Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. GLYN MYFYR.—Yr oedd eich llythyr dro3 bwysau. Gorfu i ni dalu ceiniog am dano. Danfonwcli lythyrnod i ni am eich esgeulus- dod. Bydd i ni o hyn allan wrthod pob llythyr na byddo wedi ei starnpio yn briodol.
DOSBABTH I.
DOSBABTH I. Y GWANWYN." RHAN 0 AWDL AR Y TESTYN UCHOD. 0 wanwyn serch, anian sydd,—yn gwenu Ar geinion ei hirddydd Ac mae'r gwyn flodeuyn dydd Yn ymagor,—edmygydd. O'r mwswgl ar y meusydd-gwthia,'i ben Yn gaeth bach ymwelydd Nos a deifl len tros y dydd, Aidd ei yrfa a ddeifydd. Dranoeth y gwyn flodeuyn derch Gwyd ei ben, a gwed ei barch, Fi bia swyn, wyf fab serch, A'm tyner nwyd yn mwyd march." Yn wybren dyner Ebrill Ymddeffry, megy y mill; O'i iach awyr a'i chwaon Ar len werdd ceir darlun IOn Wele dyner flodionos A daena wrid yn y rhos, A'u henwau dd'wed yn hynod A sain bach, Ein Duw sy'n bod." Wedi gwanwyn teg geinwych,—a'i law fawr 7 Ail fwrw cedych 0 emau gras, am y gwrych Anliydrin fu yn edrych. Y mae anian yn mynych Weled ei rhwysg yn nghil drych; A gwenau aur y gwanwyn, A'i ddifyr sawyr sydd swyn; Y blodau wynebledant, Yna yn ol huno wnant Am enyd, ac O mae anian Y nos am y glwys emau glan Hwythau'n fotymau teg Ail-gyfodant harddlu gwiwdeg; Ac o'i harlwy ceir cwrlid Rosynau mertli, prydferth, prid Hwy a chwarddant, tyfant hwy Mal Eden ganmoladwy Ac yn y tir gwenau teg Edy y geinwych adeg. Fe rodiaf, gwelaf aredig—y tir Gan y teg weis diddig I roi yr had, arwr hedd Yn ei lmnedd yn unig. Yr anifail dry'n ufudd Ei rwn a'i bau er ein budd Gesyd y trymion gwysau y I Yn rhesi hdd i aros hau, Llafurio a'i holl fwriad Yn ei rym wna ini'n rhad. O Wanwyn brwd, anian a'i bron,iachus Sy'n feichiog o roddion Ninau'n Uu ganwn yn lion Yn ei doeth heirdd fendithion. Yn y gwanwyn egina—y gwenith, 11 A'i bariolith a berlia Hysbys y dengys Dduw da, Ac o'i nodded cynydda. 'E ddaw y mwynaidd ymenyn,—yn fwy Gan y fuweb. ac enllyn Swn dy haeledd sy'n dilyn Gan seinio pob bro a bryn. Y mae'r adeg mor liudol,—pwy a wad ? Fod modd peidio canmol; Am y llwyni meillionol, A heulwen Duw ar len do1. Deg wanwyn mwyn yw i mi Wan silyn arnat sylwi Er gweled yr argoeliou 0 dalaeth ddail bodolaeth Ion 'E daena gwedd blod'yn gwyn Wers o drwsiad y rhcsyn. 0 wanwyn siriol, dy foreu denol I mi sy'n hudol maes yn ehedeg Ca.'r adar egwyl o fewn dy breswyl I rodio anwyl fro y btrdoneg. Yn y gwanwyn mwyn yw myned I rodio llawr, ar hyd a lied Y dolydd, lie mae diliau Gan natur yn eglur wau. Y blod'yn gwyn a gana,—eos 0 newydd fe wrida I Mor ddedwydd yw hirddydd ha' A'i aur swiii,-aros yma. Cael myned er gweled gwerth Ei bur rodfa sydd brydferth Aros i ymgynghori A mwynaf wen yma wnaf fi Iddynt oil 'rwy'n ymgolli Milloedd serch a'm lluddias i. Yn f' awydd af yn fuan,—i lonwych Ail-wanwyn gwlad Canaan; Ac enwog lu y gynau glân, Maent addas gwmni diddan. Dyma wanwyn dymunol,—tlws hana O'r tlysineb Dwyfol; Pawb oil ymrodda'n hollol Ei hun a ga' yn ei gol. Heb boen amser, na gweryd, Na gwen y fall,—gwyn ei fyd. z, 11 B. Ffestiniog. GLYN MYFYR.
AFONYDD CYMRU.
AFONYDD CYMRU. Fam Cymru," nid sti, ond sôn-a fynwn Am d' Afonydd gloewon, O'r Fenai lawr finia Fon, I'r Deau'n Aber Dawon. Am rawd hir, Cymru dirion,—ni dcleil Lyfu ddilyn'r Amason, Eto mwynach Neint meinion, Bod Brithyll, Distyli per don. LLEOLIAD. Rhai'n nhud Gwyndud ai gwendon,—eraill Yn nliiredd Dyfedon, Rliai'n wyllt wallgof,"—rhai'n ddofion, I Ant ail mel i'r dawel don. Amrywiol neillduolion—gyfeiriant, Drwy'n Goferau breision Yn llifeiriawl all forion, 0 Went y medd," hyd bwynt MSn.. VR [ r AFOXYDD. I Hen Gymru bu ro'i bôn-i Hafren Hyfryd, beisfor N eifion,- Gwy, ac Wysg, ail rhwysgli Rh6n, Ddyrwygant ddorau eigion. Towy, a'i milod tewion,—a Gwendraeth Freg, Ewyndroch Aeron.— Hodni, Ffraw, Llyfni, a Lion, Ymfrigant am ferw eigion. Gwili, a Chothi, Cuch, Aithon, a Thaf, A Theifi, a Chleifon, Y Fyrnwy, Co'nwy, Cynon, Elwy, Clwyd, Dyfrdwy, i'r don. Mawddach, a Chlarack, Twrch Ion, Lliw iachus LI wellwr, Elai, Llifon, Cledd, Cowyn dirf, Nedd, Irfon, Am Brahit, a Saint, da yw son. GWASANAETH. Er monwes iach, i'r minsychion,—geisiont Rad gusan, riiy' 'r afon I Yn ddiddig eu llawn ddigon, 0 gufwyn aur wingafu, Ion. Iach yw hoff win Merch y Ffynon,—Dedwydd Sugno diden Llion,- Blith bras yw byw laetli ei bron— Bri yfwr yw bro afon. Yng nghafnau'r dafnau dyfnion,—y Gem bysg c;1 Ymbesgant ar euddon,— A'r un reddf a'i deddf, ry'r don I'r Eawg a'i gyfrywion. IIEFYD. Am] weini chwim olwynion-er dulio 'R delid yn Ger Hwsmon,— Neu, droi myg werydre Mon, Yn ddirfawr ardd i Arfon. AB LLIFOX.
CYMDEITHAS Y PRIMROSE LEAGUE.
CYMDEITHAS Y PRIMROSE LEAGUE. Alaw Gogerddan." 11 Cymdeithas hardd y Primrose League, Nodededig ydyw hon Ffynonell bur o gariad drig, Yn ddiddig tan ei bron, Mae am amddiffyn hyd y bedd, Hen grefydd Gwalia Wen, A chadw Buddug Prydain Fawr, A choron ar ei phen. Er cof am Beaconsfield, ei thad Aeth fry i wlad y wledd Ag heirddion flodau heddyw'r plant Addnrnant lwch ei fedd A ninan heno y fan hon Yn lion ddyrchafwn lef; 0 I boed i'r Undeb byth barhau, Dan amddiffyniad nef. Os ydyw'r Gwyddel gwyllt ei nwyd, Mewn awydd dryllio hwn Yr Undeb amddifCynwn ni, 0 liyd a'i gadw'n grwn Ond wyled Gwalia wrth weled rhai O'r plant fu'n anwyl gynt Yn chwalu'n chwilfriw seiliau ffydd A chrefydd gyda'r gwynt. Peth chwith yw gweled Cymry'n wir Fu'n hir yn caru Duw, Yn filwyr tan y faner ddu'n Cynliyrfu dynolryw Yn mathru'r Gyfrol Sanctaidd dan Eu ha-logedig draed Gan uno gyda bradwyr gwyllt, Sy'n caru tywallt gwaed. Er gwaethaf Hid a malais Hawn Elyaion o bob rhyw Parhau i'r Primrose League a wnawn Yn fiyddlon tra bo'm byw Oaiff Beibl Duw mewn Undeb fod A choron Prydain Fawr Hyd nes teyrnasa cariad Crist Mewn heddwch dros y llawr. Llangwnadle. Ap MORUS.
DOSBABTH II.
DOSBABTH II. WRTH GLYWED YR AD AU YN CANU. Melys lais 'r ami eoslti-mor odiaeth Mae'r adar yn canu Doniog lais 'r adeiniawg lu A luniwyd i folianu, ALLTUD EIFION.
DISGRIFIAD O'R DIAFOL.
DISGRIFIAD O'R DIAFOL. Llew ydyw o allu hudol—gelyn, Gwylia rhagddo'n hollol; Ni bu les rhoi i'r bobol Wrandawiad—cryn y dnwiol. Satan, fel cynt, sy' oto-ai 'strywiau DiStrywiol am hudo, Yn ddiball bawb a alto Er eu dal i'w rwydau o. ALLTUD EIFION.
Eglwys a Gwladwriaeth.
Eglwys a Gwladwriaeth. EU CYSYLLTIAD YN OL HEN DDEDDF- AU'R WLAD. LLYTHYR III. Nis gall neb a ddarlleno yr hen ddeddfau hyn lai na chydaabod fod dylanwad_yr Eglwys yn fawr ymhob rliyw lodd yn ei ffurfiad. Drwy gydol y deddfau, tynir ein sylw at y ffaitli ddy- ddorol tod dull y wlad 0 GYFRIF DYDDIAU A THYMOHAU wedi ei fenthyca oddiar yr Eglwys. Gwelir yn amIwg mat yn ol Gwyliau yr Eglwys y byddid, arferol o gyfrif dyddiau a thymorau yn Llysoedd Barn y wlad. Nodwn engreifftiau i brofi hyn. Mewn deddf a basiwyd yn O.C. 1266, set' yr unfed flwyddyn ar ddeg a deugain o deyrnasiad Harri y Trydydd, o berthynas i ddyddiau arferol gwrandawiad achosion cysylltiedig ag EIDDO, dywedir Os y daw gwrit i mewn yn wyth- nos Gwyl Fihangel, rhodder diwrnodar ei cliyfer yn wythnos S. Hilary: ac os y daw o fewn pythefnos i Wyl Fihangel, yna rhodder dydd o fewn pythefuos i S. Hilary. Os y daw yn ystod tair wythnos ar ol Gwyl Fihangel, y dydd fydd tranoeth y Puredigaeth." Gwneir darpariadau cyffelyb mewn pertliynas i wyliau eraill, megis S. Martin, y Dyrchafael, y Pasc, a Gwyl y Drindod# Dengys hyn fod dylanwad yr Eglwys yn cael ei deimlo yn y Senedd fel ymhob man arall drvvy y wlad. Ei threfniadau a'i thymorau hi oedd y f-tnedd a'r wlad yn eu inabwysiadu, a delw ei thymorau hi a welir ar dymorau y Llys- oedd Barn hyd heddyw i raddau pell iawn. Yr ail ystatyd o'r senedd-dymor yna ydoedd yr uchod. Eto, yn y ddeddl nesaf ati coir trefn- iadau o'r un natur mewn cysylltiad a Gwrit yn ACHOSION CYNYSGAETH. Hefyd, yn y burned ddeddf gwneir cylrif cyitelyb o berthynas i'r adegau a'r prydiau y gofynid i amrywiol sivycld- ogion y brenin waeydi lyny eu cyfrilon. Dengys y 11 hyn oil mai trefn yr Eglwys oedd y cynlluu wrth ba lU1 y fiurfid trefn y Wladwriaeth. Cyn- lluu yr Eglwys yn gyntaf, acliynllun y Wladwr- iaeth wedi ei sylfaenu arno. Yr Eglwys a'r YYÜdwriaeth" ydoedd yr arwyddair gynt yn gyson, ac nid y Wladwriaeth a'r Eglwys." Yr Eglwys oedd ar y blacn ymhob peth, a'i huchel- swyddwyr hi opddynt yu dysgu uchel-swyddwyr y "Wiadwriaetii pa fodd i drefnu eu materion y I gwladol. Fel yna, hyln i'u yn sefydlu y Llyw- odraeth, ac nid y Llywodraeth yn ei sefydlu hi. Ac y mae hi hyd iieddyw yn sefydledig, nid gan ddeddf na, thrwy ddeddf, eithr yn imol ffr deddiau oil. Yn yr un modd hefyd y byddid arferol o gyfrif AMSER TAL) G W N E TJ TH U RIA D Y DEDDFAU ac eisteddiad y Senedd. Bydd engraifft neu ddwy yn ddigon i ddangos hyn eto. Mewn per thynas i'r deddfau a basiwyd yn Merton yn O.C. 12:35, fe Darparwyd yn Llys ein Harglwydd y Brenin, a gynhaliwyd yn Merton dranoeth ar ol Gwyl S. Vincent, yr ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Harri, mab y Brenin loan, gerbron Archesgob Caer- gaint a'r Eagobion Cynorthwyol l episcopis mffragancis), a cher bron y rhan l'wyaf o leirll a Barwniaid Lloegr oeddynt yno yrn ymgynull- edig ar Goroniad y dywededig Frenin ac Alianor y Frenhines (ynghylch yr hyn y galw- asid hwy), lie yr ymdrafodwyd parth lies cyffredin y deyrnas ar yr erthyglau ysgrifenedig isod felly y darparwyd ac y caniatawyd yn gystal gan y rhag-ddywedig Arcliesgobion. Esgobion, leirll, Barwniaid, a chan y Brenin ei hun ac eraill. Cymreigiad llythyrenol o rag- draith y deddfau ydyw hwnyna. Mae yn ofynol cofio mai nid tyb hwn neu y Hall, nac ychwaith farn un dyn pwy bynag ydyw y pethau hyn. Cofnodiad, air yn air, ydyw ag sydd eto ar gael o'r byna wnaed ar y pryd. Ie, geiriau swydd- ogol ac awdurdodedig y deddfau ydynt; ac. felly, wrth ymdrin a hwy yr ydys yn ymwneyd il freithiau celyd, ac nid a mympwyon dych- ymygol. Yn y deddfau hyn gallwn weled drosom ein hunain beth a wnai yr hen bob], ac ni raid i ni ddim dibynu ar farn neb. Ni ddy- lem anghofio chwaith nad oedd y Senedd yn yr hen gyfnod yn yr hen gyfnod yna ddim yn ym- gynull bob amser yn yr un fan megis y gwna yn ein dyddiau ni. Yn hytrach, symudol ydoedd, yn cael ei galw ryw bryct ac yn rhywle, fel y byddai yn fwyaf manteisiol a chyfleus o dan am- gylchiadau y wlad ar y pryd. A chadw hyn mewn cof, beth a ddysgir i ni yn y rhagdraith uchod? Hyn yn ddiau, bod yr Archesgob y pryd hyny yn cael ei alw i GORONI Y BRENIN yr un modd ag y gwna yn y dyddiau presenol. Y pryd hyny derbyniai y teyrn ei goron o law gweinidog Duw, er mwyn dangos ei fod yn cyd- nabad bod yr Arglwydd yn llywodraethu yn mrenhiniaeth dynion, ac y dylai ef ymdrechu rheoli y doiliaid yn unol ag ewyllys Duw. Dyna y drefn dros chwe' chant a haner o flynyddoedd yn ol. Ac, yn mhellach, gwelir fod adeg eis- teddiad y Senedd yn cael ei ddynodi yn ol tymor Eglwysig, sef dranoeth ar ol Gwyl S. Vincent," a bod Archesgob Caergaint yn cael ei osod ar ben rhestr y seneddwyr. Darllenwn gyfeiriadau o'r un natur yn rhag- draith deddfau eraill o eiddo yr un brenin. Dyma un Yn y flwyddyn o Ras un mil dau gant chwe' deg a saith, y ddeuddegfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Brenin Harri, mab y Brenin loan, yn wythnos S. Martin, &c. Eto, ychydig ilynyddoedc1 ar ol hyn, fe ddywedir,-— Dyma ddeddfau y Brenin Iorwerth, awnaeth- pwyd yn Westminster yn ei Senedd gyntaf ar ol ei goroniad, ar ddydd Llun, wythnos ar ol y Pasg, yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, gan ei Gyngor ac efo cydsyniad yr. Arcliesgobion, Abbadau, Priorwyr, leirll, Barwniaid, a holl Gyffredia y Deyrnas, a wysiasid yno, oherwydd bod gan ein Harglwydd y Brenin fawr zel a dy- muniad i ddiwygio cyflwr y deyrnas yn y pethau lIe yr oedd eisinu gwelliant er lies cyffredin yr Eglwys Lân a'r Deyrnas," &c. Yr ydys yn tybied fod hyn yna yn ddigon o engreifftiau er dangos mor fawr y rhaid fod dylanwad yr Eg- Iwys ar Senedd ein gwlad yn y cyfnod dan sylw, gan ei fod yn cyraedd hyd yn nod at y cofnodiad o'r amserau a'r prydiau y byddid yn arfer ym- gynull er deddfu. Yn ychwanegol at gyfeiriad a wuaethpwyd eisoes, yr ydys am alw sylwpellach at y ffaith NAD ANGHOFID BYTH MO'R EGLWYS yn ncddfwriaeth y canol-oesau. Mewn gair, y mae yr egwyddor o gysylltiad rhwng Eglwys a G wladwriaeth yn weladwy fel gwe euraidd yn gyfrodeddedig trwy y cyfanwaith. Ni ddeddfid I byth o'r bron heb grybwyll yr Eglw^ Y mae rhagdraith pob deddf o'r bron yn brawf eglur o hyn ac y mae y geiriad yn dangos y rhaid y byddai yr hen Seneddwyr ynystyried yr angen- rheidrwydd o seilio eu holl waith ar egwyddor- ion y grefydd Gristionogol; ac, ond iddynt wneyd hyny, y byddai ffrwyth eu hymdrech yn ei ganlyniadau u er gogoniant i Dduw, a ties i'r Eglwys." Y mae yr engreiiltiau o'r natur yma yn afriled braidd. Digon fydd cyfeirio at rai o honynt. Yn rhagdraith y 28 Ed. 3, yn o.c. 1354, dywedir i'r Senedd ddeddfu" eranrhyd- edd Duw a'i Sanctaidd Eglwys, ac er lies cyff- redin y bobl." Am betliau bydol y mac pymtheg adran y ddeddf yna yn ymdrin oddi- gerth y gyntaf, yn yr hon y cadarnheir y Freiulen Fawr. Amlwg yw, ynte, nad oedd yr un ddeddf yn cael ei phasio heb i'r Seneddwyr hyn fod o'r farn nad oedd. ynddi ddim yn groes i wir les yr Eglwys, a'u bod hwy yn cydnabod yn hyn na ddylai yr un ddeddf gael ei phasio os na byddai'n gydfynedol fi dysgeidiaeth yr Eglwys Gristionogol. Ithaid eu bod yn golygu bod hyd yn nod deddfau gwladolda yn sier o fod er lies i'r Eglwys yn y pen draw a'u bod yn credu mai yr hyn a fyddai yn llesol i'r Eg- lwys fyddai yn llesol i'r WIadwriaeth hefyd. Ac i'r gwrthwyneh, diau y dalient mae yr hyn a ddrygai yr Eglwys a ddrygai y Wladwriaeth ar yr un pryd, oherwydd bod cyfiawnder, frrwyth crefydd, yn dyrchafn cenedl, ac anghyf- iawnder, prawf o absenoldeb dylanwad crefydd, yn sicr o'i darostwng. Nid oes odid ddeddf yn yr hen amserau na cheir yn ei rhagdraith gyfeiriad at yr Eglwys. Ond trown at 31 Ed. 8, st. 1., a basiwyd yn o.c. 1357, fe'n dysgir mai er anrhydedd Duw a'i Eglwys Sanctaidd y caniateir gan ein Harglwydd y Brenin, yr Esgobion, leirll, Barwniaid. a holl Gyffredin Teyrnas Lloegr," yr hynjoll a gynwysir yn y ddeddf, Ac eto, cymysg odiaeth yw ei chynwysiad. Y mae'n trafod prisiau, pwysau, a marchnad gwlan, eiddo bradwyr, profi ewyllysiau gan swydd- ogion yr Esgob, &c. Pethau tymhorol yr ym- drinir a hwy gan mwyal yn y ddeddf hon ond er hyny ystyrid y cyfanwaith fel yn hyrwyddo llesiant crelyddol a thymhorol y deiliaid. Ym- ddengys y byddid yn cadw y ddau beth yma mewn golwg bob amser pan yn HJurfio yr hen gyfreithiau. Y mae'r 88 Ed. 3, st. 2, yr hon a basiwyd yn O.C. 1363, yn !fwy pendant fytli ar y pwnc yma. Yn rhagymadrodd y ddeddf hon hysbysir i ni mai nod ac amcan arbenig y weitlired ydoedd hyn:—"Er mwyn meithrm cariad. a thangnef- edd, a chydgordiad rhwng yr Eglwys Sanctaidd a'r WladwriaethDyna i chwi ddatganiad difloesgni o ddibeu clodwiw Seneddwyr ein gwlad dros bum' can' mlynedd yn oJ. Y pryd yna yr cedd ymyriadau treisiol Rhufaiu yn peri, yn ol geiriad y ddeddf hon, bod hen gyf- reithiaugda, arferion a rhyddfreintiau y deyrnas wedi ac yn cael eu dirfawr luddias, eu hanafu a'u drygu Coron ein Harglwydd Frenin yn cael ei darostwng, a'i Berson yn cael ei fawr a'i dwyllodrus sarhau," ynghyd ag amryw ddrygau eraill. Yn y geiriau yna gwelir yr un gwyn yn union ag a geir gan Harri yr Wythfed dros wyth ugain ndynedd yn ddiweddarach. Ym- yriadau tramor oeddynt yn difreinio'r Brenin a'i ddeiliaid o'u liawlfreintiau cyfiawn a chyf- reithlon ac er mwyn dwyn yr Eglwys a'r Wladwriaeth i gydgordiad priodol a'u gilydd, yr oedd yn anhebgorol angenrlieidiol gwneyd i Swrdd a'r ymyriadau tramor hyn. LLYW ODRAE T H IAD CART RE F OL, a llwyr ddiddymiad pob ymyriad tramor oedd y feddyginiaetli a gynygid er gwella yr anhwyl- derau lliosog y dioddefid oddiwrthynt. A dyna y moddion y bu'r Senedd yn ei ddarparu y tro yna, fel ar lawer adeg arall. Nodwn yn fyr ryw ychydig yn rhagor o'r deddfau lie y cydnabyddir fod diben y Senedd- wyr wrth ddeddfu yn foesol a chrefyddol, yn gystal ag yn wladol neu dymhorol. Mae eu gwaith yn profi nad oeddynt yn anghofio crefydd wrth ymwneyd a'rbyd. Yn o.c. 1376 yn yn y 50 Ed. 3, ceir fod maddeuant a gollyngant y Jubili wedi ei fwr- iadu er anrhydedd Duw a'r Sanctaidd Eglwys a thawelwch y bobl." Eto, yn ol teyrnasiad Rhisiart yr Ail gwelir mynych grybwylliad o'run peth. Yn rhagdraith y 1 Rich. 2, dywedir mai er anrhydedd i Dduw ac o barch i'r Sanctaidd Eglwys, ac i feithrin heddweh, undeb, a chydgordiad yn holl ranau y deyrnas hon o Loegr," yr ordeinid ei darpariad- au. Yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ceir eu bod yr un modd yn deddfu er anrhydedd Duw a'r Eglwys Sanctaidd, ac er budd cyffredin y Wladwriaeth." Deddfau eraill o'r un natur ydynt y 5 Rich. 2, st. 1 y 7 Rich. 2; a'r 13 Rich. 2, st. 1. Ac nid oes ond ychydig iawn o wahaniaeth i'w gael yn ngeiriad y 6 Rich. 2, st. 6. Dyma'r ymadrodd: E-c mawl ac anrhydedd i'r Hollalluog Dduw a'n mam Sanctaidd yr Eglwys, ac er bndd a lies i deyrnaa Lloegr." Eto yn y 21 Rich. 2, ceir rhyw ychwanegiad bychan arall, mewn ffordd o arall- eiriad, sef,—" Er anrhydedd Duw a'r Sanctaidd Eglwys, ac er cadwraeth, iechydwriaeth, a diogelwch y Deyrnas," Nid anhebyg i'r uchod ydyw geiriad Deddf y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Harri'r Pedwer- ydd —" Er mawl ac anrhydedd i Dduw, ac o barch i'r Eglwys Sanctaidd, ac er meithrin undeb, tangnefedd, a chydgordiad ymhlith holl bleidiau y deyrnas hon o Loegr." Y rheawm paham y sonir yma am bleidiau, ydyw bod Rhyfeloedd y Rhosynau wedi peri mawr flinder, anghydfod chwerw, a rhwygiadau enbydus rhwng pleidwyr yr amrywiol ymgeiswyr a hawl- ient yr Orsedd. Yn awr, oddiwrth y dyfyniadau blaenorol, un ac oil, gwelir mai nodwedd arbenigol yr holl ddeddfau yna ydyw bod yr Eglwys a'r Wlad- wriaeth yn gysylltiedig ynddynt byth ac hefyd. Nid aethai erioed i fecldwI yr hen Soneddwyr gynt y dylesid byth eu gwahanu. Mor ofer ynte ydyw'r breuddwyd mai yn amser Harri yr Wythfed y dechreuodd y cysylltiad l'hwng Eglwys Loegr a'r Wladwriaeth! Pe elid i drafod y pwnc yn hauesyddol, hawdd fyddai dangos na fu yn y wlad hon erioed gyfnod ar nad oedd yr Eglwys yn gysylltiedig a'r Wlad- wriaeth ynd do. Eithr fy amcan yn awr, fodd bynag, yw dangos oddiwrth eiriau pendant ein hen gyfreitliiau, bod y cysylltiad yr un mor gadarn cyn amser Harri yr Wythfed ag y bu erioed ar ol hyny—ac o hyn nid oes ball ar brawfion diamwys a digamsyniol o eglur. (Yw barhau.)
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. \
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. MER-,CTIER Mai 14 MAWRTH Mehefin 3 IAU Gorplienaf 10 LLUN Awst 11 IA U Medi 11 SADWRN Medi ,27 GWENER Hydref 24 SADWRN Tachwedcl 8 GWENER Rhagfyr 19
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.
MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. JAMES—Mawrth y 4ydd, yn Kirkville, Ohio, yn 58 mlwydd oed, Mary, priod William S. James, Ganwyd hi yn Ystradfelle, ac ymfudodd yn 1851. Gadawocld i alaru ar ei hoi briod a deg o blant, JAMES—Chweiror y 13eg, yn 62 mlwydd oed, Mrs. James, gwraig John James, Lockport, Newark, Ohio. Merch yd- oedd yr ymadawedig i James a Mary Watkins, Henllys, Borth, ger Aber- ystwyth. Symudodd hi a'i gwr o Fryn Almaen, Borth, i America tuag un flynedd ar hugain yn ol. Gadawodd wr a thri o blant ac wyr bach i alaru eu colled ar ei hoi. MORGAN—Chwefror y 18fed, yn Bigelow- street, Twenty-third VI ard; Pittsburgh, Mr. J. Morgan, mab i'r diweddar Shon Morgan,, refiner, Tredegar. Gadawodd wraig a thri o fechgyn i alaru ar ei ol, MORRIS--Mawtth yr 2il, yn Kirkland, ger Clinton, New York, Margaret Morris, yn 83 mlwydd oed, Ymfud- odd o Lanbrynmair 43 o flynyddau yn ol, yn wraig weddw gyda dau o blant, y rhai sydd yn fyw. Priododd a un Richard Williams, yn Waterville, ac y mae un mab o'r briodas hon. Priododd drachefn a Mr. Rowland Morris, tad y diwedar David Morris, Waterville. Yr oedd yntau, fel y lleill, wedi ei blaenu er's llawer blwyddyn bellach. REES.—Mawrth yr 8fed, yn Chartiers Township, Steubenville Pike, Pennsyl- vania, Mr. John S. Rees, yn 82 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Mhenrhyn Coch, Sir Aberteifi. Claddodcl ei briod yn Nghymru ddeunaw mlynedd yn ol, a'r flwyddyn ganlynol ymfadodd at ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith yn Chartiers Township. Y mae un mab a dwy ferch iddo yn America, a dau fab yn byw yn Mhontlottyn.
HANES CAPEL SEION.
HANES CAPEL SEION. ANGHYDFFURFIAETH YN MHENTRESPLIT. GAN "ARSYLLYDD." PENOD II. Hyn oedd y dechreuad,! Yr oedd Nebo, yr eglwys ddechreuol, yn gapel o gryn faintioli, a'r gynulleidfa yn un I liosog iawn. Y mae yr aelodau yn medru cyf- eirio gyda boddhad neillduol at res o ddynion mawr ac enwog sydd wedi bod yn gwasanaethu iddynt fel gweinidogion ac os digwydd i un o'r cyfryw ymadawedig godi i sylw neillduol yngolwg y wlad fel dyn llwyddianus a thalentog, y mae rhai dynionach yn N ebo yn hoff iawn o gyfeirio ato yn ei isel radd gyda hwy; am ei feiau bychain, a'i annibyniaeth an- nioddefgar, oblegid ;peth ofnadwy yw annibyn- iaeth meddwl ac ysbryd mewn bugail" i'r bobl hyn. 0 fel y maent yn anesmwytho pan yn clywed am ei lwyddiant, oherwydd yr an- rhydedd y mae y bobl yn bentyru arno tu draw i Glawdd Offa. Un o ddynion mwyaf poblog- aidd tref arall wedi bod yn gweinidogaethu iddynt hwy. Un a geisiasant ei wneyd yn was bach" i'w mympwyon I Y Parch. Ephraim Llwyd oedd eu gweinidog ar yr adeg yr ydym yn bwriadu cyfeirio ato. Tua blwyddyn yn ol, yr oedd wedi derbyn galwad oddiwrth y frawdoliaeth i ddyfod i'w "bugeilio yn yr Arglwydd," ac yr oedd y Parch. Ephraim Llwyd, ar ol gwneyd yr alwad" yn faterl gweddi am ddiwrnodau lawer, wedi ateb yn gadarnhaol. Addawyd iddo, yn ngwres y" cariad cyntaf," wyth punt y mis, a chodiad o ddwy bunt ymhen blwyddyn. Ar yr adeg pan addawyd y gyflog hon, yr oedd yr eglwys yn cael gwaith casglu chwech punt; ond oher- wydd fod rhai o'r diaconiaid wedi syrthio mewn cariad ag Ephraim, ac oherwydd eu bod yn medru siarad yn weddol weniaethus am y llwyddiant mawr fyddai yn sicr o ganlyn ei ddyfodiad, am y cynulleidfaoedd anferth, am helaethiad y capel fel canlyniad, a I wel, yr oedd hyawledd y parchedig Llwyd i anadlu anadl einioes, a hwnw yn un ysbrydol, i esgyrn sychion Pentresplit, ac yn wir, nid y oedd y brodyr ymhell iawn o'u lie. Yr oedd gweinidogaeth y Parch. E. Llwyd wedi bod yn hynod Iwyddianus. ac yr oedd y gynulleidfa wedi cynyddu yn ddirfawr; gan hyny, ni phetrusodd y gweinidog, ar ddiwedd y flwyddyn, i adgofio y brodyr am yr addewid-y ddwy bunt y mis codiad. Galwyd y brodyr ynghyd, neu i ddefnyddio iaith briodol, cyhoeddwyd "cwrdd eglwys i gymeryd i ystyriaeth apeliad ein gweinidog am godiad yn ei gyflog." Yn awr, yr oedd yn ffaith wybyddus i lawer fod John Jones, y glowr, yr hwn oadd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i wahodd y Parchedig Ephraim Llwyd i Nebo, ar y tir fod ganddo dalcen" yn iawn, yn gwrthwynebu y codiad, am fod y gweinidog wedi ei gael yn euog o siarad llawer o ysbwriel." Dyna Dafydd Williams, y siopwr, eto. Yn ei siop ef, mewn gwirionedd, y cynhaliwyd y cynadleddoedd mwyaf pwysig mewn cysylltiad a'r alwad." Yr oedd yn dotio ar y Parch- edig E. Llwyd y pryd hwnw. Dyna ddyn call! Dyna ddyn penderfynol! Dyna bregethwr A hwyl!" meddai y siopwr flwyddyn yn ol. Ond erbyn lieddyw, cawn fod Dafydd Wil- liams wedi newid ei fa,rn i ryw raddau, oblegid pan gafodd ar ddeall fod Mr. Llwyd wedi anfon apel am y codiad addawedig,dywedai—"Codiad cyflog yn wir Beth pe b'ai ganddo siop fel fi, a dal o dan golledion mawr mis ar ol mis gan wvr yr hen gownt ? Wyth punt y mis am lefaru dipyn bach o'r pwlpnd ar y Sul, a dim ond gwraig i gadw! Beth pe b'ai ganddo fagad o blant i'w cynal ? Ie, beth pe b'ai- wel, buasai'r archebion y mae yn eu rhoi i mi am fwyd dipyn bach yn fwy, ac wed'yn-wel, yr ydych yn gwel'd, f'aswn i ddim yn hidio rhyw lawer fod ef yn cael dwy bunt arall! Dyna hwy! Yr oedd tua haner dwsin o honynt a digon o weniaeth yn eu tafodau i arwain llawer o'r aelodau gerfydd eu trwynau. Dynion yn llawn o fympwyon oeddynt, a digon o ystyfnigrwydd ynddynt wrth iiaturiaetli i hawlio y sylw priodol i'w mympwyon. Fe ddaeth y nason i siarad ar y pwnc holl- bwysig, ac yr oedd y capel yn weddol lawn. Y mae yn ffaith nodedig fod rhyw swyn atdyniadol iawn mewn cyfarfodydd o'r fath hyn mewn capeli Ymneillduol. Y mae llu yn medru fforddio fod yn bresenol mewn cyfarfod sydd yn debyg o fod dipyn yn bersonol, na thrafferthant roddi cam i gyfeiriad y capel er mwyn cyfarfod gweddi, neu gyfeillach grefyddol. Yr oedd aelodau Nebo, neu y rhan bwysicaf o honynt, wedi ymgynull mewn nerth, oblegid gwybyddid fod dadl i fod, ac y mae dadl mewn cyfarfod eglwysig Ymneillduol yn golygu y math hwnw o ymddiddau a ddisgrifir gan y reporters Seisnig, A Breeze." Cyiihaiiwyd cyfarfod gweddi o flaen y cyfar- fod holl bwysig, ac yr oedd rhywbeth yn ddon- iol iawn yn yr anesmwythdra oedd yn nodweddu rhan fawr o'r gynulleidfa, tra yr oedd sly glances y diaconiaid i wahancl gyfeiriadau yn arwyddocaol iawn. Gweddiodd Wm. John, y diacon, yr hwn a bleidiai godiad cyflog y gwein- idog, ar ol John Jones, y glowr, yr hwn a wrth- wynebai y codiad, ac yr oeddwn yn teimlo fod rhywbeth yn bectut,ital iawn yn y fath olygfa. Yr oedd yn peri i mi esgor ar lu o ddrych- feddyliau am ogoniant y mil flwyddiant. Ond- Un rhyfedd yw'r Ond," chwedl Mynyddog, terfynodd y cwrdd gweddi yn swn can a moliant. Yr emyn a ganwyd i ddiweddu yr act gyntaf a ddechreuai—- Mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd," a gyda bod y saki olaf o'r hen emyn yn diflanu, dyna y gynulleidfa yn esmwytho y maent fel pe yn teimlo yn fwy cartrefol. Mae y gwyneb hir wedi ymgolli yn y wen a'r siarad prysur sydd rhwng pob dau. Clywir ambell besychiad yn tori ar y distawrwydd, ac amtell i symudiad yn cyfleu y syniad o'r cyifroad oedd yn meddianu y symudydd, ac yna dyna George Pendew yn codi ar ei draed, ac yn cynyg fod William John i gymeryd y gadair. Yna gesyd y William John crybwylledig ei gorpws yn y gadair frelchiau, ac o wedi codi ar ei draed, a chlirio ei wddf, clywir y llais yn cyhoeddi :— Mae'r Parch. Ephraim Llwyd, ein hanwyl weinidog, o gartref heno, ac yr ydych yn gwy- bod i gyd ei fod wedi actio yn ddoeth iawn drwy fyned o gartre' ar achlysur mor bwysig, ac un yn dal cysylltiad mor agos a'i ddyfodol ef a'r eglwys. (le'n wir," meddai llais). 'Does dim dadl nad ydyw wedi bod yn hynod o ddoeth i gadw ymaith o'r cyfarfod. (Llais 14 Ydi'n wir, William.") 'Nawr, rwy'n gobeithio nad oes dim row i fod yma heno rwy'n gobeithio hyny er mwyn y rhai sydd wedi dyfod yma gyda'r unig amcan o gael difyrweh, fel mae'n bechod meddwl. 'Nawr, coded rhywun i gynyg y penderfyniad cyntaf." Yna cododd dyn tal, ysgyrnog, ac nn llygad, i fyny, ac mewn llais main o.lrheiniodd lafur a llwyddiant y parchedig Llwyd yn eu mysg. Siaradodd yn frwdfrydig ac yn faith am ei allu- oedd meddyliol a chorfforol; Dywedodd fod anrhydedd yr eglwys yn dibynu ar y swm oedd- ynt yn roddi i'r gweinidog fod yn gywilydd meddwl mai dim ond wyth punt oedd eu gwein- idog yn gael, tra yr oedd gweinidog Bethel, ger- llaw, yn derbyn deg. Fod yn rhaid cadw ifyny ag eglwysi eraill, neu buasai y bobl yn edrych i lawr ar Ephraim, ac felly yn y blaen. Ar hyn, cododd Dafydd William, y siopwr, ar ei draed, a dymunodd ar y dyn tal, ysgyrnog, gau ei geg," ac am iddo beidio siarad ynfyd- rwydd." Ar hyn, ymfflamychodd y dyn tal, ysgyrnog, a chwerthinodd John Jones, y glowr, right hand man y siopwr. Dylai fod c'wilydd ar bob un o honoch," crochlefai y dyn ysgyrnog. Braidd y credwyf eich bod wedi eich gwareiddio." Ar hyn dyma fenyw fer, lydan, yr hon oedd yn dal cadach wrth ei llygad, fel pe i dderbyn y dagrau oedd ar fin bwrlymu allan yn codi ar ei thraed, ac yn beiddio dweyd eu bod hwy lawn mor wareiddiedig a'r gwr tal, ysgyrniog, neu rywun arall. Beth oedd ef o ran naturiaeth ? Un peth a wyddai, yr oedd yn euog o ystranciau ysmala iawn ar nos Sadyrnau, ac ar yr aelwyd gartref. Rhag cywilydd i chwi I Rhag cywilydd i chwi I" oedd y gydgan greffenywaidd ddilynodd y dynoethiad annymunol hwn o gymeriad y dyn ysgyrniog. Pwy wyt ti (yr oedd wedi d'od i'r ti o'r diwedd) mi hoffwn wybod ?" gofynai Mari Jones, menyw tua chwe' troedfedd o daldra, ac o bwysau aufei-th ae annymunol pan y meddylir am yr amgylchiadau cynhyrfus. Beth sydd genyt ti i'w ddweyd ? Rhag cywilydd!" "Gadewch eich twrw, chwi fenywod," gwaeddai'r siopwr, "buasai yn ddoethach ar eich rhan i dalu eich hen gownt' na dyfod yma i gweryla a'ch gilydd." Yr oedd y fenyw chwe' troedfedd mewn dyled trwm gyda Dafydd William. Darfu i'r cyfeir- iad olaf gwrdd 4 theimladau mwyaf cybegredig mwy nag un. Y canlyniad oedd i'r lie fyn'd yn Fabel o dafodau cwerylgar. Yr oedd y ddau "glic" yn pigo "crach" eu gilydd gyda'r lleisiau mwyaf aflafar; cymeriadau personol y ddau glic yn cael lie pwysig yn yr ymddi- ddan. Yn nghanol y dwndwr cododd dyn ieuanc boneddigaidd ar ei draed, gan ddywedyd, Ht-ddwch yn enw y lie cysegredig. Pe buasech wedi defnyddio yr iaith a ddefnyddir yma heno yn Nhy y Cyffredin, buasech wedi cael eich ysgymuno bob un. Ai dyma'r esiampl yr ydych yn roddi i'r ieuenctyd sydd yn codi. Nid oes haner awr er pan oeddech yn gweddio am fendith y Nefoedd. Ond cofiwch, nis medr y Nefoedd wneyd dynion o asynod. Y mae yn warthus meddwl nas medr dynion sydd yn proffesu crefydd-dynion sydd yn proffesu eu bod yn byw o dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, siarad a dadleu ar bwnc bychan, dibwys i raddau, fel hwn, heb ddiraddio eu gilydd. Pe byddaihanes y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi, buasai pob gwrandawr synwyrol yn cadw draw o'r capel am byth. Nid wyf ond dyn ieuanc, ond yr wyf yn dweyd yn groew y dylai fod cywilydd arnocb. Os nad oes digon o ras yn eich calonau i ddadleu pwnc yn frawdol, gwell o lawer fyddai i chwi anfon Ephraim o'r lie, a gwertliu'r capel, hyd nes y deallir yn iawn beth yw natur a dylanwad y grefydd yr ydych yn ei phroffesu." Yn y distawrwydd a ganlynodd y geiriau hyn, cynygiwyd fod y gweinidog i gael y codiad. Cynygiodd un arall nad oedd. Gbsodwyd y pwnc i'r vote, a chafodd pleidwyr y gweinidog fwyafrif, a thra yr oedd tua haner dwsin o'r ochr arall yn son am 4 gapel newydd," galwyd ar frawd i weddi, ac wedi canu "Dan dy fendith wrth ymadael," ymadawodd y brodyr (?), a.rhedais gartref dros y caeau tra yr oedd ymddiddan boeth yn llawn. o ti a thithau yn cael ei gario ymlaetn tuallan. Hyn oedd y dechreuad! Ceir gwei'dyr wyth- nos nesaf beth wna'r "clie gafodd eu euro.
[No title]
Bwyteir lianer can' mil o duneili o oysters yn Llundain yn ystod y tymor. Cylioeddir 5,500 o newyddiaduron yn German]. Pan y byddo dyn yn priodi, y mae yn dueddol i gredu y dylai pawb roddi anrheg iddo ef, ond fel y mae yn cash au prynu anrliegion i'w ffryndiau pan y byddo eu diwrnod hwy wrth yr allor yn dyfod o gwmpag. Nis gall masnachwvr, ac eraill a ddymunnnt ychwanegu eu derbyniadau drwy sicrhau rhagcr o gwsmeriaid wneyd yn well na chyhoeddi eu hysbysiadau yn Y LLAN A'U DYWYSOGAETII, y cyfrwng hysbysiadol goreu yn Nghymru
[No title]
Y mae wyth-a-deugain o filoedd o faerod yn Ffrainc. Cafodd het menyw a wnaethpwyd o wydr ei harddangos yn ddiweddar o Brisbane. Cyflogir 10,592 o fenywod yn Lloegr i rwymo Ilyf rau, ac y mae 2,302 yn cynorthwyo i'w liar- graflu. Heb unrhyw betrusder, cydnabyddir gan y cyhoedd mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETII yw y cyfrwng hysbysiadol rhagoraf a feddwn. Ceir fod Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn cael ei dderbyn gan deuluoedd parcliusaf Cymru, a chynghorem bawb i roddi prawf arno fel cyf- llw 1, rwng hysbysiadol digymar. Gall ceffyl fyw bum' diwrnod ar hugain heb fwyd cryf, dim ond wrth yfed dwfr; dau ddiwrnod ar bymtheg heb na bwyta nac yfed a phum' diwrnod yn unig pan yn bwyta bwyd cryf heb yfed. Yn gymaint ag mai Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH yw yr unig newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, mae yn gyfrwng di-ail i gyhoeddi pob math o hysbysiadau yn dwyn perthynas a'r Eglwys. Y mae haner can'tunell o docynau rheilffordd yn cael eu delnydclio bob blwyddyn gan Gwmni y London a'r North-Western, ac y mae tri- ugain mil o weision yn cael eu cyflogi gan ddynt. Dywed Mr. Barnum, yr Americanwr enwog, mai eflaith cyhoeddi hysbysiadau am ei ar- ddangodadau ydyw ei sefyllfa gysurus bresenol, a dyledswydd pob un a geisia lwyddiant yw cyhoeddi ei hysbysiatlau yn Y LLAN A'R Dywys- OGAETH. Yr oeddych unwaith J'n jewel o fenyw, ond nid ydych yn well na matrimonial paste yn awr," meddai John yn ddigllon wrth ei wraig ieuanc. Gan hyny, fy nghariad," oeddyr ateb, cysurwch eich hunan a'r drychfeddwl mai peth sydd yn glynu yn enbyd ydyw paste, ac a> lyna wrtliych cyhyd ag y byddweh byw."