Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Llith yr Hen Lowr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith yr Hen Lowr. Aberdar, Nos Lun. Mr. Golygydd anwyl, na synwch o gwbl i glywed fod fy mhriod Esther, druan, yn ei boddhad ar ol darllen fy llith cyntaf yn y LLAN, wedi dadguddio enw priodol yr Hen Lowr wrth rai o'r c'ymydogion yma, y rhai, mewn canlyn- iad, a. ddaethant ataf gan fy nghanmol gyfuwch a'r cymylau, a chan ddeisyf arHar, ft I un o breswylwyr hynaf yr ardtl, i roddi ychydig ddarluniad o Agwedd Aberdar dros Ddeugain' Mlynedd yn ol. Ar ol cael fy nghanmol felly ganddynt -a gwyr Esther o'r goreu fy mod yn liynod hotl o 'ganmoliaeth—methais yn lan a dweyd "Na" wrihynt. Gan hyny, dechreuaf mor bell yn ol ag y gallaf. Ganwyd yr Hen Lowr yn mhlwyf Llangwnwr, Sir Gaerfyrddin, ar y 6ed o Chwefror, 18,27 felly, gwelir ei fod yn agos a bod yn 64 mlwydd oed. Ond nid yw hyny o fawr bwys i'r darllenydd. Pan ddaethum i Aberdar, sef yn y flwyddyn 1847, yr oeddwn yn 11 aire ugain oed, ac yr oedd fy amgylchiadau yr adeg hono yn hollol wahanol i'r hyn ydynt yn bre- senol. Yn y»tod y blynyddau a dreuliais yma, nid wyf wedi esgeuluso, fel yr esgeulus- odd llawer o'm cydweithwyr tanddaearol, fanteisio ar y gwahanol amserau da a gaf wyd yma. Yn awr, er fod Henaint wedi dechreu ymosod yn dra phenderfynol ar fy nghyfansoddiad, eto, y mae yn gysur nid bychan i mi wybod fy mod wedi dwyn fy mhlant i fyny i'r oedran y gallent ddechren ymladd eu ffordd trwy yr hen fyd yma eu hunain, ac fy mod, drwy gymedroldeb a chynildeb, wedi darbod digon o gynaliaeth i Esther a minau am y gweddill o'n hoes, heb orfod myned at berthynasau neu gyfeill- ion amhens i ofyn am gynorthwy. Yr wyf wedi gweithio y rhan oreli o'm hoes yn nghrombil du y ddaear, ac yr wyf wedi penderfynu, oherwydd dymuniadau taer a pharhaus Esther, druan, i ymadael a'r pwll glo am byth, a mwynhau y yw o'm dyddiau yn ngwyneb a gwres "Ttyrn y Dydd." 0 na b'ai yr holl lowyr ieuainc, yn yr amser da presenol, yn gwario llai ar "yr hyn nid yw fara," a (Lilyn esiampl yr Hen Lowr mewn cyiiikleb, canys f Llawer un, wrth fyw yn gyuiI, O ddwy ddafad aeth i ddwyfil; A jiivwtir un, wrth fyw mewn afrad, Aeth o ddwyfil i ddwy ddafad." Maddeuer i mi am grwydro ychydig fel hyna oddiwrth y pwnc. Yn awr am fy nyfodiad i Aberdar, un o'r ineusydd gloawl cyfoetliocaf yn y byd adnabyddus. Cyrhaeddais yma yn dra blinedig yn mis Ebrill, 1817, ar ol cerclded yr holl ffordd o'm hardal enedigol. Nid oedd y ffordd haiarn mewn bodolaeth y pryd hwnw, oblegyd yn mhen pedwar mis ar ol i mi ddyfod yma y clechreuwyd gwneuthur rheilixordd Cwin Nedd, yr hon a agorwyd ar y 23ain o Fedi, 1851. Llwyddais gael gwaith i dori glo yn Mhwli Powell, yn mha un y cymerodd tauchwa arswydus le tua dwy flynedd cyn hyny, pryd y collwyd 28 o fywydau. Yr oedd yma amryw lofeydd wedi eu 1. In yr amser hwnw. Ymdrechais yn i i ar ol cerdded hwnt ac yma drwy y coedog a garw am rai dyddiau, mcl gwaith yn un o'r pyllau odclieithr yn y pwll peryglus y crybwyllais am dano. Oddiar hyny hyd yn awr, yr wyf yn u-wybod beth yw llafurio yn galed yn ngwahanol lofeydd y dyffryn. Yr oedd ma 11 o byllau glo yn 1853, o'r rhai y „ rid vmaitli yn ddyddiol tua 2,200 neu o dynelli o lo i ddiwallu angen- l'heidian gwledydd estronol. Yn 1851, nid oedd poblogaeth Aberdar, Od wyf yn cofio yn iawn, ond tua 15,000, a infer y tai oddentu 1,500. Yn canlyn, wele nifer yr amrywiol fasnachdai, &c., oedd yma yn 1853 :— Siopau bwyd a dillad 112 dodrefn 6 cyfferiaeth 4 „ cig SO oriorau 2 Argraphdai 1 Ariandai 1 Darllawdai 2 Tafarndai a Gwirotiai 28 Gwneuthurwyr hoelion 6 Gofiaid 26 Pa nifer sydd yma yn bresenol, barned y darllenydd. Yn 1817, sef y flwyddyn y daethum i yma, nid oedd yn yr holl dclyffryn ond un eglwys, sef hen eglwys y plwyf, yn rnynwent yr hon y mae miloedd o'r hen b-wyf olitii, erbyn hyn, yn huno yn dawel Iryd foreu mawr y deffro cyffredinol. Y dyddiad sydd ar gloch yr hen adeilad cysegredig hwn ydyw 1633. Ai dyna'r adeg yr adeilad wyd yr eglwys ? Byddai yr Hen Lowr yn falch iawn i gael goleuni at* y mater drwy gyfrwng y LLAN. Yn 1851, adeilad wyil eglwys St. Ffagan ar draul ( £ 2,500) ac ystad yr Arglwyddes H. Clive yn Heol-y-felin, yr hwn le, oherwydd cynydd anferthol y tai a'r trig- olion, a elwir yn bresenol yn Drecynon. Y mae gwaith alcan yma er's blynyddau, yr hwn waith, ar 01 bod yn segur am rai misoedd, a gafodd ei ail-gychwyn yr wyt linos ddiweddaf gan gwmni cryf. Yn yr un flwyddyn, adeiladwyd eglwys St. El van, yr hon agyfrifid yn un o'r adeiladan harddyf yn y Dywysogaeth. Cynwysa eisteddleoedd i fil o bersonau. Y mae ei thwr uchel yn ymddyrchafu 181) troedfedd o'i sylfaen, ac y mae ynddi glychan a ddaliant eu cymharu, o ran parseinedd, a'r goreuon yn yr holl wlad. Hefyd, addurnir yr adeilad cysegredig gan awrlais amlwg, yr hwn sydd yn taro: yr oriau a'r chwarteron yn hyglyw i'r Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr yn ddi- walianiaetii. Gellir dweyd am yr eglwys hen fel y dywedodd rhyw hen fardd :— Anedd-fawr sanctaidd nod(Ifit,gorfreiniol Gerbrou Duw a'r dyrfa; Er dint na ddeued yma Uu dy Qad a weddwl dli. Yn 1847, yr oedd gan y Methodistiaid 2 gapel; yr Annibynwyr, 2 y Bedydd- wyr, 3; y Wesleyaid, 2 a'r Undodiaid, 1, sef yr Hen Dy Gwrdd, yr hwn a adeil- adwyd yn Nhrecynon yn 1751 gan y Presbyteriaid. Nid oes un hanes am unrhyw blaid Ymneillduol o grefyddwyr yn y lie-cyn y lfwyddyn hono. Yn mhen pum' mlynedd ar ol i mi ddyfod i'r gymydogaeth yr adeiladwyd y ty marchnad presenol. Y Neuadd Dref- ol, yn yr hon y mae swyddfeydd y byrdd- au lleol yn awr, ydoedd yr hen dy march- nad, yr hwn a adeiladwyd yn 1832. Yr oedd yma amryw balasau gorwych hefyd wedi eu hadeiladu y pryd hwnw, y rhai a berthynent i C. Bailey, Ysw., Aberaman; T. Wayne, Ysw., Glandar David Davis, Ysw., Maesyffynon; R. Fothergill, Ysw., Abernant; R. Edwards, Ysw., y Fedw Hir; J. L. R. Roberts, Ysw., y Gadlys Uchaf R. Williams, Ysw., Bryn Heulog, ac ereill. Rhyfedd fel y mae y plwyf hwn wedi cyfnewid yn ystod y deugain mlynedd diweddaf Y mae y cymoedd a'r gwas- tadedd oeddynt noeth ar ddyfodiad yr Hen Lowr i'r He, yn awr yn dewfrith o adeiladau harddwych, a thai eyffredin gweithwyr, yn nghyd a pharc cyhoeddus nad oes nemawr yn well nag ef yn y Deyrnas. Un o'r cymeriadau hynaf a hynotaf a fu yn nyffryn Aberdar ydoedd towr ffraeth o'r enw Lodwic, tad yr hwn a ddaeth i'r gymydogaeth o gyffiniau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn agos i'r Hendy Gwyn ar Daf. Ond nis gallai gael hamdden i rcddi ychydig o'i helynt yn y llith hwn, am fod pynciau gweithfaol y dydd yn hawlio fy sylw nesaf. Cyfar fod y Gofiaid yn Aberdar. Cynaliodd amryw ofiaid a tharawyr dyffryn Aberdar gyfarfod yn y Central Hotel nos Sadwrn diweddaf, er mwyn ystyried y priodol deb o ffiirfio cyfrinfa yn nglyn ag Undeb y Gofiaid a'r Tarawyr. Ar ol clywed yr adroddiad yn nghylch y modd y cerir yr nndeb yn mlaen mewn trefydd ereill, penderfynwyd cychwyn cyfrinfa o'r fath yn y dref, a rhoddodd y rhai oeddynt yn bresenol eu henwau fel aelodau. Gyfarfod o Undeb Meistri Glofaol y Deheudir a Sir Fynivy. Cynaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Sad- wrn diweddaf, yn Nghaerdydd. Mr. James Lewis oedd y llywydd. Cadarnhawyd a mabwysiadwyd yr hyn a wnaeth Cwmni y Plymouth mewn eysylltiad a'r streic bresenol. Rhoddodd Syr W. T. Lewis helynt y ddadleuaeth a gymerodd le rlryngddo ef a chynrychiolwyr y peirianwyr a'r tan- wyr yn Aberdar. Gadawyd y mater i'r pwyllgor a benodwyd i ymdrin a'r cyfryw faterion, ac awdurdodwyd Syr W. T. Lewis i drefnu am gyfarfod yn fuan. Cafodd cynygiad y gweithwyr, sef fod Undeb Meistri Glofaol Deheudir Cvmru a Sir Fynwy i gvmeryd rhan yn y gynadl- edd gynygiedig yn Llundain ar yr 21ain o'r mis hwn, ar bwnc yr wyth awr, ei ystyried, a gwrthododd y meistri undebol gymeryd unrhyw ran yn y gynadledd. Cwmni Newydd G weithimCr Plymouth. Y mae cwmni newydd, gyda 9250,000 o gyfalaf, mewn rhandaliadau o £ 10, wedi dechreu cael ei ffurfio, er mwyn cymeryd at Weithiau'r Plymouth. Y mae y boneddigion canlynol wedi cymer- yd rhan yn yr anturiaeth N. F. Hankey, Chertsey, Surrey. B. F. Hawksley, Mincing-lane. Llundain, cyfreithiwr. J. Collins, 43, Busliey-hill Road, Camberwell, clerc. J F, M'Nair, Tintern, Epsom, cyfreithiwr. H. Palmer, 87, Harcourt-terrace, Llundain, cyfreithiwr. E. Palmer, 81, Harcourt-terrace, Llundain, cyfreithiwr. H. Miller. 20, Rye-bill Park, Peckham Rye, banc ohebydd. Y mae Mr. F. A. Hankey, A.S., wedi cael ei benodi yn gyfarwyddwr am ei oes cymhwysder, £500 mewn rhandal- iadau neu stock. Streic Giveithivyr y Plymouth. Yr wythnos ddiweddaf, danfonodd benthycwyr (mortgagees) Gweithiau y Plymouth wysiauocÎ bymtheg o lowyr i ymddangos gerbron yr ynadon ar y 14eg o'r mis hwn, am absenoli eu hunain o'r gwaith heb roddi rhybudd, a hawliant bum' punt o iawn oddiwrth bob un ohonynt. Cafodd yr holl weithwyr a ddanfonas- ant eu rhybuddion i fewn yn ddyladwy, eu talu ymaith ddydd Sadwrn diweddaf, ond gwrthodwyd talu y gweithwyr na wnaethant hyny. Cafodd gwyr y streic anhawsder mawr i gael glo iddynt eu hunain yr wythnos ddiweddaf, am fod casglu y swm enfawr o lo a geir yn wastiafE ar y tips wedi cael ei wahardd iddynt. Yr oadd hyny yn beth caled iawn nr adeg y rhew a'r eira yma. Ond da genyf ddweyd na fu y gweithwyr au teuluoedd yn hir yn y cyfyngder hwn, canys darfu i Mr, D.. A. Thomas, A.S., ar ol siarad a'i gyd-gyfar- wyddwyr, bellebru y geiriau canlynol at Mr. T. B. Heppell, arolygwr Lefel Lo 19 Danyderi, Troedyrhiw:— "Gall gweithwyr y Plymouth gael glo o Danyderi, ond iddyut ddyfod yno i'w ymofyn pris 8s., yn gymysg." Trefnodd pwyllgor y gweithwyr i'r rhai ohonynt ymweled a'r lefel heddyw (dydd Llun), er mwyn sicrhau y ffordd oreu i gael y glo pL ddygir ohoni, a bwr- iad wyd myned i siarad a swyddogion lleol Rheilffordd Dyffryn Taf, er gweled os gellid gwneyd telerau arbenig a hwy i gludo y gle, Mewn cyfarfod a gynaliodd y pwyllgor foreu ddydd Sadwrn diweddaf, dywed.. wyd fod Mr. Bailey wedi gweled rhai o'r gweithwyr, ac wedi cynyg gadael i'r anghydfod gael ei ystyried eto gan ryw ddau berson arall yn lie Mr. William Tbomas, Pryaawel, a Mr. David Morgan, goruchwyliwr y glowyr. Ar ol i'r pwyll- gor ystyried y mater yn ofalus, pender- fynasant lynu yn wrol wrth Mr. David Morgan, ond dywedasant eu bod yn barod i benodi rhyw berson arall i gydweithredu ag ef ar ian y gweithwyr, a'u bod yn focldlon iddynt hwythau (y meistri) ben- odi dau berson ar eu rhan eu hunain. Nos Sul\srn, ar gais Mr. Bailey, bu dirprwy wyr oddiwrth y gweithwyr yn I ymddiddan ag ef yn ei swyddfeydd. Dywedodd Mr. Bailey wrthynt ei fod yn foddlon i dynu yn ol ei wysiau yn erbyn y glowyr hyny na roddasant rybuddion, ond i'r cyfryw rai ddychwelyd a gweithio allan eu mis o rybudd. Hefyd, dywed- odd ei fod yn barod i adael yr anneall- dwriaeth i gael ei benderfynu drwy gyflafareddiad, ond ni ddywedodd pa ffurf o gyflafareddiad.

Yr Eglwys yn Nghymru.

ADEGAU 0 REW MAWR YN LLUNDAIN.

ACHOS FFRWYDBIADA J MEWN MWNFEYDD.

" LEAD, KINDLY LIGHT."

GOHEBIAETH 0 WENT A MORGANWG.

DORCAS.

Y GWYLIAU.

HYNAFIAETHAU.