Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
OFN MYNED I WELED Y BAD-REDEGFA.
OFN MYNED I WELED Y BAD- REDEGFA. Dygwyd labrwr o'r enw Joseph Gardiner gerbron yr ynadon yn Llundain, ar y diwrnod y cymerodd bad-redegfa Rhydychain a Chaergrawnt le, am ei fod yn feddw ac yn cardota yn Notting Hill. Tystiodd yr heddgeidwad i'r carcharor ddweyd fod yn well ganddo gael ei gloi i fyny na myned i'r bad-redegfa a chael deunaw mis o garchariad am ladrata Yr Ynad Plowden (wrth y car- charor) Ewch i'r bad-redegfa, ac na ddeuwch yma eto. (Chwerthin). Rhydd- hawyd y carcharor. "»• .—
PRAWF JOHN ROBBINS.
PRAWF JOHN ROBBINS. Yn Mrawdlys Caerdydd, yr wythnos ddiweddaf, dygwyd y dyn ieuanc John Robbins gerbron y Barnwr Smith i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o ffugio cyfrifon Cymdeithas Adeiladu, a lladrata tua saith mil o bunau. Cyfaddefodd ei fod yn euog, a dedfrydwycl ef i bum mlynedd o alltudiaeth.
ETHOLIAD WINDSOR.
ETHOLIAD WINDSOR. Y mae Maer Windsor, Mr. J. L. Hollis, wedi derbyn rhybudd i ddethol olynydd i Mr. Richardson-Gardner, Ceidwadwr, yr hwn sydd wedi ymneillduo. Yr etholiad i gymeryd lie ddydd Mercher, yr 2il o Ebrill.
HUNAN-FODDIAD YN NGHAS-TELLNEDD.
HUNAN-FODDIAD YN NGHAS- TELLNEDD. Am haner awr wedi un, ddydd Iau diweddaf, cafwyd yn nghamlas Castell- nedd gorff menyw o'r enw Mary Francis, gwedd\v Thomas Francis, ■moulder, .gynt Wr Whit<>. Li on. Inn, Cattle Court. Yiry trenghoiiad, dycli vehvyd y rheithfarn <4 bod wedi bodcli ei hun tra mewn cyfhvr o wallgofrwydd. Gadawodd y drancedig ar ei hoi saith o blant. Yr oeddys wedi sylwi ei bod hi yn dioddef oddiwrth isel- cler ysbryd.
AM CAN DYBLYG Y DEDDFAU.
AM CAN DYBLYG Y DEDDFAU. Canfyddir fod yr amcan dau-rywiog neu ddyblyg y soniwyd eisoes am dano yn cael ei amlygu hefyd yn ngeiriad rhagymadrodd amry-Ni, o ddeddfau lor- werth y Cyntaf. Yn o.c. 1275, cynhal- iwyd Senedd yn Westminster. HAvyracli y dylid crybAvyll y byddai'r SeneddAvyr yn ymgynull mewn gwahanol fanau yn yr amser gynt. Mewn un man yn awr, ac mewn man arall bryd arall, yn ol fel y byddai amgylchiadau'r wlad yn galw, neu'r brenin yn dewis. Am Senedd Westminster y tro hwn, dywedir i ni bod yr hyn a basiwyd ynddi wedi ei drefnu drwy gydsyniad Archesgobion, Esgob- ion, Priorw-vr, leirll, Barwniaid, a holl Gyffredin y Deyrnas." Sylwer fod yn yr holl ddeddfau hyn Y FLAENORIAETH YN CAEL EI RHODDI I'R EGLWYS, yn debyg i fel y dywedir heddyw-" Yr Eglwys a'r Wladwriaeth." Nid rhyw- beth newydd yw'r syniad hwn. Nid rhywbeth er doe yw'r ymadrodd. Mae enewyllyn gwirionedd yn fynych wedi ei ymgorphori mewn ffurf syml a ddefn- yddir yn ddigon di-feddwl ar lafar gwlad. Felly yma—mae'r egwyddor fawr o'r flaenoriaeth a roddid, a'r Avarogaeth a delid i'r Eglwys gan ein cyn-dadau yn gynwysedig yn gryno yn yr ymadrodd— Yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Dyna geid yn yr hen amserau. Yn y cyfnod sydd dan ein sylw, ie, yn neddfau'r cyfnod hwn cynrychiolwyr yr Eglwys a enwid gyntaf bob amser, ac yna'r mawr- ion gwladol. EnAvid yr Archesgobion a'r Esgobion bob amser o flaen yr leirll a'r Barwniaid. A'r un dull a fabwysiedir gan Senedd ein gwlad hyd y dydd hwn pan y dywedir, Yr arglwyddi ysbrydol a thymorol." Ac yn yr hen amserau hyn yr oedd prif weinidogion yr Eglwys yn fynych yn dal y prif swyddi yn y Llyw- odraeth hefyd. Hwynt-hwy oeddynt y dysgedicaf a'r galluocaf yn eu dycld-ac nid anfynych yr ymddiriedid iddynt zei y swyddi uchaf a phwyscaf o dan y Goron. Hwynt-hwy oeddynt yn blaenori ymhob peth o'r bron yn yr hen amserau. Mewn gair, trwy eu hymdrechion hwy, i raddau pell iawn, y mae ein Llywodraeth heddyw yr hyn ydyw. Y tro hwn, dywedir gan Iorwerth mai yr hyn oedd gancldynt mewn golwg wrth ddeddfu ydoedd "LLES CYFFREDIN YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH," a'r peth cyntaf y deddfir o berthynas iddo ydyw—" Bod cadw a chynal HeddAvch yr Eglwys Sanctaidd a'r Tir." Un peth Eglwysig neillduol yr ymdrinir ag ef, ac y deddfir yn ei gylch ydyw yr arferiad oedd ar gynydd y pryd hwnw o fyned i aros dyddiau bwygilydd yn y Mynach- logydd i ddim yn y byd, ond i bwyso ar y sefydliadau hyny. Felly, trefnir—"nad oes i neb fyned i fwyta a lletya mewn unrhyw Dv Crefydd, oddieithr iddo gael ei wahodd gan Lywodraethwr y Ty cyn ei fyned yno." Yr unig eithriad a wneir yn y peth hwn ydyw a'r Sylfaenydd—ac fe nodir na ddylai'r Sylfaenydd ddim pwyso gormod yno chwaith. Wrth fyned heibio, sylwn fod y trefniad hwn eto yn dangos tarddiad gwirfoddol y gwaddol- iadau, ac mai personau unigol a'u rhodd- asant. Peth arall y deddfir yn ei gylch ydyw cospedigaeth clerigwyr a fyddent euog o droseddau. Gorchymynir ar fod i'r Esgobion weled cospi'r cyfryw u fel na bo angen i'r Brenin ddarparu unrhyw foddion arall at hyn o beth." Yn yr adran hon o'r ddeddf gwelwn gydnabydd- iaeth o satle LLYSOEDD YR ESGOBION fel rhan o gyfundrefn gAveinyddiad barn. Rhoddir yr hawl iddynt i gosbi trosedd- wyr a thrwy hyny dygir eu gweithred- iadau o feAvn eyleh arolygiaeth y Wlad- wriaeth. Yr oeddynt yn sefyll ar yr un tir a'r Llysoedd Gwladol can belled ag yr oedd eu penderfyniadau, dyfarniadau, a'u dedfrydau yn myned. GAveithredai y naill a'r llall dan yr un awdurdod pen- llywodraethol. Derbyniai y naill fel y llall eu gallu gweinyddol o'r un ffynonell Avladol. Ac y mae hanesyddiaeth yn dangos y byddai'r Esgobion ganoedd o flynyddoedd cyn hyn yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r gwaith o edrych fod cyf- iawnder yn cael ei wneyd l'hwng gwr a gAvr, a gweled na b'o i'r di-euog gael cam ond rhaid i mi beidio olrhain hanes y Llysoedd yn aAvr. Fy lie yw dangos pa beth y mae geiriad eglur a di- amwys yr hen ddeddfau yn ei ddweyd. Ac oddiAvrth yr hyn a ddyfynwvd eisoes yr ydys yn canfod yn ainser Iorwerth y Cyntaf yr un peth ag a welwn heddyw, sef—bod prif weinidogion yr EglwYB yn eistedd yn Senedd ein gwlad fod y Senedd hono yn deddfu mewn cysylltiad a materion Eghvysig yn gystal ag ym- drin a phynciau gAvladol a bod y Senedd hefyd yn cydnabod haAvliau arbenig perthynol i'r Eglwys ynglyn a gweinyddiad cyfiaAvnder yn ei Llysoedd neillduol ei hun. Yn y pethau hyn eto yr ydys yn cael nodweddion cysylltiad o'r un natur yn hollol ag a Avelir yn bodoli heddyw. Pan y gall pob un a ddarlleno'r deddfau hyn weled drosto ei hun mor eglur a'r haul ganol dydd fod y cysylltiad chwe' chan' mlynedd yn ol o'r un natur ag ydyw heddyw. onid yw yn rhyfedd fod neb yn ddigon gwyneb- galed a di-egwyddor i haeru byth ac hefyd mai Harri VIII. a gysylltodd yr Eglwys a'r Wladwriaeth ? Dylai'r cyf- ryw wrido a chywilyddio oherwydd eu hymddygiad isehvael yn ceisio creu rhagfarn yn mynAvesau'r dall a'r an- wybodus trwy adrodd wrthynt yr hyn nad yw wir a'r hyn y dylent hwy fel arweinwyr proffesedig y genedl Avybod nad oes rhith gwirionedd ynddo. Yn sicr, nid yw'r deddflyfrau hyn heb fod o fewn eu cyraedd ac fel dynion gonest dylent eu darllen, cyn myned i daenu cabldraeth ar hyd a lied y wlad. Y mae ysbryd ymchwiliad yn dechreu medd- ianu'r wlad a phan, trwy gymeryd addysg, y byddont yn alluog i cliwilio i mewn i'r pethau hyn, yna gwae i'r snvl sydd wedi bod yn eu dallu cyhyd. Daw dydd cyfrif sobr i'w cyfarfod ac y mae lies y wlad yn galw am AvaAvriad buan iddo. Ond i ddychAvelyd at y deddfau. Yn y ddeddf 13 Ed. 1. stat 4, yr hon a basiwyd o.c. 1285, ceir y Brenin yn anfon anerch at Farnwyr y wInd, gan enwi amryAV bethau ag oeddynt i gael eu profi yn y Llysoedd Eghvtfsig. Dywed wrthynt am fod yn wyliadAvrus nkwn cysylltiad ag achosion a berthynent i Esgob Norwich a'i glerigwyr, ac nad oeddynt i'w cospi am gynal pleidebau yn y Llys Cristionogol. Ac mewn perth- ynas i'r achosion Eglwysig eraill y cyf- n Z1- eirir atynt ychwanega-" Yn yr holl achosion rhag-grybAvylledig, y mae gan y Barnwr ysbrydol hawl i'w trafod serch y gwaharddiad brenhinol." Priodol sylwi I yma fod llawer o'r hen ddeddfau hyn ar ffurf tra gwahanol i ddeddfau'r dyddiau presenol. Ceir amryw o honynt ar FFURF CWYNION AC ATEBIOX. Cyfeirir yn gyntaf oil at y cwynion oedd- ynt wedi achlysuro'r deddfu, a rhoddir y deddfwriad ar ffurf atebion i'r achAvynion. Ac eglur yw mai CAvynion Esgob NorAvicli o achos fod rhai o'r Barnwyr gwladol yn ymyryd yn ormodol Z5 a phethau a bertliynent i Lys yr Esgob oedd wedi peri ff urfio'r ddeddf hon. Yr oedd yna wa/iarddiad wedi ei roddi allan i'r perAvyl nad oedd y Llysoedd Eghvysig i A-mdrin a rhai pethau tymhorol, y rhai a ystyrid fel yn pertlivn i gylch sAvydd- ogaeth y barnwr gwladol. Eitlir ym- ddengys fod rhai o'r barnAvyr hyny yn tybied fod y gAvaharddiad yn cyrhaedd r_1 bellach nag ydoedd, ac oherwydd hyn yn myned i gosbi'r Esgob a'i fiAvyddogion am iddynt dchvyn yr achosion i'w profi yn y Llys Eghvysig. Ac er niAvyn ceisio cadAv pob un o feAvn eyIch priodol ei swyddogaeth ei hun, fe bashvyd y ddeddf sydd dan sylw yn aAvr, a'r hon a ehvir yn gyffredin Circumspecte Agatis," oddiwrth ei geiriau cyfeiriol cyntaf. Yn yr hen amserau teimlid ei bod yn anhawdd penderfynu bob amser i ba Lys y perthynai achos, gan y byddai mewn rhan o ansaAvdd grefyddol ac mewn rhan o ansaAvdd Avladol. Ac y mae yr un anliawsder yn d'od i'r golwg b b yn ein dyddiau ninau hefyd megis, lie b'o dyn Avedi ei ddisgyblu gan Lys Eg- lwysig, gall fyned i LAV GAvladol a cheisio iawn am y cam y tybia ei fod wedi ei dderbyll. Hyd yn nod yn amser Iorwerth y Cyntaf, tual' adeg yr unAvyd Lloegr a Cliymru, yr oedd y naill Lys fel y llall yn eiddigeddus o'i awdurdod ei hun fel na cliAvtogid Aim ar ei hawl- b freintiau. A phan gyfodai rhyw ym- ryson pwysicach nag arferol cydrhyng- n ddynt, rhaid fyddai myned at y Bi-enin a'r Senedd i'w benderfynu, ac y mae hyny yn dangos y cysylltiad agos a fod- olai rhwng yr Eglwys a'r WladAvr- iaeth ar y pryd. Felly, y mae o bwys i baAvb golio, er Illwyn gallu dadymchAwl haeriadau'r gwrtliAvynebAvyr, fod y Llys Eghvysig cliAve' chan' mlynedd yn ol yn gystal rhan o'r trefniant gwladAvriaetliol ag ydoedd y Llys GAvladol. Dwy adran oeddynt o un trefniant gAvladwriaethol er gweinyddu cyfiaAvnder i'r deiliaid yn eu holl gysylltiadau gwladol a chrefyddol. r,Y zn Nid peth a ddygwyd i fodolaeth yn amser y DiAvygiad (fel y'i gehvir) yw y Llys Eghvysig. Yr oedd iddo ei le pAvysig yn y WladAvriaeth ar hyd yr oesoedd, ac yr oedd yr awdurdod a feddai yn fyneg eglur o gysylltiad Eg- hvys a G wladAvriaeth.
TRI AR UN ENEDIGAETH.
TRI AR UN ENEDIGAETH. Ar y 26ain o Fawrth, rhoddodd Mrs. Murphy, gwraig i ffermwr cyffredin o'r enw John Murphy, o Deburren, gerllaw Newry, enedigaeth i dri o blant-dau fachgen a merch. Mae'r fam a'r plant gystal ag y gellir disgwyl eu bod.
GWEDDWON AC AMDDIFAID Y LLANERCH.
GWEDDWON AC AMDDIFAID Y LLANERCH. Ddydd Iau diweddaf, bu Mr. Owen, Mr. Edwards, a Mr. F. A. Smith, ar ran y Gymdeithas Ddarbodol Barhaol, yn talu oddeutu pum' cant o bunoedd rhwng gweddwon, amddifaid, a pherthynasau yr aelodau a gollasant eu bywydau yn nhanchwa y Llanerch. Yr ydys, erbyn hyn, wedi tala tua deuddeg cant o bunoedd allan o'r gymdeithas hon tuag at y cyfryw. -—; -*■
Y DDEDDF ADDYSG NEWYDD.
Y DDEDDF ADDYSG NEWYDD. Cyhoeddwyd y ddeddf addysg newydd ddydd Gwener diweddaf. Yn lie y bhvydd-daliadau, y mae y ddeddf newydd yn darparu rhodd sefydlog o 12s. Gc. neu 14s., rhodd sefydlog o Is. neu Is. 6c. am ddisgyblaeth neu am fynychu yr ysgolion, heblaw rhoddion ar arholiad mewn pynciau dosbarthol a phenodol, a swllt yr un am waith nodwydd ac am ganu.
LLADDWYD EF WRTH OCHR El DAD.
LLADDWYD EF WRTH OCHR El DAD. iSymerodd damwain druenus le yn Nglofa y Garn Goch, gerllaw Abertawe, yr wythnos ddiwecl.daf. Yr oedd glowr ieuanc o'r enw John Morgan a'i dad yn gweithio mewn "tälcen" pan y syrth-- iodd rhan o'r nenfwd. Arbedodd ytad ei fywyd drwy gilin o'r neilldu i,i- waith, onu lladdwytl y niab yn y fan.
BYWOLIAETH LLANWONNO.
BYWOLIAETH LLANWONNO. Y mae bywoliaeth bwysig Llanwonno wedi cael ei chynyg i'r Parch. Llewelyn Lloyd Davies, M.A., curad Llantrisant, yr hwn sydd wedi ei derbyn. Y mae Mr. Davies yn fab i Mr. H. Davies, Typicca, sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanymddyfri o dan Esgob Llanelwy, ac yn Jesus College, Rhyd- ychain. Graddiodd yn 1885, ar ol pasio arholiadau mewn rhifyddiaeth a duwin- yddiaeth, ac urddwyd ef yr un thvyddyn gan Esgob Llandaf. Mae y fywoliaeth yn werth £315, gyda dwy erw o dir a Ficerdy. 8,998 yw y boblogaeth. Ficer Llantrisant yw ei noddwr. Ceir many lion pellach yr wythnos nesaf.
YSTYRIOLDEB Y TYWYSOG .BISMARCK.
YSTYRIOLDEB Y TYWYSOG BISMARCK. Ymddengys fody Tywysog Bismarck wedi Cydsynio i dderbyn y gradd o Colonel General, ond wedi gwrthod y I- -d teitl o Due Lauenburgh, ynghyd a'r rhodd cysylltiedig ag ef, ar y tir nad yw am ychwanegu y baich sydd ar y treth- dalwyr. Dyna reswm eithriadol gan wlaclweinwyr, ond anrhydeddus iddo ef ei hun.
GWOBRWYO GWRONIAID Y MORFA.
GWOBRWYO GWRONIAID Y MORFA. Brydnawn dydd Iau diweddaf, bu "Morièn" yn ardal y Morfa yn rhanu yr haner can' punt, rhoddedig gan yr Arg- lwyddes Scourfield, Williamston, Haver- fordwest, rhwng y gwroniaid a aethanfc i lawr i'r pwll gorlifiedig i arbed bywydau y ceffylau a'r asyn. Yn ychwanegol at y swm uchod, yr oedd Mr. Gray, yr arol- ygwr, wedi derbyn punt oddiwrth rywun a alwai ei hun "A Young Girl." Felly, yr oedd Morien yn alluog i roddi tair punt yr un i'r 17 canlynol :—Thomas Barras (overman), Maddock (wider-overman), David- Aubrey (fire- nian), George Wellington, John William s, John Evans, Joe Batt, Henry Clatworthy, William Harding, John Francis, Thomas Williams, Samuel Grove, Philip Osborne, Edgar Rosser, Samuel Dorman, John Tossel, a Lewis Rees, yr hwn a weithiodd am 41 o flynyddau yn y lofa. Efe oedd y cyntaf i fyned i lawr i'r pwll ar ol y danchwa, ac a ddygodd oddiyno bump o ddynion yn fyw. ♦-
ETHOLIAD CAERNARFON.
ETHOLIAD CAERNARFON. Danfonodd Mr. Ellis Nanney, yr ym- geisydd Ceidwadol dros Fwrdeisdrefi Arfon, ei anerchiad allan ddydd Iau di- weddaf. Dywed yn bendant ei fod yn erbyn rhoddi Ymreolaeth i'r Iwerddon, ond ei fod o blaid diwygio yr Eglwys, a rhoddi etholfraint deg i les-ddahvyr. Cymer yr etholiad le ddydd Iau, Ebrill y I-Of ed. —-♦-
BYGWTH SYMUD Y BRAWDLYS 0…
BYGWTH SYMUD Y BRAWDLYS 0 GAERDYDD I ABERTAWE. Yn Mrawdlys Morganwg a gynhaliwyd yn y Neuadd Drefol, Caerdydd, ddydd lau diweddaf, dywedodd y Barnwr Smith ei fod wedi teimlo yn anhwylus er pan yr eisteddodd yn y llys; teimlai yn sal oherwydd y di-ewdod anoddefol a ddeuai o'i ystafell breifat y naill ddiwrnod ar ol y llall. Fod y personau oeddynt yn gyfrifol am hyny wedi cael eu rhybuddio yn flaenorol, oblegid pan y bu y Barnwr Grantham yno o'r blaen, clafychwyd ef am ddeng niwrnod ar ol eistedd yn y llys. Gwrthododd ei arglwyddiaeth eistedd yn y llys hwn yn hwy, a dywedodd y byddai yn rhaid symud y Brawdlys i A bertawe, oddieithr y gellir cael He gwell i'w gynal yn Nghaerdydd
TANCHWA Y LLANERCH.
TANCHWA Y LLANERCH. Daeth ymchwiliad y crwner i achos y danchwa uchod i derfyniad yn Mhonty- pwl ar y 26ain o Fawrth. Cafodd y rheithwyr fod y ffrwydriad wedi digwydd yn Slope Cook, yn nhalcen Rhif 4, mewn canlyniad i gronfa o nwy ruthro allan, ond nis gallent ddweyd yn sicr sut y ey- inerodd y taniad le. Cawsant hefyd nad oedd gan y perclienogion a'r gweithwyr un rheswm i gredu ei bod yn beryglus i weitliio a goleu noeth yn y pwll, ac nas gellid beio neb am yr hyn a ddigwyddodd. Yn y dyfodol, barnent y byddai yn well defnyddio llusernau cloedig.
GWNEYD GWLAD PALESTINA YN…
GWNEYD GWLAD PALESTINA YN ARDDANGOSFA FAWR. Dywed golygydd y Catholic Times fel y canlyn Mae yn ymddangos fod ein cefnderwyr Americanaidd am droi y Tir Sanctaidd yn un arddangofa fawr. Dy- wedir fod rhai o ddineswyr Massachusetts yn ffurfio cwmni er cael cledrffordd trwy Galilea i holl brif drefydd Palestina. Yr ydym yn gobeithio y bydd i'r T-NNre roddi terfyn ar y cynllun hwn ond gofidus yw ineddAvl fod yn rhaid i'r Pabyddion edrych at eu gelynion hynafol er cadw y lleoedd sanctaidd rhag yr hyn a fvdd yn halogiad. Os ceir cledrffyrdd, ceir heid- ceir iau o deithwyr dibarch a gwawdlyd yn gAvneuthur pererindod trwy feusydd a phentrefydd, a AvnaethpAvyd yn gysegr- edigr gan draed y G waredwr, yn orchest o'r fath boenusaf. Mae pethau yn ddigoll drwg fel y inaent, fel y gwyr pob teithiwr fu yn Palestina ond mae y meddyl- ddrych o Nazareth and Jerusalem Rail- way Company (Limited)' yn ein taro fel rhywbeth tra anweddaidd ac echryslaAvn."
MARW AR YR HEOL.
MARW AR YR HEOL. Tua chwech o'r gloch, foreu dydd Gwener dhveddaf, bu Thomas Oliver, labrwr, 53 mhvydd oed, farw ar yr heol yn Mountain Ash wrth fyned at ei waith. Dolur y galon achosodd ei farwolaeth.
CORWYNT A CHOLLIAD MIL 0 FYWYDAU…
CORWYNT A CHOLLIAD MIL 0 FYWYDAU YN AMERICA. Pellebrwyd newydd drwg iawn o New York ddydd Gwener diweddaf, sef fod corwynt tra dinystriol wedi ymweled a Dyffryn Ohio. Louisville ddyoddefodd fwyaf oddiwrtho. Dinystriwyd o ddau i dri chant o dai yno, ac hyrddiwyd gor- saf y rheilffordd yn gorfforol i afon ruadol Ohio. Drylliwyd neuadd y ddinas, a lladdwyd tua thri chant o bobl oeddynt yn dawnsio yn yr adeilad. Yn Louisville yn unig, collwyd tuag wyth cant o fywydau.
COSBI HALIER CREULON.
COSBI HALIER CREULON. Gwysiwyd Thomas Powell, halier, ger bron ynadon Abercarn, ddydd Gwener diweddaf, ar y cyhuddiad ei fod wedi camdrin ceffyl yn Nglofa Risca Ddeheuol. Ciciodd yr anifail a'i esgidiau hoelion maAvrion, a tharawodd ef amryw weith- iau ar ei ben a sprag tair neu bedair troedfedd o hyd a phump neu cliAvech modfedd o drweh. Cyffesodd y eareharor ei fod yn euog. Dirwywyd ef i'r swm o ddwy bunt, neu oddef caledwaith y carchar am bedwar diAvrnod ar ddeg. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhybudd i ereill.
MR. PRITCHARD MORGAN, A.S.,…
MR. PRITCHARD MORGAN, A.S., AC ADNODDAU CYMRU. Yr wythnos ddiweddaf, ysgrifenodd seneddAvr ieuengaf Bwrdeisdref Merthyr Tydfil at Arglwydd Salisbury, yn ewyno ei fod yn cael ei lyffetheirio yn ei ym- drechion i ddadblygu adnocldHu ei wIad. euediglll ga-u ymdds'gidiw y tuag ato. Derbyniodd Mr. Morgan ateb- iad oddiwrth ei arglwyddiaeth yn dat- gan analluogrAvydd i ymyryd a gweith- rediadau y llysoedd cyfreithiol, ond addawodd wneyd ymchwiliad i'r mater. Hefyd, dyAvedodd ei arglwyddiaeth ei bod yn ddrwg iawn ganddo fod Mr. Pritchard Morgan wedi gorfod gwario cymaint o arian er dadblygu adnoddau y wlad, ond nad oedd ef o'r farn fod yr Attorney- General yn gyfrifol am hyny.
OFFRWM DIOLCHGARWCH RHAGOROL.
OFFRWM DIOLCHGARWCH RHAGOROL. Ymddengys fod yr Arghvyddes Howard de Walden yn ddiweddar wedi bod mor Avael fel yr anobeithiodd am dani ei hun, ac yr anobeithiodd eraill hefyd am dani. Yn aAvr y mae wedi llwyr wellhau, a chan gymaint ei llawen- ydd am ei hadferiad, y mae wedi mynegi ei bwriad i Avaddoli ward yn Ysbytty West Kent yn Maidstone, ar y draul o ddeg i ddeuddeg mil o bunau, fel offrwm diolchgarAvch am adferiad ei hiechyd. Y mae hefyd wedi mynegi ei bwriad i waddoli curadiaeth yn Eglwys St. Phillip, Maidstone.
CYFFRO YMYSG GLOWYR LLOEGR.
CYFFRO YMYSG GLOWYR LLOEGR. Mae y cynygiad i ganiatau bwrdd i reoli cyflogau y glowyr wedi peri anfodd- lonrwydd maAvr i'r glowyr yn siroedd Stafford a Worcester. Ar y 24ain o Fawrth, gwrthododd rhyw dair mil 6 honynt fyned at eu gwaith, a chynhal- iwyd ganddynt gwrdd yn yr awyr agored, yn yr hwn y pasiAvyd penderfyn- iad i'r perwyl eu bod yn gwrthod y bwrdd cynygiedig, ac i uno a'r mudiad cenedlaethol trwy ofyn i'w meistri dderbyn rhybudd o 14 diwrnod o'r 22ain o Fawrth.
SUL Y BLODAU YN A&R^FAN.
SUL Y BLODAU YN A&R^FAN. TUA DEUDDEG CANT0 WIRFODDOLWYK YN Y GLADDFA GYHOEDDUS. Yr oedd dydd Sul diweddaf yn deli wr- nod a hir gofir yn Merthyr Vale. Heblaw ei bod yn Sul y Blodau, yr oedd yno atdyniad arall na chafwyd ei gySelyb-yn un man arall yn Ngliymru ar yr adeg hon. Ar y diwrnod hwn y dadlenwyd y golofn goffadAvriaetlxol a adeiladAvyd yn Nghladdfa Gyhoeddus Aberfan, uAvchben beddau y saith Gwirfoddolwr a foddas- ant tra allan mewn bad yn agos i Laver- nock, lie yr oedd y 3ydd Battaliwn o'r Gatrawd Wirfoddol Gymreig yn gwersyllu, ar y laf o AAVst, 1888. Heblaw y miloedd yniAvelAvyr a ddaethant i ardal fechan Aberfan o bob cyfeiriad ar yr achlysur hwn, yr oedd yno tua deuddeg cant o Wirfoddohvyr Morgamvg yn eu gwi&g- oedd inilwrol, ac yr oedd yr olygfa yn faAvreddog a difrifol i'r eithaf. Mewll gwirionedd, yr oedd Aberfan fechan, foel, a dystaw, wedi ei thraAVsffurfio yn un goedwig annhreiddiol ac amrliw o fodau dynol. Da genym hysbysu fod y torfeydd hyn wedi ymddwyn yn wedd- aidd ac ystyriol. Y mae y golofn goffad- wriaethol, yr hon a gostiodd Y,110, yn gyfansoddedig o gareg Radyr, ar ba un y gorwedd gronynfaen (granite) Aberdeen. Ar hwnw y mae bloc o gareg Quarella ag sydd yn pwyso pum' tunell, ac wedi ei dori a'i naddu mor gywrain fel y mae yn edrych yn debyg i graig serth ac ysgythrog. Y mae ar ei wyneb lun tarian o farmor gwyn, yr hwn sydd yn cynAvys enwau ac oedranau y trancedig- ion, ac y mae y gweddill o'r arysgiifeii ar y gareg nesaf i fyny. Ar ben y cwbl y mae tri rhychddryll o bronze parhaus, y rhai sydd wedi eu gosod i orphwys yn erbyn eu gilydd yn unol a'r drefn filwr- aidd. Y mae yr oil wedi eu hamgau tu fewn i reiliau haiarn cryf a hardd. Cariwyd allan y gwaith godidog hwn gan y Meistri Corfield a Morgan, Caerdydd, oddiwrth gynlluniau ac o dan arolygiad yr Is-gadben C. B. Fowler, Llandaf. Yn canlyn wele enwau ac oedranau y tranc- edigion :—Willie Colston, 20; Henry Brown, 18; James Simons, 18; Pryce James Potter, 18 Thomas Hughes, 18 John W. Webber, 17 a John Frederick James, 17. Dadlenwyd y golofn, yn ab- senoldeb y MilAArriad Cresswell, yr hwn oedd yn anhwylus, gan yr Is-fihvriad Lewis, Merthyr Tydfil. Yr oedd y gwas- anaeth yn y gladdfa yn dra difrifol. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. C. J. Thomson, ficer St. John's, Caerdydd, y caplan hynaf, a chan Reithor Merthyr, y rhai a wnaethant eu rhan yn ganmoladwy iawn. Un o'r golygfeydd mwyaf difrifol a chalon-gyffyrddol oedd gAveled cor o fechgyn o Eglwys St. Dewi, Merthyr, o dan arweiniad Mr. B. R. S. Frost, oil yn eu gAvisgoedd gwynion, yn cerdded yn araf at lan y bedd dan ganu yn deimladol. Hefyd, gAvasanaethodd seindorf bres perthynol i'r gatrawd ar yr adeg hon yn y gladdfa. Terfynodd y '/■whi. mor Aved.(\Aidd ag y gellid dysg-wyl. v u (A-Lid ya dd;vmod feafaidd hyfryd, yr hyn, yn ddiau, a dynodd mwy o yi-tiwel- wyr i'r ardal nag y dysgwylid.
CYSYLLTIAD EGLWYS A GWLADWRIAETH…
CYSYLLTIAD EGLWYS A GWLADWR- IAETH YN OL HEN DDEDDFAU'R WLAD. GAN Y PARCH. T. EDAVABD8 (GWYNEDD). LLYTHYR II. Prawf arall o agosrAvydd y cysylltiad rhwng Eglwys a gwladwriaeth a roddir i ni yn ystod deddfwriaeth Harri 3 ydyw bod y Brenin a'r Mawrion gwladol yn ceisio ac yn cael, neu'n gofyn ac yn derbyn CYNORTHWY AWDURDODODD YR EGLWYS er mwyn cael gan y deiliaid gadw eyf- reithiau'r tir. Yn Neuadd Fawr West- minster, ar y trydydt o Fai o.c. 1254, yn mhresenoldeb y Brenin, a llawer o fawr- ion eraill, a chyda'u cydsyniad hwy oil, darfu i Boniface, Archesgob Caergaint, ynghyd a deuddeg o esgobion eraill, ddatgan cylioeddiad pwysig o ysgymun- dod ac anathema ar bob rhyw ddyn a droseddai unrhyw adran o'r Ddwy Frein- len a gynwysent seiliau rhyddicl gwlacl ac Eglwys, a hawlfreintiau'r deiliaid, lien a lleyg. EnAvau'r ddwy Freinlen ydynt— Y Freinlen Fawr, a Breinlen y Goedwig. Y tro yma, gwelir y Brenin a'r Llywodr- aethwyr gwladol eraill, yn gwneyd defn- ydd o ddylan-Nvad ma-Nvr yr Eglwys mewn modd arbenig, a dull rliAvysgfaAvr, ff urfiol, a swvddogol, er mwyn argraphu ar drig- p zn olion y wlad oil y pwysigrwydd o barchu'r deddfau eglwysig a gwladol, a'u cadAv yn gyfan a digoll. Ac yn y Aveithred hon nodir yn arbenig y neb a faleisus amddi- fadai'r eglwysi, neu a'u hysbeiliai o'u hiawnderau; yn enwedigio hen arferiadau neu ddefion canmoladAvy y deyrnas a ganiatesid i'r Eglwysi yn mreinlen ein rhyddid eyffredin, neu freinlen y Goed- wig. Cofier hefyd nad yw'r Archesgob a'r Esgobion yn y weithred hon ddim yn cvfeirio o gwbl at awdurdod Esgob Rhufain. Nid oes yma gymaint a son ain ei enAV. Fel prif Aveinidogion Eghvys Loegr, ar eu haAvdurdod annibynol eu hunain yr oeddynt yn gweithreclu.