Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Da oedd genyf ddeall fod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH i gael ei helaethu ar fyrder, a gobeithio y gwna pawb o garwyr yr Eglwys ymdrech egniol i helaethu ei gylchrediad hefyd. Gresyn meddwl fod cynifer mor ddifater ar y pwnc hwn. Dangosant yn amlwg nad yw llwyddiant yr Eglwys yn agos at eu calonau, onide ymegnient rhywfaint i ddwyn gwirion- eddau am dani gerbron pobl eu gofal. A pha fodd y gellir gwneyd hyn yn well na thrwy introducio eich papyr clodwiw i bob plwyf trwy Gymru benbaladr ? Gwn yn dda am lawer plwyf yn siroedd Benfro a Chaerfyrddin lie nad oes un rhifyn o'r LLAN, Cyfaill, na'r Haul byth yn cael ei ddosbarthu. Beth y mae'r awdurdodau Eglwysig yn y plwyfi hyn yn wneyd, tybed ? Dim amgen na phlethu dwy- law a gadael i'r anwireddau mwyaf ffiaidd gael eu taenu gan y wasg Ymneillduol yn eu plith, a hyny heb wneyd un ymdrech i wrthbrofi eu haeriadau anwireddus. Pa ryfedd fod pobl y plwyfi hyn, a rhai cyffelyb iddynt, mor elyn- iaethus i'r Eglwys ? Pa ryfedd eu bod yn meddwl mai cartref pob ffieidd-dra ydyw yr Hen Fam anwyl? Dyma a ddysgir iddynt wythnos ar ol wythnos yn eu newyddiaduron, ac ni roddir cyfleusdra iddynt wybod dim yn amgenach. Gresyn meddwl mai ffaith ydyw hyn. Credaf mai y ffordd fwyaf effeithiol i helaethu Y LLAN ydyw trwy anfon newyddion lleol iddo o bob cyfeiriad. Paham na welir enw pob plwyf trwy Gymru yn ngholofnau'r LLAN 'nawr ac yn y man ? Nis gallwn ddisgwyl i'r bobl gymeryd llawer o ddyddordeb mewn newyddiadur, os na'welant rhyw hanes am eu hunain ynddo weitliiau. Mae genyf barch calon i'r Hendy Gwyn ar Dâf;" chwilia ef am rywbeth i ohebu yn ei gylch bob wythnos, ac nid yw ei lafur yn ofer, oblegid y mae y parcel wythnosol o'ch swyddfa i Mr. Harries, Whitland, wedi cynyddu yn -ddirfawr oddiar pan y mae wedi ymgymeryd ag anfon ei gyn- yrchion. Gobeithio y bydd llawer o'r newydd yn dilyn ei esiampl. Bydd yn dda genyf fi anfon llinell yn fynych, os bydd fy ysgrif hon yn dderbyniol.—Yr eiddoch, &c., CYMRO. [Diolch i'n cyfaill am ei addewid. Teimlwn yn ddiolchgar iddo am sypyn yn wythnosol, os yn bosibl, o newyddion.-GoL. ]

- CWMAFON.

Advertising

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRESENOL.

NODION 0 DDYFFRYN TOWY.

RHUTHYN.

--DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

--I TROEDYRHIW.

. MAESYGROES, LLANLLECHID.…

MERTHYR TYDFIL.

LLANELWY.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

NODIADAU 0 FEIRION.

RHYL.

DEONIAETH LLEYN.

--CWMAFON.

- CWMAFON.