Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

HELAETHIAD Y LLAN.", - ,,

AMCAN "Y LLAN."

Y LLAN" A'R WASG YMNEILLDUOL.

"Y LLAN" A GWLEIDYDDIAETH.

PYNCIATJ DYDDOROL.

TYMER EGLWYSWYR.

--YR WYTHNOS NESAF.

Y CYMRY YN LLUNDAIN.

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

•TYSTIOLAETH MR. JOHN ELIAS, 0 FON, AM YR EGLWYS SEPYDL1DIG. Mewn cyfwng fel y presenol, pan y mae Ymneillduaeth Gymreig wedi cilio mor bell o'i hen angorfeydd, nid annydd- orol f eallat fyddai y dyfyniad canlynol o hen gyhoeddiad, yn yr hwn y datgana Mr. John Elias ei farn am yr Eglwys :— Rhaid i mi addef fy mod yn Ymneill- duwr, neu yn hytrach yn ymwahanwr oddiwrth yr Eglwys Sefydledig (meddai Mr. Elias); ond ar yr un pryd, rhaid i mi ddweyd fy mod yn groes i rai Ymneill- duwyr yr oes bresenol, ac na allaf gyd- ymffurfio a'r Anghydffurfwyr diweddar. Gallaf wirio fy mod ymhell iawn oddi- wrth ddymuno cwymp neu ddinystr yr Eglwys, am fy mod yn caru ei llwydd ymhob peth sydd dda. Caraf yn ddidwyll ei gweinidogion duwiol a dysgedig, ac nid wyf yn cenfigenu wrthi am ei manteision a'i helw. Ynghylch diwygiad yn yr Eg- lwys, dymunwn weled un Ysgrythyrol ac Efengylaidd yn cael ei ddwyn ymlaen gan rai o'i Gweinidogion dysgedig, duw- iol, ac enwog eu hunain ond ni allaf ddisgwyl dim gwerth i'w alw yn ddiwyg- iad yn tarddu oddiar ddyfais a threfniad anghredinwyr, y rhai ydynt elynion Duw a'r Eglwys. Ac nid wyf yn gweled yn gyson i un blaid fyned i ddiwygio yr Eglwys Sefydledig. Y mae gan bob plaid ddigon o waith diwygio o fewn ei ther- fynau ei hunan. Ni ellir disgwyl i un sefydliad fod yn gwbl berffaith tra y gweinyddir y dyled- swyddau ynddi igan ddynion syrthiedig eto, nid yw yn ormod gofyn yn awr a oes un enwad yn. debyg o ateb y diben a ddylai fod gan bob plaid grefyddol, sef par- otoi yr enaid, o dan fendith Duw, erbyn tragywyddoldeb, yn well na'r Eglwys ? "Ystyriwch y gofal sanctaidd gyda'r hwn, fel mam dyner, y dilyna hi ni drwy bob cam o'n gyrfa ddaearol, ac yn gwylio dros ein heisiau a'n peryglon. Mor fuan ag y genir plentyn i fyd o bechod a gofid, cymer yr Eglwys ef o ddwylaw ei rieni, ac mewn ymadroddion o serch toddedig cyflwyna ef i nodded y Bugail Mawr. Ar ol ychydig o amser, pan gyrhaedda fiyn- yddoedd deall ac ystyriaeth, daw yr Eg- lwys ato eilwaith, a galwa arno i adnew- yddu ei gyfamod, a myned i fyny i Dy yr Arglwydd, gan ymgysegru i Dduw fel ei was a'i filwr. Yn nesaf, gwahodda hi ef, pan yn drwmlwythog gan faich o lygredd, at y bwrdd lie y mae y Cyfryngwr wedi addaw bod yn cyfranu gras a maddeuant. Ac nid yw yr Eglwys yn gadael y gwir gred- adyn yn y fan yna ychwaith-hi a'i dilyna ef i holl amgylchiadau ei gartref, a hi a rwyma y cwlwm hwnw ag sydd yn dwyn diddanwch teuluaidd. Disgyna gydag ef i ddyffryn cysgod angau, Ilona ef ag addewidion mawr iawn a gwerth- fawr, dadlena o fiaen ei lygaid ef ogoniant y byd dyfodol bydd gydag ef ar, ei glaf, wely i eini iddo, yn ei oriau cystudd- iedig a thywyHion, y cysuron melusaf. Pan ei gosodir i orwedd yn y pridd- ellau, safa yr Eglwys fel ei brif alarydd uwchben ei fedd, a hi a gana drosto farw- nad o ofid, a serch, a diolch Hi a gyf- lawna yn ei le swydd na ddichon efe, bellacli, ei chyflawni. Gwna'r marw yn athraw i'r byw, ac arweinia feibion eraill i ogoniant drwy roddi o'u blaen ddarlun o lawenydd yr hwn a huna yn yr lesu, gan ddywedyd,—" Mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn fyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arghvydd,"—ac a bregetha i ni yr adgy- fodiad o'r bedd i fuchedd draygwyddol."

Advertising

NODION O'R HEN OESAU, &c.

Y TAD IGNATIUS, MYNACHLOG…

Advertising

LLEF 0 OGLEDD LLOEGR.

PIGION DYDDOROL.