Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

Marwolaeth y Milwriad Kemeys-Tynte

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth y Milwriad Kemeys-Tynte Gyda gofid diffuant. yr hysbyswn am farwol- aeth y Milwriad Kemeys-Tynte, Cefn Mably, ger Caerdydd, yrhyn ddigWyddodd yn hysod ddisymwth foreu ddydd Sadwrn diweddaf. Nid oedd er's tua dwy flynedd yn mwynhau ei gynefinol iechyd, ac yr oedd yn amlwg fod ei neirth cynbenid yn diffygio, ond ni thybiodd neb fod ei ddiwedd mor agos. Nos Wener, yr oedd rhai o aelodau y teuiu, gan fod y Milwr- iad yn teimlo ei hun yn lied dda ar y eyfan, wedi myned i ddawnsfa a gynhelid yn Nghaer- dydd ac, mewn canlyniad, yr oedd lliaws o'r morwynion a'r gweision yn aros heb fyned i'w gorphwysleoedd nes y dychwelai y teulu. Am dri o'r glocli boreu ddydd Sadwrn, dywedodd y Milwriad wrth y butler, Mr. Weston, am ofalu myned i Gaerdydd y diwrnod hwnw gyda llyfrau oyfrifon at gyfreithiwr y teulu. Hefyd, anogodd Mr. Weston i fyned i'w wely, gan ddweyd, Teimlaf yn dda yn awr, a gallaf fyned i gysgu." Tua saith o'r gloch yr un boreu, yr oedd un o'r gweision, Mr. John James, yn cyneu y tanau yn ngwahanol ystafelloedd y palasdy, a phan aeth i ystafell ei feistr, canfyddodd, er ei fraw, fod y Milwriad wedi marw yn y gwely! Yr oedd ar ei eistedd yn y gwely, a'r farna gyhoeddir yw ei fod wedi mygu tra yn pesychu. Rhedodd y gwas dychrynedig i hysbysu y teulu am y digwyddiad galariis, y rhai a ddaethanti'r ystafell gyda phob brys. Pan wnaed yn hysbys y newydd galarus, ymdaenodd prudd-der dros y wlad, gan fod y Milwriad ynun a fawr berchid gan bawb. Yr oedd yn Eglwyswr zelog a ffyddlawn, a phob amser yu gwneyd a allai er hyrwyddiant yr Eglwys ymhob modd. Fel noddwr amryw fywoliaethau, yr oedd yn ofalus yn ei benod- iadau. Ni chauiatiiai 13i iechyd iddo gymeryd rhan mewn cyfarfodydd gwleidyddol, ond yr oedd Geidwad-wr egwyddorol a chadarn ar hyd ei oes. Ni roddai dim fwy o foddlonrwydd iddo pa gweled cymdeithasau Ceidwadol yn ymbleseru yn mliarc godidog Cefn Mably, ac yn myned drwy ystafelloedd gorwych y palasdy i syllu ar y miloedd trysorau henafol a gwerth- fawr a gynwysent. Fel ysgolhaig, nid oedd llawer a ddalient gymhariaeth ag ef, yn enwedig mewn pynciau hynafiaethol, &c. Treuliai y rhan fwyaf o'iamser yn ei lyfrgell ysblenydd, yr hon oedd yn llawn o'r llyfrau gwei tlifawrocaf ymhobiaith. Rhoddai gefnogaetli wresog i'r LLAN, ac yr oedd yn aelod o'r pwyllgor. Meddai, etifeddiaethau eang, ac fel tirfeddianwr yr oedd yn ddiharebol am ei hynawsedd a'i gar- edigrwydd i'w denantiaid, y rhai a'i mawrygent bob amser, ac nid oedd pall ar ei haelioni a'i ofal dros y tlawd a'r anghenus. Yr oedd yn Gymro twymngalon, ac yn cymeryd dyddordeb dwfn ymhob peth Cymreig. Meddai ar wybod- aeth eang ynghylch Cymru a'i hynafiaethau, a ehydnabyddid ef yn awdurdod ar dardd-eiriau Cyaareig. Hanai o denlu urddasol, ac adeilad- wyd Cefn Mably gan ei hynafiaid yn y flwyddyn 1150. Ganwyd y Milwriad Kemeys-tynte yn y flwyddyn 1822, ac felly yr oedd yn 69 mlwydd oed pan fu farw. Bu yn briod dair gwaith, ac y mae ei weddw yn ferch i Mr. Richard Fother- giH, gynt A.S. dros Ferthyr Tydfil. Heblaw ei weddw, mae wedi gadael amryw blant i alaru ar ei ol, Teimlir chwithdod am amser maith mewn llawer cylch mewn canlyniad i tarwolaeth y boneddwr hynaws a charedig hwn. Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent Llanfihangel-y-Feuw. ac ymddengys adroddiad am y gladdedigaetli yn ein rhifyn nesaf.

MLWYS GYMREIGEBBW VALE.

EGLWYS GYMREIG ST. NATHAN-IEL,…

.GOHEBIAETH.

LLANBADARN FAWR.

LLANBEDROG.

VAYNOR.

YSTRADYFODWG.

LLANGELYNIN.

CLYDACH.

LLANFAIR-AR-Y-BRYN, PENYGRAIG.

: GAERWEN.

HIRWAUN.

MANCEINION.

YSTRADFELLTE.

LLANPUMSAINf.

DOWLAIS.

SANT FFAGAN, ABERDAR,

FERNDALE.

CAERNARFON.

HYNAFIAETHAU.