Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
36 erthygl ar y dudalen hon
SYR GEORGE ELLIOT, A.S., MEWN…
SYR GEORGE ELLIOT, A.S., MEWN HELBUL. Yr wythnos ddiweddaf, gerbron y Barnwr Denman, yn Llys Cyfreithiol y Frenhines, dygwyd cynghaws pwysig yn erbyn Syr George Elliott, yr aelod Seneddol dros fwrdeisdrefi Mynwy, gan ryw Miss Amelia Hairs, yr hon a fu gynt yn gantores operatic. Yr oedd yr erlynes yn hawlio pull" mil o bunau o iawn oddiwrth Syr George am beidio ei phriodi fel yr addawodd, ac am iddi gael ei hanniweirio a'i beichiogi ganddo drwy y cyfryw addewid. Cyffesedd Syr George ei fod wedi ymgydnabyddu a Miss Hairs, ond gwadodd yn bendant iddo ef erioed addaw ei phriodi, na son am briodi wrthi hi na neb arall. Drwg- dybid yr erlynes o fod yn cyfeillachu a dynion eraill. Amddiffynid Syr George gan Syr Charles Russell, a Miss Hairs gan Mr. Kemp, Q.C. Terfynwyd y prawf trwy i'r rheithwyrfethu cydweled. Felly, bydd yn rhaid cael prawf arall.
MARWOLAETH YR HEN WR.
MARWOLAETH YR HEN WR. O'r diwedd, daeth angeu o hyd i'r hen Hugh Jones, Clynog Fawr yn Arfon, a thorodd y cysylltiad piiodasol a wnaed rhyngddo a'r hen Sian Jones yn eglwys y plwyf hwnw 77 mlynedd yn ol, sef y Pasg, 1813. Yr oedd Hugh Jones wedi cyrhaedd yr oedran teg o 98 mlwydd er Rhagfyr diwedclaf. Bu farw ddydd Iau, Ebriil lOfed, a cliladdwyd ef ddydd Llun, yn mynwent eglwys y plwyf, gan dyrfa luosog. Deallwn fod yr hen wraig, yr hon sydd uwchlaw 101 mlwydd oed, yn orweiddiog er's peth amser bellach, a diameu y bydd colli ei phriod yn ergyd drom iddi. ■<»-
A LADDO A LEDDIR.
A LADDO A LEDDIR. Darfu i dri o ladron negroaidd, wrth geisio dianc o Birmingham, Alabama, saethu rhingyll y ddinas yn farw. Rhed- odd swyddog arall ar ol y llofruddion, a lladdodd y tri.
AETH Y CERBYD DROS YI PLENTYN.
AETH Y CERBYD DROS Y PLENTYN. Yr wythnos ddiweddaf, tra yr oedd Sarah Ann Sophia Cook, wyth mlwydd oed, gyda phlant eraill, yn dych welyd o'r ysgol yn Tylorstown, tarawyd hi i lawr gan geffyl a cherbyd perthynol i Mrs. Morgan, grenegrocer, ac a yrid gan ei mab. Aeth y cerbyd dros ben yr eneth fechan, a lladdwyd hi yn y fan.
SUDDIAD AGERLONG.
SUDDIAD AGERLONG. Ar yr 17eg o Ebrill, rhwng Seaham a Hartlepool, cymerodd gwrthdarawiad le rhwng yr agerlong "Altyre," o Aber- deen, a'r agerlong Euclid," o Sunder- land. Suddodd yr olaf ar unwaith, a boddodd y cadben a thri morwr arall.
TRI AR UN ENEDIGAETH.
TRI AR UN ENEDIGAETH. Y mae gwraig Mr. E. Commander, gwneuthurwr esgidiau, 1, Spon-street, Coventry, newydd roddi genedigaeth i dri o blant. Y mae y fam a'r babanod mewn gwedd ffafriol. ^—
PUM' CENHEDLAETH YN FYW. --
PUM' CENHEDLAETH YN FYW. Ychydig ddyddiau yn ol, dathlodd Mrs. Mary Cooper, New Jersey, y gan- fed flwyddyn o'i hoedran, ac yr oedd tri- ugain a deg o'i disgynyddion, ynghyd ag un o'r burned genedlaeth, yno gyda hi ar yr achlysur.
BODDI RHIENI MEWN FFYNON.
BODDI RHIENI MEWN FFYNON. Yn Denver, Rawlins County, Kansas, collwyd golwg er's cryn amser ar dad a mam teulu o'r enw Cleboard. Ychydig ddyddiau yn ol, cafwyd eu cyrff mewn ffynon, a bernir mai eu plant sydd yn euog o'r weithred ddieflig. 0.
P,50 A'R COSTAU AM ATHROD.
P,50 A'R COSTAU AM ATHROD. Ddydd Iau, Ebrill yr 17eg, dirwywyd Mr. James Davis, golygydd newyddiadur a elwir Bat, i £50 a'r costau gan ynadon Bow Street, Llundain, am iddo, yn Ion- awr, 1888, gyhoeddi athrod yn erbyn Iarll Durham.
HEN WR A'I WRAIG IEUANC.
HEN WR A'I WRAIG IEUANC. Darfu i hen WI' dros 60 mlwydd oed, yn Detroit, Alexander Cuddy, yn ddi- weddar, daro allan ymenydd ei wraig a bwyell, ac yna gyflawni hunan-laddiad. Yr oedd y llofrudd oedranus wedi credu fod ei gydmar ieuanc, yr hon oedd. tua haner ei oedran ef, yn anfI:yddlaw..
I YFODD ORMOD 0 CHAMPAGNE.…
YFODD ORMOD 0 CHAMPAGNE. Yr wythnos ddiweddaf, cafodd Ar- glwydd Percy Douglas ei ddirwyo i £ 7 gan ynadon Houlsworthy am feddwdod, ac am ymosod ar yr heddgeidwad a'i cymerodd i fyny. Amddiffynodd ei hun drwy ddweyd ei bod yn ddrwg ganddo ei fod wedi cyflawni gweithred mor ff ol, < a phriodolai ei ymddygiad afreolus i yfed zn gormod o champagne. —
PLEIDLEISIAU RHEITHORIAID.
PLEIDLEISIAU RHEITHORIAID. A oes gan Reithor neu Ficer ddwy bleidlais mewn festri blwyfol heblaw y bleidlais derfynol {casting vote) y gelwir arno i'w rhoddi ? Y mae Rheithor St. Giles's, Cripplegate, wedi gweithredu felly, ac oherwydd hyny ni chafodd yr organydd ei ail-ethol. Yr oedd y pleid- leisiau yn saith yn erbyn pump, ac ar ol hyny yn gyfartal. -+
CAWELL ARIAN FEL ANRHEG.
CAWELL ARIAN FEL ANRHEG. Y mae yn hen arferiad i roddi cawell arian fel anrheg i faer, os genir plentyn iddo yn ystod y flwyddyn y byddo efe mewn swydd. Yr wythnos ddiweddaf, derbyniodd Mr. F. C. Wace, M.A., maer Caergrawnt, gawell arian, heblaw amryw anrhegion eraill. Ymddengys mai dyna y tro cyntaf yn hanes Caergrawnt i'r cyf- ryw arferiad gael ei chadw. Cymerodd Mr. Charles Hall, A.S., a boneddigion er- aill, ran yn y gweithrediadau.
CYCHWYN GWEITHiAU NEWYDD.
CYCHWYN GWEITHiAU NEWYDD. Da genym hysbysu i ddau waith alcan newydd gael eu cychwyn yr wythnos ddiweddaf, sef yr Old Lodge, Llanelli, yr hwn a saif yn agos i orsaf y rheilffordd, ac a gynwysa chwech o felinau, a gwaith Ashburnham, yr hwn a gynwysa bedair o felinau, gerllaw Burry Port. Nid ydys eto wedi dechreu troi allan blatiau alcan, ond disgwylir y gwneir hyny yn nghwrs ychydig wythnosau. Y mae y ddau waith i gael eu goleuo a goleuni try- danol.
NODDFEYDD I'R GLOWYR.
NODDFEYDD I'R GLOWYR. Credwn y dylai y noddfeydd diogol ag y mae Mr. Kirkhouse wedi eu dyfeisio er ac-hub bywydau y glowyr ar ddi- gwyddiad tanchwa ddinystriol mewn glofa, gael ystyriaeth ddyladwy gan ber- chenogion glofeydd drwy yr holl wlad. Yr wythnos ddiweddaf, cymerodd Mr. Kirkhouse ohebydd newyddiadurol i lawr i bwll glo er dangos un o'r nodd- feydd hyn iddo. Dywed y gohebydd crybwy lie dig fod y fynedfa i'r noddfa yn oddeutu pedair troedfedd a haner o uchder, ac fod digon o le y tufewn i tua haner cant o ddynion yn sefyll yn dvn yn erbyn eu gilydd. Cwynai ei bod yn oerllyd iawn yno. Costia y noddfeydd hyn ocldeutu ugain punt yr un. Nid yw y draul yna yn werth son am dano pan ystyrir y gall y perchenogion ddefnyddio y noddfeydd yn orsafau lampau, neu rywbeth arall, a thrwy hyny, ateb dau ddiben. Hefyd, gellir, os byddai angen, danfon soup drwy y bibell awyr sydd yn ymestyn i'r noddfa o ben y pwll, yr hon bibell a gynwysa dyllau man a ellir eu cau neu eu hagor bryd bynag yr ewyllysir. Felly, byddai hyny yn focld- ion rhagorol i arbed y glowyr a gauir i fewn yn y noddfa rhag newynu.
! SIMS REEVES YN NGHAERDYDD.
SIMS REEVES YN NGHAERDYDD. Ychydig amser yn ol, bu Sims Reeves yn euog o dori ei ymrwymiad i ganu yn Nghaerdydd, a chreodd hyny deimlad annymunol yn ei erbyn. Ond nos Fercher, yr 16eg, gwnaeth iawn i'r siomedigion drwy gadw ei ymrwymiad yn anrhydeddus i ganu yn y Park Hall, a thynodd ei enwogrwydd gynulleidfa anferthol ynghyd. Ymddengys ei fod mewn hwyl rhagorol, ac iddo roddi bodd- had cyffredinol.
YSGERBWD, NID CEFFYL YDOEDD.
YSGERBWD, NID CEFFYL YDOEDD. Dygwyd cabman gerbron yr ynadon yn Llundain, yr wythnos ddiweddaf, ar y cyhuddiad o gamdrin y ceffyl oedd dan ei ofal. Yr oedd yr anifail wedi gwanhau gynddrwg gan henaint, fel y bu raid, pan y syrthiodd ar yr heol, ei gynorthwyo i godi i fyny. Aeth un o'r ynadon i weled y creadur ac ar ol dychwelyd i'r llys, dywedodd mai nid ceffy 1 ydoedd, eithr ysgerbwd, ac y byddai yn rhaid ei ladd ar unwaith.
GWELL MAIP NA PHOLITICS.
GWELL MAIP NA PHOLITICS. Flynyddau lawer yn ol, dywedodd y Dywysoges Bismarck fodei gwr yn malio llawer mwy am ei faip nag am bolitics. Dywedodd y Tywysog Bismarck hyny ei hunan ganoedd o wpijfchiau yn ystod y I dtmg mlynedd ar diweddaf. Yr wvf yn casau politics," nieddai ryw dro y wrth Mr. Metley, hanesydd Gwerinlyw- odraeth yr Is-ellmyniaid. Lol-siartd- wyr" y galwai efe wleidyddwyr, a Thy ymadroddion" oedd yr enw a roddodd i'r Senedd.
MOETHUSRWYDD MEWN TLOTTY
MOETHUSRWYDD MEWN TLOTTY Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn ddi- weddar gan Fwrdd Gwarcheidwaid Hampstead, hysbyswyd fod yn y tlotty hen Wraig, yr hon oedd yn cwyno yn barhaus ei bod yn gorfod bwyta margarine yn lie ymenyn. Yr wyf yn siwr," meddai, "na oddefai boneddiges- au Hampstead i chwi roddi margarine i mi i'w fwyta." Is-gadeirydd y bwrdd, fodd bynag, a ddywedodd ei fod ef ei hun wedi profi y margarine, yr hwn oedd yn addas i bawb i'w fwyta.
PENODIADAU EGLWYSIG.
PENODIADAU EGLWYSIG. Y mae yr Arglwydd Esgob o Landaf, mewn gwasanaeth neillduol a gynhaliwyd ddydd Gwener diweddaf yn Nghapel y Palas, wedi trwyddedu y Parch. Llewelyn Lloyd Davies, M.A., diweddar gurad Llantrisant, i guradiaeth barhaol Llan- wonno, ar gynygiad Ficer Llantrisant, noddwr y fywoliaeth. Yna, trwydded- wyd y Parch. Henry Morgan, B.A., di- weddar gurad Canton, i guradiaeth All Saints, Caerdydd. Hefyd, trwyddedwyd y rhai canlynol yn ddarllenwyr lleygol —Mr. John Hughes Parry a Mr. A. Clay- ton, y ddau dros blwyf Aberdar. —
CI CREULON AR LUN DYN. --
CI CREULON AR LUN DYN. Ychydig ddydcliau yn ol, danfonwyd labrwr o'r enw John Kelly i'r carchar am chwe' mis, gan ynadon Walsall, am esgeuluso cynal ei wraig a'i deulu. Pan aethpwyd i dy y carcharor, cafwyd ei wraig, yr hon, druan, oedd yn marw o'r darfodedigaeth, yn gorwedd ar ddim ond cydaid garw o shavings. Daeth y car- charor adref yn feddw, gwthiodd ei gyd- mar sal oddiar y sypyn shavings, a dododd ei gorpws cryf a drewllyd ei hun arno. Bu raid cymeryd y fam a'r plant anghenus i'r tlotty, am nad oedd brycheuyn o dan yn y tý. Yr oedd y fenyw analluog wedi ei harcholli drosti i gyCI, a hyny gan y ci creulon hwn ar lun dyn.
Y FYDDIN EGLWSIG YN RHOS.
Y FYDDIN EGLWSIG YN RHOS. Yn ystod y tri mis diweddaf, y mae un o Efengylwyr y Fyddin Eglwyeig wedi bod yn cynal cyfarfodydd gweddio a phregethu yn Eghvys Rhos, ac y mae arwyddion eglur o fendith Duw ar ei waith a'i ymdrech. Y mae achos dirwest wedi derbyn symbyliad drwy sefydliad Band of Hope, aelodau yr hwn sydd yn rhifo yn agos i dri ugain. Y mae llawer hefyd wedi ymuno a'r Temlwyr Da. Da genym ddweyd fod cynydd amI wg yn y parch a delir i'r Sabbath, ac y mae llawer i rieni oeddynt wedi. esgeuluso bedyddio eu plant, wedi eu dwyn i'r Sacrament Sanctaidd hwn. Drwg genym fod y Genhadaeth i derfynu ar y 27ain o'r mis hwn.
HUNANLADDIAD YN CASNEWYDD
HUNANLADDIAD YN CASNEWYDD Ddydd Gwener diweddaf, cafwyd corff Mr. Douglas H. Morgan, prif aelod cwmni o long-berchenogion yn y Casnewydd, mewn ty lie yr oedd y boneddwr yn arfer aros pan ar fusnes yn Llundain. Dywedir nad oes amheuaeth iddo gyflawni hunan- laddiad. Nis gall ei gyfeillion yn y Cas- newydd ddirnad yr achos iddo wneyd y fath weithred, oblegid yr oedd ei gysyllt- iadau masnachol yn llewyrchus. Yr oedd yn 36 mlwydd oed, ac ni fu erioed yn briod. Preswyliai gyda'i fam weddw a'i chwaer-yn-nghyfraith a'i phlant yn Fair Orchard, Nash, ychydig filldiroedd allan o dref y Casnewydd.
" C JVL PROTI BRIT LUTEX ARG."…
C JVL PROTI BRIT LUTEX ARG." Y mae darn mawr o blwm cyntefig, yn pwyso yn agos i 140 o bwysau, newydd gael ei ddarganfod yn South Cave, yn y rhan ddwyreiniol o Swydd York, neu oddeutu dwy filldir i'r gogledd o'r afon Humber, a'r ysgrifen uchod arno. Ei hystyr yn Gymraeg ydyw Plwm Caius Julius Protus o fwnglawdd Lutudse, yn Mhrydain tynwyd allan yr arian." Credir mai yn rhywle gerllaw Matlock Moor yr oedd mwnglawdd Lutu- das Cyfritir fod y darn plwm hwn yn dyddio mor bell yn ol a'r flwyddyn 50 o oed Crist, sef yn fuan wedi i'r Rhufein- iaid ymsefydlu yn y wlad hon.
CYFARFOD HYNOD.
CYFARFOD HYNOD. Terfynodd Bwrdd Lleol Paignton eu cyfarfod blynyddol am chwech o'r gloch, foreu dydd Iau, Ebrill yr 17eg, ar ol eis- tedd drwy y nos. Yr oedd yno gystadl- euaeth frwd ar dir politicaidd am y swydd o Gadeirydd, ac yr oedd y pleidleisio yn gyfartal—chwech yn erbyn chwech. Nid oedd gobaitli y rhoddai y naill vmgeisycH fyny i'r llall felly, dnnfonodd yr aci- odau allan am m'uorth a diod, a inrc.; I- iasant y nos mewn modd difyr. 0 dan ddylanwad y gwin a'r cigars, daeth y ddwy blaid yn fwy cyfeillgar a chytunus; ac ar ol eistedd yno am ddeuddeg awr, daethant i gyclwelediad drwy ethol Mr. Bartlett, y Rhyddfrydwr, yr hwn a enill- odd y fuddugoliaeth mewn etholiad di- weddar.
PA UN O'R DDWY BLAID YDYW…
PA UN O'R DDWY BLAID YDYW Y GOREU ? Pwnc ag y dylid ei ystyried yn ddylad- wy gan bawb ydyw, Pa un o'r ddwy blaid wleidyddol ydyw yr oreu i lywodraethu y wlad rataf, ac eto yn fwyaf eff eithiol ? Fel cenedl, pa un ai gan Mr. Gladstone neu Arglwydd' Salisbury yr ydym yn derbyn fwyaf am ein harian ? Rhoddodd Prif Arglwydd y Morlys, ddydd Mercher, yr IGeg o'r mis hwn, atebiad pendant i'r cwestiwn, ac yr ydym yn cyhoeddi y ffigyrau a ddefnyddiodd er budd ein dar- llenwyr :— Lly woclraeth Ryddfrydol. Cyllideb 14,000,000 Prin. Lleihad y Ddyled Wladol 5,000,000 Trethiad 7,000,000.Cynydd. Dadforion ac All- forion 80,000,000..—Lleihad. Treth yr Incwm 2,000,000 Cynydd. Treuliadau Rhyfel ychwanegol 14,000,0C0 Llyivodraeth Oeidwadol. Cyllideb. 6,000,000 Gweddill. Lleihad y Ddyled Wladol 7,000,000 Trethiad 5,000,000 Lleihad. Dadforion ac All- forion 124,000,000 Cynydd. Treth yr Incwm 4,000,000 Lleihad. Treuliadau Rhyfel ■ ychwanegol. Dim. Oddiwrth yr uchod, yiiiddelicv, s yn eithaf n., eglur fod y Ceidwadwyr yngallu llywodr- aethu y wlad yn llawer mwy effei-thiol na'r Rhyddfrydwyr, ac wedi arbed mil- iynau o bunau i'r trethdalwyr.
YN BRIOD AC YN HAPUS.
YN BRIOD AC YN HAPUS. Yr oedd William H. Sands, 19 mlwydd oed, a Lizzie J. Cronaur, o'r un oedran, yn gweithio hyd yn ddiweddar mewn gweithdy hosanau yn yr Ui-iol Dalaethau. Yr oedd y ddau yn hoff iawn o'u gilydd, ac yr oeddynt wedi penderfynu dilyn esiampl eu rhieni—priodi Daeth yr awr. Yr oedd tad yr eneth yn erbyn mudiad mor bwysig, a cheisiodd ddar- bwyllo Sands i aros hyd nes y deuai i'w oed. Nis gallai Sands na Miss Cronaur aros hyd hyny felly, aeth y ddau i Camden, a phriodasant. Dvchwelodd Mr. a Mrs. Sands i ofyn am faddeuant Mr. Cronaur, yr hwn a ddangosodd ei fod yn llawer parotach i'w melldithio. Eto i gyd, y mae y ddau yn byw yn ddedwydd. Felly y parhaont yw ein dy- muniad.
ANGLADD MR. H. DILLWYN.
ANGLADD MR. H. DILLWYN. Cymerodd angladd y diweddar Mr. Henry de la Beche Dillwyn, unig fab Mr. Ll. Dillwyn, A.S., le yn Mynwent y Sketty ddydd Gwener diweddaf. Cych- I w.Niic, 1 ''r orymdaith aiarus o Hendre-; fc'.Liii^ wedi ui'-Mr-Odey-, a ( '.f: t, (. c]iyi'h'ujih!od(l y fynwent, yr hon sydd tua nalldir o bellder, am ddeuddeg o'r gloch. Yr oedd yn yr angladd elor- gerbyd agored (yn cvnwys yr arch drud- fawr o dderw caboledig), tri o alar- gerbydau, ac amryw gerbydau eraill yn cynwys boneddigion o'r ardal. Yn y galar-gerbydau yr oedd Mr. Dillwyn, A.S., Mr. J. Nicholl, Mr. L. Craven, Mr. Lewis Nicholl, y Parch. Weston Moggridge, Mr. Jeffreys, Mr. Woodford, Mr. Johns, a Mr. Harris. Y Canon Smith, ficer Abertawe, a wasanaethotld ar yr achlysur.
EGLWYS GADEIRIOL CAER.
EGLWYS GADEIRIOL CAER. Yn adeg adgyweiriad yr eglwys uchod, Bwrdd y Cymun ydoedd drychfeddwl hapus y diweddar Ddeon Howson, yr hwn a feddyliai y byddai yn bur briodol i addurno y Bwrdd Sanctaidd a phlanhig- ion o'r lie y bu ein Gwaredwr yn diocldef. Yn fuan, cafodd y Deon gynorthwy bon- eddwr yn mherson Mr. Henry Lee, o Sedgeley Park, Anghydffurfiwr enwog yn SAvydd Lancaster, yr hwn a ddygasai goed o Balestina i'r dyben o wneyd pwl- pud ohonynt mewn capel Cynulleidfaol. Yn lie hyny, rhoddodd y boneddwr y coed yn ewyllysgar at wneyd Bwrdd y Cymun yn y Cathedral, a Mr. Armitage o Fronfield House, Altingham a gerfiodd y paneli. Yr oedd darn o dderw o Basan yn arwyneb iddo, yr addurniadau o goed olewwvdd a dorasid yn ngodreu y Myn- ydd, a'r traed o gedrwydd Libanus. Wele gynabyddiaeth yn y gwr rhydd- frydol hwn o henafiaeth a rhagoriaeth yr Eglwys.
PRIODAS URDDASOL.
PRIODAS URDDASOL. Ddydd Mawrth, y lOfed cyfisol, yn Eglwys St. Margaret, Westminster, priod- wyd y Parch. Canon William Richardson, rheithor Cowen, a Miss Sarah Elizabeth Lodge, unig ferch y diweddar R. T. Lodge, M.D., Shaw Street, Lerpwl, a Mrs. Lodge, Knighton Lodge, Rhyl. Gwein- yddwyd gan y Gwir Barch. Arglwydd Esgob Llanelwy, yn cael ei gynorthwyo gan yr Hybarch Archddiacon Farrar. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr, Stephen Roose, Ysw. Rhyl. Y morwynion priodas oeddynt Miss Richardson a Miss Esther Richardson, Miss Hicks a Miss -Minnie Hicks, a Miss Mabel Bond. Ar ol y gwasanaeth, eis- teddodd cwmni lluosog i lawr i frecwast yn nhv Syr John Puleston, A.S. dros Davenport, 4, Whitehall Yard. Yr oedd yn bresenol yr Arglwydd Esgob o Lan- elwy, yr Archddiacon Farrar, yr Anrh. T. G. Wynn, Glyn Llifon; Syr John Puleston, A.S., yr Arglwyddes Puleston, Miss Puleston, Mr. Lewis Morris, yr Archddiacon Williams, Mr. Edward Whitley, A.S., Mrs. Whitley, y Dr. H. HiekR, F.R.S., Mr. a Miss Hicks, y Parch. Ganon T. Richardson a Mrs. Richardson, Mr. H. E. Walkes, y Parch. John Lloyd, y Dr. a Mrs. Griffith, a lluaws eraill. Yn gynar yn y prydnawn, cychwynodd y Canon a Mrs. Richardson am Bembley Priory Hotel, Stanmore, ar eu taith tua Scotland. Gan fod y Canon Richardson mor adnabyddus ac mor boblogaidd, y mae ei briodas wedi creu dyddordeb mwy na chyffredin. Nid gwiw ini geisio enwi'r rhoddion lluosog a gwerthfawr y mae wedi dderbyn oddiwrth ei gyfeillion a'i gydnabod yn mhell ac agos. Yn Nghorwen, lie y mae wedi gweinidog- aethu am lawer o flynyddau, a lie y cerir ef yn fawr, ffurfiwyd pwyllgor o'r plwyf- olion, o bob enwad, i gynllunio'r modd goreu i ddangos eu parch at eu Ficer. Eisioes y mae y swm o £ 117 wedi ei gasglu, ac y mae'r swm yn brawf o boblog- rwydd y Canon yn ei gartref. Ar ddydd y briodas, canwyd y gloch trwy'r pryd- nawn, a chwyflai banerau oddiar gopa'r Pigyn a phen y clochdy, a manau eraill. Rhoddodd y Dr. Jones, Corwen, de i holl drigianwyr y tlotty. Gwneir darpariadau helaeth ar gyfer croesawi y Canon a'i briod yr wythnos hon.
Y PARCH. J. MATTHEWS A'R ,"…
Y PARCH. J. MATTHEWS A'R CRWTYN (?) Anfonodd ein gohebydd o Aber- lionddu y aniyn hanesyn :—"Yn ddi- weddar bu Vv Parch. J. Matthews, Aber- tawe, yn NJirecastell, ac yn myned dros ei hen storiau am yr Eglwys a'r offeiriaid fel arferol. Ar ddiwedd y cyfarfod cododd Mr. Rees Powell, Ysclydach, ar ei draed, a gofynodd i'r parch us ddar- lithydcl os oedd yn barod i gyfarfod ar y llwyfan v Parch. E. Hughes, Abermaw, i ddadleu y pwnc yn deg a boneddigaidd, ond os oedd arno ofn Mr. Hughes, a wnai ef ddadleu y pwnc Eglwysig a rhyw un neu ddau eraill a enwai, naill ai yno, neu ryw dref arall yn Nghymru ? Yr oedd ef (Mr. Powell) yn barod i roi £ 5 tuag at clalu traul Mr. Matthews. Cododd y darlithydd enwog i fyny yn gynhyrfus iawn, gan anerch Mr. Powell fel cloch- ydd, ac wed'yn, galwodd ef y Crwtyn," a dywedodd nad oedd ef am gyfarfod dynion anwybodus a dinod, &e. Y mae Mr. Powell yn Eglwyswr twymngalon, ac yn foneddwr sylweddol, tua 45 mlwydd oed-nid crwtyn mo hono ond yr oedd hyn yn ormod o damaid i Mr. Matthews lyncu."
GOGLEDD CYMRU.
GOGLEDD CYMRU. Edwards.—Ebrill 1, Hugh Ellis Ed- wards, mab Mr. John Edwards, Shop, Roewen, ger Conwy. Oed, 12 mlwydd. Evans.—Ebrill 7, yn 31, Victoria Place, Bangor, Miriam Eurgain Savage, plentyn Mr. Samuel Evans, yd fasnachydd. ,Tfoi,t,ell. Ebrill 3, Mr. John Howell, Cwmergyr, Ponterwyd. Oed, 78. Jones—Ebrill 11, priod Mr. William Jones, postfeistr, Amlwch. Leivis.—Ebrill 3, Mr. Joseph Lewis, Snowdon House, Porthdinorwic. Oed, 63. Lloyd.—Ebrill 9, yn Rhiwlas, Blaenau Ffestiniog, priod Mr. John Lloyd. Oed, 52. Morris.— Ebrill 2, yn Lerpwl, Ritchie, Is mab Mr. W. W. Morris, goruchwyliwr y Rhosydd, Ffestiniog. Oed, 18 mlwydd. Parry.—Ebrill 8, Owen Parry, Pen Rhiw. Oed, 31. Hefyd, Ebrill D, Hugh Parry, Bwlch. Oed, 43. Meibion Mr. a Mrs. Parry, Queen's Head, Cerrig-y- druidion. Roberts.—Mawrth 2(j, gweddw y diw- eddar Mr. John Roberts, Coed-y-parc, ger Bethesda. Oed, Gl. Williams,—Ebrill 1U, yn 14 mlwydd oed, Maggie Lizzie, liierch William ac Ellen Williams, Broneryri, Upper Llan- dwrog. 1, yn Juvenal Street, Lerpwl, priod Mr. H. Williams. Oed, 47. AMERICA.
AMERICA.
Evans.—Ionawr 18, yn 18 mlwydd oed, Mary Evans, Girard, Ohio, a dranoeth ei clnver Lizzie, yn 2B mlwydd oed. Yr oeddynt yn wyresau i'r diweddar Rhydd- erch Evans, Cwmamman, Sir Gaerfvrddin, lie y mae nifer o'i berthynasau yn byw. Jones.-Mawrth 14, yn 65 mlwydd oed, Eynon R. Rees, North Alton, Illinois. Aeth i America gyda'i rieni, Rees a Mary Jones, o'r Bryn, Morganwg, yn 1851. Thomas.-Mawrth 23, Dd. R. Thomas, Plymouth, Pennsylvania, yn 47 mlwydd oed. Claddodd ei wraig er's blynyddau, a thrigianai gyda'i ferch, Mrs. Zephaniah Rees. Yr oedd un mab yn byw gydag ef, ac y mae merch iddo, Mrs. W. J. Davies, yn trigianu yn Wilkesbarre. Genedigol oedd o Ferthyr Tydfil. Thomas.—Mawrth 6, yn Miners' Hill, Pennsylvania, John J. Thomas. Ganwyd ef yn mhlwyf Cleda, ger Trelec-h, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd. o Flaenllechau yn 1879.
[No title]
Medrai Ffrainc mewn taro grynhoi ruiliwn a thri chan' mil o ddynion. Priodir 2,000 o gyplau yn flynyddol yn Eglwys Gadeiriol Manceinion. Y mae naw o bob cant o doriad yma,ith aelod- au y corff yn angeuol. Yr eglwys blwyfol fwyaf yn Lloegr ydyw St. Nicholas, Great Yarmouth. Anfynych y cyflawna menywod hunrtnkddiad drwy saethu eu hunain. Anfonir dros 800,000 o barseli yn wytimosol drwy y Parcel Post.
Advertising
Yn y Wasg. Pris Is. 6c., wedi ei Rwymo yn Hardd. "GRISIAU'R DEML," XEU OEDINHADAU TY DDIT ~SV Gany PARCH. N. THOMAS, FleER LLANDDASOG. YR unig esboniad cyftxiwjs yn G 4umeg ar y Beùydd; y CatcCl¡;lli, Conffirmasivvli, a'r Cymmtin Bendigaid. Y mae yn llyfr addas fel gwobr yr Y sgol Sul. Gan nad argreffir end nifer benodol, anfoner archebion at yr Awdwr ar unwaith— Rey. N. THOMAS, The Vicarage, Llanddarog, CARMARTHEN. NOW READY, 420 PAGES, CROWN 8vo. BOARDS. PUBLISHED UNDER THE AUTHORITY OF THE LORD BISHOP OF THE DIOCESE. THE BANGOR DIOCESAN CLERICAL DIRECTORY AND CHURCH CALENDAR FOR 1890, With a History of the SEE OF BANGOR, THE CATHEDRAL CHURCH, &c., REPORT OF THE DIOCESAN CONFER- ENCE FOR 1889, &c. REPORTS OF THE ANNUAL MEETINGS OF THE DIOCESAN SOCIETIES. EDITED BY THE REV. W. MORGAN JONES, B.A., Curate of Penmaenmawr. Member of the Cambridge Autiquarian Society Price Is. Gd., post free from the PUBLISHERS JARVIS AND FOSTER, LnnXE HOUSE, BANGOR. QUININE BITTERS GWILYM
QUININE BITTERS GWILYM EVANS.
EVANS. Y llinellau canlynol a ysgrifenwyu yn fyrfyfvr nr <] derbyn dirfawr leshad oddiwrth Quinine Bitters Gv, iiyin Evans. Bu'r Eryr tlawd mewn pocn a ellul', Ei dy o jflai yn boenus, Ni theimlai archwaeth at ei fwyd, Pub cam oedd vn ddoiurus KoecLl poenau diriawr yn ei ben, Cai drafferth i atiadlu, A churai'i galon fel y g-wynt Pan byddai yn pesychu. Cyn^liorai un, cynjrborai'r llall Am dreio y nieddy^oii, Ac yntau'r tiawd ar lawer awr Oedd bron a thori'i galon Gwi,ai ,re(lu weitli;ail'i f(,d ar beii A'i d:ith n ngwlad v ddaear, A pharod oedd i ] oi ffarwe] l'ik, tTryndiau mewn mawr alar. Bu'r Eryr yn y cyfwng hwn Yn treio rhai illed(i n, A Hyneodd wmbredd mawr o bills Gan gredu gwcLa ¡¡ m ion Ond och, bu'r oil yn ddile>had Er jrwario swm o arian, Ond cafodd gyua:hor i wneyd prawf o Quinine Gwiiym Evan. Bu'r cvnghor da yn weil nag aur I'w ddwyn iardal iecliyd, Gwnaeth vvella'r boen, aeth dan ei wmiùd, Hwylusodd daith ei fywyd Canniohvyd llawer cyn yn awr Ar Quinine Bitters ^wiwlon, Ond gellir dywedyd heb un boa at, Dim eto lianer digon. Mae pawb o'run farn am ei rin O'r rhai wnueth brawl o bono Gi fod yn gyffyr gorau'r wiad lieb ddiin y,i i'i(io; Hwrc, i'r r dewr, Hir oes a fo i'r Cymro, A gwneler tvsteb lawr rfryso i-'o'n deilwng ia.vjj o h .iio. Myrtle Hill, Five Roads. Eknt GLAX LLIEDI*