Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. or-- GLYN MYFYR.-—Nid ydyw d enillest yn gywir o ran sillebiaeth, ac y mae eniilaist yn lladd yr odl. Byddwch yn ofalus. W. EDWARDS.—Peidiwch darnio geiriau, a'u plastro H sillgollau, canys arwydd o wendid mawr ydyw. Er engraifft, da'r (daear), gwdd (gwaed), N eistedd" (Yn eistedd), &c. Buom bron gosod clawr y fasgedar eich umeuau. rx '•HO
ENGLYNION COFFA
ENGLYNION COFFA Am Rhobert, anwyl blentyn John ac Ellen Hughes, Glyn Llifon, Blaenau Ffestiniog. Rhaid tewi, Rhobert wywodd,—aeth o fwth Y fam a'i hanwylodd Yn ei gwenau teg hunodd, 0 rin ei ffafr i nef ff6dd. Ond os y glyn dwys, gelynol,—a'i raib Gioes eich Rhobert swynol; Iaitli oreu nef lithrai i'w nol Drwy ddewisiad urddasol. Os ei enw wna synia,d-alaethus I lethu eich teimlad Wele, ceir o law cariad Ddarlan o'i fedd ar len fad. B. Ffestiniog. GLYN MYFYR.
Y BEDD.
Y BEDD. Bwth yw hwn heb iaith yno—wael anedd Heb oleuni ynddo Du, oer, glawr a dery glo Amen dyddiau myn'd iddo. B. Ffestiniog. GLYN MYFYR. J,> ;1.' i í.f
Y TEGELL.
Y TEGELL. Berwedydd bob awr ydyw—sy'n addas Weinyddu dynolryw Er gwael, ddu wisg rhoi gwledd yw Ei arwyddair e' heddyw.
DOSBABTH II.
DOSBABTH II. GWYL Y PENTECOST. Pan ddaeth yr wyl fawr yma, CynuUodd mewn un He Chwech ugain o gredinwyr Yn hynod Salem dre' Yr oedd y cwmni yma Mewn ysbryd yn gytun, Mewn calon ac mewn meddwl, Y cwmni hwn oedd un. Ac wele, yn ddisymwth, Daeth swn i lawr o'r Nef, Ao megis gwynt yn rhuthro, Oedd y i-hyfeddol lef A llanwodd y swn Nefol Bob congl yn y ty, Lle'n dawel yr eisteddodd Y cwmni ffyddlon, cu. Ac wele, ymddangosodd Dafodau gwahan man, A'u defiiydd oedd i'r llygad Fel o wnenthuriad tan Eisteddodd y tafodau Yn rhyfedd ar bob un A'r Ysbryd Glan ddaeth arnynt, Nes llenwi pob rhyw ddyn. I 0 clywch hwynt yn llefaru Yn mhob rhyw ddynol iaith, Am gariad mawr yr lesu, A'i ryfedd, ryfedd waith y Rhyfeddu wnaeth y dyrfa, Rhyfeddu wnaeth pob dyn, Pan glywsant gan rai yma Bob un ei iaith ei hun. Nid oedd y dyrfa'n gwybod Dylanwad Ysbryd Duw, Na ohwaith am yr addewid Addawodd lesu gwiw Ni wyddant mai'r Diddanydd A ddaeth i lawr o'r Nef, A bod y cwmni yma Dan ei ddylanwad ef. GWeddïwll ar yr Arglwydd I anion 'r Ysbryd Glan, I gyneu ymhob calon Rhyfeddol, ddwyfol dAn Gweddïwn am yr Ysbryd I'n harwain ato Ef Agorodd i gredinwyr Y Sanctaidd Deyrnas Nef. Trefnant. J. R.
DYDD IAU Y DYRCHAFAEL.
DYDD IAU Y DYRCHAFAEL. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Yn ein natur at ei Dad, Wedi gorphen gwaith annhraethol- Agor ffordd drwy ffyrdd ein gwlad— Hon sy'ii arwain i Baradwys, Eto'n uno da'r a ner, Boed i'n moliant drwyddi iddo Beunydd esgyn uwch y ser. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, I gael gwobr gan ei Dad, Am y mawr foddlonrwydd roddodd Pan y chwysodd ddafnau gwa'd Cafodd fuddugoliaeth hollol Ar y diafol, byd, a bedd, Fel mae heddyw yn y Nefoedcl 'N, ei-stedd ar yr uchaf sedd. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Er mwyn Ysbryd Duw ei Dad Gael ei ddanfOn i'n calonau, A'n dwyn oil i'r unrhyw wlad Boed i'w ddylanwadau grasol, Megis yn yr amser gynt, Gyraedd eto filoedd lawer Sydd fel us 'n myn'd gyda'r. gwynt. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Yno i eiriol ar ei Dad Dros wrthddrychau pechadurus Brynodd ef a'i werthfawr wa'd Purdeb meddwl fo'n bwrlymu Yn ein calon tua'r lan, Fel y byddo'r per fendithion Ddisgyn arnom ymhob man. Crist ddyrc'iafodd i'r uchelfyd, I breswylfa Duw ei Dad, I wneyd lie i'r lluoedd hyny Ddringant yno'n nerth y gwa'd Ninau fyddom yn eu nifer Dirifedi i ddynol fod, Fel y byddom yn dragwyddol Roddi iddo ef y clod. Nantymoel. W. EDWARDS. --6--
ENGLYNION
ENGLYNION Ad-anerch Eryddon yn Y LLAN. Doniol ydoedd dy anerch—uchelwych A chwlwm dy ittwrsereli Iti rheswm rhoi traserch Oreu nwydd yr awen dderch. Fy nghyfaill, derbyn fy nghofion-atat Eto mewn englynion Diolchaf, a lluniaf yn Hon Emau cynes o'm ceinion. Dywedaf o galon gynes-sa' i fyny ,'R safonol enillest; Ag awen wir da y gwnest Dy anerohiad yn orchest. Rhoddaist ormod o glodydd—ar fy mhen Er fy mod yn fydrydd Gwael, gwyw, sal, yw'r golwg sydd Ar yni yr awenydd. -,Eisglynion Eryddon roddaf—i gadw Gyda'r rhai a weaf; Englynion teilwng luniaf 0 seiniau gwych os awen gaf. Geiriau odiaeth gariadus—awenydd Anfonaist, wyt fedrus Od gwael ym-diogel us Ini hepian yn hapus. Haul athrylith reola-dy awen 1. A deui yn wirdda Yn dy ras, 0! nad arhosa Lenor del ac englynwr da. I Os yw malais am weled Doniau gwych dy awen ged Na'd eu hyngan na'u dangos I lawer un gwylia yr os." Ond am dalent mae diliau-yn disgyn Hyd wasgod meddyliau A goleu rWYflg i eglurhau 11 11 11 Hoff y rhedant yn ffrydiau. 'Rwy'n ceisio llawer ond colli—'r ydwyf A rhedeg i dlodi Er hyn oil ni charwn i Wneyd i awen wen dewi. 0 lawer eystadlenaeth-led galed Gwelwn siomedigaeth O'r sedd oer rhyw "os a ddaeth Yr hon ydyw beirniadaeth. Ail oreu," Ow galaraf -a sinach Di-synwyr yn gyntaf, Heb iaith a'i nerth, Beth a wnaf ? Yn y diwedd a dawaf. Af i Ondiau" cyfiawnder-ac yma Mwy eymwys o lawer; I wroeddfardd (?)rhoddaf her,—ac, Ollwch, Yf waed ei salwch, ä'n fud i'w seler. B. Ffestiniog. GLYN MYFYR.
[No title]
Y mae gweniaeth fel caws neu unrhyw beth arall y trafnidiwn ynddo,—mae'r cyflenwad wastad yn cael ei reoleiddio gan y demand. "Johnie," ebe y f am, ic a. gawsoch chwi un- rhyw farciau heddyw yn yr ysgol am ym- ddygiad ?" Do, amryw ond y maent oil ar fy nghefn i." Merch Wyddelig yn chwareu ar y Sul a ddal- iwyd gan yr offeiriad Pabaidd: "Boreu da, ferch yr un drwg," ebai yr offeiriad wrthi. Atebodd hithau yn fwynaidd,—" Boreu da, father" Pan a Tywysog Cymru i daith hir, cymei-a gydag ef focseidi o hetiau, a llon'd trwnc mawr o ddiUad o bob math. Gwna yn bwynt, pan ar ymweliad, i beidio cael ei weled ddwy waith yn yr un got. Hen foneddwr o'r wlad, yn aros mewn gwestdy o'r dosbarth blaenaf yn Llundain, a yegrifenodd adref fod ei ystafell yn chwech story o uchder, a bod y bill a roddwyd iddo yn dair story yn uwch na'r ystafell. Meistr gorsaf (wrth foneddiges o edrycliiad drwgdybus ag oedd newydd fyned i mewn i adran perthynol i'r dosbarth blaenaf) Y'ch chi yn first class, ma'am?" Y foneddiges: Ydwyf, diolch i chwi sut y'ch chwi ?" Cyfaill Ddoctor, onid ydych wedi bod yn gweini ar yr hen wr Job Davies ?' Meddyg Ydwyf.' Sut y mae e' heddyw ?' Y mae tuhwnt i gyraedd cynorthwy meddygol.' Beth, ydi e' yn marw ?' 0, nac ydyw nid oes gan- ddo ddim rhagort) arian.'
-------------------RHESTR…
RHESTR 0 DDOSBARTHWYR "Y LLAN A'R DYVYYSOGAETH." A Aberdare, T. Richards, 7 Dare street Aberaman, Mr. Morgan Parr, Newsagent Aberaeron, Mr. Jones, Stationer Aberavon, Port Talbot, Messrs. T. M. Jones and Son Aberdovey, Mr. E. Davies, 9 Nantiestyn street Abergele, Mr. Egerton Leigh, New ^vendor. Abergynolwyn, Mr. Evan Isaac Jui.es, Bwlch- Ily gyfing Aberystwith, Mr. R. James, Bridge street Aberystwith, Messrs. Smith and Son Amlwch, Mr. D. Jones, Post Office Argoed, Mr. D. Thomas, Newsagent B Bala, Mr. H. Edwards, 42 High street 'Bangor, Messrs. Nixon and Jarvis Bangor, Messrs. Smith and Son 1:1 Bargoed, Mr. T. M. Jones, Board School Barmouth, Messrs. Smith and Son Barry, Mr. Milner, Newsagent Beaufort, Mr. Price, Newsagent Bethesda, Bangor, Mr. J. F. Williams, High street Blaenau Festiniog, Mr. E. Roberts, 14 High street Brecon, Mr. Charles, Chemist Briton Ferry, Mr. W. T. Olive, Newsagent Brymbo, Mr. E. E. Rogers Brynaman, Carmarthen, Mr. Thomas, Prospect Villa Bryneglwys, Mr iEneas Jones, Bryntirion Bwlchycibau, Mr W. Morris, National School c Cadoxton, Neath, Mr. Rees, 1 Beaconsfleld street Caerfallwch, Mr Edwin Hughes, Ochr-y-Foel Capl Garmon, Mr. Jno. G. Hughes, Post Offioe Cilcain, Mrs Mary Williams Colwyn, Mr Daniel Owen, School House Cardiff, Messrs. Daniel Owen and Co. „ Mr. Gulliford, 20 St. Mary street „ Messrs. Roberts Brothers, High street Arcade „ Mr. T. Vaughan, Welsh Church, How- ard Gardens Cardigan, Mrs. Williams, Newsagent Carmarthen, Mr. bpurrell Carmarthen, Messrs. Smith and Son Carnarvon, Mr. W. Griffith Cemmaes, Mr. D. Hughes, Cemmaes Byehan Ciliau Aeron, Mr. John Davies, Bwlchyrorfa Cottage Cockett, Mr. Jenkins, Newsagent Conway, Messrs. R. E. Jones, Printers Ccrwen, Mrs. Edwards, Bookseller Cowbridge, Miss Griffith, Newsagent Criccieth, Mr. Bowen, Chemist Cwmaman, Mr. Henry James, 59 Glynaman road Cwmavon, Port Talbot, Mr. Arnold Cwmbach, Aberdare, Mr. B. Jones, Cwm Row D Dafen, Llanelly, Mr. W. J. Thomas, Church street Darowen Village, Cemmaes Road, Mr. Roland Hughes Deganwy, Mr J. Jones, Grocer Denbigh, Mr. Richard Hughes, 10 Castle street Denbigh, Messrs. Smith and Son Deri, Mr. J. Simonds, 6 School street Derwen, Mr H. England Dolgelley, Mr. George Arnfield, Bookseller, &c Dolwyddelen, Mr. D. Williams, Prince Llewellyn Slate Quarries Oowlais, Mr. D. Rees, Castle street E Ebbw Vale, Mon, Miss M. Beynon Eglwysfacli, Mr Jno. Wynne Sew Eglwys lihos, Captain Evans, 1 Graig Don Villas, Llandudno F Ferndale, Mr. Davies Fishguard, Mr. Seth Owen Fochriw, Pontlottyn, Mr. David Phillips, 1 Davies' row, Pentwyn G Garthbeibio, Mr Edmund Jones, Llwyn Glais, Swansea, Mr. W. C. Jenkins Glyn, Llangollen, Mr. H. Hughes, National School Glyndyfrdwy, Mr Wm. Owen, Sun Terrace Gwyddelwern, Mr E. Roberts, Ty'n Llidiart Gorseinon, Swansea, Mr. Llewellyn H Henllan, Trefnant, Mrs. Evans Hirwain, Mr. Edmunds, Cross street Holywell, Messrs. P, M. Evans and Son K Kidwelly, Mr. W. Davids, Newsagent Kidwelly, Mr. Shankland L Lampeter, Mr. Evans, Chemist Liverpool, Mr. W. M. Jones, 17 Owen street, Chatsworth hill London, Mr. Pierce, 23 Haverstock Road, Kentish Town Loughor, Mr. Williams, Newsagent LL Llan, Festiniog, Mr. D. Roberts Llanafan-y-Trawscoed, Aberystwith, Mr. Isaac Richards Llanberis, Mr. J. Davies, Dinorwic Quarries Llancrwys, Llandilo, Mr. Benjamin Evans, Pontywain Llanelltyd, Dolgelley, Mr. W. H. Barnett, Post Office Llanelly, Mr. Davies, Newsagent Llanelly, Messrs. Smith and Son Llanelly, Messrs. Mainwaring and Broom, 5 Market street Llanenddwyn Reservoir, Llanfyllin, Mr. Wm. Owen, Post Office Llanengan, Pwllheli, Mr. Hugh Richards, Pen- twyn. Llanerchymedd, Misses Jones, Printers Llandebie, Mr. W. Bowen, Post Office Llandebie, Mr. Henry Williams, Penygroes Llandilo, Mr. Lockyer „ Mr. Hopkins Llandinorwic, Mr. J. Roberts, Minyffordd Llandovery, Mr. Garner, Store street Llandovery, Mr. Thomas, Pannau Row Llandudno, Mr. J. Wilkinson, 95 Mostyn street Llandyssil, Mr. J. Jones, Greenfield House, Drefach Llandyssil, Cardigan, Miss Evans, Currier Llanddarog, Carmarthen, Mr. Harries Llanddeiniol, Aberystwith, Mr. D. R. Jones, Schoolmaster Llanddyfnan, Anglesey, Mrs. J. Pritchard, Taliono Llanddoget, Mr J. Roberts, Shop Llanddulas, Mr Edward Griffiths, Mill street Llanerfyl, Mr Edward Roberts, Ty'nyrhos Llangan, Mr John Fhomas, Cynwyd National School Llangwm, Mr Evan Roberts, Post Office Llangadfan, Mr Roger Mills Llanrhaiadr-yn-Mochnant, Mr Robert Jones, Park street Llanrhaiadr-yn-Ifinmerch, Mr C. E. Evans, National School Llansannan, Mrs Roberts, Post Office Llandysilio, Mr. D. J. Smith, The School Llanwyddyn, Mr Watkin Owen, Post Office, Lake Vyrnwy Llysfaen, Mr Thos. Hughes, Post Office Llanfairfechan, Mr. Griffiths, Schoolhouse Llanfihangel Rhosycorn, Nantgaredig, Mr. Hughes Llangadwaladr, Llangefni, Mrs. JML Parry, y-ffordd Llangannock, Llanstephan, Mr. W. Dav: Glyncoch Llangeinwen, Dwyran, Anglesey, Mr. J. V liams, Schoolhouse Llangeitho, Mr. W. Williams, Llwyncelyn Llangennech, Mr, D. Jeukins, Bridgend stre Llangorwen, Aberystwith, Mr. F. Lewis, Cr Llanilar, Aberystwith, Mr. David Davies, Ti y-fynwent Llanuwchllyn, Mr. J. G. Owen, Carpenter Llanllechid, Mr. J. Davies, Caellwyngrydd. Llanllyfni, Penygroes, Mr. W. R. Owen Llanpumsaint, Mr. Daniel Llanrhaiadr, Denbigh, Mr. E. C. Evl¥ National School Llanrhystyd, Mr. Sinnet, Ystradlir Llanrwst, Mr. W. J. Roberts, Cowlyd Hottae Llansantlfraid Glan Conway, Mr. J. Jones Llantrisant, Mr. Llewellyn, Newsagent Llanybyther, Mr. Evans, dlwtyifwih M Machynlleth, Messrs. Smith and Son Maentwrog, Tanybwloh, Mr. T. Roberts Maesteg, Mr. Isaac, Newsagent Manchester, Mr. Owen LI. Foulkes, 29 Fe wick street, Hulme Mardy, Mr. John Davies, 7 Wagant place Meifod, Miss Euans, Lhop Minera, Mr John Harold Richards Mold, Mr John Williams, 46 New street Menai Bridge, Messrs. Smith and Son Mertbyr Tydfil, Messrs. Farrant and Frost Merthyr Tydfil, Messrs. Smith and Son Morriston, Llansamlet, Mr. Davies, Post 0 Mostyn, Holywell, Mr. W. Parry, Glyn Ttw Glyn. "i Mountain Ash, Mrs. White, Chemist N Nannerch, Mr John Hughes, Post Office J Newmarket, Mr P. Horatio Wynne, Par<W -School. Nantyglo, Mr. John Hughes, Bailey's Row j Nantymoel, Mr. Mowells, Newsagent Narberth, Mr. Best, Newsagent Neath, Mr. J. Williams, Bookseller Nevlw-Mr- Griffith Htrghes, Cefnymaes Newbridge, Newport, Mon., Mr. Ed Hughes, Penrhiw Bicea 0 1 Old Colwyn, Mr. D. Owen, Schoolmaster Oswestry, Mr. Llewellyn Williams, Cb street. P Pendoylan, Mr. Evans Penisa'rwaen, Carnarvon, Mr. W. Evans Penmachno, Bettws y Coed, Mr. H. Vii" High street Penmaenmawr, Mr. W. 0. Thomas, Post 0 Pentir, Bangor, Mr. Lloyd Morris Pentraeth, Anglesey, Mr. Rogers, Post Oflie4 Pentre, Pontypridd, Mr. Joseph Vorylet Ystrad road Pentyrch, Mr. J. Thomas, Cwmyfuwcli. OPenygraig, Misses L. and M. Evans Pontardawe, Mr. Evans, Grocer, Alhwen Pontardulais, Mr. D. Owen ¡I Pontfadog, Mr Robert Lloyd. School House Pontlottyn, Co-operative Stores Pontyberem, Llanelly, Mr. W. George Pontypridd, Mr. Key, Chemist Port Dinorwic, Mr. J. Roberts Portmadoc, Messrs. Smith and Son Porth, Mr. Fudge, Newsagent J Pwllheli, Mr. Roberts, Bookseller, High R Resolven, Mr. D. R. Phillips, Penrhiw 1100 Rhyl, Miss Guthrie, Emporium Mr. H. Sandoe, Bodfor street < Rhosllanerchrugog, Mr Lichard A. Owello Cross, Rhos Rhuddlan, Miss Davies, Comer street, street Rhydymwyn, Mr J. D. Lloyd, Antelope I" Rliydybeini, Mr. L. Thomas, Talybont, JJ Rhymney, Miss Davies, Lawn Terrace Ruabon, Messrs. Smith and Son Ruabon, Messrs. Smith and Son Ruthin, Mr. C. Aldrich, Bookseller S „ Sirhowy, Mr. Phillip Jenkins, 57 Four B0' Skewen, Neath, Mr. John Jenkins, road St. A.sapli, Mr. W. Evans, Newsroom St Asaph, Mr. G. Tomkinson. St. Clears, Mr. D. Thomas, Clifon Mills St. Clears, Mr. W.'Davies, Newsagent St. George, Abergele, Mrs. A. WillianJSt Office St. Mary, Walton East, Mr. J. A. Clarbeston Road, R.S.O., Pem. Swansea, Western Mail Office I. Swansea, Messrs. Smith and Son I' T J Towyn, Merioneth, Mr. W. Jones, 17 140, street ( Trawsfynydd, Mr. T. Morris Richards, gwyn street Trecastle, Brecon, Miss Hughes, Grocer Tredegar, Mr. J. Thomas, Newsagent JA Trefnant, Mr. Thomas Williams, Brylul,, Treforest, Mr. E. Thomas, Craighaulfa Tregaron, Mr. Hughes, Grocer Treharries, Mr. Morgan, Newsagent Treorky, Mr. T. Jones V t Valley, Anglesey, Mr. E. D. Lloyd, House W Welshpool, Mr. E. Jones, Llanystyn Wliitland, Mr. L. Harris, Newsagent Wrexham, Mr. Fisher y Ysceifiog, Mr Robert Jones, National ,Yspytty Ifan, Mr R. T. Jones, TainO Factory Ynysybwl, Pontypridd, Mr. David RogeL Yspytty Ifan, Bettwsycoed, Mr. W. Ystradgynlais, Swansea, Mr. T. Pelican street 'X. Ystrad Rhondda, Mr. D. Jcnes, Newsa Ystalyfera, Mr. G. Davies, Newsagent Bydd yn dda gan y Cyhoeddwyr bftO^jL barthwyr yinhob man lie nad oes rh»' Am y telerau, yrnofyner a Messrs. FARRANT & FROST, LLAN A'R DYWYSOGAETJI 135, High street, Merthyr Tvdfil, S-
Advertising
Y MAE Y MEISTRI FARRANT A SWYDDFA'R "LLAN," MERTHYR YN CURO PAWB YN NGHYMRU &\ MATH 0 ARGRAPHWAITH uwcHR A AC Y MAE EU PRISOEDD YN RHES
NODION SENEDDOL --
NODION SENEDDOL [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Deddfwriaeth Sosialaidd. Yn Nhy yr Arglwyddi, ddechreu yr wythnos flaenorol, galwodd Arglwydd Wemyss, mewn araith gymysglyd, sylw at ddeddfwriaeth Sosialaidd y ddau benedd-dymor diweddaf, ond methiant truenus fu ei ymgais i roddi deffiniad o'r hyn a olygai wrth Sosialaeth." Dywedodd Iarll Dunraven fod yr araith yn un ddyddorol, ond hollol amddifad o feirniad- aeth ar fesurau Seneddol diweddar. Dywedodd Iarll Cowper ei fod o'r farn, tra yn ymwrthod a'r meddylddrych y dylai y bobl ddisgwyl wrth y Llywodraeth i wneyd pobpeth, fod perygl iddynt syrthio i'r eithafedd cyfer- byniol, a pheidio disgwyl dim oddiwrth yWlad- wriaeth. Sylwodd Arglwydd Salisbury fod yr Iarfl urddasol wedi dwyn gerbron y Ty gymysgfa ryfeddol o faterion, yn cynwys rhai cwestiynau hollol afresymol a chwerthinus, ac eraill ag oedd yn ddiamheuol o nattfr fuddiol. Nis gahai- ef ond rhoddi yr un atebiad ag a roddasid yn barod gan larll Cowper. Nid oedd efe (Arglwydd Salisbury) yn tybied ei bod yn arferiad gan bobl y wlad hon i wneyd ymchwiliad athron- yddol i briodoldeb yr enw a roddid i unrhyw gynygiad, ond yn hytrach gwneyd ymchwiliad i'w fuddioldeb. Gallai Sosialaeth olygu fod y Llywodraeth yn cyflawni yr hyn a gyflawnid yn flaenorol gan bersonau unigol. Gallai hyny, mewn rhai amgylchiadau, fod yn ymddygiad hollol annoeth, a phrydiau eraill yn ymddygiad doeth ac angenrheidiol. Yr oedd yr Iarll urddasol wedi cymysgu a'u gilydd lawer o faterion yn ei araith. Aeth ei arglwyddiaeth ymlaen i amddiffyn deddfwriaeth ddi weddaf i Llywodraeth. Yr oeddym yn Uawer mwy gofalus yn awr am fywyd dynol, ac am fudd- ianau benywod diamddiffyn a phlant, nag oeddym ryw ugain neu ddeng-mlynedd-ar- hugain yn ol, ond nid oedd dim a wnelai hyny a Sosialaeth. Nid oedd dim angenrheidrwydd iddo ef gyfeirio at yr ymyriad a. hawliau y tir- berchenogion yn yr Iwerddon, oherwydd fodei syniadau ar y cwestiwn hwnw yn ddigon ad- nabyddus. Yr oedd drychiolaethau a bwganod yn araith yr Iarll anrhydeddus. (Chwerthin.) Nid oedd fawr iawn o bwys mewn enwau yn y dyddiau hyn, ond y foment y cymerai gweith- rediad le, yr oedd y wlad yn ymddeffroi i ym- symud o'r perygl yr oedd ynddo, ac yr oedd ef o'r farn pe gellid unwaith ddwyn i weithrediad gynlluniau Sosialaidd, y cyffroid y fath ddig- llonedd fel na chlywid ond ychydig am danynt yn ol llaw. Yr oedd y cynygion Sosialaidd yn- ddynt eu hunain yn ddangoseg o ddrygau oedd yn bodoli, ac ni allai neb, ond y rhai na fynent, wadu eu bodolaeth. Y drygau hyny a ddis- grifid yn y bylchlythyr a anfonwyd allan-gan Ymerawdwr Germani, yn galw ynghyd y gyn- hadledd, at yr hon y cyfreiriwyd gan ei gyfaill urddasol. Pa mor bell y gellid ymwneydfs hwynt y mae yn anmhosibl dweyd, ond yr oedd- ynt yn rhwym o dalu yr ystyriaeth f anylaf i'r drygau cymdeithasol hyn. Yr oeddynt yn byw mewn cyfnod pan yr oedd achosion llafuriol, ac eraill, yn cynyrchu Ilawer o drueni, ac yr oedd yn rhaid "iddynt wneyd yr oil ag oedd yn eu gallu i'w symud, hyd yn nod pe gelwid hwynt yn Sosialiaid. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd Arglwydd Salisbury yn llefaru fel un yn deall y sefyllfa, ac nid fel y 14 quacks y soniai am danynt. Pwy a ddywed nad yw y Prif Weinidog yn cydymdeimlo a'r bobl ? Porthladd Caergybi. Gofynodd Mr. Bryn Roberts, ar ran Mr. T. Lewis, i Lywydd y Bwrdd Masnach a oedd yn ffaith fod y London a'r North Western Railway Company wedi cynyg symud Creigiau y Plat* ters, yn mhorthladd newydd Caergybi, i'r dyfn- der o 25 troedfedd, yr hyn, yn ol amcangyfrif Syr J. Hawkshaw, a gostiai X250,000, ar yr amod fod caniatad i gwmni y rheilffordd adeil- adupier mewn rhan o'r porthladd ag oedd yn awr yn hollol ddiwerth, ac amodau ysgeifn eraill ynglyn a'r brydles, ac a wnai y Llywodr- aeth fynegu eu rhesymau dros wrthod y cynyg hwn. Dywedodd Syr M. Hicks Beach, mewn ateb- iad, ei fod yn analluog i dderbyn cywirdeb y disgrifiad a roddwyd gan yr aelod anrhydeddus mewn perthynas i gynyg y London a'r North Western Railway Company, ond os oedd yn awyddus i gynyg am gopi o'r ohebiaeth rhwng y cwmni a'r Bwrdd -Masnach, caniateid efyn ebrwydd. Gwaith y Ty. Ddydd Mawrth,yn Nhy y Cyffredin,cynygiodd "NI r. W. H. Smith fod Mesur y Gyllideb-Cui;- toms and Inland Revenue-i gael y flaenoriaeth ar bob mesurau a chynygion eraill ymhob eis- teddiad hyd nes y pesid ef. Gwrthwynebid y cynygiad gan Mr. J. Row- lands, yr hwn a ddywedodd fod yr angenrheid- rwydd am y cwrs hwnw wedi ei ddwyn oddi- amgylch mewn canlyniad i fwnglerwaith y Llywodraeth, ac os na wnai aelodau preifat wrthdystio yn erbyn yr ymgais a wneid i'w hamddifadu o'r amser a ddylid roddi at eu gwasanaeth, yr ysbeilid hwynt yn fuan o'u holl hawliau. Cymerwyd rhan yn y ddadl (os dadl hefyd) gan amryw o'r aelodau Gwyddelig dan arwein- iad Syr William Harcourt, yr hwn ydoedd yn meddu ar ddigon o ddigywilydd-dra i wadu fod yr Wrthblaid yn rhwystro gwaith y Ty Yr oedd ymddygiad Syr W. Harcourt mor feiddgar a sarhaus fel y gorfu ar y Llefarydd ei alw i gyfrif. Dywedodd Syr Knatchbull Huggessen, wrth ddatgan ei benderfyniad i gefaogi y Llywodr- aeth, fod y rhwystrau a deflid ar ffordd y Llyw- odraeth yn ddigymar yn hanes Ty yCyffredin. .Y Wedi peth ymgecru pellach, cytunwyd ar gynygiad Mr. Smith drwy fwyafrif o 79. Blesur y Gyllideb. Bu y Ty yn eistedd mewn pwyllgar drwy gydol yr wythnos ar y Mesur hwn a chyflenwad the vote on accoitnt-ond nid oedd fawr ddim o ddyddordeb yn y gweithrediadau. Cynygiwyd lliaws o welliantan gan yr aelodau Gwyddelig yn benaf, ond gwrthodwyd hwynt oil. Mae yn ffaith deilwng o ystyriaeth fod yr as odau Gwyddelig, y rhai oeddynt, yr wythnos flaenorol, yn gyfeillion mynwesol i Syr Wilfrid Lawson, ar hyd yr wythnos ddiweddaf .yn dadleu yn wresog am whisky rhad, a chynyg- iodd Mr. T. M. Healy na fyddai i'r doll ar wirod ddyfod i rym yn yr Iwerddon hyd oni phasid Mesur o Lywodraeth Leol i'r wlad hono Yr oeddynt yn ddoniol iawn yn dadleu hawliau y publrcanod Gwyddelig, ac yr oedd Syr Wilfrid Lawson—mirabile dictu l-yn pleidleisio gyda hwynt. Dengys hyn faint o ymddiried a ellir ,roddi yn y dirwestwyr Gladstonaidd, y rhai y mae eu hymlyniad wrth blaid yn gryfach na'u zel dros sobrwydd. Gwyliau y Sulgwyn. ¡ Ddydd Iau, dywedodd Mr. W. H. Smith, mewn atebi-ed i gwestiynau, mai y fusnes dranoeth fyddaitiydydd darlleniad y Customs and Inland Revenue Bill, report y fla,en-bleid- lais (vote on account), cynydd os byddai hyny yn angenrheidiol gyda Mesurau y Man-ddos- ranau a'r Pluro-Pneumonia, a chynygiad i roddi dyddiau Mawrth a Gweiier i'r Llywodraeth ar ol y Sulgwyn. Os cydnnid ar y pethau hyn, gwnai efe gynyg fod y Ty i ohirio hyd ddydd Llun, Mehefin 2il. Gweithrediadau Dydd Gwener. Llun, Mehefin 2il. Gweithrediadau Dydd Gwener. Cafodd cynygiad Mr. W. H. Smith effaith ddymunol ar y llesteirwyr. Darllenwyd Mesur y Gyllideb a Mesur y Clefydau Heintus (Anifeiliaid) y drydedd waith, a chyhoeddwyd Mesur y Man-ddosranau i'r Ty. Cydunwyd fod y Llywodraeth i gael dyddiau Mawrth a Gwener at eu gwasanaeth ar ol y gwyliau, yn ogystal a dyddiau Llun ac Iau. Gohiriwyd y Supply. Y Gobiriad. Ar gynygiad Canghellydd y Trysorlys, cyd- iunwyd fod y Ty i ohirio, ar ei godiad, hyd yr ;2il o Fehefin, ac aeth pawb j'wffordd yn llawen.
HANES CAPEL SEION.
HANES CAPEL SEION. ANGHYDFFURFIAETH YN MHENTRESPLIT. GAN "ARSYLLYDD." PENOD IV. (Parhad). Un o'r adegau pan y daw clicyddiaeth Ym- neillduaeth Gymreig iwyaf i'r golwg yw yr adeg y dewisir gweinidog. JPel yr ydym wedi cyf- eirio yn barod, yr oedd Iago Wyn Williams wedi llwyddo i enill Uais a phleidlais Dafydd Williams, y Siop, i'w gael yn weinidog yn y capel newydd a agorwyd ganddynt yn ddi- weddar. Yr oedd hyn i bob ymddangosiad yn gam pwysig i'r ia -wn',gyfeiriad, ac nid oedd Iago Wyil Williams, yn ol diniweidrwydd cynhenid ei natur iarddonol, wedi tybio am foment y buasai dewisiad Dafydd Williams, arweinydd y bobl oedd yn addoli yn y capel newydd, yn achosi unrhyw wrthwynebiad årran rhai o'r ael- odau. Ond cafodd ei siorm yn hyn. Y mae yn wir fod y rhan fwyaf o'r selodou yn cydnabod arweinyddiaeth y siopwr, am mai efe ydoedd y gwr cyntaf i godi ei lais yn erbyn codiad cyflog y Parcliedig Ephraim Llwyd yn eu hen gorlan.' Eto i gyd, yr oedd rhai o honynt wedi bod yn ddigon gwrol i gyhuddo Dafydd Wil- liams o draws-arglwyddiaeth. Pan yn son am adeiladu y capel, yn ol y bobl yma, yr oedd yn rhaid i'r siopwr gael ei 4 blon ei hun;' ei ddewis ddyn ef oedd i osod y gareg sylfaen a'i ddewis ddynion ef oedd i bregethu yn y cyfarfodydd agoriadol, ac felly yn y blaen. Nid ydym yn proffeeu gwybod faint o wirionedd oedd yn y cyhuddiadau yma, ond yr oedd yn ffaith fod y teimladau gwrthwynebol hyn yn llochesu yn nghalonau lliaws oedd wedi dilyn Dafydd Williams ac eraill i'w 'capel newydd.' Felly, pan y deallwyd fod y siopwr yn bwriadu dwyn euw Iago o flaen yr eglwys fel person addas i gario y gwaith ymlaen yn eu plith,' nid yw yn un syndod fod rhai o'r aelodau yn bwriadu gwrtliwynebu ei etholiad. Yr oedd ganddynt liaws o resymau dros wneuthur hyn, y penaf o ba un oedd ei fod yn rhy ieuanc, ac nad oedd yn feddianol ar ddigon o hwyl' traddodiadol. Diclion hefyd eu bod yn meddwl fod amcan llai na llwyddiant yr achos wrth wraldd y pender- fyniad yma o eiddo Dafydd Williams, a'r am- can hwnw yn ddim ond talu gwarogaeth o barch i rieni Iago, drwy anrhydeddu eu mab, yr hwn oedd wedi dweyd fod Dafydd Williams yn 4 ddyn o ddeall cyrhaeddfawr a duwiolfrydig iawn.' Dyna ydoedd sefyllfa pethau ymysg y brodyr yn eglwys newydd Ebenezer pan y galwyd cyf- arfod o'r diaconiaid i siarad ar y priodoldeb o ddewis gweinidog yn uniongyrchol. Yr oedd tua chwech o ddiaconiaid yn yr eglwys, ond oddigerth Dafydd Williams, ac un neu ddau arall, dynion pren oeddynt, rhai heb fod yn feddianol ar ddigon o wroldeb i gymaint a datguddio eu hopinynau, yn enwedig os oedd y eyfryw yn debyg o daro yn erbyn eiddo y siopwr, a rhai o debyg ystyfnigrwydd. Yr oedd yn gyfarfod bach twt iawn. Heddwch yn llifo fel yr afon, ac unfrydiaeth yn coroni'r holl weithrediadau. Wedi penderfynu fod eisiau gweinidog, gosodwyd y cwestiwn, Pwy yw'r dyn i fod ?" gan y siopwr, ac yna, mewn araith faith gosododd ei farn ynghylch Iago Wyn Williams o'u blaen. Eglurodd y ffaith ei fod yn berffiuth adnabyddus a'i rieni, a'i fod, ar ol mynycli gyfeillachu ag Iago, wedi dyfod i'r pen- derfyniad ei fod yn ddyn ieuanc o alluoedd anghyffredin, ac o gymeriad pur, ac fely cyfryw dymunai ar ei gyfeillion diaconaidd fod yn uu. frydol parthed eu dewisiad. Dywedai fod rhai o'r aelodau yn pleidio dyu arall, ond yr oedd ef (y siopwr) yn credu mai ofer fyddai gwastraffu amser y cyfarfod drwy ddwyn ei enw o'u blaen, gan y gwyddai eu bod wedi penderfynu ar eu dyn yn barod. "'Nawr, pawb sydd dros Iago Wyn Williams i ddyfod i fugeilio drosom, coded ei law i fyny," ac fel pe byddai llais Dafydd William yn anfon electric current drwy gyfan- soddiadau y pump diacen arall, dyna'u dwylaw i fyny ar unwaith. Ar ol hyny, rhaid oedd iddynt ffurfio penderfyniad i'w osod o flaen yr aelodau yn gyffredinol yn y seiat y nos Sul canlynol, yn yr hwn y cyhoeddwyd eu bod hwy, y diaconiaid, yn y cwrdd eglwys wedi dyfod i'r penderfyniad i'w cynghori i roddi galwad i Iago Wyn Williams fel un o gymwysderau neillduol, &e. Yr oedd cynnlliad gweddol iawn o'r aelodanA), Yl_n lYJ;\Pl; "ac ar 01 y breg- etb, arhosodd yr boll aelodau ar ol, pan y gosod- wyd penderfyniad y cwrdd eglwys o'u blaen. Dymunwyd ar bawb oedd yn teimlo awydd cadarnhau y eyfryw benderfyniad i godi ei law i fyny. Gwnawd hyn gan y rhan liosocaf, ond yr oedd yn amlwg fod rhan helaeth heb wneyd yr un arwydd. Gyda bod Dafydd William codi ar ei draed i longyfarch yr eglwys ar. eu dewisiad doeth," dyma ,h, yr hwn ni chododd i fyny ei law, yn codi ar ei draed i ddatgan y farn fod clicyddiaeth wrth wraidd y dewisiad— fod enw pregethwr arall wedi cael sylw rhan fawr o'r aelqdau, ond i'w enw gael ei wrthod ,c I. gan y clic diaconaidd, ei fod yn credu y dylasai ei enw gael ei ddwyn o flaen yr aelodtili yn gyffredinol, fel y byddent yn cael cyfleusdra i ddewiseu dyn allan o ddau, ac nid gwtliio favourite y diaconiaid i laWr i'w gyddfau, ac felly yn y blaen. Wedi i'r g^rr • yma eistedd, cododd un arall, ac un arall, hyd nes i un o'r diaconiaid roddi emyn allan i gann, fel arwydd 9 fod y cyfarfod ar ben. Ofer olrhain yr oil a ddigwyddodd ar ol y 0 y cyfarfod yma, ond rhaid dweyd ir ahghydwel- ediad hwn esgor ar glic arall o "Ymneillduwyr," ac y maent wedi adeiladu capel arall, enw yr hwn yw Seiou, ac hanes yr hyn a arwciniotfd at ei adeiladaeth yr ydym wedi bod yn ceisio ysgrifenu. Gan nad ydyw Seion wedi ei agor eto, nis gellir sicrhau mai hyn fydd diwedd yr hanes —dichon yr a plaid arall allan o hwn eto, ac felly yn y blaen, yn ddiddiwedd, a thrwy hyny Denwir ein gwlad A chapeli Ymneillduol haner 0 uaeth gweigion. Dywedir mai cynydd Ymneillduaeth yw achos yr holl gapeli-dywedaf fi mai cynydd clicyddiaeth yw yr achos, a hyny yn uuig. (Diwedd.)
.DOSBABTH L
DOSBABTH L CANIG FORAWL. Alaw: Y Gwenith Gwyn." Un dydd yn Alban Hefin glyd 'Roedd twr ynghyd yn rhwyfo, Ar fwrdd rhyw hwylfad o wych wedd, Mewn hedd 'roent hwy'n mordwyo Ao yn eu plith 'roedd dau yn lion, Gerbron yn toddi'n gynes Mewn serch y n9ill tuag at y Hall Heb wall, fel dau dirodres. Ac hwylio'n groes i'r glasfor wnaent Er cymaint grym y tonau A myn'd yn geingu wnaeth y dydd Oherwydd ei deg wenau Ar fwrdd y bad 'roent hwy ill dau Yn gwir fwynhau yr awel,— 'A'u horiau mal awyren do- Yn 'hedeg fifwrdd yn daWel. Rhyw wron iddi hi oedd ef, A thangnef oedd cydrhyngddynt, Yn hylon hwylio ar eu rhawd, Tra ffawd yn gwenu arnynt Ond oyraedd wnaethant hwy i'r Ian- I'r hafan o'r lie daethant Ac yma 'roent yn brudd a thrist, Ae wylo'n athrist wnaethant. Ond awr eu hymwahaniad ddaeth Er gwaethaf rhaid oedd myned, A meddai ef, un cusan Ann, Ond I dacw'm gwraigf can wired;" 0 I" meddai Aun a'i dagrau'n lli, Maddeuwch imi Enos, Mae'n rhaid im' tyn'd yn awr yn siwr, Waeth daew'm g^r yn aros. Hirwaun, JOHN BOWEN. Hen Galanmai, 1890.
ETO.
ETO. Berwedydd pyb ydyw-ar y dw'r Ry' de i ddjMplryw Un hagr ei we d, negro yw, Ond mwyuaf gariad menyw. B. Ffestiniog. GLYN MYFYR,