Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL Y GOGLEDD. Yr wythnos ddiweddaf ymosoda y Faner, mewn erthygl faith, bedair colofn, ar Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd. Mae cryn anghydwelediad rhwng n Cynsrrair Rhyddfrydol y Gogledd er's misoedd a Golygydd y Fetner ynghylch y dull priodol i wrthwynebu talu degwm. Ceir hanes y dcladl o ochr y Cyngrair yn yr Oswestry Advertiser yr wythnos ddi- weddaf. Hyd y gallaf ddeall y ddadl, ar ol darllen y ddwy ochr, y mae y Cyngrair fel Dr. Pan Jones, yn methu gweled egwyddor foesol yn nghydwybod dau swllt yn y bunt. O'r ochr arall, y mae Golygydd y Faner yn glynu yn dyn wrth latent y gydwybod ffasiwn newydd a ddarganfyddwyd ganddo er dial ar yr Eglwys, a llwgrwobrwyo ffermwyr ar yr un ergyd. Fel y nodais yr wythnos o'r blaen, prif nodwedd Golygydd y Faner yw ffydd gadarn yn ei anffaeledigrwydd ei hun. Y mae bob amser yn berffaith sicr ei fod ef yn iawn, yn hollol iawn, ar bob pwnc, fach a mawr, y gafael ynddo. Mae rhyw ddrwg, yn mhen, neu galon, neu asgwrn cefn pawb a feiddia wrth- wynebu dedfryd y Faner ar unrhyw fater. Ac fellj, megis y cyhoeddwyd ar fyr seremoni Dr. Pan Jones yn freudd- wydiwr, cyhoeddir yn awr fod "afiechyd mawr" ar Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd, ac aiff Golygydd y, Faner ymlaen, fel meddyg penderfynol, i roddi iddynt yr hyn a eilw yn driagl." Gan fod Mr. Humphrey Owen, Cadeirydd y Cyngrair, yn ymgeisydd Rhyddfrydol am sedd bwrcleisdrefi Dinbych, rhaid fod hunanoldeb Mr. Gee yn anferth o gryf pan y triagla" mor ddidrugaredd Gyngrair ei ddewis-ddyn ei hun. Ceir gweled cyn hir sut y gweithia y "triagl" ar influenza Cyngrair y Gogledd.

NYTH YR ERYR.

PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU.

AMRYWION.

CAERFYRDDIN.

MERTHYR CYNOG.

ABERHONDDU.

GLYNCEIRIOG.

[No title]

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst

[No title]

Advertising

AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG."

YR AELODAU CYMREIG YN NADL…

YMREOLAETH I GYMRU.

[No title]

ABERDAR.

IABERAMAN.

LLANGOLLEN,

LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN.

GARTHBRENGY,