Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Y PASG.—ADGYFODIAD CRIST.

YR UNDEB EGLWYSIG.

[No title]

Y PARCH. R. JONES, M.A.

LLEYN.

DYRNOD I DIR-FEDDIANWYR Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYRNOD I DIR-FEDDIANWYR Y DEHEUDIR. Yn nghyfarfod blynyddol Trysorfa Ddarbodol Barhaol y Glowyr a gynal- iwyd yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd Syr W. T. Lewis, Aberdar, ddyrnod haeddianol drom i dir-feddianwyr Mor- ganwg a Mynwy am nad oeddynt wedi rhoddi y cynorthwy a ddylasent i'r gyf- ryw drysorfa. Y mae y drysorfa mewn bodolaeth er's naw mlynedd, a derbyn- iodd yn agos i £ 200,000 yn ystod yr amser hwnw. Y gweithwyr danysgrif- iasant bedair rhan o bump o'r swm yna, a'u meistri y burned rhan. Yn yr un cyfnod, yr oedd y tir-feddianwyr, y rhai sydd yn 166 o nifer, wedi derbyn oddi- wrth y maesydd glo hyn ddim llai na saith miliwn o bunau mewn royalties ar y glo, ac nid ydynt wedi cyfranu ond tua phedair mil o bunau o'r swm anferthol yna tuag at y drysorfa a gychwynasid er estyn cynorthwy i weddwon ac amddif- aid yr aelodau darbodus a gollasant eu bywydau yn y glofeydd Beth feddylia ein glowyr am Syr William yn rhoddi y fath ddyrnod o'u hochr ?

[No title]

LLITH 0'B, BWTHYN GWLEDIG.

I NODIADAU SENEDDOL.

LLANLLWNI.

ANFOESOLDEB MON.

[No title]

DYDD GWENER Y GROGLITH.