Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
36 erthygl ar y dudalen hon
. YSWIRIO BYWYDAU PLANT.
YSWIRIO BYWYDAU PLANT. Y mae y Dr. Magee, Esgob Peter- borough, newydd siarad yn gryf ryfeddol yn erbyn yswirio bywydau plant. Ystyria fod hyny yn arwain yn fynych i ganlyn- iadau alaethus. Dywed fod y dyn a laddo ei blentyn ar unwaith yn wr trugarog yn ymyl un a ddygo oddiam- gylch farwolaeth drwy esgeulusdod neu greulondeb.
. "TY Y FICER," LLANYMDDYFRI.…
"TY Y FICER," LLANYMDDYFRI. Dyddorol yw clywed fod yn mryd pobl Llanymddyfri i adnewyddu ty y ficer enwog. Ymddengys fod ei berchenog wedi ei gyflwyno yn rhodd i'r dref, ynghyd a thir i adeiladu neuadd gy- hoeddus arno hefyd. Bwriadant ddangos eu gwerthfawrogiad o'r rhodd drwy adeil- adu y neuadd ac adnewyddu yr hen dy enwog ar unwaith. j
.] ANFFAWD I GASGLWR BRIALLU.…
] ANFFAWD I GASGLWR BRIALLU. I ———— ] Ar y 9fed o Ebrill, yr oedd bachgenyn ] o'r enw Cunningham, 13 mlwydd oed, yn casglu briallu mewn cae yn Southern- down, pan y daeth ar draws neidr. Gan feddwl ei bod wedi trengu, cododd y bachgenyn hi i fyny, pan y dangosodd y neidr yn sydyn arwyddion o fywyd, a Î chnodd ef ar ei law. Y mae Cunning- ham ieuanc yn awr dan ofal meddygol, ac yn gwella yn ffafriol.
——^ HEOL 0 ABERDAR I'R MARDY.
——^ HEOL 0 ABERDAR I'R MARDY. Ar y lOfed o Ebrill, cynhaliwyd cyfar- fod ymholiadol o dan y Llywodraeth, gan y Milwriad Ducat, R.E., yn Neuadd Drefol Aberdar, meAvn cysylltiad ag apel- iad y bAvrdd lleol am ryddid i fenthyca tair mil o bunau er gwneyd heol neAvydd o Aberdar i'r Mardy. Dywedodd yr holl dystion fod y llwybr mynyddig presenol yn anniogel ac anaddas i uqrhyw gerbyd fyned drosto. Yr oeddys yn gorfod myned drwy Bontypridd, y pellder o 21 neu 22 o filldiroedd. Pe cawsid heol newydd dros y mynydd, ni fyddai y pellder yn fwy na phedair milldir a haner. Hefyd, tynodd cynrychiolydd trethdal- wyr Aberaman sylw ymholwr y Llyw- odraeth at yr angenrheidrwydd o ychwanegu heol o Gwmaman i'r Maerdy. Yna terfynwyd yr ymholiad.
HUNAN-FODDIAD CARIADON.
HUNAN-FODDIAD CARIADON. Yn ol y newydd a dderbyniwyd o Berlin, ddydd Sadwrn diweddaf, y mae cyrff boneddiges barchus yr olwg, 32 mlwydd oed, a boneddwr ieuanc mewn dillad drudfawr, 23 mlwydd oed, wedi eu cael yn afon y Rhine yn agos i ddinas Cologne. Yr oeddynt wedi rhwymo eu hunain wrth eu gilydd a shawls a lliein- iau ymsychu. Cariadon, yn ddiau, oedd y ddau, y rhai a benderfynasant farw gyda'u gilydd.
—. YSGOLORIAETHAU I WEITHWYR.
— YSGOLORIAETHAU I WEITHWYR. Nos Iau, Ebrill y lOfed, mewn atebiad i wahoddiad oddiwrth y gweithwyr a gyflogir yn nglofeydd Dowlais, cyfar- fyddodd y Major E. R. Jones, Caerdydd, y Proffeswr Roberts, a Mr. R. Davies (ysgrifenydd), yn Nowlais, ar ran Pwyllgor Apeliadol Prifysgol y Deheudir, Caerdydd, a phasiwyd yn unfrydol Fod y cyfarfod hwn yn gwystlo ei hun i arfer pob moddion cyfreithlon i sefydlu ysgol- oriaethau yn y Brifysgol yn Nghaerdydd i weithwyr DoAvlais." 1
( DIGWYDDIAD ALAETHUS.-
( DIGWYDDIAD ALAETHUS. Bu Mr. William Stephens, clerc yr heddwch a chrwner Sir Faesyfed, farw yn sydyn ddydd Sadwrn diweddaf yn ei breswylfod yn Presteigne. Cododd yn y ] boreu yn ei iechyd arferol, ond syrthiodd ar ei wyneb mewn llewyg a bu farw ] mewn ychydig funydau. Yr oedd y I boneddivr trancedig, yr hwn a fawr berchid ynglerc i Gynghorfa Sirol Faesyfed hefyd, ynghyd a swyddau eraill, yr oedd yn gynrychiolwr dros ystad Arglwydd Ormathwaite yn y sir. I
. MERCH HEB DDIHUNO ER'S MIS.…
MERCH HEB DDIHUNO ER'S MIS. | Ymddengys fod geneth ieuanc 16 mlwydd oed, merch i rieni o amgylch- iadau cysurus yn Eringen, Wurtumburg, yn cysgu er y pumed o fis Mawrth. Cwynai cyr hyny fod poen yn ei phen a'i mynwes, aeth i'r gwely ar y dydd a nodwyd, syrthiodd i drwm-gwsg, o'r hwn ni ddeffrodd am funyd hyd y dydd hwn (Ebrill 8fed). Anadla yn araf, ond nid yn drafferthus. Deallwn fod geneth ieuanc ynMaestegmewn sefyllfa gyffelyb. Mae amgylchiadau fel hyn yn ddieithr rhyfeddol, ac hyd yma yn annealladwy i'r meddygon.
BRAWDLYS CHWARTEROL CAERDYDD.
BRAWDLYS CHWARTEROL CAERDYDD. Agorwyd Brawdlys Chwarterol cyntaf bwrdeisdref sirol Caerdydd foreu dydd GAvener diweddaf, yn y Neuadd Drefol, gan y Coflyswr cyntaf a benodwyd yn ddiweddar, sef ein cydAvladAvr Mr. Benjamin Francis Williams, Q.C. Y boneddigion canlynol ydynt yr uchel reithwyr cyntaf y llvs hwn :—Maer Caerdydd, yr Henadwr W. Sanders (prif reithiwr), Mri. Ebenezer Bevan, E. Bregeon, J. S. Corbett, John Gunn, Marcus Gunn' Edmund Hancock (hynaf), Archibald Hood, John S. Hollyer, Rees Jones, H. J. Stallybrass, Roundfeldt, Phillip Turnbull, W. H. Thomas, Thomas Weare, J. H. Wilson, a Lewis Williams, ynghyd a'r Dr. D. E. Jones, y Dr. Paine, yr Henadur Jacobs, a'r Major Sloper. Yr oedd y calendar cyntaf o garcharorion yn ysgafn. Gobeithiwn y pery felly.
0 DIRGELU CORFF GARFIELD.
0 DIRGELU CORFF GARFIELD. Aeth miloedd o bobl yn ystod y pedair blynedd diweddaf i weled y feddgell ar- dclerchog y dodwyd gweddillion y cyn- Arlywydd Garfield ynddi, a thybient eu bod yn talu gwarogaeth i fan gysegredig ei orweddfa; ond nid oeddent, canys symudwyd y corff mewn modd dirgel- aidd gan bedwar o ddynion yn nyfnder nos, a chladdwyd ef mewn congl neilldu- edig a diaddurn yn y fynwent, heb fod neb ond y teulu ac ychydig gyfeillion yn gwybod pa le y dodwyd ef. Gwnaed hyn gan ofn y byddai i ladron ei gymeryd ymaith, ac yna hawlio pris mawr am ei ddychweliad. Buwyd bum' mlynedd ar ol iddo gael ei ddodi yn y feddgell yn gwylio y lie bob nos gyda'r dyfalwch mwyaf. Yn awr, pan mae y feddgolofn addurnfawr wedi ei gorphen, yr hon a ddadlenir yn gynar yn y gwanwyn, y mae yr hanes yn cael ei roddi allan.
—♦ AMERICANIAID ANTURIAETHUS.
—♦ AMERICANIAID ANTURIAETHUS. Dywedir fod cwmni o gwmpas cael ei sefydlu i redeg agerlongau buain rhwng Aberdaugleddyf ac Efrog Newydd, fel ag i gyflawni y fordaith mewn llai o amser nag y gwneir yn awr. Mae yr ager- longau hyn i gael eu gwneuthur yn America, ac y mae y rhan mwyaf blaen- llaw yn y mudiad yn cael ei gymeryd gan Americaniaid. Cludir parseli gan y cwmni hwn, nid dros y mor yn unig, ond i bob man yn y Deyrnas Gyfunol a'r Unol Dalaethau, am lawer llai o dal nag a godir yn bresenol. Mae dyfodol gwych yn addawedig i'r oes nesaf.
[No title]
I Pwysau ysgerbwd moi-fil o fainti<>ii cyffredin ydyw pum' tunell ar hugain.
Y DIWEDDAR DDR. LIGHTFOOT.…
Y DIWEDDAR DDR. LIGHTFOOT. Y mae yn agos i bedair mil o bunau wedi cael eu tanysgrifio tuag at drysorfa er codi cofeb i'r diweddar Ddr. Lightfoot, Esgob Durham.
. ANGEU DRWY LYNCU DANEDD.
ANGEU DRWY LYNCU DANEDD. Ary 9fed o Ebrill, yn Manchester, cyf- arfyddodd un William Jones, 71 mlwydd, a'i angeu yn sydyn trwy lyncu ei ddanedd ffugiol yn ddamweiniol tra wrth y bwrdd yn bwyta ei giniaw.
ESGOB BANGOR.
ESGOB BANGOR. '!to Nid yw yn debyg y cymer ymddi- swyddiad Esgob Bangor le am beth amser eto. Y mae ei arglwyddiaeth yn awr yn gwneyd trefniadau i gynal y conffirm- asiwri, &c., drwy yr holl esgobaeth.
"'. MARWOLAETH DYNES CANT…
MARWOLAETH DYNES CANT OED. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw un Mrs. Margaret Rea, yn Lylehill, Down, o'r anwydwst, yn gan' mlwydd oed. Yr oedd yn weddw er's haner can' mlynedd, ac yn y meddiant o'i synwyrau hyd y diwedd.
GOF FFORTUNUS.
GOF FFORTUNUS. Y mae Thomas Barratt, got yn ngwas- anaeth Cwmni Tramffyrdd yn Birming- ham, neAyydd dderbyn etifeddiaeth o ddeunaw mil o bunau ar ol ei ewythr. Y mae yr etifedd lwcus yn ddibriod, ac yn ddeugain mlwydd oed.
. Y BARDD LEWIS MORRIS.
Y BARDD LEWIS MORRIS. Bydd yn dda gan Gymry gwladgarol i glywed fod ein cydwladwr enwog, y bardd Lewis Morris, yn bwriadu casglu ei weithiau i un gyfrol. Rhaid y bydd yn gyfrol bur fawr, oblegid y mae, erbyn hyn, wedi ysgrifenu cryn lawer.
P,200 0 RODD I CLWYDFARDD.
P,200 0 RODD I CLWYDFARDD. Y mae yn ddywenydd genym hysbysu fod yr Archdderwydd Clwydfardd, yr hwn sydd yn 90 mlwydd oed, wedi der- byn rhodd o E200 o'r Trysorlys, fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth i len- yddiaeth a barddoniaeth y Cymry.
GWERS I GANTORION.
GWERS I GANTORION. Y mae Mrs. Mary Davies, y gantores enwog, wedi gwneyd yn hysbys nad yw hi byth yn arfer cymeryd stimulants cyn canu. Cyfynga ei hunan i wlybyroedd dirwestol. Dyna wers i ugeiniau o gantorion ein gwlad. Os canant gystal a Mary Davies, gallant fod yn bur fodd- lawn.
CYFLAFAN YN AFFRICA.
CYFLAFAN YN AFFRICA. Y mae y newydd a dderbyniwyd yn Quillimane yn mis Chwefror diweddaf am laddiad y Lieutenant Valadin, perth- ynol i Lynges Portugal, Senor Almeida, a 150 o filwyr brodorol, gan y Mackololos, wedi cael ei gadarnhau yr wythnos ddi- weddaf.
. CHOLERA AR LONG BRYDEINIG.
CHOLERA AR LONG BRYDEINIG. Pellebrwyd o Bordeaux, ddydd Sadwrn, fod yr agerlong Brydeinig "Firlford," yr n el hon a gyrhaeddodcl yno ddydd Gwener o Burmah, wedi cael ei gosod ar ddiheun- brawf (quarrantine), ar gyfrif y ddau farwolaeth o'r cholera a gymerodd le ar y llestr yn ystod ei mordaith o'r Dwyrain.
CYDYMDEIMLAD GWEITHREDOL.
CYDYMDEIMLAD GWEITHREDOL. Wythnos yn ol, galwodd boneddwr yn y Mansion House, Llundain, gan gyilwyno ftodau y Bank of England am y swm o 4400 tuag at drysorfa glofa y Llanerch, a t330 tuag at drysorfa glofa y Morfa, y I glofeydd lie y cymerodd y tanclnvaoedd dychrynllyd diweddar le. Gwrthododd boneddAvr yn bendant roddi ei emv, a ^ymuna i'AV roddion gael eu cydnabod yn y ixewyddiaduron dan yr enw A. 0. A., a yn rhagor. Pwy bynag ydyw, gellir ^ybied yn sicr fod ei roddion yn deilliaAV o Salon lawn o gydymdeimlad, ac nad ^6(ld am udganu ei weithredoedd da. ^ydded bendith y weddAv a'r amddifaid ar ei ben.
AWYDDFRYD LLYFR-GARWYR.
AWYDDFRYD LLYFR-GARWYR. Hysbysir fod y rhan fwyaf o lyfr newydd Mr. H. M. Stanley wedi ei gysodi erbyn hyn. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn Llundain a New York ar yr un adeg. Er nad yw y llyfr wedi dechreu cael ei hysbysu yn y newyddiaduron, &c., eto i gyd, y mae y cyhoeddwyr wedi derbyn archebion am tua haner can' mil o gopiau eisoes.
. ETHOLIAD CAERNARFON.i
ETHOLIAD CAERNARFON. i Cymerodd yr etholiad uchod le ddydd lau diweddaf, ac fel y gwelir oddiwrth ] nifer y pleidleisiau canlynol, nid oes gan ] y Radicaliaid fawr achos i ymchAvyddo mewn balchder am y fuddugoliaeth :— Mr. Lloyd George (Radical). 1,9Qa i Mr. Ellis-Nanney (Ceidwadwr) 1,945 —— ■] Mwyafrif 18
CYMRY YN DYLIFO I GYMRU.
CYMRY YN DYLIFO I GYMRU. Gohebydd o Franklin, Washington, America, a ddywed fel y canlyn Y mae cryn lawer wedi ymadael oddiyma i Gymru. Siaredir am yr amser da sydd yn yr hen wlad. Clywais fod tua chwe' chant wedi ymadael am Gymru o Hyde Park a'r cylchoedd yn Ionawr diweddaf. Nid yw hyny yn rhyfedd, canys dywedir fod llawer yn dioddef eisiau yn Penn- sylvania."
♦ ARHOLIADAU LLWYDDIANUS.
♦ ARHOLIADAU LLWYDDIANUS. Yn yr arholiad a gynhaliwyd ar ran y Llywodraeth yn Nghaerdydd yn ddi- weddar, y mae yn dda genym hysbysu fod Mr. Ted Williams, surveyor, jn Nglofa Tylor, a chynt o'r Gadlys, Aberdar, ynghyd a Mr. William Barnes, overman yn ngwasanaeth Cwmni Plymouth, Merthyr Tydfil, wedi profi i'r arholwr fod ynddynt y cymwysderau angenrheidiol i fod yn arolygwyr glofaol. 9
Y RHUTHRWYNT YN AMERICA.
Y RHUTHRWYNT YN AMERICA. Yr wythnos ddiweddaf, dryIliwycl nifer L fawr o adeiladau yn Newark, Talaeth Ohio, gan ruthrwynt cyffelyb i hwnw a wnaeth gymaint o ddinystr yn Prophets- town, Illinois, yn ddiweddar. Hollol ddinystriwyd gwneuthurdy gwlaneni, a chladdwyd deg ar hugain o ferched, y rhai a weithient yn yr adeilad, o dan yr adfeilion. Adferwyd hwy i gyd ond un ddynes o'r enw Dora Palmer, yr lion a laddwyd. Y mae deuddeg o'r merched a achubwyd wedi eu niweidio yn ddrwg.
♦— GWOBR-YMLADDFA ANGEUOL.
♦ — GWOBR-YMLADDFA ANGEUOL. Ddydd Iau, Ebrill y lOfed, cynhaliwyd trengholiad yn Mountain Ash ar gorff John Hopkins, 19 mlwydd oed, glowr, yr hwn a fu farw mawn canlyniad i niweid- iau a dderbyniodd wrth ymladd ag un Cornelius Collins ar Fynydd Llanwonno ddydd Sul, Avythnos i'r diweddaf. Dy- chwelodd y rheithwyr ddedfryd o ddyn- laddiad yn erbyn Cornelius Collins (yr ymladdwr), Thomas Bradford (yr amser- geidwad), John Davies (daliwr y wobr), a Dennis Collins (brawd Cornelius), Richard Jones, James Davies, ac Owen Rearden, y rhai a gefnogent y ddau ym- laddwr. Trosglwyddwyd y saith yna i sefyll eu prawf.
. DIGWYDDIAD HYNOD.
DIGWYDDIAD HYNOD. Y noson o'r blaen, tra yr oedd cysodwyr y Bombay Gazette yn brysur wrth eu gwaith, syrthiodd neidr wenwynig fawr a chref o'r nenfwd, ymha un y mae ffenestri, ar y llawr. Brysiodd y neidr ar ei hunion at ffenestr oedd yn agored, ac wrth fyned cafodd deimlo pwysau darn o haiarn oedd yn ymyl. Gan fod hyn wedi digwydd mewn ystafell uchel mewn rhan boblog o Bombay, lie nad oes dim gerddi na choed, y mae y cwestiwn yn codi sut y gallasai y neidr hvyddo i fyned i safle mor uchel, uwchben llu o weithwyr. Y farn gyffredin yw ei bod wedi cael ei dwyn i'r dref mewh tas Avair neu goed tan.
. TRYBINI HEN GYMRO.
TRYBINI HEN GYMRO. Ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd Evan 9 Adams, North Pleasantville, N.J., mewn helbul enbydus, am fod yr housekeeper a gawsai o Philadelphia y diwrnod blaen- orol wedi troi i'w labyddio a phriddfeini ac a phobpeth arall allai godi a'i datiu. Hen lysenw ar breswylfod Mr. Adams yw Old Buckwheat Fort," ond nid oedd y Fort yn tycio fawr i'w phresAvylydd, canys gorfodwyd ef i Avadnu o honi am ei hoedl gan y fenyw grybwylledig, yr hon a ganlynodd ar ei ol gan ei bastynu, ei dafod-lachio, a'i dclulio ar ei ben, nes o'r diAvedd y llwyddodd i fyned o'i chrafangau ac o'i chyraedd trwy ddr'ngo i ganghenau coeden fawr mewn cae cyfagos. Tra yr oedd ef yn y ddiangfa hono yn oeri o'i chwys ac yn ceisio sycliu ymaith ei waed a llawes ei grys, dychwel- odd ei erlides i'w dy a thorodd yn yfiloi-i bob ffenestr, dodrefnyn, a llestr oedd ynddo, gan achosi colled dirfaAvr iddo.
. MARWOLAETH RHEITHOR 0 FON.
MARWOLAETH RHEITHOR 0 FON. Bu farAV yn dra sydyn, ddydd Mawrth, wythnos i'r diweddaf, y Parch. Thomas Jones Williams, M.A., rheithor Llan- faethlu a Llanfwrog, Mon. Yr oedd yr ymadaAvedig oddeutu 78 mlwydd oed, a dydd Llun yr oedd yn yr ardd yn ei gynefin iechyd. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Jones, Pant Lodge, Llanfair P.G., a derbyniodd ei addysg yn Ngholeg Rhyd- ychain, lie y graddiodd yn y flwyddyn 1835. Gwnaed ef yn ddiacon yn 1837, a phenodwyd ef yn gurad Llanfihangel-y- Pennant. Yn y flwyddyn ddilynol, urddwyd ef yn offeiriad gan Esgob Ban- gor, a phenodAvyd ef yn 1839 yn gurad Penmynydd. Gwnaed ef yn rheithor Llanfair P.G., a chafodd ddvrchafiad i Lanfaethlu a Llanfwrog yn 18GG. Gwerth cyflaAvn y fyAvoliaeth ydyw t638 yn y flwyddyn, ynghyd a thv a 27 erw o dir. Y mae penodiad olynydd iddo yn llaAV Esgob Bangor.
GOLYGFA GYFFROUS MEWN PRIODAS.
GOLYGFA GYFFROUS MEWN PRIODAS. Cymerodd golygfa gynhyrfus le mewn priodas yn Berlin wythnos yn ol. Y priodfab oedd Mr. Probst, marsiandwr ieuanc poblogaidd, a'r briodasferch oedd Miss Frohmann. Tra yr oedd y priodfab ar roddi y fodrwy ar fys y briodasferch, er syndod i bawb, rhuthrodd menyw o'r enw Hermann i fewn, gan ymosod ar Miss Frohmann yn ddidrugaredd. Cipiodd y blodeughvm prydferth oedd ar ei phen, ATna cydiodd yn ei gwddf, a bu bron a'i llindagu cyn i'r llygad-dystion synedig ad-feddianu digon o bresenoldeb meddAvl i wahanu y ddwy fenyw. Ymddengys fod Probst wedi bod yn aros yn nliv Miss Hermann, a'i fod wedi dyfod yn wrth- ddrych ei serch. Pan ddeallodd Miss Hermann fod ei lletywr wedi syrthio mewn cariad a Miss Frohmann, rhoddodd ei synwyrau ffordd, a'r canlyniad i hyny oedd yr ymosodiad yn y briodas. Y mae yn awr yn hollol wallgof.
LLONG ENWOG YN NGHAERDYDD.
LLONG ENWOG YN NGHAERDYDD. Rhyfedd fel y daw pethau i'r goleu am: bell waith Gwyr pob un sydd wedi bod ar heol Penarth fod yno hen long o'r enw Havannah," yr hon a draAvsffurfhvyd yn ysgol i blant drygionus er's llawer o flyn- yddau. Gorwedda ar ganol cae cloron. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf oddiwrth y Cadben F. M. Norman, cyn-faer Berwick, un o hen swyddogion yr "Havannah," dyAvedir mai hon oedd un o longau rhyfel Prydain Fawr a liebryngasant Napoleon Bonaparte i'w alltudiaeth ar Ynys St. Helena. Yr oedd ar ei bwrdd 32 o ynau. Adeiladwyd hi yn 1811, ar draul boneddigesau Ler- pwl, y rhai a'i rhoisant hi yn anrheg i'r Llywodraeth fel cydnabyddiaeth am y buddianau a'r amddiffyniad a roddAvyd i fasnacli foraAvl LerpAvl yn ystod y rliyfel- oedd Ffrengig. Yr oedd y Cadben Nor- man wedi mordwyo o amgylch y byd yn yr ysgol-long- sydd yn awr yn nghanof y "cae tatws" yn Nghaerdydd, ac yr oedd wedi gweled pethau rhyfedd a golyg-feydd dyddorol ynddi, llawer o leoedd, a llawer o bobl, yn y dyddiau hyny pan nad oedd ager i'w cynorthwyo i fyned drwy y gwa- hanol anhawsderau a gyfarfyddir ar y weilgi dwfn a chythryblus. Yr Havan- nah oedd un o'r ychydig longau hyny sydd erioed wedi hwylio yn ddiogel drwy Gulfor peryglus Magellan ar y fordaith yn ol o New Zealand. Tua'r flAvyddyn 185G, condemniwyd hi ac ymhen ych- ydig flynyddau ar ol hyny, gwerthwyd neu anrhegwyd hi i Bwyllgor Ysgol Plant Drygionus Caerdydd.
EGLWYS Y CYMRY.
EGLWYS Y CYMRY. EI HYNAFIAETH A'I DYLANWAD. Llythyr 1L Mae camsyniadau erchyll yn bodoli, yn gyffredin, drwy Brydain Fawr, gyda golwg ar yr amser pan ddaeth trawsfedd- iant Pabaidd, yn gystal a llygredigaethau Pabaidd, i'r Ynysoedd Prydeinig. Am ganrifoedd ar ol i Griscionogaeth gael ei chydnabod a'i derbyn gari ein hynafiaid a'n cyn-dadau, ni wyddent yn nesaf dim am Esgob Rhufain, oddieithr fel Prelad, ac fel Prelad Estronol, yr hwn ni feddai ddim gallu, neu o leiaf ddim llvAvodraeth gyfreithlawn, tuhwnt i derfynau ei esgob- aeth ei hun. Mor bell i laAvr a'r flwyddyn 620, cawn RUFAIN A'¡ CHANLYNWYR yn cael llefaru am danynt yn y dull dir- mygus hwn, yn mhrydyddiaeth y Bardd Cymreig Taliesin :— Gwae'r offeiriaid byd, Nys anghreifftia gwyd, Ac ny phregetha Gwae ni cheidw ei gail, Ac ef yn fugail, Ac nys areilia Gwae ni-cheidw ei ddefaid Rhag bleiddiau Rhufeiniaid A'u ffon gnwppa." Felly yr ydym yn cael i'r Efengyl gael ei thaenua'i phregethu mewnamsertra boreu yn Mlirydain. Ond gan bwy y planwyd hi gyntaf yn mhlith y Prydeiniaid nid yw mor hysbys ac eglur ag y dymunem ei gael. Yn ddiau, y mae llawer iawn o dywyllwch yn perthyn i HANES YR EGLWYS BRYDEINIG yn y cyfnod boreu yma o'i hanes. Ychydig yw y defnyddiau sydd genym i chAvilio am dani.. Ond pa mor dywyll bynag yw y cyfnod, y mae genym beth goleuni i'n harwain ymlaen. GAvyddom nad oedd yr Egtwys yn yr amser hwn ddim wedi ei llygru gan athrawiaethau a zn chyfeiliornadau Eglwys Rhufain, canys yr oedd Rhufain yn y cyfnod boreu hwn yn bur ac yn Ysgrythyrol. Yr oedd ganddi, sef yr Eglwys Brydeinig, y gwir Urddau Apostolaidd, ac yr oedd mewn pob modd yn Eglwys Apostolaidd a Cliatliolig-yr oedd ganddi ei Liturgi Ysgrythyrol, ei Hesgobion, ei Hoffeiriaid, a'i Diconiaid. Yr oedd, mewn gair, yn gangen bur o'r Eglwys fawr Gatholig. Yr oedd wedi bod yn gwneyd daioni dirfawr ymhlith y Brythoniaid yn Mhrydain FaAvr am ganrifoedd o flynyddoedd cyn amser Dewi Sant, yr hwn wedi hyny a fu yn Archesgob ar yr Eglwys Gymreig, ac a hunodd gyda'i dadau yn y flAvyddyn GOl, yn ol yr hyn a ddyAved yr Annales Menevenses." Ond PWY A DAENODD YR EFENGYL YN EIN PLITH GYNTAF ? Pwy a'i sefydlodd yn ol y cynllun Apostolaidd ? Mae peth amheuaeth gan haneswyr Eglwysig ynghylch y peth hwii. Ond nid yn unig gyda golwg ar yr Eglwys Brydeinig a'i phlaniad cyntaf yn yr Ynys y mae amheuaeth, eithr y mae amheuaeth hefyd gyda gol wg ar blaniad Cristionogaeth yn Rhufain ei hun. Haera llaAver. o haneswyr na fu yr Apostol Pedr yno o gwbl yn sefydlu yr Eglwys Latinaidd. Ond eto y mae yn fwy na thebyg ei fod wedi bod yno, yn planu yr Eglwys ar sail apostolaidd. GAvyddom i'r Efengyl gael ei sefydlu yn Rhufain hefyd er yn foreu iawn, er nas gwyddom i sicrAvydd cyflaAvn fod St. Pedr wedi ei phlanu yno ar y dechreu. Ac yr oedd Rhufain, pan v planwyd yr Eghvys gyntaf yno, ac am rai canrifoedd wedi hyny, yn bur yn ei hathrawiaeth, ei disgyblaeth, a'i dysgeidiaeth, ac ni honai draAvs-aAvdurdod ar eghvysi talaeth- ol esgobol eraill, y rhai a ddalient athraw- iaeth bur yr Efengyl yn ogystal a hithau. Chwaer Eglwysig oedd hi yn yr amser boreu yma ymhlith, ac o'r un safle a'i chwiorydd eraill. Yn y cyfnod boreuol hwn yr oedd yn un ag Eghvys FaAvr y Dwyrain, yn gystal ag Eghvys" y Cymry. Cydnabyddai Un Arghvydd, un ffydd, un bedydd." Ond pa beth yw'r tybiaeth- au am blaniad a dechreuad Cristionog- aeth yn yr Ynys hon ? Gwyddom i'r Efengyl ddyfod atom i Brydain yn fuan ar ol, os nid yn riyddiau yr Apostolion eu hunain. Pan ddarfu Derwyddiaeth yn yr Ynys yma, daeth CRISTIONOGAETH BUR AC APOSTOLAIDD yn ei lie—ond gan bwy y pregethAvyd yr Efengyl yma gyntaf nis gwycldom i sicr- rAvydd. Y mae y peth i raddau yn dy- Avyllv/ch i ni yn aAvr. Eto y mae genym lawer o ddywediadau am hyn. Mae rhai haneswyr yn dweyd mai Joseph o Arimathea a bregethocld yma gyntaf, yr hwn a ofynodd i Pilat am gorff yr lesu. Dywed eraill mai Lucius, Brenin y Brytaniaid. a fu yn offerynol i ddAvyn yr Efengyl yma, drwy anfon, meddynt, i Rufain am bregethwyr abl a galluog i gynorthwyo yn erbyn cyfeiiioriiadau Pelagius, neu Morgan, yr IIAVII a AMIAETH ddinystr nid bychan drwy ei gau- athraAviaethau yn Ealwys y Cymry. Daeth Lupus a Gannon yma, a bu eu gweinidogaeth yn llwyddianus dros ben. Anfonodd yr Eglwys Brydeinig am gyn- orthwy i Gal, neu Ffrainc, yn erbyn yr hereticiaid hyn. Danfonodd y Gymanfa yn Troyes St. Garmon, Esgob Auxerre, a Lupus, Esgob Troyes, i dalu ymweliad a Phrydain a'i Heglwys yn y cyfyngder ag oedd arni. Darfu i'r Eghvys Brydeinig, gyda chynorthwy Lupus a Garmon, yn fuan ddiffoddi YR ATHRAWIAETHAU MORGANAIDD, a sefydlu Cristionogaeth IIIAVV pnr yn eu lie, ac felly diflanodd Morganiaeth. Darfu i oleuni y gair iewyrchu yma (yn Mhrydain) medd Fuller, yr hanes- ydd Eglwysig, "ond pAvy gyneuoddytan nis gwyddom." Yn yr amser yma yr ad- eiladwyd eghvys St. Mair, Glastonbury. Dywed haneswyr eraill i'r Apostol Phylip bregethu yr Efengyl i'r Galiaid, ac yn ol pob tebygolrwydd iddo ddyfod drosodd i Brydain Fawr, a phlanu yr Efengyl yno, ond y mae y pethau hyn yn gorAvedd mewn bro tra thywyll i ni yn yr oes hon. Os na wyddom i sicrAvydd pwy a hauodd Gristionogaeth gyntaf yn Mhrydain, nid yw o gymaint pwys i ni, canys gAvyddom fod gwirioneddau Y FFYDD GATHOLIG GENYM YN EI PHUR- DEB CYXTEFIG. Y mae genym y tair gradd yn y wein- idogaeth, sef Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid, ac y maent wedi bod felly, yn I i Eghvys y Cymry er ei sefydliad a'i de- chreuad cyntaf. Da genym weled ar- wyddion ymhlith y Cymry eu bod eto yn troi eu wynebau tua'r hen gorlan Apostol- aidd. Gwir yw y maent wedi cael eu denu a'u llithio, lawer o honynt, i gredu pob math o gyfeiliornadau, ond y mae dy- lanwad a gAveithgarAveii yr Eghvys i'w weled eto arnynt, ac y maent yn dyfod yn ol yn Iluoedd i'r hen gorlan. Yn wir, y mae prophAvydoliaeth y diAveddar iJarch- edig Daniel Rowlands, Llangeitlio, yn cael ei chyflaAvni yn barhaus y blynyddoedd yma "DAW Y GWENYN YN OL ETO I'R HEX GWCH." Deled yr amser dedwydd hwn. ar fyr- der Bydded i Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid yr Eglwys, yn gystal a'i piiobl a'i haelodau hi, fod yn ffyddlaAvn, diwyd, a gweithgar drosti yn barhaus. liynodir Cristionogaeth oelcliwrth synedigaetliau athroniaeth drwy ei bod, mewn modd pAvysleisiol, yn f/yfuudrrf/i ymarfcrol. Nid yw yn ymwneyd a myfyr-ddysg (theory) ond a ovAvyd. Hawlia oddiwrth ei disgyblion, nid yn unig opiniynau iawn a chymeriad siuictaidd, ond cydymdeim- ladau cymdeitliasgar hefyd: Hawlia oddiwrtliynt, nid yn unig i "tIdal y Pen," yr hwn yw Crist, ond dal y Pen mown cysylltiad a cliysoiideb a'r holl godr, yr hwn a lvAvodraethir gan y Pen, yr hwn yw EGLWYS CRIST. Yr ydyeh yn dynmno, syr," meddai William Law wrth John Wesley, "Avas- anaethu Duw, a myned i'r nefoedd. Cof- iwch nas gallwch ei wasanaetliu ar eich pen eich han. Rhaid i chwi, gan hyny, gael cwmpeini, neu eu gAvneyd liAvynt" Ni wyr y Beibl ddim yn y byd am gref- ydd ar ei phen ei hun. Felly yr ydym yn gweled fod yn rhaid i nj, er mwyn cael gwir grefydd, ddal at y gAvirioneddau sanctaidd mewn cymdeithas fel yr Eg- lwys. Rhaid peidio rliwygo neu ddarnio yr Eglwys. Rhaid dal at y gAvirionedd pur yn yr Eglwys. Rhaid i ni gydna- bod ei hawdurdod Dwyfol fel Eglwys Crist. D. LL. JAMES, D.D. Periglordy Pont Robert.
..—• Y LLOFRUDDIAETH YN MERTHYR.
—• Y LLOFRUDDIAETH YN MERTHYR. Gerbron ynadon Merthyr, ddydd Sadwrn diweddaf, trosglwyddwyd David Harris, 20 mlwydd oed, John-street, Georgetown, i garchar Abertawe i sefyll ei brawf yn y fravvdlys nesaf, am lofruddio un David John, yn Merthyr, ar y laf o Ebrill.