Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

24 erthygl ar y dudalen hon

OFN MYNED I WELED Y BAD-REDEGFA.

PRAWF JOHN ROBBINS.

ETHOLIAD WINDSOR.

HUNAN-FODDIAD YN NGHAS-TELLNEDD.

AM CAN DYBLYG Y DEDDFAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AM CAN DYBLYG Y DEDDFAU. Canfyddir fod yr amcan dau-rywiog neu ddyblyg y soniwyd eisoes am dano yn cael ei amlygu hefyd yn ngeiriad rhagymadrodd amry-Ni, o ddeddfau lor- werth y Cyntaf. Yn o.c. 1275, cynhal- iwyd Senedd yn Westminster. HAvyracli y dylid crybAvyll y byddai'r SeneddAvyr yn ymgynull mewn gwahanol fanau yn yr amser gynt. Mewn un man yn awr, ac mewn man arall bryd arall, yn ol fel y byddai amgylchiadau'r wlad yn galw, neu'r brenin yn dewis. Am Senedd Westminster y tro hwn, dywedir i ni bod yr hyn a basiwyd ynddi wedi ei drefnu drwy gydsyniad Archesgobion, Esgob- ion, Priorw-vr, leirll, Barwniaid, a holl Gyffredin y Deyrnas." Sylwer fod yn yr holl ddeddfau hyn Y FLAENORIAETH YN CAEL EI RHODDI I'R EGLWYS, yn debyg i fel y dywedir heddyw-" Yr Eglwys a'r Wladwriaeth." Nid rhyw- beth newydd yw'r syniad hwn. Nid rhywbeth er doe yw'r ymadrodd. Mae enewyllyn gwirionedd yn fynych wedi ei ymgorphori mewn ffurf syml a ddefn- yddir yn ddigon di-feddwl ar lafar gwlad. Felly yma—mae'r egwyddor fawr o'r flaenoriaeth a roddid, a'r Avarogaeth a delid i'r Eglwys gan ein cyn-dadau yn gynwysedig yn gryno yn yr ymadrodd— Yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Dyna geid yn yr hen amserau. Yn y cyfnod sydd dan ein sylw, ie, yn neddfau'r cyfnod hwn cynrychiolwyr yr Eglwys a enwid gyntaf bob amser, ac yna'r mawr- ion gwladol. EnAvid yr Archesgobion a'r Esgobion bob amser o flaen yr leirll a'r Barwniaid. A'r un dull a fabwysiedir gan Senedd ein gwlad hyd y dydd hwn pan y dywedir, Yr arglwyddi ysbrydol a thymorol." Ac yn yr hen amserau hyn yr oedd prif weinidogion yr Eglwys yn fynych yn dal y prif swyddi yn y Llyw- odraeth hefyd. Hwynt-hwy oeddynt y dysgedicaf a'r galluocaf yn eu dycld-ac nid anfynych yr ymddiriedid iddynt zei y swyddi uchaf a phwyscaf o dan y Goron. Hwynt-hwy oeddynt yn blaenori ymhob peth o'r bron yn yr hen amserau. Mewn gair, trwy eu hymdrechion hwy, i raddau pell iawn, y mae ein Llywodraeth heddyw yr hyn ydyw. Y tro hwn, dywedir gan Iorwerth mai yr hyn oedd gancldynt mewn golwg wrth ddeddfu ydoedd "LLES CYFFREDIN YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH," a'r peth cyntaf y deddfir o berthynas iddo ydyw—" Bod cadw a chynal HeddAvch yr Eglwys Sanctaidd a'r Tir." Un peth Eglwysig neillduol yr ymdrinir ag ef, ac y deddfir yn ei gylch ydyw yr arferiad oedd ar gynydd y pryd hwnw o fyned i aros dyddiau bwygilydd yn y Mynach- logydd i ddim yn y byd, ond i bwyso ar y sefydliadau hyny. Felly, trefnir—"nad oes i neb fyned i fwyta a lletya mewn unrhyw Dv Crefydd, oddieithr iddo gael ei wahodd gan Lywodraethwr y Ty cyn ei fyned yno." Yr unig eithriad a wneir yn y peth hwn ydyw a'r Sylfaenydd—ac fe nodir na ddylai'r Sylfaenydd ddim pwyso gormod yno chwaith. Wrth fyned heibio, sylwn fod y trefniad hwn eto yn dangos tarddiad gwirfoddol y gwaddol- iadau, ac mai personau unigol a'u rhodd- asant. Peth arall y deddfir yn ei gylch ydyw cospedigaeth clerigwyr a fyddent euog o droseddau. Gorchymynir ar fod i'r Esgobion weled cospi'r cyfryw u fel na bo angen i'r Brenin ddarparu unrhyw foddion arall at hyn o beth." Yn yr adran hon o'r ddeddf gwelwn gydnabydd- iaeth o satle LLYSOEDD YR ESGOBION fel rhan o gyfundrefn gAveinyddiad barn. Rhoddir yr hawl iddynt i gosbi trosedd- wyr a thrwy hyny dygir eu gweithred- iadau o feAvn eyleh arolygiaeth y Wlad- wriaeth. Yr oeddynt yn sefyll ar yr un tir a'r Llysoedd Gwladol can belled ag yr oedd eu penderfyniadau, dyfarniadau, a'u dedfrydau yn myned. GAveithredai y naill a'r llall dan yr un awdurdod pen- llywodraethol. Derbyniai y naill fel y llall eu gallu gweinyddol o'r un ffynonell Avladol. Ac y mae hanesyddiaeth yn dangos y byddai'r Esgobion ganoedd o flynyddoedd cyn hyn yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r gwaith o edrych fod cyf- iawnder yn cael ei wneyd l'hwng gwr a gAvr, a gweled na b'o i'r di-euog gael cam ond rhaid i mi beidio olrhain hanes y Llysoedd yn aAvr. Fy lie yw dangos pa beth y mae geiriad eglur a di- amwys yr hen ddeddfau yn ei ddweyd. Ac oddiAvrth yr hyn a ddyfynwvd eisoes yr ydys yn canfod yn ainser Iorwerth y Cyntaf yr un peth ag a welwn heddyw, sef—bod prif weinidogion yr EglwYB yn eistedd yn Senedd ein gwlad fod y Senedd hono yn deddfu mewn cysylltiad a materion Eghvysig yn gystal ag ym- drin a phynciau gAvladol a bod y Senedd hefyd yn cydnabod haAvliau arbenig perthynol i'r Eglwys ynglyn a gweinyddiad cyfiaAvnder yn ei Llysoedd neillduol ei hun. Yn y pethau hyn eto yr ydys yn cael nodweddion cysylltiad o'r un natur yn hollol ag a Avelir yn bodoli heddyw. Pan y gall pob un a ddarlleno'r deddfau hyn weled drosto ei hun mor eglur a'r haul ganol dydd fod y cysylltiad chwe' chan' mlynedd yn ol o'r un natur ag ydyw heddyw. onid yw yn rhyfedd fod neb yn ddigon gwyneb- galed a di-egwyddor i haeru byth ac hefyd mai Harri VIII. a gysylltodd yr Eglwys a'r Wladwriaeth ? Dylai'r cyf- ryw wrido a chywilyddio oherwydd eu hymddygiad isehvael yn ceisio creu rhagfarn yn mynAvesau'r dall a'r an- wybodus trwy adrodd wrthynt yr hyn nad yw wir a'r hyn y dylent hwy fel arweinwyr proffesedig y genedl Avybod nad oes rhith gwirionedd ynddo. Yn sicr, nid yw'r deddflyfrau hyn heb fod o fewn eu cyraedd ac fel dynion gonest dylent eu darllen, cyn myned i daenu cabldraeth ar hyd a lied y wlad. Y mae ysbryd ymchwiliad yn dechreu medd- ianu'r wlad a phan, trwy gymeryd addysg, y byddont yn alluog i cliwilio i mewn i'r pethau hyn, yna gwae i'r snvl sydd wedi bod yn eu dallu cyhyd. Daw dydd cyfrif sobr i'w cyfarfod ac y mae lies y wlad yn galw am AvaAvriad buan iddo. Ond i ddychAvelyd at y deddfau. Yn y ddeddf 13 Ed. 1. stat 4, yr hon a basiwyd o.c. 1285, ceir y Brenin yn anfon anerch at Farnwyr y wInd, gan enwi amryAV bethau ag oeddynt i gael eu profi yn y Llysoedd Eghvtfsig. Dywed wrthynt am fod yn wyliadAvrus nkwn cysylltiad ag achosion a berthynent i Esgob Norwich a'i glerigwyr, ac nad oeddynt i'w cospi am gynal pleidebau yn y Llys Cristionogol. Ac mewn perth- ynas i'r achosion Eglwysig eraill y cyf- n Z1- eirir atynt ychwanega-" Yn yr holl achosion rhag-grybAvylledig, y mae gan y Barnwr ysbrydol hawl i'w trafod serch y gwaharddiad brenhinol." Priodol sylwi I yma fod llawer o'r hen ddeddfau hyn ar ffurf tra gwahanol i ddeddfau'r dyddiau presenol. Ceir amryw o honynt ar FFURF CWYNION AC ATEBIOX. Cyfeirir yn gyntaf oil at y cwynion oedd- ynt wedi achlysuro'r deddfu, a rhoddir y deddfwriad ar ffurf atebion i'r achAvynion. Ac eglur yw mai CAvynion Esgob NorAvicli o achos fod rhai o'r Barnwyr gwladol yn ymyryd yn ormodol Z5 a phethau a bertliynent i Lys yr Esgob oedd wedi peri ff urfio'r ddeddf hon. Yr oedd yna wa/iarddiad wedi ei roddi allan i'r perAvyl nad oedd y Llysoedd Eghvysig i A-mdrin a rhai pethau tymhorol, y rhai a ystyrid fel yn pertlivn i gylch sAvydd- ogaeth y barnwr gwladol. Eitlir ym- ddengys fod rhai o'r barnAvyr hyny yn tybied fod y gAvaharddiad yn cyrhaedd r_1 bellach nag ydoedd, ac oherwydd hyn yn myned i gosbi'r Esgob a'i fiAvyddogion am iddynt dchvyn yr achosion i'w profi yn y Llys Eghvysig. Ac er niAvyn ceisio cadAv pob un o feAvn eyIch priodol ei swyddogaeth ei hun, fe bashvyd y ddeddf sydd dan sylw yn aAvr, a'r hon a ehvir yn gyffredin Circumspecte Agatis," oddiwrth ei geiriau cyfeiriol cyntaf. Yn yr hen amserau teimlid ei bod yn anhawdd penderfynu bob amser i ba Lys y perthynai achos, gan y byddai mewn rhan o ansaAvdd grefyddol ac mewn rhan o ansaAvdd Avladol. Ac y mae yr un anliawsder yn d'od i'r golwg b b yn ein dyddiau ninau hefyd megis, lie b'o dyn Avedi ei ddisgyblu gan Lys Eg- lwysig, gall fyned i LAV GAvladol a cheisio iawn am y cam y tybia ei fod wedi ei dderbyll. Hyd yn nod yn amser Iorwerth y Cyntaf, tual' adeg yr unAvyd Lloegr a Cliymru, yr oedd y naill Lys fel y llall yn eiddigeddus o'i awdurdod ei hun fel na cliAvtogid Aim ar ei hawl- b freintiau. A phan gyfodai rhyw ym- ryson pwysicach nag arferol cydrhyng- n ddynt, rhaid fyddai myned at y Bi-enin a'r Senedd i'w benderfynu, ac y mae hyny yn dangos y cysylltiad agos a fod- olai rhwng yr Eglwys a'r WladAvr- iaeth ar y pryd. Felly, y mae o bwys i baAvb golio, er Illwyn gallu dadymchAwl haeriadau'r gwrtliAvynebAvyr, fod y Llys Eghvysig cliAve' chan' mlynedd yn ol yn gystal rhan o'r trefniant gwladAvriaetliol ag ydoedd y Llys GAvladol. Dwy adran oeddynt o un trefniant gAvladwriaethol er gweinyddu cyfiaAvnder i'r deiliaid yn eu holl gysylltiadau gwladol a chrefyddol. r,Y zn Nid peth a ddygwyd i fodolaeth yn amser y DiAvygiad (fel y'i gehvir) yw y Llys Eghvysig. Yr oedd iddo ei le pAvysig yn y WladAvriaeth ar hyd yr oesoedd, ac yr oedd yr awdurdod a feddai yn fyneg eglur o gysylltiad Eg- hvys a G wladAvriaeth.

TRI AR UN ENEDIGAETH.

GWEDDWON AC AMDDIFAID Y LLANERCH.

Y DDEDDF ADDYSG NEWYDD.

LLADDWYD EF WRTH OCHR El DAD.

BYWOLIAETH LLANWONNO.

YSTYRIOLDEB Y TYWYSOG .BISMARCK.

GWOBRWYO GWRONIAID Y MORFA.

ETHOLIAD CAERNARFON.

BYGWTH SYMUD Y BRAWDLYS 0…

TANCHWA Y LLANERCH.

GWNEYD GWLAD PALESTINA YN…

MARW AR YR HEOL.

CORWYNT A CHOLLIAD MIL 0 FYWYDAU…

COSBI HALIER CREULON.

MR. PRITCHARD MORGAN, A.S.,…

OFFRWM DIOLCHGARWCH RHAGOROL.

CYFFRO YMYSG GLOWYR LLOEGR.

SUL Y BLODAU YN A&R^FAN.

CYSYLLTIAD EGLWYS A GWLADWRIAETH…