Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG…

. GWASANAETH CYMREIG YN EGLWYS…

. Y TRYCHINEB GLOFAOL YN WILKESBARRE.

EMIN PASHA.

GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS AR…

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

[No title]

CYFRINGELL Y GOLYGYDD

[No title]

.CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD.

. CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR. AR yr olwg gyntaf nid oes cysylltiad agos i'w weled rhwng y ddau ddosbarth yma mewn cymdeithas. Ond eto i'n meddwl ni, mae yna fwy nag ymddengys ar y gwyneb, a mwy nag a ymddibyna ar gydblethiad pob elfen a phob aelod yn yr un wlad. Mae yn achos o syndod fod masnach y llechi mor ddifywyd, cyflogau mor isel, a gwaith mor brin, tra mae pob masnach arall yn llwyddo, a'r crefftwyr yn enill chwanegiad cyflog, ac yn gweithio llawn amser. Paham mae achos cwyno gan y chwarelwyr? Bydded iddynt ystyried pwy, ymhlith eraill, sydd yn defnyddio llechi toi. Pan yn llwyddianus, ac mewn medd- iant difygythiedig o'u tiroedd, hoffai y tirfeddianwyr roi eu harian allan ar adeiladau amaetliyddol; ac os edrychir trwy y wlad pan ar siwrnai, gwelir eymaint o dai newyddion sydd wedi eu hadeiladu ymhob man yr edrychir. Nid felly yn awr—ychydig a bychain yw y gwelliantau allan o gyfalaf y perchen tir. Gwneir ymosodiad ar ei etifeddiaeth neu ei bryniad mewn mwy nag un cyfeiriad. Arno ef y disgyn treth yr incwm dr maf, C, Y a llawer treth arall ac os bydd eisiau treth newydd, trethir y tirfeddianydd gyntaf. Nid dyna'r cwbl, bygythir ei fedd- iant, a rhoddir enwau celyd arnoamfedd- ianu ei yst.t(l, er ei fod wedi dyfod i'w eiddo mewn ffordd gyfreithlon. Dyma i chwi ychydig eiriau o'r Celt am Chwefror 28ain, blwyddyn gras 1890, gan IOANDDERWEN 0 FON Brwy(tr fawr y dyfodol, brwydr y brwydrau a fydd brwydr di- fodiad landlordiaeth. Nid ydyw brwydr fawr Dadgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Llywodraeth yn ddim o'i gydmaru a dadgysylltiad y tiroedd oddiwrth y lladron a'u daliant yn bresenol. Son am eu cydnabod yn wir Byddwn yn foddlon hollol iddynt gael eu cydnabod a'u compensatio y munyd y medrant brofi eu hawl gyfiawn a tlieg i'r tiroedd y gorthrymant ni yn eu hatafaeliad o'r cyfryw. Y mae yr amaethwr, y trefwr, a'r glowr wedi cario y giwaid hyn ar eu cefnau yn llawer rhy faith-fel pryfaid llwydion yr haf yn sugno gwaed ac yn poeni ein hanifeiliaid. Coded y wlad ei hysgwydd a thafled 'gorph y farwolaeth hon oddiar ei gwar." Mewn rhan arall o'r erthygl dywed Nid ydyw pwnc y claddu, y dadgysylltu, a'r degwm, yn ddim o'u cydmaru a phwnc y tir. Goleuer llygaid y wlad yn y mater yma gan bob gwleidyddwr rhyddfrydig. Gwnewch eich goreu ar bob adeg, a defnyddiwch bob cyfleustra a mantais i ergydio ar ben yr hoelen fawr yma." Tra mae y gwaith o agor llygaid y wlad, ac ergydio ar ben yr hoelen, yn myned ymlaen, mae llygaid y tir- feddianydd hefyd yn cael eu hagor. Y canlyniad yw, nad yw yn brynwr llechi toi. Mae yn dechreu gwerthu ei diroedd mewn pryd, a phan ni wna rhydd ei arian mewn lie diogelach nag ar dai i'r amaeth- wyr. Dyna un o'r cwsmeriaid goreu am lechi wedi ei yru o'r farchnad. Aed y chwarelwr ymlaen i waeddi i lawr a'r landlordiaid," ond ni ddaw prynwr yn ei le am y llechi nes y byddo oes wedi myned heibio, a chwestiwn meddianydd dyfodol y tir wedi ei. benderfyira ar ol chwyldroad. Pan -adferir heddweh a meddiant sicr yn y tir i'r perchenog hen neu newydd, ac nid cyn hyny, y daw galw oddiwrth un o'r cwTsmeriaid penaf am lechi toi i wneyd amaethdai a thai allan newyddion. A fyddai yn ormod gobeithio y gwna ambell i chwarelwr sydd yn awr yn dyheu am welliant yn ei amgylchiadau ,ofyn iddo ei liun a ydyw ymosodiad ar y tir yn debyg o brysuro cynydd yn ei gyflog ? Cofier hefyd fod yr Unol Dalaethau yn dirmygu masnach rydd mewn llechi i'w gwlad ei hun, ond yn manteisio ar hyny i Brydain mor belled ag y gall. Mae'n anffortunus mewn gwlad fod rhai gweith- wyr yn gorfod dioddef oddiwrth ddeddf- au ag sydd yn lies i'r mwyafrif, ond felllr y mae. Mae y meistr tir, yr amaethwyr,' y clerigwyr, a'r chwarelwyr yn hwylio yn yr un llong. Dyna'r ffeithiau, nid dychymyg ydynt. Pwyser hwynt yn Ffestiniog; yn Llanllyfni, yn Llanberis, ynNghae-Braich-y-Cafn, acynagwaedder, os gellir, "I lawr a Landlordiaeth-i lawr a'r personiaid. Strike away, boys. Daw cwsmeriaid newydd." 0 ba Ie? Pa bryd ?

TEULU CYFAN WEDI LLOSGI I…

0.-FICER WEDI El DDISWYDDO…

. MARWOLAETH ABRAHAM LINCOLN.

ANRHEGU FICER BRITON FERRY.

. DAMWAIN ECHRYDUS YN -NGOGLEDD…

Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.

ETHOLIAD GOGLEDD ST.' PANCRAS.

[No title]

. DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

MARCHNADOEDD. -------._-___-_-----

[No title]