Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

--NODION 1 SENEDDOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 1 SENEDDOL "i [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] TRETHIAD PEIRIANAU. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, cy- merodd dadl ddyddorol le ar ail ddarlleniad N Mesur a ddygwyd i mewn gan Mr. Winter- botbam, amcan yr hwn ydoedd rhoddi deffiniad o natur y peirianau a ddylid drethu, neu i'r gwrtliwyneb. Yr oedd y Mesur yn cynyg na fyddai i unrhyw beirianwaith, pa un bynag a fyddai ynglyn a'r adeilad neu beidio, gael ei drethu, gyda rhai eithriadau a nodid. Yr oedd y Mesur yn dal perthynas nid a'r cyflogwyr yn unig, ond a'r llafurwyr yn gyffredinol. Yr oedd y cwestiwn yn un dyrus, ac yr oedd y barnwyr yn amrywio yn eu dyfarniadau. "Eiliwyd y cynygiad gan Syr William Houlds- Worth, yr hwn a sylwodd fod y Mesur yn ym- gais deg a gonest i symud camwri gwirioneddol. Cynygiwyd gwelliant gan Mr. Heneage i'r perwyl fod y mater yn un na ddylid ymwneyd aS ef ond fel rhan o gynllun cynwysfawr o drethiant lleol. Wedi cryn ddadleu, dywedodd Mr. W. H. Long, ar ran y Llywodraeth, os gwnai y Mesur basio y byddai yn anhawdd rhoddi deffiniad cywir o'r peirianwaith oedd i fod yn ddarostyng- i daliad trethi. Yr oedd y cwestiwn yn un dyrys ac anhawdd, ac os gwnai y Mesur basio Yr ail ddarlleniad, gwnai y Llywodraeth barotoi y cyfryw welliantau a ystyriant yn angenrheid- iol. Panymranodd y Ty, gwrthodwyd y gwelliant drwy 239 o bleidleisiau yn erbyn 87, a darllen- wyd y Mesur yr ail waith yn ddiwrthwynebiad.

LLANERFYL.

BODEWRYD, MON.

MALLWYD, MEIRIONYDD.

Y GYLLIDEB.

Cenhadaeth Eglwysig y Cymry…

Llith o Lerpwl.

[No title]

Ysgol Llanover.

LLANEGWAD.

HAFOD, YSTRAD MEURIG.

CAERDYDD.

LLANDEBIE.

RHYL.

LLANLLECHID.