Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

AT Y BEIRDD.

ENGLYNION COFFA

Y BEDD.

Y TEGELL.

DOSBABTH II.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOSBABTH II. GWYL Y PENTECOST. Pan ddaeth yr wyl fawr yma, CynuUodd mewn un He Chwech ugain o gredinwyr Yn hynod Salem dre' Yr oedd y cwmni yma Mewn ysbryd yn gytun, Mewn calon ac mewn meddwl, Y cwmni hwn oedd un. Ac wele, yn ddisymwth, Daeth swn i lawr o'r Nef, Ao megis gwynt yn rhuthro, Oedd y i-hyfeddol lef A llanwodd y swn Nefol Bob congl yn y ty, Lle'n dawel yr eisteddodd Y cwmni ffyddlon, cu. Ac wele, ymddangosodd Dafodau gwahan man, A'u defiiydd oedd i'r llygad Fel o wnenthuriad tan Eisteddodd y tafodau Yn rhyfedd ar bob un A'r Ysbryd Glan ddaeth arnynt, Nes llenwi pob rhyw ddyn. I 0 clywch hwynt yn llefaru Yn mhob rhyw ddynol iaith, Am gariad mawr yr lesu, A'i ryfedd, ryfedd waith y Rhyfeddu wnaeth y dyrfa, Rhyfeddu wnaeth pob dyn, Pan glywsant gan rai yma Bob un ei iaith ei hun. Nid oedd y dyrfa'n gwybod Dylanwad Ysbryd Duw, Na ohwaith am yr addewid Addawodd lesu gwiw Ni wyddant mai'r Diddanydd A ddaeth i lawr o'r Nef, A bod y cwmni yma Dan ei ddylanwad ef. GWeddïwll ar yr Arglwydd I anion 'r Ysbryd Glan, I gyneu ymhob calon Rhyfeddol, ddwyfol dAn Gweddïwn am yr Ysbryd I'n harwain ato Ef Agorodd i gredinwyr Y Sanctaidd Deyrnas Nef. Trefnant. J. R.

DYDD IAU Y DYRCHAFAEL.

ENGLYNION

[No title]

-------------------RHESTR…

Advertising

NODION SENEDDOL --

HANES CAPEL SEION.

.DOSBABTH L

ETO.