Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

RHODDION BRENHINOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

[GAN EIN GOHEBYDD AEBENIG.] RHODDION BRENHINOL. Nos Fawrth, yn Nhy y Cyffredin, cynygiodd Mr. W. H. Smith fod y pwyllgor ar Roddion Brenhinol i gynwys 23 o aelodau. Cynygiodd Mr. Storey fod y mater i gael ei ohirio ar y tir nad oedd y Ty wedi cael rhybudd digonol. Dadleuai fod y Llywodraeth yn ymddwyn yn rhy fyrbwyll, ac nad oedd ond rhesymol i'r ddadl gael ei gohirio. Cyhuddai Mr. Smith o fod yn anffyddlon i'w addewid, ac yr oedd yn ystyried ei fod wedi cam- gyfrif nerth yr adran yr oedd ef (y siaradwr) yn cyd. weithredu & hi buasai yn sicr o gael allan ei bod yn adran ryfelgar. Ar ol rhai sylwadau eglurhaol gan Mr. W. H. Smith, ymranodd y Ty- Dros y gohiriad 80 Yn erbyn 233 i. Mwyafrif yn erbyn 153 Mae yn ffaith^deilwng o sylw i Mr. Gladstone a'i gyd-swyddogion, byny yw, yr holl Ryddfrydwyr sydd yn disgwyl am swyddi dan Mr. Gladstone, bleidleisio dros y Llywodraeth. Pleidleisiodd Mr. Parnell, hefyd, a'r holl aelodau Gwyddelig, gyda'r Llywodr- aeth, ac yn erbyn y glymblaid ryfelgar Radical- aidd. Nid oes dadl nad oes ar Mr. Gladstone gywil. ydd o'r militant party "—y Laboucheriaid, y Ore. meriaid, y Piotoniaid, a'r Storeyaid ystwrllyd ac an- nheyrngarol; ac y mae yr olygfa yn un ddifrifol i'r eithaf. Ond nid oea gan y boneddwr anrhydeddus ddim lie i wingo: y mae wedi bwrw ei goelbren ymysg gelynion yt Orsedd a'r Goron Brydeinig, a rhaid iddo gymeryd y canlyniadau. Yn wir, gellid tybied wrth yr olygfa yn nghyntedd Ty y Cyffredin nos Fawrth fod y milflwyddiant gwleidyddol wedi gwawrio-80 yn arbyn 2331 Buddugoliaeth ogon- eddus oedd bon. Pan roddodd y y cwestiwn i'r Ty fod y pwyllgor i gynwys 23 o aelodau, Cynygiodd Mr. Dillwyn fod y pwyllgor i gynwys 25 o aelodau, a bod y ddau oedd ef wedi enwi ar y papyr i wneyd y nifer hwnw i fyny, set Mr. Hunter a Mr. Storey. Dywedodd Mr. W. H. Smith fod y cynygiad yn groes i'r arferiad cyfiredin, oolegid dyna y nifer- sef 23—oedd yn gwneyd i fyny yr holl bwyllgorau eraill. Yr oedd y Llywodraeth yn awyddus i symud yr argraff leiaf allasai fodoli yn meddyliau rhai o'r aelodau eubod am gymeryd mantais annheg ar, gyf soddiad y pwyllgor. Nid cwestiwn plaid ydoedd, ao ni ddylid ymwneyd ag ef fel y cyfryw. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr. Cremer ar y tir ei fod yn gwrthwynebu apwyntiad y pwyllgor, ac yn erbyn caniatau unrhyw roddion o gwbl. Rhoddodd rybudd y byddai iddo gynyg y gwrthwynebiad mwyaf penderfynol i'r cynygiad yn ei holl raidfeydd. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr. Bradlaugh. Yr oedd ef yn gwrthwynebu yn hollol bob rhoddion Brenhinol, ae am daflu pob rhwystrau a fedrai ar eu ffordd. Gan nad oedd dim a wnelai y pwyllgor &'r Civil List, gwnai ef bleidleisio dros ychwanegu nifer yr aelodau. Nid oedd Mr. Gladstone yn gweled'fawr o bwys pa un ai 23 neu 25 fyddai nifer y pwyllgor. Yr oedd yn rhwym o ddweyd fod gan y Llywodraeth berffaith bawl i fwyafrif o dri ar y pwyllgor yn ol safle y pleidiau yn y Ty. Wedi i Mr. Storey siarad yn mhellach, yr hwn a a alwyd i drefn fwy nag unwaith, ymranodd y Ty- Dros y gwelliant 105 Yn erbyn 300 Mwyafrif dros y Llywodraeth. 195 ENWI AELODAU Y PWYLLGOB. Pan gynygiwyd enwau y rhai oedd i gyfansoddi y pwyllgor cymerodd ymraniadau le ar amryw o honynt, ond o'r diwedd oydunwyd ar y 23 a gynygid gan y Llywodraeth. 'GWELLIANT. Cynygiwyd gwelliant gan Mr. Labouchere fod y pwyllgor i feddu hawl i anfon am barsonau, papyrau, a chofnodion. Dadleuai na fyddai holl weithrediad- au y pwyllgor heb y gallu hwnw ond coeg-chwareu a ffug (sham). Gwrthwynebwyd y cynygiad gan Mr. W. H. Smith, a dadleua-i fod y Llywodraeth yn gweithredu yn hollol unol a chynreolau. Dywedodd Mr. Gladstone mai dyna ei farn yntau, ac o ganlyniad ei fod yn rhwym o gefnogi y Llyw- odraeth. Ymranodd y Ty, a ohafwyd— Dros y gwelliant 136 Yn erbyn 272 Mwyafrif yn erbyn 136 Penderfynwyd mai saith oedd i fiurfio quorum o'r pwyllgor, neu y nifer leiaf allai ddwyn ymlaen y gweithrediadau. GWASANAETH PLANT MEWN CHWAREUDAI. Cymerodd dadl faith Ie yn Mhwyllgor Ty y Cyff redin, ddydd Mercher, ar gyflogiad plant mewn Chwareudai, ond nid mewn dawnsio ar rafl neu wrol-gampau eraill. Cynygiwyd gwelliant gan Mr. Jennings i ganiatau i blant dan ddeg oed wasaaaethu mewn chwareu- dai. Gwrthwynebwyd y gwelliant gan Mr. Samuel Smith, yr aelod dros swydd Gallestr, am ei fod yn gryf o'r farn nad oedd awyrgylch chwareudy yn dda i blant dan ddeg oed. Wedi hir ddadleu dros ac yn erbyn y gwelliant, ymranodd y pwyllgor- Dros y gwelliant 139 Yn erbyn 188 Mwyafrif yn erbyn 49 MESUR ADDYSG GANOLRADDOL I GYMRU. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar y Mesur hwn, a bu cynygiad Syr W. Hart Dyke i gau Sir Fynwy allan o weithrediadau y Mesur dan ystyriaeth. Ar anogaeth Mr. Swetenham a Syr J. Puleston cycsyniodd Syr W. Hart Dyke i dynu yn ol y gwelliant oedd yn cau Sir Fynwy allan o weithred- iad yr Act, a chydunwyd ar adran 2. a Ar adran 3, Cynygiodd Syr W. Hart Dyke welliant ynnewid y eodlllywodraethol 0 Gynghorau Sirol y Dywysog- aeth i bwyllgor unedig o bob Sir, yn cynwys tri o gynrychiolwyr y sir a thri o bersonau a enwid gan y Llywodraeth. Dadleuai y dylai y Llywodraeth, yr hon oedd yn cyfranu swm mawr, gael rhyw reolaeth ar wariad yr arian. Dywedodd Mr. Rendel ei bod yn ddrwg ganddo ddweyd ei bod yn anmhosibl iddo dderbyn y gwell. iant. Dadleuai y dylai gweinyddiad yr Act fod yn hollol yn nwylaw y Cyngborau Sirol, y rhai oedd mewn gwirionedd wedi rhoddi cychwyniad i'r cyn- llun poblcgaidd hwn o addysg. Gwrthwynebwyd y gwelliant gan Mr. Rathbone. Dywedai Mr. Kenyon y dylai y pwyllgor fod yn un a hawliai gydymdeimlad y bobl, ao nid oedd ef yn tybied fol y cynygid ef y boddlonai y teimlad cenedlaethol. Awgrymodd Mr. Swetenham y dylai pob Cynghor Sirol yn Nghymru ddewis ar y corff llywodraethol gynrychiolydd o un o'r tri Choleg yn Nghymru. Dywedodd Syr W. Hart Dyke ei fod yn barod i dderbyn y gwelliant y dylai rhyw gyrff addysgawl pwysig yn Nghymru-gwell ganddo beidio rhoddi deffiniad manwl o honynt ar y pryd-gael hawl i enwi aelod arall o'r pwyllgor unedig fel ag i'w wnayd yn saith. Nid oedd Mr. Randal yn sier a oedd y cyallun cynygiedig yn union y peth y dymunai iddo fod, ond yr oedd yn dangos nad oedd y ddwy ocbr o'r Ty ymhell iawn oddiwrth eu gilydd ar y pwne. Yr oedd yn awr yn haner awr wedi pump, a gohiriwyd ystyriaeth pallach o'r cwestiwn. Dywedodd Mr. Vi. H. Smith, mewn atabiad i Mr. S. Rendel, ei fod yn hyderu y gellid dyfod i gytundeb drwy yr hwn y eeid amser i alluogi y Mesur i ddyfcd yn gyfraith y Senedd-dymor yma. Y BRWYDRO YN YR AIPHT. Gofynwyd amryw gwestiynau nos Fercher a nos Iau, mewn perthynas a'r gweithrediadau milwrol ar y Nile rhwng y galluoedd Aiphtaidd a'r Dervishes. Gofynodd Syr Wilfrid Lawson i'r Ysgrifenydd Rhyfel a wnai roddi hysbysrwydd ynglýn a'r gweith- rediad hyn, ac egluro polisi y Llywodraeth. Yroedd dflrllen hanes am wýr, gwragedd, a phlant, yn cael ,eu cadw o'r Nile, ac yn marw mown loesau o syched ac am y dinystr ar ymborth yn y rhandir, yn ddy- chrynllyd ac os oedd y pethau hyn yn wir, dylai y Ty gael hysbysrwydd llawn. Dywedodd Mr. Stanhope ei fod yn awyddus i ddwyn ar gof i'r barwnig anrhydeddus yr amodau dan ba rai yr oeddym wedi cadw ein catrodau yn yr Aipht. Un o'r amodau hyn ydoedd, yn ddiddadl, ein bod i amddiffyn y terfynau Aiphtaidd. beth oedd wedi digwydd ? Yr oedd mintai grwydredig o anwariaid a adnabyddid wrth yr enw Dervishes yn ymdrechu gweithio eu ffordd i'r Aipht Uchaf, ac anrheithio y wlad. Ein dyledswydd amlwg gan hyny ydoedd cynorthwyo byddin a Llywodraeth yr Aipht i amddiffyn y llinell derfyn oeddym wedi gynorthwyo i sefydlu ein hunain. Mewn atebiad i Mr. Picton, dywedodd Syr James Fergusson os gwnai yr anwariaid hyn barhau i oresgyn yr Aipht, ei bod yn angenrheidiol i roddi atalfa arnynt drwy unrhyw foddion yn ein gallu, ac mai symud ymaith foddion eu bywoliaeth oedd y ffordd fwyaf effeithiol i gyraedd yr amcan hwnw. Yn yr ymgyrch bresenol yr oeddynt yn gorfodi y pentrefwyr i ymuno a, hwynt, ac yn eu gwthio i ffrynt y frwydr i gael eu lladd. Cymerasant feddiant o wersyllfa ar lan y M6r Coch yn mis Mai, gan lofruddio bob dyn, dynes, a phlentyn yn y lie. Yr oedd y Dervishes hyn yn elynion i'r hil ddynol, ac yr oedd yn rhaid rhoddi atalfa arnynt drwy unrhyw foddion yn ein gallu. Gofynwyd lliaws o gwestiynau drachefn, nos Iau, gan Syr W. Lawson, Mr. Labouchere, a Mr. Picton, ond profodd Mr. Stanhope ei fod yn drech o ddigon na'r triwyr gwrthnysig hyn. Dywedodd nad oedd ganddo yr un rhaswm dros gredu fod yr Aiphtiaid yn awyddus i weled heidiau y Dervishes yn dyfod i'w gwlad i'w llofruddio. Well done! Dyna ergyd i bwrpas. GWAITH Y TY. Gwnaed mynegiad pwysig gan Mr. W. H. Smith, nos Iau, o berthynas i fwriadau y Llywodraeth gyda golwg ar y gweddill o'r senedd-dymor. Mae y C6d Addysg newydd i gael ei ohirio, a'r Irish Drainage Bills i gael eu rhoddi i fyny, gyda'r eithriad o'r un yn dal perthynas a'r Bann. Yr oedd yn gobeithio y cymerid ail ddarlleniad Mesur y Degwm yr wythnos ganlynol, ac yr oedd yn awyddus i gael barn y Tyar Fesur Cau y Tafarnau ar y Sul yn yr Iwerddon, &o. Pasiwyd penderfyniad i roddi y flaenoriaith i'r Llywodraeth ar bob cynygion a Mesurau eraill am y rhelyw o'r senedd-dymor. MESUR LLYWODRAETH LEOL (YSGOT- LAND). Gwnaed cryn gynydd gyda'r Mesur hwn yn ystod yr wythnos, ac y mae lie i obeithio y pasia drwy y pwyllgor yn fuan. YSGARMESOEDD GWYDDELIG. Cymerodd amryw ysgarmesoedd Gwyddelig le yn Nby y Cyffredin yn ystod yr wythnos, ond gwastraff ar ofod werthfawr Y LLAN fyddai cyfeirio atynt. Pop-guns diniwed oedd eu harfau. MESUR CREULONDEB I BLANT. Ar gynygiad Mr. Mundella, pasiodd y Mesur uchod y trydydd darlleniad, nos Wener, ynghanol bloedd- iadau o gymeradwyaeth. MESUR Y CAU AR Y SUL. Tynodd Mr. Stevenson y Mesur hwn yn ol, am nad oedd un gobaith i'w basio y senedd-dymor presenol. Daw ymlaen eto y sesiwn nesaf. Ymwahanwyd am chwe' munyd wedi deuddeg- "Very early in the morning."

ST. FFAGAN, ABERDAR.

[No title]

[No title]

Advertising

PENYCAE, YSTRADGYNLAIS.tI