Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

AT Y BEIRDD.

ENGLYNION COFFA

Y BEDD.

Y TEGELL.

DOSBABTH II.

DYDD IAU Y DYRCHAFAEL.

ENGLYNION

[No title]

-------------------RHESTR…

Advertising

NODION SENEDDOL --

HANES CAPEL SEION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANES CAPEL SEION. ANGHYDFFURFIAETH YN MHENTRESPLIT. GAN "ARSYLLYDD." PENOD IV. (Parhad). Un o'r adegau pan y daw clicyddiaeth Ym- neillduaeth Gymreig iwyaf i'r golwg yw yr adeg y dewisir gweinidog. JPel yr ydym wedi cyf- eirio yn barod, yr oedd Iago Wyn Williams wedi llwyddo i enill Uais a phleidlais Dafydd Williams, y Siop, i'w gael yn weinidog yn y capel newydd a agorwyd ganddynt yn ddi- weddar. Yr oedd hyn i bob ymddangosiad yn gam pwysig i'r ia -wn',gyfeiriad, ac nid oedd Iago Wyil Williams, yn ol diniweidrwydd cynhenid ei natur iarddonol, wedi tybio am foment y buasai dewisiad Dafydd Williams, arweinydd y bobl oedd yn addoli yn y capel newydd, yn achosi unrhyw wrthwynebiad årran rhai o'r ael- odau. Ond cafodd ei siorm yn hyn. Y mae yn wir fod y rhan fwyaf o'r selodou yn cydnabod arweinyddiaeth y siopwr, am mai efe ydoedd y gwr cyntaf i godi ei lais yn erbyn codiad cyflog y Parcliedig Ephraim Llwyd yn eu hen gorlan.' Eto i gyd, yr oedd rhai o honynt wedi bod yn ddigon gwrol i gyhuddo Dafydd Wil- liams o draws-arglwyddiaeth. Pan yn son am adeiladu y capel, yn ol y bobl yma, yr oedd yn rhaid i'r siopwr gael ei 4 blon ei hun;' ei ddewis ddyn ef oedd i osod y gareg sylfaen a'i ddewis ddynion ef oedd i bregethu yn y cyfarfodydd agoriadol, ac felly yn y blaen. Nid ydym yn proffeeu gwybod faint o wirionedd oedd yn y cyhuddiadau yma, ond yr oedd yn ffaith fod y teimladau gwrthwynebol hyn yn llochesu yn nghalonau lliaws oedd wedi dilyn Dafydd Williams ac eraill i'w 'capel newydd.' Felly, pan y deallwyd fod y siopwr yn bwriadu dwyn euw Iago o flaen yr eglwys fel person addas i gario y gwaith ymlaen yn eu plith,' nid yw yn un syndod fod rhai o'r aelodau yn bwriadu gwrtliwynebu ei etholiad. Yr oedd ganddynt liaws o resymau dros wneuthur hyn, y penaf o ba un oedd ei fod yn rhy ieuanc, ac nad oedd yn feddianol ar ddigon o hwyl' traddodiadol. Diclion hefyd eu bod yn meddwl fod amcan llai na llwyddiant yr achos wrth wraldd y pender- fyniad yma o eiddo Dafydd Williams, a'r am- can hwnw yn ddim ond talu gwarogaeth o barch i rieni Iago, drwy anrhydeddu eu mab, yr hwn oedd wedi dweyd fod Dafydd Williams yn 4 ddyn o ddeall cyrhaeddfawr a duwiolfrydig iawn.' Dyna ydoedd sefyllfa pethau ymysg y brodyr yn eglwys newydd Ebenezer pan y galwyd cyf- arfod o'r diaconiaid i siarad ar y priodoldeb o ddewis gweinidog yn uniongyrchol. Yr oedd tua chwech o ddiaconiaid yn yr eglwys, ond oddigerth Dafydd Williams, ac un neu ddau arall, dynion pren oeddynt, rhai heb fod yn feddianol ar ddigon o wroldeb i gymaint a datguddio eu hopinynau, yn enwedig os oedd y eyfryw yn debyg o daro yn erbyn eiddo y siopwr, a rhai o debyg ystyfnigrwydd. Yr oedd yn gyfarfod bach twt iawn. Heddwch yn llifo fel yr afon, ac unfrydiaeth yn coroni'r holl weithrediadau. Wedi penderfynu fod eisiau gweinidog, gosodwyd y cwestiwn, Pwy yw'r dyn i fod ?" gan y siopwr, ac yna, mewn araith faith gosododd ei farn ynghylch Iago Wyn Williams o'u blaen. Eglurodd y ffaith ei fod yn berffiuth adnabyddus a'i rieni, a'i fod, ar ol mynycli gyfeillachu ag Iago, wedi dyfod i'r pen- derfyniad ei fod yn ddyn ieuanc o alluoedd anghyffredin, ac o gymeriad pur, ac fely cyfryw dymunai ar ei gyfeillion diaconaidd fod yn uu. frydol parthed eu dewisiad. Dywedai fod rhai o'r aelodau yn pleidio dyu arall, ond yr oedd ef (y siopwr) yn credu mai ofer fyddai gwastraffu amser y cyfarfod drwy ddwyn ei enw o'u blaen, gan y gwyddai eu bod wedi penderfynu ar eu dyn yn barod. "'Nawr, pawb sydd dros Iago Wyn Williams i ddyfod i fugeilio drosom, coded ei law i fyny," ac fel pe byddai llais Dafydd William yn anfon electric current drwy gyfan- soddiadau y pump diacen arall, dyna'u dwylaw i fyny ar unwaith. Ar ol hyny, rhaid oedd iddynt ffurfio penderfyniad i'w osod o flaen yr aelodau yn gyffredinol yn y seiat y nos Sul canlynol, yn yr hwn y cyhoeddwyd eu bod hwy, y diaconiaid, yn y cwrdd eglwys wedi dyfod i'r penderfyniad i'w cynghori i roddi galwad i Iago Wyn Williams fel un o gymwysderau neillduol, &e. Yr oedd cynnlliad gweddol iawn o'r aelodanA), Yl_n lYJ;\Pl; "ac ar 01 y breg- etb, arhosodd yr boll aelodau ar ol, pan y gosod- wyd penderfyniad y cwrdd eglwys o'u blaen. Dymunwyd ar bawb oedd yn teimlo awydd cadarnhau y eyfryw benderfyniad i godi ei law i fyny. Gwnawd hyn gan y rhan liosocaf, ond yr oedd yn amlwg fod rhan helaeth heb wneyd yr un arwydd. Gyda bod Dafydd William codi ar ei draed i longyfarch yr eglwys ar. eu dewisiad doeth," dyma ,h, yr hwn ni chododd i fyny ei law, yn codi ar ei draed i ddatgan y farn fod clicyddiaeth wrth wraidd y dewisiad— fod enw pregethwr arall wedi cael sylw rhan fawr o'r aelqdau, ond i'w enw gael ei wrthod ,c I. gan y clic diaconaidd, ei fod yn credu y dylasai ei enw gael ei ddwyn o flaen yr aelodtili yn gyffredinol, fel y byddent yn cael cyfleusdra i ddewiseu dyn allan o ddau, ac nid gwtliio favourite y diaconiaid i laWr i'w gyddfau, ac felly yn y blaen. Wedi i'r g^rr • yma eistedd, cododd un arall, ac un arall, hyd nes i un o'r diaconiaid roddi emyn allan i gann, fel arwydd 9 fod y cyfarfod ar ben. Ofer olrhain yr oil a ddigwyddodd ar ol y 0 y cyfarfod yma, ond rhaid dweyd ir ahghydwel- ediad hwn esgor ar glic arall o "Ymneillduwyr," ac y maent wedi adeiladu capel arall, enw yr hwn yw Seiou, ac hanes yr hyn a arwciniotfd at ei adeiladaeth yr ydym wedi bod yn ceisio ysgrifenu. Gan nad ydyw Seion wedi ei agor eto, nis gellir sicrhau mai hyn fydd diwedd yr hanes —dichon yr a plaid arall allan o hwn eto, ac felly yn y blaen, yn ddiddiwedd, a thrwy hyny Denwir ein gwlad A chapeli Ymneillduol haner 0 uaeth gweigion. Dywedir mai cynydd Ymneillduaeth yw achos yr holl gapeli-dywedaf fi mai cynydd clicyddiaeth yw yr achos, a hyny yn uuig. (Diwedd.)

.DOSBABTH L

ETO.