Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
DOSBARTH II.
DOSBARTH II. GWEDDI. Gweddi yw llais yr enaid trist, Pan dan orthrymder cas, Yn esgyn drwy eiriolaeth Crist I glustiau Duw pob gras." Ymostwng i'r goruchel Dduw, Drwy gwympo o falchaidd wedd, Mewn agwedd isel, waraidd, wyw, I erfyn am Ei hedd. Uwch mawredd claer drigolion nef Cyfelria'r Cristion gwan Ei erfyniadau ato Ef, Gan ddadleu'r "unig fan." Ac yna gwel mewn goleu clir Drugaredd fwyn ei gwedd, Yn gwenu arno gyda gwir Arwyddion cyflawn hedd.
PLWYFYDD GLAN Y MOR YN SIR…
PLWYFYDD GLAN Y MOR YN SIR FFLINT. Diameu fod y oaanylaidd yn barod ar daraw- iad amrant i ddweyd nad oes dim o'r fath blwyfi mewn bodolaeth, na,d oes dim mor yn ffinio ar sir Ffiint, ac mai aber y Ddyfrdwy yw y dwr mawr ar ochr ogledd orllewinol y sir. Gwir hyn i raddau; ond y mae rhai plwyfydd, megis Bhuddlan, Dyserth, a Galltmelyd- nad oedd dim cyffyrddiad rhyngddynt a'r aber ac am y plwyfydd gweddill, fel m6r yr edrych y plwyfolion ar y dwfr hyd onid elycli i Fflint os nad i Connah's Quay. Son am Fflint, nid oes a fyno y gair ddim A Cliallestr." Y bobl a gyfieithant Bull y Pab yn darw a gyfieitliasant "Ffiint" yn Ga,Uestr." Yr oeddwn yn meddwl y gallai llythyr ynghylch y plwyfydd ar lan y m6r yn y sir, gan bigo allan yn unig y rhai hyny ag y mae ynddynt orsaf- oedd perthynol i'r L. & N. W. Co., llinell yr hwn a red ar fin y dwfr, yn meddu rhywfaint o ddyddordeb i rai o ddarllenwyr Y LLAN. Y He cyntaf dan sylw fydd CONNAH'S QUAY. Bydd hwn yn lie pwysig cyn pen nemawr flynyddau. Dyma lIe mae'r bont haiarn yn croesi'r Ddyfrdwy. Agorwyd hi yn ddiweddar, ac yn ei chysylltiad a loop-line PenarMg, a'r rheilffordd trwy y Worial tua Lerpwl, bydd yn gaffaeliad mawr i fasnach ac yn gyfrwng hyr- wjddiant teithio a thrafnidiaetli. Mae'r Parch. Thomas Williams yn ficer yma, ac yn cyflawni ei waith yn ddidrwst a diwytl. Yma hefyd mae Mr. Woodcock yn athraw yr Ysgol Genedl- aethol. Nid oes un athraw yn y sir yn fwy adnabyddus nag ef. Mae yn barablwr gwych, ac yn ddyn o gynheddfau tuhwnt i'r cyffredin. Dywedai Mr. Morgan Owen, Arholwr Ysgolion ei Mawrhydi, wrthyf fod Mr. Woodcock i dderbyn presentation yn fuan, a'i fod yntau yn myned i'r Quay i'w gyflwyno. FFLINT. Yr orsaf nesaf yw'r un yn hen ben tref y sir. Gellid ysgrifenu colofnau liaws am y Ffiint; ond rhaid i mi ymswyno, onide fe allwn yru y Golygydd i wasgfa. Y mae'r Parch. Mr. Nicholas, brodor o'r South yna, sir Benfro, yn boblogaidd a llwyddianus yma. Yr oeddwn yn un o haner cant nsu driugain yn ei gymun cyntaf ar Ddydd y Pasg, a bn ped war cymnIl arall yn eglwysydd y plwyf wedi hyny ar yr un dydd. Yr wyf yn meddwl i mi weled cofnodiad yn Y LLAN am waith y Rector yn arbed Bwrdd 1 Claddu yn y plwyf, trwy brynu mewn ftydd ddarn o dir a'i ychwanegu at yr hen fynwent. Ycliydig fisoedd yn ol cysegrwyd y darn newydd gan Esgob Llanelwy, ao y mae mur cadarn wedi cael ei godi rhwng y fynwent helaethedig a'r ffordd fawr. Ddydd Llun y Pasg, pan yn y festri, derbyniodd y Rector lythyr oddiwrth Miss Moon, Trelawney House, yn cynyg can' punt at godi ty i geidwad y Cemetery. Der- byniwyd y cynygiad yn llawen. Yr oedd Fflint, haner can' mlynedd yn ol, yn ymdrochle. Pwy a feddyliai hyny wrth edrych ar draeth aflan y lie yn brosenol ? Felly hefyd yr oedd Parkgate, am yr afon yn sir Gaer. Oud nid oes yno yn awr ond y morddynau moel yk arddungos godida^grwydd cynhenid y lie. am ochr sir Gaer. Nos Dydd Nadolig weddaf, yr oeddwn, pan yn dyfod o wasanaeta eglwysig yn nghyffitiiau Llaneurgain, yn y bryndir uwchben Fflint, yn gwynebu Parkgate, Neston, &c,, ac yr oedd y goleuadau ar yr heol- ydd ynddynt ac o ffenestri y tai, yn cael eu tanbeidio gan y dwfr, nes gwneyd i bellder mawr o ffordd edrych fel pe'n cael ei illuminatio mewn dull arbenig. Dywedid wrthyf mai yr adlewyrchiad ar y dwfr oedd yn peri y fath olygfa ysblenydd, yr hwn, er nad oes fawr o'r sentimental neu'r poetical yn fy nghyfansoddiad, nid anghonaf ar fyrder. Un o'r Eglwyswyr mwyaf trwyadl yn y Fflint yw Mr. Jos. Evans, warden y Ficer, ac asgwrn cefn Ceidwadaeth yn y fwrdeisdref. Y dydd o'r blaen yr oedd ef yn un o'r ymgeiswyr am y swydd o gofrestrydd marwolaethau yn y dref, ac o fewn un bleidlais ar Fwrdd Gwar- clieidwaid Treffynon buasai yn ei chael. Ond at hyn yr oeddwn yn myned i gyfeirio. Yr oedd yn berffaith hysbys mai ymdrechfa rhwng Ceidwadwr a Rhyddfrydwr oedd yr ymgeis- iaetli. Daeth y gwarcheidwaid Rhyddfrydol yngliyd yn gryno i gefnogi eu dyn; ac am y Ceidwadwyr, yr oedd yno amryw, ond yr oedd amryw yn ychwaneg a'r nas gallent hebgor myned i'r Grand National Races tua LerpwJ, er mwyn aros gartref i bleidio dyn ag oedd wedi gweithio mewn amser ac allan o amser i gefnogi ymgeisiaeth rhai o honynt hwy pan yn ym- drechu am y County Council. Mewn llawer man motto Ceidwadwyr dylanwadol, mewn effaith beth bynag, yw Difrawder, anniolch- garwch, ac anghallineb." BAGILLT. Mae y Parch. J. E. Jones, ar ol llafurio yma er y flwdclyn 1855, wedi ymddiswyddo oherwydd maith afiechyd, a'r Parch. Robert Owen, curad Rhyl, wedi cael cynyg ar y fywoliaeth. Yr oeddwn i yn yr eglwys ux nos Sul y Pasg, yn un o gynulleidfa o agos i 200. Nid oedd y ccir yn rhifo llai na haner cant, a'r canu yn wresog ragorol, Nid yw Mr. Jones mewnun modd yn gadael Eglwys w&g ar ei ol yma, ond y mae yn ymadael ag eglwys (yr adeilad) gyda'r wrthunaf o ran ei threfniant mewnol, Mae yr eisteddle- oedd wedi eu gwneyd fel ag y gall pawb o'r addolwyr lygadrythu yn ngwyneb eu gilydd. Pan gyfyd y c6r i ganu, maent yn troi eucefnau at yr allor Un peth dymunol a welais ynddi oedd y clothydd patriarchaidd yr olwg, yn eis- tedd mewn sedd briodol dan y ddarllenfa, Nid wyf fi yn hoffi gweled cilgwtliio y clochydd i ganol y gynulleidla, Y mae efe yn swyddog Eglwysig haeddianol o'i le ei hun. A phe bawn i mewn swydd Eglwysig, swydd clochydd a I., 0 fyddai hono. Hir oes i'r parchws Robert, cloch- ydd gonest a brwdfrydig Bagillt, a pban ad drefuir yr eglwys (gorchwyl ag y mae y ficer newydd yn rhwym o'i gario allan), hyderaf y darperir eisteddle newydd yn arbenig i'r hen frawd fOyddlawn. Cyfarfyddais a'r Parch, D. W. Thomas, diweddar ysgolfeistr llwyddianus y lie, yr hwn sydd yn awr yn is-atliraw Coleg Winchester. Bu ef, fel ei dad o'i flaen, a'i frawd ar ei ol, nid yn unig yn llwyddianus neill duol yn yr ysgol, ond hefyd yn golofn i'r eglwys fel blaenor y gan ac mewn cylchoedd eraill. Lie Cymreig yw Bagillt, ond, ysywaeth, mae yr eg- lwys wedi ym-Seisnigeiddio yno. TREFFYNON, Yr wyf yn cofio eglwys y plwyf hwn yn un o'r rhai hyllaf yn yr Esgobaeth; ond y mae y periglor, y Parch. R. O. Williams, wedi ei hadferu fel ag i fod nid yn unig yn gyfieus i addoli ynddi, ond hefyd yn hardd. Mae eglwys Maesglas, yn mhlwyf Treffynon, dan ofal y Parch. J. Jones. Y mae efe wedi treulio llawer blwyddyn fel offeiriad cynorthwyol, ac y mae'n bryd bellach rhoddi iddo blwyf ei hun. Wrth eglwys y plwyf y mae ffynon enwog Gwenffrewi, ac yn gyfagos i eglwys Maesglas mae hen fyn- ochlog Basingwerk. Treuliais awr rhwng y ,),ivec gweddillion o honi un prydnawn hydrefol ryw flwyddyn a haner yn ol, gan geisio gosod cig a chnawd ar yr esgyrn sychion, a dyfalu eimawr- edd a'i godidowgrwydd gynt. Yr hen fonachlog anwyl! mae'n resyn bod dy wedd Yn ail i gorff pydredig dan dywyll leni'r bedd Ni chenir Cred na Phader ar wawr na gosper mwy; A'r Avv ber ni phyncir, na'r Sant gan blant y plwy' Ni chlywir yn y gangell un gyngan ond y gwynt Yn gwatwar yr alawon a genidyno gynt." 11 MOSTYN. Yn mhlwyf gwladaidd Llancliwitffordd, neu Rhydwen, y mae Mostyn. Oddeutu pymtheng mis yn 01, yn gynar, ar foreu glasoer yn y gauaf, disgynais yn yr orsaf yma, gyda'r bwriad o gan- lyn y degwm-gasglydd a'i osgorddlu drwy y plwyf. Dyma y tro cyntaf i'r meirchfilwyr gael eu galw allan. Yr oeddwn yn flaenorol wedi bod mewn axdaloedd eraiH, ac wedi sefyll rhwng y ddau dan yn ymladdfafytligofiadwy Mochdre. Yn nghasgliad Whitford, rhoddodd Mr. Peter Browne, y pen cwnstabl, un o'r gwyr caredicaf a droediodd esgid, lift i mi drwy y dydd yn ei gerbyd. Cafodd ef a minau ein gwneyd ar y cycbwyn. Y trefniad oedd i'r gosgorddlu fyned yn gyntaf i Isglan, ac aeth ein cerbyd ninau yno i'w cyfarfod. Aroswyd yno am dros awr o amser, a chafodd artist y Graphic, a godasom ar y ffordd, gyfle i dynu llun yno, yr hwn a gyhoeddwyd. Os y fi oedd y fo, ni fum i edoed yn edrych yn waeth fy ngolwg nag yn y llun hwnw. Cawsom garedigrwydd mawr gan Mr. Edward Jones, y tenant gwrth-ddegymol, a ,,y daethom o hyd i'r osgorddlu cyn i waith y dydd ddechreu, yr hon oedd wedi newid y trefniadau. Am Mostyn, gellir dweyd fod y Parch. Griffith Jones yn hynod boblogaidd yma. Yn ddiweddar, agorodd ystafell genhadol yn nghyffinian y gweithfeydd haiarn. Yma y preswylia Dr. Pan Jones. Hen frawd eithafol, ond gonest, ydyw efe. Nid oes dim sacerdotal yn nyn oddifewn na dyn oddiallan Pan. Nid yw efe yn ceisio epaeiddio gweinidogion yr Eglwys ar un llaw, ac yn ceisio eu cliraddio a'u liysbeilio a'r Hall. Y mae un Pan yn werth cant o bobl breed y Faner. PRESTATYN. Mae y Parch. Thomas Price wedi bod yn cudw llusern yr Eglwys yn oleu yma er's blynyddau, yn nghanol gwrthwynebiadau gelynion ffyrnig, 11 z;1 a fuasent wedi llygad-dynu llawer dyn llai gwrol. Er gwaethaf y cwbl, y mae Mr. Price yn dal i weithio. Un o'i orchwylion diweddaf; ydoedd codi mur oddiamgylcli cliwareule plant yr ysgol, ac y mae yn bwriadu ar fyrder godi ty i'r ysgolfeistr. Mae y gwr parchedig yn ddarllenwr mawr; nid oes nemawr offeiriad yn yr Esgobaeth a, gwell llyfrgell ganddo. Oddeutu dwy fly" edd yn ol, cyhoeddodd bamphled ar y degwm,ta -all,-tf ei gymeraldwyo fel f un o'r rhai mwyaf rhagorol a ysgrifenwyd ar y pwnc hwnw. RHYL. Dyma ni bellach yn mlirif, ond nid pen, tref y sir. Ddydd Ian diweddaf ymadawodd yr hen Ficer, Canon Thomas Richardson, a'i deulu, i'w blwyf newydd Llaneurgain, gan ddwyn gydag ef ddymuniadau goreu ei liaws cyfeillion. Yr oeddwn yno yn treulio y Sul dilynol ac, yn ol fy arferiad pan yn aros yn Rhyl, aethum i'r Eglwys Gymreig yn y boreu, pan y gweinyddai Vicar-designate Bagillt. Gwelais "Ap Trebor" Y LLAN a'i deulu yno yn gryno ond yr oedd sedd Mr. Bernard Parry, warden y plwyf, yn wftg. Cyn terfynu y gwasanaeth, clywais y rheswm pan ddymunid gweddïau y gynulleidfa dros Bernard Parry, yr hwn sy'n beryglus glaf." Wedi myned allan clywais ddarfod i enaid Mr. Parry ehedeg i fyd yr ysbrydoedd oddeutu yr un munydau. Yr oedd ef yn adna- byddus iawn yn marclmadoedd Fflint a Dinbych flynyddau lawer, y rhai a fynychai yn rheol- aidd fel corn dealer, ac yr oeddwn yn ei adnabod a'i barchu or's amser maith yn ol. Gwr gonest ac unplyg oedd Mr. Parry, a bydd yn chwith gan laweroedd glywed am ei farwolaeth. Yn y prydnawn, cefais fyned i ddosbarth Mr. Ed. Morris, Arholwr Cynorthwyol yr Ysgolion, yn Y sgoldy St. loan. Class o chwech neu wyth o ddynion sydd ganddo, ac yn Ilyfr Job y dar- llenant. Ond y mae'n ymddangos mai'r second subject sy'n cael mwyaf o sylw yn bresenol, sef Canon Luckock's After Death." Maent ar haner myned trwy'r llyfr; a chyn cymerydhwn, Blunt's Undesigned Coincidences oedd dan sylw. Nid oes angen dweyd fod Mr. Morris yn gwneyd athraw da ac ymroddgar, a bod ei ddos- barth yn ymlyngar iawn wrtho. Yn wir, ym- ddengys ,mai efe sydd wedi bod yn asgwrn cefn yr ysgol er's blynyddau. Yr arolygwr presenol yw Mr. Geary, pen clerc Mr, Alun Lloyd, twrnai y gwrthddegymwyr a. gwr lJawn zed jw yntau, fe ymddengys, Yr opdd yn ddrwg 11 y genyf ddeall nad oes cymaint ilg un dosbarth Cymreig yn bresenol yn yr ysgol. t, 11 Yu yr hwyr aethnrn i Eglwys St, Thomas, un o'r rhai gwychaf yn yr esgobaeth, Sylwais nad oes ynddi yn awr ond un ffenestr ar rad yw wedi ei llanw a. gwydr lliwiedig. Darllenid y gwasanactli a pliregethid gan gurad newydd, a I hyny am y waith gyntaf yno, meddid i mi, Yn ol a glywais, gwnaeth argraff dda, ac yr oedd gauddo draddodiad clir a di-atal. Sylwais wrth fel y gwisgai y stole mai mewn urddau diacon y mae. Mr. Green yw'r enw, ac yr wyf yn meddwl ei fod yn fab i Berson Castell Caereinion. TOWYN, ABERGELE, Dyma fi yn tori dros y terfynau yn awr, gan fod y pl wyf hwn, am yr afon a Rhyl, yn Sir Ddinbych. Ond y mae yn rhaid i mi gyfeirio eto er mwyn cywiro gwall yn y rhifyn cyn y diweddaf, He y sonid am Towyn j fel Tygwyn," Yr wyf yn adwaeu y Parch. J. O. Evans, mab Archddiacon Meirionydd, er's llawer blwyddyn, ac y mae yu wir ddrNv, genyf ei fod yn ymadael oddiyma i ardal Caerdydd, Mae efe wedi bod yn pregethu y Ffydd Gatliolig yn ddiwyd a difloesgni er's amrai flynyddau yn yr eglwys lion, Mawr Iwyddiant iddo yn ei Ie newydd, a hyderaf y ceir gwr mor gywir ei gred a dilycliwin ei fuchedc1 i ddilyn ei ol. Abergele, a'r gwaith da a wneir yno, gaiff fy sylw cyntaf pan yn son am blwyfydd glan y mor yn Sir Ddinbych. FFLIXTYDD.
LLYFR HYMNAU A THONAU YR j…
LLYFR HYMNAU A THONAU YR EGLWYS. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Fe ysgrifenwyd llawer ysgrif, a thraeth- wyd amryw farnau a chynlluniau ynghylch dygiad allan y Hyfr uchod, a gobeithio mai nid ofer fydd yr oil. Ysgrifenwyd a thraetbwyd digon arno, ac nid oes eisiau dim yn mhellach na'i ddwyn i weithrediad. Nid wyf wedi gweled yr un hysbysiad yn y LLAN eto fod yna bwyll- gor wedi ei benodi ar y mater. Mae yna ddigon o feib yr awen, digon o lenorion dysgedig a goleuedig, a digon o gerddorion talentog a galluog yn yr hen Eglwys heddyw, y rhai nad nad oes eisiau i ni gywilyddio o'u plegid, a all- ant ffurfio pwyllgor i ddwyn allan y fath lyfr ag sydd yn ofynol. A phaham na allwn fod yr un fath a'n cyd-Eglwyswyr Seisnig ? Yr un yw eu llyfr hymnau hwy ymhob man, ac hefyd gan rai o'r enwadau. Nid oes bosibl nad allwn ddy- fod allan a'r fath lyfr ag a fydd yn deilwng o'r hen Eglwys, a gobeithio na siomir ni yn ein disgwyliad am hyn o beth.—Yr eiddoch, Gorseinon. MORGAN O'R GORS. [Nid yw eich syniad yn gywir am nifer y casgl- iadau Seisnig a arferir yn yr Eglwys. Y maent bron yn ddirifedi.—-GOL.]
FICER NEWYDD LLANWONNO.
FICER NEWYDD LLANWONNO. At Olygydd" Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—0 dan y penawd uchod, yn eich rhifyn cyn y diweddaf, cyfeiria eich gohebydd "Elpis" at y Parch. Thomas Williams, A.C., gynt ficer Llansadwrn, a pherchenog hen ystad Castell Howel, Llanegwad, yr hon sydd yn parhau yn meddiant y teulu, chwaer yr hwn oedd hen famgu Ficer newydd Llanwonno Yr oedd Mr. Williams, yn ei ddydd, yn un o ddynion blaenaf sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn Ngholeg Wadham, Rhydychain. De- chreuodd ei weinidogaeth fel curad St. Pedr, Caerfyrddin, a daeth yn ficer Llansadwrn a Llangadog. a rheithor Merthyr, ger Caer- fyrddin. Yr oedd yn ddeon gwladol, ac yn Brebendari Llandrindod yn Eglwys Golegawl Aberhonddu. Yr oedd hefyd yn Gaplan Ar- holiadol i Esgob Ty Ddewi, a chesglir oddiwrth ei dvlyddiadur mai ei ddull o fruu cymhwys- derau offeiriaid i weinydduyn yr iaith Gymraeg oedd myned i wrando arnynt yn pregethu yn yr iaith hono. Yr oedd yn arolygwr ystad Highmead, ac yn Ynad Heddwch dros y Sir. Efe, yn ddiameu, a'r Archddiacon Beynon, oeddynt gydl1 r offeiriaid mwyaf dylanwadol, mewn ystyr wladol, cymdeitliasol, ac Eglwysig, a fu enoed yn sir Gaerfyrddin. Cyfeiria eich gohebydd hefyd at y Parcli. John Llewelyn, Typicca. Dechreuodd ef ci weinidogaeth fel curad Llangadog, o dan Mr. Williams" a daeth vn ficer Llangathen. Yr oedd ben bobl yr ardal yn hoff iawn o grybwyll am daoo.—Yr eiddoch, &c., EGWAD.
EGLWYS ST. MAIR, ABERTEIFI.
EGLWYS ST. MAIR, ABERTEIFI. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr, Fel darllenydd cyson o'cli papyr clod- wiw, eriyniaf am ycliydig ofod i draetliu 1y fy marn ddirodres mewn pertliynas Eglwys St. Mair, Aberteifi. Yr oedd yn syn genyf weled fod "Penfroydd," nag un Pen arall, yn gallu dweyd y dylai fod gan y Cymry eglwys iddynt eu huuaiu mewn tref boblogaidd fel yr nchod." Goddefwoh i mi ofyn, Ai nid eglwys y Cymry yelyw'},' eglwys dan sylw ? Ac oni fyddai yn iwy prioc101 0 lawer i "Penfroydd" ddweyd y dylai Saeson Eglwysig y lie, os yw hyny yn wir angeurheidiol, gyfodi adeilad iddynt^ eu liunain, nag i'r Cvnny orfod troi allan 0 r fangre sanctaidd, lie y bu eu tadau a'u cyn-deidiau yn ymgynull i addoli Duw ? Rhyfedd fel y mae y Cymry, druain, yn y dyddiauipresenol, yn cael euhanmharchu a n di- raddio mewn llawer i fan yn eu gwlad eu liunain A oes rhaid goddef hyn oil ? Nac oes. Safwn am gael ein hiawnderau, a pheidiwn roddi i fewii i'r rhai hyny o'n I cyd-genedl sydd yn bleidiol i'n gwrthwynebwyr, ac felly yn taflu sarliad ar ein hiaith ogoneddus. Yr wyf yn caru gweled cydweithrediad yn bodoli, a chariad yn teyrnasu rhwng y ddwy genedl a'u gllydd, ond gweled, mewn llawer I I eglwys yu N ghymru, lle mae y ddwy iaith yn cael eu harferyd, y gwasanaethau Seisnig yn cael eu c-nal ar yr oriau mwyaf cyfleus o ddydd yr Arglwydd sydd yn wrthwynebol i natur pob tin sydd yn teimlo rywfaint o serch tuag at yr hen iaith. Os oes eisiau eglwys newydd yn nhref Aberteifi, bydded i'r Saeson ei hadeiladu, ac i'r Cymry eu cynorthwyo hyd ag y mae yn eu gallu, Und y mae pob rheswm yn dweyd nad oes dim angen i'r olaf i droi allan o'u heghvys gysegreaig eu hun, a byddant Yll ffol iawn os gwnant hyny.-Yr eiddoch, &c., CARWR CYFIAWNDHR.
[No title]
Nid yw byth yn gwlawio yn yr Aifit isaf. Y mae llwcli gio yn beth hynod 0 danadwy. el Dywedir fod Mr. Blackmore, y nofelydd, yn arddwr marchnadol brwd, Cafodd dros fil o pichpocjccts eu cymeryd i'r ddalfa yn Ardclangosfa Paris. Derbynia Mr. Edison yn agos i haner miliwn o lythyrau mewn blwyddyn. Medrai y bardd Milton siarad yn rhwydd mewn wyth o ieitlioedd. Ein cyfraith a ddywed yn dda,-Oedi cyf- iawnder sydd anghyfiawnder. Costia carcharor oddeutu pymtheg punt y flwyddyn i'r llysvodraetli. Cyfrifir fod gwerth deng miliwn o bunau o eiddo yn gorwedd ar waelod M6r y Werydd. Cyfrifa Stanley fod poblogaeth Affrica yn 250,000,000. Bwyleir, ar gyfartaledd, fil 0 foch yn ddyddiol yn Llundain. Mae gan y Persiaid enw gwahanol ar bob i dydd yn y mis. Defnyddir cant a deg o filoedd o dunelli o cabbages yn flynyddol yn Llundain.
[No title]
Dywed doethwr Dwyreiniol i rosynau gael eu 0 gwneuthur o'r hyn a adawyd o fenyw ar y gread- igaetli. Tynwyr lluniau ydynt y mwyaf caredig o bawb dynion, oblegid y maent yn wastad yn awyddus i gymeryd yr olwg orea ar eu eyd- greaduriaid. Ychydig wythnosau yn ol, galwyd ar ddau feddyg i arcliwilio rhai preswylfeydd Gwyddelig oeddynt yn sefyll ar waelod Westyate, Leeds. Gofynodd un o'r meddygon i un o feistresi un o'r tai, Paliam na chadwcli chwi eich ty yn lanacli ?" Yr atebiad a wnawd gan y fenyw osdd, ei bod yn weddw dlawd, ac nas gallai ei ifol-cidio." -1 Pa gybyd yr ydych wedi bod yn weddw?" gofynai y meddyg. "Yn sicr ddigon, 0 on, eicli anrhydedd, am dair blynedd." 0 ba afiechyd y bu farw eich gwr ?" ebai'r meddyg. Och, fuodd e' ddim farw o gwbl, y mae wedi rhedeg ymaith gyda menyw arall."
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. JOHN BoWFN.-Llawysgrif gampiis y tro hwn, ond rhai gwallau mewn gramadeg ac odliad. Yw yn lie i'iv yn y pedwerydd penill, a wnaeth yn odli a, laith" yn yr ail benill. Nid yw fynwes drwm" yn ramad- egol. Ei fynwes drom ddylasai fod. Yr ydym wedi cywiro y gwallau, ac anfon eich can i'r swyddfa. GLAX MYFYR.—Nid yw corfaniad y llinell gan- lynol yn iawn :— 0 fywyd sydd yn y Drindod." ERYR GWALIA.-YSgrif(,,nwch inc. Nid ydym yn deall mesur eich can. Os mai Gorhoff- edd Gwyr Harlech ydyw, nid ydyW yn iawn. Y mae y sillebiaeth yn wallus iawn. Rhodd- wch ail gynyg iddi. MEWN LLAW.—Hugh Roberts (ysgrifenwch ar note paper), Gwilym Gwynfil, &c.
DOSBABTH 1.
DOSBABTH 1. BETH YW BYWYD. Beth yw bywyd ? gormod coflaid I fy meddwl eg wan yw A beiddgarwch ynwyf ydyw Ceisio byth esbonio byw. Beth yw bywyd ? perl godidog, Anmhrisiadwy yn ei werth, Nacldwyd allan o fylfaeni Y tragwyddol greigiau sertb. 0 Beth yw bywyd, plentyn amser ? Na, mae bywyd yn y byd Cyn i dragwyddoldeb esgor, A rhoi amser yn ei gryd. Betli yw bywyd ? deigryn gloyw Hanodd o'r tragwyddol for, 0 fywyd sydd yn y Drindod, Lie mae'n cadw yr ystor.] Beth yw bywyd ? onid coron Weodd tragwyddoldeb pell Yn ystormydd geirwon amser, Bywyd ymddadblyga'n well. I Beth yw bywyd ? rhosyn prydferth Blanwyd yn ngardd amser yw Rhosyn hefyd na cliaiff amser Weled byth ei ddail yn wyw. Beth yw bywyd ? dyma hanfod Mawr y Drindod bur ei hun, Gyda pharch dweyd ddymunaf Ni b'ai Duw heb fywyd cun. Beth yw bywyd ? gwisg frenliinol Natur ydyw ar ei sedd A phan wywa anian brydferth, Hwn fydd golofn ar ei bedd. Beth yw bywyd ? Hong yn hwylio Cefnfor garw amser yw Ac mae'n rhoddi ei fab hynaf Tragwyddoldeb wrth y llyw. Beth yw bywyd 26 unig obaith I bechadur yn y byd Gael mwynhau y didranc fywyd- Tragwydcloldeb ar ei hyd. Beth yw bywyd ? penaf anrheg Roddodd Cariad Dwyfol yw Cyn i'r gair tragwyddol Bydded y C, Syrthio dros wetusau Duw. Beth yw bywyd ? hylif esmwyth Ag sy'n toi y nef uwchben, Ac yn taenu aden cariad Dros ferwolaeth megis lien. B. Ffestiniog. GLYN MYFYR.
Y CARDOTYN AMDDIFAD.
Y CARDOTYN AMDDIFAD. Yn foreu iawn un dydd, A'i rudd yn wlyb gan ddagrau, 'R oedd tlawd amddifad prudd, A'i gyila gwag mewn eisiau, A clirwydro 'r oedd heb le drwy'r byd I ddweyd mai dyma'i gartref clyd. Y dyrfa oil yn HOD Yn myn'd heb syllu arno, Tra yntau'n drwm ei fron, Ac wrtho'i hun yn crwydro Ond trodd o'r dyrfrt fawr, a'i waith Fa wylo ar y ddaear laith. A'i ddagrau'n llifo'n lli', Fe glywai'r plant yn canu, Ac eilwaith rhoddodd gri, Tra liwythau'n moli'r Iesu Ond wylo'r ydoedd ef o hyd, Heb ffrynd na. chysur yn y byd. Ei wyneb oedd yn myn'd 0 hyd yn welwach, welwach, Ac Ylltau heb un ffrynd l'w gynorthwyo bellach; Ond crwydro wnai'r amclcliftd llwm Dan lethol bwys ei drallocl trwm. 0 gydymdeimlad cu, P-,i le 'rwyt ti yii aros? Ai ni chanfyddi di Un o'th hawddgaraf blantos Yn crwydro fel rhyw bryfyn gwan 0 fwth i fwth, o fan i fan ? Ai ni osododd Duw Y gyneddf mewn dynoliaeth 1 deimlo wrth y gwiw A'r tlawd yn ddiwaniaeth ? A cliofia, ddyn, ei fod e'n frawd I'r cyfoethocaf, er yn dlawd. Ond gwyllaidd nos a ddaetli Ar warthaf y cardotyn, Ac aagau yrodd saeth, A threngu wnaeth o newyn Mewn congl oedd yn pwyso'i ben Ar gareg oer dan wlitii y nen. Hirwaun. JOIIX BOWEX.
Y FERCH A'R AWEL.
Y FERCH A'R AWEL. Pan o'wn yu rhodio yn y coed Gerllaw y gornant fechan, Canfyddais cneth lana 'rioed Mewn myfyr wrthi'i hnnan Hawdd caufod wrth ei gweled draw Fod yn ei mynwes hiraeth 'Roedd swp o flodau yn ei Haw, A gwylaidd oedd ei hymdaith. Fe gludai'r awel rliwng y dail I mi ei hymadroddion Genethig ieuanc wyf, a gwael, bydd bron a thori'm calon Fy John, fy John, sydd yn y bedd, Rhwng bryniau yn y dyffryn 'Iiw -vf fel pe bawn yn gwel'd ei wedd, Ei rudd oedd fel y rhosyn. Ffordd yma rliodiem ganwaith gynt Yn llawen rhwng y blodau; Ond Ow ond Ow diweddodd hynt Fy John yn rhandir angau; Gen?thigieuaric wyf yn awr, A'm grudd yn wlyb gan ddagrau, Golidiau lethant hyd y llawr Fy enaid nos a borau. Mi wasga'n anwyl at fy mron Y blodau sy'n fy nwylaw, A phlairaf hwy ar fedd fy John Fel arwydd serch dan wylaw Y dagrau dreiglant dros fy ngrndd, Eneiniant fan lle gorwedd, Fy anwyl John sydd acw'n nghudd Yn isel dan y Ilechwedd. Af yno heno'n gynar I glywed hwyrgan adar, 11 A gweled bedd fy nghydmar, Gyda'r nos, gyda'r 1108. Llangeitho. GWILYM GWYNFIL. 0
Nodion Hynafiaethol.i
Nodion Hynafiaethol. ENWOGION EGLWYSIG, &c. — [0 GASGLIAD ALLUD EIFION.] BEDDARGKAFF YN MYNWENT TREFEGLWYFI. Y Parch Isaac Lloyd, ficer Llanidloes, gan- edig o Wrexham-o deulu didwyll, ac enwog am ei dduwioldeb a'i wyleidd-dra. Wedi parhau yn ffyddlon i'w Eglwys er gwaethaf ymosodiad- au llawer o elynion. Iddo farw yn 1708, yn 98 mlwydd oed. Er ei farw, y mae yn llefaru fel gwir a duwiol esiampl i eraill." Y PARCH. JOHN WILSON, TREFKGLWYS. Cymydog a chyd-oeswr iddo ydoedd y Parch. John Wilson, periglor Trefeglwys, yr hWD, fel yr hysbysir, oedd tad y Parch. John Wilson, periglor, Penegoes, ger Machynlleth, a hefyd Gwanll Yscar, yr hon fywoliaeth ydoedd yn ei dal. Bn farw ar yr 31ain o AWbt, 1728, ac aed a'i gorff i'w gladdu i Drefeglwys, yn sir Drefaldwyn. Bu iddo chwech o feibion ac un ferch, a pheth sydd yn lied hynod yw, bu feirw pob un o honynt heb briodi. Richard, y trydydd mab: —" The remains of Richard Wilson, Esq., Member of the Royal Academy of Artists, Interred May 15th, 1782, Aged 69." Dywedir fod ei fam yn deilliaw o Wynniaid Coedllai. Hysbysir fod ffenestr liwiedig hardd newydd gael ei gosod yn eglwys plwyf Wyddgrug, mewn coffadwriaeth o'r hen arlun- ydd Cymreig anfarwol uchod. Yr oedd amryw o'r cyfenw Wilson yn wC-r o nod yn trigianu yn siroedd Mon, Caernarfon, a Meirion tua 60 mlynedd yn ol. Un o'r enw David Wilson a ddaeth yn Gyllidydd y Dollfa yn Nefyn yn y flwyddyn 1800. Os ydynt wedi hann o'r un cyff a Pheriglor Trefeglwys, dydd- orol fuasai i'r hiliogaeth ddyfod a'r achres allan. ADMIRAL LLOYD, TREGAIAN, O. Darfu i'r diweddar Lyngesydd Lloydjt o Dre- gaian, Mcin, adferu hen gareg ledd, yr hon oedd bron yn annarllenadwy, yn mynwent Tregaian. Aeth i'r draul o wneyd bedufaen nowydd birdd. wych yn ei lie, pa ua, y mae sail i farnu, a fydd yno am ganoedd o flynyddau i ddyfod. Yr oedd y boneddwr uchod yn hanu o'r Esgob Humphreys, Esgob Bangor. Mae hanesion yn dangos fod yr isod yn un o henafiaid y Llyngesydd 0 R. P. A. 106. A. D. 1821. EXGLYXIOX ARWYLIANAWL, Edmund Prys, gynt Beriglor Maentwrog, Arch- ddiacon Meirionydd, ac Ynad Heddwch dros y Sir. Blodeuai yn 1600. All on earth is shadow All beyond is substttnce.- YOUNG. Edmund Prys o'i Lys i lawr-a yrwyd I orwedd dan allawr Eglwys lie bu'n Beriglawr Gwiw, hael, a mwyn Fugail mawr! Ynad lion holl Feirionydd,—Athraw dewr, A tiira doetli Dduwinydd, Oedd a hynod Favddonydd Mawr ei ddawn—Homer ei ddydd. 0 wythiaith darfu ethol—iaith anian, Y Frythoneg nerthol; O'i frodiad tra hyfrydol, Aur we a gaed ar ei ol. 0 hiraeth a galaru,-a welwyd, Ar lawer o'i gladdu; Ond er hyn o'r dyffryn du, 0 fwyniant daw i fyny, BARDD MAWDDACH, 1837. TUDTJR ALED, O LANSANAX, Pencerdd, a Bardd Cadeiriog Eisteddfod Caer. wys, 1525. Er cyfoesi ynghanol Pabyddiaeth dywedai rywbryd Rho'wn ein gofal, bob calon, Ar Grist fry a'i groeswaed fron, Lie nad oes na jrarwloes gur, Na dialedd, na dolur, Nac erlid, Hid, nac oerloes, Na dig, na galar nid oes, Na newyn, chwerwddyn. na chwyn, Na syched. na nos achwyn. 'Sciytliyr Lan lydan, ui chofleidirhon A swyuion moelion a ganmolir. SION TUDUR.
[No title]
Y mae yna yn agos i 300 o chwareudai yn y Deyrnas Gyfunol. Enfyn Fft-ainc allan werth pymtheg mil a thri ugain o bunau o wallt gosod yn flyuyddol. Y mae cymylaa o eira yn fynj-ch yn dair mil o droedfeddi o drwch. Gorfoda cyfraith Sweden i cIpvj fwyta tra y byddoch yn yfed diodydd meddwol. Cynydda Llyfrfa yr Amgueddfa Brydeinig y 01 y gradd o gan' cyfrol y dydd. Gwybodaeth ydyw trysor, ond barn ydyw trysorydd dyn doeth. Nis gall hwnw f)tl yn gyfansoddiad da lle y bo yr archwaeth yn dda a'r treuliad yn wan. Dyn doeth a wna yr hyn a ddysga yn eiddo iddo ei hun. Y mae'r rhwymedigaeth i barchu rhieni mor barhaol a'r bei-tilydai. Rhaid peidio gweled y cwbl a welwn os am fyw mewn llonyddwcb. Tymer ddialgar sydd nid yn unig yn an- esmwyth i eraill, ond i'r rhai a'i medda.
LLANELWY.
LLANELWY. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Cynaliwyd Eisteddfod yn Llanelwy yn y flwyddyn 1791. 'Twm o'r Nant' enillodd y gadair. Nis gwn beth oedd y testyn, er fy mod wedi holi Glanffrwd ac eraill. Ymddengys y mae yn yr un gadair y cadeir- iwyd 'Bardd Alun' yn absenoldeb 'Glan Geir- ionydd,' yr hwn a enillodd y gadair ar y testyn I Gwledd Belshazzar' yn Eisteddfod Freiniol Dinbych,1828. Teimlaf yn ddiolcligar y neb a roddo yn y LLAN dipyn o hanes Eisteddfod Llanelwy, 1791. Beth fyddai i feirdd LJanelwy daro eu penauyn nghyd, a chodi Eisteddfod Gymreig yn Llan- elwy am 1891 ? Gan fod genym Esgob gweith- gar, a Deon dewr, a'r parsoniaid ieuainc yma wedi strippio at eu gwaith, ac yn ymsychedu am chwaneg o waith, gallem lwyddo i gynal Eisteddfod ddifyrus, ond i ni roddi ein telynau mewn hwyl, a myned o ddifrif at ein gorchwyl. Beth ydych chwi yn ddweyd, bobl ?—Yr eidd- och, yr 'rwan, Llanelwy, Ebrill Meg. ANARAWD.
Cymdeithas Dciadleuol yr Ystabl.
Cymdeithas Dciadleuol yr Ystabl. Yn ystabl Cwmcoed, nos Wener cyn y di- weddaf, daeth nifer o'n brodyr, sef gweision ffermwyr y gymydogaeth, ynghyd fel arfer i ddarllen y papyr clodwiw, Y LLAN A'R Dywys- OGAETH, yr hwn bapyr sydd yn cael y lie blaenaf yn y ddarllenfa hon. Y llithoedd blaenaf sydd yn cael eu troi allan gyntaf yw Llith y Golyg- ydd,' fel y ,alwn ni hi; 4 Llith Hen Domos,' Llithiau y Parch. E. Davies, Cwmtillery,' 4 Yr Arsyllfa,' ond ar goll yn awr, a Sylwedydd,' ag sydd newydd ddyfod i'r maes. Na laesed yr un o'r rhai hyn eu Haw ddeheu o hyn allan, ac yna bydd llwyddiant ein hwythnosolyn yn sicr o gael ei fendithio a chylchrediad eangach na'r un papyr arall drwy Gymru. Bendith ar quills bob un o honoch. Y nos Wener dan sylw, cafwyd dadl lIed frwd ar Pa un ai gwell ffurfio rheolau ac ethol swyddogion, &c., neu gadael pethau fel y maent ?' Ar ol siarad yn dda ar y ddwy ochr, cafwyd fod mwyafrif o un dros y cynygiad. Yna ethol- wyd Evan y Gweithiwr yn gadeirydd; Jim, I gwas y fferm nesaf, yn drysorydd, a Dei, gwas y Felin, yn ysgrifenydd, ac y mae Dei i anfon hanes cyflawn o'r cyfarfodydd hyn i chwi, Mr. Gol., os byddant yn dderbyniol. Y na cododd Mr. Cadeirydd oddiar y "Gist Chaff," ac fe gafwyd hwyl iawn. Yn gyntaf, dywedodd y dylai cymdeithas gael ei ffurfio yn Nghymru, a'i henw rywbeth yn debyg i hyn, Cymdeithas Amddiffynol Gweision Fferm- wyr,' am fod pob dosbarth o bobl, y mwnwyr, glowyr, nwy wneuthurwyr, &c., a'u cymdeith- asau, ac ni wyddai am ddim tebyg gan weision ffermwyr. Dynion ydym ni heb ddim son am danom, fel slaves, drive on o un pen tymor i'r llall. Cynygiodd hefyd bod diolchgarwch mwyaf gwresog i'w roddi i Arglwydd Esgob Llanelwy am iddo, yn ei safle uchel, edrych i lawr a siarad mor groew yn ngwyneb y miloedd gwrandawyr yn Llundain am danom ni weith- wyr caled a dinod. Yn hyn cytunodd pawb, a dymuniad pawb o honom yw, hir oes iddo ac iechyd i lesoli ein gwlad a'n Heglwys. Y tro nesaf, y pwnc dan sylw fydd eich llith chwi, Mr. Gol., yn y rhifyn hwn, o dan y pen- awd Gweision Ffermwyr.' Yr ydym yn methu cydweled a. rhai o'ch llinellau. Maddeu- weh i ni am gymeryd yr hyfdra hwn ar eich llith, ond ein harwyddair ni yw, I rhyda i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar.' Wedi cael mwgin bach o'r cetyn cwta, ym- wahanodd pawb, am fod ein traed yn dechreu oeri, a rhag ofn y cawn ni yr anwydwst, ar ol bod yn chwysu drwy y dydd. Gadawn ar hyn hyd nos Wener nesaf. DEI.
Cysegriad Eglwys yn Swydd…
Cysegriad Eglwys yn Swydd Lancaster. NODDWR DIYMHONIAD. Byddai yr Esgob Fraser yn hoff o adrodd hanes cysegriad eglwys a rad-roddwyd gan berchenog Gwaith Cotton, er dangos fel y gallai cyfraniad helaeth a symlrwydd chwaeth gyd- t fyned!weithiau. Dywedai yr Esgob-"Ynfuan ar ol i mi ddyfod i'r esgobaeth hon daeth i'm rhan i gysegru eglwys ardderchog a gostiasai 920,000. Disgynais yn station B- ac ar ol cerdded yn brysur am tuag ugain munyd daeth- um i olwg eglwys tua milldir ymlaen. Tarawyd fi ag edmygedd yn yr adeilad ardderchog. Gofynais i un a'm cyfarfyddai ar y ffordd, I Pa le y mae Mr. W. yn byw, y boneddwr aadeilad- asai yr eglwys ardderchog acw ?' 1 0, Ïe,' meddai y gwr, yn y ty bychan acw wrth droed y bryn.' Gan ameu nad oedd yn fy neall, aethum ymlaen, ac yn fuan cwrddais lodes ieuanc yn ei (lillad Sul, a gofynais, 'A ellwch chwi, fy ngeneth i, ddweyd i mi ymha le y mae Mr. W. yn byw, yr hwn a adeiladodd yr eglwys acw ? I Dyiia fo.' meddai yr eneth, gan gyfeirio at yr un cabandy (cottage) a ddywedasai y dyn cyntaf, a chwanegai, Yr wyf fi yn myned i'r cysegriad.' Er y cwbJ, tybiais fod yna ryw amgymeriaa, ond aethum at y drws, a churais. Daetli hen wraig blaen, ond wedi ymwisgo yn barchus, i ateb. Nis gallwn feiddio gofyn mai hwnw oedd ty Mr. W., ond gofyuais, A ellwch chwi fy ngbyfarwyddo at balab Mr. W., y boneudwr a adcilidod(I yr eglwys ardderchog yna ? 0, chwychwi ydyw'r Esgob feddyliwn ? Y mae r gwr wedi bod yn eich disgwvl er'stiDvn. Dowch ymlaen, cewch ei weled yn ygegin. 0 Aeth yr Esgob ymlaen, n, gwelai hen wr parchus yn eistedd wrth y tan yn smocio churchwarden pipe—1 Wei, chwi ddaethoch' onid do, mewn amser da ? Gwell i ni fyned at y gwaith, bydd yma damaid o rywbeth i chwi pan ddarfyddoch.' 'Gwnaethoch yn ardderchog yn y district yma/ dywedai'r Esgob, gan wasgu ei law yn garedig, gwasgodd yntau Jaw yr Esgob, gan edrych yn ddoniol end yn lied synedig. < Naddo, naddo,' meddai yr hon batriarch, myfi a greais y bobl- ogaeth drwy waith fy melinau, ac yr ydwyf yn bwriadu gwneyd fy nyledswydd tuag atynt drwy ddarparu cyfieustra iddynt i addoli.' Yn Ne- heudir Lloegr,' chwanegai'r Esgob, buasai y fath rodd a'r fath amgylchiad yn dwyn yr holl gymydogaeth i'r lie, a buasai y noddwr yn derbyn canmoliaeth ddiderfyn y cyhoedd. Yr oedd liwn yn amgylchiad newydd.' Ychwanegwn ninau, pe'r ystyriai y cyfryw ag sydd yn ereu poblogaeth mewn ardal neu blwyf, megis tirfeddianwyr yn gosod leases i adeiladu pentrefydd, neu gwmnïau yn poblogi ardal drwy weithfeydd plwm, glo, llechau, &c., pe cydna- byddai y cyfryw, medclwn, eu rhwyrnedigaeth foesol i Dduw a'i Eglwys, gwnaent hwythau yr un modd a'r Cotton Spinner hwn. ALLTUD EIFION.