Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
29 erthygl ar y dudalen hon
CEISIODD LADD El WRAIG A'I…
CEISIODD LADD El WRAIG A'I CHWAER. Ddydd Gwener diweddaf, yn Birken- head, gwnaeth James Doyle, William Street, ymgais i lofruddio ei wraig a'i chwaer drwy eu niweidio mewn modd arswydus a morthwyl. Yr oedd haner clust un o'r menywod wedi ei dori ymaith. Dywedodd Doyle i'r menywod yn gyntaf ymosod arno ef. Cymerwyd ef i'r ddalfa. -♦
EGLWYSI NEWYDDION.
EGLWYSI NEWYDDION. Yn nghyfarfod chwarterol pwyllgor y gymdeithas er adeiladu ac eangu eglwysi yn Esgobaeth Llandaf, yr hwn a gynhal- iwyd yn Neuadd Drefol Caerdydd, ddydd Gwener diweddaf, o dan lywyddiaeth Esgob Llandaf, penderfynwyd rhoddi y symiau canlynol :-I Beaufort £50, ac i Mountain Ash £ 30, er adeiladu ystafell- oedd cenhadol; i Ystradyfodwg, er adeil- adu, eglwys newydd yn y Tynewydd, £ 75; i Landaf (lard Llandaf), £ 50 i Maindee (Barnardtown), C75 i'r Bettws (Pontyrheol), £ 50 ac i Dredegar, £ 75— yr oil tuag at eglwysi newyddion a fwr- iedir eu cysegru. Adnewyddwyd y rhodd o Y.80 er adeiladu eglwys newydd yn Melincryddan, Casteli Nedd, hefyd. Yr yay-s wedi. apelio am eglwys newydd yn Mhorthcawl, ond ni phenderfynwyd gwneyd dim ynglyn a hyn hyd nes cael prawf digonol fod yno y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer un.
YSGELERDER GWYDDELiG.
YSGELERDER GWYDDELiG. Yn gynar foreu dydd Gwener diweddaf, cafwyd amaethwr o'r enw Lawrence Maher wedi ei lofruddio ar ochr yr heol gerllaw Killea, pum' milldir o Waterford. Saethasid ef yn ei ben. 0.
GWEINIDOGION FFRAINC YN YMDDISWYDDO.
GWEINIDOGION FFRAINC YN YMDDISWYDDO. Cyfarfyddodd Cynghorfa Ffrainc foreu ay ad Gwener diweddaf, a phenderfynodd llywodraethwyr presenol y wlad hono i ymddiswyddo. Daethpwyd i'r pender- fyniad hwn mewn canlyniad i'r wrth- bleidlais yn y Senedd, y dydd blaenorol, yn erbyn ymdrin a r Cytundeb Masnachol rhwng Ffrainc a Thwrci, yrhyn a fwriadai M. Tirard wneyd ar yr 20fed o'r mis hwn. Credir yn gyffredinol yn awr mai M. de Freycinet a gaiff yr anrhydedd o ffurfio y Gynghorfa newydd.
CWYN GWEISION MASNACHWYR.
CWYN GWEISION MASNACHWYR. Credwn nad oes ond ychydig o lafurwyr ein gwlad yn cael eu diystyru yn fwy, fel rheol, na'r dynion a'rmerched ieuainc hyny a orweithir am oriau afresymol o hir, a hyny heb unrhyw dal ychwanegol, tu ol i fyrddau masnachdai. Llawer gwaith yr apeliodd y gweision camdrin- ledig hyn at eu meistri am fyrhan yr oriau drwy gau eu masnachdai ychydig yn gynarach, a llawer gwaith y cysurwyd (?) hwy a'r atebiad mai y cwsmeriaid di- weddar oeddvnt i'w beio am fod y siopau L1} cael 011 cadw yn agored yn rhy hwyr. b cyhoedd ddeall wir sefyllfa y obi ieuainc hyn heb dalu syhv neillduol i'r hyn a gwynir o'i blegid. Peth annifyr "oh .^ywec^ cwynion; felly, nid oes ca y ^tolJ assistants fawr ^morth oddiwrth y cyhoedd. Ond da trwv^i ganddynt gyfaill vr if -11 mherson Syr John Lubbock, wedi darparu y Shops Half Holiday Bill er eu mwyn, a Oart^0??111 yr Ysgrifenydd g,,rbr,lil Ty y Cyffreain.
YSGOL BERCHENOGOL CASTELLNEDD.
YSGOL BERCHENOGOL CASTELL- NEDD. Y mae Mr. E. J. Newell, M.A., allan o bedwar ugain o ymgeiswyr, wedi cael ei benodi yn brifathraw Ysgol Berchenogol Castellnedd, yn lie y Parch. J. Allan Pride, yr hwn a ddyrchafwyd i fywol- iaeth Wakefield. Yn Ngholeg Worcester, Rhydychain. y graddiodd Mr. Newell yn M.A. Y mae ynddo alluoedd IIenyddol tuhwnt i'r cyffredin, ac adnabyddir ef fel awdwr yr History of the Early Celtic Church," a gweithiau eraill. Y mae wedi bod yn ail feistr Ysgol Berchenogol Caerdydd, ac yn brifathraw Ysgol Goleg- awl Casnewydd.
YSGOL GANOLRADDOL I GWM ABERDAR.
YSGOL GANOLRADDOL I GWM ABERDAR. Y mae amryw gyfarfodydd wedi eu cynal yn ddiweddar gyda golwg ar sicr- hau Ysgol Ganolraddol i Aberdar. Ar gais cyfarfod cyhoeddus o'r trigolion a gynhaliwyd yn Neuadd Carmel, Monk Street, Aberdar, ar y 12fed cyfisol, yr ydys wedi gosod yr achos gerbron y trethdalwyr, er mwyn enill eu cydym- deimlad a'u cydweithrediad o blaid y symudiad. Hysbysir hwy fod dau gyn- 11 un o flaen y pwyllgor awdurdodedig- un ydyw adeiladu tai), ysgol fawr mewn tri rhanbarth o'r sir y llall ydyw adeil- adu chwech ryw gymaint yn llai, yn mhrif leoedd y sir, a'u bod yn meddwl penderfynu pa un ai tair ai chwech sydd i fod yn ol y parodrwydd a ddangosir gan y lleoedd i ymgymeryd a'r adeiladaeth. Os penderfynir ar dair, bydd Aberdar heb un. Rhoddir hawl i'r Cynghor Sirol i osod treth heb fod uwchlaw dimai yn y bunt ar yr lioll sir tuag at gynal yr ysgolion hyn. Bydd y dreth hon ar Gwm Aberdar, o Benrhiwceiber hyd Rhigos, gyrhaedd oddeutu £ 500 yn flynyddol. a bydd yn rhaid i'r plwyfolion ei thalu, pa un a fynant ysgol yn Aberdar ai peidio, am mai treth sirol fydd hi. Y swm a ddisgwylia y, Pwyllgor Unol gael ei addaw at ysgol yn Aberdar ydyw £ 15 neu t20 y pen. A chymeryd nifer yr ysgolheigion yn 250, cyrhaeddai y swm o £3,750 i £ 5,Q00. Os ceir tir i'w hadeil- adu arno am ddim, diehon. na fydd gy- maint a hynyna. Buasai ychydig geiniogau yn y mis am flwyddyn oddi- wrth bob gweithiwr trwy y dyffryn yn unig yn dyrchafu yr achos yn ddigon! uwchlaw profedigaeth. Ond a wna yr Aberdariaid hyn ? Sut y bu ynglyn a chael Llyfrgell Rydd yno ? Gobeithiwn y goreu.
MARWOLAETH YR ARGLWYDDES MORRIS.
MARWOLAETH YR ARGLWYDDES MORRIS. Hysbysir am farwolaoth yr Arglwyddes Morris, priod Syr John A. Morris, Sketty Hall, Abertawe, yr hyn a gymerodd le nos Sul diweddaf, ar ol cystudd hirfaith. 0
ESGOB NEWYDD DURHAM.
ESGOB NEWYDD DURHAM. Y mae Dr. Westcott,, CoergrFt,klnt, derbyn yr Esgobaeth uchod fel olynydd y diweddar Dr. Lightfoot. Fel ei ragflaen- ydd, y mae Dr. Westcott yn perthyn i'r radd uchaf o ysgolheigion duwinyddol. Rhydd yr apwyntiad, yn ddiameu, fodd- lonrwydd cyffredinol. «► i
MARWOLAETH SYDYN Y BARWN DOWSE.
MARWOLAETH SYDYN Y BARWN DOWSE. Foreu dydd Gwener diweddaf bu y Barwn Dowse, y Barnwr hynaf yn Nghylchdaith Munster, Iwerddon, farw yn dra disymwth o glefyd y galon, yn 66 mlwydd oed. Ymddengys fod ei Arg- lwyddiaeth mewn gwell iechyd nag arfer pan yn gweinyddu yn Mrawdlys Tralee ar y dydd blaenorol, pryd y datganodd ei edmygedd o bolisi Mr. Balfour yn yr Ynys Werdd.
ARWR PRYDEINIG YN MARW YN…
ARWR PRYDEINIG YN MARW YN Y TLOTTY. Ar y 13eg o Fawrth, yn Nhlotty Caer- fyrddin, bu farw David Thomas, un o ddewrion Brwydr Balaclava, yn 6H mlwydd oed. Ymunodd a'r 4th Hussars yn 1844, gyda'r rhai y glynodd am bum'- mlynedd-ar-hugain. Yr oedd yn un o'r Noble Six Hundred." Cafodd angladd filwrol teilwng o'r achlysur ar draul trethdalwyr Caerfyrddin. —.
DYNES NOETH MEWN COEDWIG.
DYNES NOETH MEWN COEDWIG. Foreu y 13eg cyfisol, darganfyddodd un o heddgeidwaid Casnewydd ddynes, oddeutu 47 mlwydd oed, yn rhedeg o amgylch mewn coedwig gerllaw Cas- newydd heb un dilledyn am dani. Ar ol ei herlid yn galed am beth amser, llwyddodd y swyddog, o'r diwedd, i'w dal. Ymddengys ei bod yn dioddef oddiwrth benwendid. Ymadawodd o'i chartref yn Grangetown, Caerdydd, lie mae ei gwr yn byw, y boreu blaenorol, ac ni chlywyd dim o'i helynt hyd nes y cafwyd hi yn y goedwig. — .0.
ETHOLIAD STOKE-ON-TRENT.
ETHOLIAD STOKE-ON-TRENT. Mewn canlyniad i ymddiswyddiad Mr. W. Leatham. Bright, yr aelod Seneddol Gladstonaidd dros Stoke-on-Trent, eym- erodd etholiad le yno ddydd Gwener di- weddaf. Yr ymgeiswyr oeddynt Mr. W. Shepherd Allen, Rhyddfrydwr Undebol, a Mr. G. Leveson Gower, Gladstonwr. Derbyniodd Mr. Gower 4,157 o bleid- leisiau Mr. Allen, 2,926. Mwyafrif, 1,231. ——^
LLWYDDIANT CYMRO IEUANC. ■"i';¡…
LLWYDDIANT CYMRO IEUANC. i ';¡ ■» Mae y Parch. T. H. Lewis, M.A., mab y Parch. H. Lewis, rheithor St. Bride's Minor, Penybont, wedi ei benodi i fyw- oliaeth Horley, yr hon sydd yn werth JE500 yn flynyddol, ac yn rhodd Llyw- odraethwyr Christ's Hospital, Llundain. Nid yw Mr. Lewis ond 28 mlwydd oed, ac y mae ei yrfa addysgawl wedi bod yn hynod lwyddianus. Addysgwyd ef ar y cyntaf yn Ngholeg Llanymddyfri, dan Esgob presenol Llanelwy, ac yn 1880 enillodd ysgoloriaeth yn Ngholeg Wadham, Rhydychain. Yn 1881 enill- odd ysgoloriaeth yn Ngholeg Sydney Sussex, Caergrawnt, pryd y rhoddodd ysgoloriaeth Rhydychain i fyny. Gradd- iodd yn 1884, a'r un fiwyddyn penodwyd ef yn athraw cynorthwyol yn Ngholeg St. loan, Hurstpierpoint, swydd a ddal- iodd gydag anrhydedd iddo ei hun hyd Rhagfyr 1888, pan y penodwyd ef yn gurad mewn gofal, gan fod y ficer yn wael iawn ei iechyd. Yr oedd mor bobl- ogaidd yn y plwyf fel y darfu i 560 o'r trigelion lawnodi deiseb o blaid ei ben- odiad.
AT ARWEINWYR CORAU CANU.
AT ARWEINWYR CORAU CANU. Dymuna y Parch. W. Howell (Hywel Idloes) hysbysu arweinwyr corau ei fod wedi gorphen anthem newydd gogyfer a'r cynhauaf, ac wedi ei hanfon i'r ar- graphydd. Cyn gynted ag y daw i law bydd hysbysiad am dani yn ngholofnau'r LLAN A'R DYWYSOGAETH, a hyny yn fuan ar ol y Pasg. Y mae geiriau'r anthem wedi eu cymeryd allan o Salm lxv., 1, 9, 11, 13. Os try y darllenydd i'r Salm hon fe all gael rhyw amgJffred pa fath gerddoriaeth y gallwn ei ddisgwyl. Y mae'n agor yn llawn, Mawl a'th erys Di,w &c., a chynwysa unawd i'r treble, a deuawd i'r tenor a'r bass, ac yn diweddu gyda chydgan lawn a bywiog—" Coroni'r wyt y fiwyddyn." -0
ESGOB NEWYDD CANOLBARTH AFFRICA.
ESGOB NEWYDD CANOLBARTH AFFRICA. Y Parch. Alfred Robert Tucker, M.A., curad St. Nicholas, Durham, sydd wedi ei benodi gan Gymdeithas Genhadol yr Eglwys (gyda chaniatad Archesgob Caer- gaint) i Esgobaeth Canolbarth Affrica, yn olynydd i Esgob Parker, yr hwn a fu farw yno ddwy flynedd yn ol, a'r hwn oedd olynydd yr Esgob Hannington, a lofruddiwyd drwy orchymyn y Brenin M'wanga, ar gyffiniau Uganda. Yn 1882 yr urddwyd Mr. Tucker i'w guradiaeth bresenol. Y mae yn oddeutu 39 mlwydd oed, a chanddo wraig ac un plentyn.
RHYBUDD PWYSIG I LOWYR "CYMRU.
RHYBUDD PWYSIG I LOWYR CYMRU. Yr ydym yn hyderu fod holl lowyr ein gwlad yn ei hystyried yn fater o bwys neillduol i fynu gweled y rhy- buddion a gyhoeddir o bryd i bryd yn ein newyddiaduron ynghylch tymerau cyfnewidiol y tywydd. Ymddengys fod yr hinfesurydd (barometer) er's dyddiau wedi codi yn dra uchel yn gyffredinol dros yr holl wlad, ac y mae hyny yn golygu perygl i weithwyr tanddaearol. Gobeithiwn y cymer y glowyr y rhybudd hwn drwy fod yn fwy gofalus.
EGLWYS NEWYDD YN NANT-Y-MOEL.
EGLWYS NEWYDD YN NANT-Y- MOEL. Ar y iofed o Fawrth, agorwyd Eglwys newydd hardd yn y lie uchod gan Ar- glwydd Esgob Llandaf. Saif y pentref, poblogaeth yr hwn sydd yn agos i 4,000, yn mhlwyf Llandyfodwg. Ar yr achlysur dan sylw conffirmiodd ei arglwyddiaeth 28 o ymgeiswyr, ac er fod yr hin yn wlyb ac annymunol i'r eithaf, llanwyd yr eglwys gan gynulleidfa fawr. Cynwys yr adeilad eisteddleoedd i 250 o addolwyr, a chost- iodd ^1,400..
BONEDDWR HAELIONUS.
BONEDDWR HAELIONUS. Y mae Mr. James Soames, Maize-hill, Greenwich, wedi addaw eyfranu £4,000 tuag at adeiladu eglwys barhaol St. George's, Westcombe-park, Blackheath. Yn bresenol, y mae y Parch. W. H. K. Soames, mab y cyfranwr haelionus, yn llafurio mewn neuadd genhadol yn West- combe-park, ardal boblog a chynyddol. Amcangyfrifir y costia yr eglwys £ 5,500 i'w hadeiladu.
YSTORI GWERTH El GWYBOD. j
YSTORI GWERTH El GWYBOD. Ymddangosodd hyn yn y Church Times: Y mae y Dadgysylltwyr yma yn gallu Hyncu twysged wrth eu boreubryd, neu ar ol hyny. Y mae rhyw Mr. Herber Evans, yr hwn a ddaeth o Gymru, wedi bod yn adrodd yr ystori ganlynol wrth- ynt er dangos y modd y mae ysgolion yr Eglwys yn cael eu harfer fel peirianau i broselytio plant yr Anghydffurfwyr. Rhoddaf un engraifft i chwi,' meddai Mr. Evans, I o hen foneddiges Gymreig gyfoethog, yr hon sydd yn gwneyd ysgol ei chymydogaeth yn beiriant i gael plant yr Anghydffurfwyr i'r Eglwys ar y Sul, ac a wyddoch chwi sut y mae hi yn gwneyd hyny ? Y mae yn rhoddi ciniaw dda i bob plentyn a elo i'r eglwys. Ac yna cymer plant y bobl weithgar fara a chaws yn unig gydant ond os ant i'r eg- lwys ar y Sul, cant giniaw dda, a pha blentyn alliwrthod ciniaw dda bob dydd?' Byddai yn ddyddorol i glywed rhagor am y foneddiges haelionus hon. Dylai ei henw gael ei goffhau am byth, a diameu y bydd Mr. Evans yn falch i wneyd ei henw yn wybyddus drwy gyfrwng ein colofnau." Neu, a gaiff colofnau y LLAN y fraint o wneyd hyny ?
FICER NEWYDD PETERSTONE.
FICER NEWYDD PETERSTONE. Deallwn fod y Parch. J. 0. Evans, ficer Towyn, Abergele, a mab yr Hybarch Archddiacon Evans, wedi ei benodi yn ficer Peterstone, gerllaw Caerdydd, fel olynydd y diweddar Barch. J. Williams.
ETHOLIAD WARDENIAID YN MERTHYR…
ETHOLIAD WARDENIAID YN MERTHYR TYDFIL. BUDDUGOLIAETH ARALL I'R RHEITHOR. Yn Llys y Man Ddyledion yn y dref uchod ddydd 1au diweddaf, gwysiwyd y Parch. D. Lewis, Rheithor, gan Mr. W. Smyth am y swm o £ 12 8s. 6c., sef y swm a dreuliwyd Ebrill, 1889, mewn cysyllt- iad ag etholiad Wardeniaid y plwyf. Fel arweinydd plaid o Eglwyswyr anfoddog yn y dref, hawliodd Mr. Smyth etholiad drwy bleidleisio ar ol i'r Festri drwy god- iad dwylaw wrthod y boneddwr a osod- wyd yn y blaen ganddo ef a'i gyfeillion. Gwrthododd y Rheithor, fel cadeirydd y Festri, ganiatau hyn heb i Mr. Smyth osod swm o arian i lawr i dalu y treuliau parthed i'r fath etholiad. Ar ol cryn ym- giprys, gwnaethpwyd hyn, ond mynai Mr. Smyth nad oedd gallu gan y cadeir- ydd i hawlio yr arian. 0 ganlyniad, daeth yr achos o flaen y llys ar y dydd uchod. Dyfarnwyd o blaid y diffynydd, a gorfodwyd Mr. Smyth i dalu yr holl gostau.
(MARWOLA-ET14, Y, CANON I…
( MARWOLA-ET14, Y, CANON I HOPWOOD. Y mae y Canon Hopwood, yr hwn a fu am flynyddau yn rheithor Winwick, ger- llaw Newton-le-Willows, un o'r bywol- iaethau cyfoethocaf yn swydd Lancaster, wedi marw. Yr oedd y trancedig dros 80 mlwydd oed. Y mae y fywoliaeth yn rhodd Arglwydd Derby, ac yn werth Y,3500 y flwyddyn. —.+
MARWOLAETH GWRAIG 105 MLWYDD…
MARWOLAETH GWRAIG 105 MLWYDD OED YN MERTHYR. Boreu ddydd Sul diweddaf, bu farw Mrs. Eleanor Lewis, Morgan Joseph- square, ar ol dim ond wythnos o gystudd, wedi cyraedd yr oedran teg o 105 mlwydd er's mis Medi diweddaf. Derbyniai gyn- orthwy plwyfol er's blynyddoedd, a 105 ydoedd ei hoedran yn ol llyfrau yr Undeb, ond haerai hi ei bod yn henach na hyny. Yr oedd yn ddall er's blynydd- oedd, ac yn ychwanegol at y cynorthwy plwyfol a dderbyniai, derbyniai flwydd- dal gan Mrs. Joseph, Y Graig, Aber- canaid, yr hon yn garedig sydd yn talu holl dreuliadau ei chladdedigaeth. Gan- wyd Mrs. Lewis yn mhlwyf Ystradgyn- lais, sir Frycheiniog.
Family Notices
MARWOLAETHAU. BEDDOE—Chwefror 24, yn 28 mlwydd oed, Mr. William Beddoe, Regent street, Aberaman, Aberdar. EVANS—Chwefror 27, yn Fronfair, Maen- twrog, Elizabeth, gweddw y diweddar Mr. J. Evans, yn 77 mlwydd oed. HOPE—Mawrth 7, ar ol hir nychdod, yn 18 mlwydd oed, Emily, merch ieuengaf y diweddar Mr. J. G. Hope, hairdresser, 85, Pool street, Caernarfon. JONES—Mawrth 4, yn 47 mlwydd oed, yn y Southern Hospital, Lerpwl, Mr. Robert W. Jones, saer, Newborough street, Caernarfon. JONES Mawrth 6, yn Mrynffynon, Blaenau Ffestiniog, Mr. Owen Jones, farrier, mewn oedran teg. MORRIS-Mawrth 8, Mr. R. Prys Morris (Robyn Frych), Dolgellau. Yr oedd yr ymadawedig yn Gymreigiwr da, ac yn hynafiaethydd nodedig. Yr oedd ar ganol dwyn llyfr allan o'r wasg, sef Cantref Meirionydd." OWENS-Mawrth 8, yn 73 mlwydd oed, Mary Owens, Tanybuarth, Carmel, Llandwrog. PARKES—Mawrth 13, yn 17 mlwydd oed, Benjamin Parkes, egwyddorwas yn swyddfa y Meistri Farrant a Frost, ar- graffwyr, Merthyr Tydfil. PRICE-Chwefror 28, yn y District Bank, Llanrwst, yn 35 mlwydd oed, Mr. Lewis Pugh Price. ROBERTS-Chwefror 19, yn 35 J mlwydd oed, Miss Ellen Roberts, Ynysdyfnallt, Brynkir. ROBERTS—Mawrtli 3, yn 30 mlwydd oed, Mrs. J. Roberts, anwyl briod Mr. R. D. Roberts, dilledydd ac arwerthwr, Bala. THOMAS—Mawrth 11, yn 71 mlwydd oed, Mrs. Thomas, anwyl briod Mr. Thomas Thomas, hen gysodydd parchus yn ngwasanaeth Mr. Lewis, argraffydd, Merthyr Tydfil. THOMAS—Mawrth 6, ar ol hir nychdod, yn nhy ei mam yn Nhalysarn, Mrs. Thomas, priod y diweddar Mr. William Edward Thomas, Blaenau Ffestiniog. THOMAS—Mawrth 4, yn 23 mlwydd oed, Richard, mab hynaf Mr. iB. Thomas, Cloth Hall, Pentraeth. WILLIAMS—Mawrth 2, yn 71 mlwydd oed, Mary, gweddw y diweddar Mr. Richard Williams, Dinam Arms, Gaer- wen, Mon, a mam Mr. W. H. Williams, gorsaf-feistr, Llanrwst.
LLYFRGELL OREU CYMRU MEWN…
LLYFRGELL OREU CYMRU MEWN LLOFFT YSTABL. Yn un o bapyrau y Gogledd, ceir a ganlyn gan ryw ohebydd o Gaergvbi:— Dydd Mercher diweddaf (Mawrth 5ed), bu farw yn 79 mlwydd oed, Mrs. Panton, Gareglwyd, gweddw y diweddar Mr. William Barton Panton, gynt o Blasgwyn, Pentraeth Un peth hynod iawn ynglyn a'r hen balasdy hwn ydyw mai yma y mae yr hen lyfrgell Gymreig enwocaf yn Nghymru, ond y mae yr oil o'r llyfrau a'r llawysgrifau wedi eu cloi i fyny mewn cistiau er's blynyddau lawer. Ni fynai y diweddar Mr. Panton iddynt, ar un cyfrif, gael eu chwilio, er i amryw geisiadau taer gael eu gwneyd gan brif lenorion Cymru ac ni fynai Mrs. Panton ar ol marwolaeth ei phriod, wneyd dim yn groes i'w ddymuniadau ef. Yma y mae yr oil o hen lyfrgell Plasgwyn, yr hon y mae pob lienor Cymreig mor gyfarwydd a'i henw ond y maent wedi eu cadw mewn cistiau, ac y mae yn drueni meddwl fod llyfrgell oreu Cymru wedi ei chloi mewn llofft ystabl. Bernir gan brif lenorion Cymru fod yma liawS mawr o hen lyfrau ac ysgrifau a allai dfifiu goleuni pwygig ar lawer o bethau ynglyn 4 hanesiaeth Cymfu. Yma yr aeth llyfrgell yr enwog leuan Brydydd Hir a byddai yn llawenydd o'r mwyaf gan lenorion Cymreig weled y cyfryw yn cael eu dwyn i oleu dydd."
MARWOLAETHAU CYMRY YN ' AMERICA.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. DA VIES-Chwefror laf, Mr. David A. Davies, New Straitsville, gan adael gweddw a saith o nmddifaid, ynghyd a phlentyn mabwysiedig, i alaru ar ei ol. Yn Nhredegar y ganwyd ef. LEWIS-Chwefror laf, Mary Ann Lewis, priod Mr. Joseph Lewis, Plymouth, Pennsylvania. Merch ydoedd i William ac Elizabeth Jones; Cwmaman, Aber- dar. Yr oedd yn 28 mlwydd oed. Cymerwyd hi yn glaf ar enedigaeth un bach. PHILLIPS-lonawr 30ain, yn Glouster, Athens County, Ohio, Mary Phillips. Ganwyd hi yn Nghwmafon, Mawrth 8fed, 1829. Bedyddiwyd hi gan y Parch. Enoch Williams, yn Mhont- rhydyfen. Gadawodd ddau fab ac un ferch i alaru ar ei hoi. Ymfudodd oddeutu saith mlynedd yn ol o Dreorci. THOMAS—Chwefror 3ydd, yn Shenan- doah, Pennsylvania, yn 47 mlwydd oed, Cecilia, priod Mr. David B. Thomas. Genedigol ydoedd o Lan- bedr-y-fro, Morganwg. Bu yr ym- adawedig ar wahanol adegau yn teithio gyda theuluoedd urddasol yn Ewrop, a gwelodd rai o olygfeydd mwyaf swynol Ffrainc ac Itali. Yn ystod ei hymwel- iad a Chymru, cyfarfyddodd Mr. Thomas a hi, a phriodwvd hwy Mehefin 27ain, 1882. Yn fuan cychwynasant i America, gan ymsefydlu yn ei hen gynefin dref yn Shenandoah, lie y mae Mr. Thomas wedi dwyn ymlaen fas- nach helaeth er's blwyddyn bellach.
DECHREUAD YR EGLWYS FOREUOL.
DECHREUAD YR EGLWYS FOREUOL. Nos Fercher, y isfed cyfisol, bu Mr. Mason yn traddodi darlith ar ddech- reuad yr Eglwys Foreuol yn ein gwlad. Un o'r cyfarfodydd amddiffynol goreu ag sydd wedi bod yn Rhymni ydoedd hwn. Yr oedd y maps a ddangosodd yn gy- northwy mawr i ni ddeall hanes yr Eglwys Foreuol; ac yr oedd y darluniau o'r eglwysi cyntaf yn dangos yn eglur pa mor ddiwyd a fu ein tadau yn yr hen oesoedd. Tuedd sydd ym mhobl yr oes hon i feddwl fod diwydrwydd a gweithgarwch crefyddol yn gyfyngedig i'w hoes hwy eu hunain. Nid yw hyn yn amgen na dallinebysprydol, ac y mae yn sawru o hunanoldeb pechad- urus. Wrth ddarllen hanes y tadau, yr ydym yn hytrach yn gwrido. Pwy, tybed, yn yr oes hon, sydd wedi dangos haner y nerth ysprydol a'r dylanwad mawr a ddangosodd St. Dewi a St. Patrick? Pwy fel y rhai hyn sydd wedi sefydlu, trwy eu dylanwad personol, esgobaethau cyfain ? Pwy fel Theodore, yr hwn a ddygodd yr Eglwys i fod yn un cyfan- gorph bywiol ? "Ereill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Yn wir, y mae lie i ofni fod mwy o lafur yn cael ei ddangos mewn reportio ein gwaith nag sydd yn ei gyf- lawni. Gwell i ni weithio, a gadaei i'r oesoedd a ddel lefaru am ein gweithred- oedd. Os awn yn mlaen fel yr ydym, ni bydd lie i hanesydd mawr eglwysig mwy- ach, oblegyd hysbys yn barod yw pob act a gweithred a gyflawnir. Y mae yn bechadurus, heb son am fychander meddwl, i eglwys yn ogystal a pherson unigol, ymffrostio byth a hefyd yn ei gweithredoedd ei hun. Pan aeth Dafvdd Frenin i ymfalchio yn nerth ei fyddinoedd a'u rhifo, fe ddigiodd yr Hollalluog wrtho, ac nis gall yr holl ymffrost yma fod yn weddus yn ngolwg yr un Bod Goruchel. Nid i ni, ond i'th enw Dy Hun dod Dy ogoniant. Y mae yn boenus i weled hunan-ddyrchafiad fel under-current i bob report sydd yn ymddangos yn ngholofnau ein newyddiaduron. Y mae yn llawer mwy buddiol i ni ddarllen hanes y tadau, a dilyn eu ffydd, na byw fel yr ydym ar ein gorchestion ein hunain. Yn y ddar- lith, aeth Mr. Mason A ni yn ol am ganrif- oedd lawer i weled yr Eglwys yn blodeuo mewn llawer dull a modd a dyddorol ydoedd gweled fel yr oedd yn ymdaenu gan ddechreu yn Nghymru. Ar y diwedd, daeth aelod o Eglwys Rufain yn mlaen i amddiffyn ei Eglwys yn erbyn gosodiadau y darlithydd ac fel y cyfryw, yr oedd yn dogmatic tuhwnt, ac wedi rhoi ei syniadau, aeth allan. Nid dyfod yno i ddysgu yr oedd, canys ni buasai yn derbyn gwybod- aeth na gwirionedd ag oedd yn groes i haeriadau ei Eglwys. Tystiodd mai aelod o'i Eglwys ef oedd St. Dewi, a bod an- anffaeledigrwydd y Pab wedi dyfod i lawr yn ddidor oddiwrth St. Petr, esgob cyntaf Rhufain. Anhawdd ydoedd ei berswadio i gredu yn wahanol, a meddyliasom am y geiriau hyny, "Where ignorance is bliss, 'tis folly to be wise." Cynghorem bob plwyf i roesawu Mr. Mason a'i magic lantern i'w plith, a hwy a gint fudd a phleser mawr.-L.H.
* MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU.—Gwenith, 4s 9c i 5s oc am 75 pwys haidd, 5s 3c i 5s 9C j ceirch, 3s oc i 4s oc ymenyn, is 3c i is 5c am 16 wns wyau, 12 i 14 am swllt ieir, 3s 6c i 5s y cwpl hwyaid, 4s oc i 5s oc y cwpl; pytatws. is 9c am 1120 pwys. WYDDGRUG, DYDD MERCHER. — Gwenith melyn, 105 oc i 10s 6c yr hobed haidd, 98 oc i 10s oc yr hobed ceirch, 1 5s oc i 5s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 14 am is. ELLESMERE, DYDD MAWRTH. — Gwenith gwyn, 4s 7c i 4s 8c am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc; ceirch, 2s 6c i 3s oc wyau, 9 i 10 am is ymenyn, is 4c i is 5c am 16 wns ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl. RHUTHYN, DYDD MAWRTH.-leir, 4s 6c i 5s oc y cwpl; ymenyn, is 6c y pwys wyau, 12 am swllt. DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.—- Gwenith, 13s 6c i 155 am 240 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys ceirch, 14s 6c i 16s oc am 220 pwys wyau, 16 am is ymenyn, is ii-c i is 2C. y pwys 2 2 ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl; hwy aid, 5s 6c i 6s 6c y cwpl; pytatws, 18 pwys am is. CREWE, DYDD LLUN.-Cigeidion, 6!,c i 7Ic y pwys ci moch, 8s 6c am 20 pwys heffrod, ^15 i ;624 yr un cig myharen, 9c i IOC Y pwys. 2 2 LERPWL, DYDD LLUN.-Cig I eidion goreu, 7c y pwys; ail oreu, 6c trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, 91 c ail, 8c. trydydd, 6c y pwys. TRALLWM, DYDD LLUN.-Gwenith, 4S 6c i 4s oc am 75 pwys ceirch, 14s oc i I55 6c wyau, 00 1 14 am is. ymenyn, is ic i is 2C am 16 wns ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl; hwyaid, 4s 6c i 6s oc y cwpl pytatws, 18 pwys am is. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. -Gwenith gw)n, 4s 10c i 5S 2c am 75 pwys melyn, 4s 4c i 4s 8c am 75 PwYs haidd, 4s 9c i 5s 4c am 70 pwys; haidd at falu 4s i 4s 3C am 7° pwys ceirch, 15s i 17s am 225 pwys ymenyn, is 3c i is 4c ypwys; wyau, 14 i 15 am swllt; cig eidion, 6c i 7c y pwys cig myharen, 8c i gc y Z.I!1 pwys cig llo, 8c i gc y pwys pore, 5c i 5?c y pwys. CAERLLEON, DYDD SADWRN. — Gwenith, 4s 9c i 5s oc am 75 pwys ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 10 1 12 am swllt. DINBYCH, DYDD MERCHER.—Ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 5s 6c y cwpl; ymenyn, is 6c i is 7c y pwys wyau, [3 am swllt. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Gwenith Seisnig, 325 i 36s y chwarter am wenith gwyn melyn, 30S i 33s haidd at falu, 6c yn uwch na'r wythnos flaenorol ceirch, 6s yn uwch na'r wythnos ddi- weddaf,; pys, 6c yn rhatach. SALFORD, DYDD MAWRTH.—Cig eid- iOn, 5tC 7c pwys cig myharen, g-c i 2 loffc y pwys cig 110, 7c i 9c y pwys cig moch goreu, 8s 2C ail oreu, 7s 6c i 7s 10 trydydd, 6s ic i 7s oc am 20 pwys.