Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CONFFIRMASIWN .-Ddydd Sul diweddaf bu Esgob Bangor yma yn arddodi dwylaw, yn ol y ddelod apostolaidd, ar amryw o bobl ieuainc. Yr oedd 16 o Ddolgellau, a 7 o Lanelltyd. Nid oedd cymaint o Ddolgellau y tro yma, gan nad oes ond deng mis er pan y cafwyd Conffirmasiwn, pan yr oedd 49 o'r dref yma yn unig. Da oedd gweled yr eglwys yn llawn o addolwyr, a phawb yn ymddwyn yn deilwng o bwysigrwydd yr am- gylchiad. Yn y prydnawn, aeth yr Esgob i Fryncoedifor. Conffirmiwyd yno 12 o Gymry yn unig, a rhai o honynt mewn oed. Dengys hyn fel y mae yr Eglwys yn enill tir yn y gymydogaeth hon. Er mai plwyfi gwasgarog sydd o amgylch yma, eto y mae gwaith ardderch- og yn cael ei wneyd gan yr holl offeiriaid. Bydd yr Esgob yn conffirmio yn Llanfachreth ymhen oddeutu wythnos.
CRGESOSWALLT.
CRGESOSWALLT. Gellir dweyd am wythnos y Dioddefaint, iddi gael ei threulio yma ar ei hyd, mewn gweddi ac ymbil, a da oedd gweled fod darpariadau gwerthfawr wedi cael eu gwneuthur er arwain y meddwl i'w threulio felly. Bob boreu, ag eithrio boreu ddydd Gwener y Groglith, cafwyd gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 8 o'r gloch a bob nos, yn ystod yr wythnos, cafwyd gwasanaeth a phregeth. Ddydd Mawrth, gweinyddwyd, yn ol yr hen arferiad er's blyn- yddau bellach, cyn dydd y Pasg, y ddefod o Gonffirmasiwn. Yr oedd rhyw 200 o ymgeiswyr eleni, y rhai a anerchwyd yn hapus dros ben, gan yr Esgob, ar eu dyledswyddau fel Cristion- ogion. Ddydd Iau, gweiyyddwyd y Cymun Bendigaid am 5 o'r gloch, er mwyn i'r dosbarth weithgar gael cyfleusdra i gyfranogi o'r wledd hon cyn myned o honynt at eu gwaith yn y boreu. Golygfa gwerth ei chofio oedd gweled cynifer o'r dosbarth pwysig hwn yn ymgynull yn eu dillad gwaith yn nhy Dduw ar awr mor foreu. Boed i bob bendith eu dilyn. Er gwaethaf yr elfen wrth-Eglwysig, cafwyd cyn- ulleidfaoedd mawrion yn eglwysi y dref yn ystod Gwener y Groglith. Mynychwyd y gwasanaeth tair awr, o 12 i 3 o'r gloch, gan gynulleidfa ardderchog. Dydd i'w gofio oedd dydd Pasg. Ni welwyd erioed gymaint o gymunwyr yn hen Eglwys y plwyf. Cymunodd yn y plwyf 841 ac yn Eglwys y Drindod, 426 felly cymunodd yn y ddau blwyf 1,276 o bersonau.-Oswallt.
HENEGLWYS (MON).
HENEGLWYS (MON). Y GARAWYS A'R PASG.—Er fod llawer yn y plwyf hwn yn dioddef oddiwrth yr anwyd- wst, yr hyn fu yn rhwystr i offeiriaid dieithr allu dyfod yma i bregethu, oddieithr y Parch. J. Owen, Llangwyllog a Coedana, eto cafwyd cynulliadau da yn yr Eglwys. Dydd Gwener y Groglith, daeth lliaws ynghyd, yn enwedig yn yr hwyr, pryd y pregethwyd gan y Curad oddi- ar 1 Petr ii. 21. Dydd y Pasg daeth nifer mawr o gymunwyr ymlaan-y mwyaf yn ol tystiol- aeth yr aelodau hynaf a welwyd yma erioed o'r blaen. Daeth deg o'r newydd i gymuno. RHODDION I'R EGLWYS.-Y mae Mrs. Wynne-Jones, a Miss Wynne-Jones, Caerlleon, wedi anrhegu yr Eglwys yma, drwy y Curad, a Credence Bracket derw hardd a llieiniau priodol at wasanaeth y Cymun. Bu y diweddar Hybarch Archddiacon Wynne-Jones yn rheithor Heneglwys am tua 24 o flynyddau, a bu y Curad sydd mewn gofal o Heneglwys yn bresenol yn gurad iddo yn Bodedern. Diangen- rhaid dweyd fod y rhoddion hyn wedi eu derbyn gyda diolchgarwch cynes gan yr holl aelodau. HANESYDDIAETH EGLWYSIG.—Yn ystod yr wyth mis diweddaf, cynhaliwyd dosbarthiadau o fechgyn ieuainc, mewn undeb a'r Ysgol Sul yma, ddwywaith yn yr wythnos, er mwyn eu hyfforddi mewn hanesyddiaeth Eglwysig. Y llyfrau a ddefnyddid oeddynt y rhai canlynol: Archdeacon Pryce's "Ancient British Church j Nye's Popular Church History N. Thomas's "Yr Hen Fam a'r Hen Lyfr;" a Canon Trotter's Church History Chart.Llwydian.
ABERAERON.
ABERAERON. CYFARFODYDD EGLWYSIG Y PASG.-Y mae wedi bod yn arferiad yn yr ardal hon i gynal cyfarfodydd i adrodd y pwne er's blynydd- oedd lawer bellach ar ddydd Llun y Pasg. Nid oes dim erioed wedi troi allan yn fwy o lwydd- iant na'r cyfarfodydd hyn yn Aberaeron. Ar yr amgylchiadau hyn mae Eglwys y Drindod "Yi bob amser yn orlawn ac eleni yr oedd mwy yn bresenol nag erioed, oherwydd yr oedd ysgol gref Llansantffraid-yr ysgol fwyaf blodeuog yn y sir-wedi ymuno a'r undeb eleni. I gyf- ateb hyn, fodd bynag, aeth dwy ysgol— Cilcennin, a Llanbadarn Trefeglwys—allan o'r undeb, gan y bydd yn fwy cyfleus iddynt i ym- uno a. Llanfihangel Ystrad. Cynbaliwyd dau gyfarfod, un yn y boreu, a'r Ilall yn y pryd- nawn. Yn y cyfarfod cyntaf holwyd yr ysgol- ion canlynol:—Llanddewi Aberarth, gan y Parch. H. Evans, Llancrwys; Dihewid, gan y Parch. W. 0. Edwards a Llansantffraid, gan y Parch. H. Evans. Yn y prydnawn, holwyd y rbai canlynol:—Llanerchaeron, gan y Parch. D. Jones, B.A., Llanddewi Aberarth; Llanarth, gan y Parch, D. Jones; ac Aberaeron, gan y Parch. D. Lewis, Llansantffraid. Gallwn ddweyd yn ddibetrus fod yr holi a'r ateb i fyny a'r safon a osodwyd i lawr yn y cyfarfodydd blaenorol; a gellir dweyd yr un." peth am y canu. Canodd pob ysgol anthem ar ol yr holi, ac aethant trwy eu gwaith yn ardderchog. Ar- weiniwyd c6r Aberaeron, ac hefyd Llanerch- aeron, gan Mr. John Jones; Llanddewi, gan Mr. Richards; Llanarth, gan Mr. S. Davies, ysgolfeistr; Llansantffraid, gan Mr. J. Pugh; a Dihewid, gan Mr. Evans, gwehydd. Yr oedd amryw offeiriaid yn bresenol, a dylem enwi y Parchn. M. Evans, Llanddewi; a R. Williams, Llanerchaeron, am eu bod morgaredig a rhoddi gwledd o d6 a bara brith i aelodau eu hysgolion. 11 Yn yr hwyr yr oedd cynulleidfa liosog yn gwrandaw ar y Parch. D. Lewis yn pregethu.— Eglwyswr.
UP AND DOWN THE DEE. I
UP AND DOWN THE DEE. Gan fod fy ngalwedigaeth yn fy arwain o Connah's Quay hyd tua Point of Air, daw cryn lawer o bersonau a phethau dan fy sylw. Pan y bydd yr hogyn a minau wedi lledu yr hwyliau i gofleidio yr awch, a'r rhwydau hefyd i gofleidio rhai-rhy ychydig fel rheol-o breswylwyr y dyfnder, bydd genyf hamdden i edrych oddi amgylch ar y golygfeydd prydferth o bob tu i'r afon. Ond a'r ochr Gymreig y mae a fynwyf fi heddyw. Fel yr wyf yn cychwyn allan o borthladd Connah's Quay, nis gallaf lai nag edrych o'r tu ol ar y bont brydferth, ychydig yn uwch i fyny yr afon, a adeiladwyd yn ddiweddar gan Gwmni y Manchester, Sheffield, and Lincolnshire Rail- way. Er dydd Llun, Mawrth 31ain, y mae y llinell newydd sydd yn arwain drosti wedi ei hagor, a cherbydresi yn rhedeg yn rheolaidd rhwng W.tecsam a Chaerlleon ar hyd-ddi. Pan y tuallan i Fagillt, cofiais i mi glywed fod y Parch. J. E. Jones wedi rhoddi i fyny y fywoliaeth oherwydd afiechyd. Gwasanaethwyd y Sul diweddaf yn yr eglwys gan y Parch. D. J. Thomas, B.A., Winchester, yn y boreu, a'r Parch. W. Ll. Nicholas, Fflint, yn yr hwyr. Y mae yma faes eang i weithio; oredaf mai nid gwaith ofer fyddai parotoi ystafell genhadol gyf leus i Eglwyswyr y rhan orllewinol o'r plwyf. Troais i fewn i Fostyn, er prynu ychydig lun- iaeth. Gofynwyd i mi fwy nag unwaith a oeddwn wedi clywed am faner Home Rule Dr. Pan Jones. Yna cefais yr hanes. Cynhelid cyfarfod llenyddol yn nghapel y Dr. ar ddydd Gwener y Groglith yn ymyl y capel yr oedd baner yn chwifio, a'r geirjau Home Rule yn ysgrifenedig ami. Dywedai y Dr. mai nid di- wrnod i fod yn drist, eithr yn hytrach i lawen- hau, oedd y dydd Gwener liwnw. Beth oedd yn meddwl y Dr.? Ai edrych ymlaen yr oedd at gyflwr gogoneddus gwlad y gan pan y byddai Home Rule yn ffaith? Ai tybod fod gweithred- iadau y dydd Gwener Groglith cyntaf yn colli eu mawredd yn ei olwg wrth eu cyferbynu a gweithrediadau mwy (?) dygiad i mewn yr oes t, euraidd pan y byddai pob meistr tir a pherson ymhlith y pethau a fu ? Feallai hefyd fod y Dr. yn ehedeg ymlaen yn ei feddwl at ganlyn- iadau rhyw friendly contest rbyngddo ef a Mr. Gee, o Ddinbych, am y swydd o Lywydd y Cyfrin-gyngor. Sonia More am ei Utopia, ond nid oedd yr ynys hono ond rhag-ddangosiad gwan o'r hyn a fyddai cyflwr Cymru dan Home Rule. Yr eglwys wedi ei throi yn Assembly Hall y plwyf (ei throi yn ystabl wnaeth Crom- well),dim un Eglwyswr i'w gael i fod yn ddolur llygaid i breswylwyr "Cymru Fydd," a phob gwetthjwr yn berchen ei dair erw a buwch." Ai ar ryw linellau fel yna y rhedai meddwl y Dr., nis gallaf wybod i sicrwydd, ond wrth gys- ylltu y faner a'i ddywediad am lawenydd y dydd, felly y cesglais.—Pysgotwr.
LLANDIFAELOG-FACH.
LLANDIFAELOG-FACH. Y mae clychau yr eglwys hon wedi eu had- gyweiric, ac ychwanegwyd y chweched. Canwyd hwy y tro cyntaf ar Sul y Pasg. Yr oedd eu sain melus yn treiddio drwy yr holl gwm, ac y mae y Parch. W. Williams i'w ganmol yn fawr am ei ymdrechion i gael pob peth sydd yn per- thyn i'r eglwys mewn trefn. Y mae yma un o'r eglwysi harddaf yn yr esgobaeth, ac y mae yr achos Eglwysig yn flodeuog yn y plwyf.
BWRDD YR ADOLYGYDD.
BWRDD YR ADOLYGYDD. "THE BANGOR DIOCESAN CLERICAL DIRECTORY AND CHURCH CALENDAR FOR 1890." Edited by the Rev. W. Morgan Jones, B.A. Published by Jar vis and Foster, Lome House, Bangor. Price Is. 6c. net. Yr ydym newydd dderbyn rhifyn o'r uchod-y flwyddyn gyntaf o'i gyhoeddiad -yr ydym wedi taflu cipolwg frysiog drosto, a dymunem ddweyd ein barn am dano ar dudalenau Y LLAN. Ei olygydd yw y Parch. W. Morgan Jones, B.A., curad Penmaenmawr, a'r cyhoeddwyr ydynt y Mri. Jarvis a Foster, Lorne House, Bangor. Mae y golygydd dysgedig a'r cyhoeddwyr anturiaethus wedi gwneyd eu gwaith yn ardderchog, ac y mae y Directory hwn yn adlewyrchu clod nid bychan ar y naill a'r Hall. Mae'n llyfr o 420 o dudalenau, ac wedi ei droi allan yn ddestlus dros ben. Mae ei gynwysiad yn amrywiog a chwaethus; a cheir ynddo ystorfa o wybodaeth fuddiol parthed yr Eglwys—yn lleol, cyffredinol, a hanes- yddol. Ceir ynddo erthygl ddyddorol iawn ar Esgobaeth Bangor ei sefydliad a'i chynydd a dilynir gan un arall yn cynwys lleclires o'r Esgobion, o Demiol neu Daniel i lawr hyd at Dr. Campbell, yr hwn sydd ar ymddiswyddo. Ceir hefyd lechres o'r deoniaid, yr archddiaconiaid, a holl glerigwyr yr esgobaeth, ynghyd a'u .L teitlau, &c. Ceir ynddo hefyd enwau y r gwahanol blwJfi-eu gwerth, nifer y boblogaeth, rhif aelodau yr Ysgolion Sul a dyddiol, &c. Hefyd, manylion dyddorol o berthynas i wahanol gymdeithasau yr esgobaeth, gweithrediadau y gynhadledd l flynyddol, adgyweiriadau a gwelliantau Eglwysig yn nghorff y flwyddyn ddi- weddaf, &c. Mewn gair, mae y Directory hwn yn gronfa o wybodaeth Eglwysig fuddiol, dyddorol, ac amserol a dylai fod yn nwylaw holl offeiriaid a warden- iaid yr esgobaeth. Nid yw ei bris ond deunaw ceiniog, ac y mae yn llawer mwy na'u gwerth. Y GENINEN.—Y mae rhifyn Ebrill o'n cylchgrawn cenedlaethol yn cynwys ffrwyth myfyr rhai o'n prif lenorion ar y pynciau dyddorol a ganlyn Vulcan fel llenor, athronydd, a bardd," gan y Parch. Hugh Jones (Harddfryn). 11 Di- wygio'r addoliad cyhoeddus," gan y Parch. David Roberts, D.D. Cymraeg Cymreig," y Parch. J. Puleston, B.A. Awdl Arobryn er cof am y diweddar Arglwydd Penrhyn," gan Graienyn. "Ofn a gobaith," Mr. Owen Owen, M.A. Y Cymry yn nhrefydd Lloegr," y Parch. Thomas Gray. Y Parch. John Pritchard," y Parch. John Williams. Offer cerdd Cymru fu," Mr. R. Williams, F.R.H.S. Robert Davies, Nantglyn," Owen Williams, Waenfawr. "Kilsby," Myfyr Emlyn. "Meudwy Mon," CI wyd- fardd. Cyfarchiad i Gymry oddi- cartref," lolo Caernarfon. Creuddun- fab," y Parch. Tudno Jones. Gweirydd ap Rhys," Llew Llwyfo. Llythyrau ar Athroniaeth," y Dr. Llugwy Owen. Cynddelw," Meiriadog. Englynion, Emlyn Fardd a Chlwydfardd. "Crynwyr Cymreig ardaloedd Dolgellau," Mr. E. Griffith, Y.H. Bardd Treflys," Myrddin Fardd. "Y Bedyddwyr, ac enwadaeth grefyddol," y Parch. Rhys Jenkins.— Gweddillion Llenyddol—Englyn o waith Edward Morris yn Latin, yn Saesneg, ac yn Gymraeg;" "Eisteddfod Caerwys;" "EnglynionNicander;" Llythyr oddi- wrth Gwallter Mechain at Angharad Llwyd;" "Cantrefydd Gwynedd, a'i lchymydau;" Dafydd Llwyd Isaac.— Gohebiaethau-11 Agoriad byr ar Weddi'r Arglwydd," y Parch. D. S. Davies, a T.C.U.; Y diweddar Barch. John Owen, Tyn'nllwyn," y Parch. H. Hughes "Geiriru Cymreig," Hywel Cernyw.
Advertising
GWEfsTFA." nnY i Offeiriaid i Xrphwys ynddo. Agorir y Ty i Ymwftj^yr Ebrill 14, 1890. Cyr- haeddir ef mewn jpum' mynyd wrth gerdded o Orsaf Glanrhyd. jF Ceir manylion oddiwrth Mrs. IpCHARDSON, CHARD | |panbrydan Park, Manordeilo. Yn y Wasg. Pris ls. 6c., wedi ei Rwymo yn Hardd. "GRISIAU'R DEML," J NEU OEDINHADAU TY DDU. Gany PARCH. N. THOMAS, FICER LLANDDAROG. VR unig esboniad cyflawn yn Gymraeg ar y Bedydd, y Catecism, Conffirmasiwn, a'r Cymmun Bendigaid. Y mae yn llyfr add as fel gwobr yr Ysgol Sul. Gan nad argreffir end nifer benodol, anfoner archebion at yr Awdwr ar unwaith- Rev. N. THOMAS, The Vicarage, Llanddarog, CARMARTHEN. AT EIN GOHEBWYR GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAETH at y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad & dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu feHy canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwcb ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar ein Gohebwyr lliosog dalu sylw arbenig i'r rheolau canlynol:— 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o lionynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy- hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y canlyn:— Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amser 1. Defnyddier 'note paper,' ae ys,,rifener ar un tu i'r ddaleu. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. TELERAU AM Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- iad yn y Deyrnas Gyfunol am y prisiau canlyno 1 Chwarter blwyddyn, Is. 8c.; haner blwyddyn, 3s. 4c.; blwyddyn, 6s. 8c. Dau neu dd rhifyn yn ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaendat gyda phob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer- ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y dwsin, 10c. gyda'r rheilffordd, a Is. gyda'r post. Rhaid i bob Dosbarthwr wastadhau ei gyf- rifon yn chwarterol, a dymunir ar i bob un dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgeulusdra ar ran swyddogion y Llytliyrdy neu y Rheilffyrdd gyda, chlndiad unrhyw sypyn, dylid anfon hysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r Cyhoeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- byniant eu sypynau gyda'r rheilffordd ofalu eu hymofyn yn eu gwahanol orsafoedd bob wyth- nos. HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yw yr unig Newyddindur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir gan y mwyaf deallns o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hysbys. Y Telerau am Hysbysiadau. 75 o eiriau (solid) neu un fodfeddli lawr y golofn (displayed) :— Un wytl)nos (tAl ymlaen Ilaw) 2s. 6c. Dwy wythnos. 2s. Oc. Pedair wythnos Is. 8c. Chwech wythnos 3s. 6c. IB wythnos Is. 3c. 26 wythnos Is. Oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith- iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y Ilinell. Hysbybiadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol:— 20 o eiriau, un waith, ls.; tair gwaith, 2s.; chwe' gwaith, 3s. 80 o eiriau, un waith, Is. 6c.; tair gwaith, 8s.; chwe' gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 6c.; chwe' gwaith, 6s. 9c. Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni ofynir tal am gyfieithu. SYL WE R.-Rbaid i bob Gohebiaeth ynglyn I Hysbysiadau a Tlialiadau o hyn allan gael eu tianfon i'r Cyhoeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office 135, High Street, Merthyr Tydfil. WANTED, CURATE, bilingual and musical. Stipend, TIOO, with furnished rooms.— Apply to D. D. Jones, Llanelly, Carmarthen- shire. 7 X/U ANTED, a LAY READER, who in return TT for preparation for College will train choir and do Lay Work; Welsh.—Apply Vicar, Bontddu, Dolgelley. 7-9 WANTED —A C URATE good Welsh T ™ Preacher; Stipend, C90 with title; a ^100 to a Priest.—Apply Vicar, Llan Office, Merthyr. Q ASAPH NATIONAL SCHOOL.—Wanted, an Ex-P.T. for the Boys' School. Salary, zC36 per annum.—Apply, Rev. THOMAS LLOYD, S. Asaph. CXrANTED, a Curate, immediately; good 1 Welsh Preacher. A title can be given to a graduate.—Address, The RECTOR, Llan- deiniolen, Carnarvon. A RESPECTABLE YOUTH Wanted as Apprentice to the Bookselling and Station- ery Trades,—Apply to Messrs. FAKRANT AND FROST, Stationers, &c., Merthyr Tydfil. A STUDENT learning Welsh wishes to hear from some gentleman who will receive him into his house for a short time to practise speaking. Address, Astudiwr," Office of Llan. \\I ANTED immediately CURACY, or tem- porary duty by a Deacon. Considered very good bilmguist; active parochial worker; total abstainer. North Wales preferred.—Beta, Llan Office, Merthyr Tydfil. 7—9 URATE WANTED.—Thorough biliaguist; musical; abstainer. Title might be given for next examination. Apply, stating refer- ences, to the Rev. Lewis D. Jenkins, Penycae Vicarage, Ruabon. 7 g URACY-IN-CHARGE, VACANT July 1st, c in St. Nathaniel's Welsh Church, Wind- sor, Liverpool. Stipend, Priest, £ 180. Must be decidedly spiritual, Evangelical, a fluent Welsh preacher, and a diligent visitor.—Apply Rev. R. Hobson, 4, Hartington Road, Liver- pool. 7 -8 ELWY HALL SCHOOL, RHYL.—For the Daughters of Gentlemen. Resident En- glish and foreign Mistresses and visiting Mas- I r, ters. Special terms for the Daughters of the Clergy. This School is specially recommended by the Right Rev. the Lord Bishop of the Diocese, and the Very Rev. the Dean. Pros- pectus on application to the Lady Principal. Next Term commencing May 1st. 6-57 w ELSII GIRLS' SCHOOL, ASHFORD, All applications for ensuing election to foundation and intermediate pay scholarships must be made upon special forms, which must be returned to the Secretary, on or before April the 1st. Foundation Scholars obtain their education and board free of all com Inter- mediate pay Scholars pay ^16 per annum. A limited number of higher pay Scholars at £ 32 per annum can be admitted after Easter. The cost of Board and education is over 150. Forms of application and full information can be obtained from the Secretary of the Welsh School, 127, St. George's-road, London, S.W. CYFRINGELL Y GOLYGYDD TywoxYN (Llanbedrog). Adroddiad gan ohebydd arall wedi ei gysodi pan ddaeth eich adroddiad chwi i law. Diolch i chwi, er hyny. Plwyfydd Glan y Mor yn Sir Fflint," adrodd- iad tra dyddorol, a adawyd allan yr wythnos hon oherwydd prinder gofod. Mynner ei weled yn y rhifyn nesaf. DERBYNIWYD ysgrifau Saul o Tarsus, Anarawd, Morgan o'r Gors, Egwad, Alltud Eifion, Clwydian, &c. Cyhoeddir hwy yr wythnos nesaf. Byddwch amyneddgar, garedigion. SW" D. S.-Rhoddir y flaenoriaeth bob amser 7,'V adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn fyr a chynivysfawr.
LLANDUDOCH.
LLANDUDOCH. Mae yr hyn a fynegwyd gan eich gohebydd Penfroydd yn Y LLAN yr wythnos ddiweddaf mewn perthynas 4 phenodiad y curad newydd i Aberteifi, yn ddiameu yn gywir. Hhyw amser byr mae Mr. Jones wedi bod yma, ond pan glywyd ei fod yn bwriadu ymadael, rhyfedd y cwyno sydd. Mae Mr. Jones wedi bod yma yn ddiwyd yn ngwinllan ei Arglwydd, ac wedi gwneyd ei hun yn anwyl i bawb Mae yn dda genym gael ar ddeall nad yw yn myned ymhell.
LLANDEGAI A LLANLLECHID.
LLANDEGAI A LLANLLECHID. Oddiwrth y ffigyrau a ddaeth i law, ym- ddengys fod gwyl y Pasg yn cael ei chadw gan gynulliadau lliosog yn yr eglwysydd yn y ddau biwyf uchod. Nifer y Qymunwyr, fel y deallwn, ar foreu Sul y Pasg (oil bron yn Gymry), oedd 569; sef 308 yn Llandegai, a 268 yn Llan- llechid. Yr oeddynt wedi eu dosbarthu fel y canlyn :-Eglwys Llandegai a'r Gelli, 142; St. Ann's, 159; Llanllechid, 158; Glanogwen, 111. Dylid nodi hefyd fod yr wyl yn un anfanteisiol, oherwydd amryw achosion lleol, i lawer o'r teuluoedd Eglwysig fod yn bresenol. Cedwir Pasg bach, fel ei gelwir, mewn un neu ddwy o'r Eglwysi, yn ol yr hen arfer, er mwyn rhoi cyfleusdra i bawb ag oedd yn absenol ar ddydd Pasg i gymuno o fewn wyth niwrnod yr wyl, a chymer llawer fantais o'r cyfleusdra.
LLANBEDROG.
LLANBEDROG. CYFARFOD YSGOLION SUL.-Cynhaliodd yr Ysgolion Sul canlynol eu cyfarfod blynyddol cyntaf, sef Llanengan, Llangian, Llanfihangel- Bachellaeth, a Llanbedrog, yn y lIe uchod, ar y 7fed cyfisol, sef dydd Llun y Pasg, pan y daeth oddeutu 3u0 ynghyd. Yr oedd gweithrediadau y dydd ynglyn A'r cyfarfod uchod fel y canlyn Am ddau yn y prydnawn, holwyd y plant yn Hanes Daniel gan y Parch. H. J. Manley, ac yr oedd yr ateb a'r holi yn wir dda, yr hyn a ddengys fod yr holwr wedi astudio y ffordd fwyaf syml i ofyn y cwestiynau. Yna awd ymlaen at yr ail ran o waith y cyfarfod pryd- nawnol, sef holi y rhai mewn oed gan Reithor Llanbedrog a D.G., yn y benod ddiweddaf o'r efengyl yn ol St. Marc. Cyn myned at y benod gofynodd yr holwr, fel arweiniad i mewn, ychydig o gwestiynau gwir deilwng. o sylw, sef, am ba reswm yr ydym yn derbyn gwahanol lyfrau y Testament Newydd fel gwir Air Duw, ac ar ba sail yr ydym yn derbyn y cyfryw yn ol enwau eu gwahanol awduron? Da genyf ddweyd iddo gael atebion boddhaol. Wedi canu emyn, ymwahanwyd i gyfranogi o wledd ardderchog o de a bara brith a barotowyd ar ein cyfer yn ffrynt y Rheithordy gan Reithor haelfrydig a thwymngalon Llanbedrog. Yr oedd y zel, yr yni, a'r parodrwydd i wneyd unrhyw beth er hyrwyddo gweithrediadau y cyfarfod yn brawf amlwg o weithgarwch Eglwyswyr Llanbedrog, a'u serch tuag at eu parchus Reithor. Gwnaeth y merched a'r meibion eu rhan yn ganmoladwy. Wedi i bawb gael eu gwala o fwyd, rhanodd Rheithor Llanbedrog, a'r Misses Barrow a Parker, The Cottage, Llanbedrog, gnau a melus- ion i'r plant. Yna awd o gwmpas i edrych ar olygfeydd ysblenydd Llanbedrog. Am chwarter i chwech galwyd pawb ynghyd i'r ail gyfarfod i glywed cantata Y Bugail Da" yn cael ei berfformio. Yr oedd dyddordeb neillduol yn cael ei deimlo gyda golwg ar berfformiad y cantata, ac y mae yn llawen genyf na chafodd neb ei siomi. Cymerwyd y darllen gan y Parch. P. Williams, Llanengan, yr hwn, a'i lais clir a pheraidd, a ddywedodd bob gair yn eglur a dealladwy. Arweinydd y gerddoriaeth oedd Mr. Hugh Jones, Selah Terrace, Llanbedrog. Y mae y brawd ffyddlon hwn yn teilyngu clod a pharch am y llaf ur diflino a gymerodd gyda'r cantata, a chredaf ei fod wedi cael tal am ei lafur yn nadganiad ardderchog y cyfryw. Canwyd yr unawd, Fel bugail y portha efe ei braidd," gan y dadganydd enwog, Mr. Robert < Roberts, Llanbedrog, yn wir dda. Chwareuwyd ] yn fedrus ar yr organ gan Mr. Williams, ysgol- feistr Llanbedrog. Cafwyd anerchiadau gan y Parchn. P. Williams, Llanengan, a Rheithor Llanbedrog. Yn ystod y perfformiad canwyd yr hen anthem, Duw sydd noddfa." Yna ym- wahanodd pawb, gan ddweyd fod ein cyfarfod blynyddol cyntaf wedi bod yn llwyddiant per:ffaith.-A clod.
NODION 0 FON.
NODION 0 FON. LLANGEFNI. Llun y Pasg. Cynhaliwyd yma Eisteddfod Gerddorol y Talwrn, dan ar- weinyddiaeth y Parch. W. Glanffrwd Thomas, ficer corawl, Llanelwy. Buom mewn un o'r cyfarfodydd, a chawsom ein siomi yn fawr yn yr hyn a welsom ac a glywsom, a chawsom dyst- iolaethau anffafriol am y cyfarfodydd eraill. Fflat iawn oedd yroll o'r gweithrediadau, y cynulliad yn deneu, y cystadleuthau yn ychydig, a'r brwdfrydedd yn ddim. Clywsom lawer am Glanffrwd fel arweinydd medrus a phoblogaidd, ond cawsom ein siomi iynddo yntau. Haerai rhai ei fod yn wanllyd ar ol y gwaeledd y bu dano yn ddiweddar. Piti garw .Gobeithiwn ei weled mewn gwell lechyd a siriolach ysbryd y tro nesaf y daw i Langefni. Yr oedd yno filoedd o bobl o bob rhan o'r sir, a dywenydd genym allu croniclo eu bod wedi ymddwyn yn weddaidd a pharehus. Cynhaliwyd cynhadledd o weision ffermwyr yn Ysgoldy y Bwrdd, am 2 o'r gloch, dan lyw- yddiaeth Mr. W. Thomas, postfeistr, pryd y pasiwyd lliaws o benderfyniadau ynglyn a'r mudiad. Am bedwar o'r gloch cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus yn yr awyr agored, dan lyw- yddiaeth y Cadben Owen Thomas, Brynddu, Llanfechell. Cafwyd araith agoriadol dda, doeth, ac ymarforol gan y Cadben. Siaradwyd hefyd gan y Parch. D. Rees, Capel Mawr (Ap Ffarmwr) Mri. Hughes, Coedau, Llanfechell; H. Jones, Bodedern; W. Williams, ac Owen Jones, Bodedern ynghyd ag eraill. Nodweddid yr oil o'r gweithrediadau gan bwyll, cymedrol- deb, ac absenoldeb difriaeth persenol. Hyderwn yn fawr y daw y pleidiau i gyd-ddealltwriaeth buan. DYRCHAFIAD.—Da genym glywed fod y Parch. J. Williams, curad Llithfaen, ger Pwll- heli, wedi ei apwyntio i fywoliaeth Talyllyn, Meirionydd. ;Bu Mr. Williams yn aros yn hir yn Ynys Môn fel curad Llandyfrydog, Llan- ddeusant, Llantrisant, a Llangefni, ac yr oedd yn hynod o boblogaidd a chymeradwy ymhob lie y bu ynddo. Gellir dweyd am dano na wnaeth elyn erioed. Eiddunwn iddo bob llwyddiant a hapusrwydd yn ei le newydd. DEONIAETH LLIFON.-Trodd gwyl lenyddol Deoniaeth Llifon allan yn llwyddiant perffaith yn Modedern, ddydd Llun y Pasg, ac y mae'r Undeb yn parhau mor fyw ag erioed. Hir y parhao felly, a dadblyger y gylchwyl fwyfwy bob blwyddyn. Cafwyd gwasanaeth corawl rhagorol, a phregeth rymus gan y Parch. Canon Williams, B.A., Llangefni. Gwnaeth y plant eu rhanJ hwythau yn dra chanmoladwy yn yr arholiadau. Bodedern bia'r Uawryf eleni. Yn sicr yr oedd yr arholwyr parchedig yn amlwg yn credu mewn cydradd "-oldeb atebien, beth bynag am gydraddoldeb arall. Well done, Llifon, yn gyffredinol, a Bodedern yn neillduol. AMLWCH.—Cafwyd gwasanaeth corawl ar- dderchog yn eglwys St. Eleth, Llun y Pasg. Yr oedd y canu dan arweiniad yr hen hyfforddwr cerddorol medrus, y Parch. J. Smith, Rhosybol, ac yr oedd yn rhagorol. Pregethwyd yn hyawdl pan y Parch. R. Roberts, Llanfechell. oddiar Zee. xiv. 1-3. Y mae ymdrechion caled a diwyd y Parch. D. Lloyd-Jones yn dwyn ffrwyth amlwg. Llwyddiant iddo.-Talanton.
LLANERFYL.
LLANERFYL. MARF^OLAETH.—Dydd Iau oyn y diweddaf, bu farw Mrs. Ann Howells, Ceunant, o'r plwyf hwn, yn 87 mlwydd oed. Dydd Llun canlynol, hebryngwyd ei gweddillion marwol i fynwent eglwys St. Erfyl. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. S. Reed, rheithor. Yn YSGOL SUL A'R COR.-Mae aelodau Ysgol Sul a chor canu yr eglwys yma yn brysur iawn y dyddiau hyn yn parotoi erbyn cyfarfod cys- tadleuol Eglwysig Deoniaeth Caereinion, yr hwn sydd i'w gynal yn Llanfair ddydd Llun y Sulgwyn. Bydd y cyfarfod hwn, yn ddiameu, er lies mawr i'r Ysgol Sul a chorau Eglwysig y Ddeoniaeth.-Erfyl.
IMAESYGROES, LLANLLECHID.
MAESYGROES, LLANLLECHID. CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. J. D. JENKINS, B.A.—Nos Fawrtb, yr 8fed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod gan Eglwyswyr y lie uchod er cyfhvyno rhoddion i'r Parch. J. D. Jenkins, B.A., ein cyn-gurad llafurus, ar ei ym- adawiad am Benmaenmawr. Llywyddwyd gan Mr. Roberts, Maesygroes, ac arweiniwyd yn ddeheuig gan y Parch. R. M. Jones, B.A., ein curad newydd. Awd ymlaen â'r cyfarfod fel y canlyn :-Tôn gynulleidfaol; anerchiad rhagorol gan y cadeirydd adroddiad, Gardd- wr ydwyf fi," William Griffith Williams, Ponc- lon; cAn, Clychau Aberdyfi," Miss M. J. Webster, Tanymarian adroddiad, Miss Ellen Edmunds, Plas Hwfa can, Mr. J. Hughes Roberts, Glan Bethlehem; adroddiad, Yrhen ferch," Miss Gwenllian Morris, Llwyncelyn; cAn, Yn bymtheg oed," Miss Ruth Annie Roberts, Glan Bethlehem. Yn awr deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno gweithiau y Doctor Lightfoot ar Epistolau St. Paul at y Philipiaid a'r Galatiaid i'r Parch. J. D. Jenkins. Ymddiriedwyd y gorchwyl pwysig hwn i Mr. ] Enoch D. Roberts (Llwydfor), yr hwn, wedi gwneyd ychydig sylwadau gyda golwg ar weith- i garwch y Parch. J. D. Jenkins (tra yma yn ein 1 plith), a derfynodd gydag anerchiad barddonol. Y Parch. J. D. Jenkins, wrth gydnabod y rhoddion a'r teimladau caredig tuag ato ef, a ] ddywedodd, gyda theimlad dwys, nas gall ] amser nac amgylehiadau byth ddileu yr argraff { lwfn a'r cariad diledryw o'i fynwes tuag at Eg- 1 0 lwyswyr Maesygroes, a'r plwyfolion yn gyff- redinol. Dilynwyd ef yn wresog a rhagorol gan Mr. Roberts, Maesygroes Mr. G. Maesfab Wil- liams, Maesygroes Mr. William Henry Jones, Talybont; a'r Parch. R. M. Jones, B.A., curad. Ynnesaf awd ymlaen A'r i-haglen:-Adroddiad Seisnig, David MacNauglit, Plas Hwfa deuawd, Miss Ruth Annie Roberts a Mr. J. Hughes Roberts; adroddiad, "Aelwyd gysurus," Miss Webster; can, Merch y melinydd," Miss Lizzie Hughes, Talybont; dadl, "Gochelyd Cyfreithwyr," Mri. David Richard Hughes, Half Way House, Richard Hughes, Old Coet- mor House, a David Davies, Wernbach; cAn, "Llwybr y Wyddfa," Mr. William Henry Jones, cafodd encore, a chanodd Rhyfelgyrch Cadben Morgan; adroddiad, "John a'i feistr," Mr. John Williams, Dolhelig rhangan, "Yngolwg y porthladd clyd," y C6r. Ar ol talu diolch, &c., terfynwyd y cyfarfod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Gwasanaeth- odd Mr. Hugh Roberts, Glan Bethlehem, wrth yr harmonium. Cafwyd cyfarfod a chynulliad rilagorol.-Gohebydd.
CAPEL UCHAF (BRYCHEINIOG).
CAPEL UCHAF (BRYCHEINIOG). Nos Lun, y 7fed cyfisol, yr oedd y Parch. W. Matthews, Abertawe, yn darlithio yn Ysgol y Bwrdd ar yr Eglwys yn Nghymru." Cadeir- iwyd gan y Parch. Cattwg Davies, Aberhonddu- Daeth tua 30 ynghyd, llawer o ba rai oeddynt Eglwyswyr. Siomwyd hwy yn fawr yn y ddar- lith. Adrodd rhyw hen chwedlau gwirionffol am yr offeiriaid yn casglu degwm yn yr hen amser oedd y brif ran o'i anerchiad. Gosodwyd yn y diwedd y cynygiad canlynol:—" Fod y cyfarfod yn ystyried hi yn angenrheidiol i neill- duo y degwm o hyn allan at achosion cenedl- aethol, sef Addysg Rydd." Cododd deg eu Haw i fyny, ac yna hysbyswyd fod y cynygiad wedi pasio. Ar ol hyn, awd A'r het o gwmpas i gasglu tuag at y Liberation Association." Ni fynegwyd beth oedd cynwysiad yr het. Mae y cyfarfod yma wedi gwneyd mwy o les i'r Eglwys yn yr ardal na drwg. Mae dynion call, hirben, i'w cael yn Nyffryn Honddu ag ydynt yn gallu gweled drwy ryw gastiau ffol o'r fath, ac yn gwybod mwy am eu Heglwys nag yr oedd Mr. Matthews yn rhoddi credit iddynt. Siarad- odd y cadeirydd yn deg iawn a rhesymol.
DEONIAETH LLEYN.
DEONIAETH LLEYN. CYWIRIAD GWALL.—Caniataer i mi gywiro gwall a ymddangosodd yn yr ysgrif o dan y penawd uchod yn y LLAN diweddaf. Y mae y cysodydd, neu rhywun arall yn y swyddfa, i'w feio am y gwall. Pan yn ysgrifenu hanos y conffirmasiwn yn y Ddeoniaeth uchod, ac yn cyfeirio at ddiffyg defosiwn a difrifoldeb ar ran rhai o'r bobl ieuainc, yr hyn a ysgrifenais ydoedd na ddarfu yr un o honynt, yn un o'r eglwysi a nodais, benlinio nid oeddwn yn cyfeirio at fwy nag un eglwys. Ond y mae y cysodydd wedi gwneyd i mi gyfeirio at bob un o'r tair eglwys. Y mae genyfbob sail i gredu fod pob peth yn y ddwy eglwys arall wedi eu dwyn ymlaen yn weddaidd a defosiynol. CYFNEWIDIADAU YN Y DDEONIAETH,—Y mae llawer cyfnewidiad wedi cymeryd lie yn y Ddeoniaeth yn ystod y pum' mlynedd diweddaf. Dyna y Parch. Mr. Morgan, gynt gurad Llan- gian, wedi ei ddyrchafu i fywoliaeth Bryngwran, Mon; y Parch. 0. LL. Williams, Rheithor Bod- fean. i fywoliaeth Llanrhyddlad, M6n y Parch. J. Pryse, Nefyn, i fywoliaeth Bodedern, Mon y Parch. Anthony Davies, curad Llithfaen, i guradiaeth Ffestiniog y Parch. B. Thomas, curad Aberdaron, i guradiaeth Llanberis, tra y mae angau wedi cipio ymaith dri o'n hoffeiriaid mwyaf blaenllaw, sef y Parchn. T. Jones, Rheithor Llanengan; T. H. Richards, Rheithor y Rhiw, a H. Roberts, Ficer Aberdaron. Yn bresenol, y mae cyfnewidiad pwysig arall eto ar gymeryd lie. Y mae yr Esgob wedi cynyg bywoliaeth Llanfaethlu, Mon, yr hon a ddaeth yn wag drwy farwolaeth y Parch. Mr. Jones- Williams, i'r Parch. Canon Johnson, M.A., Rheithor Llaniestyn, ac yr ydym yn deall ei fod yntau wedi ei derbyn. Sibrydir mai y Parch. Mr. Killin, Maentwrog, fydd ei olynydd. Eidd- unwn i'r ddau hir oes ac iechyd i lafurio yn ngwinllan yr Arglwydd. Diau y teimlir chwith- dod ar ol Canon Johnson.- Veritas Vincet.
[No title]
Pryna Sultan Morocco ei ddillad yn Llundain. Y mae un o bob deuddeg o boblogaeth Paris yn dramorydd. Gallai Tlotdai Llynlleifiad gyflelllle i 5,000 o dlodion pe yn ofynol. Y mae yna 380 o fanciau yn yr Unol Dal- aethau. Y llythyren "e" yw yr un a ddefnyddir fynychaf mewn unrhyw wyddor. ] Ni phwysa edefyn o sidan milldir o hyd ond 1 deuddeg o grains. Yn Everton, Llynlleifiad, y mae yna ddyn sydd wedi gwisgo yr un het er's tair blynedd ar hugain, ac y mae wedi dyfod 3 ffasiwn bedwar ar bymtheg o weithiau.
BUGE¡LiAID ENEIDIAU.
BUGE¡LiAID ENEIDIAU. MAE achos i fecldwl fod rhai o'n cyd- wladwyr yn edrych ar yr offeiriaid megis gweision y Wladwriaeth, ac nid megis gweinidogion CRIST a bugeiliaid ysbryd- ol. Fe ddichon fod amryw achosion wedi cynyrchu y golygiad yma. Meddylia llawer o Anghydffarfwyr mai cyflog a delir gan y Wladwriaeth yw y gwaddol sydd gan yr offeiriaid tuag at eu cynal, ac mai cyfiog-weision y Wladwriaeth ydynt. Digon gwir fod her wedi cael ei roddi iddynt lawer gwaith i ddangos pa le yn Nghyfrifon y Llywodraeth y gwelir arian wedi eu talu i Esgob neu Offeiriad, oddieithr i gaplaniaid yn y Fyddin neu'r Llynges, ond nis gellir eu gweled. Myn llawer hefyd mai oddiwrth y Goron neu'r Senedd y daeth y rhent-ddl, a'r tiroedd sydd gan yr Esgobion a'r Offeiriaid at eu cynhaliaeth, er nad oes neb hyd yn hyn wedi darganfod gweithred seneddol yn. rhoddi na degwm na thir i Esgob nac Offeiriad mewn unrhyw barth o'r Deyrnas, ond dyna'r athrawiaeth a bregethwyd ae a bregethir gan lawer o arweinwyr cref- yddol ein gwlad. Eithr onid yw yn bryd i bawb weled y twyll a'r anonestrwydd mae y cyfryw arweinwyr yn euog o hono? Beth yw y werin yn well o'r addysg ag mae pawb yn ei gael yn ein hysgolion os na fedrant ganfod y twyll a'r anwiredd noeth o haeru mai rhodd y Wladwriaeth ydyw gwaddoliadau yr Eglwys ? Hefyd, dichon fod defnyddioldeb yr offeiriaid mewn pethau tymhorol i'w holl blwyfol- ion, o ba enwad bynag, wedi peri i lawer
LLANGYNDEYRN.
weled cynifer yn bresenol. Yr oedd diolchgar- weh yn ddyledus i Mr. a Mrs. Jones, o'r Ficerdy, am ein croesawu i'r eglwys hardd hon, ac am eu caredigrwydd yn ystod y dydd. Bu amser pan yr oedd y nifer yn yr wyl hon ond rhyw ddyrn- aid bychan. Yn bresenol yr oedd yn anhawdd cael eglwys digon o faint i'w chynal. A'r hyn a goronai y cwbl oedd, ymddygiad teilwng yr holl dorf. Yn ystod y saith mlynedd diweddaf ni chlywodd achwyniad fod cymaint ag un wedi ymddwyn yn anweddaidd ar ddydd yr wyl. Credai efe fod Eglwyswyr yn fwy boneddigaidd eu hymddygiad, ac nid oedd dadl nad oeddynt yn llawer mwy parchus o bethau cysegredig, na'r Ymneillduwyr yn gyffredinol. Cynghorai hwy i barhau felly. Wedi datgan y fendith, ymadawodd pawb wedi cael Ilwyr f oddlonrwydd. YR YSGOL DDYDDIOL.—Pasiwyd arholiad da eleni eto. Enillwyd JE81 6s. 3c. o grant oddi- wrth y Llywodraeth, ond ni dderbynir rhagor na f,76 2s. 6c., am nad ydyw gwastraff arianol yr ysgol yn ddigon Onid ydyw hyn yn anghyf- iawnder mawr ? Y mae Mr. D. Gabe wedi bod yma am ddeng mlynedd, ac eleni y mae ganddo ddau pupil teacher, a'r ysgol wedi cyraedd safon uchel yn yr ardal.