Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
DYDD GWYL DEWI YN LERPWL.
DYDD GWYL DEWI YN LERPWL. [GAN EIN GOHEBYDI) ARRENIG.] Dydd Sadwrn, dathlwyd cofwyl flynyddol Dewi Sant-nawdd-sant y Cymry-nid yn unig ar hyd a lied y Dywysogaeth, ond gan y Cymry cenedlgarol yn Lloegr, yr Unol Dalaethau, a'r Trefedigaethau Prydeinig-mewn gair, lie bynag y mae calon Cymro, ar dir a m6r, yn euro yn gynes at ei fam-wlad. Y dull cyffredin gan y Cymry i anrhydeddu coffadwriaeth eu nawdd- sant ydyw, cynal cyngherddau a chyfarfodydd llenyddol, ac y mae hyn yn fwy cydweddol ag amcan y dydd na bwyta ac yfed, a bloeddio, Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Mae y dull hwn o ddathlu y dydd hefyd yn fwy cydnaws anianawd gynhwynol a thueddiadau cerddorol a llengarol cenedl y Cymry, a da genym welqd fod y cynulliadau yma yn dyfod yn fwy poblogaidd y blynyddau diweddar hyn. Yn y rhifyn cyn y diweddaf o'r Dinesydd-,—newyddiadur Cymreig dimai, cyhoeddedig yn Lerpwl-ceir y sylwadau pwrpasol a ganlyn —" Parhau i ymgodi ac enill parch y mae pob sefydliad Cymreig. Dydd Sadwrn nesaf ydyw Dydd Gwyl Goffa y Nawdd- Sant Dewi—Sant y Cymry a mawr ydyw y darpariadau i'w ddathlu yn Nghymru a phob man lie y ceir nifer o Gymry gwladgarol. Haner canrif yn ol nid oedd fawr o sylw yn cael ei dalu i'r hen Sant-yr oedd yn hofran yn nghof y werin fel nyth o'r oesoedd gynt; ond beth bynag am ddilysrwydd ei hanes, y mae erbyn heddyw yn nerth cryf yn mywyd y genedl, ac yn casglu1 meibion glewion Gwalia at eii gily-dd, nid yn unig yn Nghymru a Lloegr, ond yn nhrefydd pellenig yr America, Affrica, ac Awstralia." Gwrandewch eto beth a ddywed y Liverpool Courier am ddydd Sadwrn, yn ei argraffiadau dyddiol ac wythnosol:—" Mae y dydd hwn, y cyntaf o Fawrth, yn gysegredig i goffadwriaeth y Sant da Dewi, ac wedi ei neillduo fel Gwyl Genedlaethol Cymru. Dydd ydyw ar yr hwn y mae calonau yr holl Gymry gwirioneddol a ffyddlawn yn curo mewn cydgordiad, pan y mae man ymrysonau sect a phlaid yn cael eu dis- tewi, a chad-oediad byr yn cael ei gyhoeddi ar dir cyffredin brawdoliaeth a gwladgarwch. Dylai Cymru sydd mor dueddol i ymrysonau mewnol ac ymraniadau, y rhai ydynt gan amlaf o natur iselwael a gresynol, a phob amser yn angherddol a chwerw, yr hyn a ymddengys fel yn ffurfio rhan o'u hetifeddiaeth Geltaidd, achlesu diwrnod :sydd yn rhoddi taw cyffredinol ar filwriaeth jbleidiol, yn dwyn i'r amlwg rai o deimladau \mwyaf cysegredig y natur ddynol, ac a all rwymo YS .1 11 mewn cydymdeimlad cenhedlig y rhai a hawliant deg Walia fel eu mam-wlad, ac o galonau y rhai y llifa gwaed coch, cynes Gymreig. Bendigedig yn wir ddylai coffadwriaeth y dyn fod, bydded sant neu bechadur, yr hwn ar draws anialwch anghyfaneddol mwy ha mil o flynyddoedd sydd yn parhau i lywio serchiadau cenedl o bobl, a dwyn i weithrediad gymhellion mawrfrydig y meddwl dynol, y rhai sydd yn cydnabod Duw fel Tad cyffredin, a phobloedd yddaearfel aelodau o'r un teulu mawr." Mae y brofedigaeth i ddyfynu yn gref. ond gofod a balla. A yr ysgrifenydd ymlaen i roddi hanes bywyd Dewi Sant (yr yehydig p hono sydd ar got a chadw), a'r gwaith rnawr a gyflawnodd yn ei ddydd. Er nad ydym yn cyd- synio Ag ef yn yr oil a ddywed am hen Sant bendigedig y Cymry, y mae'r erthygl yn un wir ddyddorol. Mewn llythyr yn y Courier am heddyw (ddydd Llun), gelwir sylw at rai o'r camsyniadau hanesyddol a wnaed gan ysgrifen- ydd yr erthygl mewn perthynas a St. Dewi. Dywed awdwr yr erthygl fod Dewi Sant yn canonized dignitary of the Church of Rome, n y the precursor of the present Established Church," ond y mae yr haeriad yn gam, medd I ,i Theophilus" (y gohebydd yn y Courier), a liawliau hanesyddol Eglwys Loegr. Er fod Eglwys Loegr am dymor byr wedi bod yn ddar- ostyngedig i draws-arglwyddiaeth Rhufain, dy- wed y gohebydd na chollodd erioed ei hunan- iath hanesiol, ac na roddodd ijfyny ei hawliau unigol. Cyflawnodd St. Dewi ei waith fel Sant Prydeinig ac Esgob ymhell cyn i St. Awstin, y cenadwr cyntaf a fu yn cynrychioli awdurdod ysbrydol Rhufain. yn yr ynys hon, lanio yn Mhrydain, yr hyn a gymerth le yn y flwyddyn 596. Nid oedd dim a wnelai Rhufain ag anfon- iad St. Dewi. Cymerodd ei gysegriad le yn Jerusalem, ae yr oedd yn wrthwynebydd cryf ac anghymodlon i drauhausder traws-arglwyddol Augustine, ac y mae y ffaith hon yn ddigon i brofi nad oedd yn dignitary, of Rome." Ychydig iawn a wyr y Saeson, fel rheol, o hanes Cymru yn wladol nac Eglwysig, Gellid disgwyl fod yr ofergoel wirion-ffol hon wedi ei chwythu allan dalm byd cyn hyn. — NOSWYL DEWI SANT. Cynhaliwyd y trydydd cyngerdd blynyddol yn Neuadd y Frenhines, Birkenhead, nos Wener, Chwefror 28ain, dan lywyddiaeth y Parch. Canon W. Saumarez, D.D. Y pjif gerddorion oeddynt — Miss Emilie Mowell, Miss Dora Powell (Mostyn), Mr. E. Edwards, Mr. F. Gwen, a Mr. Llew Wynne. Y cyfeiles Miss Maggie Evans (Megan Mon). Clywsom y cafwyd cynulliad da, a chyngherdd llwyddianus ymhob ystyr. Elai yr elw i drysorfa yr Eglwys Gymreig a fwriedir adeiladu yn Westbourne Road. Bydd genym ychwaneg ar y mudiad Eglwysig Cymreig yn Mhenbedw yn y rhifyn nesaf. AM UY'WIOX. Ar Ddydd Gwyl Dewi, rhoddwyd ciniaw yn Lerpwl dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, a chynhaliwyd amryw gyngherddau yn y dclinas a'r cyffiniau. Canfyddid amryw Gymry gwladgarol yn yr heolydd a'r arwydd- lun cenedlaethol yn eu hetiau. Cynhaliwyd cyfarfod llenyddol llwyddianus yn Ysgoldy Clifton Road, Birkenhead, pryd y rhoddwyd amryw wobrwyon am ganu, adrodd, a chyfan- soddiadau barddonol a rhyddiaethol, ond rhaid gadael ar hyn, Mr. Gol., rhag trethu gormod ar ofod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH.
AT Y BEIRDD. ;
AT Y BEIRDD. id' f h yn J. R.—Nid oes un gronyn o farddontaeih yn eich llinellau. Rhy wael i'r golofn. c. JOHN BOWEN.—Y'mae syniadau' tly«Stm yn Blodaur Eira," on(I paba-m y rhoddveh y fath wisg garniog am danynt ? Y mae y pedair llinell gyntaf yn drwsgl iawn .ac yn y penill olaf, yr ydych yn neidio o'r rhif unigol i'r rhif liosog. Ail Orwsiwcb, "Yr oil. Nid oes dim yn yr englyn yn teilyngu He yn y golofn. ii D. DAVIES (Caerefryn).—Da chwi, aysgWoh y ffordd i sallebu.. GWILYM GWYNFIL.-Yr un cyngor i ehwithau.
CYFARFOD AMDDIFFYNOL DOLWYDDELEN.
CYFARFOD AMDDIFFYNOL DOLWYDDELEN. Hela y Parch. Evan Jones. (PARHAM.) Deuwn yn awr at ymgais Mr. Jones iam- cldiffyn ei eafle ynghylch yr eiddo Eglwysig. Y tro o'r blaeu ceisiodd osgoi tystiolaethau Iarll Granville, Arglwydd Salisbury, a Mr. Glad- stone, drwy ofyn am y cyfeiriadau; y tro hwn ceisiodd wneyd yr un peth, drwy sylwi yn unig ar y dystiolaeth ychwanegol roddaswn iddo y tro diweddaf o eiddo Mr. Gladstone, ond yma liona Mr. Jones hollwybodolrwydd. Gwyr feddwl Mr. Gladstone yn well nag ef ei hun. A phan y del hollwybodolrwydd i'r maes yn fy erbyn, nid oes genyf ond rhoddi geiriau y ddau wf enwog hyn ochr yn ochr, a chilio fy hunan mewn gwylder a dychryn gan adael rhyng- ddynt a'u gilydd :— MR GLADSTONE, CHWEF. Y PARCH EVAN JONES, 12FED, 1885. Nid yw clerigwyr yr Eglwys yn cael eu talu gan y Wladwr- iaeth." CHWEF. 6ED, 1890. Ni feddyliodd Mr. Gladstone erioed am ddweyd na thelid i'r clerigwyr gan y Wlad- wriaeth." Ni phrawfgwaith y Llywodraeth yn cymeryd meddiant o eiddo yr Eglwys Wyddelig ond gallu y Llywodraeth i wneyd yr hyn a fyno, boed gyfiawn neu anghyfiawn. Yna benthyciodd Mr. Jones o'r "Llawlyfr ar Ddadgysylltiad," eiriau gwahanol ddynion cyhoeddus, er dangos mai eiddo cyhoeddus ydoedd meddianau yr E 9 lwys. Ni roddes un cyfeiriad er cyfleusdra i edrych y cysylltiadau, ac ymddengys iddo en benthyca o "Lawlyfr y Dadgysylltiad," am ddvfyniadau pa un, wedi eu harchwilio, y dywed Arglwydd Selborne, gan roddi ei resym- an, Nis gallaf gydnabod eu hawdurdod: fel tystion gwrthodaf hwynt." (Def. 308). Yn awr deuwn at y gwahanol fathau o eiddo, a'r cyntaf (1) ydyw rhoddion personol i'r Eg- lwys, neu danysgrifiadau gwirfoddol. Dygodd Mr. Jones y tro blaenorol ddwy ffaith fel profion nad ydyw y rhoddion i'r Eglwys ar yr un tir a rhoddion i Ymneillduaeth. (i) Na chafodd Dr. Chalmers gadw meddiant yn yr eglwysi yn Glasgow wedi iddo ymneillduo. (ii) Na ch'ai Arglwydd Addington lywodraethu Eg- lwys St. Albans wedi ei chysegru. Atebais fod yr un peth yn wirionedd am gapelau ac eiddo Ymneillduol—na ch'ai cynulleidfa Fethodist- aidd gadw meddiant o'u capel pe ymadawent a'r Corph, ac na allai dyn a adeiladai gapel hawlio gwneyd a dadwneyd swyddogion y cyf- ryw gapel wedi ei drosglwyddo i feddiant y Corph. Hyd yma cytuna Mr. Jones. II Ond," meddai, daeth yr eiddo yn feddiant i'r Eglwys. Y mae yr Eglwys yn feddiant cenedlaethol, a'r canlyniad ydyw fod yr eiddo sydd yn perthyn iddi yn perthyn i'r holl genedl, i wneuthur a fyno ag ef, er mai gan bersonau unigol y rhodd- wyd ef ar y cyntaf." Mewn rhan y mae hyn yn wirionedd. Mewn un ystyr y mae pob eiddo yn y wlad yn eiddo i'r genedl; eithr gan belled ag y mae yn wirionedd, mae yn wir- ionedd hefyd am eiddo Ymneillduol. Dywed Dr. Freeman, ac apeliai Mr- Jones ato ef fel awdurdod—" Gorphwysa gwaddoliadau yr Eg- IWYR ar yr un tir yn gymwys a gwaddoliadau cyrph Ymneillduol (Disest., &c., 55); ac am yr ystyr neillduol hwn dywed Arglwydd Selborne, Mae y syniadau hyn yn gyfreithiol, yn hanesyddol, yn ymarferol, ac yn hollol anghywir ymhob ystyr (Def. 179). Gadewch i mi yn fyr edrych arno yn yr olwg ymarferol. Mae eglwys a chapel Methodistiaid newyddion yn Nolwyddelen, Tybiwch fod y ddwy gynull- eidfa yn penderfynu ymneillduo, y naill oddi- wrth gorph yr Eglwys a'r llall oddiwrth gorph y Methodistiaid, gan benderfynu cadw medd- iant o'r adeiladau. Beth fyddai y canlyniadau gyda'r Eglwys ? Galwai rhywun sylw yr archddiacon at yr achos—galwai yntau sylw yr esgob. GOWzlai yr Eglwys iddynt naill ai aros mewn undeb a'r Eglwys, neu roddi i fyny yr adeilad. Atebent hwythau, Na wnaent." Beth nesaf ? Dygai yr esgob gynghaws yn y Llys Eglwysig, ac y mae penodiad ei farnwr yn nwylaw y ddau archesgob, a gorfyddai y Llys Eglwysig hwn i'r gynulleidfa roddi yr eglwys i fyny i'r esgob. Gyda'r capel, drachefn, gelwid sylw y Cyfarfod Misol at y mater, ac wedi cael pwyllgor neu ddau, eid ag ef i'r Sasiwn; ac os gwrthodid ufuddhau i arch y Sasiwn, dygid cynghaws mewn llys gwladol, barnwr yr hwn a benodid gan y Goron, a'r llys cenedlaothol hwn a orfodai iddynt rcddi'r capel i ddwylaw'r Corph. Os oes mantais o gwbl, gan yr Eglwys y mae—tra mai Llys Eglwysig' benderfyna yr achos Eglwysig-llys cenedlaethol i benderfynu achos yr Ymneillduwyr; ac am ymdrech Mr. Jones i ddangos gwahaniaeth rhwng y ddau eiddo, dywed Arglwydd Selborne ei bod yn wawd ac yn sarhad ar reswm a synwyr cyff- redin dynoliaeth (Def. 183). 2. Am yr ail ddoabarth o eiddo, rhoddion brenhinol, rhydd Mr. Jones ei dir i fyny, ond teifl hwy gyda'r dosbarth cyntaf. 3. Rhoddion Seneddol. Dywedais ddarfod i Ymneillduwyr dderbyn rhoddion cyffelyb, ac os gelwid ar yr Eglwys i'w had-dalu y dylid galw ar yr Ymneillduwyr i ad-dalu y ddwy filiwn dderbyniasant hwythau. Nage," meddai Mr. Jones, oblegid rhoddid y rhoddion hyn i'r Eglwys fel corph cyhoeddus i'w dal yn ol rlieolau'r Wladwriaeth ond i'r Ymneillduwyr, nid fel cyrph cyhoeddus, ond oherwydd rhes- ymau neillduol, i'w dal ganddynt yn ol eu rlieolau hwy eu hunain." Gwalianiaethu heb wahaniaetb ydyw hyn. Rheolau pwy feddylia Mr. Jones wrth eu rheolau hwy eu hunain," yn ol pa rai yr oedd yr Ymneillduwyr i ddal y rhoddion hyn ?—rlieolau'r Ymneillduwyr fel cyrph cyhoeddus raid iddynt fod. Mae'r geiriau yu groes-ddywediad, ac y maent yn groes i ffeithiau. Rhoddodd y Wladwriaeth yr arian i Ymneillduwyr, nid yn unig gyda rheolau pa fodd i'w rhanu, ond newidiodd y rheolau hyn amryw weithiau. Anfoner at Eyre a Spottis- wood am 33, 33 Viet. cap. 42 a 34-35. Viet. cap. 4, a cheir gweled rhai o'r rheolau, a plirawf ar yr un pryd fod y gwahaniaeth geisia Mr. Jones yn gorphwys ar ei awdur- dod ei hun, ac nad oes rhith o wirionedd ynddo." Mae y Wladwriaeth wedi caniaiau i'r Ymneillduwyr ryddid a hunan-lywodraeth," meddai. Nid oes dim llai na haner cant o gyf- roithiau ar ddedd-lyfr y deyrnas heno yn rlleoli Ymaeillduaeth, ac y mae cof-lyfrau llysoedd y wlad yn frithion o ddyfarniadau dadleuon crefyddol Ymneillduwyr. 4. Y Degwm. Dywed Mr. Jones:—" Cam- gymeriad yn Mr. Williams yw dweyd fod y dreth eglwys wedi ei diddymu." Teitl yr Act feI ei pasiwyd gan y Senedd Ded(If i ddi- ddymu treth eglwys yn orfodol." 31, 32, Yio. c. 109. "Ni chawn fod talu dim degwm yn Israel ar ol y caethiwed," meddafy tro cyntaf. Nodais gyfeiriadau yn yr Hen Destament a'r Newydd lie y crybwyllir am gasglu y degwm a degymu, ac ni chlywais ac ni ddarllenais erioed ddim mor ffol ac eiddil a bylwadau Mr. Jones mewn atebiad. Rhaid fod ei achos yn druenus o wan pan ymostyngai gwr o safle Mr. Jones i gellwair fel hyn a geiriau yr Ysgrythyr. Dywedir fod gwyr yn casglu degymau," meddai ond un CIY peth ydyw eu casglu, fel y gwyddoch, a pheth arall ydyw eu talu." Ai fel hyn, tybed, yr esbonia y Parch. Evan Jones Air Duw pan yn y pwlpud ? Beth olyga geiriau y Phariseaid, Yr wyf yn degymu cymaint oil ag a feddaf," os na olygant Yr wyf yn talu degwm o'r hyn oil a feddaf?" Yn Nehemiah xii. 44, cawn hanes ail osod- iad y degwm wedi dychweliad y gaethglud, ac yn Nehemiah xiii. 10, 12, orfodiad ei dalu," meddai. Pa fodd y cyferfydd Mr. Jones hyn ? Newidia y ddwy adnod, ac yna dywed nad oes son amorfodaeth yn Neh. 44 Mewn dadleuydd ieuanc buasai troion fel hyn yn ysmala, ond mewn gwr a oddefa ei ddesgrifio ar g'oedd fel arwr Cymru ar y pwnc hwn—pwnc ac y rhy- buddiodd efe chwi y waith gyntaf y bu yma mai pwnc dwfn, difrifol, a neillduol bwysig ydyw- mae troion o'r fath yn ddirmygus. DaLgosais iddo hefyd wneyd camgymeriadau ynghylch degymau gwahanol blwyfi. Yr.oedd ganddo sail dros yr hyn ddywedodd, meddai ef —John's Causes ef Dissent. Yr oedd gan y dyn adeiladodd ei dy ar y tywod sylfaen, ond tywod oedd. Y tro hwn daeth Mr. Jones a bwndel o lyfrau gydag ef. Nid oes dim tebyg i'r Llyfrau Gleision yma," meddai. NaCoes ond un peth —gallu eu deall! A phrawf yr hyn ddywedodd am ddegwm Dolwyddelen amddifadrwydd Mr. Jones o'r gallu hwn. Dywedasai y tro o'r blaen fod £ 250 o ddegwm Dolwyddelen yn myned i Arglwydd Willoughby, a £i20 i minau, tra nad yw y degwm i gyd ond Y,130, a dim ond £8 yn d'od i mi. Troais," meddai, i'r return, a gwelaf fed £ 130 o'r degwm yn myned i'r degwm- feddianydd; ac wrth edrych i'r Diocesan Calendar, gwelaf fod y curad yn cael £ 120 a'i dy. Pa. le y mae Mr. Williams yn awr ? Pwy sydd yn dweyd y gwir ?" Atebais mai myfi. 11 Yna," meddai yntau, y mae yn bur dda genyf mai y llyfrau hyn sydd yn dweyd anwir- edd." Yr oeddwn i a'r llyfrau yn dweyd y gwir, ond nid oedd Mr. Jones yn deall y naill na'r llall! Dywed y returns fod y degwm yn 9130, a dywed y Calendar fod y fywoliaeth yn werth £ 120, ond ni ddywedir yn unman mai degwm yw y swm yna. Dywedir pan y bydd y bile" ar rywun y gwel bob peth yn wyrdd-mae y degwm wedi troi yn bile ar Mr. Jones, nes y mae pob figures, wel yn mhobmau, yn troi yn ddegwm. Felly gyda degymau y Gyffin, Capel Ily Curig, a LIandegai-mae ei ffigyrau ef yn cY anghywir, a'm rhai inau yn gywir, pe gallai Mr. Jones ond deall y returns. A dyna. y peth digrifaf yn ei bapyr. "Dywedais y tro o'r blaen," meddai, fod Deon Bangor yn cael X600 o ddegwm o Gyffin, ond nid yw yn cael yr un geiniog." Cydnebydd ei fod ef yn anghywir a minau yn gywir, ac ar yr un gwynt dywed, "Rhaid i mi ddweyd mai y personiaid yw y dynion diweddaf i mi i'w coelio." Ymddtngys i mi fod yr esgid am y troed chwith Deuwn yn awr at hanes y degwm, ac amlwg iawn yw fod Mr. Jones mewn cryn benbleth yn y fan hon. Dywedais iddo gael ei darddiad mewn rhoddion gwirfoddol," meddai mewn un cwr o'i bapyr, yr hyn nid yw yn bod medd mewn cwr arall. Yr hyn ddywedais am y degwm ydoedd :—" Rhoddwyd y degwm dros byth ar y cyntaf, fel y dengys y gweithredoedd OY sydd ar gael. Pan ddaeth y Wladwriaeth i fodolaeth ac yn Gristionogol dywedodd, gan fod y dSgwm wedi ei roddi dros byth i'r Eglwys, rhaid i chwi ei dalu.' Ymddengys y cytuna Mr. Jones a hynyna, canys dywed am hyn—"A feiddiodd Mr. Williams wadu hyn ?" "Naddo." Felly, dyna ni o'r farn ynghylch y miliwn erwau z, cyntaf. Os myn Mr. Jones alw amddiffyniad eiddo gan y Wladwriaeth yn "rhoddi," pobpeth yn dda-yn yr ystyr yna y Wladwriaeth sydd yn rhoddi pob eiddo. Ceisiodd Mr. Jones hefyd y tro cyntaf gadarn- hau ei ddywediad mai rhodd y Wladwriaeth ydyw y degwm drwy dair colofn. 1. Y modd y daeth 26 miliwn o erwau yn ddegymadwy, ac yma sylweh fod hanes y degwm wedi cyfnewid yn ddirfawr mewn chwech wyth- nos. Ar y dechreu," meddai yn ei araith gyntaf, "nid oedd ond miliwn o erwau yn talu degwm-yn awr mae 27 miliwn." Pa fodd y daeth hyn ? Y tro cyntaf dywedodd Mr. Jones mai pasio deddf wnaecl. Wedi ei heria i dd'od a'r ddeddf i'r bwrdd, a gweled na wnai 2 a 3 Ed. YI. 13. 5 y tro, "rhaid cofio amy Common Law," meddai. Arbedodd y Wladwriaeth dal- iad degwm am saith mlynedd," meddai Mr. Jones y tro cyntaf, yr hyn a brawf mai y Wlad- wriaeth û'i rhoddes. "Arbedodd y Wladwriaeth rent yn yr Iwerddon," atebais inau, yr hyn a brawf felly mai y Wladwriaeth roddodd y tir yno. Ac yma deuwn .at eiriau nodedig. Pe llefarasai Mr. Jones hwy yn mhoethder ei araith nibuaswn yn gosod cymaint pwys arnynt; eithr gan iddo eu hysgrifenu yn Nghaernarfon, eu darllen yma, a'u rhoddi yny Genedl, rhaid eu hystyried fel ei farn ystyriol. Y mae yn profi hyn," meddai, mai gwladwriaeth sydd yn rhoddi bodolaeth i'w heiddo (y tirfeddianwyr yn yr Iwerddon), a'u bod hwythau yn dal eu heiddo yn ddarostyngedig i'r Llywodraeth sydd yn rhoddi bodolaeth i'r degwm fel eiddo yr Eglwys ac mewn canlyniad yr oedd ganddi berffaith hawl trwy statute law i esgusodi talu degwm Mewn geiriau eraill, ni roddodd y Wladwriaeth y degwm i'r Eglwys ond yn yr un ystyr ag y rhydd eu tir i dirfeddianwyr yr Iwerddon ond yn yr un modd ag y rhydd eu tir i dirfeddianwyr yr Iwerddon rhydd y Wlad- wriaeth eu tir i dirfeddianwyr Cymru, a phob eiddo i bob perclienog. Felly, cydnabydda Mr; Jones fod hawl yr Eglwys i'w heiddo ar yr un tir a hawl tirfeddianwr i'w ystad, neu y siopwr i'w siop, a dyna bob dadl. drosodd. Bellach, wedi y cyfaddeiiad hwn, gadawaf at gydwybod y wlad amddiffyn eiddo yr Eglwys; a dyna golofn gyntaf Mr. Jones wedi ei throi yn hwrdd- beiriant i guro i lawr ei holl gaerau eraill. 2. Ei ail golofn ydoedd mai Common Law ydyw sail cyfreithiol y degwm. Atebais os felly, yna rhaid mai gwirfoddol ydoedd ei dardd- iad, a rhoddais engraifft y daw llwybr yn eiddo i'r cyhoedd drwy Common Law wedi 21 mlyn- edd o ganiatad. Ie," medd Mr. Jones, ond law ydyw wedi y cyfan." Cymerwn yr un esiampl eto. Beth wna y Common Law gyda'r llwybr? Nid rhoddi y llwybr, ond dweyd fod gwaith y boneddwr yn caniatau llwybr am 21 mlynedd yn dangos ei fod wedi ei roddi. Felly gyda'r degwm. Ac yn mhellach, ar Common Law y gorphwys hawl mab hynaftirfeddianydd i'r etifeddiaeth rhagor y plant eraill. Drwy Common Law y deil tirfeddianwyr eu hetifedd- iaethau. A dyna eiddo yr Eglwys ac eiddo per- sonol ar yif up tir eto, ac ail golofn Mr. Jones ar lawr. f. x » i i "Goiynwohamygweithredoedd," meddai y tro cyntaf. Atebais fy mod wedi rhoddi dwy yn fy atebiad i Mr. Thomas. Ni welais hwynt," meddai Mr. Jones. Anfonaswn iddo gopi o fy anercbiad a'r gweithredoedd ynddo. Llygaid hwylus anghyffredin sydd gan Mr. Jones ni welant ddim fyddyn anghyfleus.iddo ei weled. 3. Y drydedd golofn i gadarnhau y gosodiad mai y Wladwriaeth roddodd y degwm ydoedd y t, yr eithriadau-rhai na thalent y degwm. Ym- ddengysi mi mai fel arall y buasai yn fwyaf naturiol: pe y Wladwriaeth a'i rhoddodd, y buasai pawb yneidalu; ond rhwng Mr. Jones a'i ymresymiad. Nid yw y Frenhines yn talu y degwm," meddai. Oblegid cael Mr. Jones 91 mor anghywir mewn cynifer o bethau, nid aethum i drafferth y tro o'r blaen i wneyd ym- chwiliad i hyn. FfOrdd, gyfleuis i ddyfod o'r rhwyd," meddai yntau. Felly, y tro hwn ysgrif- enais at y Due o Rutland, Canghellydd Duciaeth Lancaster, lie y gorwedd rhan helaetho diroedd ei Mawrhydi, a chyda'r un canlyniad. Atebodd fod tiroedd y Frenhiues yn talu y degwm fel tir- oedd pobl eraill yn gymwys. "Nid yw y person- iaid yn talu y degwm," meddai. Atebais, wrth gwrs, nad ydynt yn talu degwm iddynt eu hun- I ain, ond profais, pan fo y degwm yn myned i rywun arall, eu bod yn talu degwnj dros eu glebe. -Acwedidan-osfQdeiioiriauyn-yqfyc rwydd mewn un agwedd, arc yn anghywir yn: yr ystyr arall—" Gofynwch i Mr. Williams egluro hyn," medd Mr. Jones Mae pendefigion na thalant ddegwm." Oes, 0 oblegid iddynt gael tiroedd gyda'r degwm ys- beiliodd Harri YIII. Myn Mr. Jones i ni ddweyd tipyn ar hyn wrth bregethu, a syna na ddywedais ddim yn fy anerchiad. Nid wrth gyfarwyddyd y Parch. Evan Jones yr arferaf ddewis fy nhestynau, ac nid fy egwyddor ydyw danod beiau rhai fydd yn absenol, ac heb un. rhyw gyfleusdra i'w clywed. Gwyr y rhai fyn- ychant yr eglwys hon ac eglwysi eraill pa un a arferaf ddweyd wrth fawrion eu dyledswyddau ai peidio. Cynterfynuy tro diweddaf, defnyddais Sel- den, er dangos mai rhoddion tir-fe'ddianwyr ydoedd y degwm. Fel arfer, dywddodd Mr. Jones nad oedd y dyfyniad yn gywir, ac mai dweyd wna Seldom iddynt gael caniatad i. gadw gartref yr hyn oedd raid iddynt ei dalu i drysorfa yr esgob. Dywed Selden yn mhellach (Hist. of Tithes, chap. vii.) yr arferai y lleygwyr hyn yn aml werthu yn lie rhoddi eu degymau i'r Eglwys, ac nad oedd eu rhoddion bob amser yn gysegriad rhydd a rhad, ond yn aml yn cyfnewid am ryw fanteision gwerthfawr roddid gan yr Eglwys. Ac a ydyw rhaid talu yn golygu rhyddid i werthu a mynu tal am dano ? Dy- fynais hefyd Dr. Pye Smith. Gofyna Mr. Jones am y cyfeiriad, gan ddweyd fod Dr. Pye Smith yn nghyfarfod Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, 11 y ac nad yw yn debygol ei. fod wedi ysgrifenu Y geiriau. Ond tybed na wyr Mr. Jones am neb arall,wedi ymuno a'r gymdeithas hono, ac wedi ei gadael pan ddeallasant ei hamcanion ? Fodd bynag, dyma eiriau Dr. Pye Smith" Buasai i'r Wladwriaeth gymeryd ymaith yr hyn ni roddodd erioed, sef eiddo yr Eglwys, yn down- right robbery. Gwareder ein gwlad rhag cael ei hanurddo a'r fath weithred," a dyma y cyfeir- iad—Dr, Pye Smith, Letter to Professor Lee, page 55." Wele ni yn awr wedi dilyn Mr. Jones o dwll i dwll ac o gornel i gornel, gan orfod dynoethi y naill dric ar ol y llall. Buasai yn llawer gwell genyf gael ymresymiad teg a chadarn i'w ateb na gorfod dynoethi ystrywiau ond darllenwch fy anerchiad o'r blaen ac anerchiad Mr. Jones, a chewch fod yr oil a ddywedais yn wirionedd. Ac wele bob ymgais i gyfiawnhau ysbeiliad yr Eglwys o'i heiddo wedi troi yn fethiant truenus. Nid nyni ddechreuodd yr ornest; ein gwrth- wynebwyr ddecMeuasant, ac yn awr, pan wedi colli y frwydr, mynant ein rhwystro. Gan nas gellir ein cyfarfod gyda phenau, ceisiant wneyd si gyda thraed ond ceisiant liwy faint a fynant o areithwyr, fe fynaf ryddid i'w hateb hyd yn nod pe gorfyddid cael y 23rd Welsh Fusiliers i am- gylchu yr ysgol tra byddwn yn gwneyd, ac fe gaent lawer o recruits o blith Ymneillduwyr Dolwyddelen, sydd yn caru tegweh, i'w cynorth- wyo igadw trefn. Ac yn awr, wedi gosod y gwirionedd o'ch blaenau, yrwyf yn ei gyflwyno i'ch ystyriaethau, ac yn gorphwys yn daw el ac yn hyderus ynghylch eich dyfarnied. Terfynwyd gyda diolchiadau i'r ficer a'r cad- eirydd, a chanu Dan dy fendith."
DYDD GWYL DEWI SANT YN MANCEINION.
DYDD GWYL DEWI SANT YN MANCEINION. Mae dydd Gwyl Dewi Sant, fel yr Eisteddfod, yn d'od i hawlio mwy o sylw y naill flwyddyn ar ol y llall oddiwrth y Saeson. Nid oes Ilawer o flynyddau er pan edrychid ar yr Eisteddfod fel sefydljad i gadw ofergoeliaeth y canol oes- oedd. Yr ydym yn cofio yn eithaf da am y gwawd a'r dirmyg a dywalltai y Times arni, a phob peth a berthynai iddi. Ond erbyn heddyw mae newyddiaduron blaenaf y deyrnas wedi d'od, os nad i'w clilodfori, i beidio dweyd yn ddrwg am dani. Boreu dydd LIun cyn y di- weddaf, yr oedd gan bob papyr newydd o bwys drwy y deyrnas o'r bron, rywbeth neu gilydd i'w ddweyd am Ddydd Gwyl Dewi Sant," ac am Gymru. Dathlwyd yr wyl yn Manceinion ar raddfa eangach nag erioed o'r blaen. Nos Wener, cafwyd cyngerdd fawreddog dan nawdd Cym- deithas Genedlaetliol Manceinion. Y prif at- dyniad oedd y gystadleuaeth gorawl. Daeth pump o gorau Cymreig ymlaen i ymgystadlu, cy a'r oil o Manceinion, Nos Sadwrn, cafwyd cyngerdd Cymreig arall yn yr Association Hall, Peter Street. Y prif symudydd gyda'r cyngerdd yma oedd, Mr. Cross, un o'r dynion mwyaf adnabyddus mewn cysylltiad a chyngherddau yn y ddinas. ..P Heblaw y cyngherddau uqhod, cafwyd Banquet Gymreig yn y Grand Hotel. Llyw- yddwydgan Mr. W. Pritchard Morgan, A.S. Yn mysg y nifer fawr oedd yu bresehol, gwelsom Faer Manceinion, Cyn-faer Salford, yr Henadur- iaid Roberts ac Evans; y Cynghorwyr R. Lloyd ac A. E. Lloyd Proffeswyr Boyd Daw. kins, Wilkins, a Tout; y Doctoriaid H. E. Edwards, Thomas Jones, Emrys Jones, Lloyd Roberts, W. O. Jones (Bowdon), Mould, Cheadle, a Jones, Chorlton Road; y Mri. J. W. Jones (Consul), Hugh Rowlands, Y.H., Hugh Roberts, E. G. Hughes, D. Williams (Altringham). E. R. Phillips (Golygydd y Manchester ISxiiikincr), a Walter Williams y Parchn. J. F. Reece, B.A., Rheithor Llanfwrog, Rhuthyn D. T. Rees, a J. Price. Y ddau brif lwnc-destynau oeddynt, Coffadwriaeth an- farwol Dewi Sant," a Llwyddiant i Addysg Gymreig." Ar y penawd cyntaf, siaradwyd yn hynod ddyddorol a phwrpasol gan Reithor Llanfwrog. Ac mewn atebiad i'r olaf cafwyd anerchiadau amserol gan y Proffeswr Boyd- Dawkins (Cymro twymngalen), a'r Henadur Roberts, Y.H. Bu amser pan yr edrychid ar y Cymry fel cenedl o lafurwyr. Yr oedd hyny i'w briodoli i'w hamddifanrwydd o foddion priodol i ddadblygu y galluoedd naturiol' a gydnabyddir fel yn perthyn i'r Cymry. Collodd Cymru ei modd- ion addysg yn y chwalfa fawr a lethodd ei han- nibyniaeth. Yn wahanol i Scotland a'r Iwerddon, collodd Cymru bobpeth pan gollodd ei tbywysogion. Cyn ¡llyny, meddianai y I. Dywysogaeth, o ran addysg, le anrhydeddus yn mysg cenhedloedd diwylliedig y ddaear. Yr ;oedd ei meibion yn athrawon i frenhinoedd, a'i liatlirofeydd yn fagwrfeydd dysgedigion. Dy- wedir fod dwy filyndèrbyn hufen dysgeidiaeth fil yn Mangor-is-y-Coed y dyddiau'hynyj a phan sefydlodd Alfred Fawr y brifysgol yn Rhyd- ychain, penododd Gymry i dair o'r prif gadeir- iau athrawol. Fel hyn, yn rhinwedd eu dysg, yr oedd y Cymry yn gallu dringo i'r sefyllfaoedd uchaf. Ond anrlfaethwyd Cymru gan y cleddyf —aeth ei thir yn wasarn i'r march coch, ac yn y dinystr cyjffredinol chwalwyd ei heglwysydd a'i hathrofeydd. O'r pryd hwnw hyd yn ddi- weddar, bu ein cenedl yn gorwedd yn ddiymad- ferth. Mae Cymru erbyn hyn wedi deffroi o'i chwsg, ac yn benderfynol o adfeddianu ei sefyllfa addysgawl. Mae y symudiad addysgawl yma wedi achosi chwyldroad yn Nghymru. Mae y bobl, ar ol profi gwerth addysg yn dyheu am ychwaneg, ac ychydig o nod- wedd uwch na'r un a gyfrenir yn yr ysgolion dyddiol cyffredin. Mae cyneddfau yn y Cymro a gyrhaeddant y perffeithrwydd mwyaf ond eu dadblygu yn briodol. Edrychwn ymlaen yn hyderus at yr amser,' ond o ran hyny mae yr amser wedi d'od pan Mae, genym bob cyfleustra a fedd dysg a diwylliant i'w roddi i ni heb groesi Clawdd Offa. Cafwyd anerchiadau gan Dr. Emrys Jones, Dr. Thomas Jones, a Dr. E. G. Hughes. Yn ystod y ciniaw, chwareuwyd ar y delyn Gymreig gan Telynor Ceinion," ac ar y crwth gan Mr. R. Roberts (bachgen 10 oed). Cafwyd canenon hefyd gan Mr. Mr. J. H. Dew (o'r Prince's Theatre), Mr. David Edwards, a Mr. Pierce Hughes. Y Sul,, sef yr 9-il eyfisol, cynhaliwyd CYFARFOD BLYNYDDOL cyntaf yr Eglwys Gymreig. neu fel ei had- weinir o hyn allan, Eglwys Dewi Sant." Y pregethwr oedd y Parch. J. F. Reece, B.A., rheithor Llanfwrog, Rhuthyn. Yr oedd yma ddisgwyliad mawr am y Sul diweddaf. Yr oedd enw y pregethwr* yr hwn sydd eithaf adna- byddus i Gymry a Saeson Manceinion, ynghyd i'r ffaith mai dyma wasanaethau cyntaf blynyddol Eglwys Dewi Sant, yn peri fod disgwyliadau mawr am yr 2il cyfisol, ac ni chawsom ein siomi. Ni ddywedaf fwy, rhag ofn cael fy ngbyliuddo o seboni," nag ein bod wedi ein breintio a pliregethau doniol a dylan- wadol. Mae y cyfarfodydd hyn, Mr. Gol., yn sicr o brofi yn fendithiol i'r Eglwys mewn cadarnhad ac adeiladaeth, yngliycl ig enyn mwy o zel a brwdfrydedd, yni, a gweithgarwch yn yr holl gynulleidfa. Dichon y goddefir i mi, gan ei bod yn ben blwyddyn arnom o ran agoriad yr Eglwys Gymreig, i ddweyd fod Pen Mawr yr Eglwys wedi ein bendithio uwchlaw ein disgwyliad' yn ystod y 12 mis diweddaf. Yr ydym/wedi nodi fwy nag unwaith ar dudalenau Y LLAN A'R DYWYSOGAETH mai 25 oedd genym o gynulleidfa i ddechreu, erbyn heddyw mae genym 309, a 78 o gymunwyr, er ein bod wedi colli 12 trwy symudiadau, &c., yn ystod ein blwyddyn gyntaf, Am y canu, dywedwn yn ddibetrus nad oes ei well trwy holl Gymru, a chymeryd pob peth i ystyriaeth ygmae yn ad. lewyrchu clod mawr i Mr. Thomas, ein harweinydd medrus. Yr oedd y Tra Pharcli- edig Ddeon Manceinion wedi addaw pregethu yn y prydnawn y Sul diweddaf, ond anghofiodd ei "gyhoeddiad," ond dywedir nad ydyw un amser yn angliofio ysgrifenu erthyglau arweiniol Radicalaidd i'r Manchester Guardian. Mae y Parch. T. Lloyd, B.A., Llanelwy, wedi addaw pregethu ar hyd Sul Ebrill 27ain. Ond er mwyn pob peth, gofaled am beidio ein siomi," neu, wel-. Yr ydym yn edrych ymlaen gyda- dyddordeb at dderbyniad Y LLAN A'R DYWYSOGAETUddydd Gwener (heddyw). Da chwi, ohebwyr yn Nghymru, anfonwch newyddion iddo. Mae llawer o honom yn Manceinion nad ydym yn clywed o'r braidd ddim am helyntion yr hen lad anwyl ond a gawn trwy gyfrwng Y LLNN N'r. DYWYSO(;AKTII.
GWYL DEWI SANT YN LEEDS.
GWYL DEWI SANT YN LEEDS. Anaml iawn y- gwelir dim yn y LLAN am Gymry trigianol Lloegr, ac yn enwedig am Gymry Svtfydd Efrog. Wel, y mae dechreu ar bob gwaith da, ac felly daeth i feddwl y brawd Dr. A. B. Thomas, Leeds, mai nid anmhriodol fyddai cael cynulliad o Gymry trigianol Leeds a'r cylchoedd ar ddydd gwyl ein Mabsant. Trodd y drychfeddwl allan yn llwyddiant perffaith. Ffurfiwyd pwyllgor cynwysedig o Dr. Edwards (cadeirydd), Dr. Thomas, Parch. W. James, ac eraill, gyda Mri. Jas. Harris a R. E. Jones yn ysgrifenyddion, ac aethpwyd ymlaen a'r paro- toadau yn ganmoladwy. Agorwyd yr wyl gyda gwasanaeth a phregeth Gymraeg. Rhoddodd y Parch. Thomas Gleave (yn ngwythienau yr hwn y mae gwaed coch ei fam yn dyli?o). fen- thyg Eglwys St. Phillip's i'r Cymry, a gwoith- iodd yn ddiwyd er gwneyd y gwasanaeth yn llwyddiant. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. E. James, Dewsbury; T. Wil- liams, St. Mark's, Woodliouse, a W. James, Addingham. Pregethwyd gan y Parch. W. James, gynt curad St. Mair, Aberdar, oddiar 1 Cor. xiii. 13. Daeth cynulleidfa dda ynghyd, a chafwyd gwasanaeth hwylus—yn fwy bywiog o bosibl am ein bod mewn estron wlad. Yn yr hwyr, cafwyd swper a chyfarfod difyrus yn y Queen's Hotel. Cadeiriwyd yn y cyfarfod hwn gan Dr. Edwards, Arnley, yn cael ai gyn- orthwyo gan y Parchn. W. James, Addingham; J. J. Bynner, R. Williams, a F. Williams, Leeds; Mri. R. E. Jones, J. Harries, J. Lloyd, W. J. Lewis, Dr. Hall, a Dr. A. B. Thomas. Y llwncdestyn cyntaf oedd Y Frenhines a'r teulu brenhinol, yr hwn a gynygiwyd gan y cadeirydd. Yna cafwyd y llwncdestynau, Y Fyddin a'r Eglwys," ac ar ol hyn llwncdestyn y dydd, sef Er cof am yr anfarwol Dewi Sant," yr hwn a osodwyd allan gan y Parch. W. Jatoies, ac a yfwyd mewn distawrwydd. Cafwyd hefyd gan- euon Cymreig a Seisnig gan y cwmni, a chyfeil- iwyd ar y delyn. Casglwyd ar ddiwedd y eyf- arfod er cynorthwyo y dioddefwyr yn ngwaith glo Llanerch. Yr ydysynbwriadtl yn awr gadw yr wyl hon yn flynyddol. Yn y cyfamser yr ydym yn bwriadu ymweled k dosbarth gweithiol Cymreig Leeds. Mae llawer o Gymry !yma nad ydynt yn myned lun lie o addoliad o bwriedir cArio math o genhadaeth iddynt, a gobeithiwn a gweddiwn am i3dl fod yn llwyddiant.
DOSBABTH I."
DOSBABTH I. PEIDIWCH CODI ROW. (Alegori). Dau gi un diwrnod, wrth groesi rhyw gae, A gawsant fel tae' yn ddamweiniol, Ddarn bychan o gig a achosodd fawr ffrae, A chwyrnu ac ymladd ci-eiddiol; I, 'R oedd un dros ei ranu yn llawen ei fryd, A'r Hall am ei fwyta ei hunan i gyd. A dyna lIe 'r oeddynt yn cadw mawr row. A chyfarth yn wyneb eu gilydd, wow, wow, A wow, wow, wow udai own y fro Wrth at6b eu gilydd bob un yn ei dro. Ar ganoly cweryl, daeth llwynog drwy'r dd61, Gan gyfarch ei frodyr cynffonog, gy Paham (meddai wrthynt) yr ydych mor ffol Ac ymladd eich dau mor gynddeiriog ? Os gwnewch chwi ymddiried y gorchwyl i mi Yn gyfiawn mi ranaf y cig rhyngoch chwi. A'r cwn yn bur foesgar i'r llwynog ro'ent fow, A chyfarth yn uchel eu diolch, wow, wow, A wow, wow, wow udai cwn y fro Wrth ateb eu gilydd bob un yn ei dro. Ar ol i'r hen gadno gael bias ar y cig, Bwytaodd ei hunan wrth gwrs Ac er i'r cwn edrych ar madyn yn ddig, Aeth ymaith heb 'ellwaneg o 'sgwrs Edrycliai y ddau ar eu gilydd yn syn, Gan siarad mi dybiem yn debyg i hyn: Wel, druain o honom ar ol yr holl row, Ni chawsom un tamaid er cyfarth wow, wow," A wow, wow, wow udai cwn y fro Wrth ateb eu gilydd bob un yn ei dro; Y foeswers naturiol a ddysgir i ddyn t, Oddiwrth yr hanesyn yw hono— Mai ffol mewn cym'dogion yw byw'n anghytun A myned ynghyd i gyfreithio. Fel llwynog y twrnai a ddaw atynt hwy, Gan fwyta y cyfan, a thipyn bach mwy, A hwythau adewir i gwynfan ow, ow, Yn dlawd ac anghenus ar ol cadw row Ac ow, ow, ow fydd eu cwynfan o hyd, Fe aeth y cyfreithiwr a'u heiddo i gyd. Llangwnadle. MORUS.
'DOSBARTH II.
DOSBARTH II. AFON YR IACHAWDWRIAETH. (Datguddiad xxii. 1, 2). Afon bur o ddwfr bywyd, Disglaer fel y grisial yw, Welodd loan yn d'od allan 0 orseddfainc wen fy Nuw Afon burlan, afon bywyd, Ar dy hyfryd lenydd glan Y mae'r cerub, y mae'r seraph, Y mae r angel yn rho'i can 0 Mae dy dreigliad anolrlieiniOl Heb ddechreuad gyda Duw, Drwy yr arfaeth bu dy ymdaith I gyfeiriad dynol ryw; Afon fywiol, ddwyfol darddiad, Mae dy dreigliad heddyw 'r un A phan ganodd sêr y boreu Ar dy lanau cyn creu dyn. Treiglo wnest drwy'r hen arfaethau, A bwriadau Tri yn Un. Cyn i Dduw lefaru'r Bydded Uwch y gwagle maith dilun Afon bur o ddwfr bywiol Ddaeth drwy ganol Eden ardd, Disycheda'r eidifeiriol, Ynddo yn dragwyddol dardd. y Afon burlan rhedocld allan 0 gyfeiriad gorsedd Dnw Heddyw'r miloedd ddisychedir Gan ei dyfroedd gloewon byw; O fy Nuw, par i mi yfed Yn ddiarbed ddyfroedd hon Yna canaf mewn gorfoledd Yn ddiddiwedd ger dy fron Hirwainwrgant. D. DAVIES (Caerefryn). 0
YMWELIAD YR ANGYLION AIR BUGEIL.…
YMWELIAD YR ANGYLION AIR BUGEIL. IAID AR FEUSYDD BETHLEHEM. (Luc xi. 8-20). Ar feusydd Bethl'em gyda'r praidd, Yn ngoleu'r Ueuad dios, 'Pu oedd y bugeiliaid rha,i'r blaidd Eu llarpio yn y nos Ac wele mewn distawrwydd du Daeth goleu dwyfol wawr, A'r angel ddaeth o'r nef a fu Yn ddychryn iddynt 'nawr.