Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.…
DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD. BONT-DDU. Da genyf ddweyd fod cyfarfod difyr ac adeil- adol wedi ei gynal yn y pentref bychan hwn mewn cysylltiad a'r Eglwys a'i hanesyddiaeth. Daeth y Parch. R. Williams, ficer Dolwyddelen, yma nos Lun, gyda'i Fagic Lantern a'i Fagic dafod. Yr oedd y cynulliad yn lied dda, ac ystyried y noswaith, yr hon oedd yn hynod o wlyb ac ystormus. Yr oedd yr addysgiadau a roddwyd yn hynod o glir ynghylch hanes yr JSglwys, ei tharddiad, ei pharhad, a'i hunaniaeth. Dyma gyfarfodydd sydd yn dueddol i wneyd mawr ddaioni. Yr oedd Mr. Williams yn preg- ethu nos Fawrth yn yr Eglwys haiarn, pryd yr oedd gwasanaeth gwresog. Y mae y gymydog- aeth mewn dyled mawr i'r Ficer Lewis am ei ymdrechion diflino. liKVNCOKDiroR. Y mae cyfres o bregethau yn cael eu traddodi yma yn wythnosol, gan y Ficer, yn ystod y Garawys, ar elfenau cyntaf y grefydd Gristion- ogol. Y mae yr anerchiadau yn cael eu mawr werthfawrogi, fel y mae yn amlwg oddiwrth y cynulleidfaoedd. Dyma un amcan daionus o gadw tymhorau neillduol fel hyn, sef, cymeryd rhyw destyn arbenig, a'i drin yn ei wahanol ranau a'i agweddau. Tuedd y pregethu ar y Sul yw, bod yn rhy gyffredinol a di-amcan tra ar adegau fel hyn, gellir dyfod a'r addysgiadau i bwynt, fel ag i fod yn benodol a defnniadol. Gormod o guro yr awyr sydd, a rhy ychydig o addysgu ac adeiladu mewn egwyddorion ac C, athrawiaethan. DOLGELLAU. Y mae genyf ddigon o hanesion yn nghadw ynghylch y dref hon, ond prin yw'r amser yr wythnos hon. Agorir y cwd eto. Ond deallwyf fod rhai digwyddiadau dyddorol wedi cymeryd lie yn ddiweddar. GALWAD." Y mae y Methodistiaid yn Nolgellau wedi rhoddi galwad i Mr. Thomas, gweinidog yr enwadyn Mhwllheli, yr hwn fu gynt yn Dyffryn. Os daw Mr. Thomas yma, gellir disgwyl dyn bach, tywyll ei bryd, a digon diniwed a distaw. Nid yw yn ddyn o alluoedd meddyliol cryfkra, nac ychwaith yn rhyw ddawnus iawn. Ond ar y cyfan, y mae yn ddyn canolig mewn cyraedd- iadau, o rodiad dilychwin, ac yn gymeradwy. FESTRI BLWYFOL. Ddydd Llun, yn Neuadd y Sir, Dolgellau, cynhaliwyd festri blwyfol, o dan gadeiriad y Periglor. Penodwyd overseers newyddion, a thriniwyd materion eraill perthynol i'r plwyf. Aeth pob peth heibio yn hynod dangnefeddol. ETHOLIADAU. Y mae yma lawer o siarad, a swnio, a phleid- geisio am seddau ar y Local Board a Bwrdd y Gwarcheidwaid. Rhoddaf fanylion eto. ADDYSG GANOLRADDOL. Y mae cyfarfod pwysig i gael ei gynal yn Nolgellau, ddydd Mercher, mewn cysylltiad a'r pwnc hwn. Gobeithio na wneir dim yn fyr- bwvll, ac na ddrygir yr Ysgol Rammadegol bres- enol sydd yn gwneyd gwaith mor ardderchog.— Sylldremydd.
LLOFRUDDIAETH YN CREWE.
Y mae Mr. Pedley, eyfreithiwr, wedi derbyn llythyr oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn gofyn ar ba dir yr ydys yn hawlio arbediad bywyd y ddau fachgen- yn—Richard a George Davies—a dded- frydwyd i farwolaeth. Os derbyniai fynegiad eglur ynglyn a hyny, addawodd dalu ei ystyriaeth neillduol iddo. Dis- gwylir atebiad oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol tua chanol yr wythnos negaf. !!iiIíf':i
Advertising
G-WE8TFA," TY i Offeiriaid i orphwys ynddo. Agorir y JL Ty i Ymwolwyr Ebrill 14, 1890. Cyr- haeddir ef taewn pnm* mynyd wrtli gerdded o Orsaf Glaarhyd. Geir manylion oddiwrth Mrs. RICHARDSON, Glenbrydan Park, Maaordeilo. Yn y Wasg. Prig 18. 6c., wedi ei Rwymo yn Hardd. "GRISIAU'R DEML," Ntm OEDINHADAU TY J3 ID XT W. Gan y PARCH. N. THOMAS, FICER LUNDDAROG. YR unig esboniad cyflawn yn Gymraeg ar y Bedydd, y Catecism, Conffirmasiwn, a'r Cymmun Bendigaid. Y mae yn llyfr add as fel gwobr yr Ysgol Sul. Gan nad argreffir end nifer benodol, anfoner archebion at yr Awdwr ar unwaith— RAv. N. THOMAS, The Vicarage, Llanddarog, CARMARTHEN. AT EIN GOHEBWYR GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAKTH at y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad & dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, eyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu feliy oanlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwch ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr lliosog dalu sylw arbenig i'r rheolau canlynol:— 1. Yagrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 8. NiB gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy- hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y caulyn:— Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein eyfeillion barddonol £ od mor garedig a thalu sylw i'r rheolau oanlynol ) vob amser:— 1. Defnyddier I note pitpir, ysorifener ar Un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytraoh na meithder gormodol. 8. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau na barnu teilyngdod cyfieithiadau ieb weled y gwreiddiol. ^ELERAU AM Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- lad yn y Deyrnas Gyfuuol am y prisiall canlynol Cbwsrter blwyddyn, 1 s. 8c.; haner blwyddyn, 3s. 4c.; blwyddyn, 6s. 8c. Dau neu dri rhifyn yn ol yr un raddfa. RhaJd, anfon blaendal gyda Phob archeb. Y telerau iDdosbarthwyr ao eraill a gymer- ddwsin ac. uchod yn wythnosol ydynt 9c. y **sin, 10c. gyda'r rheilffordd, a Is. gyda'r JMM/. *»haid i bob Dosbarthwr wastadbau ei gyf- ^ifon yn ehwarterol, dymunir ar i bob tin dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgenlusdra Ar ran swyddogion y Llythyrdy ,^eu y Rheilfiyrd.d gj^a clJudiad unrhyw sypyn, dylid anfon iiysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r V^yhoeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- ^yniant eu sypynau gyda'r rheilffordd ofalu eu ^ymofy^ yn eu gwahanol oreafoedd bob wyth- nos. ^YSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R PYWVSOGAETH yw yr Newyddiadur, Eglwysig a gyhoeddir yn gymraeg, a dderbyfiir ac a ddarllenir gan y ttiwyaf dealius o bob dosbarth yn y Dywysog- efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw betli yn hysbya. Y Teleriu ism Hysbyeiadau. 75 o eiriau (solid) nen un fodfeddji lawr ygolofn (displayed) wythnos (till ymlaen llaw). '2s. 6c. Dwy wythnos 2s. 0c. Pedair wythnos Is. 8c. Chwech wythnos Js. 6c. 18 wythnos Is. so. 26 wythnos Is. 0c. ^ysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith- iol, 6c. y llinell. j Arwerthiadau, 4c. y llinell. Hysbyiiadau Blaendaliadol Rhad. y-j gyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, Yn 01 y raddfa ganlynol 20 o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s.; f c gwaith, 38. ;i OA J"* ,v ,° eiriau, an waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; gwaith, 4s. 6c. eiriau, un waith, 2s. Sc.; tair gwaith, 4s. l6c > «W gwaith, 6s. 9c. ij. > — ofl.f,^l0eddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn f Ueg. Ni oi'ynir ttilam gyfieithu. SYLNVF a HV^R .—Rhaid i bob Gohebiaeth ynglyri hanfr, ysiadaa a Thaliadau o hyn allan gael eu °n i'r Cyhoeddwyr, Messrs. PARRANT & FROST, Y LLAN A'R ÐYWYSOGAETH Office j 135, High Street, | Merthyr Tydfil. CYFRINGELL Y GOLYGYDD CYWEIRIAD GWALL.—Yn hanes cladded- igaeth Ficer Llanwonno a ymddangos- odd yn ein rhifyn diweddaf, yn lle "y boblogaeth yn 1,200," darllener U y boblogaeth yn 12,000." DYMUNA Gomerydd newid y ddwy linell olaf yn y penill olaf o'r "Emyn Nos Basg" fel y canlyn Holl rinweddau maith ei glwyfau, poenau'r hoelion llymion hwythau, Treulio tragwyddoldeb trwydflo cyn yr elo un yn ango'. M.—Ofnwn nas gaUwn addaw, ond o dan amgylchiadau arbenig iawn, osod dar- luniau i fewn. Bydd yn dda genym dderbyniad yr adroddiad. M YRDDIN COCH. -Caiff y llith ymddangos. IN order to open a discussion upon the desirability or otherwise of adopting a suggestion made by a correspondent in English, we shall publish at the earliest opportunity the letter signed Duoglot. CYHOEDDIR "Taith i Gwmfelin" yn ein rhifyn nesaf, yn nghyd ig ysgrifau Rheidiol (Roath), Ap Morus (Lleyn), Dewi (Mon), Carwr Llwyddiant yr Eglwys, &c. OW D. S.-Rhod(lir y flaenoriaeth bob amser i'r adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn fyr a chynwysfawr.
[No title]
Yn y seithfed ganrif daeth givr i'r wlad a adawodd ei ol ai- yr Eglwys— Theodore, mynach o Tarsys, yn Cilicia, wedi hyny Archesgob Caergaint. Can- fyddodd Theodore fod yr Esgobaethau yn rhy eang, a bod eisiau gwelliant yn nhrefniad y phvyfau. Penderfynodd fyned at y gwaith, a dygodd oddiamgylch gyfnewidiadau a fuont o les vnawr i'r Eglwys. Dechreuodd drivy ranu yr Esgobaethau, a dwyn y gwahanol Esgob- ion i undeb o dan un.p?if *-E.gob yn Caergaint (Canterbury), a thrwy ei frwdfrydedd ei hun, rhoddodd gychwyn- iad bywiog ir gwaith o drefnu yplwyfau ac adeiladu eglwysi. Fel dyn call yn ei genedlaeth, gwyddai y ffordd i apelio at deimladau dynion, yngystal ag i gyffwrdd d'u sel grefyddol. Dywedai wrth y tir- feddianiuyr o bob gradd Osgwnewch chwi yn awr, a chwithau wedi derbyn ffydd Crist, adeiladu eglwys ar eich maenor, fel yr adeiladodd y brenin eglwys ar bivys ei balas i wyr ei lys, yna caniataf i fedydd gael ei iveinyddu yn eich eglwys." OV pryd hwnw gelwid yr cglwys horn Eglwys Fedydd," a deiiai o hyn allan yn eglwys plwyf. "TVrth hyn," medda/i, 14 y cewch chwi a'ch pobl arbed y drafferth o fyned yr holl ffordd Pr eglwys gadeiriol. A chaiff degymau eich maenor chwi fyned mwyach i gynal gweinidog eich phuyf, yn lle myned fel o'r blaen Pw dosbarthu gan yr Esgrib. A chan mai chun: a adeilad- odd yr eglwys newydd, neu a fu yn fodd- ion i'w hadeiladu, chwi a gewch yr haivl o benodi gweinidog ir plwyf; bydd cyf- lwyno i'r fywoliaeth yn eiddo i chivi." Dyrta ddechreucid noddedpersonol (private patronage) yn yr Eglwys.—Parch. T. Moore, M.A.
BWRDEISDREFI ARFON.
BWRDEISDREFI ARFON. TRWY farwolaeth annisgwyliadwy Mr. SWETENHAM, mae etholiad aelod seneddol yn ei Ie wedi dyfod yn angenrheidiol. Bwriadai yr aelod parchus, marwolaeth yr hwn a alerir yn gyffredinol, ymgynyg drachefn am y sedd, pan y deuai yn wag mewn dwy neu dair blynedd, fel y meddylid, ar adeg yr Etholiad Cyffredinol ar ddiwedd y senedd-dymor saith-blyn- yddol, ond gwiriwyd y geiriau Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau" unwaith yn rhagor, ynghyd a'r rhybudd i ni o freuolder bywyd, a siomiant amcanion dynol. Yr oedd y blaid Geidwadol ac Undebol yn ymddibynu fod ganddynt ymgeisydd yn barod, ond yn ddisymwth mae cyf- newidiadau a damweiniau y bywyd marwol hwn yn eu gadael yn hollol ddi- barotoad at frwydr etholiadol. Ary llaw arall, mae y blaid wrth-Eglwysig a chan- ddynt ymgeisydd yn barod mewn cyf- reithiwr Ileol di-nod o'r enw Mr. GEORGE, o Griccieth. Mae eiso.es wedi gwneyd ei syniadau yn adnabyddus syniadau eithafol ynghylch ysbeilio yr Eglwys a'r tirfeddianwyr o'u trefdadaeth. Cynhaliwyd cyfarfod o'r blaid Geid- wadol yn Nghaernarfon, ddydd Llun, ond ni fuwyd yn llwyddianus i bender- fynu ar unwaith ar Ymgeisydd. Gofynwyd i Mr. ELLIS NANNEY sefyll, ond nis gallai oherwydd gwendid ei iechyd. Buasai yn ddiameu yn ymgeisydd teilwng. Trodd meddyliau y cyfarfod at eraill, ac yn eu plith at Mr. IS8ARD DAVIES, maer pres- emol Caernarfpn, yr hwn sydd yn dra phoblogaidd oherwydd ei rinweddau. Bu Mr. DAVIES yn gurad yn Nghaernarfon, ond y mae yn awr yn ddyn cyfoethog, ac wedi rhoi ei weinidogaeth o'r neilldu. Nid ydyw., feddyliwn, wedi gwneuthur hyny yn ffurfiol, ond mae Deddf yn bod trwy ba un y gall wneyd hyny, a chael agoriad rhydd i'r Senedd, fel y gwnaeth Mr. BOWEN ROWLANDS, yr aelod dros Sir Aberteifi, Mr. A. H. ACLAND, A.S., Mr. THOROLD ROGERS, ac eraill. Rhaid i ni ddweyd, gyda phob parch i Mr. DAVIES, fod y syniad yn bodoli yinhlith Eglwyswyr zelog, fod anmhriodoldeb mewn tatlu ymaith y cy- meriad offeiriadol, fod urddau, mewn a gair, yn annileadwy. Ar yr un pryd ni edrychant ar ddeddf wladol a wahardd i glerigwr fyned i'r Senedd fel Canon Eg- lwysig, ac, yn ddiameu, gall yr un awdur- dod sydd yn difreinio clerigwr, adferu iddo ryddid dinaswyr eraill. Y gred, tra yn ysgrifenu yw, nad ydyw Mr. DAVIES yn debyg o gydsynio i fod yn ym- geisydd.
RHAGOLYGON DIBGLAER Y FRWYDR…
RHAGOLYGON DIBGLAER Y FRWYDR YN ARFON. ER fod y blaid Undebol wedi ei deffroi yn ddisymwth, ac yn anmharod, mae y rhagolygon yn hynod o anogaethol, ond nid heb undeb ac ynidrech. Yn yr etholiad diweddaf, allan o 4,476 ar y Cof- restr, pleidleisiodd 3,504, sef 1,820 dros Mr. SWETENHAM, a 1,604 dros Syr LOVE JONES PARRY, Rhyddfrydwr Cymedrol; mwyafrif felly o 136. Mae llawer o Ryddfrydwyr yn Arfon yn analluog i lyncu athrawiaethau eithafol a'u hergyd i drosglwyddo eiddo tirol ac Eglwysig allan o ddwylaw eu meddianwyr pres- enol at wasanaeth eyffredinol ac anmhen- odol. Gwyddant fod y cyfnewidiad yn arwyddo chwyldroad, dyryswch mas- nach, llafur, a chyfalaf, am oes neu ddwy, beth bynag. Gwyddant hefyd nad yw Cymru yn deall dim o'r cwestiwn Gwyddelig, ac yn hidio llai. Heblaw y gwrthwynebiad i Mr. GEORGE oherwydd ei ddaliadau eithafol a'i ddinodedd, mae cynydd masnach a phrisiau amaethyddol yn llefaru o du y Weinyddiaeth bresenol. Ond y mae un peth yn ffafriol i'r Radical —mae yn medru Cymraeg y mae yn un o'r Cymry Cymreig. I gyfarfod a hyn, dylai y blaid Geidwadol geisio Cymro a fedr anerch yr etholwyr yn eu hiaith eu hunain. Pe byddai yn Undebwr o syn- iadau GosCHENa HARTINGTON, ni fyddai o un anfantais, ond yn hytrach i'r gwrth- wyneb ar yr adeg bresenol.
CONFFIRMASIWN YN ESGOBAETH…
CONFFIRMASIWN YN ESGOBAETH LLANDAF. A ganlyn ydyw ystadegau Conffirmas- iwn yn yr Esgobaeth uchod oddiary 16eg ro Fawrth Gwyr. Gwragedd. Mawrth 16. St.Andrew,Caerdydd 49 65 Mawrth 17. St. German's, Roath 32 55 St. loan, Canton 32 56 Mawrth 18. St. Margaret's, Roath 38 > 56- Mawrth 19. Llandaf 40 77 St. loan, Caerdydd 36 60 Mawrih 21. St. Mair (Mynwy). 54 38 Raglan 30 20 Mawrth 21. U sk 20 41 Abergavenny 39 56 Mawrth 22. Llanfihangel Cru- corney 27 37 Mawrth 23. Pontlottyn 46 29 Mawrth 24. Caerleon 28 37 Mawrth 25. Trevethin 17 36 Maindee, Casnewydd 26 32 Cyfanswm 548f 760
COLOFN YR AM AETH WYR. -
COLOFN YR AM AETH WYR. Fy Nghyd-amaethwyr,—Disgwyliaswn y buasai ein gorchwylion amaethyddol wedi eu prysuro yn mhellach ymlaen nag ydynt, oblegid nid yn ami y cafodd amaethwyr y fath gyfleuaderau yn Mawrth i drin eu tir ac i hau ac y mae rhai o honom wedi bod yn ddigon doeth i fanteisio ar fwyneidd-dra y tywydd fel ag i hau, ond nid felly y bu gyda'r oil o honom, gan fod rhwystrau ar y ffordd. Y rhwystr mwyaf yw awydd am gyd-hau er mwyn rhanu y brain yn gyfartal dros wyneb meusydd pawb, yn gystal hefyd a'r wybodaeth y daw y peth a hauwyd yn gynar yn addfed o flaen y peth a hauwyd yn ddiweddarach, ac o ganlyniad bydd y meusydd cynarol a hauwyd yn addfedu yn gynt, ac yn dyfod yn atdyniad i adar o bob math i'w ddifrodi. Ac y mae un rhwystr bach arall hefyd, o'r braidd y mae yn werth ei enwi, sef ofn digio duciaid amaethyddol y cwmwd, trwy feiddio hau, neu ddechreu unrhyw gyn- hauaf o'u blaen hwynt. Felly, wrth fod y naill gymydog yn llygadu ar y llall cyn dechreu hau, esgeuluswyd pymthegnos o dymor ffafriol i hau, pryd y gallasai yr had fod yn fwy addas yn y pridd nag yn y sach. Braenarant ar hin pan y gallesid Ilyfnu ac wedi penderfynn aradeg hau, yn ol eu mympwy hwy, trodd yr hin yn anffafriol, ac y mae had llawer o honom byth yn y sach yn lie yn y ddaear. Fy mhrofiad yw hyn, y dylid cydweithio gyda hin ffafriol, ac na ddylid ofni hau ceirch ar hin sych e-yn vr ugeinfed o Fawrth, ac er mwyn cael cynhauaf da ein bod yn rhwym o hau yn gynar, fel y gallo'r oil dd'od i fewn mewn addas hin cyn y trydydd dydd ar hugain o Fedi, ac ar ol hyny nid oes dim i'w ddisgwyl ond Hydref oer a gwlyb. TATWS.-Credaf ydylem blanu tatws cyn iddynt egino yn mis Mawrth. Tor- wchy big faen lygeidiog y daten, er mwyn osgoi gormod o wreiddiau. Lie bydd gormod jo wreiddiau, ychydig o datws man a geir. Planwch ddarnau tatws cryfion, ac ymhell oddiwrth eii gilydd, ac mor, gynarol ag y mae modd dan y gwys, a phan ar hedeg allan trwy y pridd, llyfnwch hwynt yn dda, ac yna chwi gewch gnydau trymach o lawer na phe buasent wedi eu hau mewn rhaffau o resi tynion a chordeddog. Mae hobbet o datws a heuir yn Mawrth ya werth dau a heuir yn Mai. Ni wnaiff llwydrew effeitliio dim ar datws a heuwyd dan y givys fely rhai a heuwyd mewn rhesi trwy falchder yr aradrwri fyned yn syth. Gwell stwff yw tatws i ddyn ac anifail na maip, am hyny na ddiystyrwn hwynt. MANGEL WURZEL. Difeth effaith gwrtaith yn arw iawn a wnaiff y enwd glas hwn, ac nid heb draul pellach y gallwn godi enwd gwenith ar ei ol ond Os corlanweh ddefaid i gael eu porthi arno, fe ddaw y llafurwaith yn rhatach trwy hau Mangels ar ol cnwd o Swedes a fwyteir gan ddefaid arno tua diwedd Ebrill neu ddechreu, Mai. Ar y llaw arall, nyni, fel amaethwyr goleuedig yn y dyffryn prydferth hwn, a ganiatawn un ac oil mai ein mamtais ni yw hau haidd ar ol cael y cnwd gwenith, am ei fod yn well at fragu na haidd a godir ar ol pob math o faip. Ystyriaf hyn yn bwysig i ni, gan y rhydd y bragwyr ddeg swllt y chwarter yn fwy am dano na haidd a godir ar ol pob, rhywogaoth o faip. Gwyddom i'r haidd goreu at fragu gael ei werthu yn ami am bris uwch na gwenith. Drwy ddefnyddio niirate of soda, yr hwn a fan werthir am naw swllt y can' pwys, gellir codi dau gnwd o haidd y naill ar ol y llall oddiar yr un maes. TYMOR MAGU WYN.—Diameu na wel- wyd er's rhai blynyddoedd gymaint o wyn bach ar fynydd a gwastadedd, ar fryn a dol, ag sydd eleni; a lie bynag y cafwyd colledion oddiwrth ddefaid mawr, fe achoswyd hyny yn benaf drwy eu porthi yn ynfyd ar faip. Pryd bynag y bydd gorlawnder o faip yn yr hydref a'r rhan gyntaf o'r gauaf, bydd erthyliadau yn lliosog, yn gystal a marw-anedigion yr un modd y triga y mamogiaid eu hun- ain, ac yr edrych y gwartheg hefyd mewn canlyniad yn fwy tebyg i ffuredi, tra y byddont yn ystod yr haf ar ol hyny bron yn hesbion, a'u gwataith teneu wedi myned i ganlyn y gwlawogydd i'r afon- ydd. GWAIR.—Trwy fod y gauaf wedi bod mor agored, y mae cyfiawnder owair eleni, ac yn cael ei werthu am brisiau isel. Ni chafwyd cynhauaf campus ar lawer o hono llynedd. Collodd lawer yn ei werth trwy gael cynhauaf drwg, a thrwy oedi ei dori. Mae y tatws hefyd mor isel eu pris a'r gwair, nes y mae yr amaethwr yn eu IhlChio i'w anifeiliaid yn hytrach na'u dwyn i'r marchnadoedd. GWAITH RHAW.—Yr ydym ni fel amaethwyr yn dja esgeulus gyda y peth a alwaf yn waith rhaw, neu arddio. Meddyliaf y deilliai lies mawr i ni trwy blanu coed ff-rwythau ynghysgod conglau ein meusydd, neu berllanoedd bychain o flaen ffenestri llofftydd ein tai, lIe gall ffroenau ein gynau, yn gyfieus, gomandio gonestrwydd rhag lladron ar yr awgrym cyntaf a rydd y ci, neu y ceiliogwydd effro yn y buarth. Wrth derfynu fy ychydig sylwadau ar ar ein llesiant amaethyddol, disgwyliaf glywed gair, trwy Y LLAN, beth yw profladau H wntwrs ar amaethwriaeth y De yna, wye 1 Llawr y Bettws. AMAETHWR.
AIMYWION.
AIMYWION. Ar yr 22ain o Fawrth, yn Bottwnog Grammar School, esgorodd priod y Parch. E. Philip Howell, M.A., ar fab. Ar y 24ain o Fawrth, ar ol dioddef am fyr amser oddiWrth yr anwydwst, bu farw Mr. John Jones, Garth Terrace, Porthmadog, yn 70 mlwydd oed. Deallwn fod y Sergeant Birtall, arol- ygwr Clwb Ceidwadol Rhyl, ar ymadael am Manceinion. Mr* Stokes, Rhyl, a benodwyd yn olynydd iddo. Hysbysir fod anwyl briod Dafydd Prichard, carrier, Beddgelert, wedi marw, yr hyn a ddigwyddodd ar y 19eg o Fawrth. Yr oedd yn 41 mlwydd oed. Y mae y Parch. W. Lloyd, ficer Llan- elltyd, Meirionydd, a'r Parch. D. R. Lewis, Bont-ddu, wedi ymgymeryd a'r gwaith o gyfieithu i'r Gymraeg lyfr bychan Mr. Nye ar Hanes yr Eglwys yn Nghymru." Bu y Parch. Cyril Child, M.A., o York, yn Nghydweli, nos Sul diweddaf, yn traddodi pregeth genhadol yn eglwys y plwyf. Rhoddodd hanes dyddorol a tharawiadol am y gwaith da a wneir gan y Gymdeithas Genhadol yn Nghanol- barth Affrica. Dydd Llun, yr 17eg o Fawrth, cyn- haliwyd ffair yn mhentref henafol Pen- wrfa, ger Tremadog. Nid oedd yno ond ychydig iawn o borthmyn. Yr oedd yno lai o ofyn ar wartheg yn min lloi. Ychydig iawn o geffylau hefyd a werthwyd. Cynhelir yr Ysgol Sul yn Mynydd-y- gareg, plwyf Cydweli, mewn ystafell fechan ac anghyfleus, er fod nifer yr aelodau yn cadw dros driugain bob Sul. Deallwn fod y ficer. y Parch. D. Dafen Jones, B.A., yn gwneyd ymdrech neill- duol i gael aglwys newydd yno. Nos Sul, Mawrth 23ain, pregethodd y y Canon Richardson ei bregeth ymadaw- ol yn Eglwys y Drindod, Rhyl. Yn Actau xx. 32 yr oedd ei destyn. Yr oedd y bregeth hon, mae'n debyg, fel yr oil o bregethau Mr. Richardson, yn dangos addfedrwydd barn, a phurdeb chwaeth. Eiddunir iddo bob Ilwyddiant a dedwyddwch ar ei ymadawiad o'r plwyf. Yr oedd yn dda genym glywed am briodas ficer parchus plwyf Llandefeilog, sef y Parch. J. Herbert, B.A., a merch ieuangaf yr Archddiacon James, o Abergwili. Credwn fod plwyfolion Llandefeilog wedi bod yn ffortunus i gael yn eu mysg, fel gwraig i'w Ficer, un mor hael a boneddigaidd. Hir oes i'r ddau yw ein dymuniad. Traddodwyd pregeth gan y Parch. R. Williams, B.A., Dolwyddelen, yn Eg- lwys Bont-ddu, Mawrth 24ain, ar "Yr Eglwys Gymreig." Yr oedd yno lawer o Ymneillduwyr, heblaw Eglwyswyr, yn gwrando yn astud. Eglurodd Mr. Wil- liams lawer o bethau oeddynt yn dywyll yn hanes yr Eglwys yn Nghymru, ac y mae yn sicr yr erys effaith y bregeth yn hir, ac y bydd amryw yn diolch am y goleuni a gafwyd. Fel rheol, yr oil a wneir gan bwyll- gorau ydyw lladd amser ctrwy siarad ar draws ac ar hyd ond y mae'r Cynghor sydd newydd ei ddewis i gynrychioli Ysgolion Sul Esgobaeth Llanelwy yn eithriad anrhydeddus. Nid yn unig y mae'r aelodau wedi ymaflyd yn eu gwaith yn ddiymdroi, ond hefyd wedi ei gyflawni yn dda. Erbyn hyn y mae penderfyniadau y Cynghor yn Ilaw pob clerigwr drwy yr esgobaeth, a'r cwbl sydd yn ofynol bellach ydyw eu mab- wysiadu ymhob plwyf a chydweithredu arnynt. Gwelir mai y gwaith sydd wedi ei dori allan am y flwyddyn ydyw yr Efengyl yn 01. St. Matthew, dwy ran flaenaf y Catecism, a'r Weddi Foreuol a Hwyrol; ac awgryma yr Arglwydd Esgob y priodoldeb o gymeryd y Beibl am dri chwarter awr, a'r Llyfr Gweddi Gyffredin am chwarter awr bob Sul. Yn mhellach. dywenydd genyf ddeall fod ei arglwyddiaeth wedi cydsynio a'r cais i gyftenwi text-books priodol yn yr iaith Gymraeg ar y gwahanol adranau penodedig o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Gwelaf fod yr wythfed penderfyniad yn gadael pob deoniaeth at eu rhyddid yn ffurfiad undeb yr athrawon. Diameu y bydd i'r Deon Gwladol yn y ddeoniaeth hen alw cyfarfod i drafod y pwnc ar fyrder. Yn y cyfamser, hwyrach nad anfuddiol fyddai taflu allan awgryoi neu ddau i gnoi cil arnynt. Gwyddom oil nad oes dim yn debyg i'r egwydclor gystadleuol am dynu allan ymadferth- oedd y meddwl ieuanc, ac oni fyddai yn werth i ni roddi prawf arni yngljn ag Undeb yr Ysgolion Sul 'i—Gwydir. Beth amser yn ol cymerwyd i ystyr- iaeth y dymunoldeb o gael organ newTydd i'r Eglwys Gymreig yn Llanrwst, a deall- wyf fod swm sylweddol mewn llaw ar gyfer yr amcan. Pa bryd, tybed, y cymer y brodyr Eglwysyddol wers oddiwrth TT Ymneillduwyr mewn haelioni cyfraniad- ol ? Er yr holl ymdrech ddiweddar i ddiddyledu eu haddoldy, y mae'r cyfeill- ion Wesleyaidd newydd allu codi i'r gwynt i gael organ ysblenydd. Ym- ddengys ei bod o'r fath faintioli fel nas gellir ei chael i mewn yn gyfleus i'r addoldy, ac felly bydd yn rhaid tori drwy y pared, ac adeiladu ystafell arbenig i'r offeryn. Dwg hyn i'm cof amryfusedd yr hen Owain Williams, o'r Waenfawr. Yr oedd yr hen batriarch wedi cael archeb am fuddai gorddi gan y diweddar Hu Gadarn, o Glynog. Gweithiai yr hen gwper doniol yn ei dy, a phan ddaeth- pwyd i ymofyn y fuddai, gwnaed y dar- ganfyddiad ysmala ei bod yn llawer rhy fawr i'w chludo allan drwy y drws a'r canlyniad fu, gorfod tynu ei chylchau, a'i gosod wrth ei gilydd yn yr awyr agored. -Gu,ydir. Coronwyd y gwasanaethau neillduol a gynhaliwyd yn Eglwys Gymraeg St. Nathaniel, Lerpwl, a llwyddiant mawr i bob golwg allanol, a chafwyd pregethau ymarferol a grymus mewn cysylltiad a'r Garawys a'i rwymedigaethau. Nos Fercher, Mawrth 19eg, cynhaliwyd gwas- anaeth Seisnig, a phregethwyd gan y Parch. George Peters ar y Gwedd- newidiad." Cafwyd cynullial da, a phregeth fuddiol ac adeiladol iawn. Boreu y Sul diweddaf, gwasanaethwyd gan y Parch. W. A. Ellis, a chafwyd pre- geth effeithiol ar Ddameg y Pharisead a'r Publican. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. H. Jones, St. Mathias-in-the-Fields, a phregethodd yn dra effeithiol ar y gwinllanwyr di- ffrwyth yn y ddameg. Mae Mr. Jones, er ei fod yn gwasanaethu i'r Saeson, ac o ganlyniad dan gryn anfantais, yn un o'r pregethwyr Cymreig mwyaf pobjogaidd yn y ddinas. Nid yn ami y gwelsom yr eglwys yn llawnach, er fod y tywydd yn hynod anffafriol ac nid oedd hyny yn achos o syndod pan ystyrir y cyhoeddus- rwydd a roddodd Mr. Ellis i'r gwasan- aethau, a'r drafferth a gymerodd i sicr- hau cynulleidfa dda, yn ystod yr wyth- nos. Mae ei holl enaid yn y gwaith, a da genym weled nad yw ei ymdrechion a'i lafurus gariad yn myned yn ofer.
ETHOLIAD AYR.
ETHOLIAD AYR. Dyma ganlyniad yr etholiad uchod :— Somervell (C.) 2690 Routledge (G.). 2480 Mwyafrif i'r Undebwr 130
RHEDEGFA BADAU RHYDYCHAIN…
RHEDEGFA BADAU RHYDYCHAIN A CHAERGRAWNT. Cymerodd y rhedegfa uchod le ddydd Mercher diweddaf, a throdd allan yn fuddugoliaeth i wyr Rhydycliain.
CANLYNIAD MEDDWDOD.
CANLYNIAD MEDDWDOD. Nos Lun, cafwyd corff navvy o dan fwrdd yn Rhif 4, Allen's Row, Blaeny- cwm. Bernir iddo farw oddiwrth ddrwg effeithiau diodydd meddwol. Ni wyddis pwy ydyw.
BWRDEISDREFI ARFON.
BWRDEISDREFI ARFON. Y mae Mr. Ellis Nanney, Gwynfryn, Criccieth, wedi dyfod allan i'r maes fel ymgeisydd Undebol dros Fwrdeisdrefi Caernarfon. Ddydd Iau, anerchodd Mr. Lloyd George, yr ymgeisydd Rhyddfryd- ol, gyfarfod yn Mhwllheli.
DAU HOGYN AR GOLL.
DAU HOGYN AR GOLL. Achoswyd pryder mawr yn Nhrefforest, ddydd Mawrth, gan y newydcl fod dau hogyn—Daniel Warner, 10 mlwydd oed, tR John Harrington, 11 mlwydd oed—wedi ffoi o St..Michael's Home, Trefforest, oddiar ddydd Sul diweddaf. Yr oedd y ddau yn eu hysgol-wTisgoedd, ac y mae yr heddgeidwaid heb eu cael hyd yn hyn. +
WEDI YMpROGI WRTH GANLLAW…
WEDI YMpROGI WRTH GANLLAW Y GRISIAU. Nos Lun, cafwyd Mrs. Jenkins- priod Mr. Matthias Jenkins, o'r Pentre, wedi crogi ei hun wrth ganllaw y grisiau yn z!1 nliy un Mrs. Evans yn Abertawe. Yr oedd y drancedig yn 58 mlwydd oed. N1 wyddis yr achos iddi gyflav/ni y fath weithred. Yr oedd ei gwr a hitliau yn byw yn hapus.
DIENYDDIAD YN NEWGATE.
DIENYDDIAD YN NEWGATE. Foreu ddydd Mercher, yn Newgate, dienyddwyd John Neal, bricklayer, mlwydd oed, yr hwn, mewn eiddigedd, a lofruddiodd ei wraig yn Islington ar y 1 lif o Ionawr. Cerddodd yn ddiysgog at y grogbren, a'i eiriau olaf oeddynt, Y mae yn ddrwg iawn genyf i mi gyflawni y w L, lofruddiaeth, ond gwraig ddrygionus yd- oedd hi." Y mae pump o blant ar ei ol. Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.