Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
YSTRADYFODWG, MORGAN WG.
YSTRADYFODWG, MORGAN WG. CYFARFOD YSGOLION.—Snl y Drindod diweddaf, ym- gynullodd Ysgolion Sul (Seisnig) Eglwysi y Pentre a Dewi Sant i'r olaf, er adrodd darnau o'r Ysgrythyr Lan a'r Llyfr Gweddi Gyffredm, a chann emynau cysegr- edig. Yr oedd yr adeilad eang yn llawn, a holwyd hwynt gan ein parchns ficer, y Parch. W. Lewis (Deon Gwladol). lJWYL DE.-Dydd Ian diweddaf, anrhegwyd aelodan Yr nn Eglwysi a gwledd o de, a phob math o bethau bwytadwy ar achlyBuron cyffelyb, yn Ysgoldy y Pentre. Gory mdeithi wyd trwy brif ystrydoedd y lie, ablaenorid y ddwy ysgol gan seindorf bres y Pentre ae er fod llawer yn absenol, eto yr oedd dros chwe' chant yn yr orymdaith. Gweinyddwyd yn dra chanmoladwy wrth y byrddau gan Mrs. Lewis, y Ficerdy Mrs. Osborne; Mrs. Dyer Miss Heycock; Mrs. Lewis, Treherbert; Misses Jones; Mrs. Rudge, a Mrs. Anderson, a ehynorthwywyd hwynt gan yr holl athrawon a'r athraw- esau. Yr oedd yr hin yn ddymunol iawn, a phawb yn gweithio mewn yabryd cariad Cristionogol. Yn hwyr y dydd, aetbpwyd i faes cyfagos, er difyrwch dmiwed, a lie hefyd y rhanwyd sypiau 0 fftwythaa rhwng y plant. Yna dychweJodd pawb adief, wedi mwynhan un o'r dyddiau mwyaf hapus a. gawsom erioed. YR EGLWYS NEWYDD.—X mae yr eglwys newydd hefyd yn dyfod yn y blaen yn rhagorol. Rhodd o werth 920,000 gan y diweddar Mr. G. Llewelyn, Baglan Hall, i'r plwyfolion yw yr eglwya hon ac adeHedir hefyd ysgoldy eang a chyfleas wrth yr hen Eglwys Gymreig. Fe wel y darlienydd fod gwaith mawr yn cael ei gyflawni yn yr ardal hon, ac y mae hyny i'w briodoli, i raddaa helaeth iawn, i'r parchns beriglor, yr hwn sydd a'i holl egni yn ei hyrwyddo yn y blaen. JJaw yn rhwydd iddo.
FERNDALE.
FERNDALE. GWYL YR YSGOLION SUL.-YR oedd dydd Linn, Gor- phenaf y laf, yn ddydd i'w gofio gan blant y lie hwn. Daeth tyrfa fawr o ysgolheigion a phleidwyr yr Ysgol Sal i Eglwys Crist. Ymgasglodd y Saeson i St. Paul. Am 12 o'r gloch ffnrfiwyd gorymdaith, ac awd trwy brif heolydd y lie, yn cael ein blaenori gan faner arddercbog o waith Mrs. Rees, Ficerdy, a Miss Lewis, Chepstow Villa. Canai y cor yr emyn gorymdeithiol, Mr. David Williams, Contractor, yn arwain. Ar ol dychwelyd cafwyd gwledd odea bara brith, pryd y cyfranogodd taa 600 o Eglwyswyr-hen ac ienanc-o wledd gawpas oedd wedi ei pharotgjfar en cyfer. Y mae parch mawr yn ddytadus i'r personau canlynol :-Mri. D. Thomas, W. Davies, D. Rees, D. Jones, a J. James, am en llafnr yn ystod y dydd. Cafodd y plant ddifyru eu hunain gydag amrywiol fathaa o chwarenon, y rhai a reolid yn fwyaf neillduol gan Mri. W. Davie9 ac S. Thomas. Thomas. Cynorthwyid gyda'r t6 gan y rhai canlynol: Mrs. Morgan Thomas, Miss Mary James, Miss Letitia Thomas, Miss Jane Thomas, Mrs. Lloyd, Mrs. Lodwick, Mrs. David Phillips, Mrs. Rankin, ac eraill. Methodd Mr. a Mrs. Edwards, Greenhill, a bod. yn bresenol oherwydd afiecbyd.-Gohebydd.
LLANDOVERY.
LLANDOVERY. Dydd Gwener diweddaf ymgynnllodd tna deg-ar- hugain o offeiriaid o ddeoniaethau Llangadog a Lian- dilo, i Landovery i wrandaw anerchiadan a draddod- wyd gan y Parchn. A. J. Mason, Canon Trnro, a Ficer All Hallows, Barking. Am naw o'r gloch y boreu darllenwyd gwasanaeth y Cymun gan Axchddiacon James, ac anerchwyd yr offeiriaid gan Canon Mason. Cymerodd Weddi yr Arglwydd fel testyn i siarad arno trwy y dydd. Yn y cyfarfod hwn eiaradodd ar y ddwy frawddeg gyntaf. Ceisiodd wasgn ar feddyliau yr offeiriaid bwysfawredd y geiriau "Sancteiddier dy enw." Dywedodd fod Ilawer offeiriad yn darllen y weddi hon heb yr un ystyriaeth o'r hyn ydoedd yn ddymnno ynddi. Am 11, ar y Foreaol Weddi, cafwyd anercbiad arall gan y Canon. Cymerodd y tro hwn y brawddegau, Deled dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, megis y mae yn y nefoedd." Yn yetod ei < anerchiad condemniodd waith llawer offeiriad yn ym- 1 orchesta er cyraedd rhyw fywoliaeth fras, ac ar ol iddo ei chael nid ydyw yn malio dim am eneidiaa y rhai a ymddiriedwyd iddo. Dywedodd fod llawer 0 offeiriaid i'w cael yn Nghymra, na welir byth mo honynt wrth ddrws neb o'n plwyfolion, oddigerth y Lords a'r yswein- iaid. Dywedai fod y cyfryw offeiriaid wedi aDghofio y IlCv a dyngaaant wrth eu hordeinio i ymweled a'r tlawd a'r claf, yn ogystal a. mawrion y bobl. Gwir mai rhy fach 0 sylw mae pobl dlodion yn dderbyn oddiar law yr offeiriaid. Y maent yn gwybod y ffordd yn eithaf da i fyned i leoedd er mwyn dangos eu hanain, ond y ma.e arnynt gywilydd i ymweled a. thai y tlawd a'r anghen- og. Am 2, siaradodd ar y frawddeg, "Dyroini heddyw ein bara beunyddioi." Yma y condemniodd yr offeir- iaid hyny na ieddent well enw na glwth a meddw. Dy- wedodd fod y cyfryw yn gareg rhwystr ar ffordd llwydd iant yr Eglwys, a bod eisiau eu hysgnbo ymaith o'r Eglwys. Fedr y cyfryw rai ddim rhoddi gair o gyngor i neb, onide yr byn a ga fydd yr ben ddywediad hwnw, Gwnewch fel yr ydwyf yn dweyd, ac nid fel yr ydwyf! yn gwneyd." Ie, gormod o hyny sydd yn ein Heglwys ni. Am 4.30 dywedodd ychydig ar y brawddegau olaf o'r weddi. Buasai yn fendith fawr i holl offeiriaid Cymrn gymeryd at eu hystyriaeth y brawddegau byny ag y maent mor gynefin a hwynt, sef Madden i ni em dyledion, fel y maddeuwn ni i'n dyledwyr." Gormod o falais a chenfigen sydd yn mynwesau llawer o offeiriaid. s Cafwyd cyfarfodydd da yn Llandovery. Gobeithio y r ca y geiriau dwysion a difrifol a draddodwyd yno le yn mynwesau yr offeiriaid, ac y byddant yn dyfod ailan o ddifrif wedi en hadfyvvio, i weithio yn egniol yn ngwin- r llan eu Harglwy dd.- Dyfed.
LLAHYMAWDDWY.
LLAHYMAWDDWY. YR YSGOL DDYDOTOL.—Y mae yr ysgol yn ngofal ein hen gyfaill Mr. E. T. Williams er mis Ionawr diwedd- af, a da genym alia ei longyfarch ar 01 y fath arholiad llwyddianuB. Nid oedd y passes y llynedd ond 68 Y cant, ond eleni, trwy lafnr ac yni Mr. Williams, cododd i 86. Dyma gopi o'r adroddiad am y flwyddyn bon:- This little school has made a considerable improve- ment since last year, and has passed well in elementary subjects and in English. The recitation was unusually good, and the answexing in grammar showed careful teaching. The infants' class had received a fair amount of instruction in elementary subjects. The needlework was fair." Diaruhea y rhydd hyn, ynghyd a chynyd" cyfatebol y grants, foddlonrwydd mawr i'r plwyfolion*
DINBYCH.
DINBYCH. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH M11S. GOLD ED' WARDS, GWYNFRYN, DINBYCH.-Y mae genym yr wyth' nos hon y gorchwyl gofidus a galarns o gofnodi marw- olaeth y .foneddiges uchod. Ehedodd ei rhan anfarwol i fyd yr ysbrydoedd nos Sadwrn, y 6fed cyfisol, ar °{ maith a dioddefns gystudd, a phriddwyd ei rhanl'arvfol yn mynwent yr Eglwyswen y dydd Ian canlynol. Y-V oedd yr angladd yn un agored i bawb, a gallwn ddweyd fod canoedd, os nad miloedd, wedi defnyddio y fanta»8 hon i dalu parch i weddillion marwol y foneddigeS anwyl a charedig hon. Yr oedd Mrs. Gold Edwards yn ferch i'r diweddar Dr. Lloyd Williams, o'r dref hoDj ac yn chwaer i Col. Lloyd Williams, Mrs. Chambers. Dee Fords, Caerlleon, a Mrs. Dorrtford, Llandaf. oeddyr ymadawedig yn hynod am ei ebymwynaB.OtIr' wch a'i haelioni, fel cyfaill i'r claf a'r anghenns, dy, wedwn na fedd Dinbych ei chyffelyb. Yr oedd et helusenan a'i gweithredoedd o drngaredd wedi gwneyd ei henw yn air tenluaidd ar aelwydydd y tlawd &' £ anghenns. Yr oedd ei chalon a'i llaw yn agored i bavfb yn ddiwahan, nid i sect neu blaid neillduol. Yr oedd Mrs. Gold Edwards yn wir foneddiges, yn i3ghyflawO ystyr y gair. Mewn bywyd teuluaidd yr oedd y11 esiampl'; yr oedd yn Eglwyswraig ddefosiynol a gwir' ioneddol, ac uwchlaw y cwbl yr oedd yn Gristion eefydlog, a chariadlawn. Daw a ddiddano ei hanwy* briod, a Miss Gold Edwards, yn en dwfn alar ar ol Y fath deilwng an. EGLWYS ST. DEWI.—Y Sal o'r blaen, darllenwyd1 gwasanaeth prydnawnol yn yr Eglwys uchodgouy Parch. A. H. Tumour, B-A., carad Stockport, a mab_i* enwog Dr. Turnonr, o'r dref hon. Dyma y W&i'~| gyntaf iddo gymeryd unrhw ran yn y gwasanaeth dwyfol yma er pan ordeiniwyd ef. YR HEDDLU.—Yr oedd aelodau perthynol i ranbartb Dinbych o heddlu y sir hon wedi ytagynall yma ddyda, Mawrth i dderbyn ea dillad am y flwyddyn. Y FFAXR.—Ychydig o anifeihaid corniog a ddyg^J? i'r ffair ddydd Ma.wrth. Yr oedd yma gweddol dda o geffylaa. Prisiaa yn sefydlog. Dy^ Mercber, cynhaliwyd y ffair wlan fel ei gelwir, 91 gallwn ddweyd fod myn'd da ar y gwlan; gwertbft1 ? gwlan Cymreig am 8Jc. i 9c. y pwys gwlan arali am 0 9 £ c. i 104c. LLYS NADOL SxfioL.—Dydd Mercher, gerbron W. D. W. Griffith, a Col. Haghes, gwysiwyd Jobti Roberts, Hafcdty Dda, Llanrhaiadr, gan Robert Joueol I ar ran ei chwaer, Anne Jones, Ffynon Oerfa, o'r on plwyf, am ymosod ar, a chnro y dywededig. Ymddengy9 fod yr ysgarmes hon wedi cyfodi oddiar genfigen yI1 nghylch darn o dir. Modd bynag, ystyriai yr ynadon fod yr acbos wedi ei brofi, a dirwvasant John RobertS i £1 a XI 5s. 5c. o gostau. "Cenfigen a ladd ei prer' cbenog,"—Cyhaddwyd Edward Roberts. Llanrhaiadr, gan vr heddgeidwad Tanner, o fod yn feddw yn roheIl' tref Llandyrnog, ar Sul y 23ain cyfisol. Cafwyd ef y gorweda ar y £ Eordd, yn feddw, tra yr oedd y bobl f* myned i'r Eglwys a'r addoldai eraill. Dirwvwvd 5s. a'r costau. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd bod dair milldir oddicartref, ie, ddeg, yn gwneyd y dyn y deithiwr 0 dan y ddeddf, os nad ellid profi ei fod wedj teithio y pelldei' hwnw gyda rhyw amcan heblaw cad diod.
LLANFABON.
LLANFABON. Dydd Llan, y 15fed cyfisol, sef dydd yr ben Swithin, trwy garedigrwydd a haelioni y Parch. V- Leigh, rheithor, Mrs. a Miss Leigh, anrhegwyd Ysgolion Sul St. John's, Nelson, a St. Cynon, a'u g^?. de flynyddol. Yr oedd y ffurfafen oddi achod yn edry"^ braidd yn glwyfns yn y borea, a'r haul fel pe yri g°e,f am dano ei alarwisg o barch i'r hen St. Swithin. 01 cyrnylau yn dadgos eu hedmygedd o hono trwy dyvvflllt aiml i ddeigryn ar ei fedd. Ac y mae yn ddiamhea ° yr olygfa vmaar bethau wedi bod yn achlysur i llawer ymaith rhag rhoddi ea presenoldeb. Pa bynag, yn y prydnawn, darfu i'r wybren ddihartra oddi am dani ei dillad duon, a chafwyd diwedydd catoP" ns, chwedl gwyr Morganwg yma. Cyfranogodd 250 o blant ac eraill o'r te a'r danteithion ag oedd cael en parotoi, a thystiolaeth pawb yn ddieithriaJ'| oedd eu bod wedi cael ea mawr foddloni, a'u bod cael gwledd ardderchog. Ar ol diwallu y dyn oddime^ ymneillduwyd i chwareu i gae gerllaw anedd-dy Beitt1' Iwyd, lie y bnom yn cyfranogi o'r te, yr hwn gae y Mr. Miles mor garedig a'i roddi at ein gwasana.ed Cafwyd amser bywiog anghyffredin yn y cae. Yr y plant, wedi bwrw oddiwrthynt bob diangenrha1^ bwysau, yn fy adgofio o'r gw^r ieuainc hyny g^n^' rhai a ymgystadlent yn y chwareafeydd Olympaidd, a yn wir, a dweyd y lleiaf, yr oedd y gwobrau a rodde1^ ni i w^r ieuainc Llanfabon yn llawn cymaint 0 wef^ a'r goron olwydden werdd a zoddid i fechgyn tir Cyn ymwahann o'r cae, trwy gynygiad Mr. warden St. Cynon, pasiwyd pleidilas o (idiolcbgarvVOO i'r rheithor a'i dealu am ea haelioni, ac i Mr. Berthlwyd, a'i denla yntaa am y darpariadan ag oeW' ent wedi ei wneyd ar ein cyfer. Derbyniwyd y cy«yjt iadaa hyn gyda banllefau o gymeradwyaeth. W1' derfynn dymnnwn wneyd defnydd o'r fantais hon i diolch i r athrawon a'rathrawesau, ac i bawb eraill a. yn cynorthwyo i wneyd y dydd yn ddydd 0 fwynhad 1 plant.
PENYCAE, YSTRADGYNLAIS.tI
PENYCAE, YSTRADGYNLAIS. tI Ar y 13eg cyfisol, darfa i Mrs. Gwyn, roddi gwledd ragorol 0 da a bara brith i YsgoH011^ oorau, a chymunwyr Abercrave, Callwen, a Pefyttf £ k a phlant Ysgol Genedlaethol Penycae, yn Th,c0t$ 303, Wedi gorpheu diwallu angenrheidiau'1
TALYSARN, NANTLLE.
TALYSARN, NANTLLE. CYNGERDD.-Noa Wener, y 5ed cyfisol, cynhaliwyd cyngerdd yn Assembly Room y lie uchod. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo Eglwyswr o'r enw Mr. Griffith Griffiths, Rhiwafon, yr hwn sydd wedi bod yn "wael ei iechyd am hir amser, Cafwyd cyngerdd hynod dda, a hyderwn y bydd elw da oddiwrtho. Cadeirydd y cyngerdd oedd ein ebrwyad, y Parch. M. Roberts, a'r arweinydd oedd y Parch. J. Hughes. Cyfeilwyd gan Mr. J. W. Roberts, Glynllifon. Ysgrifenydd y pwyll- gor oedd Mr. H. P. Roberts, Ty mawr, a'r trysorydd oedd Mr. Zechariah Jones, Nantlle. Aethpwyd trwy y ihaglen ragorol isod:-Nantlle Vale Silver Band, Grand March," dan arweiniad medrus Mr. T. Sarah; can gan Mr. W. Evana; anerchiad gan y Cadeirydd Talysarn Male Voices, Dewrion feibion Gwalia," dan arweiniad medrns Mr. A. Henderson; can, II Gwlad- garwch," gan Llew Llwyfo; Nantlle Vale String Band, dan arweiniad medrns Mr. Hugh Jones; can, Can yr eneth glaf," gan Miss Henderson; can, Mentra Gwen," gan Mr. A. Henderson, ail-ganodd "Bogail Hafod y Cwm;" can, Cymru Fydd," gan Miss Dora Jones Talysarn Male Voices, Meibion Cerddgar;" can, Y wlad a garaf fi," gan Mr. R. Lloyd; diolch- iadan; Nantlle Vale Silver Band; can gan Llew Llwyfo, ail-ganodd "Cann'n iach i Arfon;" can, "Y gwcw ar y fedwen," gan Miss Henderson; Talysarn Male Voices, Glory and love the men of old;" can gan Mr. W. Evans; God save the Qaeen." Nos Fawrth, y 9fed cyfisol, ba, y Parch. John Evans (EglwysJbach) yn darlithio ar Y Pedwar Enwad," yn nghapel Wesleyaid y lie hwn.
; LLANDEGLA.
LLANDEGLA. GWLEDD FLYNYDDOL.—Dvdd Linn, y laf cyfisol, cafodd eglwys y plwyf nchod ei gwledd flynyddol, ar y Fronfawr. sef mynydd dymanol perthynol i Mr. E. P. Roberts, Hafodbulston, un o wardeniaid yr Eglwys. Yroedd y tywydd yn hynod ffafriol, a ba amryw ber- eonau yn hynod ymdrechgar yn parotoi gogyfer a'r aja- gylchiad. Gweinyddwyd tê a bara brith i tua 300, y rhai wedi cael en digoni o'r danteithion hyn a dreul- iasant orian difyr mewn amrywiol fathaa o chwarsaon diniwed. Wrth weinyddn ar y byrddau gwnaeth y boneddigesau ieoaino en rhan yn ardderchog. Hefyd, ieilynga y wardeniaid glod am en gwaith deheaig 0 gario allan eu swyddi mewn cysylltiad a'r wledd. Ba ein ficer, y Parch. J. Owen, yn nnol a'i arfer. yn dra egniol. Talwyd y diolcbgarwch mwyaf nnfrydol iddo ar ddiwedd y dydd, ac aeth pawb i'w cartrefi gydeg arwyddion 0 foddlonrwydd ar eu hwynebau.—Alun.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. ARWYDD DDA MEWN EGLWYSWYR.—Beth amser yn ol ^hoddwyd Beibl hardd yn anrheg gan aelod o'r Eglwys nchod i'w roddi ar y pwlpud. Hefyd rhoddwyd un arall gan Mr. Henry Roberts (nn o'r wardeniaid), ynghyd a chyfeillion eraill, i'w roddi ar y ddarllenfa. Yr wythnos ddiweddaf draehefn rhoddodd aelod arall rodd werthfawr iawn, sef tri o gawgian at gasgln y rhai a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf y Snl diweddaf. Diaa genyf fod yr egwyddor hon i'w chanmol a'i hed- mygn. Pe ba'i mwy o hyn mewn Eglwysi denem i deimlo mwy 0 ddyddordeb a gafael yn ngweithrediadau y cytryw. Y mae yn sior o fod yn galondid nid bychan f'n parchns reithor. ac yn symbyliad i aelodau eraill ein beglwyei.-Gohebydd.
LLANSANTFFRAID, CEREDIGION.
LLANSANTFFRAID, CEREDIGION. MARWOLAETH.—Drwg genym gofnodi marwolaeth Mr. Evan Evans, postfeistr, o'r He h.wn, yr hyn a gym- erodd le nos Wener, y 12fed cyfisol. Bn yn wael iawn am rai wythnoaan, ond prin y meddyliai neb fod ei ddiwedd mor agos. Parodd ei farwolaeth gyffro a galar nid bychan ymhlith trigolion y gymydogaeth hon, yn enwedig felly ymhlith Eglwyswyr Llansantffraid. Gellir dweyd fod yma golofn arall fa yn dal yr achos "Edwysig yn Llansantffraid am flynyddan lawer wedi ei symnd. Yr oedd Mr. Evans yn ffyddlawn gyda phob cyfarfod a berthynai i'r Eglwys. Nid arferai fynychn yr Yegol Sal er's rhyw dair nen bedair blynedd bellach, a hyny oherwydd ei fod yn dioddef oddiwrth wendid a llesgedd. Oad bu yn ffyddlon i bob cyfarfod arali, yn enwedig y rhai wythnosol, byd y diwedd. Yr oedd yn hynod ar gyfrif ei ffyddlondeb yn nghyfarfodydd plyg-1 einiol Nadol g, ac yr oedd ganddo ef rhywbeth pwysig i'w ddweyd ymhob an o honynt. Hefyd, nid oedd neb ffyddlonach nag ef mewn cyfarflodydd gweddi a gyn- helid mewn tai anedd, yn enwedig ar wylnosweithian. Yr oedd yn siaradwr eofn, rhwydd, a dealladwy. Ei boff byncian bob amser oeddent y pethau a berthyn- ent i fywyd tragywyddol." Pan yn traetha ar y rhai hyny ymddangosai fel wrth ei fodd. Yr oedd hefyd yn weddiwr dylanwadol a nerthol. Y mae yn chwith iawn genym feddwl fod y llais hyny a glywem yn traetbu y genadwri mor hyf, mor ddifloesgni, yn awr wedi tewi- wedi tewi am byth ar y ddaer hon! Prin y gallwn beidio tori i wylo o hiraeth ar ei ol. i mae yn ofidus genym feddwl iddo waghan lie pwysig iawn yn yr Eg- lwyB-Ite ag y teimla pob un o honom oddiwrth ei wag- der. Efe oedd gadarn yn Israel, yn ddiambeu-" y cadarn a syrtbiodd." Yr oedd Mr. Evans yn diegon o deula dnwiol. Yr oedd ei daid a'i dad yn rhai o dduw- iolion y diwygiad mawr ymwelodd a'r wlad hon flyn- yddan yn ol. Hen bererinion dedwydd oeddynt hwy, ac yr oeddynt o nifer y cyfryw a arferent foliann Daw wrth ea galwedigaethau a'u gorchwyiion bennyddiol ymhob mantatban bob amgylcbiad. Yr oedd en hes- iamplan hwy wedi dylanwadu yn fawr arno ef, ac yr oedd yn mynych gyfeirfo at hyny pan y siaradai yn y frawdoliaeth. Yr oedd wedi ymarfer â gweddio yn gy- hoeddus er yn ienanc iawn ac yr oedd, y mae lie genym i feddwl, wedi caffael Crist yn Waredwr iddo er ei febyd. Yr oedd Mr. Evans yn 66 mlwydd oed pan y ba farw. Yr oedd yn briod, ac yr oedd ganddo an mab yn fyw. Bn mab arali, yr hwn cedd yn glerigwr, farw rai blynyddaa yn ol. Bydded Duw yn Farnwr i'w weddw ac yn Dad i'w amdditad. Heddvsch i'w lwch yntan.-Glagi Peris.
LLANELLI.
LLANELLI. Y plwyf hwnw sydd yn feddianol ar offeiriad gweith- gar, yn ffyddlon a Uwyr ymroddedig i'w alwedigaeth nefol, sydd a gwasanaeth by wiog yn ei Eglwys, yn gwneyd ei oreu i ddiwallu ei gynulleidfa ag ymbortb sylweddol ac iacbns, yn dwyn athrawigethau yr Eg. lwys ger eu bron mewn modd di-dderbyn wyneb, ac yn rboddi lie dyladwy i'r Sacramentau Sanctaidd, a goronir a llwyddiant. Nid oes eisiau gwell engraifft 0 hyn na pblwyf Llanelli. Yn y plwyf hwn, wele Ficer yn cario allan orchymynion ei Lyfr Gweddi, wel gurad Cymreig rhagorol yn ei gynerthwyo. Yr wyf wedi bod mewn lliaws o Eglwysi Cymreig, ond hyd yma nid wyf wedi cael nn i fyny ag Eglwys plwyf Llanelli. Y mae yr Eglwys honyn adeilad mawr ar ffprf croes (crucifix), ac yn fy ymweliadauachlysurol, cefans hi ar BOS Suliau yn llawn 0 addolwyr hewydus. Yr g^cld y gwasanaethyn gorawl, yr holl gynulleidfa, mawr a bach, hen ao ieuanc. yn ymnno mewn sain can a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl. I mi, yr oedd yr olygfw yn fendigedig, i weled cymaint o hen bobl A -'n drychwydraa yn syllu ar ea Llyfran Gweddi ac Hymnau, ac mewn llawn hwyl gyda'r gwasanaeth. Cefais fy mawr foddloni yn null y Parch. Samuel Davie" yn myned trwy y gwas- anaetb. Y mae y gwr parchns yn nn o'r darllenydd hymnan goren a glywais erioed: swnia y cydseiniaid fel pe wedi colli eu caledwch, a thoddi yn llefariaid, y pwysleisiad yn llawn, yn beraidd, all yn fwyn ar y glust, ac yn anadln bywyd i'n henaid. Dull newydd bolloi i mi ydoedd clywed yr offeiriad vii rhoddi pob penill, un ar ol y llall, allan i'w canu. Yr wyf yn hoffi y dull hwn, oblegid dyma fantaia i'r rhai anllythyrenog i gydnno yn y gan. Cefais befyd fy llwyr foddloni yn y Parch. Mr. Davies fel pregethwr. Y foment yr esgyna i'r pwlpnd wele lygaid yr holl gynulleidfa arno, dywed ei destyn ddwy waith yn Gymraeg ac unwaith yn Saesneg. a hyny mewn llais cHr ac eglnr beb fod yn ncbel. Rhagymadrodda yn hapus a dyddorol mewn iaith fel y mSl am tua deng mnnyd, wedi hyny cwyd ei lais yn raddol a swynol, wedi hyn1 rhydd floedd nes bydd mnriau yr hen Eglwya yn adsain, bydd ei lais o hyny hyd ddiwedd y bregeth mewn cywair nchel, treiddgar, a tboddadwy iawn. Nid y mechanical, ond enaid ar dan am 'acbnbiaeth ei gyd-eneidiau, yw ei ddnll yn traddodi. Olywais ef un tro ar nos Sul cyn dyfodiad yr Esgob i'r plwyf i wein- yddn y ddefod apostolaidd o gonffiimio. Ei destyn y noson hono oedd "Arddodiad dwylaw." Ni c-lywais un pwnc yn cael ei drafod mor feistrolgar o'r blaen Hyd pregeth Mr. Davies ar nos Suliau yw tua thri chwarter awr; bydd y bregeth yn ysgrifenedig o-i fla,-D, ond defnydd bychan a wna o honi. Wrth fyned allan o'r eglwys nos Sul yr Adfent gOfynais irai o'r cvfeillion II Ai dyna ddnH eieb enrad o bregethn ?" "Ie," oedd en hatebiad, ond nid oedd cvital heno ag arferol!" Nid fy amcan i ydyw advertiso y Parch. Mr. Davies, ond at hyn yr wyf am dyna sylw, lie bynagy mae gweithiwr da, yn gyson yn ymweled a'i bobl, a gofalu am bregeth dda, yr hyn sydd yn cael ei fawr wertbfawrogi gan y Cymro, y mae yr Eglwys sydd dan ei ofal yn sicr o fod yn llewyrchdb. Pwy bycag oedd y pregethwr "hirfain, hirdrwyn y cafodd Yswain Pwt y Mwnwa y pleser (?) o'i gwmni yn y tren o Llanelli tna Chyman'fa Cana nid oedd ei barchedigaeth -(?) yn gwybod llawer am orceiriaid ein tref, onide ni iaasai yn en galw yn grebachod o ddynion, ac nad oedd y goreu o honynt ond a'r gweddill yn llai fyth." Yr oedd y fath ddv- wediad yn fwy priodol o Jawer am bregethwyr Ymneill-1 dnol ein tref I Yr wyf wedi ea gwrando oil, ac nid wyf yn petrnso dywedyd fod y Parchn. Canon Williams a Samuel Davies yn uwch o'a hysgviyddau na'r Ull o bonynt. Ac yr wyf yn sicr o byn, fod mwy o barch yn cael ei roddi iddynt na i un o'r fyddin Ymneilldnol. Y mae y Parch. Mr. Davies yn ddarlithydd da-elywa,is ef un tro yn y National School yn traddodi darlith beni- gamp ar Hen Eglwys ein Tadan," bu awr a haner wrthi, a pban ddibenodd nid oedd un wedi blino arno. Ba son taa blwyddyn a haner yn ol, i un o'r Esgobion Cymreig ddanfon am dano i gymeryd gofal o eglwys newydd mewq tref enwog, ond er enill i Llanelli wele ef yma hyd yn byn, ac yn ddian fod diffyg sicrhaa ei wasanaeth yn y dref hono gan yr Esgob yn golled, oblegid nid bob amser y ceir dyn sydd yn ddigon o feistr i ddadlen hawlian yr hen Eglwys yn nghanol gelynion fel yr offeiriad talentog Mr. Davies. GWELLIAN GWAIITI.—Yn fy llith ddiweddaf yr oedd ychydig gamsyniad yn y cyfieithiad mewn cysylltiad fig Eglwys Seisnig St. Pedr yn mhlwyf St. Paul; dylasai y frawddeg fod-" I gynwys eisteddleoedd i 700 nen 800," ac nid I gynwys eisteddleoedd i 800 yn lie 700," oblegid yn bresenol ni chynwysa St. Pedr ond eisteddle- oedd i taa 300, ac y mae ein Ficer am ei hestyn i gynwys eisteddleoedd i 400 nen 500 yn rhagor, gan bollol gredn fod genym ddigon o ymlynwyr i lanw y fath Eglwys helaethedig yn y dyfodol agos.-Myrddin Coch.
1 LLANFAIR DYFFRYN CLWYD.
1 LLANFAIR DYFFRYN CLWYD. Dydd Ian, yr lleg cyfisol, dathlwyd priodas Miss Minnie Paleston a Mr. Ashurst Morris. Yr oedd y pentref bychan a phrydferth yn llawn bywyd a gweith- garwch-clychau yr EglwYB yn galw y plwyfolion at eu t gilydd, a'r dreflan yn chwifio gan faneri amryliw. Tna t dau o'r gloch yn y prydnawn eyrhaeddodd seindorf bres 1 Rhuthyn, yr hwn a roddodd fwy 0 fywyd yn y bobl. Am haner awr wedi dan ffarfiodd Ysgol Genedlaethol I Llanfair ac Ysgol y Bwrdd, Pentrecelyn, eu hunain yn Iorynidaith, ac aethant i'r Ysgoldy Cenedlaethol, lie yr < oedd cyflawnder odea bara brith wedi eu darparu ar ea cyfer. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y bonedd- igesan canlynolMiss Jones, Llysfair; Mrs. Parry, Ffynogion; Mrs. Jonea, Tynewydd Mrs. Hazel], Ty- ? isar; Mrs. John Williams, Llan; Miss Thomas a Mrs. Morris, Brynllan, &o. Cynortbwyid hwynt gan Mrs. B. M. Jones, y Ficerdy; Mrs. Curry, Brynmair; Miss Preston, Llwyn Ynn; Miss Goodrich, Eyarth, &o. Cyfranogwyd o'r te a'r bara brith gan dros bam' cant a haner o bobl. Wedi gwneyd cyfiawnder a'r dyn oddi- mewn, aethpwyd i gae cyfagos, lie y cafwyd chwarenon difyrns. Cyn ymwahanu rhoddwyd three cheers i Syr John Paleston. Cariwyd allan y gweithrediadau yn foddhaol gan y Ficer (y Parch. B. M. Jones), Mri. Wrigley, C. Preston, W. Davies, John Kellett, T. Powell, D. Thomas, T. Williams, Parry, Roberts, Ronw, Lloyd, Richards, Joyce, a Dr. W. D.Jones. Cofir y diwrnod am amser inaith gan blwyfolion Llanfair am haelioni Syr John Pnleston tuag atynt. Hir oes a Ilwyddiant i'x,p-ir iouane.
LLANDDEWI FELFRE.
LLANDDEWI FELFRE. Anaml y cofnodir yr enw uchod ar dudalenati Y LLAN oddieithr yn awr ac eiiwaith gan y gohebydd o Llangan yn ei nodion o Hendy Gwyn-ar-Daf. Bnasai yn ada genyf pe b'ai rbywnn mwy [galluog a phrofiadol na mi yn ymgymeryd a'r goichwyl 0 ysgrifenu gair nen ddan i'r LLAN yn wythnosoi, ond os byw fyddaf bwriadaf yn y dyfodol aiifon ychydig linellau pan gaffwyf bamdden. Mae yn flin genyf nad' yw cylcLrediad Y LLAN a'r Gyfaill Eghoysig mor helaeth yn y plwyf hwn. ag y dymunWn. Bcaaai yn dda genyf weled dosbarthwr priodol yn cael ei benodi yma, a gosod y Gyfaill bach diragfarn yn nwylaw pob nn 0 blant yr Ysgol Sal, a'r rhai mewn oed hefyd 0 ran byny. Frodyr, deffrown. Da genyf ddweyd fod ein parcbus ficer yn gwella yn ffafriol ar ol y ddamwain a gyfarfyddodd, fel yr hysbys- wydyn Y LLANyr wythnos ddiweddaf. Mae yn edrych yn siriol a hapns yn mhrydnawn ei fywyd. Nodded Daw fyddo drosto wrth dynuymlaentuarhosydd Moab. Iihaid sychu'r ykigritell-maent yn galw arnaf at y gwair. Rhagor yn y dyfodol.— T. L.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Yn ETIIOLIAD.-Y mae y ddwy ochr yn fywiog iawn yma. Dydd Sadwrn cynhaliwyd cyfarfodydd yn Ysgol. dy y Bwrdd yn yr Hendy Gwyn, ac yn y Market Hall yn Llanboidy, pryd y siaradwyd yn rhagorol gan Mr. JEtugh Williams-Drammond, Mr. Paton, Mr. Williams, ao eraill. Gwnaeth un nen ddan o'r brodorion (hollol adnabyddas), perthynol i'r ddan le, eu gorea glas i grea cynwrf ac arwain y gwyddfodolion ar gyfeiliorn. Nid ydym yn golygu rhoddi help llaw i wneuthar mertbyron o honynt trwy gyhoeddi ea henwau yn Y LLAN. Gadawn hwynt yn eu lleoedd priodol 41 islnw'r halen," fel y dywedir. -Uyderwn y gwua'r pleidleiswyr gofio am Mr. H. W. Drnmmond, y Ceidwadwr a'r Undebwr, dydd Mercher nesaf, a'i ddychwelyd i lauw'r aedd wag. Nid oes genym ddim i'w ddweyd yn erbyn Mr. Lloyd Morgan yn bersonol. Adwaenom lawer o'i dylwyth a'i gydnabod yn ein cymydogaetb, ac y maent yn Ymneill- duwyr parchua. Gresyn na b'ai gwr ieuanc mor addawol a Mr. Mergan yn Undebwr beth bynag. Yn Mr. Williams-Drammond cawn wr ieuanc arall yn coledda syniadau Ceidwadol ac Undebol, a pha ffordd bynag y try y fantol dydd Mcrcher, credwn y gwelir Mr. Drummond yn St. Stephan ryw ddiwrnod. Y mae amryw 0 bobl a fuasent yn sicr o gefnogi'r olaf yn ein cymydogaeth ni a/a henwau yn eisian ar y register y tro hwn eto. Penderfynwn chwilio i fewn i'r achos ar un- waith. Nid oes yr un perthynol i'r ochr wrthwynebol yneiaian. Y mae y Parch. T. Thomas, or Rest (Henllan Am- goed) wedi myned am wyliau boirea heddyw. Hyderwn y mwynha ei hun, ac y bydd yn adgyfnerthiad i'w iech- yd gwanaidd. Y mae yn ddrwg ganddo ef a minan hefyd i'w enw gael ei adael allan, yn anfwriadol, o'r adroddiad am y cyfarfod defosiynol yn Llanbedr Felfre y dydd o'r blaen. Yr ydym yn teimlo yn flin neilldnol oblegid hyn, am i'r gwr parchedig wnenthur y fath aberth i fod yno yn y boren, a bod mor anffodus a cholli ei ffordd wrth geisio cyrhaedd yno yn brydlon erbyn 8 o'r gloch. Nid oes dim a Baif o flaen y penderfynol. Deallwn y cynhelir oyfarfod o'r un natur yn Narberth yr wythnos hon. Da iawn oedd genym ddarllen hanes cysegriad Eg- lwys Clydey gan ein hesgob godidog dydd Gwener di- weddaf. Y mae y Parch. James James, ficer y plwyf, yn weithiwi Hwyddianus iawn. Y mae disgwyliad pryderns am Fil newydd y Degwm. Y mae'r offeiriaid yn dawel ac amyneddgar o dan eu 1 beichiau. Hyderwn y gwna'r Llywodraeth gofio am I danynt bellach. i
SCIWEN.J
SCIWEN. J MARWOLAETH.—Y mae genym y gorchwyl galaros yr wythnoa hon 0 gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mrs. Davies, anwyl briod; Mr. David Davies, Graig. Bu farw y foneddiges nchod, ar ol hir gystadd, ar yr 2il o'r mis hwn, a'r dydd Gwener canlynol claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent bt. loan, Sciwen. Yn absenoldeb y ficergweinyddwyd gan y Parch. Lewis Davies, B.A., curad. Yr oedd Mrs". Davies yn un o gymnnwyr henaf yr Eglwys, ac fe deimlir colled fawr, ar ei hoi ymhob cylch. Heddwch i'w llwcli. (
DOWLAIS.ð
DOWLAIS. GWYL DE FLYNYDDOL YB YSGOLION SUL.-I)y LIun diweddaf, yrngyfarfu aelodau Ysgolion S'll ? Eglwys ar chwareudir yr ysgol ddyddiol, am 2 0 gloch, ac oddiyno aethpwyd yn orymdaith yn y djlrr ganlynolYr Ysgol Gymreig Uohaf, PengarnafJ Gellifaelog, Pant, ac Ysgol Sul yr Eglwys Seisnig f Eglwys Gymreig, yn cael eu blaenori gan seiof0^ bres y Gwirfoddolwyr, dan arweiniad Mr. f' O'Neill. Llafarganwyd y gwasanaeth gan y PftrCi.g< R. Jones, a darllenwyd y llith gan Canon Ghwareuwyd yr organ gan Mrs. R. Jones. gorymdaithiwyd rhai o'r prif heolydd, ac YDIgy í fyddwyd yn yr Ysgoldy, lie y cyfranogodd y» 2,000 o de a theisen. Ar ol clirio y byrddau y wyd i ddifyru yr ysgolheigion gyda g chwareuon, Am y difyrwch yr ydym yn dra ap0W i Mr. T. B. Hirst a Mr. Thos. Jones.