Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
30 erthygl ar y dudalen hon
TAFARNDAI CYMRU.
TAFARNDAI CYMRU. Yr ydys newydd gyhoeddi nifer y tai trwyddedol i bob mil o'r boblogaeth yn Neheudir Cymru. Ymddengys fod pum' tafarndy i bob mil o bersonau. +
MARWOLAETH MILIWNWR.
MARWOLAETH MILIWNWR. Bu Mr. Edward Bolitho, Penzance, tad Mr. T. B. Bolitho, A.S., farw nos Iau, Ebrill y 24ain, yn 85 mlwydd oed. Dy- Wedir fod cyfoeth y trancedig dros filiwn o bunau.
YMGROGIAD YN SIR BENFRO.
YMGROGIAD YN SIR BENFRO. Ychydig ddyddiau yn ol, pan ar ym- Weliad a'i chwaer, Mrs. Davies, Goat Street, Trefdraeth, Sir Benfro, cyflawnodd Y Cadben David Salmon, Abertawe, hunan-laddiad drwy ymgrogi. Yr oedd er's amser yn gwaelu o ran ei iechyd.
BU FARW YN Y GADAIR.
BU FARW YN Y GADAIR. Wythnos yn ol, bu farw yn dra sydyn briod Mr. Thomas Jones, Union Building, Llanelli. Am ei bod yn teimlo yn an- hwylus, cododd Mrs. Jones o'r gwely ac eisteddodd mewn cadair, yn yr hon y bu farw mewn ychydig eiliadau.
GWAITH I 200 0 LOWYR.
GWAITH I 200 0 LOWYR. Y mae gwythien y Daran Ddu wedi cael ei tharo yn Nglanynant, ger Ynysbwl, gan y Meistri Taylor a Coles. Gwythien o lo ardderchog ydyw. Buwyd dros bum' ttilynedd yn dyfod o hyd iddi. Credir y bydd yno waith yn fuan i tua dau gant 0 lowyr.
♦—, MARWOLAETH SYR EVAN MORRIS.
♦— MARWOLAETH SYR EVAN MORRIS. Yn y Grand Hotel, Eastbourne, y dydd o r blaen, bu farw Syr Evan Morris, yr hwn 'a anrhydeddwyd a'r gradd o farchog gan y Frenhines yn ystod ei harosiad yn Palè, Gogledd Cymru. Yr oedd yn enwog yn ei gysylltiad a rheilffyrdd y Gogledd, ac yn Geidwadwr zelog.
ETIFEDDIAETH I LABRWR.
ETIFEDDIAETH I LABRWR. Y mae dyn o'r enw Arthur Knox Malony wedi dyfod i feddiant o etifedd- laeth fawr yn County Clare, Iwerddon, fel P^ab hynaf y diweddar Mr. Henry Gonne Malony. Bu y mab hwn ar goll i'r teulu flynyddoedd lawer. Yr oedd wedi bod yn forwr, yn aur-gloddiwr, ac yn labrwr yn New Zealand.
STREIC YN NHREDEGAR.
STREIC YN NHREDEGAR. Yr wythnos ddiweddaf, darfu i oddeutu PUm' cant o ddynion a bechgyn a weith- lelit yn nglofeydd Pochin, Tredegar, Sefyll allan yn erbyn talu y chwe' cheiniog wythnosol a ofynir am eu cludo rhwng Tredegar a'r glofeydd, ar reilffordd Y North Western, sef pellder o ddwy fill- dir a haner.
AGERFAD 0 GASNEWYDD WEDI SUDDO.
AGERFAD 0 GASNEWYDD WEDI SUDDO. Cyrhaeddodd y newydd i Gaerdydd, ddydd lau, fod yr agerfad Rob Roy," Perthynol i Mr. Thomas Gibson, Cas- ^ewydd, wedi suddo foreu dydd Mercher milldir i'r dwyrain o Barry. Glan- lodd y criw yn ddiogel yn Barry, ond collwyd y llestr yn gyfangitbl.
DEDDF CAU Y TAFARNAU.
DEDDF CAU Y TAFARNAU. Ymddengys fod gan Mr. John Roberts, A.S., awdwr Deddf Cau y Tafarnau ar y SuI yn Nghymru, welliantau yn barod i'w dwyn o flaen y Senedd. Cynwysant awgrymiadau y ddirprwyaeth ddiweddar y pwnc, er cadarnb.au y ddeddf. Pan ddaw yr adeg gyfleus, bwriada Mr. Roberts ddwyn y cyfryw o flaen y Senedd.
BONEDDIGION HYNAF Y DDAEAR.
BONEDDIGION HYNAF Y DDAEAR. Ynglyn a'r bobl bychain y daeth Mr. Stanley i gylfyrddiad a hwynt yn nghoed- Mgoedd Aflrica, dywed mai hwynt-hwy ydynt y boneddigion hynaf ar y ddaear. Geill broil fod eu hynafiaid yn bodoli er's haner cant o ganrifoedd. Mae eu lliw yn Y^i'dd, a hwythau yn hynod ddeallus a ^oeth. Gweithwyr haiarn ydynt, ac y Illae eu saethau yn hynod o gywrain. Y ^ae ganddynt frenhines, menyw fechan cldoeth, yr hon sydd yn gyfeillgar iawn bob amser a'r dyn gwyn. Dywedir y bYdcl hanes manwl am dani hi a'i phobl yn llyfr Mr. Stanley. Yr oedd efe wedi amcanu ei dwyn i Ewrop, ond aeth yn 'Yael iawn ei hiechyd ar y ifordd, tra y bu farw yr oil o'i phobl y ceisiwyd eu dwyn gyda hi, yn fuan wedi gadael eu gwlad. Y mae eu darluniau, fodd bynag, wedi eu cymeryd. Ychwanega'r Dr. Parke fod y bobl byrion hyn yn genedl foesol a rhinweddol.
MILWR ANIFEILAIDD.
MILWR ANIFEILAIDD. Yr wythnos ddiweddaf, cariwyd ymaith eneth Gristionogol o bentref Panasco, yn ardal Kitnura, gan nifer o filwyr Tyrcaidd, y rhai a'i rhoddasant hi drosodd i'w llywydd, yr hwn a'i treisiodd. Y mae Chakir Pasha wedi rhoddi gor- chymyn i garcharu y swyddog anifeil- aidd, ac i wneyd ymchwiliad i'r mater. —-——♦-
TAN A CHOLLIAD BYWYDAU.
TAN A CHOLLIAD BYWYDAU. Yn gynar foreu dydd Iau, Ebrill y 24ain, torodd tan allan yn Melinau Sidan Unicorn, Catasanqua, Pennsylvania, America, a dinystriodd yr holl adeiladau. Yr oedd y melinau hyn gyda'r rhai mwyaf yn yr arclal. Wrth geisio gorchfygu yr elfen andwyol, collodd wyth o'r tan- ddiff oddwyr eu bywydau. Y mae y golled arianol yn 150,000 o ddoleri.
BLWYDD-DAL I CLWYDFARDD.
BLWYDD-DAL I CLWYDFARDD. Hysbysir fod yr Archdderwydd Clwyd- fardd i dderbyn pensiwn o £ 50 y llwycld- yn o'r Royal Bounty Fund," mewn cydnabyddiaeth am ei ymdrechion llen- yddol i'w genedl. Fe gofia ein darllen- wyr i ni hysbysu yehydig amser yn ol i'r hen wr patriarchaidd dderbyn t200 o'r un drysorfa. Gobeithiwn y ca fyw yn hir i fwynhau yr elusengarwch li-aeddianol hwn.
BODDIAD YN MERTHYR.
BODDIAD YN MERTHYR. Yehydig ddyddiau yn ol, yn Merthyr Tydfil, syrthiodd Mrs. Elizabeth Jones, 71 mlwydd oed, Tredegar, i'r gamlas yn agos i Jackson's Bridge. Neidiodd dau ddyn i mewn ar ei hoi, a llwyddasant i'w dwyn allan yn dra buan ond er pob ymdrech i'w dwyn ati ei hun, bu yr oil yn ofer. Yr oedd yn hen wraig gyfrifol, ac yn fam i Mrs. Sweet, butcher, Victoria Street, Merthyr.
MARWOLAETH MAER CYDWELI.
MARWOLAETH MAER CYDWELI. Foreu dydd Ian, Ebrill y 24ain, bu Mr. Thomas Griffiths, maer Cydweli, farw yn ei breswylfod, Henblas, Cydweli, yn 50 mlwydd oed. Dechreuodd pan yn ieuanc iawn i fasnachu fel draper, a bu yn dra llwyddianus. Ymneillduodd oddiwrth y fasnach tua saith mlynedd yn ol. Cy- merai ddyddordeb mawr yn helyntion yr ardal, a pherchid ef gan bawb. Gadawodd ar ei ol weddw, un mab, a thair merch.
SYR GEORGE ELLIOT A'I SEDD.
SYR GEORGE ELLIOT A'I SEDD. Mewn canlyniad i'r cyngaws a ddygwyd yn ddiweddar yn erbyn Syr George Elliot, yr aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Mynwy, meddylid y byddai iddo roddi ei sedd i fyny, ond ymddengys nad yw Syr George yn bwriadu gwneyd y fath beth. Y mae rhai o'r Radicaliaid yn son am gynal cyfarfod o'r etholwyr gyda golwg ar alw ar yr aelod anrhydeddus i osod ei hun yn nwylaw y rhai a gynrychiolir ganddo. —
FFOI DRWY Y FFENESTR. --
FFOI DRWY Y FFENESTR. Cymerwyd un 1. Fox, Cwmafon, o flaen ynadon Castellnedd, y dydd o'r blaen, am dori i dy Isaac Evans, Miner's Row, Cwmafon. Dywedodd y ferch iddi, pan y deffrodd yn y boreu, weled y car- charor yn y gwely o'r tu ol iddi hi a'i mam a phan yr ysgrechodd, iddoneidio allan drwy y ffenestr. Dywedodd y Cadnaw" nad oedd efe yn cofio dim am yr helynt, am ei fod wedi yfed yn drwm.
TANCHWA GLOFA'R MORFA.
TANCHWA GLOFA'R MORFA. rYr wythnos ddiweddaf, yn Aberafon, cynhaliodd Mr. Howel Cuthbertson, trengholydd y dosbarth, reith-chwiliad i'r amgylchiadau ynglyn a marwolaethau 87 o lowyr yn Nglofa y Morfa, a dychwel- odd y rheithwyr y ddedfryd ganlynol "1. Mai yr hyn a achosodd eu marwol- aethau ydoedd y tagnwy (afterdamp) a'r llosgiadau a achoswyd gan y ffrwydriad. 11 2. Fod yna debygolrwydd cryf oddi- wrth y tystiolaethau i'r ffrwydriad gymer- yd lie yn ffas (face) Rhif 8.7. "3. Yr ydym o'r farn i'r ffrwydriad gael ei acliosi gan saethiad ergyd (shot-firing), ac yr ydym yn mhellach o'r farn fod yr ergyd-saethiad yn cael ei gario ymlaen-yn unol a rheolau Deddf Rheoleiddiad y Mwngloddiau. "4. Yr ydym o'r farn i'r ffrwydriad ddigwydd drwy achosion damweiniol." Cymeradwyodd y rheithwyr fod y tan- wyr, bob tro a phob man y gwelant nwy, i wneyd nodiad o hyny. Yn y rheith-chwiliad ynglyn a. chorff Brownsell, cafodd y rheithwyr ei fod wedi marw oddiwrth y tagnwy yn ei ymdrech wrol i achub bywydau y dynion yn Mhwll y Morfa.
CARCHARU GOLYGYDD GWYDDELIG.
CARCHARU GOLYGYDD GWYDDELIG. Yn Boyle, ddydd Gwener diweddaf, dedfrydwyd Mr. Jasper Tulley, golygydd y Roscommon Herald, i chwe' mis o gar- chariad gyda llafur caled, gan yr ynadon lleol, ar y cyhuddiad ei fod wedi cyfeirio sylw y cyhoedd at geisbwl o'r enw Jones, yr hwn a gymerodd fferm a gymerasid oddiwrth un arall, ac at ymddygiad ad- eiladydd o'r enw Kingston, yr hwn, fe ddywedwyd, a gynorthwyodd Jones.
BODDIAD YN MHENYBONT.
BODDIAD YN MHENYBONT. Oddeutu un o'r gloch, ddydd Gwener diweddaf, cafwyd Mrs. Murrell, gweddw y diweddar Mr. Murrell, garddwr, Peny- bont, yr hwn oedd yn byw ar ei arian, wedi boddi yn yr afon Ogmore, gerllaw Bridge Fields, yn agos i'r dref. Gwelwyd y drancedig yn myned o'r ty tua naw o'r gloch yn y boreu i gyfeiriad y caeau, ardal a fynychir yn fawr oherwydd y rhodfeydd pleserus sydd yno. Yr oedd Mrs. Murrell, yr hon a berchid yn fawr, yn 70 mlwydd oed. -♦
POBL BRYCHEULYD. O _____
POBL BRYCHEULYD. O Oddiwrth nodyn a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill o weithrediadau y Royal Geographical Society," ceir fod llwyth cyfan o ddynion brycheulyd (spotted) mewn lie neillduol ar lanau yr afon Purus, yn America Ddeheuol. Y mae yr hys- bysiad hwn i'w gael yn y papyr a ddar- llenwyd gan y Dr. Crenreich ar hanes ei daith i fyny lanau yr afon Purus. Dywed fod y bobl yn byw ar neu yn agos i'r afon, ac mai eu hynodrwydd mwyaf ydyw fod eu crwyn yn orchuddiedig gan frychau gwynion a duon. — —
ETHOLAETH CHRISTCHURCH.
ETHOLAETH CHRISTCHURCH. Y mae Mr. Alfred Davies, aelod o Gyngor Sirol Llundain, wedi bod yn anerch yr etholwyr yn Christehurcli. Rhoddwyd cais unfrydol iddo i ddyfod yn ymgeisydd Rhyddfrydol, ac y mae yntau wedi cydsynio a hyny. Y mae Mr. Baring, yr aelod presenol, wedi pender- fynu peidio ymgeisio yn yr etholiad nesaf. Yr Anrhydeddus Humphrey Stuart a ddewiswyd yn ymgeisydd Ceidwadol.
TERFYSG ARSWYDUS YN GALICIA.
TERFYSG ARSWYDUS YN GALICIA. Pellebryn o Vienna, dyddiedig Ebrill y 24ain, a gluda'r newydd drwg fod terfysg difrifol wedi cymeryd lie ar y noson flaenorol yn Biala, yn nghymydogaeth Cracow. Goresgynwyd y dref gan der- fysglu o tua phedair mil o fwnwyr, y rhai a ddrylliasant ac a anrheithiasant dai a siopau y trigolion Iuddewig. Galwyd allan y milwyr, y rhai, yn yr ymladdfa ffyrnig a ddilynodd, a laddasant un-ar- ddeg o'r terfysgwyr, ac a glwyfasant amryw eraill.
ARTH YN Y "GORLAN."
ARTH YN Y "GORLAN." Tra y cynhelid gwasanaeth crefyddol y Sul o'r blaen mewn capel a saif rhwng Barnes a Mortlake, dychrynwyd y gynull- eidfa bron i lewyg wrth weled arth tra annymunol yr olwg yn dyfod i fewn i'r capel. Gan na ddaeth neb ymlaen igynyg set" i'r un dieithr," aeth y creadur rag ei flaen yn araf a didwrw i eisteddle a wacawyd yn sydyn, a gorweddodd i lawr yn llonydd. Diflanodd y rhan fwyaf o'r praidd o'r gorlan," a rhedodd rhai o'r defaid benywaidd i ben y pwlpud, lie yr oedd y "bugail" yn ceisio tawelu y cythrwfl. Gwnaeth y perchenog ei ym- ddangosiad yn fuan, ac aeth a'r creadur allan yn dawel. Yr oedd yr arth wedi tori allan o ystabl perthynol i dafarn cyfagos.
GORSEDD Y BEIRDD. 1
GORSEDD Y BEIRDD. 1 ARHOLIADAU AM URDDAU YN EISTEDD- FOD BANGOR. Am Urdd Bardd, arholir gan Hwfa Mon, Dyfed, a Berw, yn Awdl Berw ar "Y Frenhines Victoria;" Arwrgerdd Cadvan ar John Penry;" Prycldest Glanirrwd ar Y Gymraeg (Gweler cyfansoddiadau Eisteddfod Llundain, 1817) a Gweithiau Barddonol Goronwy Owen. Am Urdd Ofydd, bydd Elis Wyn o Wyrfai, Cadvan, a D. Adams, yn arholi yn Ngramadeg Cymraeg Dewi Mon, ac ysgrifau Elfed yn Y Oeninen ar Fardd- oniaeth Gymreig Hanesyddol a Beirn- iadol." Ymddengys pob manylion am le ac amser yr Arholiadau yn Nhrefnlen ddyddiol yr Eisteddfod. D.S.—Y mae'r Orsedd yn unfrydol wedi cymeradwyo penderfyniad i beidio rhoi Urdd Bardd nac ychwaith Urdd Ofydd (oddigerth Urdd Anrhydeddus) i neb, o hyn allan, oni fyddo wedi myned drwy yr arholiad yn llwyddianus.
Family Notices
MARWOLAETHAU. GOGLEDD CYMRU. Davies.—Ebrill 16, yn Nghilceraint, ger Bangor, yn 60 mlwydd oed, Mr. Hugh Davies. Evans.—Ebrill 11, yn 61 mlwydd oed, Mary, priod Mr. Edward Evans, Peny- bryn, Colwyn. Frazer.—Ebrill 17, yn 50 mlwydd oed, priod y Parch. S. A. Frazer, Rhoscolyn, Mon. Hughes.—Ebrill 17, priod Mr. Edward Hughes, Bradford House, Llangefni. Jones.—Ebrill 8, yn 87 mlwydd oed, Mr. William Jones, 23, Baptist Street, Caergybi. Jones.—Ebrill 18, yn 46, Rupert Lane, Everton, yn 63 mlwydd oed, Mr. Edward Jones, yr hwn a fu yn was ffyddlon yn y Manchester and Liverpool District Bank. Jones.—Ebrill 15, yn Rhewl, ger Rhuth- yn, Mr. John Jones, gorsaf-feistr. Jones.—Ebrill 14, ar fwrdd yr agerlong "Clan Matherson," y Parch. Thomas Jerman Jones, cenhadwr yn Shillong, Khasia Hills, India, ar ei ffordd gartref o'r wlad hono. Minshall.—Ebrill 17, yn 81 mlwydd oed, Mr. Thomas Minshall, cyfreithiwr, Croesoswallt. Owens.—Ebrill 6, yn 5D mlwydd oed, priod Mr. Owen Owens, Ty'n-y-morfa, Llanfaelog. Ebrill 17, yn 74, Northum- berland Terrace, Lerpwl, y Parch. William Roberts. Roberts.—Ebrill 20, yn 58 mlwydd oed, Mr. Robert Roberts, o fasnachdy y Meistri Roberts ac Owen, oriadurwyr, Stryd Llyn, Caernarfon.
AMERICA.
AMERICA. Christmas.—Mawrth 1, yn 81 mlwydd oed, Mr. Henry D. Christmas, un o ddinas- yddion hynaf a mwyaf parchus Provi- dence, Scranton, Pennsylvania. Ganwyd ef yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Aeth i America yn 1848. Yn mhen tua dwy flynedd, canlynodd Mrs. Christmas ef gyda'i phedwar plentyn—dau fachgen a dwy ferch. Ni fu y teulu yno yn hir cyn colli y ddwy ferch drwy angeu. Y ddau fachgen ydynt David H. a Walter B. Christmas, dinasyddion parchus yn Pro- vidence. Ganwyd i'r ymadawedig ar ol hyny bedair o ferched, y rhai sydd erbyn hyn wedi priodi, ac yn gwneuthur yn dda iawn. Claddwyd yr hen wr yn nghladdfa Forest Hill. Davies.-Mawrth 1, yn Cliff Top, West Virginia, Mr. J. G. Davies, yn 49 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Milford, Sir Benfro. Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru ar ei ol, dau o ba rai sydd o'i wraig gyntaf, yr hynaf mewn oedran gwr, a'r llall yn 18 mlwydd oed. Hoskins.—Chwefror 23, Mr. Menry Hoskins, yn 55 mlwydd oed. Ganwyd ef yn y Maesteg, Sir Forganwg. Priod- odd ag un o'r enw Martha Harris, yn y Maesteg. Ar ol eu priodas, aethant i America, a gwnaethant eu cartref yn Hubbard, Ohio, lie y buont yn byw am bedair blynedd ar ddeg. Oddiyno sy- mudasant i Youngstown, lie y terfynodd ef ei einioes ddefnyddiol. Bu ef a'i briod yn cydfyw am 36 o flynyddau. Ganwyd iddynt wyth o blant, chwech o ba rai sydd yn fyw, sef tri mab a thair mereh. Mason.—Chwefror 11, yn St. Clair, Swydd Schuylkill, Pennsylvania, Mrs. Mary Mason, yn 83 mlwydd oed. Gan- wyd hi yn Nhref Eglwys, Maldwyn. Ymunodd mewn priodas a. Mr. Thomas Mason, ac ymfudasant i America yn 1836 gyda chwech o blant. Rhoddodd Mrs. Mason enedigaeth i un-ar-ddeg o blant ar pi hyny.
[No title]
Dyddia Bradsliaw y rheilffordd gyntaf o 1841. Ni raid i'r rhai sydd yn onest a difrifol yn eu gonestrwydd gyhoeddi y ffaith. Gall y wenol ehedeg oddeutu chwe' cliant o filldiroedd y dydd. Y mae "dyfod o liyd" i ddyn mewn cwinpeini drwg yn gyfystyr a bod yn "golledig." Nid oes dim yn edrych yn fwy tebyg i ddyn o synwyr na ffwl sydd yn dal ei dafod. Y mae yn America 200,000 0 lais-gludyddion (telephones), rhagor na gweddill y byd gyda'u pilydd. Tybier eich bod yn awyddus i gerdded drwy holl heolydd Llundain, a'ch bod yn alluog i I drefnu eich taith yn y fath fodd, fel na clierdd- ech yr un heol eilwaitb, byddai raid i chwi gerdded deng milldir bob dydd am naw mlyn- edd cyn y byddai eich taith yn cael ei chwblhau.
Advertising
MUSICAL. MR. M. W. GRIFFITHS, Mus. Bac., Organ- ist and Choirmaster of the Parish Church, Dolgelley, North Wales, gives LESSONS C, through Post in Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, &c.; and prepares for Musical Examinations. MSS. Corrected and Revised. Terms very Moderate. AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS. DADL DOLWYDDELEN. "Hela, y Parch. Evan Jones, Carnarvon. GAN y Parch. R. Williams, B.A., Rheithor Dolwyddelen. Pris Ceiniog. I'w gael yn Swyddfa R. Isaac Jones (" Alltud Eifion "), Tremadog. Anfonir 50, post free, ar dderbyn- iad 4s. Established 1884. Patronized by the Clergy and Nobility. (IIr BEACONSFIELD HOUSE, BALA. THOMAS THOMAS, TAILOR AND DRAPER, Lady's Jacket Maker. Agent for JOHN SMITH, Royal Art Dyer and Cleaner to H.M. the Queen and T.R.H. the Prince and Princess of Wales. The HAUL, CYFAILL EGLWYSIG, Y LLAX A'R DYWYSOGAETH, and other Church Monthly Magazines supplied. THE ORPHANAGE OF MERCY, Randolph Gardens, Kilburn, London, N.W., Receives Destitute Orphan Girls from all parts of the United Kingdom, free of charge. I THIS Institution has been founded for the express purpose of befriending children of the labouring class. V.15 It has already been a comfort to many dying parents to have the promise of admission into this home for their little ones, whom they can themselves no longer protect. 15 In such eases the recommendation of a Clergyman alone is necessary. Ily As the Orphanage is entirely supported by voluntary contributions, funds are earnestly solicited. Applications for Forms of Admission, and all Subscriptions and Donations, should be sent to MISS FRANCES ASH DOWN, 27, KILBURN PARK ROAD, LONDON, N.W. O. GOLDSMITH, PIAJSTO FORTE AND ORGAN DEALER. Sole Agent for Merthyr for the celebrated COMPETITION PIANO, With Iron Frame, full Trichord, and all recent Improvements. CASH PEICE 27 GUINEAS. Splendid Value. Sample always on View. 10 50, Pontmorlais, Merthyr. The Bishop of Llnndaff writes: I have just read your Popular Story of the Church in v\ ales,' and think it a valuable and very seasonable addition to Church Defence literature, and that it would help to strengthen our hands very much if the Clergy (especially in Wales) would make an effort to get it widely cir- culated in their parishes." The Bishop of St. Asaph writes" I have read it with much interest. It seems to me in every way calculated to do good by distributing valuable informa- tion throughout the country." A POPULAR STORY OP THE CHURCH IN WALES, Shewing its Birth, its Progress, and its Work in the Principality. A Sketch for English Readers, in three Chapters. I.-ITS PAST HISTORY. IL-ITS PRESENT WORK. III.-THE AGITATION FOR ITS DISESTABLISHMENT. By G. H. F. NYE. P RIOE -<F!P x M.ZX U- INT C; Ei Post Free, Eight Stamps. Cloth Boards, Gold Mitre, ONE SHILLING. The Bishop of Peterborough, iji commending to all who in his diocese are interested in the cause of Church defence Mr G. H. F. Nye's book entitled A Popular Story of the Church of England," stys: It gives in a condensed and popular form one of the, best statements of the past history and present work of the Church with which I am acquainted. It seems to me especially suited for distribu- tion amongst our intelligent working classes, who need just such a corrective to the false and misleading statements now so industriously circulated amongst them by the enemies of our Church." Just Out. New Edition. Twenty-sixth Thousand. A POPULAR STORY OF THE T CHURCH OF ENGLAND, Shewing its Birth, its Progress, and its Work for the People. A Sketch in Z3 ?I Three Chapters By G. H. NYE. PRICE SIXPEIMCE. Post Free. Eight Stamps. Cloth Boards, Gold Mitre, One Shilling. The Bound Copies make excellent Gift Books. zn Copies of these Popular Stories supplied in quantities for distribution at cheap rates on application to THE CHURCH DEFENCE INSTITUTION.