Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Y mae eich gohebydd wedi bod yn ddistaw er's mis bellach, nid oherwydd nad oedd ganddo ddim i gofnodi am ein tref a'r ardal, ond yr achos oedd ei fod wedi bod yn dioddef yn ofnadwy oher- wydd yr anwydwst (influenza), yr hwn sydd wedi ymweled a ni yn ei ddull waethaf, ac wedi bod yn angeuol i amryw o'r dioddefwyr. Nid oes nemawr teulu wedi dianc rhag ei ymweliad, ond y mae yn dda genym ddweyd ei fod bron a'n; gadael erbyn hyn, a gwared da ar ei ol ef, onide ? Yn ddiweddar, ymwelodd Mr. W. H. Mason, Q.C., a ni, a chawsom ddwy araith arddercliog ganddo yn y Guild Hall, gyda'r magic lantern, ar Hanes a sefyllfa yr Eglwys yn y wlad hon." Rhoddodd foddlonrwydd mawr i'r cyn- ulliadau lliosog a ddaethant i'w wrando, yr hyn a barodd gynwrf nid bychan ymhlith gwersyll yr Anghydffurfwyr.— Hefyd, y mae y Parch. B. P. Griffith, cynrychiolydd y C.E.T.S., wedi ymweled a'r rhan fwyaf o'r plwyfi. cylchynol, ac wedi cael derbyniad calonog. Yn mhellach, y mae y Parch. C. H. Davies, Arholwr Ysgrythyrol yr ysgolion yn yr Esgobaeth, ar ei daith yn y gymydogaeth rma. Felly, gwelwch nad ydyw yr achos Eglwysig yn cysgu yn ein plith, ond ymlaen y mae yr Eglwys yn myned ar gynydd o ddydd i ddydd.—Ar ol i ni Avella yn drwyadl, cewch hanes mwy c-yiio y tro iiesaf.-Hyii-el Idlocs.
-. LLANSAMLET A'R CYLCHOEDD.
LLANSAMLET A'R CYLCHOEDD. DARLITH. Nos Fercher diweddaf, bu Mr. Mason yn traddodi darlith ar Hanes yr Eglwys a'r Degwm." Yr oedd yr ystafell eang yn orlawn. Siaradodd am awr a haner yn ddoniol ac i bwrpas. Oherwydd nad oedd ei gyfaill wedi dyfod a chyflenwad digonol o nwy gydag ef, methwyd defnyddio y lantern. Parodd hyn siomedigaeth i'r dosbarth ieuengaf o'r gwrandawyr. Y mae Mr. Mason wedi addaw dyfod yma eto nos Fercher, y 2()ain o'r mis hwn. Felly, cadwn ein tocynau yn ofalus, a deuwn i'w wrando yn llu banerog ar y noson grybwylledig. LLENYDDIAETH.—Y mae y plwyf hwn yn enwog am ei feirdd a'i lenorion, ac un rheswm am hyny, y mae yn ddiameu, ydyw y cyfleusderau mynych a roddir i'r preswylwyr i wrteithio eu meddyliau, ac i ymddadblygu yn foreu. Bob gauaf cynhelir cyfarfodydd llenyddol mewn gwahanol barthau o'r plwyf. Eleni, cawsom gyfres o honynt yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, ac yn Tabor, Maesybar. Yr oeddem yn falch o weled enwau dau o'n beirdd ieuainc ymysg yr ymgeiswyr budd- ugol yn Eisteddfod Gadeiriol Glandwr, sef, Eilir Mai a Mr. M. Walters. EGLWYS NEWYDD.—Da oedd genym weled wrth basio drwy Birchgrove, ddoe, fod yma eglwys newydd hardd yn cael ei phrysur adeiladu. Dywedai Mr. Llew- ellyn, yr adeiladydd, wrthym y bydd wedi ei gorphen cyn diwedd yr haf. DAMWAIN.—Digwyddodd tro anffodus yn ngwaith dur Birchgrove yr wythnos ddiweddaf i ddyn ieuanc o'r enw James. Syrthiodd rhwng olwynion y peiriant, ac anafwyd ef yn dost. Y mae o dan ofal meddyg medrus, a gobeithio yr arbedir ei fywyd. AR GOLL.—Collwyd, tua chanol mis Awst, 1888, yn nhref Aberhonddu, ysgrif- enwr galluog o'r enw Pentwyn." Ofnir iddo gael ei hud-ddenu. Pwy a rydd ei hanes ? Y JGARAWys.-Pregethw)-d yn eglwys y plwyf, nos Fawrth diweddaf, gan y Parch. E. W. Evans, B.A., Clydach. Y mae yn ddyn ieuanc gobeithiol, yn bre- gethwr cymeradwy, ac yn Gardi" o'r iawn ryw.—Tertullian.
- BARGOED, GELLIGAER.
BARGOED, GELLIGAER. "P ARADWYS." Nos Iau diweddaf, cafwyd dadganiad rhagorol o'r Oratorio yma o eiddo Fawcett, gan gor o'r lie hwn o dan arweiniad Mr. John Llewelyn. Cyixrychiolwyd y prif gymeriadau gan Miss S. A. Evans, R.A.M., a Mr. Robert Davies, Pontlottyn. Cynorthwywyd y cor gan gerddorfa linynawl o Gaerdydd, o dan arwciniad Mr. Roberts. Cyfeiliwyd ar yr harmonium gan Miss Annie Llewelyn.
NODIADAU SENEDDOL.
NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] YR WRTHBLAIID, AC ADRODDIAD Y DDIRPRWYAETH ARBENIG. Ddechreu yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd Mr. John Morley, yn absenol- deb Mr. Gladstone, rybudd y byddai iddo, pan ddygai Prif Arglwydd y Trysorlys ei gynygiad ymlaen mewn perthynas i ad- roddiad y Ddirprwyaeth Arbenig, gynyg fod i'r geiriau "fod y Ty yn mabwys- iadu yr adroddiad, yn diolch i'r dirprwy- wyr am eu hymddygiad teg a diduedd, ac yn gorchymyn ar fod i'r adroddiad gael ei roddi ar goflyfrau y Ty," i gael eu gadael allan, a bod y geiriau canlynol i gael eu hychwanegu—"Bod y Ty hwn yn ei hystyried yn ddyledswydd arnynt i ddatgan yn gyhoeddus eu hymwrthod- iad ar cyhuddiadau twyllodrus ac athrodgar a ddygwyd yn erbyn aelodau o'r Ty, ac yn bendifaddau yn erbyn Mr. Parnell, a thra yn datgan eu boddhad yn ninoethiad y cyhuddiadau enllibus dan sylw, fod y Ty yn amlygu eu gofid am y camwri a wnaed a'r golled a ddioddef- wyd am dymor hir mewn canlyniad i'r camgyhuddiadau gwrthun a gwarad- wyddus hyn." Dyna sylwedd y gwelliant a ddarllen- wyd gan Mr. John Morley dros arwein- ydd yr Wrthblaid, ac nid yw yn bosibl i ddim fod yn fwy unochrog ac allnheg. Nid yw yn cynwys yr un gair o gondemn- iad ar ymddygiad yr aelodau Parnellaidd a gafwyd yn euog o fod yn gyfranog n gy mewn cydfradwriaeth anghyfreithlon y rhai a arweinient yn anocheladwy i'r troseddau mwyaf dychrynllyd ac annynol a gyflawnwyd erioed, a hwythau yn ym- wybodol o'r ffaith. Nid yw yn bosibl i foesoldeb gwleidyddol syrthio yn is na hyn ae y inae yn ffaith alarus fod Mr. Gladstone, yr hwn a fu dair gwaith yn Brif Weinidog Prydain Fawr, wedi tynu. allan y fath welliant annheilwng o wlad- weinydd. Yn nesaf rhoddodd Syr Charles Lewis, pe digwyddai i welliant Mr. Gladstone gael ei gaiio, rybudd y byddai iddo alw sylw at y ffaith fod naw o'r aelodau Parnellaidd wedi eu cael yn euog o fod yn gyfranog mewn cyngreiriau bradwr- iaethol, a 43 mewn cydfradwriaeth droseddol, a bod y Ty o'r farn fod ym- ddygiad v cyfryw aelodau yn liaeddu,y condemniad llymaf. (BIoelddiadaii o, gymeradwyaeth o'r meiriciau Undebol.) Y PARNELLIAID A'R AELODAU CYMREIG. Nid rhyw lawer o gydymdeimlad sydd rhwng y Parnelliaid a'r aelodau Radical- aidd Cymreig. Yroeddyrolaf wedi sicrhau nos Lun i ddadleu y cwestiwn o Home Rule i Gymru ond cynygiodd Mr. Sexton ohirio y Ty er galw sylw at ymddygiad "anghyfreithlon" a barbaraidd yr heddgeidwaid yn yr Iwerddon yn eu gwaith yn ceisio rhwystro bwthynod i gael eu codi i'r tenantiaid a drowyd allan o'u tai yn Clongorey, a chymerodd yr ym- yriad anesgusodol hwn ar jan y gwlad- garwyr Gwyddelig i fyny fwy na haner yr eisteddiad. Amddifadbdd yr ym- ddygiad annheilwng yma o eiddo y cyngi-eiriaid Gwyddelig yr aelodau Cym- reig o'r rhan oreu o'r dydd, ac ni rodd- odd y Parnelliaid y cymorth lleiaf iddynt yn y ddadl ar Ymreolaeth i Gymry. Served them right, tra y maent yn ym- foddloni ar fod yn bawen cath i'r Nasiwn- aliaid Gwyddelig. Dyn a'i helpo GWELLIANT MR. ALFRED THOMAS. Fel y sylwyd yn y rhifyn diweddaf, cynygiodd Mr. Alfred Thomas, yr aelod dros Ddwyreinbarth Morganwg, welliant i'r Anerchiad yn ifafr sefydliad Swyddfa annibynol i ddwyn ymlaen achosion o natur hollol Gymreig dan lywyddiaeth Gweinidog adnabyddus a nodweddiadau cenedlaethol Cymru. Condemniodd yr ymgais a witaed yn y gorphenol i Seis- nigeiddio gwlad ag oedd mor wahanol yn awr o ran cenedl ac iaith ag ydoedd dri chan mlynedd yn ol, a rhoddai bwys neillduol ar yr anhawsder ynglyn a gweinyddiad eyfiawnder yn y Dywysog- aeth drwy gydnabod y Saesneg fel iaith swyddogol. Aeth >ymlaen i siarad ar y cwestiwn o weinyddiad gwahanedig y gyfraith yn Nghymru fel yn dal perth- ynas ag atafaeliad am ddegwm yn y wlad, ond galwyd ef i "drefn" gan y Llefarydd am ymdrin a'r cwestiwn degymol yn gyffredinol yn hytrach na'i ddefnyddio fel eglurhad. Dadleuai fod yr hyn a hawlid gan Gymru yn hynod gymedrol; yr oedd gan Ysgotland a'r Iwerddon Weinidogion yn barod, y rhai a allent basio mesurau yn dwyn perth- ynas a'r gwledydd hyny, tra nad oedd gan Gymru yr un cyfrwng i wneyd ei hanghenion yn wybyddus ond drwy aelodau unigol, ac yr oedd anhawsder mawr i sicrhau y ddeddfwriaeth oedd yn ofynol iddi. Dywedodd Mr. Pritchard Morgan, wrth eilio y gwelliant, os na chawsai Cymru yr hyn oedd yn ddymuno, sef cydnabyddiaeth o'i bodolaeth unigol (individuality), y buasai raid i'r Cymry ddefnyddio moddion eraill drwy y rhai y gellid sylweddoli eu huchelgais cenedl- aethol. Yr oedd y Cymry yn hawlio cydnabyddiaeth, nid fel cenedl wahan- edig, eithr fel rhan o'r bobl Brydeinig, yn meddu nodweddion a dyheuadau neill- duol. Yr oedd yn amlwg oddiwrth don ar- aith yr aelod dros Merthyr ei fod yn gwybod mwy am wythienau yr aur yn y Gwynfynydd a Dyffryn y Mawddach nag am faterion gwleidyddol. Barnai yr Anrhyd. George Kenyon mai yr amcan mewn golwg gan gynygydd ac eilydd y gwelliant ydoedd cael allan pa mor bell yr oedd eu cyd-aelodau a'u cynrychiolaethau yn barod i fyned yn y cyfeiriad o Home Rule. Yr oedd ef yn awyddus i weled pa dderbyniad a gawsai y gwelliant gan eu cyd-aelodau ar y meinciau gwrthwynebol. Yr argraff ar ei feddwl ef oedd y gwnelent ymddwyn tuag ato fel y llygod yn y ddameg—" We will smell the cheese, but we will not put our noses in the trap." Gwadai Mr. Kenyon fod y Cymry fel cyfangorff wedi gwneyd eu meddwl i fyny ar y pwnc o Ymreolaeth ac yr oedd ef yn edmygu gwroldeb ei gyfaill anrhydeddus yn fwy na'i ddoethineb. Yr oedd pobl yn siarad fel pe buasai yr anhawsder ieithol yn bodoli ymhob rhan o'r Dywysogaeth, ond yr oedd y syniad hwnw ymhell o fod yn gywir. Yr oedd llawer parth o Gymru yn llawn mor Seisnigaidd a siroedd cyffredinol Lloegr. Mewn perthynas i'r cwestiwn o dir- ddaliad, nid oedd braidd ddim gwahan- iaeth rhwng siroedd Cymreig a Seisnig, ac yr oedd tir drwg a ffermydd drwg yn Lloegr yn ogystal ag yn Nghymru. Gyda golwg ar y rheswm y dylai y Cymry gael trafod eu hachosion eu hunain ar gyfrif y ffaith fod nifer mawr o honynt yn Anghydffurfwyr, nid oedd ef (Mr. Kenyon) yn credu y gwnai y gwelliant roddi boddlonrwydd hyd yn nod i'r Anghydffurfwyr, neu, o'r hyn lleiaf, i gorff mawr y genedl Gymreig. Yr oedd yn ymddangos iddo ef fod uchel- gais y boneddwr anrhydeddus yn hedfan braidd yn rhy uchel. Yr oedd ganddo ef (y siaradwr) y cydymdeimlad llwyraf a'r syniad o genedligrwydd. Yr oedd yn deimlad ardderchog; ond nid oedd y cynygiad yn ymddangos iddo ef yn "bysgodyn, cig, neu ysgadenyn da." (Chwerthin.) Dywedodd Mr. G. 0. Morgan fod llawer o achosion pwysig yn y rhai yr oedd cyfiawnder wedi cael ei gam- weinyddu yn Nghymru mewn canlyniad i anwtbodaeth o'r iaith, ac nad oedd hawliau Cymru wedi eu cydnabod megis ag y dylent. Pe gellid cymeryd y gosodiad yn y gwelliant a gadael y casgl- iadau yn llonydd, buasai yn dda ganddo ef bleidleisio drosto, ond o dan yr am- gylchiadau yr oedd yn rhwym o gefnu ar ei gyfaill anrhydeddus. Yr oeddynt wedi clywed llawer am Home Rule i Gymru, a chaent glywed mwy eto, os gwnai y Llywodraeth droi clust fyddar at hawliau y genedl. Yr oedd y cynyg- iad hwn yn wrthwyneb hollol i'r mudiad yn ffafr Home Rule, ac yn gam yn y gwrthol. ("Na," "na," a chymeradwy- aeth.) Gwrthwynebwyd y gwelliant ar ran y Llywodraeth gan Mr. Matthews, yr hwn a ddywedodd ei fod yn methu canfod yr un rheswm yn areithiau cynygydd ac eilydd y gwelliant dros ..greu swyddfa weinyddiadol i Gymrti. (Cymeradwy- aeth.) Pan oedd aelodau anrhydeddus a gwir aurhydeddus ar yr ochr arall i'r Ty yn dadleu dros ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru a chyfnewicliadau pwysig eraill, y rhai oeddynt yn gwestiynau o bolisi ac nid o weinyddiad, yr oedd yn amlwg nad oedd y feddyginiaeth yn y gwelliant hwn, ond mewn cyfnewidiad yn mwyafrif y Ty. Traddododd Mr. Matthews araith faith a gwir alluog, a rhoddodd y quietus i'r hudlewyn Radicalaidd hwn. .1 Tynodd Mr. A. Thomas, gyda chyd- syniad y TS", ei welliant yn ol. ORIAU LLAFUR. Cynygiodd Mr. C. Graham welliant i'r Anerchiad yn galw sylw at ddymuniad cynyddol y dosbarthiadau gweithiol yn Ewrop am fyrhau oriau llafur drwy ddeddfwriaeth, yr hyn oedd yn ei gwneyd yn ddymunol i'r cwestiwn gael ei drafod gan gynrychiolwyr y wlad hon yn y Gynhadledd Lafur Rhyng-Genedl- aethol yn Berne neu Berlin. Gwrthodwyd y gwelliant drwy fwyaf- rif o 111, a chydunwyd ar yr Anerchiad ynghanol bloeddfadau o gymeradwyaeth. CYFLENWAD. Bu y Ty yn eistedd nos Fawrth mewn pwyllgor Cyflenwadol ar y Gwasanaeth Gwladol, a phasiwyd amryw bleidleisiau, y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn dwyn perthynas a Bwrdd newydd Amaethydd- iaeth. Pan wnaeth Mr. Chaplin ei ym- ddangosiad fel Llywydd y Bwrdd, llon- gyfarchwyd ef yn galonog gan aelodau ar y ddwy ochr i'r Ty. EISTEDDIAD GWYDDELIG. Ni chymerodd dim o ddyddordeb cyff- redinol le yn y Senedd ddydd Mercher, a gohiriwyd y Ty am 5.55. Y materion dan sylw oeddynt-y Clongorey evic- tions," Mesur Gwarcheidwaid y Tlodion (Iwerddon), yr Ynadon Gwyddelig, &c. Llwyddodd y Parnelliaid i gymeryd i fyny bron yr oil o'r amser. MESUR Y DEGWM. Dydd Iau, hysbysodd Mr. W. H. Smith Arglwydd Cranbourne ei bod yn debyg y cawsai Mesur y Degwm ei ddos- barthu ymhen ychydig ddyddiau. GOLYGFA GYFFROUS. Cymerodd golygfa gynhyrfus le yn Nhy y Cyffredin nos Wener. Mewn pwyllgor cyflenwadol, cynygiodd Mr. Labouchere leihad yn y bleidlais, ar y tir fod rhai swyddogion, cyflogau y rhai oedd yn gynwysedig ynddi, wedi ymuno i atal gweinyddiad cyfiawnder. Cyfeirio yr ydoedd at yr hyn a adnabyddir fel y "West-End Scandals," yr hyn a ym- ddangosodd yn y newyddiaduron beth amser yn ol. Traddododd Mr. Labouchere araith faith a beicldgar. Ei brif gyhudd- iad ydoedd, tra yr oedd awdurdodau y Llythyrfa a'r heddgeidwaid yn awyddus i gymeryd Arglwydd Arthur Somerset i'r ddalfa, fod y Llywodraeth wedi gwneyd yr oil yn eu gallu i'w gadw o'r golwg, ac yn y diwedd ei gynorthwyo i ddianc o'r wlad. Dywedodd yr aeh)d taio- dros Northampton fod Syr Dighton Probyn wedi myned i Hatfield ar ym- weliad ag Ardalydd Salisbury, a chan fod Syr Dighton. Probyn yn ewyddog dan y Llywodraeth yn nheulu Tywysog Cymru, mai y casgliad a ellid dynu ydoedd—fod ei Uchelder Brenhinol wedi gorchymyn ar fod i warant gael ei rhoddi allan yn erbyn Arglwydd Arthur Somerset. Yn ol Mr. Labouchere, dywedodd Arglwydd Salisbury y buasai i warant gael ei rhoddi allan yn ddioed," ond awgryma fod ei arglwyddiaeth, ar ol i Syr D. Probyn ei adael, wedi ysgrifenu at Arglwydd A. Somerset yn ei anog i adael y wlad. Gwadodd y Twrnai Cyffredinol fod y rhithyn lleiaf o sail i'r cyhuddiadau maleisddrwg hyn ar awdurdod Arglwydd Salisbury ei hun. Heriodd y Twrnai Cyffredinol Mr. Labouchere i roddi enw ei hysbysydd, ond gwrthododd yr olaf wneyd hyny. Dywedodd Mr. Labouchere ei fod yn rhwym o ddweyd nad oedd yn credu Arglwydd Salisbury. Galwodd y Cadeirydd arno fwy nag unwaith i dynu ei eiriau yn ol, gan fod iaith o'r fath yn annioddefol i'w defn- yddio am aelodau o'r Ty hwnw neu y Ty arall, ond gwrthododd yn benderfynol. Y canlyniad fu myned drwy y seremoni o'i suspendio, a safai y ffigyrau fel y canlyn Dros yr esgymundod 177 Yn erbyn 96 Mwyafrif i'r Llywodraeth 81 Derbyniwyd y canlyniad gyda bloedd- iadau o gymeradwyaeth. Galwodd y Llefarydd, wedi anfon am ei wasanaeth, ar Mr. Labouchere i ym- neillduo. Mr. Labouchere.—Yr wyf yn dymuno ymneillduo, Syr ond ar yr un pryd yn datgan fy ngofid na wnai fy nghydwybod oddef i mi ddweyd fy mod yn credu Ar- glwydd Salisbury. Parodd y cyfeiriad hwn o eiddo Mr. Labouchere at ei gydwybod chwerthin mawr yn y Ty. Ac felly y terfynodd yr ymgiprys.
[No title]
Y DDARLLENFA GYHOEDDUS. Nos Lun, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y sefydliad daionus uchod-yr ydym yn dweyd daionus, yn fwy gyda golwg ar y dyfoiol, nag mewn per- thynas a'r gorphenol. Ar ddiwedd y flwyddyn nid oedd cyflwr arianol y sefydliad yn foddhaol, na'r rhagolygon yn obeithiol. Barnai llawer o aelodau y pwyllgor nad doeth ydoedd cadw'r ystafell yn agored, am nad oedd yn ateb y diben. Ymddengys nad oes neb o'r dosbarth gweithiol yn gwneyd defnydd o honi, ac felly, metha yn ei hamcan. Modd bynag, ar ol llawer o ym- gynghori, penderfynwyd cadw'r ddarllenfa ymlaen am y flwyddyn hon, mewn gobaith y byddai i'r to ieuanc, a'r dosbarth gweithiol, gymeryd mantais arni. Hyderwn y gwneir hyny. Y mae yn ystafell eang, mewn man canolog, ac nid yw y swm a ofynir ond ceiniog yr wvthnos. Ni wnaeth y sefydliad ond prin ddianc eleni, ac os na ddaw llawer o aelodau newyddion i mewn eleni, marw a wna, yn ddiau. SWPER I'R CoR.-Byddai y diweddar Esgob Hughes yn arfer gwahodd aelodau c6r canu yr Eglwys Gymreig, i swper yn y Palas yn flyn- yddol. Da genym gofnodi fod yr Esgob, Edwards yn cadw yr arferiad da hwn ymlaen. Nos Lun, yr 17eg cynfisol, y cymerodd y wledd le eleni. Cafwyd pob croesaw, a phob digonedd yn y Palas. Anerchwyd y c6r gan yr Esgob, yn Gymraeg a Saesoneg. Canwyd amryw emynau yn ystod yr hwyr, a mwynhaodd pawb eu hun- ain i'r eithaf. Y LI.AN-Dymunwn hysbyau ein darllen- wvr y gellir prynu Y LLAN gan Mr. C. Tomkin- son, Chester Street, a chan Mr. W. Evans, High Street. Hyderwn y gwna pob Eglwyswr a fedr ddarllen Cymraeg, ei brynu yn rheolaidd. Ymdrechwn, o wythnos i wythnos, gofnodi pob newyddion lleol Eglwysig ynddo, a'i wneyd mor ddyddorol i bobl Llanelwy ag y medrir.
LLANELLI.
LLANELLI. Ar yr 17eg o Chwefror, agorwyd eglwys gen- hadol yn Machynys, yn y rhan isaf o'r plwyf hwn. Am bedwar o'r gloch yn y prydnawn, ffurfiwyd gorymdaith yn y Morewood Memorial Hall, ac awd tan ganu tuag at yr adeilad new- ydd. Arweiniwyd y cor gan Mr. Harris, organ- ydd St. Paul's. At ol cyraedd yr eglwys, agor- wyd y drws gan Mrs. J. H. Rogers, yr hon a ddywedodd pan yn troi yr allwedd yn y clo, Yr wyf yn agor yr adeilad hwn at wasanaetn yr Eglwys yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd GUn." Ar ol y gwasanaeth agoriadol, cynhal- iwyd cyfarfod cylioeddus o dan lywyddiaeth Mr. J. H. Rogers. Traddodwyd anerchiadau gan Syr J. J. T. D. Llewellyn, Bar., Mri. Rogers, Bond, Luxton, Rees (Daniel Ddu), Simon, ac eraill. Terfynwyd gyda'r diolchiadau arferol, a thrwy ganu yr emyn, Hoffi'r wyf dy lan breswylfa." Offrymwyd gweddi fer gan y ficer. Terfynwyd gwaith y dydd drwy gyfranogi o wledd ddanteithiol yn y Memorial Hall, yr hon a roddwyd ar draul Mr. a Mrs. Rogers. Y mae cynydd yr Eglwys yn y plwyf hwn yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn dd iarebol. -Jonah Maries.
UNDEB YSGOLION SUL LLANDEGAI…
UNDEB YSGOLION SUL LLANDEGAI A LLANLLECHID. Mae yr uncleb uchod yu cynwys un-ar-ddeg o gangbenau, a thua (le-iddeg cant o aelodau. Gwneir trefniadau gan y pwyllgor i gael cyfar- fod yn y Garawys o Ddiwrnod Tawel ar y 15fed o Fawrth. Gwahoddwydy Parch. W. Williams, Rheithor Dolgellau, i dalu ymweliad A'r ardal, a chynal y eyfarfodn dd Cydsyniodd yntau yn galonog A'r cais, ac anf modd air o anerchiad ar yr un pryd. Bwriadir i'r cyfarfod cyntaf gael ei gynal am 7 o'r gloch yn yr hwyr yn Tanysgraf- ell, plwyf St. Ami's, ar ddydd Gwener, y 14eg, 1 gael ei ddilyn &an gyfarfodydd drwy y dydd dranoeth. Ysgrifenydd yr Undebydyw Mr. D. Davies, Bodfeirig, gynt o'r Rachub. Gwneir y pwyllgor i fyny o dri atbraw o bob cangen ysgol, a'r offeiriaid canlynol Y Parchn. J. Morgan, E. R. Jenkins, Bethesda; E. Davies a J. Jenkins. Llanllechid; R. W. Griffiths, Llan- degai; D. W. Thomas a S. Jones, St. Ann's.
- NODION 0 FON.
NODION 0 FON. L r,AX G EFNI. Nos Wener, yr 28ain cynfisol, cynhaliwyd cyfarfod cylioeddus yn Neuadd Drefol, Llangefni, er ystyried hawliau y lie i un o'r Ysgolion Canol- raddol a fwriedir eu sefydlu yn Ynys Mon. Llvwyddwyd gan y Parch. Canon Williams, M.A., D.G., gan yr hwn y cafwyd anerchiad agoriadol cynwysfawr a phwrpasol. Teneu iawn oedd y cynull- iad. Cynygiwyd y penderfyniad can- lynol, mewn araith feistrolgar, gan y Parch. D. Lloyd, M.A., D.G., Llandrygarn: —" Fod y cyfarfod hwn o drigolion Llan- gefni a'r cymydogaethau cylchynol, trwy hyn, yn datgan eu teimlad o ddiolchgar- AVCII fed y Llywodraeth bresenol wedi pasioDeddf AddysgGanolraddol i Gymru, ac hefyd ein penderfyniad i wneyd yr hyn a allom er rhoddi y ddeddf mewn gweithrecliacl Ilawn, ac i'r amcan hwnw ein bod yn gwneyd apel daer a chref at Gydbwyllgor Addysg Mon am i un ysgol gael ei sefydlu yn Llangefni. Yatyriwn fod cysylltiadau a manteision masnachol, a sefyllfa ganolog y dref i'r Sir, yn hawlio hyn."—Cefnogwyd y penderfyniad uchod gan y Proffeswr Henry Jones, o Goleg y Gogledd, Bangor. Tipyn yn siomedig ydoedd araith y Proffeswr Jones. Cwynai nas gallai "clraddodi araith" i'r fath g-ynulliad tenen, ond cafodd amryw o'i I.-is. sylwadau dderbyniad brwdfrydig iawn, a gobeithiwn, os gelwir arno i Llangefni eto, y caiff fwy i'w wrando, ac y bydd yntau mewn gwell hwyl. Yn nesaf, rhoddwyd yr ail benderfyniad o flaen y cyfarfod, yr hwn oedd fel y canlyn Ein bod trwy hyn yn ymrwymo i ddar- paru adeiladau priodol, os bydd y Cyd- bwyllgor Addysg yn sefydlu ysgol yma, ac fod personau ymhob ardal i gael eu penodi i geiso ac i dderbyn addewidion am gyfraniadau; ac fod yr holl gyfran- iadau a addewir i'w talu i fyny 'mewn 1 tair blynedd o amser." Siaradwyd yn dda a doniol ar y pen hwn gan y Parch. D. Rees, Capel Mawr; R. T. Nichol-Jones, a W. Thomas, Post Office. Cariwyd y ddau benderfyniad uchod yn unfrydol a brwdfrydig, ynghyd a'r trydydd bender- fyniad, i ddewis pwyllgor cyffredinol. Cyn ymadael, ar gynygiad y Parch. 0. Hughes (M.C.), Fron, yn cael ei eilio gan y Parch. E. B. Thomas, Heneglwys, tal- wyd diolchgarwch gwresog i'r hybarch lywydd am ei wasanaeth yn y gadair, ac am ei sel a'i ffyddlondeb gyda'r achos er y cychwyn. Wedi i Canon Williams gydnabod y diolchgarwch, terfynwyd y cyfarfod. CEIDWADAETH. Ymddengys fod Cymdeithas Geidwadol Mon wedi dewis Mr. J. Rice Roberts, Tanygraig, Pentraeth, fel ymgeisydd i wrthwynebu Mr. T. P. Lewis, A.S., yn yr etholiad nesaf. Gobeithiwn y bydd i'r Ceidwadwyr weithio yn ffyddlon ac egniol. Y mae yn gred gyffredinol yn yr Ynys, nad ydyw Mr. Lewis, ar dir addysg a diwylliant meddyliol, yn aelod teilwng o Sir Fon. Felly, chwilier am ei well.-Talantoit. w
- TY DDEWI.
TY DDEWI. YR YSGOL GENEDLAETHOL.—Derbyn- iwyd, ychydig ddyddiau yn ol, hysbys- iad arholwr yr Esgobaeth o ystad yr ysgol hon mewn gwybodaeth grefyddol. Fel hyn y dywed Y mae yr ysgol hon mewn trefn rhagorol, ac y mae wedi pasio arholiad rhagorol mewn gwybod- aeth grefyddol. Yr oedd y wybodaeth a amh-gwyd gan y dosbarth uwchaf yn neillduol o deilwng, ac yn dwyn tyst- iolaeth o hyfforddiad gofalus a deallus." Ceir, ynglyn a'r ysgol hon, engraifft o gulni sectyddol Bwrdd Ysgol Ty Ddewi, Er fod cynifer a 80 o blant v plwyf ar lyffciu yr ysgol, heria y Bwrdd nad oes mo'i heisiau o gwbl, a gomeddant felly i'r Education Department i roddi iddi unrhyw gynorthwy arianol, er bod ar- holwr ei Mawrhydi yn ymweled a'r ysgol yn flynyddol. Bydd yn dda gan rieni y pedwar ugain plant sydd ynddi, yn gystal a chan lawer eraill yn y plwyf ag sydd yn bleidiol i addysg grefyddol, i ddarllen yr hyn a ddywed yr arholwr crefyddol am yr ysgol. Ai gormod ydyw dweyd fod gobaith crefydd dyfodol y plwyf yn gorphwys ar lafur teilwng yr offeiriaid a'r ysgolfeistr yn Ysgol Genedlaethol Ty Ddewi.
DOWLAIS.
DOWLAIS. URDDAU EGLWYSIG.—Da oedd genym weled ymhlith y rhai a urddwyd gan Arglwydd Esgob Llandaf, dydd Sul di- weddaf, enwau Mr. Mackintosh a Mr. Thomas Lloyd. Yr oedd Mr. Mackintosh Affsdi efrydu yn Ngholeg St. Bees, a paasiodd y Preliminary Examination yn HwytkUaaue iawn yn Qaergrawat. Treul- iodd Mr. Lloyd ei yrfa golegawl yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr. Am ychydig cyn eu hurddo, bu y ddau yn gwasanaethu yn y plwyf fel darllenwyr lleygol, ac yn ystodyr amser hwnw enill- asant opiniynau euraidd holl bobl Eg- lwysig y dref a'r ardal. Llongyfarchwn y ddau ar eu llwyddiant, ac eiddunwn iddynt bob bendith ar eu gwaith yn mhlwyf pwysig Dowlais.ilp 1. P.
Family Notices
MARWOLAETHAU. Gogledd Gymru. Ev ANS-Chwefror 21, yn 76 mlwydd oed, yn Mryn Dinas, Caernarfon, Mrs. Mary Evans, grocer, Denbigh-street, Llanrwst. EDWARDs-Chwefror 17, yn 79 mlwydd oed, y Cadben Hugh Edwards, Club- street, Hirael, Bangor, brawd hynaf y Cadben Robert Edwards, Micawber- street, Llynlleifiad, a Mrs. Lewis Edwards, Crown Cafe, Bangor. FRANCIS—Chwefror 17, yn 63 mlwydd oed, Grace,- gweddw y diweddar Wm. Francis, Penybonc, Rhosybol, Mon. HARRISON-Chwefror 10, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Harrison, gweddw y diweddar Mr. John Harrison, Bwlchgwyn. HuGHEs-Chwefror 3, yn 42 mlwydd oed, Miss Mary Hughes, Ty'nymaes, ger Cemaes, Mon, a chwaer y bardd a'r lienor Mr. H. J. Hughes (Glanvor), Cafnau. HERBERT-Chwefror 17, yn Wylfa House, Anfield-road, Llynlleifiad, Mrs. Mary Jane Herbert, priod Mr. John Herbert, adeiladydd, a merch Mr. John Jones, Anfield View, yn 34 mlwydd oed. JONEs-Chwefror 20, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Jones, gweddw y diweddar Barch.' William Jones, Porthmadog. JENKINS—Chwefror 19, yn 26 mlwydd oed, yn 46, Chapel-street, Caernarfon, Ann, priod Mr. Theophilus Jenkins, morwr. MORRIS—Chwefror 18, yn 27 mlwydd oed, Miss Mary Webster Morris, merch, ieuengaf y diweddar Mr. Edward Morris, Tan'rallt, Pensarn, Amlwch, ac wyres y diweddar Mr. Peter Webster, 1 Amlwch. PARRY—Chwefror 19, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Ellen Parry, gweddw y diweddar Mr. John Parry, Rhwng-y-ddwyryd, Rhostryfan. WILLIAMS—Chwefror 9, Mrs. Margaret Williams, priod Mr. Elias Williams, gynt o'r Town Hall, Caergybi. WILLIAMSCh wefror 16, yn 31 mlwydd oed, yn 49, Melbourne-street, Llyn- lleifiad, Phcebe, merch henaf Henry a Margaret Williams, ac wyres y diweddar John a Laura Davies, Tanygraig, Glan- wydden.
NODION O GAERDYDD.
NODION O GAERDYDD. YR EGLWYS GYMREIG. Y mae y Parch. Henry Morgan, B.A., curad Canton, wedi derbyn curadiaeth yr Holl Saint, Caerdydd. Y mae Mr. Morgan hefyd i fod yn gynorthwydd i'r Ficer yn yr achos Cymreig. Dydd Sul diweddaf yr oedd cylchwyl gyntaf a^or- iad Capel Cenhadol Dewi Sant. A ganjyn oedd trefn yi gwasanaethau :—Deg o'r gloch, Boreuol Weddi: 11, y Cymun Bednigaid, gyda phregeth 3, Litani, gyda phregeth gan y Parch. Henry Morgan, Canton Prydnawnol Weddi, a gweinyddiad o'r Conffirmasiwn. Yr oedd y casgliadau ymhob gwasanaeth at gronfa adeiladu yr eglwys newydd. CONFFIRMASIWN. Ar ol y gwasanaeth hwyrol nos Sul di- weddaf, gweinyddodd yr Arglwydd Esgob y ddefod Apostolaidd o arddodiad dwy- law yn Nghapel Cenhadol Dewi Sant. Yr oedd 17 o ymgeiswyr-9 o fenywod ac 8 o wrywod. Yn ei anerchiad ar yr achlysur, olrheiniodd yr Esgob yn fyr hanes y mudiad Cymreig o'i ddechreuad yn Eglwys St. Andreas oddeutu tair blynedd yn ol hyd yn bresenol, a llefarodd yn ddwys iawn ar natur a phwysigrwydd y ddefod o gonffirmasiwn. Yr oedd yr adeilad yn orlawn. CYMDEITHAS EGLWYSIG DEWI SANT. Yn nghyfarfod y gymdeithas hon nos Lun diweddaf, darllenwyd papyr dyddorol gan Mr. Hugh Griffith ar "Wasanaeth Claddedigaeth y Marw." Wedi i rai o'r brodyr, ynghyd a'r warden (y Parch. A. E. H. Hyslop), ddweyd ychydig eiriau ar gynwysiad y papyr, talwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Griffith.
[No title]
GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAETH at y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad a dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadan, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu fel y canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwch ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr Uiosog dalu sylw arbenig i'r rheolau canlynol:— 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ao i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy. hoeddi, ond fel sicrwydd o 'gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw.
--Y GOLOFN FARDDOL.
Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y canlyn:— Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, ■"v. Llanddarog, s Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amrer: 1. Defnyddier 'note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. u
TELERAU AM " Y LLAN A'R DYWYSOG.…
TELERAU AM Y LLAN A'R DYWYSOG. AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- iad yn y Deyrnas Gyfunolam y prisiau canlynol -CL,warter blwycldyn, Is. 8c.; haner blwyddyn, 3s. 4c.; blwyddyn, 6s. 8c. Dau neu dri rhifyn yn ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaondil gyda phob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer. ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9y dwsin. Rhaid i bob Dosbarthwr wastadhau ei gyfrifon yn chwarterol, a dymunir ar i bob un dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgeulusdra ar ran swyddogion y Llythyrdy neu y Rheilffyrdd gyda chludiad unrhyw sypyn, dylid anfon hysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r Cyhoeddwycl Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- byniant eu sypynau gyda'r rheilffordd ofalu eu liymofyn yn eu gwahanol orsafoedd bob wyth. nos.
----HYSBYSIADAU " Y LLAN A'R…
HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYB- OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yw yr unig Newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir gan t, y mwyaf deallus o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hysbys. i Y Teleriu am Hysbysiadau. 75 o eiriau (solid) neu un fodfeddji lawr y golofn (displayed) Un wythnos (tâl ymlaen Haw). 2s. 6c. Dwy wythnos 2s. Oc. Pedair wythnos Is. 8c. Chwecli wythnos Is. 6c. 13 wythnos Is. 3c. 26 wythnos Is. Oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith. iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. Hysbysiadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol 20 o eiriau, un waitli, Is.; tair gwaith, 2s.; clrwe' gwaith, 3s. 30 o eiriau, an waitli, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 6c.; cliwe' gwaith, 6s. 9c. Cylioeddir Hysbysiadau yn Gymraeg nen yn Saesneg. Ni ofynir tal am gyfieitliu. SYLNVER.-Eliaid i bob Gohebiaeth ynglyn a Hysbysiadau a Thuliadau o hyn allan gael eu hanfon i'r Cyhoeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office 135, High Street, Merthyr Tydfil.