Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
Y DUC D'ORLEANS.
Y DUC D'ORLEANS. Yn groes i ddisgwyliad y cyhoedd yn gyff- redinol yn Ffrainc y mae y gwr ieuanc uchod yn garcharor o hyd. Syinudwyd ef yr wythnos ddiweddaf i garchardy enwog Clairvaux, ac yno' yn ol pob tebyg, y bwriada y Llywodraeth Ffrengig ei gadw. Myn pleidwyr y frenhin- iaeth fod carchariad y Due wedi achosi cyf- newidiad mawr yn y wlad ag sydd yn ffafriol iddynt hwy. Y mae merched, a mamau y deyrnas yn cydymdeimlo a'r boneddwr ieuanc, ac ystyrient ef yn arwr, medd y blaid hon, ac y mae dylanwad y rhyw deg yn gryfach nag un- rhyw un arall. Y mae y carcharori fyw yn y gell yn yrhon y bu Kraptokine fyw pan yn gaeth yn ngharchar Clairvaux.
,— DEDDF CAU TAFARNAU AR YSUL…
— DEDDF CAU TAFARNAU AR YSUL YN NGHYMRU. Deallwn fod y Dirprwywyr fu yn gwneyd ymchwiliad o berthyna.s i'r ddeddf uchod mewn gwalianol drefi yn JNgogledd a Deheudir Cymru, yn awr wedi gorphen" eu hadroddiad, ond ni chyflwynir ef i Dy y Cyfcredin hyd nes y bydd wedi ei gyfieithu a'i argraffu yn Gymraeg. Hys- byso y Central News fod y dirprwywyr yn ffafriol i'r ddeddf gael ei pharhau fel y mae yn awr, ond fod rhai o'i darpariadau i gael eu gwneyd yn fwy ilym, yn neillduol gyda golwg ar yr adran' sydd wedi achosi cymaint o walianol esboniadau arni, sef y bona ficle trvveller. Diau y ceir penderfyniad terfjnol ar y pwnc hwn, ac "lid cyn fod ai-ig Ti dirfawr am dano, gan fod yr ynadon mewn gwahanol leoedd yn amrywio yn eu barn o berthynas iddo.
ESGOB TRURO.
ESGOB TRURO. Derbyniwyd llythyr yn ddiweddar oddiv rrth Dr. Wilkinson, Esgob Truro, yr hwn sydd yn teithio yn yr Aipht er lies ei iechyd. Dywei 1 ei arglwyddiaeth ei fod yn ameanu dychwelyd at ddyledswyddau esgobol yn mis Ebrill. Gan 3 :00 ei iechyd yn para yn bur wael, y mae yn Ii. led debygol y bydd iddo gmddiswyddo yn fnan ar ol ei ddyfodiad gartref. Oherwydd ei waeled d, y mae yr Esgob wedi treulio y deuddengmis d i- weddaf allan o'r wlad.
IYDNAbYDDIAETH DEILWNG.
I YDNAbYDDIAETH DEILWNG. Ychydig ddyddiau yn ol, derbyniodd Mr. Feagan, arolygwr y Cartref i Fechgyn," 95 Southwark street, Llundain, S.E., y swm o .c148 8s. 10c., sef eyfraniad y bechgyn a fagwyd yn y Cartiref, ond ydynt yn awr yn gwasanaethu gyda ffermwyr yn Canada, fel cydnabyddiaeth o'u diolchgarwch, ac hefyd tuag at gynorthwyo i dalu treuliadau cludiad 100 o fechgyn reraill. Yr oedd y swm a anfonwyd ganddynt y flwydd- yn hon 940 yn fwy na'T llynedd.
I 1111 11 ' MARWOLATH Y PARCH.…
I 1111 11 MARWOLATH Y PARCH. MOSES LEWIS, FICER LLANWONNO. Diau y bydd yn ofidus gan ein darllenwyr glywed am farwolaeth y Parch. Moses Lewis, ficer Llanwonno, Pontypridd, yr hyn a gymer- odd le yn dra disymwth nos Wener diweddaf. Tua saith o'r gloch yn yr hwyr, aeth y gwr pirchedigJ.'w ystablau. gerllaw y ficerdy yn Gyf- ftillon, a t^ra yno \arawyd ef yn glf.f. Llwydd- odd i alw am gymorth, ac aeth un o'r nhfrwya- ion ato, pan y dywedodd wrtbi ei fod yn sal iawn. Bhedodd y forwyn yn ddioed i ymofyn cynorthwy, a daeth Mrs. Lewis ac amryw oraill yno. Cludwyd y gwr parchedig yn uniongyrch- ol i'r ty, a gwnaed pobpeth er ei adferu, ond bu farw ymhenJychydig funydau, cyn i'r meddyg gyraedd. Yr oedd y ficer, yr hwn oedd yn frodor o Uantwit Fardre, yn hynod boblogaidd gyda'i blwyfolion, ae achosodd ei farwolaeth alar cyffredinol. Nid oedd ond 44 mlwydd oed, a phenodwyd ef i fywoliaeth Llanwonno yn 1886 bu am flynyddau cyn hyny yn gurad Cymer, Llantrisant. Urddwyd y diweddar ficer yn 1869 gan yr Esgob Ollivant, Llan- daf, a derbyniodd ei addysg yn Ngholeg y Fren- hines, Birmingham. Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent eglwys Fardre prydnawn ddydd Iau (ddoe), ac ymddengys hanes eigladd- edigaeth yn ein rhifyn nesaf.
AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.
AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS. PWNC Y DEGWM A'R EGLWYS YN NGHYMRU. Nos Iau eyn y diweddaf, talodd y Parch. T. Moore, awdwr The Englishman's Brief," ke., ymweliad 4 Dowlais, pryd y traddododd araith benigamp ar 16 Bwne y Degwm a'r Eglwys yn LNghymral" Cynhaliwyd y cyfarfod yn yr Oddfellows' Hall, a daeth eynulliad lliosog ynghyd. Yr oedd disgwyliad mawr am y cyf- arfod ymhlith Eglwyswyr y lie er's wythnosau, gan y gwyddfti pawb y ceid ymdriniaeth feistr- olgar gnu foneddwr o safle a gallu Mr. Moore, ac ni siomwyd neb. Pan wnaetli Mr. Moore, y Parchn. LI. M. Williams, rheithor; D. Evans, ourad, Mr. Lintern, llywydd Cymdeithas Am- ddiffynol y dref, ac eraill, eu hymadangosiad ar y llwyfan, cawsant dderbyniad croesawgar gan y dorf. Llywyddwyd gan Mr. Lintern, yr liwn a sylwodd fod yn dda iawn ganddo fnd yn bre- senol, ac yr oedd yn sicr y ceid araith dda gan Mr. Moore, fel y eawsant ar ei ymweliad blacn- orol. Yr oedd y pwnc ag yr ymdrinid ag ef y noson hono yn un hynod bwysig, ac yr oeddynt wedi ymgynull ynghyd i dderbyn goleuni ychwanegol arno. Fel y gwyddent, yr oedd dwy fam yn cael eu coleddu o berthynas i gysylltiad yr Eglwys a'r Llywodraeth haerai rhai y eylai. gael ei dadgysylltu. a diben cyn- halisd cyfarfodydd o'r fath ydoedd rhoddi inautais i wyntyllio y pwnc, fel, ag y gellid. ar ol ei ystysied yn deg a diduedd, ffurfio barn deg a chywir am dano. Wedi i'r llywydd wncyd rhai sylwadau ar ddylanwad cynyddol yr Eg- lwys ymhob parth o'r byd, galwodd ar arwr y cyfarfod ymlaen i anerch y dorf. Y Parch. T. Moore a ddywedai na fwnadai wneyd araith fel y deallid hyny yn y cyffredin, ond yr oedd api ymddiddan a liwy, gan gredu drwy hyny y gallai egluro yr hyo a fwriadai iddynt g:ofio yn well. Fel yr oedd yn hysbys iddynt, siaradai llawer am y degwm na wyddent .ddim o gwbl am dano. Dywedai os byddai rhywan yu y gynulleidfa yn metliu ei ddeall, y byddai yn dda ganddo gael eyfleustra i egluro unrhyw fater o'r fath yn mhellach ar ddiwedd y cyfarfod. Hyderai na fyddai i neb ofni gofyn cwestiwn iddo, gan mai ei amcan mawr bob amser oedd eael gan ei wrandawyr ddeall yroll yr ymdriniai ag ef. Y dull a gymerodd y gwr porchedig ydoedd gofyn nifer o gwestiynau, a'u hateb. Y cyntaf ydoedd, Beth ydoedd y degwm, gan nad oes ddim degwm yn awr yn Lloegr na Chymru ? Oddior y flwyddyn 18*86 yr oedd taliad y degwm yn el ffurf gyntefig, sef rhoddi y ddegfed rhan o gynyreh y tir, wedi ei ddileu, a gosodwyd ei fod o hyny allan i'w dalu mewn arian bathol. yr hyn a adnabyddid yn awr wrth yr enw tithe rent charge, sef y ddeg- fed ran o ardreth y fferm a delid. Y modd y dechreuwyd tala y degwm ydoedd i bob un a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol roddi yn wirfoddol y ddegfed ran o'i eiddo tuag at gynal yr esgobion a'r offeiriaid. ae wedi iddo ddyfod yn aelodaa yr oedd yn ddyledswydd orphwy*- edig arno. Ymhen yehydig flynyddoedd yr oedd yn arfhriad ymhob man lla yr oedd eglwys wedi ei sefydlu fod perchenojjion y tir yn rhoddi y ddegfed ran o'u heiddo at wasanaetb Duw, ac yr oedd eu holynwyr yn gwneyd yr un modd, a'r tenant wrth gymeryd fferm yn talu naw rhan o'r ardreth i'r per- perehenog, a'r ddegfed ran i'r ofteiriad. Ymhen yehydig flynyddoedd yr oedd pawb yn perthyu i'r Eglwys, ac ni wybuwyd erioed fod unrhyw un o'r tuallan i'r Eglwys i hawl i ymyraeth l'i gwaith o gwbl. Daeth yn arfhriad cyffredinol fel hyn i dalu y degwm. ae os pallai unrhyw ddyn dalu yr hyn oedd ddyiedus penderfynid y mater mewn dadl gan yr Eglwys, ac nid gan y Wladwnaeth. Ugeiniau o flynyddoedd eyn bod Senedd Seisnig na Chymreig yr oedd y degwm wedi ei bendertynu, a gwaith y Senedd ydoedd cadarnhau yr arferiad. Rlienid y degwm rhwlllCl yr esgobion, yr offeiriaid. adeiladu eglwysi, a eliynhaliaeth y tlodion. Y rheswm dros dalu y degwm i'r esgobion ar y eyntaf ydoedd am fod yr eglwyai eto heb ddyfod yn gyffredinol, ond fel yr oeddynt yn cynydda yn eu rliif telid y degwm i bob offeiriad cysylltiedig fi'r Eglwvs, ae nid i'r esgob. Y ewestiwn nesaf ydoedd. Pa iodd y eymerwyd y degwm ymaith oddiar blwyfi eyfoethog gan nawddogwyr lleygol, a'r offeiriaid yn cael ond ychydig ? Mor fuan ag y sefydlwyd plwyfi drwy y wlad, a'r offeirisid yu cael eu talu, awgrymodd penaethiaid y mynach- logydd wrth nowyr bywoliaethau cymydogaethol i roddi y bywoliaethau hyny pan ddenent yn wag, iddynt hwy, yr hyn a wneid yn y rhan fwyaf o amgylcbiadau, gan adael ond yehydig i'r offeiriad at ei gynholiaeth ef a'i deulu; y mynachlogydd oedd yn eymeryd y gyfran fwyaf bob amser. Ond yr oedd yn rhaid iddo addef fod awdurdodauy Mynachlogydd, er eu bod yn lladrata eiddo yr Eglwys, yn gwneyd llawer o ddaioni ft'r rhan a gymerent. Hyn ydoedd hanct pob plwyf y pryd hyny. Ynnheyrnasind Harri yr Wythfed yr oedd y Mynachlogydd wedi llwyddo i gael i'w meddiant ewm fawr iawn o'r degymau, a darfu i Harri gymeryd nitadiant o'r Mvnachlogydd er ei fudd ei hun gy a'i gyfeillion. Yr oedd wedi addaw rhoddi tair miliwn a haner o bunau o honynt at wasanaetb Duw, ond ni wnaeth hyny. Cyrhaeddai cyfan- swm y tithe-rent-charge yn Lloegr a Chymru i bedair miliwn a haner o bunau vn flynyddol, ond ni dderbynia y clerigwyr plwyfol ond dwy filiwn a thri ehwarter o honynt. Elai y gweddill i noddwyr lleygol, rhagflaenwyr y rhai &In derbyniasant gan Harri yr Wythfed yn amser y Diwygiad. Rhoddwyd rhan o'r degym- au hefyd tuag at gynhaliaeth colegau, ysgolion, See. Ni fwriadwyd y degwm erioed i gael eu treulio tuag at gynhaliaeth y tlodion. Gan fod y degwm mwyaf (great tithe) wedi ei gymeryd ymaitli gan Harri, (lactli yn augeurheidiol ar awdurdoilik y Mynachlogydd i roddi cynorthwy i'r tlodion. Wedi i Harri gymeryd y degwm oddiar y Mynachlogydd a'i roddi i noddwyr e-Y lleygol, ystyriwyd yn ddifrifol ar y mater gan ein Seneddwyr. ac yn nheyrnasiad Elizabeth pasiwyn Deddf y Tlodion mown cunlyuiad i'r camwri a wnaed gan Harr. Clywid personan yn dweyd yn fynych y «ellid defnyddio y degwm tuag at ameanion bydol, ond tybi&i ef eu bod hwy fel E41wY8w'r yn meddu hawl i'w heiddo eu hunain. Dywedid hefyd y dylem gael addysg rad, se os cymerid y degwm ymaith na fyddai raid talu dim tuag at addysg. Ffolineb o'r mwyaf ydoedd baldordd o'r fath. Yr oedd chwe' miliwn o bunau yn cael eu treulio bob blwyddyn er cynal ysgolion elfer;ol Lioegr a Chymru, a pha fodd y gellid en cario ymlaen ar y ddwy filiwn a haner o ddegwm a fwriedid trosglwyddo at yr amcan hwnw ? (Ttv barhav.)
Y TEILWRIAID KBWN CYN-HADLEDD.
Y TEILWRIAID KBWN CYN- HADLEDD. [OAN UNDEBW8.] Ni chafwyd erioed engraifft mwy grymus a nodweddiadol o deilwriaid Tooley Street yn eistedd mewn cynliadledd, ac yn anfon deiseb i'r Senedd yn enw Pobl Lloegr, nag a gaf wyd yr wythnos ddiweddaf yn Nhynhadledd yr Ymreol- wyr Cymreig ac Ysgotaidd yn y lirifddinas. Gyda chryn anhawsder y cawsom o hyd i ad- roddiad o'r gweithrediadau am nad oedd y wasg Seisnig yn ystyricd yr ymfflamychiad Cymreig- Ysgotaidd hwn yn WerthJJrhoddi cyhoeddus- wydd iddo. Nid yw yr adroddiad sydd ger ein bron ond rhyw fras-linelliad or areithiau a dra- ddodwyd, ac ymddengys oddiwrth grybwylliad a welsom gan ohebydd oedd yn bresenol fod rhai ffeithiau pwysig wedi eu gadael allan, yr hyn a eilw y dysgedigioii aal)preasio veri--darn- geliad y gwir. Dywed nad oedd yr holl weith- rediadau ond, a dcfnyddio ei eiriau ei hun, miserable fiasco." Gyda y trystfawr Dr. Clark yn y gadair nad oedd dim ond methiant i'w ddisgwyl, ac heblaw hyn, bod elfenau anghyd- gordiad yn amlwg yn y Gynhadledd. Aeth dau aelod Cymreig allan o'r Gynhadledd we<u eu llwyr syrffedu am eu bod yn methu llwyddo gyda'r frawdoliaeth gymysgryw i sicrhau dad- gysylltiad fel y pwnc blaenaf yn y rhaglen Radicalaidd. Y mae'r aelodau Ysgotaidd yn fwy o Home Rulers nag o Ddadgysylltwyr, ond y mae'r aelodau Cymreig yn fwy o Ddagysylltwyr nag o Home Rulers, >3 hyn oedd yr achos o'r anghydgordiad. Ac heblaw hyny, dywedir nad yw rhai o'r Ymreolwyr Ysgotaidd yn bleidiol i ddadgysylltiad. Ymladd yn Illy oedd y cynrych- iolwyr o Gymru A'r Ysgotiaid hirben ar y pwnc hwn, ac nid oedd fawr reality yn y gweithred- iadau. Yr oedd y cynrychiolwyr Cymreig ac Ysgotaidd yn hollol ymwybodol nad oedd y cri am Home Rule i Gymru a'r Alban ond ifug a lledrith. Wel, gadewch i ni weled pwy oedd y teilwr- iaid o Gymru oedd yn bresenol yn y National Liberal Club, Lluniaia, yn y Gynhadledd fytii- gofiadwy hon. Yn mysg yr Aelodau Seneddol ceir enwau Mr. Alfred Thomas, Mr. Arthur Williams, Mr. S. T. Evans (Canolbarth M organ- wg), a Mr. D. A. Thomas. Yr oedd y Parch. Aaron Davies, Pontlottyn y Parch. W. M. Thomas, Caerlloon-ar-Wysg; Mr. William Jones (Cymdeithas Cymru Fydd) Mr. F. L. Davies, Femdale; Mr. 8. C. Erang Williams, Rhaiadr Mr. Lewis, Bangor, et hoe genus ornne, ymhlith y goleuadau Cymreig. Darllenwyd llythyrau o ymddiheurad oddiwrth Mr. Dillwyn, Mr. J. Lloyd Morgan, Mr. Pritchard Morgan, ac eraill. Digon prin y gellid disgwyl ir Aur-Frenin roddi ei bresenoldeb yn y Gynhadledd ar ol y gurfa yn Nhy y Cyffredin y noson flaenorol. Dywedodd y Cttdcirydd yn ei sylwadau agor- iadol, fod gwahaniaeth dirfawr rhwng y Cwestiwn Ysgotaidd a'r un Cymreig, er fod cryn lawer o debygrwydd rhyngddynt mewn rhai ystyriaethau. Cmdai fod y cwestiwn yn add- fedu yn gyflrm yn Yagotland, ac yr oedd yn dda ganddo ddeall ei fod o'r diwedd yn dechreu cynhyrfu Cymru, lie y gallasai, yr oedd o'r farn, ddyfod y ewestiwn pwysicaf yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cyn myned ymlaen gyda gwaith penodol y Gynhadledd bu cryn ddadleu ar safle rhai o'r dirprwywyr mewn perthynas i'r cwestiwn o Ddadgysylltiad. Dywedodd Mr. Tilston, Gwrecsam, cynrych- iolydd Cyngrair Rhyddfrydig Gogledd Cymru, fod y Cyngrair Cymreig a Chymdeithas Cymru Fydd wedi pasio penderfyniad en bod yn dyfod i'r gynhadledd hono ar y dealltwriaeth clir nad oedd dim i gael ei wneyd fyddai yn tueddu i niweidio safle y cwestiwn o Home Rule i'r Iwerddon a Dadgysyllltiad i'r Gymru yn rhaglen y blaid Ryddfrydol. Dywedodd y Cadeirydd fod y gwahoddiad i gyfarfod mewn pwyllgor wedi dyfod o Gvmru, a u bod wedi cyfarfod y dydd hwnw i ystyried y cwestiwn y Home Rule i Gymru, ac nad oedd dim a wnelent a'r uncwestiwn arall. Cynygiodd y Parch. Aaron Davies berderfyn- iad i'r perwyl fod yr amser wedi d'od pryd y dyiid ymddiried i'r Ysgotland a Chymru reol- eiddiad eu hachosion cenedlaethol eu hunain, yn ddarostyngedig i uwchafiaeth y Senedd Ymer- odrol. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. M'Lardy, Glasgow, a chymerodd cryn ymdrafodaeth Ic ar y mater. Dywedodd Mr. John Lengf A.S., Dundee, ei fod yn dadleu dros Home Rule all round; a chvnygiodd Mr. Lewis, Bangor, well- iant i gymeryd Lloegr i mewn. Barnai Mr. O'Connor Power mai y ffordd debycaf o Iwyddo am Home Rule fyddai drwy gyfundrefn o gyngreiriad. Cymerodd dadI boeth le ar hyn. Gwrthwynebid y gwelliant ar y tir nad oedd dim dirprwywyr yn bresenol yn y Gynhadledd yn cynrychioli Lloeg. Tynodd Mr. Lewis, er mwyn iddynt fod yn unol, ei welliant yn ol, a phasiwyd y penderfyniad gwreiddiol. Cynygiodd Mr. Griffiths, Ysgrifenydd Cym- deithas Cymru Fydd, fod pwyllgor i gael ei ffurfio y dydd hwnw o ddeuddeg o Scotland, o'r hyn lleiaf, a deuddeg o Gymru i dynu allan gyfansoddiad o Home Rule Council i'r ddwy wlad. Yr oedd rhai dros ohirio yr holl gwestiwn i gynhadledd arall, ond gwrthwynebwyd yr awgrynuad yn y modd mwyaf penderfynol gan Mr. Griffiths, a diwedd yr yingiprys fu i'r Cadeirydd gynyg penderfyniad i apwyntio pwyllgor o 24, a bod y cyfryw i ad roddiad i gynhadledd arall. Buasai yn ddy- ddorol cael golwg ar enwau y deddf wneuthur- wyr Radicalaidd. Mewn difrif, a yw yr ymyrwyr hunan-dybus hyn yn tybied mai gwneyd mwnci brwyn w ddiwrnod gwlawog ydyw ffurfio cyfansoddiad gwiadol ? Pwy a o»ododd y gwyr prysur a dibris hyn yn farnwvr ar Cymru. dyn a'i helpo Ond y mae un cysur, gall Cymru anadlu yn rhydd am dymor eto. Hhaid pasio Home tlule i'r Iwerddon, a dadgysylltu yr Eglwys yn Nghymru, cyn y daw yr hunllef Kadicalaidd hwn i'w hafionyddu. Mae'r Itadicaliaid Cymreig wedi gohirio y cwestiwn o Home Rule i'r Greek Kalends gyda dialedd. Ha ha
- ------.r,,,,---YR ANWYDWST.…
-r, YR ANWYDWST. Ail ymddangosodd yr haint a adnabyddir fel yr anwydwst {Influenza) yn Styria, Awstria, yr wythnos ddiweddaf. Bu tri o wyr ieuainc farw o hono yr un diwrnod. Hysbysir fod cwn yn dioddef i raddau helaeth oddiwrth y clef yd yu yn y Southern Tyrol, a bod nifer fawr o'r creaduriiiid wedi marw o hono.
TENNYSON Y BARDD. I ;:■i
TENNYSON Y BARDD. Ar ol bod mewn cyflwr peryglus am beth amser y mae y Poet Laureate yn araf well a. Dioddefa oddiwrth enynfa yr ysgyfaint. a chan ei fod mewn gwth o oedran coleddid wythnos neu ddwy yn ol ond ychydig oobaith y buasai iddo ddyfod trwy ei afiechyd. peryglus.
—. AFIECHYD Y PAB 0 RUFAIN.…
— AFIECHYD Y PAB 0 RUFAIN. f)¡ Hysbysir fod y Pab ar ei wely angau, a'i fod wedi enwi Cardiral Yonutelli fel 01 V Y mae yn ,-a-j.e.i-iad r> n y f it, i pan. ] n u f xx wyr, ond nid yw j i oil du o jii tl gan fod y cardinaliaid yn ethoi rliywun a ddymunant, fel y gwnasthant gyda'r Pab presenol, er fod ei rugflaenydd wedi enwi Cardinal Alfiieri fel ei olynydd.
---_.---DOCIAU BARRY.
DOCIAU BARRY. Mae pob tebygolrwydd y bydd i gwmni y doc- iau mawrion yn Barry gael eu gwysio i yrn- ddangos gerbron rhai o farn wyr y wlad, gan fod Arglwydd Wimbourne yn hawlio mai eie ydyw perchenog y tir ar ba un y saif y dociau. Os cymer y prawf Ie, a dywedir nad oes amheuaeth am hyny, bydd dyddordeb mawr yn cael ei gy- meryd ynddo, gan fod buddianau nifer fawr yn gysylltiedig a'r dociau hyn, a bydd y car^yniadau yn ddifrifolpa un bynag o'r ddwy cchr a, enilla, gan has gellir dirnsd y costau sydd yn rhwym o ddilyn ymgyfreithiad o'r f ath.
.' DIGWYDDIADAU ECHRYDUS YN…
DIGWYDDIADAU ECHRYDUS YN SIBERIA. BENYWOD YN, NEWYXU EU HUNAIN. KewyddioM a dderbyniwyd o Siberia, lie yr anfoniry carcharorion Rwsiaidd i dreulio eu lioes, a fynegant fod digwyddiadau arswydus wedi cymeryd lIe yn ddiweddar. Oherwydd cyfreitliiau llymion y Llywodraeth Rwsiaidd, ni fnivydyn alluog i gyhoeddi y manylion liyd yn awr. Ymddengys fod nifer o foneddigesau wedi eu carcharu yn Kara, Siberia Ddwyreiniol, ac er's drcs flwyddyn yn ol darfix iddynt wneyd protest ffurfiol yn erbyn MaskuolT, llywodraeth- wr y carchar, lie y cedwid hwy. Yr oedd efe wedi rhoddi gorchymyn i'w swyddogion i ym- dflwynyn greulon tuag at un o'r carcharorion, sef Madame SolwzeffiKovalsky, a chariwycl allan ei orchyrnyn gyda'r fath lymder fel y protestiodd y carcharorion benywaidd eraill yn etbyn ymddygiad Maekuoff, ond ni thalotfd un- rhyw sylw i hyny. Penderfynodd y benywod Da fwytant ddim o'r ymbortn a ddarpcrid ar on Cyier yn y carchar, a chariasant eu penderfyn- olalIrm am 18 niwrnod, pryd yr hysbyswyd ltwynt fod y- llywodraethwr ereulawn ac an- Hynol yn ymadael lie. Yn anffodns, darfu llywodraeth wrtbod derbyn yinddiswyddiad y lIywodraetlnvr, ft phendcrfynodd y benywod ymatal rliag bwyta am gyfnoc1 arall, apharha- odd am 22 o ddyddian. Grorfodid hwynt i gy- tneryd lluniaetli er eu gwaeihaf, onide buasent -vedi marw. Y pryd hyn, wrth weledy. creulon- derau a arferid tuag atynt, penderfynodd un o honynt, sef Madame Niliida, aberthu ei hunan. Daeth i'r peiiderfyniad i herio y llywodraethwr, er mwyn dwyn arni ei liun ddedfryd o farwbl- aetli drwy ddienyddiad. Wedi iddi fyned i bresenoldeb y swyddog hwnw, tarawodd ef yn ei wyneb amryw weitliiau, a gorchymynodd iddi gael ei fflangellu yn ddioed, yr lyn a wnaed. Derbyniodd uwchlaw cant o fflangelliadau a bu y druanes farw mewn canlyniad i'r driniaeth a dderbyniodd ymhen dau ddiwrnod. Yr oedd tair o'r carcharorion wedi cael caniatad i weini ar Madame Sihida, a phan y bu farw, rhodd- asant derfyn ar eu bywydau drwy gymeryd gwenwyn. Yn ychwanegol at hyn, cymerodd 30 o garcharorion eraill wenwyn, ondllwyddwyd i achub bywydau yr oil ond dau. Mae y creulonderau a arferir tuag at garcharorion Rwsiaidd bron yn anhygoel, a chymerir y gofal mwyaf i rwystro cyhoeddiad y cyfryw yn y newyddiaduron, yr hyn yw y rheswm na chlywir ond anfynych am y gweithredoedd dieflig a gyflawnir yno ar rai sydd wedi eu tynghedu i dreulio eu hoes yn Siberia a manau eraill.
. SYR MOREL MACKENZIE A'I…
SYR MOREL MACKENZIE A'I ATHRODWYR. PRAWF PWYSIG YN LLUNDAIN. Yn Ilys y Queen's Bench, Llundain, ddydd Gwener, dygodd Syr Morel Mackenzie, y medd- yg enwog, gyngaws yn erbyn Syr Edward Stein- kopff. perchenog y St, James' Gazette, am 0 gyhoeddi athrod arno ychydig fisoedd yn ol. Ysgrifenodd y diffynydd ddau lythyr at Mr. Greenwood, diweddar olygydd ei newyddiadur, yn y rhai y gwneid cyfeiriadau maleisus at yr achwynydd ynglyn a'i alwedigaeth fel meddyg y diweddar Ymerawdwr Frederic o Germani. Ym- ddangosai Syr C. Russell, Q.C., Mr. Asquith, Q.C., a Mr. A. Russell o blaid yr achwynydd, ac amddiffynid.y diffynydd gan Mr. Finlay, Q.C., a Mr. Percy, Q.C. Gwadai y diffynydd fod y Uythyrnu yn cynwys unrhyw athrod, ondtalodd o j'r ilys fel iawn digonol. Wedi i Ao luiuyv lystioa, ac i'r dadlouwyr anerch y rheithwyr, symiodd y barnwr i fyny, a dych- welywyd dedfryd o blaid yr achwynydd, gyda £ 1500 a'r costau. Dygwyd achwyniad hefyd yn erbyn y Times 6 gyhoeddi athrod yn erbyn Syr Morel Mackenzie, ond penderfynwyd drWy gyd- syniad y ddwy ochr fod perchenog,y Times i dalu iawn o X- 150 a'r costau.
----YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR,
YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR, Ar ol bugeiliaeth o un flynedd ar ddeg ar hugain, sef oddiar y flwyddyn 1859, y mae Dr. Campbell, Arglwydd Esgob Bangor, ar fedr ym- ddiswyddo. Nid yw iechyd ei arglwyddiaeth yr hyn a ddymunid, ac y mae yn debyg fod ei feddyg wedi ei gynghori i roddi i fyny ei swydd. Yn yr argyfwng presenol, y mae pwysigrwydd anarferol yn gysylltiedig a gwaghad y gadair esgobol yn Mangor, ac y mae y newydd parthed i ymddiswyddiad yr hybarch brelad yn sicr o greu pryder dwfn yn nghalonau caredigion yr Eglwys. Ar ol llafur a lludded ei yrfa gyhoedd- us, eiddunwn nawdd Du% i'r Esgob ar ei eiicil- iad o'r cylch swyddogol i dawelwch a gorphwys- dra bywyd anghyhoedd.
.' EWYLLYS Y DIWEDDAR MR.…
EWYLLYS Y DIWEDDAR MR. BIGGAR. Dywedir fod Mr. Biggar, yr aelod seneddol Gwyddelig a fu farw yn ddisymwth yr wythnos o'r blaen, wedi gadael y swm o £ 50,000 ar ei ol. Yn ei ewyllys y mae cymunroddion i'w hen was- anaethyddion, ond gadawodd gorff ei gyfoeth i'w fab, Mr. Joseph Biggar. Os bydd i'w fab farw .9 cyn cyraedd cyflawn oedran, aiffi rhan helaeth o'r Eglwys Babyddol.
----------MR. STANLEY.
MR. STANLEY. Bwriada Mr. H. M. Stanley gyraedd y wlad hon tua diwedd Ebrill. Disgwylir y, caiff dder- byniad tywysogaidd. Etholwyd ef ar y 23ain o Chwefror yn aelod mygedol o'r Savage Club, Llundain. Mid yw hyn yn ddiameu ond blaen- ffrwyth yr anrhydedd a syrth i'w ran ar ei ddy- chweliad i wlad ei enedigaeth.
.-URDDIADAU YN NGHYMRU.
URDDIADAU YN NGHYMRU. LLANDAF. Cynhaliodd Arglwydd Esgob Llandaf urddiad cyffredinol yn yr Eglwys Gadeiriol ddydd Sul diweddaf, pan y derbyniodd y boneddigon can- lynol urddau sanctaidd.' Y pregethwr ydoedd y Parch. Daniel Evans, rheithor Llanrhaes. Offeiriaid. Lewis Davies, B.A., Coleg Dewi Sant, Llan- bedr, curad Sciwen. Thomas Cynon Davies, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Llanblethian gyda Pontfaen a Welsh St. Donats. Thomas Edwards, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Southerndown. Christian Hartley, Coleg St. Bee's, Cumber- land, curad Canton. Daniel Ernest Llewellyn Jones, Literate, curad Llanddow. John Jones, Associate o Goleg y Brenin, Llun- dain, curad Bettws. John Latimer Kyle, B. A., Coleg St. Catherine, Caergrawnt, curad St. loan, Caerdydd. David Phillips,;B.A., Coleg y Drindod, Dublin, curad Pentrebach. Harold Stepney Williams, Lie. Th., Prifysgol Durham, curad Tredegar. John Williams, Coleg St. Bee's, Cumberland, curad Llantrisant. Morgan Cadwaladr Gower Williams, Lie. Div., ColeS Dewi Sant, Llanbedr, curad Pentrebach. Diaeotiiaid. Alfred William Addams-Williams, Coleg Oriel, Rhydychain. George Blackwall, Coleg y Drindod, Dublin. John Phillips Davies, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr. Thomas Lloyd, Lie. Div., Coleg Dewi Sant, Llanbedr. William Donald Istance Mackintosh, Coleg St. Bee's, Cumberland. David Thomas, Coleg St. Bee's Cumberland. William Williams, B.A., Coleg yr lesu, Rhyd- ychain. Enillwyd y Crawley Prize" gan y Parch. David Phillips. Darllenwyd yr Efengyl gan Mr, Addams-Williams. Trwyddedwyd y rhai canlynol yn ddilynol i guradiaethau:— Parch. A. W. Addams-Williams, B.A., i Uan- gatwg-Caerlleon, Sir Fynwy. Parch. G. Blackwall i Bettws, Sir Forganwg. Parch. J. P. Davies, B.A., i Trefethin, Sir Fynwy. Parch. T. Lloyd, Lie, Div., i Dowlais, Sir For- ganwg. Parch. W. D. I. Mackintosh i Dowlais. f' Parch. D. Thomas i Tylorstown gyda Ferndale, Sir Forganwg. Parch. W. Williams, B.A., i Gastellnedd gyda Llantwit, Sir Forganwg. BAKOOB. Cynhaliwyd gwmnaeth urddiadol ddydd Sul diweddaf ganArglwydd Esgob Bangor yn ei Gad(-itiol I Offeiriad. John Williams, B.A., Prifysgol Durham, curad Aber, Sir Gaernarfon. Diaconiaid. Llewellyn G. Jones, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, trwyddedig i gunaiaeth Llauddeusant, Sir Fon. Lewis Jenkins, B.A., Coleg Dewi vatli, Llan- I bedr, trwyddedig i guradiaeth Dolwyddelen, sir Gaernarfon. Robert Stephan Edwards, B.A., Cc-leg yr Iesu, Rhydychain, trwyddedig i guradiaeth Caer- narfon. Traddodwyd y bregeth gan yr Ilybarch Arch- ddiacon J. Pryce, M.A.
- GWYL DEWI SANT.
GWYL DEWI SANT. Dathlwyd gwyl Dewi Sant fel arferol yn y rhan fwyaf d drefydd Cymru, ac yn rhai o dref- ydd Lloegr ac Ysgotland. Mae pob arwydd fod yr wyl hon yn dyfodyn fwy cyffredinol yn bar- haus, a da genym ddeall fod gwasanaethau cref- yddol wedi eu cynal mewn rhai manau ar y dydd uchod, a disgwylir y byddant yn fwyicyffmlinol yn y dyfodol. Mewn gwledd a gynhaliwyd gan Gymrodorion Caerdydd, yr oood y menu fel y canlyn, a dodwn. ef yn Gymraeg a Saesneg er budd ein darllenwyr, gan ei fcKlyn wreiddiolyn ei gynllun, ac yn arddangos cywreinrwydd ar ran y rhai a'i cynlluniodd :— BWYDRESEB (MKKC). Isgell (Soups ). Cawl Cymreig (WeLil Broth). Llosgrwn Eidion (Ox Tail). Pysg (Fish). Sibr Penfras (Cod-fish Sauce). Ysnoden o Leden. Chwithig (Fillet of Soles). Sibr Gwin Gwyn (White Wine Sauce). Cigfwyd (Remove3). Cig Eidion Berw a Thorpell "Wer (Boiled Beef and Suet Dumplings). Tumon MoIIt Cymreig Rhost (Roast Saddle of Welsh Mutton). Morddwyd Mollt Cymreig Berw (Boiled Leg of Welsh Mutton). Llwyn o Gig Eidion Rhost (Roast Sirloin of Beef). Cig Llo Rhost a Bacwn (Roa st Veal and Bacon). Cenin, Panas, Erfin, &c. (Leeks, Parsnips, Turnips, &c.) Melmion (Sioeets). Poten Ffigys (Fig Pudding). Poten Cymrodorion (Cymrodorion Puddirtg). Pastai Afalau (Apple Tarts). Melyswy (Custards). Caws ac Addail (Cheese and Salad) Ancwyn (Dessert).
AFIECHYD YR HYBARCH ARCHDDIACON…
AFIECHYD YR HYBARCH ARCH- DDIACON HOWELL. Gyda gofid y deallwn fod yr Hybarch Arch- ddiacon Howell, ficer Wrecsam, yn dioddef yn drwm dan yr influenea. Gobaith pawb o'i gyd- nabyddion yw y caiff adferiad buan.
,. Y FFRWYDRAD GERLLAW ABER-j…
Y FFRWYDRAD GERLLAW ABER-j SYCHAN. Da genym hysbysu fod y tanysgrifiadau tuag at leddfu dioddefiadau y gweddwon a'r amddi- faid a gollasant eu perthynasau drw y ffrwydrad alaethus uchod yn dylifo i mewn yn ddyddiol, ac y mae brwdfrydedd anarferol yn cael ei ar- ddangos ynglyn a hyn drwy bob parth o'r byd. Disgwylia y pwyllgor sydd yn gofalu am y drysorfa y ceir swm digonol o artan i gynorth- wyo yn sylweddol y rhai sydd mewn angen. Mae y trengholiad wedi ei ohirio hyd y 26ain o'r mis presenol.
[No title]
Y mae oddeutu 125,000 o arjrraSwvr yu yr Unol Dalasthau. Nis gall masnachwyr, ac craill a dJj'mmiant ychwanegu en derbyniadau drwy sicrhau rhagcr o gw«nieriaid wneyd yn well 11a chylioeddi eu hysl»ysiadau yu Y Li.an a'i: J)ywys<k.ai:tii, y eyfrwng hvsbysiadol goreu yn Ngliyn ra Trowch at Dclnw un diwrnod cyn eich marwolaeth," tnpddui Rabbi Eliezer. -1 Siit v Mae dyn iwybod pa ddiwrnod y bydd efe brw?" gofyuai ei ddisgyblioit. Gan hyny," oedd yr ateb, chwi ddylech droi at Dclnw heddyw. Efallai mai yfory y byddweh farw; felly, trowch at Dduw bob diwrnod." Y mae yn angenrheidiol i bobl gael tri pbetli, tri t.fferyu, nit-ddui Arcliesgob Ctergtii-it, er decbtrti ar y gwaith o ddiwyllio eu hunain trwy faddion lljfrgtll. Y cyntaf ydyw cael cyflenwad o lylran, yr ail ydyw astudrwydd, a'r trydydd ydyw edrycli all an ar y hyd mawr, er mwyn gweled snt y niae yr arLoelion a ddes- grlllr mewn llyfrnu yn cyfateb i'r artzoeliou a welant yn cymeryd lie y tuallad. Oddi»-ithr iddynt wnenthnr y pethnu liyn, ni ddeunnt i adnabod y hyd yu inlin an y rnaent yu w. na'r llyfrau eu hunain. Y mae efe yn cynglwri y cyfryw bobl i at-tndio un petli, y peth y inaent yn gweitliio wrtho, n bo(I yn rhaid i bob dyn wneyd ei feddwl i iyny drosto ei hun beth ddylai hwnw fod. Os y cymerant han< syud- yddiaeth, dylent lynu wrth gyfuod uedidaui, astudio yn drwyadi.