Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
WANTED, immediately, by a Bilingual PRIEST, a Curacy in the Diocese of St. Asaph. Musical. Highest references.-Address, Curate, Newtown, Mont. \\TANTED, a CURATE for Llanrwst; one in Priest's Order preferred.—Apply with testimonials and references to the Rector, The Canonry, St. Asaph. 8 T17 ANTED, a LAY READER, who in return for preparation for College will train choir and do Lay Work; Welsh.—Apply Vicar, Bontddu, Dolgelley. 7-9 "TXTANTED — A CURATE; good Welsh Preacher; Stipend, £ 90 with title; a £100 to a Priest.—Apply Vicar, Llan Office, Merthyr. 8 ASAPH NATIONAL SCHOOL.—Wanted, • an Ex-P.T. for the Boys' School. Salary, t36 per annum.—Apply, Rev. THOMAS LLOYD, S. Asaph. VtrANTED, a Curate, immediately good Welsh Preacher. A title can be given to a graduate.—Address, The RECTOR, Llan- deiniolen, Carnarvon. A RESPECTABLE YOUTH Wanted as Apprentice to the Bookselling and Station- ary Trades,—Apply to Messrs. FAKRANT AND PEO&T, Stationers, &c., Merthyr Tydfil. /V STUDENT learning Welsh wishes to hear "7*- from some gentleman who will receive into his house for a short time to practise ^peaking. — Address, Astudiwr," Office of Llan. WANTED immediately CURACY, or tem- porary duty by a Deacon. Considered very good bilinguist; active parochial worker; total abstainer. North Wales preferred.—Beta, Llan Office, Merthyr Tydfil. 7-9 ^JURATE WANTED.—Thorough bilinguist; yS musical; abstainer. Title might be given for next Ordination. -Apply, stating refer- ences, to the Rev. Lewis D. Jenkins, Penycae Vicarage, Ruabon. 7—9 rjURACY-IN-CHARGE, VACANT July 1st, in St. Nathaniel's Welsh Church, Wind- sor, Liverpool. Stipend, Priest, XISO. Must decidedly spiritual, Evangelical, a fluent Welsh preacher, and a diligent visitor.—Apply R. Hobson, 4, Hartington Road, Liver- pool. 7—8 WILL any benevolent person HELP a young man (who earnestly desires to enter the Church ministry) to enter College by lending him E120 for four years, at reasonable interest, on his Note of hand, and Life Policy for .£200 as collateral security ? Excellent testimonials. Address, "Churchman," Llan Office, Merthyr J-ydfil. 8—9 LWY HALL SCHOOL, RHYL.—For the Daughters of Gentlemen. Resident En- glish and foreign Mistresses and visiting Mas- Special terms for the Daughters of the ergy- This School is specially recommended the Right Rev. the Lord Bishop of the locese, and the Very Rev. the Dean. Pros- pectus on application to the Lady Principal, •^ext Term commcncing May 1st. 6—57 WELSH GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.- „ All applications for ensuing election to oundation and intermediate pay scholarships Kiust be made upon special forms, which must e returned to the Secretary, on or before April *e 1st. Foundation Scholars obtain their education And board free of all cost. Inter- mediate pay Scholars pay X16 per annum. A limited number of higher pay Scholars at 32 per annum can be admitted after Easter, he cost of Board and education is over £ 50. orms of application and full information can e obtained from the Secretary of the Welsh chool, 127, St. George's-road, London, S.W. A FORTUNE! the event of a stroke The winnings 01 good fortune you can are guaranteed by win 500,000 marks. Government. You are invited to participate in the CllANtJKS of WINNING In the Grand Drawings of Prizes guaranteed by the State of Hamburg, in which 9 Millions 553,005 Marks Surely have to be won. 11, the course of these advantageous drawings, which con- taln according to the prospectus only 100,000 tickets, the following prizes will be forthcoming, viz. The Highest Prize will be ev. 500,000 Marks. I Premium of 300,000 Marks 1 Prize of 200,000 Marks 1 Prize of 100,000 Marks 1 Prize of 75,000 Marks 1 Prize of 70,000 Marks 1 Prize of 65,000 Marks 2 Prizes of 60,000 Marks 1 Prize of 55,000 Marks 1 Prize of 50,000 Marks 1 Prize of 40,000 Marks 1 Prize of 30,000 Marks 8 Prizes of 15,000 Marks 26 Prizes of 10,000 Marks 56 Prizes of 5,000 Marks 106 Prizes of 3,000 Marks 203 Prizes of 2,000 Marks 6 Prizes ot 1,500 Marks 606 Prizes of 1,000 Marks 1060 Prizes of 500 Marks 29 Prizes of 300 Marks 120 Prizes of 200, 150 Marks 30930 Prizes of 148 Marks 17039 Prizes of 127, 100, 94, 67, 40, 20 Marks j" a'l so,*oo prizes which must be surely won in 7 urawit,gS within the space of a few months. The highest prize of 1st Class amounts to M. 50,000, ."JWease in 2nd Class to Jf. 55,000, in 3rd M. 60,000, in yi M. 65,000, in 5th M. 70,000, in 6th M. 75,000, in 7th }'• *°0,oo°, and together with the premium of 31.300,000 n the most fortunate case to M. 500,000. i Borthe First Prize-Drawing, which is officially fixed, v lhe Price is for A JJ^hole Original Ticket only 6 srt — d. or 6 Marks, V Half Original Ticket only 3 sh — d. or 3 Marks, Quarter Original Ticket only 1 sh 6d. or iA- Marks. And I will forward these original tickets guaranteed by t> ^ate (not prohibited promiscry notes) with prospectus Provided with the Arms of the 8tate even to the most «'«tnnt countries, in return for the amount forwarded P/^Paid. Every ticket holder will receive from me after the drawing the official winning list •thout any charge. 1 shall send also also in advance and gratis the glided with the Arms of the State, containing the and division of prizes in the 7 classes. eoh e payment and forwarding of the sums won to those aiirt'rnea will have my special and prompt attention, Q with the most absolute secrecy. Gap* All orders can be sent by the medium of a Post St ce Order, or pe* cheque, or in English Postage 4n'Ps, or by Postal Orders. j^foT Please address all the orders immediately, however, 30tlx of AIPIJXL ™ ^.c?°urit of the approaching drawing of the prizes in all c°ufldei)ce directly to Samuel Heckscher, Senr., Banker at HAMBURG, GERMANY.
CYFRINGELL Y GOLYGYDD
CYFRINGELL Y GOLYGYDD DEWIS WARDEN RARN YN MANGOR.—Yn YLLAN A'R DYWYSOGAETH am y 18fed o Ebrill, ym- ddangosodd paragraph yn cyfeirio at etholiad wardeniaid yn y plwyf uchod. Cwyna y Parch. W. Edwards fod yr hyn a ymddangos- odd yn berffaith anghywir, ac yn gamddarlun- iad hollol o'i ymddygiad ef yn y mater. Gan nad oes genym unrhyw amcan ond gwasan- aethu'r gwirionedd, yr ydym, gyda'r parod- rwydd mwyaf, yn cyhoeddi y ffaith uchod. Drwg genym ein bod wedi cael ein camarwain i gyhoeddi yr hyn ydoedd yn groes i'r gwir- ionedd. YSGRIFENA gohebydd o Nefyn atom yn gwrth- dystio yn erbyn adroddiad Veritas Vincet" o'r gwasanaeth conffirmasiwn a gynhaliwyd yno ychydig amser yn ol. Dywed y gohebydd o Nefyn fod ymddygiad yr ymgeiswyr ar yr achlysur yn ddefosiynol a pharchus. Gobeith- iwn fod eglurhad ein cyfaill V.V." yn Y LLAN diweddaf, ynghyd a'r llinellau uchod yn ddigonol i oilod y gwirionedd yn amlwg l'n darllenwyr can belled ag y perthyn yr adroddiad i Nefyn. CLWYDFAB.—Ymddengys hanes eich ymweliad 4 Thy Cwrdd y Brithdir yn ein hargraffiad nesaf. CYMRO.—A ydych yn foddlawn i'ch llythyr ym- ddangos uwchben eich enw priodol ? Os felly, caiff fyned i mewn. Os gwir eich ensyniadau, dylasech fod yn ddigon dewr a diofn i'w cy- hoeddi heb arfer ffugenw. Yn mhellach, y mae eich strictures yn adlcwyrchu mwy arnoch chwi eich huuan nag ar y boneddwr parchus a driniwch mor ddi-drugaredd. DAETH dau adroddiad yr wythnos hon o Ddeon- iaeth Rhos, ac yr oedd un wedi ei gysodi cyn i'r llall ddyfod i law. Eglwys a Gwladwrhteth." Hanes Capel Seion," ac ysgrifau ereill wedi dyfod i law, a chant ymddangos yr wythnos nesaf. OW- D. S.-Rhoddii- y ficienoriaeth bob amser i'r adroddiadau hyny sydd wedi eu hysgrifenu yn iyr a chynivysfatvr.
Y GYLLIDEB.
Y GYLLIDEB. GALL y wlad yn gyffredinol longyfarch Mr. GOSCHEN ar ei Gyllideb. Efe a ddygodd ei gyfrifon i mewn nos Iau, Ebrill 17eg, ac a'u gosododd gerbron y Ty mewn araith faith o yn agos i dair awr, yn drefnus, eglur, a dyddorol. Os yw Mr. GOSCHEN yn feistr ar ddim, y mae yn feistr ar achosion a chyfrifon arianol. Yr oedd y derbyniadau dros bedair miliwn o bunau yn fwy na'r treuliadain. Er mai Arglwydd SALISBURY sydd yn Brif Weinidog, ac mai Gwein- yddiaeth Geidwadol sydd mewn awdur- dod, rhydd y Gyllideb brofion amlwg fod heddwch yn ffynu, fod llwyddiant wedi dychwelyd, fod masnach wedi adfywio, fod marsiandiaeth wedi eangu, fod y prisiau wedi codi, fod y cyflogau wedi gwella, fod olwynion y gweithfeydd a'r llaw-weithfeydd yn troi yn hwylus. Mae digon o waith i'r hwn a'i ceisio, a digon o fwyd i'r hwn a lafuria am dano. Yr oedd cyllid y deyrnas, o bob ffyn- onell, am y flwyddyn ddiweddaf, yn £ 89,1304,000, a'r holl dreuliau, ymhob cyfeiriad, yn £ 86,083,000. Felly, mae gan Mr. GOSCHEN dros dair miliwn yn ei law dros ben. Mae ef wedi talu dros wyth miliwn o'r ddyled wladol. Mewn ysbaid o dair blynedd, mae ef wedi talu dros dair miliwn ar hugain o'r ddyled wladol. Y mae hyn yn fwy nag a dalwyd yn yr un ysbaid gan unryw Ganghellydd y Trysorlys a fu o'i flaen. Mae un peth ag achos i dristau o'i herwydd, hyny yw, fod y cynydd mwyaf yn nghyllid y deyrnas wedi dyfod o'r dreth sydd ar ddiodydd meddwol. Mae cyfanswm y dreth ar ddiodydd meddwol dros naw miliwn ar hugain, yr hyn sydd agos i ddwy filiwn yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Yr oedd cant a haner o filoedd o gynydd yn y dreth ar dybaco. Mae yfed gwirodydd meddwol yn myned i fyny ac i lawr, mor gywir a'r hin-wydr, gyda llwyddiant neu aflwyddiant mas- nach. Yn y llwyddyn 1876, blwyddyn 1876, blwyddyn yr huriau uchel a'r enill mawr, y bu treth y gwirodydd uchelaf o'r blaen. Trueni meddwl fod anghy- medroldeb a meddwdod yn cynyddu yn yr amserau da, ac nad ydym yn ddoethach yn awr nag oeddym bedair blynedd ar ddeg yn ol. Mae hyn yn ffaith. Yr ydym yn ei gweled o flaen ein llygaid bob wythnos. Mae Mr. GOSCHEN yn rhoddi can' mil at wasanaeth y Gwirfoddolwyr, gwyr ag sydd yn rhoddi llawer o'u hamser a'u harian hefyd i ymarfer a thrin arfau er amddiffyn ein gwlad, os bydd neb mor eofn ag ymosod arni. Cynygir fod y dreth ar y te i gael ei gostwng o chwe' cheiniog i bedair ceiniog y pwys. Bydd y te ar ol hyn ddwy geiniog y pwys yn rhatach nag ydyw yn bresenol. Oni bai fod y te yn myned drwy gynifer o ddwy- law, ac ychydig elw yn glynu wrth bob Haw, efe a awgryma y gallem gael te blasus ac adlohiadol am swllt y pwys, yn lie haner coron a thri swllt, fel yr ydym yn dalu yn awr. Telir saith swllt y can' pwys o dreth ar y currants. Y mae yn tynu hon i lawr o saith swllt i ddau swllt. Ar ol y gostyngiadau hyn, ni a gawn fwy o fara currants a the nag a gawsom erioed. Am gludo llythyri'r India ac i'r Trefed- igaethau, megis Awstralia a New Zealand, telir tua phump neu chwe' cheiniog am bob llythyr. Mae rhai dynion call yn danfon eu llythyrau i Paris, ac yn eu rhoddi yn y llythyrdy yno, am y cludir hwy i Drefedigaethau Lloegr yn rhatach o Paris nag o Lundain. 0 hyn allan, fe wnaiff stallp o ddwy a dimai y tro ar bob llythyr. Rhydd hyn foddlonrwydd i lawer sydd a chyfeillion ganddynt tuhwnt i'r moroedd. Mae'r dreth sydd ar dai anedd gwerth punt ac uchod y flwyddyn, i gael ei gostwng. O'r tu arall, mae chwe'cheiniog y galwyn yn rhagor o dreth i gael ei gosod ar bob math o wirodydd poethion. Nid yw hyn yn boddio y Gwyddel. Mae ef yn hoff o yfod whisci, a chanddo fas- nach fawr yn y whisci, yr Irish Whiskey. Nid oes gostyngiad i fod yn nhreth yr Incwm. Mae hyn yn siomedigaeth i lawer, oblegid yr ydys wedi arfer ystyried Treth yr Incwm fel treth achlysurol, ac nid fel treth arosol. Mae pwnc mawr yr Ysgolion Elfenol, ac addysg rydd a rhad, wedi ei daflu heibio am flwyddyn; nid wedi ei roddi heibio hyd yr etholiad cyff- redinol, ond hyd y flwyddyn nesaf, er mwyn cael mwy o amser i'w ystyried yn ei holl berthynasau, a thynu y cynllun yn fwy perffaith, cyn ei osod o flaen y Senedd. Rhydd Mr. GOSCHEN rybudd i bob dosbarth yn y wladwriaeth i beidio pwyso gormod ar bar had cyfnod y llwydd- iant. Gall yr olwyn droi yn ol unrhyw amser. Cyfnod o fywiogrwydd a chyfnod o farweidd-dra sydd wedi dilyn eu gilydd hyd yma, a thebyg mai felly y bydd hi hyd y diwedd.
BWRDEISDREFI ARFON A DADGYSYLLTIAD.
BWRDEISDREFI ARFON A DADGYSYLLTIAD. Weithiau, ar ol i dwrf a therfysg yr etholiad ddistewi, gallwn adolygu y frwydr yn hamddenol, a ffurfio barn bwyllog am y canlyniadau. Oddiar safon Eglwysig yr ydym ni yn edrych arnynt. Er nad oes genym ffydd ddiysgog yn yr etholiadau achlysurol yma fel hin-fynag gwleidyddol, cydnabyddwn fod iddynt eu gwerth a'u hystyr. Yn ami, dangosant gyfeiriad y gwynt; ond pwy a wyr a bery'r gwynt i chwythu o'r un cyfeiriad am hir amser ? A chymeryd y wlad yn gyffredinol, bydd llawer o ddylanwadau ar waith, ac yn cynorthwyo i droi mantol yr etholiad. Bydd y rhai hyn yn amrywio yn ol am- gylchiadau y lie, a chymeriad yr ethol- aeth. Mewn rhai lleoedd, bydd pleidlais y llwyr-ymwrthodwyr o fawr bwys, ac mewn eraill, pleidlais y Gwyddelod fydd yn cario'r dydd. Weithiau, teimlir dy- lanwad ystyriaethau masnachol ac am- aethyddol, ac nid anfynych, bydd gan gwestiynau ymherodrol lawer i'w wneyd Ag etholiad. Ond yn Mwrdeisdrefi Arfon, ail bethau ydoedd y rhai hyn a'u cyffelyb. Prif bwnc yr etholwyr ydoedd Dadgysylltiad yr Eglwys." Dyma swm a sylwedd pob araeth dyma gorph a byrdwn pob cAn dyma ben a chynffon pob anerchiad a phe tynid yr "Eglwys" allan o honynt, gallesid rhoddi y gweddill mewn pliso, ii I ;ny cneuen," chwedl Siluriad, heb ofni y buasai byth yn cyffwrdd a'r oclirau. 0 dan yr amgylchiadau, pe buasai chwarter yr hyn a ddywedwyd yn y Sen- edd am anmhoblogrwydd yr Eglwys, a chasineb y bobl tuag ati, yn wir, gwae fuasai iddi yn etholiad Arfon. Yr oedd pob peth yn eu herbyn. Onid yno y mae cartref y Parch. Evan Jones, gwr cyfar- wydd A ffaeleddau pob clerigwr a fu, y sydd, ac o bosibl, a ddaw hefyd ? Ac onid yno hefyd y preswylia y Parch. Herber Evans, y parablwr rhwydd—byth yn fwy rhydd a rhwydd na phan yn rhegu yr Eglwys ? Trodd y Parch. John Evans, Eglwys Bach, ei gefn ar ei dad Wesley y tro hwn, gan gymaint yr awydd am ddinystr yr Hen Fam. Bu Thomas Gee yno yn ud- ganu ei udgorn, er deffroi pob gwrth- ddegymwr, a galwyd Syr Wilfred Lawson i dynghedu pob yfwr dwfr i bleidleisio yn erbyn yr Eglwys. Nid yn unig yr oedd y lie yn anffafriol, ond yr oedd yr amser yn annghyfleus. Yr oedd y blaid Eglwysig, a'i galw felly am y tro, yn anmharod. Collasai ei harwr yn ddirybudd. Ac hefyd yr oedd Mesur y Degwm ger bron y Senedd, a cheisiai Mr. Stuart Rendel ac eraill ddy- chrynu'r bobt trwy brophwydo pob math o ddrygau, os byth y deuai'r mesur yn ddeddf. Aeth mor bell a dweyd na fuasai Beibl Teuluaidd y dyn tlawd yn ddiogel, os pasid ef! 0 ie, y mae pob peth yn deg mewn rhyfel, ac yn enwedig mewn rhyfel crefyddol. Ar ol hyn oil, gallesid disgwyl i'r mwyafrif gwrth-Eglwysig fod yn iooo, neu o leiaf yn 500. Buasai hyny yn rhyw gefnogaeth i Mabon i geisio atal cwrs Mesur y Degwm trwy ganu Pegi Lewis ar lawr y Senedd-dy rhoddai symbyliad i Mr. Dillwyn i wneyd ych- wanegiad arall at ei ystadegau, ac i Mr. Osborne Morgan gyfansoddi molawd newydd i orchestion a rhagoriaethau An- nghydffurfiaeth. Gosodwyd pob gewyn ar waith; yr oedd raid cael mwyafrif mawr er gwntyd haeriadau y "blaid Gymreig o barthed i Ddadgysylltiad yn gredadwy. Ond er cael pob mantais o ran amser a lie, ni chafwyd ond mwyafrif o 18. Yn ngwyneb y ffaith hon, beth am yr haeriad fod pobl Pwllheli a Chaernar- fon a Bangor a Chonwy yn unfrydol o blaid dinystrio'r Eglwys ? Onid yw. yr etholiad hwn yn profi yn eglur nad yw pawb sydd tuallan i'r Eglwys yn elynol iddi ? Ai tybed nad yw'r werin yn dech- reu sylweddoli mai nid zel dros dduwiol- deb ydyw yr unig elfen sydd yn cynhyrfu'r gweinidogion a'r pregethwyr i arfer pob ystrywiau er atal cynydd, ac os yw yn bosibl, er dinystrio'r Eglwys ? Gredwn ni fod y goleuni yn graddol wasgaru an- wybodaeth a rhagfarn y bobl, a'u bod yn dechreu barnu drostynt eu hunain ar y pwnc Eglwysig, ac ni phetruswn ddweyd fod etholiad Bwrdeisdrefi Arfon yn brawf o hyn. Pob croesaw i'r gwrth-Eglwyswyr sugno cymaint o gysur ag a allont o'u buddugoliaeth nid yw yn hollol amddifad o fel i ninau.
COFIADUR CAERFYRDDIN
COFIADUR CAERFYRDDIN PENODIAD MR. ARTHUR LEWIS. Yr ydym gyda'r-.hyfrydwch mwyaf yn cofnodi y ffaith fod Mr. Arthur Lewis, bargyfreithiwr, wedi ei benodi yn Gof- iadur Caerfyrddin, hysbysiad swyddogol am yr hyn a anfonwyd gan Mr. Matthews, yr Ysgrifenydd Cartrefol, i Mr. T. Davies, maer Caerfyrddin, ychydig ddyddiau yn ol. Daeth y swydd yn wag drwy benodiad Mr. B. Francis Williams, Q.C., yn Gofiadur cyntnf Caerdydd. Mae yn ddiangenrhaid rhoddi hanes manwl am yrfa llinach Mr. Arthur Lewis, gan, drwy ei fod yn aelod o gylchdaith Deheudir Cymru, ei fod yn adnabyddus i drigolion y Dywysogaeth. Mab ydyw i Arglwydd Esgob Llandaf, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1848. Derbyniodd ei addysg yn Ngholeg Eton a Choleg y Brifysgol, Rhydychain. Graddiodd yn 1871, ac yn fuan wedi hyny cymerodd ei M.A. Galwyd ef i'r bar yn Lincoln's Inn yn 1873. Mae teulu Lewis, Hen- llan, o ddyddiad henafol iawn, a gellir eu holrhain trwy Arglwyddi Penfro, disgyn- yddion Tywysogion Cymru. Yr oedd ei ewythr, Mr. Lewis, Henllan, yn aelod o gylchdaith Deheudir Cymru, ond ni ddi- lynodd ei alwedigaeth. Bu yn gadeirydd llys ynadon Narberth am lawer o flyn- yddoedd, a bu farw rai blynyddoedd yn ol yn weddw, a chan nad oedd ganddo blant, gadawodd ei etifeddiaeth eang, Henllan, i'w frawd, Esgob presenol Llandaf. Gwasanaethodd y diweddar Mr. Lewis y swydd o sirydd dros ei sir enedigol, fel ag y gwnaeth ei dad o'i flaen. Ymbriododd Mr. Arthur Lewis, cof- iadur newydd Caerfyrddin, a Miss Annie Wilhelmine Ellison, ac y mae ganddynt amryw blart. Pan nad oedd ond bachgen ieuanc, yn ystod ei wyliau o Eton, yr oedd yn adnabyddus iawn yn nhref henafol Narberth, lie yr oedd ei wyneb llawen, ei ymddygiad boneddig- aidd, a'i ledneisrwydd wedi enill serch- iadau yr hen a'r ieuainc. Cymerai ran flaenllaw ymhob chwareuon yn ystod ei wsliau, gan roddi i ieuenctyd y gymyd- ogaeth fantais o'r hyn oedd wedi ddysgu yn y cyfeiriad hwnw yn ysgol enwog Eton, yr hwn le yr oedd ei deulu wedi ddewis iddo i dderbyn ei addysg elfenol. Yn ddilynol, pan yr ydoedd yn myned i'r Brifysgol, ac yn talu sylw neillduol i'w astudiaeth, cadwai yn wastad mewn cof yr hen ddywediad, mens sana in corpore zano, a daeth yn fuan i sylw neillduol ymhlith chwareuwyr y Brif- ysgol. Yn ystod ei arosiad yno, ethol- I wyd ef yn un o'r "'Varsity Eight," ac yr oedd Mr. Benson, bargyfreithiwr arall perthynol i gylchdaith Deheudir Cymru, yn stroke yn yr un eweh. Enwogodd Mr. Lewis ei hun yn fawr yn y Brifysgol, a clygodd gydag ef enw adnabyddus a pharchus i gylchdaith Deheudir Cymru, lIe yr oedd ei deulu yn cael ei gyn- rychioli e'rs llawer o flynyddoedd. Niil gallai y rhai oeddynt wedi gwylio ei yrfa lwyddianus lai na chanfod ei fod wedi ei gyfaddasu i gymeryd rhan flaen- llaw ymhob peth perthynol i'r gylchdaith a ymddiriedid i'w ofal ef. Mae wedi bod yn hynod ddiwyd yn ei alwedig- aeth, yr hyn, ynghyd a'r gallu mawr a arddangosodd, a'r ddysgeidiaeth uchel a dderbyniodd, sydd wedi enill iddo sylw mawr yn y Ilys, a llwyddiant i'r rhai yr ymddangosai drostynt. Mae ei lwydd- iant anarferol yn y gylchdaith gyda phob achos fu dan ei ofal wedi bod bron yn ddiarhebol. Drwy benderfyniad, diwyd- rwydd, ac astudiaeth ddyfal, mae wedi cyraedd y safle aruchel o fod yn un o— os nad y inwyaf addawol—o'r hyn a ad- nabyddir mewn cylchoedd eyfreithiol fel leading junior, ac yn awr yn llanw y safle anrhydeddus o Dwrnai neu Gyf- reithiwr Cyffredinol yn ei gylchdaith. Y mae ei ddull o osod pob achos ger bron y llys, a'i ymddygiad anrhydeddus ynglyn a phob mater yr ymdrinia ag ef, wedi enill iddo edmygedd barnwyr, rheitliwyr, ei gyd-fargyfreithwyr, a'r eyhoedd fel eu gilydd. Nid oes braidd unrhyw gyngaws pwysig yn Neheudir Cymru, yn ystod y blynyddoedd diweddaf, nad ydyw Mr. Lewis wedi bod yn gysylltiedig ag ef, ac mor fuan ag y byddo unrhyw gyngaws pwysig yn dyfod ymlaen, dymuniad y partion yw sicrhau ei wasanaeth ef. Er yr holllwydcliant sydd wedi nod- weddu ei yrfa gyfreithiol, a'r safle uchel y mae wedi gyraedd yh ei alwedigaeth, ni ddarfu iddo erioed anghofio ei gyfeill- ion, hen a boreuol, ac y mae yn hyfryd- weh ganddo bob amser gael ei adgoffa am unrhyw ddigwyddiadau a gymerasant le yn nhymor ei ieuenctyd. I Nis gellid dewis cyfreithiwr galluocach perthynol i gylchdaith Deheudir Cymru i lanw y swydd uchod na Mr. Arthur Lewis, a gall trigolion Caerfyrddin Yffi- falchio fod ganddynt uwch eu penau yn y Brawdlys Chwarterol foneddwr yn meddu y fath urddasolrwydd, gallu, a dysg. Mae yn hynod boblogaidd ymysg ei frodyr cyfreithiol yn y gylchdaith, a chyda'r cyhoedd yn gyffredinol, tra y mae pobl Caerfyrddin yn llawenhhu yn fawr oherwydd y penodiad. Bydd y penodiad yn sicr o fod yn dderbyniol iawn gan drigolion Sir Benfro, yn enwedig yn nhref henafol Narberth a'r cymydogaeth- au, y rhai fyddant yn falch fod galluoedd Mr. Arthur Lewis yn cael eu gwerthfawr- ogi gymaint nes sicrhau iddo y safle anrhydeddus o Gofiadur Caerfyrddin. Wrth ysgrifenu y llinellau hyn am benodiad Mr. Arthur Lewis, ein dymun- iad diffuant yw y bydd iddo gael ei arbed am amser maith i lanw y swydd dan sylw. Pa fodd bynag, nis gallwn gredu y bydd yn Gofiadur Caerfyrddin yn hir, gan fod safleoedd llawer nwcb ag y gallai ef gyda'i alluoedd anghydmarol eu llanw yn anrhydeddus, a'r rhai, mewn amser, yn ddiau a gynygir iddo.
----ANFOESOLDEB LLEVN.
ANFOESOLDEB LLEVN. [GAN "VERITAS VINCET."] Bythefnos yn ol, ymddangosodd ysgrif yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yn galw sylw at yr anfoesoldeb sydd yn bodoli yn Mon. Nis gwyddem o'r blaen fod yna un ymostyn ar wyneb daear lie y mae cymaint o anfoesoldeb a Lleyn. Ond ymddengys fod Mon, mam Cymru, am ymgystadlu ag unrhyw ran o'r Dywysog- aeth yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn dda iawn genyf weled fod un yn Mon yn codi ei lais mewn condemniad llvm o'r difaterwch (ymddangosiadol beth bynag) a ddangosir gan weinidogion yr Efengyl gyda gylwg ar y mater pwysig hwn. Y mae cyffredinolrwydd y pcchod hwn yn Lleyn yn warth ar wlad yr Efengyl. Braidd nad oes un wythnos yn myned heibio heb fod o leiaf un achos o dadog- aeth plentyn anghyfrethlawn yn dyfod ger bron yr ynadon yn Mhwllheli ac y mae lie i ofni fod y pechod yn fwy cy- ffredinol o lawer nag y gellir casglu oddi- wrth yr achosion hyn sydd yn dyfod i'r golwg. Y mae wedi dyfod yn beth mor gyffredin yn Lleyn fel nad oes bellach fawr o sylw yn cael ei dalu i'r gwahanol aehosion fel y maent yn digwydd. Mae yn ddiameu fod bai yn gorwedd wrth ddrws y meistriaid, y rhai, yn lie dangos èn ffieiddiwch o'r hyn sydd yn bechod mawr yn erbyn Duw a dyn, nad ydynt yn petruso cymeryd i'w gwasanaeth rai a fuont yn euog o hono. Ond beth a ddy- wedwn ni am ddistawrwydd gweinidog- ion yr Efengyl ? A ydyw y rhai hyn yn cyflawni eu dyledswydd parthed i'r mater hwn ? Pa mor ami y clywir am danynt yn cyfodi eu llais yn erbyn pethau o'r natur yma ? Pa mor ami y darllenir y Deng Air Deddf yn eu heglwvsi ? Gwyddom am bedair neu bump o eglwysi yn Lleyn yn y rhai ni chynelir y gwas- anaeth boreuol o'r naill ben blwyddyn i'r llall. Ond, gofynwn eto, a ydyw gweini- dogion yr efengyl wedi gwneyd yr hyn a allant i ddiwreiddio y pechod hwn allan o'r tir ? Wrth gwrs, fel y crybwyllodd yr ysgrifenydd o Fon, bymthefnos yn ol, ni feiddia y gweinidogion Ymneillduol brophwydo dim ond "gwellïaeth" i'w pobl; y mae eu bara a chaws yn ymddibynu ar eu bod yn rhoddi bodd- lonrwydd i'w gwrandawyr. Ond yr ydym yn disgwyl amgenach pethau oddiwrth weinidogion yr Eglwys. Beth pe buasai i'r rhai hyn oil gydgyfarfod i gymeryd y mater mewn llaw, a phenderfynu ar ryw gydweithrediad yn anelu tuag at sathru allan o'r golwg yr arferion drygionus sydd yn ffynu ymhlith y dosbarth gweithiol ? Cofus genym i'r diweddar Ddeon Edwards, o fendigedig goffadwriaeth, ddweyd ar un achlysur fod anfoesoldeb yn fwyaf amlwg yn y parthau hyny o Gymru lie mae Ymneillduaeth yn fwyaf blodeuog. Y mae ein brodyr Ymneilldu- ol yn hawlio y rhan fwyaf o lawer o drigolion Lleyn, a Mon, a Cheredigion, ac y mae yn wybyddus i bawb mai yn y parthau hyn y mae anfoesoldeb yn uchaf ei ben. Pa ryfedd ? Clywsom am un blaenor yn ceisio hudo morwyn i ddyfod i'r capel yn lie myned i'r Eglwys, gan fod gwell cyffeusderau iddi yno i gael cariad."
Eithafion.
Eithafion. GAN "CRAFFYDD." YR ydym, yn ddiweddar, wedi craffu ar eithafion cymdeithas, y gwyr bach a'r gwyr mawr, y gwehilion a'r boneddigion, yn eu moesoldeb. 0 flaen y trengholydd llys yr ynadon yn Merthyr Tydfil, fe dyn- wyd o'r neilldu leni y nos, ac fe ddaeth pethau rhyfedd i'r golwg. Dyna David John wedi ei lofruddio, a David Harris wedi ei ddanfon i garchar i sefyll ei brawf. Heb son am y llofruddiaeth, rhoddwyd i ni drem ar yr hyn a gymer le yn y tafarndy, ar lan y camlas, ac wrth yr odynau glo y meddwi, yr ymladd, yr aflendid, y benywod a'r gwrywod yn gymysg, dryphlith-draphlith, a hyn yn ymyl ein drysau, dan gysgod ein heglwysi, ein capeli, ein Hysgolion Sul, ac o hyd clyw i'n heddgeidwaid, yn Nghymru, yn Merthyr. Dyna un eithafion, a ni a ddywedwn, gwehilion cymdeithas yw y rhai hyn y maent i'w cael yn mhob tref. Beth a ellir ddysgwyl yn amgenach ? Yn y Queen's Bench, o flaen y Barnwr Denman, wele y lien yn cael ei throi o'r naill ochr, a dangosir i ni yr hyn a gymer le yn mhlith yr hyn a eIwir high life. Mae Syr George Elliot ar ei brawf am dori addewid priodas ag- un chwareu yddes o'r enw Miss Hairs, benyw lan, dalentog, gyfrwys. Nid yn ei pherthynas a Syr George, yr aelod Seneddol, yn unig, ond yn ei pherthynas a llawer eraill, fe ddaeth yn amlwg nad yw'r gwyr mawr yn y dinasoedd mawr, Paris a Berlin, nemawr gwell eu moesau na gwehilion Merthyr Tydfil. Beth y mae yr enwadau crefyddol yn ei wneuthur ? Defnyddio eu dysg, arfer eu dawn, treulio eu hamser, gwario eu nerth mewn ceisio gwanhau, darostwng, a difa eu gilydd.
[No title]
Y mae yna 250,000 o dirfeddianwyr yn yr Unol Dalaetbau. Yn Holland gwisga dynion eu hetiau yn yr eglwys. Cynwysa Llundain yn agos gymaint arall o bobl a Switzerland. Un o'r dyfeisiadau diweddaf ydyw ysgrifoin gwydr. Dywedir yn ddifrifol nad yw Arglwydd Randolph Churchill erioed wedi croesi Pont Llundain, use wedi ymweied a'r Tv r.
! POWIS EXHIBITION.
POWIS EXHIBITION. One exhibition of the value of £ 60 for four years, tenable at either of the Universities of Oxford or Cambridge, wiil be filled up in Sep- tember. Candidates are requested to send their names, addresses, certificates of baptism, and testimonials on or before the 1st of August, to C. Shaw, Esq., care of Messrs. Park, Nelson, Mor- gan, andGemmell, 11,Essex-street, Strand.W.C. The candidates will be examined by Mr. W. E. Heilland, M.A., tutor of St. John's College, Cambridge, and Professor G. Hartwell Jonep. M.A., University College, Cardiff, on September 16th, and the following days, at King Edward's School, Birmingham.
LLYFRGELLOEDD CLERIGOL Y DR.…
LLYFRGELLOEDD CLERIGOL Y DR. BRAY. CANGEN DOWLAIS. RHESTR O'R LLYFRAU Y RHODDIR EU BENTHYG. Bishop Wordsworth's Commentary on the Old Testament I Vol. I." „ 2 Vol. II." „ 3 Vol. III. 4 Vol. IV. „ 5 Vol. V. 6 Vol. VI. „ 7 Dr. Pusey on the Minor Prophets. 8 Dr. Pusey Real Presence as taught by the Fathers. 9 Dr. Pusey Real Presence The Doctrine of the English Church. 10 Dr. Pusey, on Daniel the Prophet. 11 Vol. I. Muller's Chips from a German Work- shop. 12 Vol. 11. 13 Vol. m." 14 Vol. IV. 15 Vol. 1. Tucker's Life of Bishop Sslwyn. 16 Vol. 11. 11 1, 17 Tucker's Life of Bishop Field. 18 Vol. I. Perowne on the Psalms. 19 Vol. II. Do. do. 20 Blunt's Annotated Common Prayer. 21 Westcott's Canon of the New Testament. 22 „ Bible in the Church. 23 „ Gospel Miracles. 24 Gospel of the Resurrection. 25 Vol. I. Lightfoot on some of the Epistle, of St. Paul. 26 Vol. II." 27 Vol. III. 28 French on Synonyms. 29 Liddon on the Divinity of our Lord. 30 Keble's Letters on Spiritual Counsel. 31 Vol. I., Neale's History of the Eastern Church. 32 Vol. II. 33 Vol. Ill. 34 Vol. IV. 85 Vol. V. 38 Mozley on Miracles. 37 Bishop Forbes on the Nicene Creed. 38 Wilberforce's History of the American Church. 39 How, on the Four Gospels. 40 Commentary on the Acts, Epistles, and Revelations. 41 The Works of George Herbert, in Prose and Verse.
FFEIRIAU Y BALA AM 1890.
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. MERCHER Mai 14 MAWRTH Mehefin 3 IATJ Gorplienaf 10 LLUN Awst 11 IAU Medi 11 SADWRN.Medi 27 GWENER Hydref 24 SADWRN Tachwedd 8 GWENER Rhagfyr 19
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. GWRECSAM, DYDD IAU. — Gwenith, 4s gc i 5s oc am 75 pwys haidd, 5s 6c i 5s 9c ceirch, 3s oc i 3s gc; ymenyn, is 3c i is 5c am 16 wns wyau, 16 i 18 am swllt ieir, 4s oc i os y cwpl hwyaid, 4s oc i os oc y cwpl; pytatws. IS gc am 120 pwys cig eidion, Bc i ice v pwys cig myharen, 7c i 9c y pwys pore, 6c y pwys cig oen, is 3c i is 6c y pwys cig 110, gc y ywys. CREWE, DVDD LLUN-Cilp eidion, 6c t, i 7c y pwys cig moch, 9s 3c am 20 pwys; heffrod, £14 i ^23 yr un cig myharen, gc i ice y pwys. LERPWL, DYDD LLUN.-Cig eidion goreu, 7^c y pwys; ail or.eu, 6c trydydd, 5c y pwys cig myharen goreu, 9 c ail, 8c. trydydd, 6c y pwys cig oen, is i 2 is 2c y pwys. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER. —Gwenith gwyn, 4s ice i 5s oc am 75 pwys melyn, 4s 8c i 4s ice am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s oc am 70 pwys; haidd at falu 4s oc i 4s 3c am 70 pwys; ceirch, 135 oc i 16s ocam225 pwys; ymenyn, is 2c i is 3c ypwys; wyau, 15 i 17 am swllt; cig eidion, 6^c i 7c y pwys cig myharen, 8c i 9I7C y pwys cig llo, 8c i gc y pwys pore, 5c i I 5c y pwys. SALFORD, DYDD MAWRTH.-Cig eid- 21 ion, 6c i 7c pwys cig myharen, gici 2 ioJjrC y PwYs cig llo, 7c i 9c y pwys cig moch goreu, 8s 2C ail oreu, 7s 6c i 7s 10 trydydd, 6s ic i 7s oc am 20 pwys. WYDDGRUG, DYDD MERCHER. — Gwenith melyn, 10s oc i 10s 6c yr hobed haidd, 10s oc i I is oc yr hobed; ceirch, 6s 6c i 7s 6c yr hobed pytatws, 4s oc i 4s 6c yr hobed ymenyn, is 4c i is 5c y pwys wyau, 14 am I S. ELLESMERE, DYDD MAWRTH. — Gwenith gwyn, 4s 7c i 4s 8c am 75 pwys melyn, 4s 6c i 4s 7c am 75 pwys haidd, 4s 6c i 5s 6c; ceirch, 2S 6c i 3s oc wyau, 13 i 15 am is; ymenyn, is 4C i 1:3 5C am 16 wns ieir, 4s 6c i 5s 6c y cwpl. WHITCHURCH, DYDD GWF.NER.— Gwenith, 4s 4c i 4s 9c am 75 pwys haidd, 4s 8c i 5s 6c am 70 pwys wyau, 13 i 15 am swllt; ymenyn, is 2C i is 4c am 16 wns ieir, 4S i 5s y cwpl hwyaid, 6s 6c i. 78 y cwpl; ceirch, 2S 9c i 3s 4c am 50 pwys.
Y FASNACH HAIARN.
Y FASNACH HAIARN. WOLVERHAMPTON.—Cylchau, £ 8 5s lllieiniau unigol, ;tcg ios dwbl, £ 10; laftens, ^11 barau dur, £858 blowers, £ 7 58.
[No title]
Na adewch byth i'ch gwroldeb yinr-ntyn ei linn iffyrnigrwydd, eich penderfynolrwyddi ystyfnig- rwydd, cich doethineb i gyfrwysder, eich amvn- edd i bendrymder.