Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

24 erthygl ar y dudalen hon

Llith o Lerpwl.

FESTRI Y PASG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FESTRI Y PASG. CLYDACH.—Cynaliwycl y festri flyn- yddol nos Lun y Pasg, pryd yr ethohvyd Mri. E. W. Jones a D. Russell yn warden- laid am y flwyddyn ddyfodol. AMMANFORD.—Cynaliwyd festri yn y plwyf hwn, a llywyddwyd gan y Parch. David Davies, B.A., ficer. Dewiswyd Mr. Thomas Rees, Pontyclerc, yn warden i'r Ficer, a Mr. John Jones, Tir-y-dail Cottage, yn warden i'r bobl. Yr is- wardeniaid am y flwyddyn hon ydynt Mri. John Williams, Cross Inn Hotel, a William Jones, Pontamman. DAFEN.—Cynaliwyd y festri yma nos Fercher. Cadeirydd, y Parch. J. R. Jones, M.A., ficer. Ail-etholwyd Mr. J. Banks yn warden dros y Ficer, a Mr. W. Evans yn warden dros y bobl. Ail-etholwyd yr is-wardeniaid ond un, yr hwn sydd wedi methu oherwydd afiechyd. Etholwyd Mr. G. Owen yn ei le. Diolchwyd yn wresog i'r wardeniaid am eu gwasanaeth y flwyddyn ddiweddaf.-Un o'r lie. CWMAFON.—Cynaliwyd y festri flyn- yddol yma nos Iau, a llywyddwyd gan y Parch. Thomas Jenkins. Etholwyd Mr. Samuel Jones yn warden i'r Ficer, a Mr. W. R. Lewis yn warden i'r bobl. Yr is- wardeniaid newyddion ydynt:—Eglwys y plwyf: Mri. Henry Davies (ysgrifen- ydd), Daniel John (trysorydd), Thomas Phillips, David Russell, Evan Davies, a David Beynon. Eglwys All Saints: Mri. Watkin Morris, H. S. Arnold, Alfred Roberts, J. C. Alford, John Russell, Wm. Beynon, D. Diamond, ac E. A. Smith. GLYN TnAlAN. Cynaliwyd y festri nos Fawrth. Cadeiriwyd gan y Parch. W. Jones, rheithor. Etholwyd yn war- deniaid, am y flwyddyn hon, Mri. Lewis Lewis a Thomas Hughes yn is-warden- iaid, Mri. Richard Jones a Richard Morris. Etholwyd i gynrychioli y plwyf yn y Gynhadledd, Mri. W. Aeron Davies ac Isaac Evans. Archwiliwyd y cyfrifon am y flwyddyn, a chymeradwywyd hwynt yn unfrydol. Mae y wardeniaid wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o gael clochdy yr eglwys wedi ei adgyweirio mor fuan ag sydd bosibl. BUILTH.—Cadeiriwyd yn festri blwyfol St. Fair gan y Parch. Alfred T. Coore, ] ficer. Mr. David Thomas, London and Provincial Bank, a benodwyd yn warden ( i'r Ficer, a Mr. William Price, "The ] Stores," a ail-etholwyd yn warden i'r bobl. Pasiodd y cyfarfod yn unfrydol j benderfyniad a ddatganai ofid y plwyfol- ion wrth feddwl eu bod ar fin colli gwasanaeth eu Ficer parchus. Y mae y Ficer, oherwydd gwaelder ei iechyd, wedi penderfynu rhoddi y fywoliaeth ( hon i fyny, a derbyn y swydd o Gaplan ] yn y Shrewsbury Hospital, Sheffield, am y bydd ei ddyledswyddau yno yn ysgafn- ) ach nag yn Builth. J MERTHYR TYDFIL.-Fel y crybwyllas- 3 om yn fyr yr wythnos ddiweddaf, pasiodd y festri yn Merthyr i ffwrdd yn dangnef- eddus eleni. Ni pharhaodd yn hwy na phum' mynud. Y mae hyn yn syndod, 1 pan gofir y fath wrthwynebiad ystyfnig a ( ddangoswyd yn mhob festri blaenorol gan 1 elynion y Rheithor. Dengys hyn fod J canlyniadau y festri gynhyrfus a gynal- 1 iwyd y llynedd wedi esgor ar effeithiau daionus a ffafriol i'r Rheithor ac i'r plwyf. ( Ni chrybwyllwyd yn y rhifyn diweddaf mai Mri. J. Richards a Thomas Jones, Brecon Road, a ddewiswyd yn is-warden- iaid i'r Rheithor, ac i Mri. Hugh Hughes a W. Rees, Broad Street, gael eu hail- 1 ethol yn is-wardeniaid i'r bobl. CAERFYRDDIN.—Foreu dydd Gwener, < cynaliwyd festri Eglwys Crist ac Eglwys • St. Dewi, o dan lywyddiaeth y Parch. T. R. Walters. Apwyntiwyd y wardeniaid j fel y canlyn :—Dros St. Dewi, Mri. James Rees, Trevaughan, a William Evans, Stag f Inn. Penderfynwyd fod muriau Eglwys j Crist i gael eu hail-bwyntio, a phenodwyd Mri. James Philipps, David Thomas, Thomas Davies, James Davies, William Davies, a wardeniaid Eglwys Crist, yn bwyllgor i gario allan y gwaith. Y Ficer, wrth ddiolch am y cynorthwy a dderbyn- iodd gan y gwahanol swyddogion yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, a ddywed- odd fod yr Eglwys mewn cyflwr hynod o lewyrchus yn y plwyf. j LLANDDAROG.—Cynaliwyd y festri yn y plwyf hwn ddydd Iau, yn yr ysgoldy, pryd y penodwyd Mri. Thomas Thomas, Tawelan, a Joseph Harries, Cwmisgwyn, yn wardeniaid am y flwyddyn ddyfodol. Penodwyd y rhai canlynol yn is-warden- iaid :—Y Dr. Lloyd, Vale Villa; Mri. R. Bodycomb, Glan-yr-ynys; T. Lewis, Maes- dulais; D. Gabe, Ysgoldy; Thos. Jeremy, Cil-yr-ynys; Thomas Hughes, Ty-isaf; J. Davies, Pantllan; D. Harries, Rose Villa; John Jones, Abadam Arms; a Henry Harries, Felin-isaf. Wedi myned trwy gyfrifon yr Eglwys, a thalu y diolchiadau arferol, terfynwyd y cyfar- fod. Dywedodd y Ficer fod ganddo ddau warden rhagorol ac nid oedd dadl am y mwyafrif o'r is-wardeniaid, ond iddynt gael gwaith, yr oeddynt yn sicr o'i wneyd. Trwy ymdrech clodwiw Mr. Thomas Thomas, rhoddwycl dau chan- delier newydd yn yr eglwys eleni. Yr oedd y casgliadau yn llawer uwch nag arferol yn ystod y flwyddyn. 0 GLYNTAF.—Nos Lun, y 7fed cyfisol, cynaliwyd festri'r Pasg yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, pryd y daeth lluaws mawr o'r plwyfolion yn nghyd. Fel arfer, nod- weddid y cyfarfod gan berffaith undeb a chydgordiad. Ar ol archwilio a phasio y cyfrifon am y flwyddyn ddiweddaf, aeth- pwyd at y gwaith o ddewis swyddogion eglwysig am y flwyddyn ddyfodol. Ail- benodwyd Mr. Penn gan ein parchus Ficer i fod yn warden iddo ef. Y mae y boneddwr hwn wedi bod yn warden i Ficer y plwyf hwn er's dros 30 o flyn- yddau. Ail-etholwyd Mr. Tolfree yn unfrydol i fod yn warden y bobl. Ethol- wyd y boneddwyr canlynol i fod yn is- wardeniaid :-Mri. D. Leyshon, A. J. McMurray, D. Lloyd, D. Todd, a W. Tobin, dros eglwys y plwyf Mri. Jones a J. Richards dros yr eglwys Gymreig a Mri. Cawsey a Trim dros y Genhadaeth a agorwyd y flwyddyn ddiweddaf yn ysgol- dy y Bwrdd, Heol-y-coed. Terfynwyd y gweithrediadau trwy basio pleidleisiau o ddiolchgarwch gwresog i'r Ficer, i'r Parch. T. Davies, curad, i Mr. Akrill Jones (mab y Ficer), yr hwn sydd wedi llafurio yn ddiwyd gyda'r Genhadaeth ar Heol-y-coed, i'r wardeniaid, ac i bawb o'r swyddogion eraill perthynol i'r achos Eglwysig yn y plwyf.—Gohebydd. LLANFIHANGEL Y PENNANT, MEIRION. —Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, coll- odd y plwyf hwn ei ddau warden. Cymerwyd warden y plwyf ymaith a llaw marwolaeth, a symudodd warden y Rheithor i blwyf Llanaber. Cafodd yr Eglwys yma golled fawr yn y ddau am- gylchiad. Yr oedd y blaenaf wedi tynu yn mlaen mewn dyddiau, ond y mae yr olaf yn ieuanc ac yn ei ddyddiau goreu at waith. Efe oedd trysorydd Cylchwyl Lenyddol Eglwysig Esgobaeth Estimaner. Oherwydd y pethau hyn, yr oedd arnom eisiau swyddogion newydd eleni. Nos Fawrth y Pasg, cynaliwyd festri yn Llan- fihangel, er mwyn eu hethol a'u dewis. Y canlyniad fu i Mr. 0. Owen, Hendre, brawd i'r diweddar warden, gael ei ddewis yn warden y plwyf, ac i Mr. Evan Isaac Jones, Bwlchgyfyng, gael ei enwi gan y Rheithor fel warden drosto yntau. Yr ydym yn hyderu y bydd y ddau warden newydd yn gweithio o ddifrif. Y mae eisiau zel a gweithgarwch yn y dyddiau zn hyn.-Cymro.

FERNDALE.

GLYN CEIRIOG.

MAERDY.

ABERTEIFI.

LLANGYFELACH.

LLANGYNDEYRN.

[No title]

Y FOCHRIW.

CWMAFON.

GLYNTAF.

CILGERRAN.

ABERMAW.

Y FERWIG.

- YSTRADYFODWG.

ABERHONDDU.

HIRWAUN.

BRYNEGLWYS.

LLANSANTFFRAID, CEREDIGION.

CLYDACH.

RHYL.

LLANSAMLET.

HENDY GWYN AR DAF.