Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Y PASG.—ADGYFODIAD CRIST.

YR UNDEB EGLWYSIG.

[No title]

Y PARCH. R. JONES, M.A.

LLEYN.

DYRNOD I DIR-FEDDIANWYR Y…

[No title]

LLITH 0'B, BWTHYN GWLEDIG.

I NODIADAU SENEDDOL.

LLANLLWNI.

ANFOESOLDEB MON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ANFOESOLDEB MON. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Y mae yn ffaith alarus fod y pechod o odineb ac anlladrwydd yn uchel iawn ei ben yn Mon, mam Cymru y dyddiau hyn, ac ofni yr ydwyf ei fod ar gynydd, ac am hyny "angenrhaid a osodwyd arnaf" i alw sylw gweinidogion yr Efengyl, blaenoriaid yr Eg- lwysi Ymneillduol, a phawb o bob gradd a sefyllfa sydd ganddynt ryw ddylanwad ar en cyd-ddynion, i godi eu Ilef yn erbyn pechod sydd yn bwyta ein nerth moesol yn y dyddiau yma. Onid ydyw yn resynus meddwl, mown gwlad mor uchel o freintiau, "gwlad y Beiblau," gwlad yr Ysgolion Sul," a gwlad lie y mae'r Efengyl wedi bod yn cael ei phregethu gan rai o ragorolion y ddaear am ganoedd o flynydd- oedd, fod y pechod gwarthus o odineb yn ffynu ymhob plwyf yn M6n. Y mae yn ddiameu fod hyn i'w briodoli i raddau i'r dull arferedig gan bobl ieuainc o ymgyfeillachu ymhlith y dos- barth o weision a morwynion ffermwyr. Pa hyd y goddefir hyn gan ffermwyr a phenau teuluoedd Môn? Y mae hyn yn ysmotyn du ar ein cymeriad, a goreu po gyntaf i ni yoaysgwyd o'n cysgadrwydd mewu cysyllt- iad ag ef, onide ni a fyddwn, os nad ydym eisoes. yn destyn gwawd i holl geiihedloedd gwareiddiedig y byd adnabyddis. Ai gormod gofyn i'r Bwrdd Sirol roddi eu cynorthwy i roddi i lawr yr hen arferiad lygredig yma ? Byddai hyn yn adlewyrcliu mwy o glod arnynt na llunio bai lie na bydd," fel y gwnaethant ychydig amser yn ol, pan yn dwrdio yr hedd- geidwaid am gyflawni y dyledswyddau gor- phwysedig arnynt.—Yr eiddoch, &c., DEWI.

[No title]

DYDD GWENER Y GROGLITH.