Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

DYDD GWYL DEWI YN LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD GWYL DEWI YN LERPWL. [GAN EIN GOHEBYDI) ARRENIG.] Dydd Sadwrn, dathlwyd cofwyl flynyddol Dewi Sant-nawdd-sant y Cymry-nid yn unig ar hyd a lied y Dywysogaeth, ond gan y Cymry cenedlgarol yn Lloegr, yr Unol Dalaethau, a'r Trefedigaethau Prydeinig-mewn gair, lie bynag y mae calon Cymro, ar dir a m6r, yn euro yn gynes at ei fam-wlad. Y dull cyffredin gan y Cymry i anrhydeddu coffadwriaeth eu nawdd- sant ydyw, cynal cyngherddau a chyfarfodydd llenyddol, ac y mae hyn yn fwy cydweddol ag amcan y dydd na bwyta ac yfed, a bloeddio, Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Mae y dull hwn o ddathlu y dydd hefyd yn fwy cydnaws anianawd gynhwynol a thueddiadau cerddorol a llengarol cenedl y Cymry, a da genym welqd fod y cynulliadau yma yn dyfod yn fwy poblogaidd y blynyddau diweddar hyn. Yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r Dinesydd-,—newyddiadur Cymreig dimai, cyhoeddedig yn Lerpwl-ceir y sylwadau pwrpasol a ganlyn —" Parhau i ymgodi ac enill parch y mae pob sefydliad Cymreig. Dydd Sadwrn nesaf ydyw Dydd Gwyl Goffa y Nawdd- Sant Dewi—Sant y Cymry a mawr ydyw y darpariadau i'w ddathlu yn Nghymru a phob man lie y ceir nifer o Gymry gwladgarol. Haner canrif yn ol nid oedd fawr o sylw yn cael ei dalu i'r hen Sant-yr oedd yn hofran yn nghof y werin fel nyth o'r oesoedd gynt; ond beth bynag am ddilysrwydd ei hanes, y mae erbyn heddyw yn nerth cryf yn mywyd y genedl, ac yn casglu1 meibion glewion Gwalia at eii gily-dd, nid yn unig yn Nghymru a Lloegr, ond yn nhrefydd pellenig yr America, Affrica, ac Awstralia." Gwrandewch eto beth a ddywed y Liverpool Courier am ddydd Sadwrn, yn ei argraffiadau dyddiol ac wythnosol:—" Mae y dydd hwn, y cyntaf o Fawrth, yn gysegredig i goffadwriaeth y Sant da Dewi, ac wedi ei neillduo fel Gwyl Genedlaethol Cymru. Dydd ydyw ar yr hwn y mae calonau yr holl Gymry gwirioneddol a ffyddlawn yn curo mewn cydgordiad, pan y mae man ymrysonau sect a phlaid yn cael eu dis- tewi, a chad-oediad byr yn cael ei gyhoeddi ar dir cyffredin brawdoliaeth a gwladgarwch. Dylai Cymru sydd mor dueddol i ymrysonau mewnol ac ymraniadau, y rhai ydynt gan amlaf o natur iselwael a gresynol, a phob amser yn angherddol a chwerw, yr hyn a ymddengys fel yn ffurfio rhan o'u hetifeddiaeth Geltaidd, achlesu diwrnod :sydd yn rhoddi taw cyffredinol ar filwriaeth jbleidiol, yn dwyn i'r amlwg rai o deimladau \mwyaf cysegredig y natur ddynol, ac a all rwymo YS .1 11 mewn cydymdeimlad cenhedlig y rhai a hawliant deg Walia fel eu mam-wlad, ac o galonau y rhai y llifa gwaed coch, cynes Gymreig. Bendigedig yn wir ddylai coffadwriaeth y dyn fod, bydded sant neu bechadur, yr hwn ar draws anialwch anghyfaneddol mwy ha mil o flynyddoedd sydd yn parhau i lywio serchiadau cenedl o bobl, a dwyn i weithrediad gymhellion mawrfrydig y meddwl dynol, y rhai sydd yn cydnabod Duw fel Tad cyffredin, a phobloedd yddaearfel aelodau o'r un teulu mawr." Mae y brofedigaeth i ddyfynu yn gref. ond gofod a balla. A yr ysgrifenydd ymlaen i roddi hanes bywyd Dewi Sant (yr yehydig p hono sydd ar got a chadw), a'r gwaith rnawr a gyflawnodd yn ei ddydd. Er nad ydym yn cyd- synio Ag ef yn yr oil a ddywed am hen Sant bendigedig y Cymry, y mae'r erthygl yn un wir ddyddorol. Mewn llythyr yn y Courier am heddyw (ddydd Llun), gelwir sylw at rai o'r camsyniadau hanesyddol a wnaed gan ysgrifen- ydd yr erthygl mewn perthynas a St. Dewi. Dywed awdwr yr erthygl fod Dewi Sant yn canonized dignitary of the Church of Rome, n y the precursor of the present Established Church," ond y mae yr haeriad yn gam, medd I ,i Theophilus" (y gohebydd yn y Courier), a liawliau hanesyddol Eglwys Loegr. Er fod Eglwys Loegr am dymor byr wedi bod yn ddar- ostyngedig i draws-arglwyddiaeth Rhufain, dy- wed y gohebydd na chollodd erioed ei hunan- iath hanesiol, ac na roddodd ijfyny ei hawliau unigol. Cyflawnodd St. Dewi ei waith fel Sant Prydeinig ac Esgob ymhell cyn i St. Awstin, y cenadwr cyntaf a fu yn cynrychioli awdurdod ysbrydol Rhufain. yn yr ynys hon, lanio yn Mhrydain, yr hyn a gymerth le yn y flwyddyn 596. Nid oedd dim a wnelai Rhufain ag anfon- iad St. Dewi. Cymerodd ei gysegriad le yn Jerusalem, ae yr oedd yn wrthwynebydd cryf ac anghymodlon i drauhausder traws-arglwyddol Augustine, ac y mae y ffaith hon yn ddigon i brofi nad oedd yn dignitary, of Rome." Ychydig iawn a wyr y Saeson, fel rheol, o hanes Cymru yn wladol nac Eglwysig, Gellid disgwyl fod yr ofergoel wirion-ffol hon wedi ei chwythu allan dalm byd cyn hyn. — NOSWYL DEWI SANT. Cynhaliwyd y trydydd cyngerdd blynyddol yn Neuadd y Frenhines, Birkenhead, nos Wener, Chwefror 28ain, dan lywyddiaeth y Parch. Canon W. Saumarez, D.D. Y pjif gerddorion oeddynt — Miss Emilie Mowell, Miss Dora Powell (Mostyn), Mr. E. Edwards, Mr. F. Gwen, a Mr. Llew Wynne. Y cyfeiles Miss Maggie Evans (Megan Mon). Clywsom y cafwyd cynulliad da, a chyngherdd llwyddianus ymhob ystyr. Elai yr elw i drysorfa yr Eglwys Gymreig a fwriedir adeiladu yn Westbourne Road. Bydd genym ychwaneg ar y mudiad Eglwysig Cymreig yn Mhenbedw yn y rhifyn nesaf. AM UY'WIOX. Ar Ddydd Gwyl Dewi, rhoddwyd ciniaw yn Lerpwl dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, a chynhaliwyd amryw gyngherddau yn y dclinas a'r cyffiniau. Canfyddid amryw Gymry gwladgarol yn yr heolydd a'r arwydd- lun cenedlaethol yn eu hetiau. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol llwyddianus yn Ysgoldy Clifton Road, Birkenhead, pryd y rhoddwyd amryw wobrwyon am ganu, adrodd, a chyfan- soddiadau barddonol a rhyddiaethol, ond rhaid gadael ar hyn, Mr. Gol., rhag trethu gormod ar ofod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH.

AT Y BEIRDD. ;

CYFARFOD AMDDIFFYNOL DOLWYDDELEN.

DYDD GWYL DEWI SANT YN MANCEINION.

GWYL DEWI SANT YN LEEDS.

DOSBABTH I."

'DOSBARTH II.

YMWELIAD YR ANGYLION AIR BUGEIL.…