Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

———— Y DEGWM YN EIDDOCENEDLAETHOL.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

———— Y DEGWM YN EIDDOCENEDLAETHOL. I MAE hwn yn haeriad a wneir yn fynych, gan ddynion rhagfarnllyd ac anwybodus, o dan wahanol amgylchiadau yn Nghym- ru. Ofer yw profi yn hollol i feddwl an- mhleidiol, na fu y degwm erioed yn eiddo cenedlaethol, a'i fod bob amser wedi bod yn eiddo perthynol i'r Eglwys. Nid oes unrhyw gyfrif yn cael ei osod ganddynt ar ffeithiau. Mae gwrthwynebwyr yr Eglwys yn ymddibynu ar ail-adrodd yr haeriad drosodd a throsodd drachefn. 0 ganlyniad, y mae yn ddyledswydd ar gyfeillion yr Eglwys i barhau i ddinoethi afresymoldeb y fath haeriadau disail, a! dangos fod yr Eglwys wedi mwynhau ei hetifeddiaeth, trwy rinwedd hawlfraint, y goreu a'r henaf yn y deyrnas, am oesau a chenedlaethau lawer. Yn y flwyddyn A.D. 1844 fe basiwyd Deddf Seneddol, yr hen a elwid Dissenters Chapels Act." Trwy rinwedd y Ddeddf hono, fe ddar- parwyd fod unrhyw Gapel, Tir, Ysgoldy, neu unrhyw feddiant arall ag oedd un- rhyw gorph o Ymneillduwyr wedi bod Dlewn meddiant tawel a digynwrf o hono, aIn biiui'.m]ynedd-ar-hngain, i fod yn do cyfreithlon i'r enwad hwnw. 0 dan Y deddf hon, mae Ilawer o'r Ymneilldu- wyr yn dal eu meddianau ar sail pum'- 111 ynedd-ar-hugain o feddiant llocydd a t digynwrf. Ond ymdrechir myned a meddianau yr Eglwys oddiarni, er ei bod hi wedi bod mewn meddiant llonydd a digynwrf o honynt, nid am bum'- mlynedd-ar-hugain, ond am ganoedd lawer o fiynyddau. Mae ganddi rydd- feddiant (Freehold title) iddynt, wedi eu hetifeddu oddiar amseroedd cyn cof na chadw. Yn ddiweddar darfu i Syr W. HAR- COURT alw sylw neillduol at y Degwm yn ei areithiau ar draws y wlad. Oddiar hyny mae'r ymryson yn ei gylch wedi wedi cael bywyd o'r newydd. Nid oes yr un ymdrech wedi cael ei wneuthur i brofi fod y Degwm yn wir eiddo cenedl- aethol, eithr yn unig dweyd fod yn rhaid ei olygu felly, a "haeru" ei fod-a rhaid cynal y cynwrf yn ei gylch yn y blaen. Oherwydd fod y gwrthwynebwyr yn anghymeradwyo y defnydd a wneir o'r degwm, maent yn gwrthod ei dalu, ac yn haeru y dylai gael ei drosglwyddo at ddibenion cenedlaethol, er lies a daioni trigolion Cymru. Mae llawer o'r Degwm wedi ei gadw yn ol, heb ei dalu i'r offeir- iaid plwyfol, a byddai yn ddyddorol i gael gwybod pa faint o'r Degwm hwnw sydd wedi cael ei gyflwyno gan y gwrth- dalwyr, at ddibenion cenedlaethol. Mae yr offeiriaid wedi cael eu bysbeilio o'u meddianau, a'r meddianau hyny wedi eu trawsfeddianugan y gwrthdalwyr, ac wedi eu trysori yn eu llogellau eu hunain. Ystod yr wythnos ddiweddaf, darfu i Mr. GEDGE, A.S. dros Stockport, godi y cwestiwn yn Nhy y Cyffredin, a dyfyn- odd amryw awdurdodau i brofi mai nid eiddo cenedlaethol oedd y Degwm yn «1 haeriad Syr W. HARCOURT. Dangosodd fod y Degwm wedi ei ranu yn dair rhan. (1) Yr oedd peth o'r Degwm yn perthyn i'r plwyfau i ba rai y rhoddwyd ef ar y cyntaf. (2) Yr oedd peth o'r Degymau wedi ei gymeryd gan y Llywodraeth oddiwrth y plwyfau yn yr unfed-ganrif- ar-bymtheg, a'u rhoddi gan HARRI YR WYTHFED i bersonau unigol. Yr oedd llawer o'r Degymau hyn yn awr yn meddiant y blaid wrthwynebol. (3) Y Degymau ddarfu i HARRI YR WYTHFED atafaelu arnynt, a'u rhoddi i wyr Lleyg, ond a adbrynwyd ac a adferwyd yn ol i'r offeiriaid gan gyfeillion yr Eglwys. Dywedai ARWEINYDD Ty y Cyffredin ei fod ef yn edrych ar y Degymau fel wedi eu neillduo at ivasanaeth offeiriaid yr Eglwys Sefydledig, yr hon oedd yn Eglwys Genedlaethol. Dengys hyn y pwys o fod Eglwyswyr yn ofalus dros ben, ynghylch dadleu y Degwm, pan ddygir hyn ymlaen o bryd i bryd. Cydna- byddir fod yr Eglwys yn Eglwys Genedl- aethol, fel y dywed Mr. W. H. SMITH, ond y mae hi yn genedlaethol mewn mewn ystyr arbenig a neillduol. (1) Mae Deddf y Tlodion yn genedl- aethol. Hi ddaeth i fodolaeth trwy weithrediad Seneddol. Ond nid felly y daeth yr Eglwys Sefydledig i fodolaeth. Yr oedd yr Eglwys wedi ei sefydlu yn y wlad hon chwe' chan' mlynedd cyn bod un Senedd yn Mhrydain Fawr. (2) Mae pob trethdalwr o dan orfodaeth i dalu Treth y Tlodion. Nid oes unrhyw orfodaeth ar drethdalwr i dalu unrhyw dreth at gynal yr Eglwys. Hyd yn nod pan oedd Treth Eglwys, er's llawer dydd, yn cael ei thalu, nid oedd yr un rhwymau ar y plwyfolion i wneuthur Treth Eg- lwys yn groes i'w hewyllys, oddieithr yn unig yn amser CROMWELL. Pa ran bynag y dichon i'r Ddeddf Wladol ei gael yn nadblygiad a threfniant y Degymau, nid oes dim o'r Eglwysi na thirfeddianau yr Eglwys, na'r persondai, yn ddyledus am eu sefydliad a'u dechreuad i unrhyw fesurau gwladol, oddigerth rhyw eithriad- au dibwys iawn. Mae yr Eglwysi Plwyfol, a'r sawl sydd yn gweinyddu ynddynt, wedi bod, bob amser, at wasanaeth y cyf- ryw rai o'r genedl ag sydd yn dewis gwneuthur defnydd o honynt, yn unol & r egwyddorion oedd y sylfaenwyr wedi eu derbyn yn ddidor oddiwrth GRIST a'i Apostolion. Un o'r egwyddorion hyny yw nad all unrhyw ddyn gael ei ystyried yh Gristion sydd heb gredu yn NGHRIST, ac heb ei fedyddio yn enw y Drindod Sanctaidd. Mae'r Eglwys Sefydledig yn Genedlaethol, mewn ystyr wahanol i i unrhyw enwad crefyddol arall yn y Deyrnas. Mae yr Eglwys wedi cyd- dyfu a'r genedl. Mae hi wedi bod am yr ysbaid mwyaf o'i bodolaeth, yn cynwys o'i mewn yr holl genedl. Hyd heddyw ni chydnebydd hawl neb i gymeryd rhan ei gweinyddiftd ond y sawl sydd yn cydnabod ei hawdurdod fel Eglwys Apostolaidd y wlad. Ni garem weled yr holl bobl mewn cymundeb gwirioneddol a n Heglwys. Ond yr ydym yn beiddio dywedyd nad oes gan neb hawl gyfiawn na moesol i gymeryd rhan yn ei thrcfa- iadau, na llais yn niwygiad ei chyfan- soddiad, sydd heb eto gydymffurfio a'i disgyblaeth, ac heb ymagweddu yn unol a'i hathrawiaeth. Ymdrechodd Syr W. HARCOURT i dynu sylw y wlad at y gwahaniaeth rhwng Degymau wedi eu hysbeilio yn gyfreithlon (" Tithes legally alienated ") a Degymau heb eu hysbeilie felly, gan haeru fod y .Degymau oedd wedi eu dwyn oddiar yr Eglwys wedi myned yn eiddo neillduol (private property); ond bod y Degymau oedd heb eu hysbeilio felly, wedi myned yn eiddo cenedlaethol. Yr eiddo oedd wedi cael ei ddwyn yn gyfreithlon wedi myned yn "private property," ond yr eiddo oedd heb ei ddwyn ddim yn perthyn i ber- chenog cyntefig ond yn eiddo cenedl- laethol. Er dangos twyll resymeg y fath haeriad, dichon na fedr unrhyw ddywediad fod yn fwy nerthol a grymus na'r dybiaeth ddychymygol a ganlyn :— Pe byddai genym swllt yn ein llogell, a rhywun ddwyn chwe'cheiniog—mae y chwe'cheiniog a ladrateir yn eiddo i'r lleidr—y mae wedi ei hysbeilio yn gyf- reithlon. Ond y chwe'cheiniog a adewir, nid eiddo y perchenog ydyw, ond eiddo cenedlaethol. Os nad yw hyn yn ddar- ostyngiad i ynfydrwydd-Reductio ad ab absurdum-a hyny i'r eithafion, anhawdd gwybod pa beth a all fod felly.

NODIADAU SENEDDOL.

CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL

Advertising

Y GWAHANIAETH RHWNG YR EGLWYS…