Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Llith yr Hen Lowr.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth. Syr,—Mewn atebiad i'r gofyniad o dan y penawd uchod, wedi ei arwyddo -1 J. W. Wynne- Jones," yn eich newyddiadur, dyddiedig Ionawr yr 16eg, yngliylch cyfieithiad dealladwy i'r Gymraeg o'r geiriau Bachelor" a Spinster wrth gyhoeddi gostegion priodas, dymunaf ad- goffa eich gohebydd parchedig, ond iddo ail- daflu golwg dros Ffurf Gweinyddiad Priodas" yr Eglwys yn ei Lyfr Gweddi Gyffredin, y gwel nad oes ynddi uurhyw Reol na Rhuddell yn cyfarwyddo y gweinidog i hysbysu, wrth gyhoeddi Gostegion, pa un ai Bachelor ai I. Spinster," ai ynte Gweddw ydyw y parti'on y cylioeddir eu henwau fel yn bwriadu myned i'r "stad anrhydeddus" hono. Pe amgen, diameu y darparesid yr enwau Cymreig priodol. Mao'n wir y gofynir i'r gweinidog, wrth gof- restru eu henwau ar ol y briodas, mown ysgrifen, yn y golofn o'r Gofrestr, neu'r Register, gogyfer t,Y â hyny, i amlygu pa un ai sengi" ai "gweddw" oeddyut cyu hyny. Ond gan mai'r Saesneg ydyw'r iaith a ddefnyddir yn y Gofrestr, o dan awdurdod, ac at ddybenion y Llywodraeth Wladol, nid oes achos am unrhyw betrusder ynghylch cyfieithiad b'r geiriau crybwylledig i'r Gymraeg. Nid oes angenrlieidrwydd, gan hyny, ich gohebydd, wrth gyhoeddi Gostegion Priodas, amlygu pa un a fu y partion yn briod gynt ai peidio, am fod y cyfryw gyhoeddus- rwydd yn gwbl afreidiol. Os, er mwyn hen arforiad-er mor ddi- awdurdod—mewn unrhyw eglwys, y parheir y fath ychwanegiad di-alw am dano, oni fyddai y gair 14 gweddw," pan yn briodol am y naill neu'r 3 Hall, yn llawn ddigon, heb ychwanegu y gair di-briod," ac yn effeithiol er osgoi yn rhwydd yr anhawsder y crybwylla eich gohebydd am dano. Tybiwyf, fodd bynag, y byddai yn fwy unol a tlirefa unffurfiol, ynghycI a chwaeth dda, i beidio gwneuthur y fath grybwylliad o gwbl wrth gyhoeddi Gostogion Priodas.—&c., Ion. 17, CM-UJICUS MONENSES.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

YN BYW 0 DAN EIRA.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.