Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

DEONIAETH LLEYN.

DOWLAIS.

I-LLANDIGWYDD A CHAPEL TYGWYDD.I

LLANELLTYD.

LLANDDOGET.

TALSARNAU.

Y DANCHWA YN MHWLL ;11Y MORFA.

CLADDEDIGAETH FICER LLANWONNO.

CYNYDD IAITH.

CYSTADLEUAETH GWENER Y GROGLITH,…

YMDDISWYDDIAD ESGOB BANGOR.

HELAETHIAD "Y LLAN."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELAETHIAD "Y LLAN." At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Darllenais yr oil o'r rhifyn cyntaf o'r LLAN gyda hyfrydwch mawr. Diau os deil y rhifynau dyfodol safon y rhifyn cyntaf, bydd llwyddiant yn sier. Ond mewn trefn i sicrhau llwyddiant dyfodol, bydd yn ofynol i offeiriaid a lleygwyr deallus y Dywysogaeth gynal i fyny freichiau y Golygyddion. Nid wyf yn credu yr ymfoddlona nifer o ddarllenwyr Y LLAN ar newyddion Ileol a chyffredinol yn unig, ond dylid hefyd ymdrin A phrif bynciau Eglwysig a chymdeithasol. Da genyf ddeall y bydd y rhai hyn yn cael sylw dyladwy yn y dyfodol. Yr oeddwn yn bresenol, nos Sadwrn diweddaf (Sfed cyfisol), lie y traddodwyd darlith feistrol- gar a dyddorol gan y Proff. Ropes, Coleg y Brenin, ar Modern Journalism." A dyna ddywedai y Proffeswr, ymhlith pethau eraill, fod amryw bapyrau newyddion yr oes hon wedi suddo mor ddwfn i randiroedd personoliaeth fel mae y doeth a'r deallus o bob plaid yn eywil- yddio o'u plegid. Gobeithio na fydd i'r LLAN byth fabwysiadu cynllun y Pall Mall Gazette a'r Star-papyrau a grybwyllwyd gan Proff. Ropes fel engreifftiau o'r nodwedd uchod. Gyda phob dymuniad da i'r LLAN yn ei gwedd ddiwygiedig.—Yr eiddoch, &c., Caergaint. R. LL. H.

NODION 0 DDEONIAETH Y RHOS.

LLANGEITHO.

MERTHYR TYDFIL.

ABERHONDDU.

DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

SIARS ESGOB TY DDEWI.