Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Y PASG.—ADGYFODIAD CRIST.

YR UNDEB EGLWYSIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR UNDEB EGLWYSIG. YR HYN YDYW, YR HYN A WNA, A PHAHAM Y DYLEM YMUNO AG EF. Deng mlynedd ar hugain yn ol, ymffurfiodd oddeutu ugain o Eglwyswyr yn gymdeithas, yr lion a alwyd ganddynt yn Gymdeithas Am- ddiffynol Eglwys Loegr," ac ar yr ail ddydd o Fai, 1860, pan gynhaliodd y gymdeithas hon ei gwyl flynyddol gyntaf, a phan y rhifai 210 o aelodau, fe fabwysiadodd yr enw Undeb Eg- lwysig Lloegr," yr hwn a wisga byth er hyny. O'r dechreuad dinod yna y mae'r Undeb wedi parhau i gynyddu yn raddol, nes y rhifa erbyn .Y hyn uwchlaw 29,575 o aelodau, y rhai sydd yn gymunwyr yn yr Eglwys. Yn ystod y 31ain mlynedd hyn y mae yr tJndeb wedi gwneyd gwaith mawr dros Dduw a thros ei Eglwys. Y mae wedi gwrthsefyll ym- osodiadau ar y Beibl a'r Llyfr Gweddi, Credo St. Athanasius, y Cymun Bendigaid, a Deddfau Priodas. Y mae wedi ymladd o blaid cadwraeth lthyddid Henafol a Chyfansoddiadol Eglwys Loegr, ac y mae yn dadleu ei hawl i benderfynu ei materion ysbrydol mewn Cynghorau a Chyn- adleddau, ac mewn Llysoedd Ysbrydol o'i phen- adiad ei hun, yn hytrach na bod i'r achosion hyn gael eu penderfynu drosti gan y Senedd, neu Lysoedd Gwladol, i'r rhai nid oes iddynt ddim ond awdurdod a chyfansoddiad Seneddol yn unig. Y mae wedi cynorthwyo offeiriaid i wrthsefyll ymosodiadau oddiallan, am iddynt, gyda chydsyniad cyffredinol eu cynulleidfaoedd, adferu Defodaeth y Llyfr Gweddi, ac ail sefydlu (i prydferthwch sancteiddrwydd yn yr addoliad cyhoeddus. Y mae yn rhoddi cyfieusdra i'r lleygwyr i ym- arfer eu dylanwad yn mhenderfyniad yr holl achosion fydd yn dal perthynas a llesiant yr Eg- lwys. Ni fydd aelodau yr Undeb hwn byth yn erlyn nac yn ymyraeth a phersonau eraill sydd ddim yn digwydd cydolygu a hwy ar y pwnc o addoliad cyhoeddus. Y maent hwy yn gweith- redu oddiar yr egwyddor fawr, Amddiffyniad, ac nid ymosodiad; Anogaeth, ac nid erledigaeth." Y mae yr Undeb yn cyfrif ymysg ei aelodau 17 esgobion, a 5,200 o Offeiriaid a Diaconiaid. lthiLt aelodau lleygol yr Undeb 20,i!58, ac y niaent oil yn gymunwyr, oherwydd ni dderbynir ond cymunwyr yn aelodau. A ydych chwi yn caru yr Eglwys, ac yn dymuno ei llwyddiant? Os ydych, ymunwch Undeb hwn. 1 A ydych yn dymuno rhoddi c6fnogaeth i ni i amddiffyn Athrawiaeth a Disgyblaeth yr Eg- .Y hvys ? Deuwch yn aelod o'r Undeb. A ydych chwi yn derbyn athrawiaeth yr Eg- lwys ar y Credoau a'r Sacramentau ? Yna ym- nowch a'r Undeb Eglwysig. Os ydych yn aelod eisioes, cymhellwch eich cyd-gymunwyr, yn ddynion a merched, i ymuno. Byddwch mor weithgar ac ymroddgar i amddi- ffyn iawnderau eich Eglwys ag y mae eraill wrth ymosod arnynt. Dymunwch heddwch Jerusalem llwydded y rhai a'th hoffant. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mrodyr a'ni cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti. Er mwyn ty'r Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni." Er gallu ymuuno a'r Undeb, yr oil sydd yn angenrheidiol ydyw arwyddo Ffurf Derbyniad, a chael dau aelod, un i'ch cynyg a'r Ilall li'eh cefnogi, ac yna talu eich tanysgrifiad, yr hwn sydd yn amrywio o 10s. 6c. i 2s. Gc. Gellir bod yn aelod cyffredin drwy dalu Is. neu Gc. yn flyn- yddol heb arwyddo unrhyw ffurf. Am yehwaneg o wybodaeth ymofyner a'i Lt.- ol. J. E. Hardy, 35, Wellington Street, Strand, Llundain, W.C.

[No title]

Y PARCH. R. JONES, M.A.

LLEYN.

DYRNOD I DIR-FEDDIANWYR Y…

[No title]

LLITH 0'B, BWTHYN GWLEDIG.

I NODIADAU SENEDDOL.

LLANLLWNI.

ANFOESOLDEB MON.

[No title]

DYDD GWENER Y GROGLITH.