Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Llith yr Hen Lowr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith yr Hen Lowr. Aberdar, Nos Lun. Y Cytundeb rhwng Meistri a Oweith- ivyr y Plymouth. Pwy na theimlodd fel pe byddai wedi cael gwared o faich enfawr ar ol gweled yn y LLAN diweddaf fod streic gweith- wyr y Plymouth wedi ei therfynu yn focklhaol ? Yn canlyn, wele yr amgylch- iadau a arweiniasant i'r eytundeb. Boreu ddydd Iau, y 15fed cyfisol, cy- naliodd cynrychiolwyrgweithwyr Deheu- dir Cymru a Sir Fynwy gyfarfod yn y Globe Hotel, Merthyr. Llywyddwyd gan Mr. W. Abraham, A.S., ac yr oedd yr noil foneddwyr oeddynt yn y cyfarfod ar y dydd Mercher blaenorol yn bresenol, oddi- eithr Mr. Lewis Miles. Cafodd Mr. Bailey ymddiddan arall gyda'r cynrychiolwyr, ac o'r diwedd gwnaed cytundeb, drwy yr hyn y terfynwyd y streic. Prydnawn yr un dydd, cynaliwyd cyf- arfod cyffredinol o'r gweithwyr yn y Neuadd Ddirwestol, er mwyn derbyn ac ystyried y cytundeb. Yr oedd holl bwyll- gor y gweithwyr yn bresenol, yn nghyd a holl aelodau cynghor gweithrediadol yr undeb ag oeddynt wedi dyfod i'r dref ac fel yr oeddynt yn dyfod i'r esgynlawr, a Mr. Walter H. Morgan, cyfreithiwr, yn eu plith, rhoddodd y dorf fawr floedd- iadau uchel o gymeradwyaeth iddynt, yn enwedig i Mabon. Cymerwyd y gadair gan Mr. David Morgan, checkweigher, yr hwn ar unwaith a alwodd ar Mr. T. Richards, ysgrifenydd y cynghor sydd yn cynrychioli glowyr y Deheudir a Sir Fynwy, i ddarllen y cytundeb, yr hyn a wnaeth efe fel y canlyn :— Cofnodiad o'r Cytundeb a wnaed rhwng Thomas Henry Bailey, ar ran Hill's Plymouth Com- pany (Limited), a David Morgan a Thomas Thomas, ar ran gweithwyr y Plymouth 1. Fod yr holl weithwyr, pa un a oeddynt wedi rhoi rhybudd ai naddo, i ddychwelyd i weithio yn ddiattreg ar y cytundeb misol fel o'r blaen. 2. Fod y gwysiau yn erbyn y gweithwyr i gael eu tynu yn ol. 3. Fod y cyflogau oeddynt yn ddyledus i'r gweithwyr ar y 3ydd cyfisol, i gael eu talu ddydd Sadwrn. yr 17eg cyfisol. 4. Fod y ddwy ochr wedi cytuno i'r mater gael ei benderfynu gan bwyllgor y Sliding Scale, a'u bod i benodi cynrycbiolwr arall o bob ochr i weithredu gyda Mr. William Thomas a Mr. David Morgan, er mwyn dyfod i gytundeb, ac fod eu dyfarniad liwy i fod yn rhwymedig ar y ddwy blaid, ac yn derfynol. 5. Fod y cwmni yn gyfrifol am unrhyw god- iadau a ddyfarnwyd o laf o Fai, 1890. 6. Fod yr holl weithwyr i gael caniatad i ddychwelyd i'w hen weithleoedd.. 7. Fod y dyfarniad i gael ei wneyd yn ddi- oediad; ond os na ddeuir i gytundeb, fod y gweithwyr i gael bod yn rhydd o'u hymrwym- iadau ar yr Slain o fis Mawrth nesaf. (Arwyddwyd) Dros Hill's Plymouth Company (Limited), Thomas Henry Bailey. Dros weithwyr y Plymouth, D. Morgan a Thomas Thomas. Tyst i lawnodiad y cytundeb, Thomas Richards. Y mae y cytundeb uchod wedi dyfod iddo gyda cliyflawn ganiatad a chyduniad cynghor gweithrediadol Ffederasiwn Mwnwyr Deheudir Cymru a Sir Fyn wy, y rhai a daer ddymunant ar weithwyr y Plymouth i'w dderbyn, a'r rhai a ddaliant eu hunam yn gyfrifol iddynt, os meth- ir dyfod i gytundeb atebol drwy yr ymdrafod- aetii.—Arwyddwyd ar ran y cynghor gweith- rediadol, W. Abraham, Cadeirydd. Ar ol i d lprbyniad y cytundeb gael ei gyiiyg, eynygiwyd gwelliant. Dywedodd Mr. David Morgan, goruch- wyliwr y glowyr, os y gwrthodid y cyt- undeb hwn, y byddai iddo gymeryd hyny fel arwydd ei fod ef wedi colli eu hym- ddiriedaeth hwy (y glowyr). Oni b'ai ei fod yn gwybod eu bod wedi enill buddugoliaeth ogoneddus, ni fuasai efe byth yn llawnodi y cytundeb. Yr oedd ei gymeriad ef mewn perygl yn y mater hwn, ac yr oedd ei gymeriad yn fwy o wertli iddo ef na'r ddwy fil o bunau oedd yn dyfod i weithwyr y Plymouth. Dywedodd Mr. Abraham eu bod wedi gweled digon o'u goruchwyliwr i wybod na fuasai efe yn llawnodi y cytundeb oni b'ai ei fod yn sicr ei fod yn un rhesymol a theg. Gosodwyd y cynygiad i dderbyn y cyt- undeb o flaen y cyfarfod, a chariwyd ef gydag ond un yn ei erbyn. Ceisiwyd gan Mr. Walter H. Morgan i siarad, a dywedodd, yn nghwrs ei sylw- adau, ei fod ef o'r farn fod y cytundeb yn un eithaf teg. Dywedodd Mr. David Morgan ei bod yn ddealledig fod y gweithwyr nos i fyned at eu gwaith y noswaith hono (y 15fed cyfisol), a'r gweithwyr dydd foreu dranoeth. Aeth Mr. Morgan yn mlaen i nodi allan y byddai i fil o bunau gael eu talu i wyr y streic y dydd Sadwrn can- lynol, a'r rheswm na thalwyd hwy ar ddiwedd yr wythnos gyntaf ydoedd, am nad oedd arian mewn llaw gan y Ffedera- siwn, ac oherwydd hyny, iddynt orfod aros i dderbyn y levies. Ar ol i Mr. Alfred Barret (Tredegar) siarad, ac i drefniadau gael eu gwneyd yn nglyn a rhanu tal y streic, diweddwyd y cyfarfod drwy dalu diolchgarwch i'r cadeirydd. Ddydd Sadwrn diweddaf, derbyniodd y gweithwyr oeddynt ar streic ddeg swllt In yr un, yn nghyd a swllt ar gyfer pob un o'u plant. Y Peirianwyr a'r Tanwjxr Glofaol. Er fod Mr. W. Whitcombe, goruchwyl- iwr y dosbarth uchod o weithwyr, wedi bod yn gohebu a'r meistri ddwywaith yn ystod yr wythnos ddiweddaf, nid y w y diwrnod wedi ei benodi eto i gael ym- gynghoriad unol o'r meistri a'r gweith- wyr. Damwain i Glerigwr yn Aberdar. Tra yn dychwelyd adref o Heol-y-felin nos Wener diweddaf, syrthiodd y Parch. J. J. George ar yr ia gerllaw Ysgolion y Pare, a derbyniodd archoll ar ei goes.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

YN BYW 0 DAN EIRA.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.