Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
34 erthygl ar y dudalen hon
FICER LLANYBYTHER WEDI BODDI.
FICER LLANYBYTHER WEDI BODDI. Brydnawn ddydd Sadwm diweddaf, cafwyd y Parch. Hugh Felix, ficer parchus Llanybyther, Sir Aberteifi, wedi boddi yn yr Afon Teifi, ychydig islaw y Ficerdy. Yr oedd yn 79 mlwydd oed.
HEN WRAIG WEDI LLOSGI I .,/.;…
HEN WRAIG WEDI LLOSGI I FARWOLAETH. Ddy&d Gwener diweddaf, cyfarfydd- odd hen wraig, 72 mlwydd oed, o'r enw Martha Wood, ag angeu mewn modd ar- swydus. Cyfododd o'r gwely yn ystod y nos a gosododd ei dillad ar dan yn ddainweiniol, gan losgi ei hun i farwol- aeth.
YN'AOON NEWYDDION I SIR FYNWY.…
YN'AOON NEWYDDION I SIR FYNWY. Mynegir fod Arglwydd-raglaw ;Sir Fynwy, sef Due Beaufort, oddeutu pen- odi nifer o ynadon newyddion i'r sir. Yn eu p y mae Mr. J. Parnall, cadeirydd Cymaeithas Ryddfrydol Casnewydd, a Mr.W. L. Pratt, eadeiryddBwrdd Lleol Abersychan. » >-
QbRNEST HYD ANGAU. .
QbRNEST HYD ANGAU. Hysbysir fod Mr. M'Conkey, perchenog y Windsor Hotel, Redlands, California, a rhyw Mr. Graham, newyddiadurwr, y rhai oeddynt yn eiddigeddus o'u gilydd y oblegid rhyw "feinwen deg" y syrth- iasant mewn cariad a hi, wedi ymladd gornest mor ffyrnig, fel y mae y ddau wedi marw.
MARWOLAETH DUC MANCEINION
MARWOLAETH DUC MANCEINION Bu Due Manceinion farw, ar yr 2ofed o Fawrth, yn Naples. Ganwyd ef yn 1823. Bu yn gadben yn y Grenadier Guards, ac yn filwriad mygedol y milwyr cartrefol yn Huntingdon. Priododd yn 1852 a merch y Comte d'Alten o Hanover. Olynydd y due trancedig ydyw Is-iarll Mandeville, yr hwn sydd yn 37 mlwydd oed.
RHYBUDD IWYR ARIANOG.
RHYBUDD IWYR ARIANOG. Efallai nad yw yn hysbys i bawb y bydd i bob penadur (sovereign) a haner pehadur dyddiedg yn flaenorol i deyrnas- iad Yictoria, ymhen ychydig ddyddiau eto, gael eu gwrthod yn ariandai ein gwlad, am yr ystyrir hwy yn rhai rhy ysgafn. Gan hyny, dylai pawba feddant y cyfrvw arian fyned i'r banc a'u newid ar unwaith. '1,
CYFLAFAN ERCHYLL.
CYFLAFAN ERCHYLL. Yn Somerville, Tennessee, y mae bach- genyn negroaidd, un-ar-ddeg mlwydd oed, wedi tori pen ei fam i ffwrdd a chyllell friwo. Dywedodd iddo wneyd y weithred ar gais ei fam, yr hon a fygythiodd ei ladd, os na wnelai hyny. Ymddengys ei bod hi wedi cweryla a'i gwr, ac yr oedd yn teimlo mor anned- wydd fel y penderfynodd derfynu ei heinioes a llaw ei mab ei hun ♦
DYNES WEDI El LLADD AR REIL-FFORDD…
DYNES WEDI El LLADD AR REIL- FFORDD Y MUMBLES. Nos Wener diweddaf, yr oedd Mary Hodgson, gwraig i labrwr yn byw yn Blackpill, Abertawe, yn dychwelyd adref o'r Woodman Inn gyda'i chwrw swper." Yr oedd yn rhaid iddi groesi y rheilffordd i fyned i'w thy, a daliwyd hi gari beiriant cerbydres haner awr wedi naw, a llethwyd hi yn erbyn y mur. Yna, syrthiodd o dan olwynion y cerbydau, a thorwyd hi yn ddarnau.
':. w Y GWENYN YN DYFOD YNj…
w Y GWENYN YN DYFOD YNj OL I'R CWCH." Dywedir ar awdurdod uchel fed nifer y gweinidogion o'r gwahanol enwadau a ymunasant i'r Eglwys yn America, o Adfent 1888 i Adfent 1889, yn 37, ac y maent yn cael eu rhanu fel y canlyn Methodistiaid, n yr Eglwys Esgob- aethol Ddiwygiedig, 3; Bedyddwyr, 3; Aniiibynwyr, 5; Adfentists, i; Presby- teriaid, 3; Reformed (Diwygiedig), 6; Pabyddion, 4; Undodiaid, 1. Yn ol yr uchod, fe, welir fod yr Eglwys yn allu cryf yn America, yn llawn gweithgarwch, ac yn llwyddo i bers^dio y cyfeiliornus i ddyfod yn ol i'r unig gorlan. Byddaiyn ddymunol ddigon pe byddai y pedair Esgobaeth Gymreig yn cadw cyfrif o'r troedigion Ymnei'llduol i'r Eglwys, a'u cyhoeddi yn y LLAN. Byddai hyn yn galondid mawr i ni fel Eglwyswyr, ac yn symbyliad i ni ddyblu ein diwydrwydd yn yr Eglwys.
NODDFA RHAG TANCHWA.
NODDFA RHAG TANCHWA. Y mae y trychinebau alaethus sydd wedi cymeryd lie yn Nglofeydd y Llan- erch a'r Morfa wedi-I tynu cryn sylw at y y priodoldeb o ddarparu yr hyn a elwir Noddfeydd Tanddaearol." Y mae y cynllun rhagorol hwn mewn gweithred- iad yn bresenol yn Nglofa'r Tylor's, Tylorstown, a'r dyfeisydd yw Mr. Herbert Kirkhouse, peirianydd mwnawl y lofa hono. Egwyddor y lofa dan- ddaearal yw gwneyd lie cadarn ynghanol y lofa, ac yn* gyfleus i bawb, i ba un y gallai y gweithwyr ddianc mewn adeg o berygl. Ffurfir ei muriau o haiarn cryf, na all unrhyw ysgydwad ei niweidio. Gwneir hi- yn air-proof, fel na byddo dyferyn o awyr gwenwynig y pwll yn cael dyfodfa iddi, a dygir awyr iach i mewn trwy bibellau yn dal cysylltiad uniongyrchol a'r awyr uwchlaw y ddaear. Cyeda Mr. Kirkhouse y byddai y aoddfa yma yn un hollol ddiogel ar bob adeg o berygl y byddai y dynion a fyddai o'i mewn yn iach a dianaf, hyd yn nod pe byddai y pwll drwyddo yn fflamio gan nwy. Gellir, meddir, ystorio yn y noddfa yma fwydydd o bob math mewn tins, megis cigfwyd wedi ei breserfio-digon am fisoedd-fel na fyddai perygl i'r pres- wylwyr newynu. Byddai y glowr allan! felly o bob peryglon-peryglon newyn a syched, yn gystal a pheryglon y nwy a'r ffrwydrad. Yr ydym yn gobeithio y mabwysiedir y cynllun hwn er achub bywydau ein glowyr ymhob glofa drwy y deyrnas, pa faint bynag y costia. -.0-
LLOSGI CYRFF YN LLE EU CLADDU.…
LLOSGI CYRFF YN LLE EU CLADDU. Ymddengys fod cremation, sef y drefn I newydd o losgi cyrff y meirw yn lie eu claddu yn y pridd, yn enill tir yn rhwydd yn y wlad hon. Y mae corff-losgiad wedi dyfod yn beth mor gyffredin yn Woking fel nad ydys yn awr, fel y bydd- id yn arfer gwneyd pan gymerai hyny le, yn hysbysu y ffaith yn gyhoeddus. Dywedir fod Cremation Society Man- ceinion yfi bwriadu prynu darn o dir sydd ynglyn a'r Southern Cemetery yn y ddinas hono, gyda golwg ar adeiladu llosg-dy (crematory) ar raddfa eang yno. Y mae Arglwydd Egerton o Tatton, per- chenog presenol y tir, yn mawr gymerad- wyo yr amcan. Y Canghellydd Christie yw llywydd y Cyngor, ac fel is-lywydd- ion ceir enwau Mr. Jacob Bright, A.S., a Syr Henry Roscoe, A.S., ynghyd ag enwau llawer o brif feddygon a chlerig- wyr y ddinas.
MARWOLAETH MR. B. T. WILLIAMS,…
MARWOLAETH MR. B. T. WILLIAMS, Q.C. Foreu ddydd Gwener diweddaf, ar ol hir gystudd, bu farw y boneddwr enwog, a'r Cymro gwladgarol, Mr. Benjamin Thomas Williamfe, Q.C., yn nhref Caer- fyrddin, yn 58 ralwydd oed. Mab ydoedd i'r Parch. T. R. Williams, o Merryvale, ger Narberth. Dechreuodd ar ei ddyled- swyddau cyfreithiol yn 1859. Pan yn ieuanc ysgrifenodd lawer o erthyglau i'r Laiv Magazine a'r Commercial Com- pendium, y rhai oeddynt o dan ei olyg- yddiaeth. Dringodd Mr. Williams i fyny'r ysgol gyfreithiol yn dra chyflym, a gelwid am ei waaanaeth yn mhrif achosion y, G^chdaith Ddeheuol. Yn 1875 y gwnaed ef yn Queen's Counsel, ac yn flaenor y Gylchdaith. Yn 1878, dy- chwelwyd ef yn ddiwrthwynebiad i gyn-1 rychioli Bwrdeisdrefi Caerfyrddin yn y Senedd ac yn 1880 daeth allan fel ym- geisydd yn erbyn Syr John Jones Jenkins (Mr. Jenkins y pryd hwnw), a chafodd y mwyafrif o 110. Yr oedd yn Rhyddfrydwr i'r earn, a chymerai ddy- ddordeb neillduol mewn materion addysg- iadol.
.jgj. v . dVb'HW^LIAD ARGLWYDD…
.jgj. v dVb'HW^LIAD ARGLWYDD HARTINGTON. Ddydd Sul diweddaf, bu Ardalydd Hartington yn cyfranogi o wledd a ddar parwyd, ar ei ymadawiad o'r Aipht, gari y Khedive. Cychwynodd ei arglwydd- iaeth, yr hwn sydd yn awr yn mwynhau iechyd rhagorol, o wlad y Phar6aid am Lundain dranoeth.
RHODDI GWENWYN I'W MEISTR.
RHODDI GWENWYN I'W MEISTR. Ddydd Llun diweddaf, dygwyd Sarah Ann Thomas gerbron ynadon Haver- fordwest ar y cyhuddiad o roddi gwenwyn i'w meistr, Mr. David Evans, veterinary surgeon. Bywedodd Dr. Williams nas gallai Mrs. Evans, yr hon yw y brif dyst, fod yn bresenol am fis o leiaf. Gohiriwyd yr achos am wythnos.
Y DIWEDDAR ESGOB LIGHTFOOT.
Y DIWEDDAR ESGOB LIGHTFOOT. Y mae 00 eisoes wedi eu tan- ysgrifio tuag at Gof-arwydd ar ol y di- weddar Esgob Lightfoot. Y prif dan- ysgrifwyr ydynt Deon a Siapter Durham, £ 1,000 Archesgob Caergaint, £ 50 Deon Durham, £100 larll Durham, Arglwydd Londonderry, Due Cleveland, ac Is-iarll.Boyne, £ 250 yr un.
EGLWYS WEDI El DINYSTRIO GAN…
EGLWYS WEDI El DINYSTRIO GAN DAN. Ddydd Sadwrn diweddaf, hollol ddinystriwyd eglwysblwyfol Guestling, gerllaw Hastings, gan dan a ddechreuodd mewn pibell simnai oedd yn nghronglwyd yr adeilad. Yr oedd yr eglwys yn hen iawn. Bernir iddi gael ei hadeiladu yn y ddeuddegfed ganrif.
OOFNODYDQ CYNTAFCAERDYDD YN…
OOFNODYDQ CYNTAFCAERDYDD YN GYMRO 0 FERTHYR. Y mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi §weled yn dda i benodi Benjamin Francis Williams, Ysw., Q.C., i fod yn gofnod- cyntaf Caerdydd. Y mae Mr. B. F. *7 illiams yn fab i'r diweddar Barch. ~rnoch Williams, gweinidog parous per- ^ynol i enwad y Bedyddwyr yn Merthyr y ydfil, ac yn y jref hon y ganwyd ei fab lwyddianus yn y flwyddyn 1841., Der- yniodd ei addysg yn Ysgol Ramadegol bertawe, yn Ysgol yr Amwythig, ac yh gholeg Sant loan, Caergrawiit. Gal- ^*2? *'r &ar Yn Ionawr, 1867, ac yn 1887 ipenodwyd ef yn olynydd i'r diweddar Mr. B. T. Williams, Q.C., fel Cofnodydd Caerfyrddin. Y mae yn briod yr ail waith. Miss Meta Hughes, nith y di- weddar Barch. W. Hughes, ficer Ebbw Vale, oedd ei wraig gyntaf, yr hon a fu farw rai blynyddau yn ol. Ar ol hyny, cymerodd Mr. Williams foneddiges Lun- deinig yn gydmar bywyd iddo. —+-
DAMWAIN ANGEUOL YN DINAS.
DAMWAIN ANGEUOL YN DINAS. Brydnawn ddydd Gwener diweddaf, cyfarfyddodd hitcher o'r enw Walter Dare, Dinas Row, Dinas, a'i ddiwedd yn Mhwll Cwmni Gloawl Morganwg. Rhyw- fodd neu gilydd, llithrodd y trancedig o dan carriage oedd yn cael ei ostwng ar y pryd, a lladdwyd ef yn y fan. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei ol. »
ESGOBAETH BANGOR.
ESGOBAETH BANGOR. Hysbysir y bydd i Esgob newydd Bangor dderbyn £2,800 y flwyddyn, ac y bydd i'r Esgob Campbell dderbyn Y,1,400 y flwyddyn tra y bydd efe byw. Bu yr Esgob Campbell yn ei swydd am 31 o flynyddau, ei ragflaenydd, yr Esgob Bethell, 29 o flynyddau, a rhagflaenydd y Dr. Bethell, sef yr Esgob Majendie, 21 o flynyddau.
MR. D. A. THOMAS, A.S., YN…
MR. D. A. THOMAS, A.S., YN CYNYG £100. Deallwn OdCynr yebiolydd hynaf ein b eisdref, sef Mr. D. A. Thomas, A.S., wedi datgan ei barodrwydd i gyfranu £ l|00 tuag at drysorfeydd ysgol ganol- ra^dol a sefydlir yn y fwrdeisdref, naill ai wn Merthyr neu Aberdar; ond os sefydlir dwy ysgol, efe a rydd £ 50 yr un iddynt..
' CLEFYD NEWYDD.
CLEFYD NEWYDD. Yr ydys wedi dyfod o hyd i achosion o glefyd newydd yn Pressburg, Awstria. y In Ymddengvs iddo wneyd ei ymddangos- iad yn gyntaf yn Mantua ar ol diflaniad yrianwydwst. Na Nonno (" Syrthio i Gwsg") y gelwir y clefyd hwn. Y mae y rhai sydd yn dioddef oddiwrtho yn syrthio i lesmair, yr hyn a bery am bed- war diwrnod, a theimla y claf yn hynod wan.
DAMWAIN ANGEUOL I FRODORO…
DAMWAIN ANGEUOL I FRODORO FERTHYR YN AMERICA. Ar y 24ain o Ionawr, cyfarfyddodd Thomas D. Hughes a'i ddiwedd yn dra sydyn yn Siafft y Central, Scranton, Pennsylvania, trwy daniad twll yn an- amserol. Ganwyd ef yn Ffynon Tydfil, Merthyr, ac yr oedd wedi cyraedd ei 37 mlwydd oed. Ei rieni oeddynt Thomas ac Ann Hughes, neu Ann Darby," fel y gelwid ei fam. Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru yr ei ol. — «•-
BWRDEISDREFI CAERNARFON.
BWRDEISDREFI CAERNARFON. Sibrydir y bydd Syr John Puleston, un o'r aelodau seneddol dros Devonport, yn debyg o ymneillduo o'r gynrychiolaeth hono, er mwyn dyfod allan fel ymgeisydd Ceidwadol am y sedd a waghawyd yn Mwrdeisdrefi Caernarfon drwy farwolaeth Mr. Swetenham. Y mae Syr John mor boblogaidd yn mhlith y Cymry o bob dos- barth, fel y mae buddugoliaeth sicr yn ei aros yn y cyfryw fwrdeisdrefi. Hefyd, y mae y sedd yn Devonport yn ddiogel i Geidwadwr arall.
YMGAIS AT LOFRUDDIAETH YN…
YMGAIS AT LOFRUDDIAETH YN TOWYN. Yn Towyn, Gogledd Cymru, yn ystod nos Wener diweddaf, darfu i ryw berson anadnabyddus ddringo i fyny at ffenestr ty lie y preswylia dynes o'r enw Jones, yr hon oedd yn byw ar wahan oddiwrth ei gwr, a gollyngodd ergyd o ddryll drwy y gwydr. Yn ffodus, ni niweidiwyd hi Jrn ddrwg iawn. Y mae yr heddgeid- waid yn gwneyd pob ymdrech i ddyfod o hyd i'r dyn ysgeler.
MARWOLAETH MR. SWETENHAM,…
MARWOLAETH MR. SWETENHAM, A.S. V; Ddydd Mercher, Mawrth 19eg, bu Mr. Edmund Swetenham, Q.C., yr ,lod seneddol Ceidwadol dros fwrdeisdrefi Caernarfon, farw yn dra aruiisgwyliedig, yn Ngham-yr-Alyn, Rossett, ei breswylfa. Yr oedd yn fi7 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn Hope Churchyard. Gwasariaethwyd yn yr angladdgan y Parch. V. Vicam, ficer Rossett, a'r Parch. Robert Roberts, curad Hope. Nis gellir ameu y ffaith fod yr ymadawedig wedi bod yn gynrychiolydd Ifyddlon a gweithgar iGeidwadwJ y Gogledd ac y niaent wedi cael colled fawrar ei ol.
YR EGLWYS A THANCHWA Y MORFA.
YR EGLWYS A THANCHWA Y MORFA. Y mae Archddiacon Llandaf wedi cy- hoeddi symiau offrymiadau ei eglwysi yn N ghastellnedd tuag at gynorthwyo y gweddwon a'r amddifaid mewn canlyn- iad i danchwa y Morfa. Casglwyd .t18 19s. 4^c. yn Eglwys St. Dewi, £ 117s. 3c. yn Eglwys St. Thomas, a £2 15s. 2e. yn Melincrythan. Cyfanswm, £ 23 lis. 9j|c. Danfonodd Mrs. Rees Morgan tlO 10s., a Mr. R. B. Morgan ,£5 5s. Yr oedd y personau parchus yna yn aelodau o Eg- lwys St. Dewi, ac yn digwydd bod yn absenol. Rhwng y ewbl, y mae y cyfan- swm yn t -39 Gs. 9c. Da iawn.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. DAVIES-lonawr 23ain, yn agos i 38 ralwydd oed, Mrs. Margaret W. Davies, yn Plymouth, Pennsylvania. Ganwyd hi yn Rhydycar, ger Merthyl Tydfil, Chwefror 18fed, 1857. Collodd ei rhieni pan yn ieuanc. Cafodd ei thad, James Roblings, ei ladd yn nhanchwa gyntaf Blaenllechau. Ymfudodd gyda'i chwaer henaf a'i gwr tuag ugain mlynedd yn ol. Priododd yn 1873 a David W. Davies, yn Pennsylvania. Gadawodd chwech o blant i alaru ar ei hoi. EVANS-Chwefror 17eg, yn 74 mlwydd oed, John J. Evans, North Edensburgh, Pennsylvania. Genedigol ydoedd o ardal Ty'nygwndwn, Llanbedr, Aber- teifi. Ymfudodd pan yn 18 mlwydd oed, ac ymsefydlodd gyda'i rieni ar y fferin Ile y bu farw a lie y mae ei deulu eto. Ni bu o'r fan yn byw er pan aeth i'r wlad hono. Yr oedd yn briod, a ganwyd iddo 14 o blant. Collodd Albert, ei fab, ei fywyd yn mrwydr Gettysburg. MORGAN—Chwefror lleg, yn Racine, Wisconsin, Mrs. Jane Morgan, yn 85 mlwydd oed. Yn „.Lledrod, Sir Aber- teifi, y ganwyd hi. Ymfudodd hi a'i phriod, set y diweddar James Morgan, yn 1838. Bu iddynt naw o blant, ac y mae chwech yn fyw yn awr, ond yn wasgaredig yn y wlad.' LLOYD—Chwefror 13eg, yn 16 mlwydd oed, Miss Mary Lloyd, Franklin, King County, Talaeth Washington, brodor o Abercanaid, ger Merthyr Tydfil. Ym- fudodd tua phedair blynedd yn ol o Lwynpia, Cwm Rhondda. WILLIAMS-Chwefror 12fed, yn Bridge- port, Chicago, Mrs. Margaret Williams, priod Jeremiah Williams, yr hwn sydd yn dra byddar er's blynyddau. Ganwyd yr ymadawedig yn Merthyr Tydfil, ond yn Llanelli, Sir Frycheiniog, y dygwyd hi i fyny.
GLOWR ESGEULUS.
GLOWR ESGEULUS. Yn llys yr heddgeidwaid, Mgrthyr Tyd- fil, yr wythnos ddiweddaf, cyhuddwyd glowr o'r enw William Roberts o droseddu Rheolau Neillduol Glofeydd, trwy fod yn ei feddiant, tra yr, oedd 600 o latheni o orsaf y lampau, bib a thybaco. Nid oedd yn ysmocio ar y pryd, ond gwyddai ei fod yn troseddu. Sylwodd y clerc: Ychydig ddyddiau yn ol, cymerodd dwy danchwa le, y rhai a achoswyd, fe- allai, gan rywbeth o'r fath." Dywedodd y diffynydd ei fod wedi gweithio fel glowr am 40 mlynedd. Dirwywyd ef i £ 1 a'r costau, a dywedodd yr hedd-ynad pe boddlonid ef fod bywydau wedi eu per- yglu trwy ei ddiofahveh, y byddai iddo roddi carchariad iddo.
APWYNTIADAU YN ESGOBAETH TY…
APWYNTIADAU YN ESGOBAETH TY DDEWI. Y mae yr apwyntiadau canlynol wedi cael eu gwneyd yn ddiweddar yn Esgob- aeth Ty Ddewi Y Parch. Vincent Young, M.A., diw- eddar gurad St. Fair, Abertawe, i ddos- barth eglwysig St. Gabriel, Abertawe. Noddwr, y Parch. Canon Smith, ficer St. Fair, Abertawe. Y Parch. David Morgan, B.A., diweddar gurad Eglwys Oen Duw, Sir Frycheiniog, i guradiaeth Builth, yn nghyda Llan- ddewi'r-Cwm, Sir Frycheiniog. Y Parch. William Jones, diweddarf gurad Llanrhidian, Sir Forganwg, i guradiaeth St. Michael ac All Angels, Dafen, Sir Gaerfyrddin. Y mae y Parch. Edmund Osborne Jones, M.A o Christ College, Aber- honddu, wedi ei drwyddedu i'r swydd o Bregethwr Cyhoeddus yn Esgobaeth Ty Ddewi.
Y DANCHWA YN MHWLL Y MORFA.
Y DANCHWA YN MHWLL Y MORFA. Dydd Llujt diweddaf, bu Samuel Dorman (peirianydd), a Phylip Osborne (pwllwr), i lawr yn y pwll, a chawsant ar ei waelod ddwy droedfedd o ddvar-. Am ddau o'r gloch, ae^i}. y peroonsu, can- lynol i lawr :-John. Francis, Joseph Batt, John Williams, John Evans, Wil- liam Harding, Phylip Osborne, Samuel Grove, Thomas Williams, Lewis Rees, George Wellington (tanwr), David Aubrey (tanwr), Richard Maddocks (overman), a Thomas Barras (is-arol- ygwr). Cafodd y chwilwyr gwrol yna y ceffyiau yn fyw ac mewn llawer gwell cyflwr nag y disgwylid. Rhoddasant fwyd' i'r 'anifeiliaid hyn ac i'r asyn, yr hwn, pan glywodd swn y bwcedi, a ddechreuodd ddatgan ei ddiolchgarwch trwy frefu yn galonog. Gobeithir y gellir myned i lawr yn ami i'w porthi. Y mae fod y creaduriaid mud hyn yn ddiogel wedi rhoddi boddhad cyffred- inol.
Family Notices
MARWOLAETHAU. GRIFFITH-Mawrth 12fed, yn 41 mlwydd oed, Mr. William Griffith (Gwilym Lerpwl), Westminster Chambers, Lerpwl. GRIFFITHS—Mawrth laf, yn 16 mlwydd oed, Josiah Griffiths, unig fab Robert ac Elizabeth Griffiths, Grugan Shop, Groeslon. JONES-Mawrth 8fed, yn ei phreswylfod, Tabet, Brynmaenol, Penmaenmawr, Miss Jones, boneddiges adnabyddus a chymeradwy. OWEN-Mawrth lleg, yn 20, Llewelyn Street, Aberffraw, yn 70 mlwydd oed, Mrs. Ellen Owen, gweddw y diweddar Mr. William Owen, Penycnwc. ROBERTS—Mawrth lleg, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Mary Roberts, Gelli Iago, Blaen Nantmor, Beddgelert. Roberts—Mawrth 8fed, yn 71 mlwydd oed, Mr. Edward Roberts, Groesonen, Llysfaen, ger Llanddulas. ROBERTS—Mawrth 6ed, yn 84 mlwydd oed, Mrs. Anne Roberts, gweddw Mr. John Roberts, 'Refail, Penygroes, Llanwnda. TEYNON—Mawrth 13eg, Mrs. Ann Teynon, mam y Parch. T. J. Teynon, Cwmyglo, yn 70 mlwydd oed, ar ol deng niwrnod o gystudd trwm.
CLADDU YN FYW.
CLADDU YN FYW. Y mae un o'r catpisyniadau difrifol hyny o gamgymerydanymwybodolrwydd amfarwolaeth, newydd gymeryd lie yn Alexandria, Piedmont, Itali. Yr oedd merch ieuanc wedi bod yn neillduol o glaf, ac ar ol dioddef yn drwm oddiwrth ffitiau, aeth i gyflwr anymwybodol. Meddyliodd pawb o'i hamgylch ei bod wedi marw, a phan gyrhaeddodd y meddyg, cydolygai ef a'r farn hono, a rhoddodd dystysgrif i'r perwyl hwnw. Rhoddwyd hi yn yr arch, daeth dydd yr angladd, cychwynodd ycynhebrwng, a chyrhaeddwyd y fynwent cyn i ddim anarferol ddigwydd. Tybir i swn y cerbyd ddihuno y gysgadures, canys tra yr oedd yr arch yn cael ei gario o'r angladd-gerbyd i'r bedd, clywid swn yn dyfod o'r arch, a theimlai y rhai a'i carient fod y corff yn symud. Toi-wyd y clawr ymaith gyda brys, a chafwyd y ferch ieuanc yn fyw ac yn vmwybodol, ac fel y gellid disgwyl mewn sefyllfa gyffroedig iawn. Symudwyd hi ar un- waith i'r ysbytty, ac y mae yn dyfod ymlaen yn dda. Y mae meddyg yn Rhufain wedi cyhoeddi ystadegau, y rhai a ddangosant fod miloedd o bersonau yn cael eu claddu yn fyw yn flynyddol yn Ewrop.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU.—Gwenith, 4S 9C i 5s oc am 75 pwys haidd, 5s 3c i S5 9c ceirch, JS oc i 4s oc ymenyn, is 3c i is 5c am 16 wns; wyau, 12 i 14 jam swllt ieir, 35 6c i 5s y cwpl hwyaid, 43 0c i 5s oc y cwpl; pytatws. is 9c am 4 pwys. WYDDGRUG, DYbD MERCHER. — Gwenith melyn, 10s oc i 10s 6c yr hobed haidd, 9s oc i 105 oc yr hobed ceirch, 6s oc i 6s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 14 am is. ELLESMERE, DYDD MAWRTH. — Gwenith gwyn, 4s 7c i 4s 8c am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc; ceirch, 2s 6c i 3s oc wyau, 13 i 15 am is ymenyn, is 4c i is 5c am 16 wns ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl. DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.— Gwenith, 13s 6c i 15s am 240 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys ceirch, 14s 6c i 16s oc am 220 pwys wyau, 16 am is ymenyn, is IC i IS 2-L C y pwys 2 2 ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl hwyaid, 5s 6c i 6s 6c y cwpl; pytatws, 18 pwys am is. CREWE, DYDD LLUN.-Cig eidion, 6c i 1tc y pwys cig moch, 8s 6c am 20 pwys; heffrod, £15 i 424 yr un; cig myharen, 9-C i IOC y pwys. LERPWL, DYDD LLUN.—Cig eidion goreu, 7lc y pWYSj ail oreu, 6c; trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, glc ail, 8c. trydydd, 6c y pwys. TRALLWM, DYDD LLUN.—Gwenith, 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys ceirch, 14s oc i 155 6c; wyau, 00 i 14 am is. ymenyn, is ic i is 2C am 16 wns ieir, 4s oc i 55 oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 6s oc y cwpl pytatws, 18 pwys am is. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. —Gwenith gwjn, 4s ice i 5s oc am 75 pwys melyn, 4S 8c i 4s oc am 75 pwys haidd, 4s 9c i 5s 3c am 70 pwys; haidd at falu 4s 3c i 4s 6c am 70 pwys; ceirch, 15s 6c i 17S 6cam 225 pwys; ymenyn, is 2c i is 3c ypwys; wyau, 15 i 17am swllt; cig eidion, 6c i 7c y pwys; cig myharen, 8c i 95c y -2 1-Y pwys cig 11 o, 8c i 9c y pwys pore, 5c i 5|c y pwys. "CAERLLEON, DYDD SADWRN. — Gwenith, 4s oc i 5s oc am 75 pwys ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 10 i 12 am swllt. DINBYCH, DYDD MERCHER. —Ieir, 4s oc i 5s oc y cwpl hwyaid, 4s 6c i 5s 6c y cwpl; ymenyn, is 6c i is 7c y pwys wyau, 13 am swllt. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Gwenith Seisnig, 32s i 36s y chwarter am wenith gwyn melyn, 30s i 33s haidd at falu, 6c yn uwch na'r wythnos flaenorol ceirch, 6s yn uwch na'r wythnos ddi- weddaf pys, 6c yn rhatach. SALFORD, DYDD M.IUVRTH.-Cig eid- ion, S-c i 7^c pwys cig myharen, 9c i 10ic y pwys cig 110, 7c i 9c y pwys cig moch goreu, 8s 2c ail oreu, 7s 6c i 7s 10 trydydd, 6s ic i 7s oc am 20 pwys. WHITCHURCH, DYDD GWENER.- Gwenith, 4s 4c i 4s ice am 75 pwys haidd, 4s 8c 1.5s 6c am 70 pwys wyau, 13 i 15 am swllt; ymenyn, is 2c i is 4c am 16 wns ieir, 4s i 5s y cwpl; hwyaid, 6s 6c i 7s y cwpl. WELSHPOOL, DYDD LLUN.—Gwenith 4s 6c i 4s 9c am 75 pwys ceirch, 13s oc i 14s 6c; wyau, 14 i 18 am swllt; ymenyn, is ic i is 2C Y pwys ieir, 3s 6c i 4s 6c y cwpl; hwyaid, 4s oc i 5s 6c y cwpl.
IY TAD-LOFRUDDWYR -WED I EU.…
Y TAD-LOFRUDDWYR WED I EU. DEDFRYDU I FARWOLAETH. Yn Mrawdlys Caerlleon, ddydd Gwener diweddaf, dedfrydwyd y ddau frawd ieuanc —Richard a George Davies—i farwol- aeth, am lofruddio eu tad mewn ardal wledig o'r enw Hough, gerllaw Crewe, ar nos y 25ain o Ionawr diweddaf. Mr. A. P. Roberts a Mr. Calt Williams oedd- i ynt yr erlynwy^r ar ran y Goron. Am- » ddifFynid Richard gan Mr. Glascodine, a George, y brawd ieuengaf, gan Mr. Malcolm Douglas. Er fod y rheithwyr wedi cael y carcharorion yn euog o'r lofruddiaeth, eto i gyd, ymbilient am dru- r garedd ar eu rhan, oblegyd eu bod mor ) ieuanc. Y Barnwr Wills, ar ol gwisgo y cap du, a anerchodd y ddau frawd con- 1 demniedg mewn llais oedd yn amlygu 1 teimladau clwyfedig y fynwes. Dywed- odd fod y carcharorion yn euog o'r weith- i red anfad o ladd eu tad eu hunain. Ni r fynai efe chwilio am eiriau i ddesgrifio gweithred o'r fath, ac ni chwenychai efe waethygu eu setyllfa boenus drwy eu cadw yn y llys yn hir iawn. Yr oedd yn rhaid gosod pob digofaint o'r neilldu yn awr, ac yr oedd yn eithaf tebygol eu bod yn edifarhau am y drwg a wnaethant. Yna, cyhoeddodd ei Arglwyddiaeth y. ddedfryd o farwolaeth arnynt. Cymer- wyd hwy, wedi hyny, yn ol i'w celloedd yn y carchar. Gwneir pob ymdrech yn Crewe i gael y trigolion i law-nodi deiseb er ceisio arbed bywydau y ddau. Credir fod y Barnwr Wills yn ffafriol i hyny. Os na lwyddir i ddylanwadu ar yr awdur- dodau i newid y gosb, y mae yn debygol y cymer y dienyddiad le ar y 14eg neu y i5fed o Ebrill.