Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 FON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 FON. LLANGRJSTIOM;S A CHERYG-CEINWEX. Y mae yn dda genym ddeall nad ydyw plwyf olion y plwyfydd uchod am ganiatau i'w hen gurad parchus a gweith^ar ymadael i Langwyllog heb z, dderbyn rhyw gydnabyddiaeth o'u parch tuag ato a'u hedmygedd o hono fel dyn, cymydog, a gweinideg. Deallwn fod swm sylweddol wedi ei gasglu yn barod—ewyllysgar offrwm y galon .-er ei anrhegu a thysteb. Ceir hanes y cyf- lwyniad mewn rhifyn dyfodol o'r LLAN. Y mae y Parch. J. Owen eisioes wedi dechreu ar ei waith yn Llangwyllog a Choedana, a'i olynydd,y Parch. Richard W. Owen, wedi ymsefydlu yn Llangristiolus. Llwyddiant a ddilyno ymdrech- ion y ddau. LLANGEFNI.—Pur ddistaw ydyw hi yn yr ardal yma yn bresenol gyda phwnc Addysg Ganolraddol. Anhawdd iawn ydyw cael y ffermwyr i cymeryd dyddordeb !yn y mudiad, ac yn enwedig i gyfranu tuag ato. Heb gyfran- iadau tuag ati, ofer ydyw disgwyl am un o'r ys- golion hyn yn Llangefni.—Y mae eglwys y plwyf hwn wedi ei helaethu a'i hadgyweirio yn ddiweddar, ac y mae porth hardd a chelfyddyd- gar wedi ei adeiladu fel mynedfa i'r fynwent. BEAUMARIS.—Y mae cryn fywiogrwydd yn y dref hon yn bresenol drwy fod Cartreflu Mon yma yn myned drwy eu hymarferiadau blyn- yddol. Sonir am gael ffug-frwydr (sham-fight) ar ddiwedd y tymor. FONT Y BORTH. Hysbysir fod y Llywodr- aeth wedi cynyg gwerthu ybont hon i awdur- dodau Siroedd Mon ac Arfon, ond fod y cynyg- iad wedi ei wrthod. BOPEDEEX.—Dywedir fod rhagolygon cyfar- fod blynyddol Undeb Deoniaeth Llifon, a gyn- helir yn y lie uchod, ddydd Llun y Pasg, ynbur addawol, a bod y corau yn gweithio yn egniol iawn dan gyfarwyddyd y Parch. J. J. Ellis, y Gelli. Llwyddiant iddynt. LLECHCSNEARWYDD;—Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Pavch. T. Williims, B.A., Ficer y plwyf, ddeall ei fod yn gwella yn gyflym o'r gwaeledd y bn dano yn ddiweddar. LLAXDRYGARN. Xos Wener, cynhaliwyd cyngerdd yn Y sgoldy y Bwrdd, yn y lie uchod. Llywyddwyd gan y Parch. D. Lloyd, M.A., D.G. Cymerwyd rhan ynddo gan Mri. W. Wallace Thomas (Pentrcvoelas), Eos Cynfarwy, Owen Parry, ieu., Bwlchyfen Miss Mattie Williams, Bodedern, ac eraill. Cafwyd cyngerdd da. Yr elw at yr ysgol ddyddiol.-Talanton.

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

[No title]

NODIADAU SENEDDOL.

Advertising

-_-Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

[No title]

CYNGOR AC ESIAMPL 11 LLAD-O…

"SILTJRIAD."

ANFFAELEDIGRWYDD MR. GEE.

"Y GENED4 GYMREIG" A'R PARCH.…

GORMESU.

BETH AM WLADGARWCH A C HREF…

Advertising

NODION 0 DDEONIAETH WYDDGRUG,