Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
Llith o Lerpwl.
Llith o Lerpwl. (GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG). WAYERTREE. Saif y dref fechan ond cyflym-gynyddol hon o fewn dwy filldir a haner i'r gorllewin o Lerpwl, hyny yw, o'r Exchange. Ddeng mlyn- edd ar hugain yn ol nid oedd ond pentref bychan, di-nod, ond y mae y boblogaeth erbyn hyn yn rhifo o wyth i naw mil. Mae yma Neuadd Drefol, a Bwrdd L-ieol i lywodraethu ei hachosion. Dywedir ei fod ya un o'r lleoedd lachaf yn yr holl wlad, ac yr oedd amryw gleifion yn dyfod yma flynyddau yn ol pan Inewn sefyllfa wellhaol am adgyfnerthiad ly iechyd. Y mae twr cloch ardderchog yn mhen nehaf y pentref, yr hwn a roddwyd gan y di- weddar Syr James Picton yn Goffadwriaeth am ei wraig. Nid rhyw lawer o olion yr hen Gymry (y cyn-frodorion) a geir yn y parthau yma o Swydd Gaerbirfryn, oddieithr mewn enwau lleoedd. Rhyw dair milldir a haner o'r Exchange, ar ffordd Woolton, mae hen gylch Derwyddol a elwir Calder Stones. Mae yno bump o geryg mawrion yn sefyll ar eu penau, ac yn gerfiedig arnynt lunian cwpanau a niodrivyau. Bydd ein hanffodion cenedlaethol yn dyfod yn gryf i fy meddwl bob tro y byddaf yn syllu ar yr hen olion hynafiaethol byn. Collodd yr hen Frythoniaid etifeddiaeth deg; do, do, ddarllenydd mwyn, ond pa ddiben crÏo uwchben Uaeth colledig? Mae llawer o G-ymry yma eto, yn mysg cenedloedd eraill, ac ni ddaeth y syniad erioed i fy meddwl, wrth rodio y ffyrdd a'r heolydd, fy mod mewn gwlad estronol. Ond i beidio crwydro oddiwrth y Pwnc, mae yn Wavertree dair o eglwjsi, capel Pabyddol, ac amryw gapeli Ymneillduol. Eglwys y plwyfyw Eglwys y Drindod Sanctaidd, lie bu y diweddar Barch. Aneurin Lodge, A.C., yn gweinidogaethu am lawer o flynyddau. Gwr genedigol o Lanelwy oedl Mr. Lodge, ac yr oedd yn Gymro gwladgarol. Yr oedd yn ddyn dysgedig, boneddigaidd, a chymwynasgar, ac yn e 0 fawr ei barch yn Wavertree gan Eglwyswyr ac YInneillduwyr. Bu yn hynod Iwyddianus yma tra y parhaodd ei iechyd. Efe a adeiladodd Eglwys St. Bridget ryw ugain mlynedd yn ol. Ond at < ST. MARY'S CHURCH, yn Sandown Park, yr oeddwn yn awyddus i alw sylw yn benaf yn fy llith, ac yr wyf yn falch o'r ] pyfleusdra i dalu teyrnged o barch i goffadwr- iaeth ei sylfaenydd- ( Y PARCH. SAMUEL FENTON, A.C. ] Yr oedd Mr. Fenton yn enedigol o Cilrhedyn, Yn swydd Gaerfyrddin, ac yn un o ddisgyn- yddion Mr. Richard Fenton, awdwr "Tour through Pembrokeshire." Derbyniodd ei ] addysg i'r weinidogaeth yn Ngholeg yr Iesu, j l^hydychain. Bu am rai blynyddau yn gwas- ( aQaethu fel curad yn Eglwys y Drindod SLtuct ] ftidd, ac yn y cyfamser priododd foneddiges ] Syfoethog, yr hyn a'i galluogodd i adeiladu Eg- j lwys St. Mary ar ei draul ei hun, oddieithr y < twr, yr hwn a orphenwyd y flwyddyn ddiweddaf. ] Burn yn ei dy amryw weithiau ryw ugain i Mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o'r dynion ] I-aredicaf y daethum i gyffyrddiad a hwy erioed, 1 yn dwyn mawr zel dros Gl-ymru, y bobl a'r J 1aith, ac yn enwedigol yr liwyl Gymreig yn y t y Pwlpud. Yr oedd ei haelioni at bob aelios da Yn ddiarebol, ac y mae enw Samuel Fenton yn Warogl yn y gymydogaeth i'r dydd hwn. Ei ( olynydd oedd ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. I Snowden Smith, A.C., yr hwn a benodwyd gan Yr Esgob ryw bedair blynedd yil ol i Eglwys- t flidd St. Philip, Seaforth. Mae St. Mary's yn j o'r ychydig eglwysi yn nawddogaeth Esgob ( ■^erpwl. Dilynwyd ef yn y rheithoriaeth gan ( Y PARCH. CHARLES W. RIDLEY, A.C., ( y* hwn a fu yma am yn agos i beduir blynedd i yn fawr ei barch a'i gymeradwyaeth gan y plwyf- ( Qliou, yn enwedig gan y werin bobl. Yr oedd ] y*1 cynal gwasanaethau wythnosol yn yr Ystafell i! (lelibadol yn misoedd y gauaf i'r dosbarthiadau gweithiol, ac yn pregethu yn yr awyr agored, 1 neu yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, o fewn ergyd < caveg i'r lie yr wyf yn ysgrifenu fy llith, yn yr ( hat Yr oedd yn dyrchaf u ei lais fel taran yn erbyn pechoiau yr oes, yn enwedig cyfeddach ac ailghymedroldeb, a thwyll a hoced o bob math, < a thrwy hyny yn creu rhai gelynion. Mewn cyfarfod o blwyfolion ac edmygwyr a gynhal- l\Vyd ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, yn i y festri, i ddymuno yn dda i'r Parch. C. W. k Ilidley ar ei ymadawiad, dywedodd y cadeirydd y boneddwr parchedig, yn ystod yr amser y Uasai yn rheithor St. Mary's, wedi anwylo ei ■ hun i bawb. Cyfeiriwyd gan eraill at y gwaith Pysig oedd wedi ei gyflawni, a'i garedigrwydd Odedig i bawb o'r plwyfolion yn ddiwahan- lfteth, ac anrhegwyd Mr. Ridley ag anerchiad goreuredig a cherbydan (PJiaiton) hardd. Cyf- ] lyuwyd iddo hefyd, ar ran y Women's Branch ■ of the Junior Communicants' Union, ac ar ran athrawon ac ysgolheigion yr Ysgolion Sul, am- gyfrolau o lyfrau gwerthfawr. Gwnaeth y farch. T. A. Howard, Ficer St. Matthews, Tox- teth Park, diweddar gurad St. Mary's, a'r curad presenol, y Pareh. Walter W. Thomas, gyfeir- iadau effeithiol at y caredigrwydd a'r parch a ddangoswyd iddynt gan Mr. Ridley yn ystod eu cysylltiad a'r Eglwys. Anrhegwyd Mr. Thomas, yr hwn sydd hefyd yn ymadael, ar ran mfer o danysgrifwyr, a llestri Cymun arian at wasan- aeth preifat. Dywedodd Mr. Ridley mewn tsimladau drylliog, wrth ddiolch am y caredig- r^ydd mawr oeddynt wedi ddangos iddo, ei fod yn hyderu y gwnaent barhau i'w olynydd, y a-rch. Dr. Harrison, y cydymdeimlad gwresog 3,11 cydweithreaiad calonog oeddynt wedi I ddangos iddo ef. Mae Mr. Ridley wedi derbyn < bywoliaetli Erlestoke, swydd Wilt, ac ymadaw- odd ddydd Mercher gyda dymuniadau goreu a §^eddiau gwresocaf ei hen blwyfolion. Duw yn rWydd iddo.
FESTRI Y PASG.
FESTRI Y PASG. CLYDACH.—Cynaliwycl y festri flyn- yddol nos Lun y Pasg, pryd yr ethohvyd Mri. E. W. Jones a D. Russell yn warden- laid am y flwyddyn ddyfodol. AMMANFORD.—Cynaliwyd festri yn y plwyf hwn, a llywyddwyd gan y Parch. David Davies, B.A., ficer. Dewiswyd Mr. Thomas Rees, Pontyclerc, yn warden i'r Ficer, a Mr. John Jones, Tir-y-dail Cottage, yn warden i'r bobl. Yr is- wardeniaid am y flwyddyn hon ydynt Mri. John Williams, Cross Inn Hotel, a William Jones, Pontamman. DAFEN.—Cynaliwyd y festri yma nos Fercher. Cadeirydd, y Parch. J. R. Jones, M.A., ficer. Ail-etholwyd Mr. J. Banks yn warden dros y Ficer, a Mr. W. Evans yn warden dros y bobl. Ail-etholwyd yr is-wardeniaid ond un, yr hwn sydd wedi methu oherwydd afiechyd. Etholwyd Mr. G. Owen yn ei le. Diolchwyd yn wresog i'r wardeniaid am eu gwasanaeth y flwyddyn ddiweddaf.-Un o'r lie. CWMAFON.—Cynaliwyd y festri flyn- yddol yma nos Iau, a llywyddwyd gan y Parch. Thomas Jenkins. Etholwyd Mr. Samuel Jones yn warden i'r Ficer, a Mr. W. R. Lewis yn warden i'r bobl. Yr is- wardeniaid newyddion ydynt:—Eglwys y plwyf: Mri. Henry Davies (ysgrifen- ydd), Daniel John (trysorydd), Thomas Phillips, David Russell, Evan Davies, a David Beynon. Eglwys All Saints: Mri. Watkin Morris, H. S. Arnold, Alfred Roberts, J. C. Alford, John Russell, Wm. Beynon, D. Diamond, ac E. A. Smith. GLYN TnAlAN. Cynaliwyd y festri nos Fawrth. Cadeiriwyd gan y Parch. W. Jones, rheithor. Etholwyd yn war- deniaid, am y flwyddyn hon, Mri. Lewis Lewis a Thomas Hughes yn is-warden- iaid, Mri. Richard Jones a Richard Morris. Etholwyd i gynrychioli y plwyf yn y Gynhadledd, Mri. W. Aeron Davies ac Isaac Evans. Archwiliwyd y cyfrifon am y flwyddyn, a chymeradwywyd hwynt yn unfrydol. Mae y wardeniaid wedi ymgymeryd a'r gorchwyl o gael clochdy yr eglwys wedi ei adgyweirio mor fuan ag sydd bosibl. BUILTH.—Cadeiriwyd yn festri blwyfol St. Fair gan y Parch. Alfred T. Coore, ] ficer. Mr. David Thomas, London and Provincial Bank, a benodwyd yn warden ( i'r Ficer, a Mr. William Price, "The ] Stores," a ail-etholwyd yn warden i'r bobl. Pasiodd y cyfarfod yn unfrydol j benderfyniad a ddatganai ofid y plwyfol- ion wrth feddwl eu bod ar fin colli gwasanaeth eu Ficer parchus. Y mae y Ficer, oherwydd gwaelder ei iechyd, wedi penderfynu rhoddi y fywoliaeth ( hon i fyny, a derbyn y swydd o Gaplan ] yn y Shrewsbury Hospital, Sheffield, am y bydd ei ddyledswyddau yno yn ysgafn- ) ach nag yn Builth. J MERTHYR TYDFIL.-Fel y crybwyllas- 3 om yn fyr yr wythnos ddiweddaf, pasiodd y festri yn Merthyr i ffwrdd yn dangnef- eddus eleni. Ni pharhaodd yn hwy na phum' mynud. Y mae hyn yn syndod, 1 pan gofir y fath wrthwynebiad ystyfnig a ( ddangoswyd yn mhob festri blaenorol gan 1 elynion y Rheithor. Dengys hyn fod J canlyniadau y festri gynhyrfus a gynal- 1 iwyd y llynedd wedi esgor ar effeithiau daionus a ffafriol i'r Rheithor ac i'r plwyf. ( Ni chrybwyllwyd yn y rhifyn diweddaf mai Mri. J. Richards a Thomas Jones, Brecon Road, a ddewiswyd yn is-warden- iaid i'r Rheithor, ac i Mri. Hugh Hughes a W. Rees, Broad Street, gael eu hail- 1 ethol yn is-wardeniaid i'r bobl. CAERFYRDDIN.—Foreu dydd Gwener, < cynaliwyd festri Eglwys Crist ac Eglwys • St. Dewi, o dan lywyddiaeth y Parch. T. R. Walters. Apwyntiwyd y wardeniaid j fel y canlyn :—Dros St. Dewi, Mri. James Rees, Trevaughan, a William Evans, Stag f Inn. Penderfynwyd fod muriau Eglwys j Crist i gael eu hail-bwyntio, a phenodwyd Mri. James Philipps, David Thomas, Thomas Davies, James Davies, William Davies, a wardeniaid Eglwys Crist, yn bwyllgor i gario allan y gwaith. Y Ficer, wrth ddiolch am y cynorthwy a dderbyn- iodd gan y gwahanol swyddogion yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, a ddywed- odd fod yr Eglwys mewn cyflwr hynod o lewyrchus yn y plwyf. j LLANDDAROG.—Cynaliwyd y festri yn y plwyf hwn ddydd Iau, yn yr ysgoldy, pryd y penodwyd Mri. Thomas Thomas, Tawelan, a Joseph Harries, Cwmisgwyn, yn wardeniaid am y flwyddyn ddyfodol. Penodwyd y rhai canlynol yn is-warden- iaid :—Y Dr. Lloyd, Vale Villa; Mri. R. Bodycomb, Glan-yr-ynys; T. Lewis, Maes- dulais; D. Gabe, Ysgoldy; Thos. Jeremy, Cil-yr-ynys; Thomas Hughes, Ty-isaf; J. Davies, Pantllan; D. Harries, Rose Villa; John Jones, Abadam Arms; a Henry Harries, Felin-isaf. Wedi myned trwy gyfrifon yr Eglwys, a thalu y diolchiadau arferol, terfynwyd y cyfar- fod. Dywedodd y Ficer fod ganddo ddau warden rhagorol ac nid oedd dadl am y mwyafrif o'r is-wardeniaid, ond iddynt gael gwaith, yr oeddynt yn sicr o'i wneyd. Trwy ymdrech clodwiw Mr. Thomas Thomas, rhoddwycl dau chan- delier newydd yn yr eglwys eleni. Yr oedd y casgliadau yn llawer uwch nag arferol yn ystod y flwyddyn. 0 GLYNTAF.—Nos Lun, y 7fed cyfisol, cynaliwyd festri'r Pasg yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, pryd y daeth lluaws mawr o'r plwyfolion yn nghyd. Fel arfer, nod- weddid y cyfarfod gan berffaith undeb a chydgordiad. Ar ol archwilio a phasio y cyfrifon am y flwyddyn ddiweddaf, aeth- pwyd at y gwaith o ddewis swyddogion eglwysig am y flwyddyn ddyfodol. Ail- benodwyd Mr. Penn gan ein parchus Ficer i fod yn warden iddo ef. Y mae y boneddwr hwn wedi bod yn warden i Ficer y plwyf hwn er's dros 30 o flyn- yddau. Ail-etholwyd Mr. Tolfree yn unfrydol i fod yn warden y bobl. Ethol- wyd y boneddwyr canlynol i fod yn is- wardeniaid :-Mri. D. Leyshon, A. J. McMurray, D. Lloyd, D. Todd, a W. Tobin, dros eglwys y plwyf Mri. Jones a J. Richards dros yr eglwys Gymreig a Mri. Cawsey a Trim dros y Genhadaeth a agorwyd y flwyddyn ddiweddaf yn ysgol- dy y Bwrdd, Heol-y-coed. Terfynwyd y gweithrediadau trwy basio pleidleisiau o ddiolchgarwch gwresog i'r Ficer, i'r Parch. T. Davies, curad, i Mr. Akrill Jones (mab y Ficer), yr hwn sydd wedi llafurio yn ddiwyd gyda'r Genhadaeth ar Heol-y-coed, i'r wardeniaid, ac i bawb o'r swyddogion eraill perthynol i'r achos Eglwysig yn y plwyf.—Gohebydd. LLANFIHANGEL Y PENNANT, MEIRION. —Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, coll- odd y plwyf hwn ei ddau warden. Cymerwyd warden y plwyf ymaith a llaw marwolaeth, a symudodd warden y Rheithor i blwyf Llanaber. Cafodd yr Eglwys yma golled fawr yn y ddau am- gylchiad. Yr oedd y blaenaf wedi tynu yn mlaen mewn dyddiau, ond y mae yr olaf yn ieuanc ac yn ei ddyddiau goreu at waith. Efe oedd trysorydd Cylchwyl Lenyddol Eglwysig Esgobaeth Estimaner. Oherwydd y pethau hyn, yr oedd arnom eisiau swyddogion newydd eleni. Nos Fawrth y Pasg, cynaliwyd festri yn Llan- fihangel, er mwyn eu hethol a'u dewis. Y canlyniad fu i Mr. 0. Owen, Hendre, brawd i'r diweddar warden, gael ei ddewis yn warden y plwyf, ac i Mr. Evan Isaac Jones, Bwlchgyfyng, gael ei enwi gan y Rheithor fel warden drosto yntau. Yr ydym yn hyderu y bydd y ddau warden newydd yn gweithio o ddifrif. Y mae eisiau zel a gweithgarwch yn y dyddiau zn hyn.-Cymro.
FERNDALE.
FERNDALE. EGLWYS ST. PAUL.—Ddydd Sul diweddaf, cynlxaliwyd cyfarfodydd blynyddol yn yr eg- lwys ucliod. Pregethwyd yn Gymraeg gan y Parch. — Roderick, curad, Trelierbert, ac yn Saesneg gttn y Parch. Mackintosh, curad, Dowlais. Cafwyd gwasanaethau bendigedig.— Didymus.
GLYN CEIRIOG.
GLYN CEIRIOG. MASXACH.—Edrych yn fywiog y mae mas- tiach yn y Glyn ar yr adeg bresenol. Swn morthwylion ac ergydion a glywir o'r amrywiol •hwarelau wrth deithio tuag ardal brydferth Llanarmon. Y PELLEUYR.—Caffaeliad gwerthfawr i'r ardal Eydd cael y pellebyr i'r Glyn.
MAERDY.
MAERDY. MARWOLAETH.-Ar yr Slain o Fawrth, ar ol ,ystudd byr, bu farw Mrs. Hannah Davies, mwyl briod All-. John Davies, dosbarthwr Y LLAN, a cliylioeddiadau Eglwysig eraill. Cladd- wyd hi ar y 8ydd o Ebrill yn ngliladdfa gy- noeddus Ferndale. Gwasanaetliwyd yn yr ingladd gan y Parch. D. Davies, B A., curad, Maerdy. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. Davies ^n ei drallod.— Didymus.
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. EGLWYS ST. MAIR.—Yr oedd yn dda iawn genyf fod Penfroydd" yn bwriadu eich an- anrhegu a ffrwyth ei ysgrifell'; ond yr oedd ei sylwadau parthed y gwasanaethau yn eglwys Aberteifi, Sul y Pasg, dipyn yn anghywir. Esgeulusodd ddweyd i'r Ficer, er maint ei an- hwylderau, ddarllen pum' gwasanaeth, pregethu ddwy waith, a chymeryd y rhan flaenaf yn ngweinyddiad y Cymun Bendigaid deir gwaith. Dywed mai teneu iawn ydoedd y cynulleidfa- oedd Cymreig. Yn sicr nis gall fod deg o'r gloch yn y boreu yn amser anghyfleus i gynal gwasanaeth, yn neillduol i'r dynion sydd yn preswylio mor gryno oddiamgylch i'r eglwys a phobl Aberteifi. Nid da son am amser anghyf- leus i geisio budd a lies ysbrydol. Yr ydwyf yn hollol o'r un farn a Penfroydd" pan y dywed y dylai fod gan y Cymry eglwys iddynt eu hunain mewn tref boblogaidd fel Aberteifi." Pan y daeth y Ficer presenol i Aberteifi, gwnaed ymgais i gychwyn y symud- 11 y iad o adeiladu eglwys i'r Cymry. Yr oedd y Parch. Canon Miles, o Bingham, a'i holl fryd ar adeiladu eglwys y pryd hwnw ond pan y son- iwyd am hyny, gwrthwynebwyd y cynygiad yn y modd mwyaf penderfynol, a dyna y rheswm nad oes gan Gymry Aberteifi eglwys iddynt eu hunaiii.-Y givir yn erbyn y byd.
LLANGYFELACH.
LLANGYFELACH. WYTHXOS Y DIODDEFAINT. Cynhaliwyd gwasanaeth bob nos yn eglwys y plwyf uchod yn I I., ystod Wythnos y Dioddefaint, ac ar Ddydd Gwener y Groglith am 10.80 yn y boreu, a 7.30 yn yr hwyr. Er fod y lie mor wasgaredig, ac yn dymor mor brysur ar yr amaethwyr ac eraill, eto daeth cynulleidfa fawr ynghyd bob nos, a thystiolaeth pawb ydoedd, "Da yw i ni fod yma." SUL Y P ASG.-Gweinyddwytl y Cymun Sanct- aidd am 10.30 yn y boreu, ac er fod yr hin yn wlyb, eto yr oedd cynulleidfa liosog wedi dyfod ynghyd i gadw yr wyl hon. Rhif y cymunwyr y Pasg eleni oedd 70, yn agos i gymaint arall ag oedd yn arferol o gymuno yma. Euill tir yn gyflym y mae yr Eglwys drwy yr holl blwyf er penodiad y Ficer newydd, y Parch. D. Watcyn Morgan. Y mae eglwys eang a hardd yn cael ei hadcil- adu yn bresenol yn Nhreforris, ac un arall ar gael ei dechreu yn Nglandwr, lIe y mae y Parch. Enoch Jones, M.A., yn llafurio. Y mae eisioes wedi gwneyd daioni mawr yn y lie. Y SUL CYXTAF WEDI Y PASG.-Cyiihaliodd yr Ysgol Sul ei chyfarfod chwarterol am ddau o'r gloch prydnawn ynyr ysgoldy, pryd y daeth cynulleidfa ragorolynghyd. Yr oedd y rhaglen I fei y canlynAdroddiad, Miss Jane Jones, Pengors adroddiad, Mr. Trevor Mort adrodd- iad gan y plant yn unig, y rhan gyntaf o'r Catecism canu emvn, Cysegrwn fiaenffrwyth dyddiau'n hoes," &c, adroddiad, Shall this life be wasted," Miss Ellen Stephenson adrodd- iad, "Claddedigaeth Moses," Mr. Wm. Jones, Bryntawel; adroddiad, "Ceisiwch yr Arglwydd," Miss Mary Morgans, Mynydd GaruIIv/yd ad- roddiad, "Yr Ystorm ar For Galilea," Mr. Thomas Lewis, Coedcaeeroes adrodd y Deg Gorchymyn gan yr holl ysgol; adroddiad, "Y ddau bren," Mr. David Jones adroddiad, Efe a osododd Duw yn lawn," Mr. Jacob Hughes adroddiad, Dyn ddoe, a dyn heddyw." Mr. Thomas Hughes. Aeth pawb drwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn, yn enweclig y plane bach gyda'u Pwnc." Y mae yma gyfarfod o'r plant bob nos Wener, a hawdd oedd gwybod wrth eu clywed yn adrodd ac yn ateb mor dda eu bod wedi cael eu dysgu a'u hyfforddi yn ofalus iawn. Y mae adrodd Pwnc yn beth newydd yn y cyfarfodydd yma Dywedodd y Parch. David Thomas Jones ar ddiwedd y cyfarfod ei fod yn bwriadu i'r Ysgol Sul adrodd Pwnc," sef rhyw ran o'r Catecism, ar y Sul yn yr eglwys ar ol yr ail lith, fel y mae yr Eglwys yn gorchymyn. Llanwr o'r lie.
LLANGYNDEYRN.
LLANGYNDEYRN. GWYI, GORAAVL Y PLAXT.—Cynhaliwyd hon ar ddydd Llun y Pasg, yn eglwys y plwyf. am ddau ac am haner awr wedi pedwar o r gloch yn y prydnawn, a chymerwyd rhan ynddi gan gorau Llangyndeyrn, Pontyates, Pontyberem, Llan- ddarog, a Llandyfeiliog. Yr oedd yn bresenol ddau seindorf pros, sef eiddo Pontyberem a Llanddarog. Trefn yr wyl oedd fel y canlyn: —Gweddiwyel gan v Parch. D. Joii.es, ficer, a chanwyd vr Hen Ganfed gan y gynulleidfa. Y pwnc oedd y Gytfes Gytirodin o'r Llyfr Gweddi. Holwyd yn fanwl a phwrpasol iawn gan y Parch. J. Lloyd. B.D., ficer Llanpumsaint, a chafwyd atebiou parod a boddha.ol gan amryw, ond trueni na buasai yr ysgolion yn. fwy cyif- redinol yn ateb, yn lie gadael i ychydig wneyd y gwaith. Ar ol y cyfarfod hwn. rhodd- wyd te a bara brith i gorau Llangyudcyrn a Phonyates, yn y Ficerdy, gan y Parch. D. Jones a'i briod gariadus i gtr Pontyberem, yn yr Ysgoldy, gan y Pait-h. Isaac Jones a Mr. T. Seyi-nour: i gCr Llanldarog yn y Poft OrncG, gan y Parch, a Mrs. N. Thomas ac i gr Llan- dyfeilog yn y Farmer's Arms, gan y Parch, a Mrs. J Herbert. Ar ol hyn, ffurfiwyd yn or- ymdaith fawr gcrllaw yr ysgoldy, a dechreuwyd y daitli yn ol i'r eglwys. Yr oeddym yn sylwi ar y dorf fawr, ac yn gwntndo ar seiniau liyfrvd y ddau seindorf, pan y daeth ffermwr ymlaen atom, ac y dywedodd wrthym yn frwd, Beth ma nhw'n g'weyd fod yr Eglwys yn myn'd i farw ?" Meddai gwr arall, Dywedwch wrth- ynt eu bod yn dweyd colwydd." Wedi cyraedd yr eglwys, nid oedd lIe i fwy na haner y bobl i eistedd yn gyfleus. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. N. Thomas, Seer Llanddarog, ac aed trwy y Service of Sacred Song, Heseciab. yn hwylus iawn, Mr. Jones, ysgolfeistr Llan- dyfeilog, yn arwain, a Mr. Lewis, ysgolfeistr, Llangyndeyrn, yn chwareu yr harmonium. Darllenwyd y darnau Ysgrvthyrol gan Mr. T. Seymour, Poii byberein. Y mae llawer o drefn- usrwyud gwaith y dydd i'w briodoli i ddeheu- rwydd v Parch. Isaac Jones. Ar gais Ficer y plwyf, anerchwyd y dorf fawr gan Ficer Llan- ddarog. Dyjvedodd fod yn llawen gan ei galon
[No title]
^.yjoaint yn fwy cysurus ydyw y dyn sydd IelSlaugwarthu na'r dyn sydd eisiau prynu. GwezLdicl naturiol cydnabod a eilw allan gyd- I .^deiralad dyn cryf, ond gwendid meddyliol ni ond atdynu ei ddiystyrwck. 1<1 CfWrthun yw gweled dynion mawr yn diystyru b.YchaiQ on -^ai fod rliai yo fycliain, ni yddent hwy yn fawrion. Y dyn sydd wastad yn gofidio na fnasai wedi i w yw'r cyntaf i redeg at y drws pan waeddir Iod y ty ar dan. fy machgenyn bychan, yr ych wedi gwella yn holl iaclx eto. Yr oeddwn „ 8lWr y buasai y pills a adewais yn eich cilwii Silt y cymerasoch chwi hwynt, j dwfr neit mewn jam 0, mi a'u *Qyddiais yn fy chwyth-ddryll {blow c/wi).,J
Y FOCHRIW.
Y FOCHRIW. Dydd Sul diweddaf, ymddangosodd cor yr eg- wys uchod am y tro cyntaf yn eu gwenwisg- )edd. Maent wedi bod yn parotoi gogyfer a iyii am gryn amser o dan ddisgyblaeth ac arol- i'giaeth y Parch. D. Ll. Rees, curad y lie. Yr I )edd yr eglwys yn orlawn yn yr hwyr, a'r canu rn gynulleidfaol a hynod o swynol. Pregeth- vyd gan Mr. Hees yn nerthol, a chafodd wran- 11 lawiad astud.-Gohebydd,
CWMAFON.
CWMAFON. Y PASG.—Yn y boreu, am haner awr wedi ivyth, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid yn yr iglwys blwyfol. Y Parch. Gan on Roberts, B.A., Llandaf, yn cael ci gynorthwyo gan y Parch. T. Jenkins, curad, oeddynt yn gweinyddu. Am Ideg, darllenwyd y gwasanaeth a phregetbwyd )Tn Gymraeg gan y Canon Roberts 'oddiar loan zn ex. 20 ac am dri, yn y prydnawn, anerchodd yr Ysgolion Sul Cymreig a Seisnig. Yn yr lwyr, am haner awr wedi chwech, bu yn darllen Y gwasanaeth yn Saesneg yn Eglwys All Saints, i phregethodd oddiar Job xiv. 14.-John Afan Davies.
GLYNTAF.
GLYNTAF. Y PASG.—Cafwyd cynulliadau lliosog iawn yn addoldai Eglwysig y plwyf uchod ar Sul y Pasg. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid dair waith yn ystod y boreu, sef am wyth, lianer iwr wedi naw i'r Cymry, ac am un-ar-ddeg. Llawenydd mawr oedd genym weled cynifer yn iyfod i fyny at Fwrdd ein Harglwydd ar yr wyl tion—brenliines y Gwyliau Eglwysig. Un igwedd newydd yn y gwasanaethau a pynhal- iwyd yn eglwys y plwyf oedd presenoldeb yr Ynysangharad String Band. Deallaffod presen- oldeb y Band wedi rhoddi boddlonrwydd cyff- redinol i'r gynulleidfa liosog a ddaeth ynghyd Poreu a hwyr. Mawr obeithiwn mai nid dyma y tro olaf i ni weled y String Band yn ein Iieglwys.—Cohedydd.
CILGERRAN.
CILGERRAN. Gwisga yr achos agwedd lewyrchus yma yn bresenol. Llenwir yr eglwys bob Sul. Daw rhai yma o'r pellderoedd er mwyn cael mwyn- hau gweinidogaeth Mr. Parry. Ond yma, fel yu mhob man arall, teimlir hefyd oddiwrth weinid- ogaeth angau—" brenin y dychryniadau." Caf- wyd colled fawr ar ol y ffyddloniaid Mr. John Griffiths, Cwmplusgog, a'r hen chwaer Rachel Ifan. Cafodd yr Ysgol Sul ergyd lymdost yn marwolaeth y cyntaf. Torwyd ef i lawr yn anterth ei nertli. Gellir dweyd am yr hen chwaer, ei bod hi yn ngwir ystyr y gair y ffyddlonaf o'r jffydloniaid," a'r hyn a all odd hon hi a'i gwnaeth." Cysgwch yn dawel yn hen fynwent hoff Cilgerran, hyd y boreu y bydd bywyd yn treiddio drwy holl ogofeydd marwcl- aeth.—W. Griffiths.
ABERMAW.
ABERMAW. CYLCHWYL LENYDDOL A CJIERDPOKOL.— Cynhaliwyd yr uchod ddydd Llun y Pasg. Daeth cynulliadau da i'r ddau gyfarfod, ac y mae yn ddiameu ei bod wedi profi yn llwyddiant perffaith. Am ddau o'r glocli y prydnawn cy- merwyd y gadair gan y Parch. T. C. Watkin Davies, M.A., yr hwn a ddywedai fod cyfarfod- ydd fel hyn yn foddion elfeithiol i ddiwyllio y meddwl. megis yr oedd y Flower Show yn Llanfachraeth wedi bod yn foddion i dynu ffrwythau a blodau gwell o'r ddau nag a welwyd yno o'r blaen. Arweiniwyd y cyfarfod mewn modd gafaelgar a chryno gan y doniol Mr. Llygadog Evans, National School, Maentwrog. Cyflawnodd Miss Griffith ei gwaith fel cyfeilydd yn ardderchog drwy y dydd. Canwyd can yr eisteddfod gan Mr. Pipes Jones, Abermaw, 0 na bae haf o hyd." Yna anerchwyd y llywydd gan loan Llech, a bardd ieuanc arall. Yna gwohrwywyd y personau canlynol yn nghyfar- fod y prydnawn — Goreu am adroddiad, Humphrey Roberts ail, Miss Annie Roberts 3, Miss Mary Jones. Miss Annie W. Griffiths a wobrwywyd am ganu unawd (soprano), Myfi sy'n mag-u'r baban." Y goreu am englyn, Gwydr oedd David Jones, Bryncrug. Gwobrwywyd Earnest Davies, P. Williams, a Jennie Williams am adrodd "Magnificat." Ap Trwsgl oedd y goreu am wneyd ffon. Cystadl- euaeth canu y don Glanogwen" gan y corau canlynol:—Dolgellau, Dyffryn, Tynant, Tal- sarnau y goreu ydoedd c6r Dyffryn. Goreu ar bryddest, John E. Davies, Towyn. Allan o 5. y goreu am chantio Duw a drugarhao wrth- ym" oedd cor Abermaw. Goreu am chwareu Ash Grove ar y berdoneg oedd Miss Jones ail, Miss Mary E. Jones. Yna talwyd y diolch- iadau arferol.-Dorvil.
Y FERWIG.
Y FERWIG. Dydd Gwener, cymerodd etholiad tair blyn- yddol y Bwrdd Ysgol yn mhlwyf y Ferwig a'r Mwnt le. Fel hyn y safai y pleidleisiau ar ol agor y blychau Parch. D. H. Davies, Ficer 79 John Richards (Cadben Hong) 60 Thomas Davies (Amaethwr) 60 Parch. Thomas Phillips (Bed.) 51 James Evans 45 Aflwyddianus :— Parch. J. Richards (Bed.) 40 W. Williams 22 D. J. Davies 8
- YSTRADYFODWG.
YSTRADYFODWG. Nid yn ami yr ydych yn cael eich blino gan ohebwyr o'r plwyf poblogaidd hwn. Gofynwyd i mi yn ddiweddar gan un o ddarllenwyr eich newyddiadur sydd yn byw rai milldiroedd o'r plwyf hwn, os oeddem i gyd, fel Eglwyswyr, yn cysgu yn y plwyf, gan nad oedd gair byth yn ymddangos am danom, na'n gwaith ? Ond gallaf t-ich sicrhau fod ein parchus Ficer a'i guradiaid i gyd ar ddihun, ac yn gweithio a'u holl e-ni. Ar Sul y Pasg bu torf fawr drwy y plwyf yn cyfranogi o'r Cymun Sanctaidd. Cymun odd yn eglwys y plwyf yn unig 116 ac nid yw hyn ond engraifft fechan o'r gwaith mawr sydd yn cael ei wneyd yn eglwysi eraill y plwyf. Ein dymuniad yw ar i'r gwaith gynyddu, a bendith y nefoedd fyddo ar y rhai sydd yn ymdrechu ynddo.- Thomas.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. CYNGERDD.—Nos Lun, y 7fed cyfisol, cynhal- iwyd cyngerdd yn y Royal Hart Coffee Tavern, dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol. Yr oedd rhan o'r elw i fyned i drysorfa gweddwon ac amddifaid y Morfa. Yr oedd yn dda genym weled cynifer o filwyr yn cymeryd y f&tli ddy- ddordeb yn y cwestiwn dirwestol. Y prif woithiwr yn y mudiad oedd y Sergeant Sales. Cadeiriwyd gan James Williams, Ysw., M.R.C.S. Cymerwyd rhan yn y cyngerdd gan y Parch, W. Howell (Hywel Idloes) a'r Misses Howell, Mr. Tom Morgan, Illtyd, Mr. C. E. W. Price, North House Mr. a Miss Lloyd Jones, Bowen Terrace, ac eraill. Cawsom ganu o'r iawn ryw, ac wrth fodd calon pawb. CYNGRAIK Y FRIALLEN.-Y mae Mr. R. D. Clesiey, Penanr, wedi ei benodi yn brif swyddog y gangen leol, a Miss Garnons Williams yn ysgrifenyddes. Cynhaliwyd eylarfod brwdfrydig nos Sadwrn diweddaf yn Ruperra House, a nos Lun yr oedd y Milwriad Bond yn aneroh yr ael- odau yn y Guild Hall.
HIRWAUN.
HIRWAUN. GWEITHFAOL.—Y mae yn ddrwg genym hys- bysu fod yr annealltwriaeth sydd wedi bodoli yma er's naw wythnos. rhwng gweithwyr y rower a'u meistri, yn parhau o hyd. ac nid oes gobaith y deuir i derfyniad boddhaol. Gobeith- iwn y goreu. GWEXER Y GROGLITH.—Cynhaliwyd cyfar- fodydd yma am wyth ac am un-ar-ddeg y boreu, yn Saesneg, ac am haner awr wedi saith, yn yr hwyr. yn Gymraeg. Cafwyd cynulliadau da, yn enwedig yn yr hwyr. Yr oedd yr olaf yn gyf- arfod parotoad i'r cymunwyr heblaw ei fod yn wasanaeth cyhoeddus. Gwasanaethwyd trwy y dydd gan y Parchn. W. Rliydderch, ficer, a D. Arthur Lewis, curad. SUI. Y PASG.—Yn y boreu, am wyth, gwein- yddwyd y Cymun Bondigaid yn Gymraeg. Daeth nifer liosog o'r Cymunwyr ynghyd. Gweinyddwyd yn Saesneg am un-ar-ddeg, ac yr oedd yr eglwys yn llawn o wrandawyr. Yr eedd y canu, o dan arweiniad Mr. William Kdmunds, yn dda dros ben.—Craig y Llyn.
BRYNEGLWYS.
BRYNEGLWYS. PRIODAS EGLWYSIG.—Am haner awr wedi wyth, boreu y lOfed cyfisol, trwy ostegion, yn eglwys y plwyf uchod, gan y Parch. J. Davies, ficer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Owen, rheithor Llandegla, priodwyd Mr. Edward William Jones, mab hynaf Mr. David Roberts, Coed Idl, Glyndyfrdwy, a Margaret, ail ferch Mr. Hugh Jones, Bodanwydog. Yn ychwanegol at y cwmni priodasol, yr oedd yr eglwys yn llawn o edrychwyr. Dathlwyd yr amgylchiad yn anrhydeddus, ac oddi allan i'r eslwys yr oedd bwa (arch) brydferth wedi ei chyfodi. Ymadawodd y par ieuanc am Lundain, lie y bwriadant dreulio eu mis mel. Llongyf- archwn y par ieuanc am iddynt roddi esiampl o ymlyniad wrth yr hen drefn Eglwysig o briodi, sef trwy ostegion. Nid ydym un amser yn clywed gostegion yr un Eglwyswr, oddigerth iddo fod yn rhy dlawd i gael trwydded. Y mae llawer fel yn credu y byddai sarhad ar eu priodas, briodi trwy ostegion, ond diffyg ymlyn- iad wrth drefn ac egwyddorion yr Eglwys yw y cyfan. Dymnnwn amser dedwydd a llawen i Mr. a Mrs. Roberts.- Tysilio.
LLANSANTFFRAID, CEREDIGION.
LLANSANTFFRAID, CEREDIGION. Y GROGLITA.-Dydd Gwener y Groglith, cafwyd gwasanaeth a phregeth yn yr eglwys am ddeg yn y boreu, pryd y gweinyddwyd gan ein parchus Ficer. Yr oedd yno nifer liosog wedi dyfod ynghyd, ond nid cynifer ag y disgwylid. 0 Y PA?G.—Cynhaliwyd gwasanaethau ar yr oriau arferol ar Sul y Pasg. Yn y gwasanaeth boreuol gweinyddwyd y Cymun Bendigaid i 134 o gymuuwyr. Yn yr hwyr, cafwyd gwasanaeth ac adroddiad o'r pwnc gan yr Ysgol Sul, a dad- ganiad o'r anthem "Cwvmp Babilon a dyrchafiad Teyrnas Crist" (W. Owen, Frysgol), gan y cor, a'r ganig Mae pobpeth yn dda (Dr. J. Parry), gan gor y plant. Blin oedd genym weled na ddaeth agos yr oil o'r cymun- wyr i'r Eglwys yn y boreu i ddathlu ein prif wyl fel Cristionogion. Caniataer i mi ofyn yn garedig i bawb o honom am fod yn fwy ffydd- Ion ac ymdrechgar yn y dyfodol, a bydded i ni gofio cadw Gwyl y Pasg yn briodol. LLUX Y PASG.—Diwrnod yr edrychid ymlaen ato gyda chryn dipyn o ddyddordeb gan y to ieuangaf o Ysgol Sul Llansantffraid oedd hwn. Yr oedd yr ysgol i fyned i gyfarfod a phump o ysgolion eraill yn Aberaeron, ac i uno a. hwynt i gadw gwyl trwy adrodd pwnc a chanu. Yr oedd hwn, yn anffortunus, yn ddiw.mod tra anghyfleus i ni gael cerbydau i'n cario yno, gan fod marchnad y Pasg yn Aberystwyth, a'r vans dan rwymau am y dydd. Yr oedd hefyd nifer liosog o'r ffermwyr a'u gweision a'u morwynion yn methu oherwydd hyny a dyfod gyda ni, a llawer o'r aelodau hynaf yn gweled y daith yn rhy bell i'w cherdded. Modd bynag, cawsom ddiwrnod ffafriol, a cherddodd y rhai canol oed, a chariwyd y plant mewn certi (ddeg milldir rhwng myned a dychwelyd), ac aeth tua dau cant o honom i lawr. Cyrhaeddwyd Aber- aeron yn brydlawn, ac aethom trwy ein gwaith fel y cawsom ganmoliaeth uchel am dano. Dy- chwelodd rhai o honom adref yn gynar yn y prydnawn, ac eraill ar ol y gwasanaeth hwyrol. Cawsom bleser mawr, ac adeiladaeth hefyd, wrth glywed yr ysgolion eraill yn myned trwy eu gwaith mor ddeheuig. Diau eu bod hwythau wedi derbyn lies a budd nid bychan oddiwrth y cyfarfod blynyddol daionus hwn. Gyda bod hyn eto ar ben, y mae genym waith arall yn awr, sef parotoi gogyfer a'r Wyl Gerddorol Eg- lwysig Deoniaeth Aeron, yr hon a gynhelir ar y 29ain o Fehefin. Hai ati eto, ein cyd-Eglwys- wyr eich hysgwyddau at yr olwyn, bob un o honoch Bydd yn dda gan lawer gael ar ddeall fod yr Hybarch William Herbert wedi bod yn alluog i ddyfod i'r Eglwys Sul y Pasg, ac i gynorthwyo y Ficer i weinyddu yr elfenau cysegredig.— Glan Peris.
CLYDACH.
CLYDACH. Y GROGLITII.-Amser prysur iawn fu arnom ar y dydd sanctaidd hwn. Am 8 o'r gloch, dar- llenwyd y gwasanaeth boreuol. Am 11, darllen- wyd y gwasanaeth a phregethwyd yn Saesneg. 0 ddau hyd bedwar yn y prydnawn cafwyd anerchiadau tarawiodol ar eiriau olaf ein Hiachawdwr, ynghyd a. cholectau, emynau, a gweddiau dirgel rhyngddynt. Am 6.30, cafwyd gwasanaeth a phregeth yn Gymraeg. Am 8, cafwyd darlith ar hanes y Dioddefaint a'r Croes- holiad, yn cael ei hegluro a darluniau o'r gwa- hanol ddigwyddiadau pwysig ar y Magic Lantern. Er pan ddechreuwyd arfer yr offeryn hwn yma;, y mae yna gynydd Ilmlwg yn ngwybod- aeth y plant, ac yn y dyddordeb a gymerant yn yr hen hanes bendigedig. SUL Y PASG.—Gweinyddwyd y Cymun Sanct- aidd yn Gymraeg am 8. Cafwyd gwasanaeth a phregeth Seisnig am 11, a gweinyddwyd y Cymun. Yn y prydnawn buwyd yn cateceisio y plant yn yr eglwys, ac yr oedd yr ateb yn dra, boddhaol, ac yn dangos 61 llafur ar ran yr athrawon a'r athrawesau. LLYFK NEWYDD Y PARCH. N. THOMAS (MARLAIS).—Yr ydym yn disgwyl llawer am ymddangosiad Grisiau'r Deml." Yr ydym wedi anfon archebion at yr awdwr am nifer o gopïau. a chyn gynted ag y deuant i law byddwn yn argymell y llyfr i sylw y bobl. Dymunaf, y yn ostyngedig, apelio at bob offeiriad Cymreig drwy Gymru i wneyd hyn o garedigrwydd ag un sydd yn ymdrechu i wasanaethu ei genedl a'i Eglwys. Y mae Marlais yn Gymreigwr coeth a llithrig, ac nid oes eisiau ofni na fydd cynwys y llyfr yn v\i&govo\.—Glydawg.
RHYL.
RHYL. Dydd Iau diwoddaf, cafodd y trethdalwyr y cyfieusdra i ddewis eu cynrychiolwvr fel dir- prwvwyr. Yr oedd saith yn eisiau, ac fe ddaeth un-ar-ddeg ymlaen am ymgeisiaeth. Dechreu- wyd pleidleisio am naw o'r gloch y boreu hyd bedwar y prydnawn. Am chwech o'r gloch, gwnaeth y swyddog penodedig y canlyniad yn liysbys fel y canlyn — James Ll. Browne 695 John Frimstone 687 liobert Jones 673 J. B. Linnell 671 John Williams 663 J. S. Greenhalgh 511 E. W. Keatinge 412 A. L. Clews 383 G. A. Taverner. 397 T. C. Amos 38;) W. J. P. Storey 297 Y saith cyntaf a etholwyd. ETHOLIAD Y GWAROHKIDWAID.—Dywedir fod rhagor nag ugain mlynedd wedi myned 1-1 11 -1 heibio er's pan gymerodd etholiad o'r natur hwn I le o'r blaen yn ein tref. Yr oedd pedwar ym- geisydd, sef Mri. Foulkes, B. Littler, LI. Jones, n ac E. Roberts. Y ti-i blaenaf a enwyd oeddynt ddewisedig ddynion y trethdalwyr. MARWOLAETH. Gofidus genym gofnodi marwolaeth Mr. Bernard Parsy, o'r dref hon, yr hyn a gymerodd le y Sul diweddaf, yn 76ain mlwydd oed. Yr oedd yn aelod ffyddlon ac yn un o wardeniaid Eglwys y Drindod. Bydd genym ragor i'w ddweyd am yr ymadawedig yr wythnos nesaf.-Ab Trebor.
LLANSAMLET.
LLANSAMLET. MARWOLAETH.—Gyda gofid dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth Mrs. Dr. Walters, yr hyn a gymerodd le ddydd GweDer y Groglith, ar ol hir nychdod a gwaeledd. Pan yn iacn ac yn alluog i fyned o gwmpas gwnaeth waith mawr a chanmoladwy yn y plwyf. Bu yn offeryn ol i gasglu swm mawr o arian tuag at adeiladu eglwys y plwyf, yr hon sydd yn addurn i'r gymydogaeth, ac a barha yn gofgolofn o ym- drechion diflino yr ymadawedig, a'i lianwyl briod, yr hwn sydd wedi ei adael yn yr anial wrtho'i hun. Yr oedd ei gofal am, a'i charedig- rwydd tuag at y tlawd, yr afiach, a'r anghenus yn ddiarebol trwy yr holl wiad, a bydd ei choffadwriaeth yn fendigedig am amser hir. Mawr ydyw y cydymdeimlad a ddangosir tuag at y Dr. parchus yn ei drallod. Prydnawn dydd Mercher, rhoddwyd ei gweddilljon marwol i orwedd mewn vault yn ochr dwyreiniol yr eglwys. Daeth tyrfa liosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf i un a gerid ac a berchid mor gyffredinol. Gwelsom yn mysg y dyrfa barchus yr Hybarch Archddiacon Griffiths, Castellnedd. Canwyd wrth y ty, cyn cychwyn, yr hen emyn adnabyddus, Bydd myrdd o ryfeddodau," &c. ac yn swn nodau tyner yr hen alaw feius hon cychwynodd yr orymdaith bruddaidd yn araf tua'r eglwys. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aeth gan y Parchn. E. G. Williams, R. Price (Brecon), Stephen Jones (Llansamlet), ac Evan Davies (Glais). Yn yr eglwys canwyd gan y cor o dan arweiniad Mr. Tom Grimthp, yr emyn Saesneg, "Rock of Ages," a'r "Vital Spark," yn effeithiol iawn. Cynorthwyai Mr. Vernon wrth yr organ. Y Sul canlynol, cawsom dair pregeth angladdol. Pregethwyd yn y boreu, yn Saesneg, gan y Parch. E. G. Williams, Cockett —hen gyfaill i'r ymadawedig ac yn yr hwyr, gan y Parch. D. Griffiths, Cwmaman, yn Gym- raeg, a Mr. Jackson yn Saesneg.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. LLAN BEDR-FELFI,'PE.-Dydd Mercher, y 9fed, cynhaliwyd gwasanaeth Conffirmasiwn yn yr eglwys uchod, am 11 o'r gloch yn y boreu. Yn absenoldeb ein Hesgob ein hunain, yr hwn sydd, y mae yn dda genym glywed, yn graddol wella o'r anwydwst, gweinyddwyd gan yr Esgob Lewis o Landaf. Intoniwyd y Litani gan y Parch. R. Davies, curad, tra y gweithredwyd fel caplan i'w arglwyddiaeth gan y Parch. D. Pugh EvanSj D.G., rheithor. Cyflwynwyd oddeutu 60 o vmofynwyr am y ddefod gys^grcdig o Arddodiad Dwylaw gan y Parchn. D. P. Evans, J. S. Jones (Llanddewi FeiiFre), E. F. Lewis (Llanfallteg), J. Ll. Jones (Eglwys Cwmin). E. Rowland (Whitland), P. Davies (Llangan), O. J. Thomas (Cyffig), T. David (Amroth), — Garner (Crunmeare), S. Davies (Llanglydwen), J. George (Llandyssilio), a — Keogh (Eglwys Lwyd). Anerchwyd yr ymofynwyr a'r gwydd- fodolion o'r hen bwlpud gynt gan yr Esgob yn ei ddull difrifol a swynol ei hun. Nid arbedodd y Rheithor a Mrs. Evans na thrafferth na thraul er mwyn cyfleusdra'r ymofynwyr a'u hoffeiriaid, ynghyd a llwyddiant y gwasanaeth rhagorol a gawsom y tro hwn eto. LLANFALLTEG.—Nos Fercher, am 8 o'r gloch, cafwyd cyngerdd rhagorol yn yr Ysgoldy Cenedlaethol uchod. Cadeiriwyd yu wir fedrus gan y Parch. D. S. Williams, rheithor i Jaw- haden, yr hwn hefyd a draddododd anerchiad hapus a phwrpasol ar y dull goreu i gario ymlaen y Ddarllenfa, tuag at yr hon y rhoddid yr elw. Canwyd yn odidog gan Mr. Ivor Davies, Clyn- derwen Miss Bessie Roes, or Lamb, Llanboidy: Mr. Phillips, o'r Llythyrdy Mr. Adams Mr. Ll. M. Jones, o'r Ariandy, Arberth cora-ct solos, &c. a chan Glee Parties Llanfallteg, Login, Pantrocden. CyfeiIiwyd gan AJiss Bowen Jones, i lafur cak-d yr hon yr ydys yn ddyledus am y cyngerdd, a'r Ddarllenfa Iicfyd. Yr oedd yn bresenol y Parchn. J. George, Llan- dyssilio R. Davies, Llaubedr Fclj J. S. Jones, Llanddewi FeliTre T. Davies. Linnmn Mrs. Jones, Gwern Macwydd Mrs. Williams, Llawhaden Mr. Phillips, Mr. Evans, Ac. Da iamn genym fod ein parchus frodyr, sel y D.G. o Langwnwr, y G.D. o Santa Clara, a'r G.C o Aberteifi, ac eraill o'n cwmpas, yn gwella yn raddol o'u hafiechyd blin. Mewn dwys gyd- ymdeimlad a hwynt y gorphwyswn y tro hvm eto.