Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

CAERFYRDDIN.

GWYLJAU YSGOLION SUL.

TOWYN, ABERGELE.

LLANGATHEN.

MERTHYR TYDFIL.

PENTREFOELAS.

GELLI AUR.

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

3ANLLWYD, GER DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

3ANLLWYD, GER DOLGELLAU. Bob nos o Wythnos y Cydgoriau, ynghyd a dydd Iau y Dyrohafael, cynhaliwyd gwasan- aethau neillduol yn eglwys y lie uchod, pryd y pregethwyd yn rymus ac effeithiol gan y Parchn. Watkin Davies, Llanfachreth; W. Williams, rheithor; a D. Herbert, curad Dolgellau. Ddydd Mercher, yr un wythnos, cynhaliwyd cyfarfod deoniaethol Is-Ardudwy. Pregethwyd yn y boreu gan y Parch. W. Hughes, Llan- uwchllyn, ac yn yr hwyr gan y Parch. W. E. Williams, Llanaelhaiarn. Am haner awr wedi dau, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr ysgoldy. Testyn yr ymdrafodaeth ydoedd, Undeb Crefyddol." Darllenwyd papyrau rhagorol ar y testyn gan y Parchn. Morris Lloyd, ebrwyad y plwyf Arthur Evans, curad Abermaw ac 0. Jones, Abermaw. Siaradwyd ymhellach yn afaelgar ar yr un pwnc gan y Parchn. E. Hughes, Abermaw; a W. H. Wil- liams, Llanaelhaiarn. Yn y cyfarfod hwn hefyd gwelsom y Parchn. D. B. Lewis, Bont- ddu W. Williams, Dolgellau a Watkin Davies, Llanfachreth. Ag ystyried pobpeth, daeth cynulliad da ynghyd, ymysg y rhai yr oedd amryw Ymneillduwyr. Yr oedd y papyrau, ynghyd 4'r anerchiadau a draddodwyd, ac hefyd pregethau y boreu a'r hwyr, yn sylfaenedig ar yr un testyn, sef Undeb Crefyddol." Gresyn na fuasai ychwaneg o Ymneillduwyr yn gwrando yr anerchiadau hyn, yn enwedig pregeth yr hwyr. Ein teimlad personol ar ol y cyfarfod- ydd hyn ydoedd, ein bod wedi ein cadarnhau yn y ifydd. Llongyfarchwn y Parch. Morris Lloyd, ficer y plwyf am ei waith yn dwyn y fath gyfarfodydd i'r pentref. Ychwaneg o rai o'r un natur, yn enwedig mewn lleoedd gwledig, a wnaent lea annhraethol. Yr oedd y Parch. M, Lloyd a Mrs. Lloyd wedi parotoi yn ardderchog ar gyfer y dieithriaid yn y Ficerdy a'r Post Office.

[No title]

Nodion Hendy Gwyn ar Daf.…

YSGOL UWCHRADDOL.

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst.

Nodion o Ddeoniaeth Wyddgrug

AMRYWION.

MARCHNADOEDD.

Advertising

RHYL.