Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

AT Y BEIRDD.

ENGLYNION COFFA

Y BEDD.

Y TEGELL.

DOSBABTH II.

DYDD IAU Y DYRCHAFAEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD IAU Y DYRCHAFAEL. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Yn ein natur at ei Dad, Wedi gorphen gwaith annhraethol- Agor ffordd drwy ffyrdd ein gwlad— Hon sy'ii arwain i Baradwys, Eto'n uno da'r a ner, Boed i'n moliant drwyddi iddo Beunydd esgyn uwch y ser. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, I gael gwobr gan ei Dad, Am y mawr foddlonrwydd roddodd Pan y chwysodd ddafnau gwa'd Cafodd fuddugoliaeth hollol Ar y diafol, byd, a bedd, Fel mae heddyw yn y Nefoedcl 'N, ei-stedd ar yr uchaf sedd. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Er mwyn Ysbryd Duw ei Dad Gael ei ddanfOn i'n calonau, A'n dwyn oil i'r unrhyw wlad Boed i'w ddylanwadau grasol, Megis yn yr amser gynt, Gyraedd eto filoedd lawer Sydd fel us 'n myn'd gyda'r. gwynt. Crist ddyrchafodd i'r uchelfyd, Yno i eiriol ar ei Dad Dros wrthddrychau pechadurus Brynodd ef a'i werthfawr wa'd Purdeb meddwl fo'n bwrlymu Yn ein calon tua'r lan, Fel y byddo'r per fendithion Ddisgyn arnom ymhob man. Crist ddyrc'iafodd i'r uchelfyd, I breswylfa Duw ei Dad, I wneyd lie i'r lluoedd hyny Ddringant yno'n nerth y gwa'd Ninau fyddom yn eu nifer Dirifedi i ddynol fod, Fel y byddom yn dragwyddol Roddi iddo ef y clod. Nantymoel. W. EDWARDS. --6--

ENGLYNION

[No title]

-------------------RHESTR…

Advertising

NODION SENEDDOL --

HANES CAPEL SEION.

.DOSBABTH L

ETO.