Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL…
Y "FANER" A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL Y GOGLEDD. Yr wythnos ddiweddaf ymosoda y Faner, mewn erthygl faith, bedair colofn, ar Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd. Mae cryn anghydwelediad rhwng n Cynsrrair Rhyddfrydol y Gogledd er's misoedd a Golygydd y Fetner ynghylch y dull priodol i wrthwynebu talu degwm. Ceir hanes y dcladl o ochr y Cyngrair yn yr Oswestry Advertiser yr wythnos ddi- weddaf. Hyd y gallaf ddeall y ddadl, ar ol darllen y ddwy ochr, y mae y Cyngrair fel Dr. Pan Jones, yn methu gweled egwyddor foesol yn nghydwybod dau swllt yn y bunt. O'r ochr arall, y mae Golygydd y Faner yn glynu yn dyn wrth latent y gydwybod ffasiwn newydd a ddarganfyddwyd ganddo er dial ar yr Eglwys, a llwgrwobrwyo ffermwyr ar yr un ergyd. Fel y nodais yr wythnos o'r blaen, prif nodwedd Golygydd y Faner yw ffydd gadarn yn ei anffaeledigrwydd ei hun. Y mae bob amser yn berffaith sicr ei fod ef yn iawn, yn hollol iawn, ar bob pwnc, fach a mawr, y gafael ynddo. Mae rhyw ddrwg, yn mhen, neu galon, neu asgwrn cefn pawb a feiddia wrth- wynebu dedfryd y Faner ar unrhyw fater. Ac fellj, megis y cyhoeddwyd ar fyr seremoni Dr. Pan Jones yn freudd- wydiwr, cyhoeddir yn awr fod "afiechyd mawr" ar Gyngrair Rhyddfrydol y Gogledd, ac aiff Golygydd y, Faner ymlaen, fel meddyg penderfynol, i roddi iddynt yr hyn a eilw yn driagl." Gan fod Mr. Humphrey Owen, Cadeirydd y Cyngrair, yn ymgeisydd Rhyddfrydol am sedd bwrcleisdrefi Dinbych, rhaid fod hunanoldeb Mr. Gee yn anferth o gryf pan y triagla" mor ddidrugaredd Gyngrair ei ddewis-ddyn ei hun. Ceir gweled cyn hir sut y gweithia y "triagl" ar influenza Cyngrair y Gogledd.
NYTH YR ERYR.
NYTH YR ERYR. Yn awr yw amser chwilio am nythod adar, ac" felly tueddir fi i wneyd sylw neu ddau ar nyth yr aderyn rhyfedd hwnw a freuddwydiodd, rywfodd, ei fod yn eryr. Gan nact esgyn byth fodfedd uwchlaw y llaid, dan grawcian, buasai pob enw yn gweddu yn well iddo nag eryr. Ond os nad all y brawd hwn ymgodi uwchlaw y llaid, mae yr enw ddewisodd arno ei hun yn dangos, efallai, nad yw yn hollol wrth ei fodd yn y llaid yn ymdrybaeddu mor ddiwyd ynddo. Ni raid chwilio llawer am nyth hwn. Y mae yn amlwg yn y Faner ar hyd y blynyddoedd diweddaf, a thebyg, wrth y lloches a'r parch a roddir iddo, fod yr Eryr yn fawr ei fri yn ngolwg y Golygydd, a rhai o'i ddarllen- wyr. Ni wn ddim yn bersonol am yr Eryr." Nid oes a fynof ond a'i ysgrifau. Am y rhai hyn dywedaf yn ddibetrus, nad argraff wyd yn y Wasg Gymreig erioed gyfres o ysgrifau mor ddi-chwaeth, na mor ddi-ddawn. Nid wyf am wneyd fy hun yn oracl fel Golygydd y Faner, ond yr wyf yn lied hyddysg yn hanes y Wasg Gymreig, a heriaf neb i enwi, mewn un newyddiadur, gyfres o ysgrifau mor ddi- chwaeth a di-ddawn ag ysgrifau Nyth yr Eryr" yn y Faner. Mae yn bryd siarad yn blaen ar ddull mor fudr o fagu rhagfarn yn erbyn yr Eglwys. Y mae yr enwadau Ymneillduol yn ferwdrwyddynt ynghylch Siluriad." Ond gwasgwyd y glust yn dawel a boddlawn, crechwenwyd yn lion mewn llawer cornel, pan oedd Nyth yr Eryr yn cael mawr rwysg yn y Faner i gablu yr Eglwys. Y mae "Siluriad'' yn goeth ac addfwyn, a thirion ei ysbryd, o'i gydmaru a'r Eryr nwyd- wyllt a di-dalent hwn. Enillodd y Faner ei safle trwy ysgrifeniadau dynion galluog fel y diweddar Gwilym Hiraethog, y "Gohebydd" athrylithgar, ac 1. D. Ffraid, ac, er mwyn tegwch, ychwanegaf y Golygydd, gan nad pa mor hunanol a thrahaus y mae wedi myned y blynydd- oedd diweddaf yma. Mor fawr y gagen- dor rhwng Y Gohebydd boneddigaidd a bustl bawaidd yr Eryr." Nid fy musnes i yw cynghori Golygydd y Faner ynghylch ei bapyr. Ond os na dclrewa Nyth yr Eryr yn ffroenau darllenwyr y Faner, y mae chwaeth lenyddol y to presenol yn Nghymru yn resynus o isel. Lol a rhagrith yw hela, trwy Ddehau a Gogledd, ar ol Siluriad, a gadael llonydd i gyfres o ysgrifau fel eiddo Nyth yr Eryr." Naturiol i'r wlad gasglu nad zel dros undeb beirniadaeth y Wasg Gymreig, ond zel dros eu cwyn eu hunain sydd yn cynhyrfu erlidwyr Siluriad."
PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU.
PROFFESWR HENRY JONES AR GYMRU. Gwelais yn y papyrau ddetholion o draethawd Proffeswr Henry Jones, 0 Fangor, ar Gymru. Mae genyf bob parch i'r Proffeswr Jones, Mae ei alluoedd yn amlwg, a'i wladgarwch yn ddiledryw. Ei amcan yw dyrchafu ei wlad, Ond cyn darllen ei lyfr, temtir fi gan y detholion a welais o hono i wneyd un sylw, Yni- ddengys fod y Proffeswr-os nad wyf wedi camddeall—yn drwm iawn ar was- etdd-dra y Cymry. Ei sail yw hyn :—Y mae wedi cael allan i'w foddlonrwydd ei hun-nis gwn pa fodd, hwyrach fod goleuni ar weledigaeth rifyddol y Pro- ffeswr yn y llyfr—fod hyn a hyn o Ryddfrydwyr yn Nghymru. Yna rhifa Mr. Jones nifer y pleiclleiswyr. Rhydd- frydol, a chaiff nad yw llu o'r rhai sydd, yn ol ei farn ef, yn Rhyddfrydwyr, wedi pleidleisio dros Ryddfrydwyr. Amlwg fod rhyw ddrwg yn y caws. Yf achos o hyn, medd y Proffeswr, ydyw gwaseidd- dra. Yn sicr, y mae Proffeswr Jones yn athronydd gyda'r blaenaf o'i oedran yn y deyrnas. Gwyr yn dda y dichon fod mwy nag un achos i ffaith, Rhyfedd 11a buasai yn ameu mai efe, feallai, sydd heb weled- igaeth eglur ar nifer Rhyddfrydwyr Cymru, yn lie penderfynu yn syth mai gwaseidd-dra y llu mawr o Ryddfrydwyr dychymygol na phleidleisiasaut dros! Ryddfrydwr. Byddaf yn sylwi yn fyn- ych fod y Wasg Radicalaidd yn N ghymru yn dra pharod i gyhuddo eu cydwladwyr o waseidd-dra. Cam-gyhuddiad yw hyn yn ol fy adnabyddiaeth i o werin Cymru. Y ffaith, yn ol fy marn i, yw fod y Cymro yn foneddwr naturiol yn yr ystyr o ddy- muno, hyd y gall, rhwng dyn a dyn, beidio tramgwyddo y sawl y byddo yn ei gwmni. Nodwedd brydferth yw hon yn nghymeriady Cymro, rhinwedd gwerth ei gadw, rhinwedd y byddai yn werth i'r cyff Teutonaidd fod yn fwy hyddysg ynddo. I'r neb sydd yn deall y Cymro, nid oes perygl camgymeryd y boneddig- eiddrwydd hwn am waseidd-dra cenedl- aethol. Gwir mai hawdd i fodeddigeidd- rwydd redeg dros y llinell derfyn i was- eidd-dra. Mae i'r rhinwedd hwn, fel pob rhinwedd, ei ochr wan. Dyledswydd gwladgarwyr yw dangos yn glir y llinell derfyn rhwng boneddigeiddrwydd a gwaseidd-dra. Ond ni wneir hyn drwy ganfod gwaseidd-dra lie nad yw. Teimlo egwyddor y bydd y Cymro yn hytrach na'i hymresymu allan. Ni chanfyddais erioed hyd yn hyn Gymro, unwaith y cyffyrddid a'i deimlad gan egwyddor neu nwyd, yn dangos dim byd yn debyg i waseidd-dra. I'm tyb i, profa Proffeswr Jones, os profa rywbeth ar y pwnc, nid fod llawer o Gymry yn wasaidd, ond fod llawer o honynt na theimlant fawr ynaill ffordd na'r llall ynghylch pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn eu cymerad- wyo na'u condemnio, na dim ond sylwi nad gwasoidd-dra yw diffyg chwaeth at ddadleuon pleidiau gwleidyddol. Ond nid drwg genyf, os yw ffigyrau y Pro- ffeswr yn gywir, feddwl y dichon fod miloedd o Ymneillduwyr Cymru eto heb feddwi ar ddiod gadarn Radicaliaeth. Hir y parhaont yn sobr, serch cael eu cam- ddeall a'u cernodio hyd yn nod gan athronydd mor graff a gonest a'r Proffeswr Henry Jones. SYLWEDYDD.
AMRYWION.
AMRYWION. Ar gais arbenig Esgob Bangor, yr oedd y Parch. Ganon Silvan Evans yn bresenol yn Mrawdlys Caer mewn cysylltiad a chabldraeth y Genedl Gymreig ar y Parch. R. Williams, Dolwyddelan. Ar y 30am o Fawrth, gweinyddodd Arglwydd Esgob Llanelwy y conffirmas- iwn ar ddeunaw o ymgeiswyr yn Llart- fwrwg, Rhuthyn, ac anerchodd hwynt ar y ddyledswydd o ddweyd y gwir a dim ond y gwir, ac hefyd ar burdeb. Bu ei arglwyddigieth yti pregethu yno yn yr hwyr, ac yr oedd yr eglwys yn orlawn o wrandawyr, Bu Mrs. Margaret Davies, Mount Pleasant, Fochriw, farw foreu dydd Sul, Mawrth 33am, a chladdwyd hi yn medd- rod ei gwr yn Mynwent y Faenor. Mr. Jones, gweinidog yr Annibynwyr, wein- yddodd wrth y ty, a Rheithor y Faenor yn yr eglwys ac ar lan y bedd. Bydded yr Arglwydd yn nodded i'r tair merch ieuanc a adawyd i alaru ar ol eu mam. Da genym hysbysu fod Mr. Robert Jones mab y diweddar Rowland Jones, clochydd, Polgellau, wedi pasio arholiad lHvyddianus yn mhob caine o'i efrydiaeth yn Mhrifysgol Edinburgh, a'i fod wedi cael ei wobrwyo a bathodyn arian mewn fferylliaeth. Un o fechgyn Guild yr Eg- lwys ydyw Mr. Robert Jones, a gobeith- iwn yr ymdrecha bechgyn ieuainc ereill y Guild gyrhaedd anrhydedd cyffelyb. Dywedir fod chweph neu saith o ym- geiswyr allan i lenwi Owv sedd wag ar Fwrdd Lleol Dolgellau, a bod mwy o deimladau personol yn dyfod i'r frwydr hon na chymhwysderau. Yr ydys yn methu deall pahafh na etholir y ddau hen aelod, sef Mr. Williams, Tanygader, a Mr. Nanney Williams, Banar House, yn ddi-wrthwynebiad, gan eu bod yn ddynion doeth, diduedd, ac yn dymuno gwneyd cyfiawnder 4 phawb. Yn Nghwmafon, yn ystod y Garawys, bu yr offeiriaid catilynol yn pregethu yn eglwys y plwyf:—Parchn. — Thomas, L.Th., curad Cwmafon j William Morris, curad Glyncorrwg John Morgans, B.A., curad Aberafon a William Headley, M.A., curad Gorseinion, Pontarddulais. Da genym ddeall fod y boneddwr olaf newydd raddio yn M.A. yn Downing College, Caergrawnt. Y mae ei frawd yn ,efrydu yn bresenol gogyfer a'r weinidog- aeth. Eiddunwn bob llwydd a bendith i'r ddau. Sylldremydd, Dolgellau, a rydd hyn :— "Gresyn yw gweled ar barwydydd y dref fel y mae yr Ymneillduwyr yn pendérfynu myned yn hollol groes i ysbryd y dydd hwn (Gwener y Groglith). Y mae pob math o rialtwch anweddus i gymeryd lie yn y gwahanol gapeli, megys te, cyfarfod- ydd adloniadol, magic lantern i arddangos chwareyddiaeth, &c. Gofaled pob Eg- lwyswr fod yn ei le yn yr Eglwys drwy y dydd, a chadwed rhag crwydro ac ym- bleseru." Yr ydym yn hyderu na ddi- ystyrir y cynghor yna. Yr wythnos ddiweddaf, bu cynrychiol- wyr o Towyn, Aberdyfi, Dolgellau, a manau ereill, o flaen Pwyllgor Unedig yr Addysg Ganolraddol. Y mae pob un o'r cymydogaethau uchpd yn awyddus i sicr- hau Ysgol Ganolraddol, ond credir na welir mwy nag un neu ddwy yn y sir. Gan fod ysgolion gramadegol Dolgellau a Balayn gwneyd gwaith mor ardderchog, pa angen sydd am ysgolion canolraddol yno? Ofnir y bydd y-cyfnewidiadau a wneir yn foddion i yru y plant parchusaf allan o Gymru, ac yr iselheir safon addysg i gyfarfod ag amgylchiadau a chyrhaedd- iadau y dosbarth. canolradd. Amser a ddengys.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. PRIODAS.- Y n Eglwys Llanddarog, ar y 29ain o Fawrth, gan y Parch. N. Thomas, ficer, priod- wyd Mr. Joseph Davies a Margaret Ann Lewis, y ddau o Bank Tainewydd, Pontyberem.
MERTHYR CYNOG.
MERTHYR CYNOG. Nos lau diweddaf, bu y Parch. W. Howell (Hywel Idloes) yn ymweled a'r cor Eglwysig, er mwyn parotoi gogyfer i'r Wyl Gerddorol, Defynoc. Daeth y. cor yn nghyd yn lied gryno, ac aethant trwy eu gwaith yn ganmoladwy. Yr ydym yn credu y byddai llawer yn derbyn y LLAN yn y plwyf hwn, pe byddai i ryw un o'r ffyddloniaid Eglwysig yn cymeryd y peth mewn Haw, ac yn bresenol nis gallwn feddwl am un gwell na Mr. W. Davies, ieu., Cross Keys. Y mae pobl y plwyf hwn yn rhai sydd yn hoff o ddarllen papyrau Cymreig, ac yn ddynion deall- gar iawn yn mhob ystyr, ond trueni na fyddent yn cael papyrau teilwng i'w darllen. Cofiwch, gyfeillion, yn y LLAN cewch y gwirionedd, a dim ond y gwirionedd. Mynwch wybod mwy am wir hanes eich Heglwys, yn lie cymeryd eich camarwain gan y wasg Radicalaidd. Yr ydym yn sicr y bydd eich parchus Ficer, yr hwn sydd yn derbyn y LLAN, a phapyrau Eglwysig eraill, yn gyson, yn rhoi pob cefnogaeth i chwi gynal a chefnogi cyhoeddiadau Eglwysig.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. W. F. Mait- land, A.S., a Mr. Pierce Mahoney, A.S., yn anerch y Radicaliaid yn Neuadd y Dref. Nid oedd ganddynt ddim i osod o flaen eu gwran- dawyr ond yr hen bethau a'r camddarluniadau hyny ag y mae hyd y nod rhai Radicalaid yn dechreu syrifedu arnynt.
GLYNCEIRIOG.
GLYNCEIRIOG. LLANSANTFFRAID A GLYNTRATAN.-Cynhal- iwyd cenhadaeth am wyth niwrnod yn y ddau blwyf uchod, yn dechreu ar yr 16eg ac yn terfynu ar y 23ain, Y cenhadon oeddynt y Tra Pharchedig Ddeon Owen, a'r Parchn. G. Jones, ficer Mostyn Thomas Lloyd, ficer Llanelwy; a J. W. Thomas, iicer Bwlch-y-Cibau. Cafwyd pregethau rhagorol, ac yr oedd ysbryd y peth byw i'w deimlo yn y cyfarlodydd. Caiwyd cynulliadau mawrion yn yr oil o'r cyfarfodydd ac y mae amryw o'r newydd wedi ymuno i phobl yr Arglwydd. YMRYSONFA AREDIG.-Cymerodd yr ym- rysonfa lion le ar yr 17eg o Fawrth, mewn cae perfcliynol i Mr. Davies, Talgarth lsaf, Glyn- traian, pryd yr ymgystadlodd deuddeg gwedd. Cafwyd hin ffafriol, a daeth llawer iawn o bobl yngbyd, ac yr oedd y dull goialus a chywrain ag yi- ydoedd y ceffylau wedi eu harwisgo yn olygfa ysblenydd. A ganlyn yw rhestr y rhai a enillasant y gwobrau Dosltarth laf —1, Mr. Edward Lewis, Cilcochwyn 2, Mr. J. Evans, Talygarth. Ucliaf; 3, Mr. Edwaid Jones, Nant- gwryd, Dosbarth 2il :1, Mr. T. Lewis Evans, Bone 2, Mr. J. Turner, Brwynant; 3, Mr. J. Parry, Fronfrys. Y ddwy wedd oeddent: -1, Mr. Evans, Talygarth; 2, Mr. Hughei 9 Ty'n-y-Fron. Rhoddwr y ddwy wobr uchod oedd Mr. Hughes, saddler, Llangollen. Y beirniaid oeddynt Mri. D. Edwards, Bryn- dethol; Hughes, Grapes; a — Thomas, Ty'nddol.
[No title]
Prynwr: "Beth yw pris y gloheddyw?" Gwerthwr: "Pymtlieg swllt y dunell, syr." Prynwr: "Pwyswch un dunell i mi." Gwerth- wr (gyda gwed dv/yllodrus) "Pan yn pwyso olo vn ngolwg y prynwr, yr wyf bob amser yn gofyn haner co^on yn rhagor aV dano." "Paham yr oedd y ei yna yn eclrycli mor awyddus pan yr oeddech yn tori fy ngwallt ?" gofynai boneddwr i eilliwr. Oblegid fy mod, arnbell waith, syr," oedd yr ateb, mor an- ffodus a thori darn o glust rhywan, a diameu- fod y creadur gwancus wedi credu yn siCf y cawsai damaid y tro hwn i'w gnoi." Y mae y boneddwr yn awr yn wallgof, ac ni feiddia na chi nac eilliwr fyned yn agos ato.
Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst
Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst FESTRI GYNHYREUS Nawn Mawrth yr oedd Neuadd Dref ol Llan- rwst yn orlawn o drethdalwyr ar yr achlysur o gynhaliad y festri flynyddol er etbol swyddogion plwyfol. Drwy bleidlais unfrydol etholwyd y y Parch. T. Tudno Jones yn gadeirydd, ac wrth agor y gweithrediedau sylwodd nad oedd ef yno yn y cymeriad o drethdalwr, ond yn hytrach fel cynrychiolydd y Rheithor. Yna aeth ymlaen i ddarllen y rhybudd o'r cyfarfod, a dywedodd mai gorchwyl cyntaf y festri oedd nodi a phen- odi y gwarcheidwaid am y flwyddyn. Ar hyn safodd gwr ieuanc o gyfreithiwr, o'r enw David Jones, ar ei draed, a dywedai fod llyfr y gyf- raith oedd ganddo yn ei law yn dangos fod penodiad Mr. Jones yn anghyfreithlon, oher- wydd nas gallai curad gynrychioli ei Reithor, ac am nad oedd hyd yma yn drethdalwr yn y plwyf. Cododd, Mr. James, cyfreithiwr arall, i gadarnhau sylwadau ei gymrawd cyfreithiol. Y cadeirydd a ddywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo ef i'w benodiad unfrydol achosi unrhyw dramgwydd i'r frawdoliaeth gyfreithiol ond meiddiai ddweyd eu bod yn cyfeiliorni yn eu hesboniad o'r gyfraith, neu yn hytrach llunio cyfraith newydd o'r eiddynt eu hunain. Mewn plwyf a fu o dan ei ofal am agos i bum' mlynedd ni chynhaliwyd cynifer ag un festri heb iddo ef fod yn y gadair fel cynrychiolydd y Ficer. a meiddiai ddweyd nad oedd yn angenrheidiol i gadeirydd a etholid drwy bleidlais fod yn dreth- Idalwr o gwbl. Modd bynag, yn hytrach nag atal y gweithrediadau a gwastraffu amser mewn cyndyn-ddadleu, yr oedd ef yn hollol barod i roddi y gadair i fyny. Y Parch. J. Gower, ficer Trefriw, a ddywedai fod penodiad Mr. Jones yn hollol rfeolaidd a chyfreithlon, a dadleuai nad oedd y twrneiod yn iawn-ddarllen y gyfraith ar y pwnc. Gwasgai ar i Mr. Jones beidio gadael y gadair ar un cyfrif. Dadleuai Gwilym Cowlyd nas gallent ddadwneyd y penodiad heb wneyd yr holl weithrediadau yn ddirym ac a hyn y cytunai y cyfarfod. Cynygiwyd ar fod i Mr. James gymeryd y gadair, ac ar gymhelliad y Parch. T. Tudno Jones cydsyniodd y cyfarfod i'r cais. Yna pasiwyd penderfyniad yn datgan y teimladau goreu tuag at Mr. Tudno Jones yn bersonol a'u diolchgarwch iddo am y deheu- rwydd a ddangosodd o dan amgylchiad lied an- hawdd, a'i ymddygiad boneddigaidd. Yna aethpwyd ymlaen i benodi y gwahanol swydd- ogion plwyfol mewn festri a barhaodd yn lied boethlyd hyd y diwedd. Yn y rhifyn nesaf o'r LLAN, vmddengys ilythyr eglurhaol ar safle gyf- reithiol y curadiaid yn absenoldeb yr ebrwyad. YSFA NEWYDD. Yn ngwyneb printer cyrddau te, cyngherdd- au, a difyrion poblogaidd eraill, y mae afionydd- wch ysbryd wedi ymaflyd yu rhai o oleuadau arweiniol Llanrwst am. sefydlu Bwrdd Lleol yn y lie. Bu yr un ysfa am rywbeth newydd yn meddianu dosbarth o drethdalwyr Llandudno lawer o flynyddoedd yn ol ond wedi bwrw'r draul yn bwyllog, daeth y dref anturiaethus a ffasiynol hono i'r penderfyniad mai canlyniad ymgymeryd ag iau drom y Bwrdd Llywodraeth Leol fuasai cwtogi eu rhyddid ac ychwanegu yn ddirfawr at eu beichiau trethol. Wedi rhdddi ystyriaeth ddyladwy i'r pwnc, di- ameu y daw synwyr cyffredin Llanrwst i'r un penderfyniad-. Ychydig nosweithiau yn ol cyn- haliwyd: cyfarfod i drafod y pwnc, o dan lywyddiaeth Mr. O. Isgoed Jones ond nid oedd y gwrdd mor gytunol a nythaid o golomenod. Nid oedd Gwilym Cowlyd a Mr. W. G. Jones—dau o arweinwyr y bobl-yn flafriol i'r syniad, ac hebddynt hwy ni bydd llawer o lewyrch ar y symudiad. Yr oil a wnaed oedd dewis pwyllgor i wneyd ymholiad- au pellach ar y pwnc, a mwy na thebyg yw y derfydd yr ystwr hwn, fel llawer o'i flaenoriaid byrhoedlog, mewn mwg. Y DWFR ETO. Y mae y Milwriad Luard, dirprwywr y Llyw- odraeth, newydd roddi tro arall i edrych am danom yn Llanrwst. Yn ei ymchwiliad cyntaf, mewn perthynas i'r priodoldeb o fenthyca X800 er ychwanegu'r cyflenwad o ddwfr, nid oedd wedi cael ei foddlani ac yn awr, wedi gwrando tystiolaethau pellach, daeth i'r penderfyniad o wrthod y cais hyd onis gwneir prawf priodol ar y gyfundrefn bresenol. Anogai i'r awdurdodau lanhau y pibellau sydd bron wedi eu llenwi gan rwd yn ystod y tymhorau sychion. ac edrych na fyddo i'r dwfr gael ei gamddefnyddio. Ymhellach, cymhellai osod meters mewn manau lie y defnyddir y dwfr at unrhyw amcanion amgen nag iechydol.. Felly, dyna ben am ryw hyd ar helynt y dwfr, a rhai yn gofidio ac eraill yn llawenhau qherwydd y canlyniad. ETHOLIAD GWARCHEIDWAID. Serch i'r festri flynyddol ddewis nifer o fon- eddigion i wasanaethu fel gwarcheidwaid plwyfol, ymddengys nad ydym i gael osgoi etholiad, gan fod pump o foneddigion eraill wedi eu nodi yn ddilynol. Ymddengys mai y rheswm dros nominatio y rhai diweddaf ydyw y gellid sicrhau gwasanaeth cynrychiolwyr a gymerent fwy o ddyddordeb yn ngweithred- iadau y Bwrdd Iechydol, o dan ofal pa un y mae pob materion lleol hyd yma. YSGOL GANOLRADDOL. Hysbys ydyw fod Llanrwst eisoes yn meddu Ysgol Ramadegol, ynghyd a chyllid o tua £ 800 yn y flwyddyn a'r amcan presenol ydyw ei throi yn Ysgol Ganolraddol, Ymwelodd Pwyllgor Addysg Unedig sirodd Dinbych ac Arfon a'r lie ddydd lau, a chafwyd cyfarfod ymchwiliadol, dan lywyddiaeth Mr. Thomas Gee, Dinbych. Bwriedir i'r ysgol fod ar gyfer poblogaeth o 16,776 oddeutu afon Gonwy, ac i gyflenwi eyfieusderau addysg ganolraddol i 100 o fechgyn a 60 o enethod. Tuedd gyffredinol y cyfarfod oedd defnyddio yr adeilad presenol i'r bechgyn, ac adeiladu ysgoldy newydd ar gyfer y genethod. Dywedid fod gan yr ymddiriedol- Vyr £1,510 mewn Haw, a gofynent i'r Dirprwy- wyr Elusenol ganiatau defnyddiad £ 800 o'r swm hwn at amcanion addysg, i'r gweddill o £1,200 at adeiladu ysgoldy i'r genethod. Hys- byswyd nas gallai y pwyllgor ganiatau unrhyw grant at y perwylion hyn, ac mai eu hunig orchwyl oedd gwneyd ymchwiliad i mewn i'r hyn a wnelai pob lie drosto ei hun. Y gor- chwyl nesaf, mae'n debyg, fydd agor rhestr y tanysgrifwyr, a diameu y prawf yn ddigonol er sicrhau sefydliad un o'r Ysgolion Canolraddol yn Llanrwst.-Gwydir.
[No title]
Y mae yn Chelsea fasnachwr mor anghyff- redin o gynil fel yr ydys wedi ei weled yn dal cler a'u codi i fyny wrth y ddwy goes ol, gan edrych yn graftus yn agenau eu traed, er gweled 0 a oeddent wedi lladrata peth o'i siwgr. Cigydd: Beth a gaf fi ddanfon i chwi ly heddyw, Mrs. Jones?" Mrs. Jones: Dan- fonwch > leg o gig gweddar i mi, a chofi well mai 6 ddafad ddu yr wyf am ei chael." Y Cigydd 0 ddafad ddn!" Mrs. Jones le, yr ydym mewn mourning, chwi wyddoch." Na, William," meddai dynes yn ofidus wrth ei chariad, gan adael iddo ar yr un pryd i wasgu ei Haw yn gynes, na, William, Dis gallafbriodi a chwi, oblegid nid wyf yn credn y gellwch gynal gwraig ig ymenyn, ac yr wyf yn methu yn lan a bwyta margarine." Qalwodd Wil Glo M6r am blataid o gig man yn nhy Nancy y gogyddes, ryw dro ac ar ol canfod telpyn o 16 yn mysg y cig, dechreuodd ddifrio yr hen wraig yn arw. Wil I" ebe Nancy yn synedig, "paid a chollidy dymer dda fel yna. B. t3a wyt yn ddisgwyl gael am dair ceiniog ? Gwythiea gyfan o lo ar dy blat, aië?"
Advertising
u GESTF A." TY i Offeiriaid i orphwys ynddo. Agorir y Ty i Ymwelwyr Ebrill 14, 1890. Cyr. h,ieddir ef mewn ptim' mynyd wrth gerdded o Orsaf Glanrhyd. Ceir manylion oddiwrth Mrs. RICHARDSON, Glanbrydan Park, Manordeilo. Yn y Wasg. Pris 18. 6c., wedi ei Rwymo yn Hardd. "GRISIAU'R DEML," NEU OEDINHADAII TY ID IE) -U W. Gan y PARCH. N. THOMAS, FICER LLANDDAROG. unig esboniad cyflawn yn Gyinraeg ar y Bedydd, y Catecism, Conffirmasiwn, a'r Cymmun Bendisaid. Y mae yn llyfr addas fel gwobr yr Ysgol Sul. Gan nad argreffir end nifer benodol, anfoner archebion at yr Awdwr ar unwaith— Rev. N. THOMAS, The Vicarage, Llanddarog, CARMARTHEN. AT EIN GOHEBWYR GELWIR sylw Darllenwyr, Goliebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAETH at y eyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad & dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu felly canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwch ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr lliosog dalu sylw arbenig i'r rbeolau canlynol:- 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy- hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y canlyn:— Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a tlialu sylw i'r rheolau canlynol bob amser:- 1. Defnyddier note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau. o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansdddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. TELERAU AM "Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- iad yn y Deyrnas GyPunolam y prisiau canlynol -Cl-warter blwyddyn, Is. 8c.; haner blwyddyn, 3g. 4c.; blwyddyn, 6s. Se. Dau neu dri rhifyn yn ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaendal gyda phob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer- ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y dwsin, 10c. gyda'r rheilffordd, a Is. gyda'r post. Rhaid i bob Dosbarthwr wastadbau ei gyf- rifon yn chwarterol, a dymunir ar i bob un dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgeulusdra ar ran swyddogion y Llythyrdy neu y Rheilffyrdd gyda cliludiad unrhyw sypyn, dylid anfon hysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r Cylioeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- byniant eu sypynau gyda'r rbeilffordd ofalu eu hymofyn yn eu gwahanol orsafoedd bob wyth- nos. f HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yw yr unig Newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir gan y mwyaf deallus o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hysbys. Y Telerau am Hysbysiadau. 750 eiriau (solid) neu un fodfeddli lawr y golofn (displayed) Un wythnos (tal ymlaen Haw). 2s. 6c. Dwy wythnos 2s. Oc. Pedair wythnos Is. go. Chweeh wythnos Jg, 6c. 13 wythnos I s. Se. 26 wythnos ls. oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith- iol, 6c. y llinell.. 1- Arwerthiadau, 4c. y llinell. I Hysbysiadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol 20 o eiriau, un waith, ls.; tair gwaith, 2s. chwe' gwaith, 38. 30 o eiriau, an waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 6c.; chwe' gwaith, 6s. 9c. Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn i Saesneg. Ni ofvnir tal am gyfieitliu. j SYLINTE I.I.-Rbaicl i I)ob Gohebiaeth ypglyn j i Hysbysiadau a Tlialiadaa o hyn allan gael eu j nanfon i'r Cylioeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office j 135, High Street, 5 Merthyr Tydfil. j •
AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG."
AMDDDFFYNIAD Y GENEDL GYMREIG." Cyfeiriais yr wyihnos ddiweddaf at fuddugoliaeth y Parch. R. Williams, Dol- wyddelen, ar y Qenecll Gymreig yn Mrawdlys Caer. Pe buasai y Genedl yn ddistaw ar y mater, ni wnaethwn sylw pellach o'r peth. Ond y mae y Genedl yn gwyngalchu ei hun yn wych yr wyth- nos o'r blaen, ac yn ceisio gwneyd ei hun allan yn ferthyr dros Brotestaniaeth Cymru. "Dal i fyny freichiau gwrth- Ddefodwyr ac Efengylwyr Cymru oedd genym mewn golwg pan yn cyhoeddi yr erthygl. Yr oedd llusgo y Genedl i Frawdlys Caer "yn gyfystyr a. dwyn opiniynau Ymneillduwyr Cymreig i gael barnu arnynt gan Eglwyswyr o genedl estronol, na feddant lawer o gydym- deimlad â, ac nad ydynt yn deall teim- ladau Cymru." Mor lan a gwyn y gwel y Genedl ei huii I Pwy fuasai byth yn meddwl wrth ddarllen cwynfan dor- calonus a cliniwed y merthyr papyr hwn nad oedd a wnelai Defodaeth ddim byd a'r mater mewn dadl ? Nid oedd Mr. Williams wedi gwneyd dim ond dilyn cyfarwyddiadau y Llyfr Gweddi. Ei gvvyn yn erbyn y Genedl ydoedd na chai heddwch i addoli yn ol trefn yr Eglwys < a'i gydwybod ei hun. Erlicl noeth, i'm tyb i, ydoedd cyhuddiadau y Genedl, a da fod cyfraith y tir i'w chael i rwystro peth ar gynddaredd a rhwysg erlidwyr yr Eglwys yn Nghymru. Nid yw tuchan mor rodresgar ond lluchio llwoh i lygaid y wlad.
YR AELODAU CYMREIG YN NADL…
YR AELODAU CYMREIG YN NADL Y DEGWM. Cwyna y South Daily News yn chwerw ddarfod i arweinwyr y blaid Ryddfrydig adael rhwng yr aelodau Cymreig a dadl y Degwm. Nis gwn paham y dylai feio yr arweinwyr Rhyddfrydol am wrthod cyn- orthwyo dynion a, fynasent gael dadl yn groes i farn eu harweinwyr. Ond druain o'r aelodau Cymreig. Angenrhaid a osod- wyd arnynt gan y Wasg Gymreig a'r glymblaid sydd yn dal llinynau pwyll- gorawl. Rhaid oedd iddynt wneyd rhywbeth yn y Senedd, neu ffrewyllid hwy yn y papyrau yn ddidrugaredd. Ac felly bloeddiasant i'r gad goreu fyth y gallent dros ddwy noswaith. Ond tebyg na fu erioed gyflafan fwy torcalonus. Nid oedd na ffeithiau na hwyl gan neb o'r aelodau Cymreig. Methodd hyd yn nod Mabon godi digon ar ei galon i ganu Hen Wlad fy Nhadau." Buasai yn well o lawer erbyn hyn i'w hachos iddynt fod yn ddistaw, canys tynasant am eu penau, drwy wastraff mor druenus ar amser y Ty, fwyafrif bron anhygoel o 126. Syn iawn eu clywed, y naill ar ol y llall, yn taeru fod Radicaliaid Cymru yn awyddus, uwchlaw pob peth, na thynid dimai o'r degwm i lawr, ac elai dim ohono i fferm- wr na thir-berchenog, ond y cyfan i'r genedl yn rhywle, i dalu, mae yn debyg, i aelodau Senedd Mr. W. J. Parry. Ni waeth gan y ffermwyr am Mr. W. J. Parry na'i Senedd, ac unwaith y deallant hwy nad oes gan yr aelodau Cymreig ddim i'w roddi iddynt o'r degwm, caiff yr ael- odau Cymreig yr un faint o gynorthwy gan ffermwyr Cymru ag a gawsant gan arweinwyr y blaid Ryddfrydol yn y Sen- edd. Diddymu y degwm oedd y fferm- wyr yn feddwl oedd mewn golwg, ac nid myned a'r cwbl o'r plwyf i rywle, rywle at ryw patent gwleidyddol newydd.
YMREOLAETH I GYMRU.
YMREOLAETH I GYMRU. Bu y papyrau Radicalaidd Cymreig yn dadleu yn ddiweddar yn boeth pa un ai Ymreolaeth ai Dadgysylltiad ddylid ei gael gyntaf. Gan nad ydyw y naill na'r llall yn eu gafael, buasai yn ddoethach iddynt aros ychydig yn hwy cyn gwalltio eu gilydd. Nid oedd Mr. Lloyd George, Criccieth—ymgeisydd am sedd wag Bwr- deisdrefi Arfon—yarhoddi Dadgysylltiad ddigon ymlaen i foddhau y Barch. Evan Jones, Caernarfon, Dywedai Mr Jones yn groew os na frysient gymaint fyth ag a allent na welent Ddadgysylltiad am ugain mlynedd, Digiodd llawer wrth Mr. Jones am ddweyd ei farn mor ddi- floesgni, ond ceir gweled ef fod yn ei le. Gwyr Mr. Jones beth yw pwys a gwres y dydd, ac mor anhawdd dal i gadw cynwrf am flynyddoedd. Y mae cynydd prysur yr Egl wys yn sicr o ddisodli y Dadgys- ylltwyr, os nad allant, drwy ryw ystryw neu gilydd, enill drwy ruthr disymwth. Ond nid oes golwg ar hyn o bryd yr enill- ant o gwbl, rhuthro neu beidio. Y mae amryw o'r prif arweinwyr yn trwsio eu hesgyrn dolurus ar ol ergydion Silur- lad." 0 bob ffolineb glywyd eto son am dano yn Nghymru, Ymreolaeth i Gymru yw y ffolaf. Yr wyf yn Gymro mor zelog a'r Ymreolwr penaf o honynt, ond gwn beth olygir wrth Ymreolaeth yn rhy dda. Dyma yw Ymreolaeth-Gallu a rhwysg i gilcydclion. DarHener" Siluriad am ddiniweidrwydd y Cymry o dan ddwylaw clicyddion, ac os myner goleuni ar glic- I yddiaeth wleidyddol, ymofyner a Mr. Pritchard Morgan, A.S. dros Ferthyr Tydfil. Bwriodd ef glic gwleidyddol Merthyr yn bendramwnwgl. Y middle- lnen-fel y geilw y Sais hwynt-y dynion bywiog, call, gorlawn o hunan-hyder, sydd a'u bysedd ar linynau gwleidyddol byth a hefyd, a hwy yn unig, enillai drwy Ymreolaeth. Byddai Ymreolaeth yn sicr o wneyd gwleidyddiaeth yn Nghymru yn fusnes cjieiau, fel y mae yn yr Unol Dal- eithiau. Hawdd iawn chwareu ar dannau gwladgarol y Cymry, Fel Eglwyswr, nid oes genyf wrthwynebiad yn y byd i fyddin y Dadgysylltwyr ymranu ar Ymreolaeth. Ond fel Cymro nid wyf yn hoffi gweled gwladgarweh Cymru yn cael ei wneyd yn destyn gwawd ac yn arf clic. Cadwer gwladgarwch yn glir ag ymbleidiaeth wleidyddol a sectol, a defnyddier ef i ddyrchafu y genedl oil, ac nid cliciau cyfyng, Y mae digon o waith i'r teimhid gwladgarol ynglyn A Ilenyddiaetli, addysg, a bywyd cymdeithasol Cymru. Genedig- aeth-fraint pob Cymro y w, ac nid shibbol- eth plaid. Y mae teimlad calon Cymru yn rhy, wbeth rhy gysegredig i wneyd busnes o hono.
[No title]
"Yr wyf yn ofni, syr, fod em hystwr wedi eich aflonyddu," meddai broiddyn wrtli ddyn distaw oedd yn cyd-deitliio yn yr un cer- byd ag ef, ar ol adrodd ystorïau dyclirynllyd atn dano ei hunan, "Dim yn y mesur lleiaf," meddai y dyn distaw, Yr oeddwn yn meddwl," ychwanegai y dyn ystwrllyd, If nad oeddech yn teimlo dyddordeb yn fy ystoriau." Yn hollol i'r gwrthwyneb, fy anwyl syr," at ;bai y Hall," yr oeddwn yn teimlo dyddordeb anghyffredin yn eich adroddiadau. Y gwir .yw, yr wyf yn dipyn o gelwyddwr fy hun."
ABERDAR.
ABERDAR. GrENEDiGAETH.—Mawrth 22ain, 1890, esgor- odd priod Mr. Thomas Richards, dosbarthwr cyhoeddiadau Eglwysig, 9, Dare Street, Aber- dar, ar ferch, a gelwir ei henw Mary. Hir oes a phob bendith arni i ddyfod yn Fair a ddewisa "y rhan dda" fel cynt.
IABERAMAN.
ABERAMAN. Ddydd Mercher, Mawrth y 26ain, bu Arglwydd Esgob Llandaf yn gweinyddu y ddefod apostol- aidd o G-onffirmasiwn yn Eglwys St. Margaret. Rhif yr ymgeiswyr oedd 29-12 o Gwmaman a 17 o Aberaman. Cafwyd anerchiad rhagorol a phwrpasol gan yr Esgob, ac yr oedd gwrandaw- iad ao ymddygiad y gynulleidfa yn weddus iawn. Gan mai hwn oedd yr arddodiad dwylaw cyntaf a gafodd ei weinyddu yn yr eglwys uchod, yr oedd llawer o ddisgwyl am dano. Mor gartrefol oedd gweled yn bresenol ein hanwyl a'n parchus Ficer o Aberdar. Yn y prydnawn, talodd yr Esgob ymweliad a Chwm- aman, lie y mae corph eglwys (nave) yn cael ei hadeiladu, a thrwy ewyllys Duw, bydd i'w arglwyddiaeth ei hagor ddydd Llun, Mai 19eg. Llawenydd oedd genym weled yr Esgob mor heini, a rhyfedd mor gyflym ydyw ar ei droefl.
LLANGOLLEN,
LLANGOLLEN, Y GENHADAETIJ BIAVYFOL.—Cynaliwyd y genhadaeth hon yr wythnos ddiweddaf, yn eglwys y plwyf, Ymunodd pedwar o blwyfi yn Neoniaeth Llangollen i gynal eu cenhadaeth yn yr un wythnos, a threfnwyd i'r un offeiriad bregethu ar gylch yn y pedwar plwyf yn ystod yr wythnos, Yr offeiriaid a gymerasant ran yn y genhadaeth oeddyntY Tra Pharch. Ddeon Llanelwy, y Parelin. G. Jones, Mostyn, a T. Lloyd, Llanelwy. Cafwyd pregethau grymus a difrifol, a chynulleidfaoedd mawrion. ae astud. Teimlwn yn sicr fod y genhadaeth wedi bod yn foddion nid yn unig i ycnwanegu at nifer aelodau Eglwysig y He, ond hefyd i ail-enyn zel ac i ddyfnhau teimlad crefyddol y rhai sydd eisioes yn gymunwyr rheolaidd. 0 ADDYSG GANOLOG. —Ddydd Gwener, talodd tri o aelodau y Joint Committee ymweliad i'r dref hon, i wneyd yricbwiliad cyhoeddus i hawliau Llangollen i gael ysgol. Mae teimlad unfrydol yn y dref y dylid cael ysgol yma dan ddeddf newydd addysg ganolog. Mae yn fwy na thebyg y llwydda trigolion Llangollen yn eu hamcan y tro hwn.
LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN.
LLANFIHANGEL-Y-CKUDDYN. MARWOLAETII.—Mawrth 19eg, yn ei phres- wylfod yn mhentref. Llanfihangel-y-Cruddyn, bu farw Mary, gweddw y diweddar Mr. Ebenezer Hughes, gynt o Brenen, Llanfihangel- y-Cruddyn, yn 80 mlwydd oed.
GARTHBRENGY,
GARTHBRENGY, DIRWIST.-Cawsom gyfarfod hynod o ddy- ddorol ar y 2Gain o Favfrth, o dan lywyddiaeth y Deon Gwladol. Cymerwyd rnan yn y cyfar- fod gan y Parch. W. Howell, Mr. Hyde, Miss Howell, ac eraill. Y mae'r aehos dirwestol yn flodeuog yma ond y mae eto ddigon o waith o flaen y gymdeithas sydd yma, gan fod llawer o frermwyr a phenau teuluoedd, hyd yn hyn, yn cadw draw.