawn i lythyr Sylwedydd ymddangos oblegid pwysigrwydd y mater sydd ganddo mewn llaw. Nid yw ei gyfeiriadau at Proff, Evans fel cefnog- ydd y Wasg Eglwysig Gymreig yn hollol gywir, a gallwn ychwanegu mai nid un na dau M.A. sydd yn fiyddlon yn eu cyfraniadau i'r LLAN.-GOL.]
EGLWYS GYMREIG MANCEINION.
EGLWYS GYMREIG MANCEINION. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Wele fi, yn ol fy addewid yr wythnos ddi- weddaf, yn oymeryd gafael yn fy ysgrifell unwaith eto i alw sylw Eglwyswyr Cymreig y byd at y pwys- igrwydd o sierhau Eglwys gysurus a manteision crefyddol rheolaidd i'r rhai hyny o'n pobl ag sydd yn dyfod i'r ddinas fawr hon o Gymru. Er ein bod yn cael ysgoldy at ein gwasanaeth ar y Suliau, nid ydyw yn oyfarfod &'n holl anghenion, nao yn gyf- addas mewn modd yn y byd. Ein hangen mawr presenol yw Eglwys. Ofer fydd ein hymdrechion, i raddau helaeth, ar wahan i hyny. Ni fydd llawer o lewyrch ar un Eglwys, os cyfyngir y gwasanaethau i foreu a hwyr y Sul, heb Yagol Sul na. math yn y byd o gyfarfodydd ganol yr wytbnos fel y gwneir yn bresenol.. Maa ein cyfeillion Cymreig yma yn barod i wnayd bron uwchlaw eu gallu tuag at yr amean dan sylw, ond nis gallant gyfarfod &'r holl draul eu hunain, maent dan orfod i ymostwng i ofyn am ychydig gymorth gan eraiil. Mae Manceinion yn faes poblogaidd, pwysig, ac addawol iawn. Dywedais yn un o fy llythyrau blaenorol mai 10,000 oedd nifer y Cymry yn y ddinas a'r amgylchoedd ond mae genyf resymau erbyn hyn dros gredu fod yma o leiaf 15,000. Ond nid oes ond oddeutu pum' mil a phum' cant yn proffesu mynychu lleoedd o addoliad felly dyma naw mil a phum' cant nad ydynt unwaith mewn blwyddyn yn gweled gwerth mewn mynychu Ty Dduw Ac eto, nid oedd un Cenhadwr Eglwysig Cymreig hyd fis Ionawr diweddaf, yn llafurio ymysg y miloedd hyn yr ydym eto heb un Eglwys deilwng o'r enw i'w cymell i dd'od i mewn. Wrth sefyll yn fyfyrgar uwohben ffeithiau fel hyn, a meddwl am ddideimladrwydd a difrawdet rhai o urddasolion ein Heglwys, mae ein gwaed yn berwi yn ein gwythienan. Anfonwyd llythyr rai misoedd yn ol at un o urddasolion Esgobaeth Bangor, i alw sylw at y ffaith alaius uchod, ond nid oedd ganddo ddigon o gydymdeimlad ag anghenion ysbrydol ei frodyr yn ol y cnawd, i gydnabod derbyniad y llythyr. Ond nid felly awdurdodau Llanelwy mae y rhai blaenaf o honynt wedi amlygu cydymdeimlad dwfn "r symudiad, ao mae genym resymau digonol dros gredu y bydd rhywbeth sylweddol yn cael ei wneyd cyn bo hit amser er anfon cenhadon Cymreig i Loegr. Ond i ddychwelyd at Manceinion, heb gael Eglwys gymwys nis gall ymdrechion y Cenhad- wr fod ond cydmarol aflwyddianuB. Fel y mae pethau, nid oes ganddo fantais i weithio i'r pwrpas goreu. 0 gywilydd ein bod dan y fath anfan- teision yn y presenol! Gwelir oddiwrth y ffigyrau uchod nad yw y ddar- pariaeth ar gyfer anghenion ysbrydol y Cymry yma ond prin iawn wrth yr hyn ddylai fod. Mae yr hudoliaethau i ddrygioni a'r darpariaethau er porthi nwydau a thrachwantau iselaf ein natur yn lliosog a nerthol. Gweinidogaeth yr Efengyl, ac eglwysi priodol a chyfieus i'w chyboeddi ydynt yr unig ddarpariaeth a allant fod yn effeithiol i wrth- weithio y drygau hyny. Hebddynt bydd y naw mil a phum cant o'n brodyr sydd yn Manceinion, nad ydynt yn mynychu lie o addoliad, yn ddeiliaid yr arferion aflanaf, ac yn gaethion i nwydau mwya.f israddol y mae natur syrthiedig dyn yn ddarostyng- edig iddynt. Mae cael Eglwys mewn man cyfleus o'r ddinas yn gam pwysig tuag at droi rhan o'r anial- woh yma yn Ardd yr Arglwydd," a nifer fawr o'r 9,500 yn blanhigion hyfryd." Gan hyny onid oes galwad arnom i ymdrechu i adeiladu Eglwys yma. Yr ydym yn teimlo fod genym hawl i apelio at holl Eglwyswyr Cymru ar ran yr Eglwys Gymreig r yn ein dinas. Braidd nas gallwn ddweyd fod yma Gymry o bob plwyf yn y Dywysogaeth. Bu degau r o honynt unwaith yn aelodau yn yr Eglwys, ond wedi dyfod yma yn myned ar wasgar fel praidd heb ganddynt gorlan. Ddarllenydd anwyl, dichon fod perthynas, oyfaill, neu hen gymydog i ti ymhlith y 9,500 sydd ar grwydr yn Manceinion, cofia am dano i trwy anfon ycbydig gymorth i adeiiadu Eglwys iddo. i Onid oes deg o ddarllenwyr Y LLAN trwy GYILIU oil, cy mae eu.oydymdeiralad i%'r Eglwys Gymreig yma II yn werth £ 5 y« un ? A oes ugain y pwysa eu hewyllys da tuag at eu brodyr yn Manceinion R2 10s. yr un ? A oes ugain a anfona i ni bunt yr un ? A oes cant a anfona i ni 2s. 6c. yr un yn ystod y tri mis nesaf ? Pa nifer o offeiriaid sydd a wna gasgl- iad yn yr Yagol Sul er ein cynorthwyo ? Beth ddywed athrawou a swyddogion yr Ysgol Sul am hyn ? Derbynir pob fhodd gyda diolcbgarwch, a gwnawn y defnydd goreu o bob ceiniog a dderbynir. A oes deg o foneddigesau a gymerant lyfr i gasglu tuag at yr Eglwys Gymreig yn y ddinas ar lan yr Irwel ? Oni chawn gofnodi yn Y LLAN wythnos ar ol wythnos roddion tuag at sicrhau i'r Cymry yma Eglwys deilwng o'z enw-.teilwiag o'r Hen Fam yn Nghymru. Mae arnom eisiau £ 5,000. Na feddylied y darllenydd mai balchder sydd yn ein oymell i wario y fath swm ar Eglwys—pris y tir ar ba un yr adeilejir sydd yn chwyddo y swm sydd arnom ei eisiauilrfathili-wr. Mae rhai o'n cyfeillion Seisnig wedi addaw rhoddion tuag ati, ond gofynant yn bar- haus, Beth mae eich cyfeillion yn Nghymru yn ei wneyd ? Gadewch i ni gael dweyd withynt fod ein oyfeillion yn Nghymru yn gwneyd, acam wneyd llawer. Gyda chofion serchog atoch oil.—Yr eiddoch, &c Y CENHABWB CYMBEIG. Manceinion, Gorphenaf 13J.g. [Yr ydym eisoes wedi agor ein colofnau i'r "Cenhad- L wr Cymreig draethu ei len. Gyda'r parodrwydd mwyaf y caniatawn ei gais pellach i gofnodi yn wythnosol y symiau a dderbynir tuag at yr amcan teilwng sydd ganddo mewn llaw.—GOL.].
HYMNAU A THONAU CYMREIG YR…
HYMNAU A THONAU CYMREIG YR EGLWYS YN NGHYMRU. At Olygydd Y Llan a'r Dyioysogaeth." Syr,-Yr ydwyf wedi darJlen gyda'r pleser mwyaf y llythyrau sydd wedi ymddangos yn Y LLAN ar yr angenrheidrwydd o gael Llyfr Hymnau a Thonau newydd at wasanaeth yr Eglwys yn Nghymru. Y chydig fisoedd yn ol, darllenais bapyr o flaen Proffeswyr a myfyrwyr Coleg Dewi Sant, ar i Gerddoriaeth yn yr Addoliad a pban gyfeiriais < at yr angenrheidrwydd hwn, dangosodd pawb eu bod i yn unfrydol dros gael llyfr mwy addas na'r rhai sydd < genym yn bresenol. Yr wyf hefyd wedi bod yn < siarad ag amryw gerddorion mewn gwahanol leoedd i ar y pwnc, ac y mae pawb yn unfryd unfam nad yw y llyfcau sydd gan yr Eglwys yn deilwng o honi, nae o wlad y gan." Y mae yn ddrwg genyf weled cerddor o safle Eos Llechyd yn sefyll i fyny dros gasgliadau Dr. Evans a'r Hen a'r Newydd," ac ei fod yn coleddu y fath syniadau isel am lyfrau Ieuan Gwyllt a Thany- marian. Er fod genyf bob parch i E03 Llechyd fel un ag sydd wedi cyflawni gwaith pwysig ynglyn & chercidoriaeth yn Nghymru, eto nis gallaf gydwel'd ag ef parthed teilyngdod y casgliadau hyn. Y mae yn wir fod llyfrau Ieuan Gwyllt a Thanymarian yn bell o fod yn berfiaith, eto y mae yn rhaid i mi gyf- addef fy mod yn eu hystyried yn gewri o'u cydmaru d'r "Hen a. Newydd." Am lyfr Dr. Evans, y mae I wedi bod 0 wasanaeth gwerthfawr i gerddoriaeth y oysegr yn yr amser sydd wedi myned heibio ond yn sicr nid ydyw yn ddigon helaeth i ateb gofynion yr Eglwys yn y dyddiau hyn. Y mae gwybodaeth gerddorol wedi cynyddu yn gyflym yn Nghymru er pan gyhoeddwyd ef y mae ein chwaeth wedi ei ddyrohafu, a'n barn wedi ai ddiwyllio, ac y mae j angen am lyfr mwy cynwysfawr a mwy perffaith yn ngwyneb y goleuni ychwanegol sydd wedi ymdaenu. Efallai, wedi'r owbl, mH y peth goreu ellid wneyd J fyddai diwygio ac helaethu casgliad Dr. Evans (neu dylaswn ddweyd, casgliad Eos Llechyd). Beth bynag am hyny, y mae y casgliad hwn yn llawer rbagorach na'r casgliad arall a arferir mor gyfiredinol yn yr Eglwysi Cymreig, sef yr Hen a Newydd," yr hwn ] y mae llawer mor ffol a thybied mai yr "Ancient I and Modern ydyw mewn fiurf Gymreig. Yr wyf J yn gyfarwydd & thros ugain 0 gasgliadau Cymreig a Seisnig; ond yr wyf yn cxedu mai yr 11 Hen a Newydd "ydyw y gwaelaf 0 honynt oil, oddigerth dau neu dri efallai. Y mae yn amddifad 0 rai o'r tonau Cymreig goreu a mwyaf nodweddiadol, megis "Moriah, II J abez,a pha gasgliad a fwriedir 1 r addoliad Cymreig all obeithio bod yn dderbyniol os yn amddifad o'r elfen hon ?-tra ar y Haw arall y, mae yn cynwys tonau nad ydynt yn werth y papyr ar ba un yr ysgrifenwyd hwynt. Y mae cynghan- eddiad y tonau yn waeth fyth. Gall unrhyw un sydd yn gwybod rhywbeth am egwyddorion cyng. hanedd weled nadyw ambell don ond cruglwyth o wallau. Gwyr pob plentyn sydd wedi bod yn ym- drybaeddu rhyw ychydig yn yr "Harmony Primer," gan Syr J. Stainer-hob son am lyfrau helaethach Macfarren, Ouseloy, a Stainer,—mai un o egwydd- orion cyntaf oynghanedd ydyw, fod wythfedau a phumedau dUynol yn waharddedig ond yn y llyfr hwn maa y tonau yn frith o honynt. Fel ychydig esiamplau (sydd yn cael eu dethol ar fys), gweler y tonau canlynol: Joanna (rhif 379), tri o bum- edau dilynol rhwng y bas a'r tenor ^g^—^—pjyn y Ilinell ddiweddaf; Alexander" (575), rhwng y bass 'a'r treble rhwng yr ail a'r trydydd farau; hefyd yr un bai yn Llais Hyfryd" (43), "Bangor Isaf (46), Old 124th." (25), "Llan-ia'wr » (149), &o. Gwelir esiamplau o wythfedau dilynol yn Salm 51" (rhif 98), rhwng y tenor a'r alto, sef B a C vn y ddaa lais—bai y gellid yn rhwydd ei osgoi. Y mae hefyd esiamplau 0 feiau eraill, megis wythfedau a phumedau cuddiedig, oordiau anghywir, oordiau anghydseiniol heb eu parotoi a'u hadferu, cordiau heb eu trydydd, gau berthynasau, &c. Y mae yma donau hefyd wedi eu cynghaneddu yn an- ystwyth a dichwaeth-gweler, fel esiampl, y naid annaturiol yn y bass 0 f, i m (FJ i E), yn Rivaulx, rhif 15: nid felly y mae oyngbaneddiad tlws yr awdwr, Dr. Dykes-tonau eraill yn amddifad o beroriaetb, ac heb un meddylddrych cerddorol- mewn gair, tonau hollol ddi-athrylitb, ac yn frith o wallau sydd yn atgas nid yn unig i'r cerddor, ond i. bawb sydd yn meddu musio in his soul." Yr wyf wedi siarad yn hallt ar yr Hen a'r Newydd," ond y mae pob un sydd a lies yr Eglwys ganddo mewn golwg yn teimlo ei bod yn bryd i'r llyfr hwn gilio o'r fiordd. Nid ydwyf yn gwybod pwy sydd yn flurfio y pwyll- gor sydd ar waith yn awr yn parotoi llyfr newydd, ae fell ni fyddai yn deg i fychanu eu hymdrechion ond, a barnu oddiwrth y d&n y mae un o'r pwyllgor yn holi yn ei chylch, y mae yn rhaid i mi ddweyd gyda I I T wrog," nad oes genyf "hyder y bydd y casgliad nesaf yn foddhaol," gan fy mod yn cyd- weled &g Eos Llechyd i'w anghymeradwyo hi. Nid oes genyf ond gobeithio fod yn eu mysg gerdd- orion galluog a phrofiadol, fel Dr. Rogers ac Eos Llechyd, cyfansoddwyr ac nid cantorion; os nad oes, ni wnaiff cyhoeddiad eu llyfr ond dyrysu pethau yn fwy-fwy. Buasai yn ddoeth hefyd cael eyfarwyd I. iad rhyw un o'n prif gerddorion Cymreig-U yn an- nibynol ar eu crefydd a'u syniadau," fel yr awgryma Twrog "-megis Dr. Joseph Parry, neu Mr, Jt). Jenkins, Mus. Bac., Cantab. Cyhoeddodd y di- weddaf lyfr tonau oddeutu pum' mlynedd yn ol, am yr hwn y mae prifgerddorionLloegr wedi siarad yn y modd mwyaf ffafrioL O'r amryw gasgliadau sydd wedi ymddangos yn Nghymru, nid wyf yn gwybed y dengys un o honynt-oddigexth, efallai, gasgliad Ambrose Lloyd-y fath gyfuniad o'r pur, y coetb, a'r naturiol, ag a geir yn y casgliad hwn a buaswn yn hoffi gweled y pwyllgor yn ei gymeryd fel model o lyfr tonau Cymreig. Y mae yn wir fod Mr. Jeekins wedi gadael allan, ohezwydd amgylchiadauneilldao), amryw donau Cymreig-ond dylasai pob casgliad i'r Cymry roddi mwy o arbenigrwydd nag a wneiv i hen donau bendigedig ein cenedl ein hunain. Y mae tueddiad mewn amryw olygwyr cerddorol i esgeuiuso yr elfen Gymreig, ac i roddi lie i ryw scthach esttonol diathrylith, dichwaeth, a diaylwedd, y rhai, fe ddichon, a ogloisiant y teimladau ar y pryd, ond a gollant eu bywyd (I'U bias, po fwyaf a genis arnynt. Y mae yn hen bryd i'r sored llygredig hyn gael eu carthu allan, i roddi ile i fawredd, urddaa, a syml- rwydd ein hen alawon nerfcbol, ac i'r hen Garolaa byth-newyddion hyny—bydded hwy Gyxnreig, Seis- nig, neu Elimynig—sydd wedi dal eu tir am oesoedd yn y gwasanaeth crefyddol. Ni fydd un casgliad Cymreig bellach yn gyflawn hefyd heb rai o gynyreh- ion goreu ein cyfansoddwyr Oymreig-heh donau Ambrose Lloyd (ein prif emyn-don gyfiiiseddwi), Ieuan Gwyllt, Tanymarian, Dr. Parry, a Mr. Da.vid Jenkins. Ao yn awr, wrth orphen fy sylwadau brysiog-y thai wyf yn gynyg yn ostyngedig ao yn wylhitid-nid oes genyf ond gobeithio y bydd i'r "pwyllgor bychan" yma sydd ar waith ein anrhegu k chasgliad o donas yn deilwng o'r Eglwys, ac a, chasgliad a gymer ei afle-o ran amrywiaeth ei fesurau, pardeb ei felod- ion, clasuroliaeth ei gynghanedd, ynghyd & ehywk- 3eb a chwaeth ei holl ranau—ochr yn ochr a chasg]- iadau goieu y Saeson. Os gwnant hyn, teilyngant Sdiolchgarwch cynes pob gwir Eglwyswr a phob erddor; os na wnant, yna syrthied eu casgliad i abargofiant tragywyddcl.—Yr eiddocb, &c., Aberayron, Gorph. 15fed. L. J. RoBEBm At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar am y der- byniad caredig a ffafiiol sydd wedi ei amlygu tuag at yr awgrymiad a anturiais ei wnenthur ar y pwnc uchod ar y 24ain o'r mi3 diwe^af. Y ntias y llythyrau a gyhoeddwyd wedi hyn^pi Y LLAN oil yn profi y ddau osodiad a wna.etJ:lUm (1.) Bod Hymnau a Thonau yr Eglwys yn Nghymru ymhell 0 fod yn beiffaith foddhaol ar byn o bryd. (2.) Bod angen am gydweithrediad oyfirodinol i. ddwyn allan lyfr gwell a mwy pwrpasol na'r rhai sydd genym yn bresenol, Ymddengys Afcdyn rhai o'ch gohebwyr duedd i lusgo manyliort eraill i mown, pa rai a bertbynant yn fwy i ystyriaeth y pwyllgorau, er 01 eu penodiaol, nag i'r presenol. Y peth cyntaf, yn ol fy marn i, yw pan derfynu Srnghylch penodi pwyllgorau ymhob esgobaeth, a gadael i'r pwyllgorau hyny i drefnu y fiordd oreu i weithredu tuag at gyraedd yr amcan clodwiw mewn golwg. Byddai penoefa-d pwyllgor gan y Gynbadleid Eglwysig ymhob esgobaeth yn rhoddi raath o Skwdurdod swyddol i'r pwyllgor, hollol wahanol i'r hyn a feddai dynion eraiil o hunan-benodiad. Os 1m gael llyfr o ddofnyddioldeb cyffredinol txwy yr all o Gymru, dylai dynion o bob rhan o Gymru gael [law yn ei gyfansoddiad; a byddai yn cf\ a-.i i iberthu teimladau porsonol a. chyfyngder lleol u: mwyn daioni a lies cyffredinol. Pan yr awgrymais y byddai yn angenrheidiol i hob aelod o'r pwyllgor i fod yn aclod hefyd o'r gyn- feidledd Esgobol cyn y gellid ei benodi, bernaia nad ydoedd yn arferiad i benodi eraiil na pherthyneet iddi yn aelod o unrhyw bwyllgor fynhadleddol. Fel engraifit: Nid yw Senedd Prydain Fawr yn penodi neb i fod yn aelod 0 bwyllgor ond y sawl sydd yn aelodau Seneddol. Yr un cynliun sydd gan y Confocaaiwn, ac felly hefyd mewn Gynhadledfla Eglwysig; a chan fy mod i wedi cael fy awdurdcdi i gynyg, yn nghynhadledd nesaf Ty Ddewi, am bwyllgor i gymeryd y pwnc hwn dan sylw, yr oedd yn naturiol i mi i gyfyngu y pwyllgor i aelodau y gynhadledd. Pan fyddo y Senedd yn penodi eraiil, heblaw aelodau y, Ty, i wneuthur yinchwiliad i un- rhyw beth, gwneir hwynt yn ddirprwywyr, ac nid yn gyf-eisteddwyr, neu bwyllgor. Nid oes yr un amheuaeth yn fy meddwl i na fyddai pob pwyllgor yn ddiolchgar am bob help a chydweithrediad a allai eraiil eu rhoddi iddynt; ao yn ol fy marn i, dylai pob aelod o'r gwahanol bwyllgorau roddi oymhelliad taer a gwahoddiad caredig i eraill i gydweithredu a hwynt. Nid wyf am gaethiwo y-pwyllgor yn y mesur lleiaf yn mlaen llaw. Baraaf mai y fiordd oreu ydyw gadael iddynt hwy i ghel dwylaw rhyddion, a phob chwareu teg i ddewis yr Hymnau a'r Tonau u fynont, ao i weithredu yn y dull a'r modd y baraoufc hwy yn oreu. Y pwyllgor ddylai benderfynu yn nghylch oydseiliau y gweithredu a'r drefn oreu e ddwyn y gwaith ymlaen. Mae fy ben gyfaill, y Parch. Ellis Roberta, Ufen- gwm, wedi enwi amryw o ddynion cymwys, yn ol ei farn ef, yn y pedair esgobaeth, at y gwaith. Ond yr ydwyf fi yn barnu o honJf fy hun y byddai yn well enwi rhyw ddeg 0 ddynion, mwy neu lai, ymhob esgobaeth, er mwyn eu penodi ar y pwyllgor Esgobol, a byddaf yn dra diolchgar am iechreso enwau addas a ohymwys i'w gosod ar bwyllgor ly Ddewi." Gobeithiaf y gwneir yr un peth yn yr esgobaethau eraill. Ar ddull tebyg i hwn y dywedir y cyfansoddwyd y Llyfr "Hymns Ancient alld Modern," yn Saesneg. Ffurfiwyd pwyllgor o ddeugain, pa raia. gyfenwyd wedi hyny yn JP&rhj Thieves, a hyny ohetwydd iddynt ddwy-n & chasglu, y goreuon allan o bob Llyfr Hymnau a Thoitau eraill a'u coiphoii ynghyd yn y llyfr hwnNY.-ir eiddoch, &c., THOMAS WALTERS. Ficerdy, Llanaamlet, Gorpbenaf 15fed.
AI CARREG? YNTE CAREG?
AI CARREG? YNTE CAREG? At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Mae Galarwr yn gofyn yn ei-eb rbify diweddaf o'r LLAN pa un ai un ai dwy r a ddylai fod yn y gair careg," a beth hefyd yw ystyr y gair? 0 oes ooel i fod ar orgraph y Dr. Owen Pugbe, un r sydd i fod yn y gair a'i darddiad, medd efe, sydd o'r gair car, raft, rack, sledge, waggon, ac oddiar hyB. y daw y gair "catciaw," to carry. Nis gwn a oes gwell goleuni i'w gael ac orgraph a tharddiad y gait. -Yt eiddoob,,A-e.,