Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
ABERGAFENI.
ABERGAFENI. Cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Fair, yn y dref hon, dydd Sul, yr 2il cyfisol, fel gwasanaeth Gwyl Dewi. Yr oedd yr Eglwys yn llawn iawn. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Howell, Eglwys y Drindod, a phre- gethwyd gan y Parch. J. D. James, curad Eg- lwys Fair. Casglwyd Y,9 14s. at drysorfa damwain Glofa Llanerch. Cafwyd gwasanaeth dyddorol iawn, ac yr oedd y canu yn wych dros ben. Yr oedd y Cymry oil yn eu hwyliau goreu.-Cymro (Jock Cyfan.
LLANDDEWI FELFFRE.
LLANDDEWI FELFFRE. Da genym hysbysu darllenwyr Y LLAN ein bod eto ar dir y byw, ac nid wedi marw, fel y tybiodd rhywrai am danom. Mae yr anwydwst, neu yn fwy cyffredin, yr influenza, wedi talu ymweliad a'n cymyrlogaeth ninau, fel braidd pob cymydogaeth arall. Ymwelodd â'n teulu, a chawsom ddyrnod ganddo nes bron peri i ni dyb- ied fod yr ymddatodiad gerllaw. Ond diolch i'r Pen Llywydd mawr am gael ymwared o'r pla annymunol hwn, a chaniatau i ni gael adferiad i'n cynefinol iechyd am ryw ysbaid ansicr o am- ser eto. Y GAUAWYS.—Telir sylw arbenig genym yma i'r tymor pwysig hwn, fel pob tymor Eglwysig arali yn ystod y flwyddyn. Cynhelir gwasan- aethau yn yr Ysgoldy Cenedlaethol bob wyth- nos, pryd y gwasanaethir gan offeiriaiaid o'r gwahanol blwyfi cylchynol. Nos Wener cyn y diwoddaf pregethwyd gan y Parch. T. Davies, Llangan. Gan fod y gynulleidfa yn gymysg- edig o Saeson a Chymru, traddododd bregeth Gymreig a Seisnig tra phwrpasol gydag eiteith- iolrwydd a dylanwad mawr. Nos Wener di- weddaf, pregethwyd gan y Parch. J. E. Jones, ein curad, yn absenoldeb y Parch. T. Thomas, Henllan Amgoed, yr hwn a analluogwyd i ddy- fod oherwydd afiechyd. Nawdd yr lor fyddo drosto. Eiddunwn wellhad buan iddo fel ycawny fraint o'i wrando eto cyn diwedd y tymhor. Nos Iau diweddaf cyfarfuasom yn ddamweiniol .a Tyranus ar y groesffordd, heb fod nepell o'n llety. Cawsom fyr ymgom, yn ngoleu y lloer, ynghylch Y LLAN, &C. Paham, frawd anwyl, y darfu i ti ddanfon dy lith i'r LLAN am yr wythnos ddiweddaf i Gaerdydd yn lie i Ddowlais, a'n hamddifadu o'r ddysglaid wyth- nosol ? DAMWAIN.—Dydd Gwener diweddaf, cyfar- fyddodd y Parch. W. Harries, ein parchus ficer, a damwain tra yn marchogaeth ei geffyl i weled teulu claf yn y plwyf Gan ei fod yn oedranus, a bron yn ddall, rywfodd trodd ,y ceffyl allan o'r ffordd i le anial a chorsog, a syrthiodd yntau oddiar y ceffyl i Nos lawn o ddwfr. Pan y deuwyd o hyd iddo, yr oedd y dwfr bron a'i or- chuddio, ac yn hollol ddiymadferth. Yn ol tyst- iolaeth rhai a'i gwelodd yn cychwyn oddicartref, tybir iddo fod yn y sefyllfa a nodwyd am yn agos i bedair awr. Da genym nad ydyw y ddamwain wedi effeithio ond ychydig arno. Cymercd ein parchus Ficer un awgrym yn gar- edig oddiwrthym, sef, peidio ymddiried yn or- modol i'w ferlyn o hyn allan. Y LLAN FAWP.-Edmyg-wn Y LLAN ar ei gy- chwyniad yn ei ddiwyg newydd. Hyderwn y bydd ei helaethiad yn foddion i eangu ei gylch- rediad. Llwyddiant iddo yw ein dymuniad.— T.L.
TUA CHANT 0 FYWYDAU WEDI EU…
TUA CHANT 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. RHESTR GYFLAWN O'R MEIRW. Gyda bod swn galar gweddwon ac am- ddifaid y trueiniaid a gollasant eu bywydau yn y danchwa ddiweddar yn y Llanerch megys yn graddol ddystewi, a'u gruddiau rliychiog a gwelw gan ofid angerddol fel pe heb eu hollol sychu o'r dagrau heilltion, dyma ni eto, ysywaeth, yn gor- fod cofnodi hanes trychineb arall a thra dinystriol a gymerodd le ddydd Llun diweddaf yn Mhwll y Morfa, pan y coll- wyd, yn ol yr hyn a wyddys yn bresenol, tua chant o fywydau. Saif Glofa y Morfa oddeutu dwy filldir o bentref poblog y Taibach, a pherthyna i'r Meistri Vivian a'i Fab. Er fod y boneddigion hyn yn cael y gair eu bod wedi gwneyd yr oil a allent yn ac o gwm- pas y lofa hon i'w gwneyd yn ddiberygl i fywydau y gweithwyr a'u gwasanaethent yn y gorphenol, eto i gyd, y mae yr elfen danllyd mor gryf yn y pwll hwn, fel y mae dwy danchwa wedi cymeryd lie ynddo o'r blaen-un ar y 17eg o Hydref, 1864, pryd y collodd deg ar hugain o weithwyr eu bywydau a'r Ilall yn 1870, pryd y cyf- arfyddodd amryw a'u hangeu. Gwelir, er gofid dwys i'r rhai a feddant galonau teimladol, mai y danchwa a ddychrynodd trigolion y Taibach yr wythnos hon yw y mwyaf dinystriol o ddigon. Nid ydym am ddwysbigo teimladau ein darllenwyr a darluniad gorfanwl o'r golyg- feydd calonrwygol a ymwthiant ger ein bron yn ddiarbed ar achlysuron echryslon o'r fath hyn. Efallai y gallwn ddweyd, a hyny heb wyro yn mhell oddiwrth y gwirionedd, nad oes fawr o deuluoedd yn nghymoedd gweithfaol Cymru wedi dianc rhag yr anffawd o golli un o'u hae!odau. anwyl, ar wahanol adegau, yn un o'r tanchwaocdd tanddaearol hyn. Nid oes angen myned i ben y pwll, ar ol y dan- chwa, er gweled pwy sydd yno. Ai nis gallwn, drwy hyd y nod lygaid gwanaf y meddwl, weled y gymydogaeth yno yn Z,3 Z5 un cyfangorff mawr yn wylo ac yn ym- ddyrysu yn eu meddyliau wrth feddwl am eu hanwyliaid a'u cyfeillion yn gorwedd yn farw neu yn ymladd yn ofer a gelyn tanllyd anorchfygol y pwll glo isod ? A garech chwi weled ffrydiau y galon dyner yn gorlifo allan drwy y llygaid, gan wneyd rhychau dyfnion galar ar ruddiau yr hen a'r ieuanc, yn weddwon ac amddifaid ? Ewch i faes y danchwa. A garech chwi we!ed wir gariad y wraig tuag a'i gwr ? Ewch i faes y danchwa. A garech chwi weled wir wroldeb y Cymry ? I I Ydwyf, yr wyf wredi bod i lawr, ond yr wyf yn myned i lawr eto. Nis gallaf ymadael tra maent HWY i lawr." Dyna atebiad un o'r ymwarechvyr a fu lawr yn Mhwll y Morfa ddydd Mawrth. Dyna ddewrder nodedig hen genedl y Cymry. Yr oedd 90 o'r rhai a laddwyd yri y danchwa hon yn aelodau o Drysorfa Bar- haol y Glowyr, ac yr oedd 75 y cant o'r holl laddedigion yn benau teuluoedd mawrion. Da genym hysbysu fod Cym- deithasfa Glofeydd Deheudir Cymru wedi cyfranu mil o bunau eisioes tuag at leddfu dyoddefiadau yr angenus mewn canlyniad i'r danchwa, a gobeithiwn, y bydd i holl ddyngarwyr Cymru, o bob plaid a sect, ddilyn esiampl y gyfryw gymdeithas, trwy roddi yr hyn a allant tuag at achos mor deilwng. Wedi llwyddo diffodd y tAn a dorodd allan yn y pwll, yr ydys yn alluog yn awr i fyned i lawr iddo gyda llai o berygl, er chwilio am gyrff yr anffodusion. Y mae yn dda genym feddwl fod yr ymwaredwyr gwrol yn gweithio gyda'r fath yni.
I RHESTR O'R MEIRW.
RHESTR O'R MEIRW. A ganlyn sydd restr o'r meirw :— 1 Bethuel Haycock, sengl, Taibach (fam yn weddw). 2 Evan Morgan, sengI, Upper Brick-road, Tai- bach. 3 Joseph Hicks, sengl, Vivian-row, Aberafon. 4 William Clatworthy, sengl, Morfa. 5 Tom Kemp, bachgen, Taibach. 6 David Williams, bachgen, Taibach. 7 William Lewis, priod, teulu, Taibach. 8 T. H. Williams, priod, teulu, Taibach. 9 T. Coates, sengl, Taibach (fam yn weddw). 10 Fred Jenkins, sengl, Taibach. 11 Daniel John, priod, teulu, Port Talbot. 12 William Jones, sengI, Taibach. 13 David Rees, ostler, Cwmbrombil.
RHESTR O'R COLLEDIGION.I
RHESTR O'R COLLEDIGION. A ganlyn sydd restr o'r colledigion, mor bell 0 ag y mae yn wybyddus :— 1 John Morris, overman, priod, teulu, Morfa. 2 Daniel Wilde, roadman, priod, Watersea. 3 Richard Walters, glowr, priod, teuln, Tai- bach., 4 Noah Mundry, ieu., glowr, priod, teulu, Cwmbrombil. 5 John David, glowr, priod, teulu, Taibach. 6 1 ewis Bees, glowr, priod, teulu, Taibach. 7 Evan Thomas, glowr, priod, teulu, Cwm- brombil. 8 Joseph Thomas, glowr. 9 Thomas Thomas, glowr, priod, teulu,. Tai- bach. 10 William Vanstone, glowr, priod, teulu, Pen- cae. 11 William Scott, glowr, priod, teulu, Taibach, 12 David Williams, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 13 William Jones, glowr, priod, dim teulu, Tai- bach. 14 Samuel Griffiths, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 15 Ebenezer Davies, glowr, priod, teuln, Tai- bach. 16 John Lewis, glowr, priod, teulu, Taibaoh. 17 William Francis, glowr, priod, dim teulu, Taibach. 18 John Griffiths, glowr, priod, teulu, Pencae. 19 Edward Floyd, glowr, priod, teulu, Taibach. 20 Thomas Leyshon, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 21 Joseph Jones, glowr, priod, teulu, Taibach. 22 David King, glowr, priod, teulu, Taibach. 23 Samuel Howell, glowr, priod, dim teulu, Taibach. 24 Thomas Miles, glowr, priod, Pencae. 25 John Nicholls, glowr, priod, Taibach. 26 Thomas Lewis, glowr, priod, teulu, Taibach. 27 William James, glowr. 28 Benjamin Lewis, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 29 Meredith Davies, glowr, priod, Taibach. 30 John Jones, glowr. 31 Dan Griffiths, glowr, priod, teulu, Taibach. 32 David Richards, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 33 John Pepin, <rlcwr, priod, teulu, Taibach. 34 John Morris, glowr, priod, teulu, Taibach. 35 Evan Kley, glowr, priod, teulu, Taibach. 36 Edward Ellis, glowr, sengI, Taibach. 37 David Jones (Manney), glowr, priod, teulu, Aberafon. 38 Thomas Hopkins, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 39 Thomas Leyshon, glowr, gweddw, teulu, Taibach. 40 David Matthews, glowr, sengl, Taibach. 41 Frederick Phillips, glowr, priod, teulu, Tai- bach. 42 Griffith Bevan, glowr, priod, teulu, Taibach. 43 Isaac Williams, glowr, priod, teulu, Taibach. 44 William James, glowr, priod, teulu, Taibach. 45 Simon Lewis, glowr. 46 Richard Lucas, glowr, priod teulu, Taibach. 47 David Davies, cyweiriwr, priod, Aberafon. 48 Henry Williams, cyweiriwr, priod, teulu, Aberafon. 49 John Ready, cyweiriwr, priod, teulu, Aber- afon. 50 John Leyshon, cyweiriwr, priod, teulu, Aberafon. 51 Evan Hedley, cyweiriwr, priod, Kenfig Hill. 52 Joseph Williams, cyweiriwr. 53 Thomas David, eyweiriwr, priod, teulu, Taibach. 54 David Price, cyweiriwr, priod, teulu, Tai- bach. 55 Richard Coates, cyweiriwr. 56 Thomas Stevens, cyweiriwr, sengl, Taibach. 57 William Bedford, haulier. 58 James Tippett, haulier, sengl, Taibach* 59 Samuel Ashton, haulier. 60 Thomas Davies, haulier. 61 Thomas Yorath, haulier, sengl, Taibach* 62 William Taylor, haulier, sengI, Taibach. 63 John Jenkins, haulier, sengl, Taibach. 64 Thomas Howells, haulier, sengl, Aberafon. 65 John Hopton, haulier. 66 William Leyshon, labrwr, priod, Taibach. 67 Dan Buckley, lahrwr, priod, Cwmafon. 68 John Buckley, labrwr, priod, Cwmafon. 69 William Curnick, labrwr, priod, teulu, Tai- baeh. 70 Patrick Kennedy, windroad man, priod, Aberafon. 71 Samuel Shaw, windroad man. 72 Thomas Daniel, windroad man, sengl, Tai- bach. 73 Thomas Mandry, windroad man, priod, teulu, Cwmbrombil. 74 John Nicholls, windroad, man, priod teulu, Taibach. 75 Henry Parker, windroad man.
[No title]
Nis gall masnachwyr, ac eraill a ddymunant ycliwanegu eu derbyniadau drwy sicrhau rhagor o gwsroeriaid wneyd yn well na chyhoeddi eu hysbysiadau yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, y cyfrwng hysbysiadol goreu yn Nghymru Dywedir mai yn Mynachlog Ynys Afallon, yn Ngwlad yr Haf, y traddododd Joseph o Arimathea bregeth gyntaf yn Mhrydain. Y mae hen dderwen yn mynwent yr eglwys hynafol yn Spreyton, ger North Tawton, Devon, yn ddeugain troedfedd o amgylchedd. Yn Eglwys Blwyfol Gresford, Sir Ddinbych, y mae hen arch careg, ae ar ei glawr y mae tarian yn cynwys y geiriau cerfiedig canlynol:— •• Hie jacet Gronow ap Gronow ap lorwerth ap Dafydd," &c., gyda'r dyddiad "133J." Y mae yr arf-lun sydd ar y darian yn dangos fod yr ymadawedig yn hanu o dylwyth Ithel ap Ed- nyfed, tad yr hwn a anrhegwyd ag ardaloedd Gresford ac Allington, am ei wasanaeth i Bleddyn ap Cynfyn yn y rhyfeloedd yn erbyn y I Saeson.
"LLADMERYDD" AR 11 SILURIAD."
"LLADMERYDD" AR 11 SILURIAD." Y mae Ymneillduwyr Cymru wedi bod wrthi er lonawr yn hela Siluriad," awdwr ysgrif hallt ar Philistiaeth Cymru," a ymddangosodd yn y Geninen. Bloeddiwyd fwy nag unwaith ei fod wedi ei ddal, yn Mon, Morganwg, a Phenfro. Ond ni ddaliwyd mo hono eto. Gwae y gwr paR ei celir, yn ol y bygwth sydd arno. Nid ydwyf yn ei amddiffyn nag yn ei gondemnio, gan nas gwn ddigon am hanes manwl yr enwadau i ddweyd faint o wir sydd yn ei ysgrif hon. Yr wythnos ddiweddaf, cymer Lladmer- ydd ef mewn llaw yn y Tyst a'r Dydd. Gan mai Lladmerydd yw y blaenaf o ddigon o ysgrifenwyr y Wasg Ymneill- duol yn Ngymru, dyddorol deall ei fod yn dal na ddarllenodd ddim erioed yn gor- fforiad cyiienwach o'r hyn a elwir gan jago yn ddaearol, anianol, a chythreulig." Cerydd trwm, a'r rheswm rydd yw na roddodd Siluriad enwau priodol y rhai a ddifenwir ganddo," ac felly "nis gall neb yn bendant ei ateb, oblegid nad yw yn dweyd yn bendant pwy yw y cyhuddedigion."
LLATHEN "LLADMERYDD" AR DDIFENWYR…
LLATHEN "LLADMERYDD" AR DDIFENWYR YR EGLWYS. Nis gwn a fydd "Lladmerydd" yn digwydd gweled Y LLAN. Dywedodd ychydig yn ol na fu ond unwaith neu ddwy erioed, os wyf yn cofio yn iawn, o fewn muriau Eglwys. Os gwel Y LLAN, gofynaf iddo, ai nid yn union yn ol dull Siluriad," heb enwau priodol y rhai a ddifenwir," y difenwir yr Eglwys ar hyd y blynyddoedd gan ei gwrthwynebwyr yn Nghymru ? Nis gall neb yn bandant ei ateb oblegid nad yw yn dweyd pwy yw y cyhuddedigion," yw, air am air, y sylw a wnaeth y Parch. E. Hughes, Abermaw, am enllib Nodwr y Goleuad ar offeiriaid Meirion. Nid wyf yn cofio i "Lladmerydd" ddwyn fy ngwrth- dystiad yn ei herbyn yn y modd mwyaf agored a digel" am un o'r canoedd o chwedlau disail drwy ba rai y cynhyrfir yn ddiwyd ragfarn pobl anwybodus yn erbyn yr Eglwys. Ai tybed na waeth gan Lladmerydd" am gyfiawnder a boneddigeiddrwydd ond yn unig pan ymosodir ar Ymneillduwyr ? Nid yw erthygl Siluriad ond ernes o ganlyn- iadau darostwng chwaeth lenyddol Cymru trwy sothach boliticaidd diddawn fel cyfres ddiweddaf "Nyth yr Eryr yn y Faner. Gofynaf i "Lladmerycld," ai nid daearol, anianol, a chythreulig Nyth yr Eryr os dywedir hyn am Suluriad."
BETH DDYWED "LLADMERYDD" AM…
BETH DDYWED "LLADMERYDD" AM DR. HERBER EVANS. Cymerwn afael yn llathen Lladmer- ydd i fesur ei gyfaill doniol ac enwog, Dr. Herber Evans, o Gaernarfon. Yr oedd Dr. Herber Evans yn Llundain ar frecwast gyda'r Dadgysyllwyr ychydig amser yn ol, ac enillodcl gawodydd o cheers trwy ddifenwi Eglwyswyr Cymru, heb "enwau priodol y rhai a ddifenwir ganddo." Yr oedd Ymneillduwyr, meddai y Doctor, yn cael eu troi yn llu- oedd o'u ffermydd am eu Hyrpneilldu- aeth. Yr oedd llwyddiant yr Eglwys yn tarddu o'r cylla ac nid o'r gydwybod, a dynion diegwyddor oedd pawb a droant oddiwrth Ymneillduaeth at yr Eglwys. Addefodd fod yr Eglwys yn enill tir, ond dywedai mai enill tir trwy droion gwael yn unig yr oedd. Yn ol "Lladmerydd," enllib a difenwad ydyw peth fel yna. Beth am waith Lladmerydd" ei hun, flynyddoedd yn ol, yn gomedd rhoddi i'r Parch. R. Williams, Dolwyddelen, enwau Eglwyswyr a gyhuddid ganddo ? Ai ni wnaeth ef ei hun yr un peth yn gymwys ag y cerydda "Siluriad" mor drwm am dano. Naill ai taeru rhag cywil- ydd, ac ochain mai daearol, anianol, a chythreulig" erthygl Siluriad," neu taeru er mwyn rhyw fath o gysondeb, a difrio yr Eglwys heb enwau y rhai a ddifenwir." Dymunaf ofyn, hefyd, i'r Dr. Herber Evans ar ba dir yr hawlia fod yn brophwyd a barnu medd- yliau calonau dynion ? Dangosodd Siluriad cyn gliried a haner dydd y gellir prophwydo cryn lawer am galonau arweinwyr Ymneillduwyr, heb eithrio Lladmerydd neu Dr. Herber Evans. Ai barn cariad edliwiadau Dr. Herber Evans yn Llundain ? Ai teilwng y fath sylwadau o weinidog mor ddylanwadol ? Pa les dawn, hwyl, a cheers, heb degwch ac ysbryd yr Efengyl s Ai dyma ysbryd olynwyr Williams o'r Wern ?
DADLEU YN DEG.
DADLEU YN DEG. Pob croesaw i bawb sydd sydd am Ddadgysylltiad ddadleu eu goreu dros ei gael. Ond dadleuer yn deg. Na thyner crefydd Cymru trwy y llaid er dial ar yr Eglwys a rhwystro ei chynydd. Erlid yw enllibio. Nid ydwyf yn "dwyn fy ngwrthdystiad yn y modd mwyaf agored a digel" yn erbyn arddull Dr. Herber Evans, am fy mod yn ofni y niweidir yr Eglwys yn y pen draw yn Nghymru gan yr erlid sydd arni. Ni thyciodd erJid erioed, ac ni thycia erUd tafod y dyddiau hyn yn Nghymru yn erbyn yr Eglwys, Ond niweidia foesoldeb y wlad, a dyna paham yr wyf yn galw sylw at y peth.
MR. MORLEY AR ADDYSG RAD.
MR. MORLEY AR ADDYSG RAD. Bu llawer o son yn ddiweddar am Addysg Rad. Synodd Mr, John Morley bawb drwy addef ei fod yn barod i adael llonydd i ysgolion y Pabyddion a'r liuld- ewon fel y maent, os gallai gaethiwo ysgolion yr Eglwys ac ysgolion y Wes- leyaid. Anffyddiwr yw Mr. Morley, a chadfridog y Dadgysylltwyr. Ond y mae yn ddyn a ddywed ei farn yn rhydd a digel. Bellach bydd pawb yn deall mai gelyniaeth at yr Eglwys ar WftsleyaHl yw gwreiddyn y cyffro sydd ynghylch addysg anenwadol. Pechod yr Eglwys a'r Wesleyaid ydyw agor eu hysgolion yn rhydd i blant pawb. Yr oeddem yn arfer meddwl nad oedd y Pabyddion yn gwrthod neb. Pa le y r&ae egAyyddor fawr y Byrddau Ysgol os gadewir grants i'r Pabyddion a'r luddewon, ac i neb arall ? Da genym fod cynhadledd addysg sydd i'w chynal yn fuan yn Rhyl yn bwriadu cynyg am fwy o addysg gref- yddol yn Ysgolion y Byrddau yn Nghymru. Syn i Gymru, gwlad y Beibl, esgymuno y Beibl o'r ysgolion mor gy- ffredinol. Dywed y South Wales Daily News am yr addysg grefyddol anenwadol a fwriedir gael mai gair arall am Ym- neillduol yw anenwadol. Yr oeddem yn credu hyn o'r blaen, ond yn awr, ar ol i'r South Wales Daily News ddweyd, rhaid i bawb addef mai felly y mae. Dull dde- heuig i ddadsefydlu yr Eglwys a sefydlu Ymneillduaeth yn ei lie yn yr ysgolion yw cael addysg anenwadol, a llethu ysgol- ion yr Eglwys. Cofier yr ydwyf yn falch weled y cynyg am addysg anenwadol, fel ei gelwir, yn Ysgolion y Byrddau. Gwell hyny o lawer na'r addysg ddigrefydd sydd yn awr. Y cyfan ofynaf yw ar i ysgolion yr Eglwys gael yr un chwareu teg ag ysgolion y Pabyddion a'r Iudd- ewon.
MESUR Y DEGWM.
MESUR Y DEGWM. Y mae y Llywodraeth unwaith eto am gynyg pasio Mesur y Degwm. Hyd y gallaf farnu dyma y mesur tecaf gynyg- iwyd eto. Beth wnaiff Syr W. Harcourt, tybed ? Mae Mr. Gladstone yn rhwym o gefnogi y mesur, gan ei fod yn gryf dros ddiogelu y degwm. Ond rhaid i'r aelod- au Cymreig, er addef y dylid diogelu y degwm, wrthwynebu y mesur, neu difenwir hwy yn ddidrugaredd gan y wasg Gymreig. Y mae yn gyfyng ar Syr W. Harcourt. Dywedodd yn yr haf y cefnogai ef fesur fel hwn. Ond ni waeth ganddo ef fawr am gysondeb. Mae cyn- wrf y degwm yn Nghymru yn brawf clir o wendid y Dadgysylltwyr. Fel y dywed Mr. Humphreys Owen-Dadgysylltwr i'r carn-Senedd Prydain, ac nid senedd Mr. W. J. Parry, raid banderfynu y Dad- gysylltiad. Ond ni fyn Dadgysylltwyr Cymru aros wrth y Senedd. Tan waeddi mai y genedl biau y degwm, anogant y ffermwyr i roddi cymaint allant o hono yn eu llogellau. Gwaedda Dr. Pan Jones am ran i'r gweithiwr os y genedl a'i piau. Lie mae egwyddor a chydwybod ? meddai Dr. Pan Jones. Gadewch i'r Doctor, meddai Mr. Gee; breuddwydio y mae, 'druan,fel rhyw Rip Van Winkle,heb weled fod patent newydd cydwybod ystwyth hwylus ddau swllt y bunt wedi ei ddar- ganfod yn Ninbych, a bod bardd cadeir- iol, "os bu raid ganu clod," wedi canu can y patent. Os bu raid ganu clod," ac fe fu yn Nghymru gynes foliant di- wygiadau, ofnaf na ddaw ati tra pery rhwysg cydwybod ffasiwn newydd dau swllt yn y bunt.
GONESTRWYDD CYMRU.
GONESTRWYDD CYMRU. Gobeithiaf y pesir y mesur er mwyn gonestrwydd Cymru. Os delir i ddysgu y bobl y gall dyn gadw yn ei logell ddau swllt yn y bunt, mwy neu lai, fel y myn ac fel y gall o achos nad yw yn cymerad- wyo cymeriad y gofynwr, bydd raid i bob siopwr, saer, a chrydd fynu certificate o gymeriad, a rhaid i Mr. W. J. Parry, yn ei senedd newydd, ofalu am chwil-lys i chwilio cymeriadau pawb fo ganddynt arian allan. Gresyn mai athrawiaethau fel hyn sydd mewn rhwysg yn ngwlad yr Ysgol Sul. Beth ddywed Dr. Herber Evans am gydwybod y gwrth-ddegym- wyr ? Gall ef farnu cydwybodau. Ai mil blynyddoedd i fuwch Pegi Lewis yn unig y mae y Cymry am geisio ?
CYNGRES YMNEILLDUOL.
CYNGRES YMNEILLDUOL. Cynygir cael Cyngres Ymneillduol yn flynyddol, Nis gwn a oes golwg llwyddo ai peidio. Cynygiodd Mr. Owen Owen, Croesoswallt, hyn yna i Gymru cyn i neb son am y peth yn Lloegr, a thybiaf mai dyna, efallai, roes gychwyn i'r mudiad yn Lloegr. Dymunaf bob llwyddiant i Ym- neillduwyr nesu fwy at eu gilydd. Fel Eglwyswr, gwell genyf weled mwy o undeb, hyd yn nod pe byddai hyny gyda'r amcan o wrthweithio yr Eglwys na'r cyd- ymgais enwadol sydd yn awr yn warth i grefydd, ac yn hollol groes i'r Testament Newydd. Gobeithiaf y rhydd y Gyngres Ymneillduol flag i'w haelodau ar undeb nes y deuant i ganfod na cheirgwir undeb ond ar y sail Ysgrythyrol y maeyr Eglwys yn dyst o hono.
CYMRU FYDD.
CYMRU FYDD. Disgwyliais ddiwygiad pan aeth Mr. 0. M. Edwards yn un o olygwyr Gymru Fydd. Meddyliais fod ganddo ef syniad mwy eang am wladgarwch Cymreig allai ymgodi uwchlaw crebychni sect a phlaid. Drwg fyddai genyf i awdwr talentog » Tro yn yr Eidal a'r Cymro drechodd Saeson Rhydychain am ysgrifenu Saesneg ddisgyn i arddull dadleuon cul, chwerw, y Wasg Gymreig, Gwell genyf feddwl mai nid arno ef y mae'r bai fod Cymrlt Fydd yn cyflym ddychwelyd i'r fan y gadawodd Adfyfyr ef. A raid i Gymru Fydd, fel Cymrn Fu, fod hyd y diwedd yn faes y gwaed, yn wlad fach fynyddig yn ysu ei thrigolion, yn nerth mewn ym- laddau chwerw, tra y mae cymaint y cytunem Oil apno, eisiau ei wneyd. Ai nid doethach, a nnvy gwladgarol, cadw Gymru Fydd yn gylohgrawn gwladgarol, eang, ac yitiarferol, gan fod digou o ynau papyr yn Nghymru eisoes ? Nid oedd yr ertliygl lipa ar yr Eglwys yn Nghymru, yn y rhifyn diweddaf, yn deilwng o wlad- garwch na dysg hanesyddol Mr. 0. M. Edwards. Cadwed awdwr "Llyfrau y, Bala yn glir a chulni plaid, a rhydd i gydwladwyr fod cyn falched o hono ag y maent o'r Prolfeswr Rhys, a'r hen lenor dihafal, y Parch. Silvan Evang, Ni fegir glew byth ar surni dadleuol, SYLWEDYDD. =======
[No title]
Yn Eglwys Tremeirchion, Sir Ddinbych, y b§4yddi^yd Mr. H, M, Stanley, y teithiwr AfEricanaidd eiwfig, prtw ft yoddwyd iddo ydoedd John Rowlands, sef y dull Seisnipidd o sillebu yr hen enw Cymreig, Ballant, John Rallant, Dinbych, oedd ei dad, a merch i gigydd a phorthwr anifeiliaid oedd ei fam. Mr, Robert Parry, o'r Swan Inn, Dinbych, a Mr. J, Wil- liams, sgep maen, a wasanaethasant fel tadau bedydd ar yr aclilysur.
Advertising
Croesawiad Gwresog i'r "LlanFawr." CYNYDD ANFERTHOL YN EI GYLCHREDIAD GAIR 0 EGLURHAD AT EIN DOSBARTHWYR. Y mae yn ddrwg iawn genym nad oeddem yn alluog i gyfarfod yr alivad faivr am gopiau o'r LLAN A'R DYWYSOGAETH yr wythnos ddiweddaf. Er i ni ddarparu ar gyfer Maws o archebion ychivanegol, cawsom ein siomi ar yr ochr oreu., canys parhaodd yr archebion i ddyfod i laie wedi i ni orphen argraphu. Gredtvn y bydd darpariadau y rhifyn hwn yn gyfartal i'r alivad am dano. AT EIN GOHEBWYR. GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAETH at y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad a, dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifeu, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu folly canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegweh ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr llioaog dalu sylw arbenig i'r rheolau canlynol:— _o 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad nnrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Yagrifau na wneir I defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy- j hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. ° 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y caulyn:- Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amser:— 1. Defnyddier note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. un tu .í'r ddnIen. 2. Ymdreclier dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 8. Nis gallwn ddychweJyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. TELERAU AM Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un copi drwy y Post iunrhyw gyfeir- iad yn y Deyrnas Gyfunolam y prisiau canlynol —Chwarter blwyddyn, Is. 8c.; haner blwyddyn, 3s. 4c.; blwyddyn, 6s. 8c. Dau neu dri rhifyn yn ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaendit gyda phob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer- ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y dwsin, lOc. gyda'r rlieilffordd, a Is. gyda'r post. Rhaid i bob Dosbarthwr wastadhau ei gyf- rifon yn chwarterol, a dymunir ar i bob un dalu sylw neiMduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgeulusdra ar ran swyddogion y Llythyrdy neu y Rheilffyrdd gyda chlndiad unrhyw ypyn, dylid anfon hysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r Cyhoeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- byniant eu sypynau gyda'r rbeilffordd ofalu eu hymofyn yn eu gwahanol orsafoedd bob wyth- nos. HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWVfl. OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yw yr unig Newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir gan y mwyaf deallus o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hynv, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hyabys. Y Teleriu am Hysbytiadau. 75 o eiriau (solid) neu un fodfeddji lawr y golofn (displayed) :— Un wythnos (tal ymlaen Ilaw). 2s. 6c. Dwy wythnos 2s. Oc. Pedair wythnos 15. 8e. Chwech wythnos Is. 6c. 18 wythnos is. 3e. 26 wythnos Is. Oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith. iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. Hysbyaiadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol:— 20 o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s. cliwe' gwaith, 3s. 30 o eiriau, an waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. Ge.; chwe' gwaith, 6a. 9c. Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni ofynir tal am gyfieithu. SYLWER.—Rhaid i bob Gohebiaeth ynglyn a Hysbysiadau a Thaliadau o hyn allan gael eu hanfon i'r Cyhoeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, • Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office 135, High Street, Merthyr Tydfil. CYFRINGELL Y GOLYGYDD J OHN Bow EN, Hirwaun.—Danfonwch eich ach- wyniad at olygydd y Cardiff Times, gan mai yn y newyddiadur hwnw yr ymddangosodd y penillion. BRYTHox.-Chwi a welwch fod "Myrddin Coch" wedi ail-ymaflyd yn ei ysgrifbin. 0 ganlyniad, nid oes angen cyhoeddi eich Ilythyr. Diolch i chwi. GLYNDWR.-Teimlem yn ddiolchgar am yr ail ran o'r "Bugeiliaid" cyn dechreu argraffu. CIL Y GoFij).-Nis gallwn ganiatau i'ch llythyr ymddangos. Y mae etiquette yn bodoli hyd yn nod ymhlith gohebwyr papyrau newydd. Y "Returned Empties" oedd y rhai a wag- hasant y cydau duon—"Doethion y Cwm" ydoedd y rhai hyny a eisteddasant i farnu pregethau yr ymwelwyr. Nis gallwn ateb y ddau ofyniad olaf. Rhag cywilydd, gadewch i len ebargofiant syrthio ar yr amgylchiad poenus. EXCELS IOR.-Ofnwn mai anoeth fyddai cyhoeddi eich llith alluog. Dylasai ei chynwysiad weled goleu ddydd. Ceisiwch ei hail-ffurfio. MYRDDIN LL WYD.-Nid haner mor jj Llwyd" à golygydd y LLAN A'R DYWYSOGAETH ar ol iddo ddarllen eich "Llith." Personau dinod yw "Myrddin Coch," ei gyhuddwyr, a Gol. y LLAN, ac ofer, o ganlyniad, fuasai gwastraffu cymaint o amser a gofod arnynt. Mae eich cefnder "Coch" o Lanelli wedi ail-gydio yn ei waith. Chwareu teg i'r "Ferch o Gefn Ydfa;" os y dyg "fâl i'r felin," haedda yr nn parch a rhywun arall. Dioloh yn wresog am eich cynghorion doniol. GOHEBYDD, Treror.-Cewch air yn gyfrinachol yn fuan. TALWRN Mo.N. Erfyniwn ar ein gohebydd ys- grifenu yn fyrach a pheidio bod mor "od." J.. D. M.-Pa les yn y byd wnelai cyhoeddi vapourings y pregethwr dan sylw ? Nid oes na gwrth-brofiad nac addysg yn y Ilith, ae nis gallwn arfer ein newyddiadur fel cyfrwng i gyflen anwybodaeth pregethwr Wesleyaidd. DAETH dau adroddiad o ddathliad Dydd Gwyl Dewi yn Lerpwl i'r swyddfa. Yr oedd un yn Haw y cysodydd cyn i'r ail gyrhaedd yma. Diolch yn galonog i'n cyfeillion. CYSTADLEITAETH GWENER Y GROGLITH, &-e.- Caiff eich llythyr amserol le yn ein nesaf. CYNWYL.—Cailf y Nodiadau ymddapgos ar fyr- der. J SlAlts ESGOi3 DEWI.- Yn ein nesaf. LLITH 0 NEFYN.—Diolch. Y LLAN nesaf. DEONIAETH LLEYN.-Felly yr adroddiad hwn. CYNYDD IAITH.—Yr wythnos nesaf. SAETHAU AR ANTUR.—Yr ydym yn derbyn eich cynyg yn ddiolchgar. DVOGLO'I' YOU shall hear from us more fully next week. 9 MEWN LLAW. Llanddoget Gweithgarwch Crefyddol Lleyn, &c. pgr- D. S.-Rhoddir y flaenoriaeth bob amser iW adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn fyr a cliynivysfawr.
DYDn GWENER, MA WRTH 14,1890.
DYDn GWENER, MA WRTH 14,1890. "Llwybr Epicurus ydyw Ihvybr y Philosophyddion anffyddol sydd yn ceisio alltudio crefydd o gyfundrefn y Wlad- wriaeth. O bob man yn y bywyd cenedl- aethol, or orsedd, o'r senedd, o'r llys, o'r carchar, o r tlotty, o'r fyddin, o'r llynges, o oriau y cystudd cenedlaethol,' dywedant wrth GREFYDD, 1 Dos ymaith, nis gelli di fod yma. Nis cei un diwrnod yn eiddo i ti dy hun; nis cei yr un lie i'w aiu) yn le i ti dy hun; caniateir i ti fyw, ond os ivyt am fy w, y mae yn rhaid i ti fyw yn hollol ar encil, heb'gymeryd rhan mewn gweithrediadau, nac ymidangos yn, dy wisgoedd sivyddogol, ar yr uchelfanau cenedlaethol.' Pa driniaeth ydyw y drin- taeth yna a gynygir i grefydd ? TRIN- IAETH ATHEISTAIDD Epicurus. 1 Re tollit, orcitione relinquit, Deos.' Cadwant yr emu, diddymant y syllt,(?dd Sefyll. fa ac Adnoddau yr Eglwys Genedlaethor gan y diweddar Ddeon Edwards.
Y GWAHANIAETH RHWNG YR EGLWYS…
Y GWAHANIAETH RHWNG YR EGLWYS A SECT. CWYNIR gan .Ymneillduwyr ein bod ni fel Eglwyswyr yn hawlio tir uwch i'r Eglwys nag a roddwn i'r enwadau Ym- neillduol. Addefwn ein bod yn gwneyd hyn yn ddifloesgni. Ni wnawn hyn oherwydd balchder ein hysbryd, ond oherwydd y credwn fod gwirionedd vn ol- gofyn i ni ddal wrth yr athrawiaeth Ysgrythyrol am natur Eglwys. Gallwn ateb cwyn Ymneillduwyr drwy eu had. gofio eu bod (lawer o honynt hwy) ar hyd y blynyddoedd yn Nghymru yn arfer edrych ar Eglwyswyr fel crefydd- wyr claiar, haner bydol. Er engraifft" dywedodd Dr. SAUNDERS-gweinidog galluog a dylanwad ol ymysg y Methodist- iaid-mai cynydd bydol ydyw cynydd yr Eglwys. Dywedodd Dr. HERBER EVANS, Caernarfon—un o brif weinidogion yr Annibynwyr—agos yr un peth yn Llun- dain ychydig ddyddiau yn ol. Priodolai gau amcanion a moddion isel yn ddibetrus i Eglwyswyr Cymru. Nid ydym ni yn dweyd dim am grefydd beraonol yr Ym- neillduwyr. Gadawn hyny rhyngddynt hwy a'u cydwybodau ac a'u Barnwr hwy a ninau. Ni fynem wneyd defnydd- fel y tybia LLADMERYDD—o feirniadaeth SILURIAD ar ei frodyr Ymneillduol. Ond yr ydym am arfer em liawl i ddysgu elit-
ABERAERON.
a bod yma gydymdeimlad dwys a chyffredinol a Mr. Davies, anwyl briod yr ymadawedig, y ddwy ferch, a'r ddau fab, yn eu trallod blin. Gwas- anaethwyd ar y dydd, yn y ty, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd, gan y Parchn. D. Richards, Llan- dysiliogogo T. Jones, Penbryn; a W. 0. Edwards, D.G., Aberaeron.