Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
DOWLAIS.
DOWLAIS. r:AII.Foi) ATHRAWOX.-Nos Iau, y 15fed vyisui, -d cyfarfodydd chwarterol a-thravvon, &c., Ysgolion Sul Seisnig a Chymreig Dowlai;s. Llywyddwyd y cyfarfod Seisnig gan y Jlheitho: pryd y darlienwyd papyr ar Yr 1 J i Hynafol Frythonig," gan Mr. Wood- Geliifaelog. Daeth amryw o'r atnrawon ynghyd, a chafwyd cyfarfod hynod o ddyddor;d. Llywyddwyd y cyfarfod Cymreig gan y Parch. D. Evans, pryd y darllenwyd papyr gan y Parch. W. L. Hughes ar Gredo'r Apostoiion." Y PWNC.—Prydnawn Sul, y 18fed, ymgynull odd yr Ysgolion Sul Cymreig yn yr Eglwys Gymreig, er myned drwy y pwnc chwarterol. Er fod yr bin yn erwin, daeth yr ysgolion ynghyd yn hynod o dda. Dechreuwyd y gwas- anaeth drwy i'r Parch. W. L. Hughes ddarllen y Litani, yna holwyd y plant yn ddeheuig gan y Parch. D. Evans, yn yr wythfed benod o'r Ail Gatecism. Holwyd y bobl mewn oed gan y Parch. Ganon Roberts, yn Hebreaid i. Aeth yr ysgolion drwy eu gwaith yn ganmoladwy, a chan fod yr atebion yn fwy cyifredinol nag erioed, mae dyddordeb yr ysgolion at y "Pwnc," i bob golwg, ar gynydd. COR YR EGLWYS GYMBEIG.—Mae boddlon- rwydd mawr wedi ei roddi i'r c6r, trwy fod y Rheithor wedi darparu llyfrau heirdd a phwr- pasol iddynt. at eu gwasanaeth yn yr eglwys. Bydd y llyfrau yn hwylusdod mawr iddynt hwy ac yn galondid i'r precentor galluog, Mr. Morgan Lewis. Nid gormod ydyw dweyd fod ccir mor rhagorol yn teilyngu pob cefnogaeth.
RHUTHYN.
RHUTHYN. BWRDD Y GWA::CUEIDWAID.—Cynhaliodd y bwrdd ucliod ei gyfarfod pythefnosol ddydd Linn, y 12fed o'r mis hwn. Yr oedd yn bre- seuoi Mri. Thomas Jones (y cadeirydd), E. 0. V. Lloyu, Owen Williams, William Jones, E. T. Tones, Francis Beech, Edward Jones, J. ki I tÙ-ünhiton, Gomer Roberts, J. Roberts, Wm. Lloyd, Thomas Jones, T. P. Roberts, W. T. Tiouw, n. 'VJr. R. H. Roberts, y clerc. Apwynt- iwvd h'. R. Lloyd, Llanelidan, i fod yn gof- restrydd genedisaethau a marwolaethau dros ranhartli Llanelidan. YR HIN OER.—Y mae y tywydd yn para yn hynod oer yny dyffryn prydferth hwn, a llawer, mewn canlyniad, allan o waith ac y mae lie i ofni fod llawer teulu ya fyr o angenrheidiau bywyd. Cyfranwyd glo yn ddiweddar yn y dref hon, er mwyn cynorthwyo y tlawd, a'r rhai hyny sydd allan o waith. Duw a roddo ras i'r bobl ddioddef yn amyneddgar.
L L E Y N.
L L E Y N. Unwaith yn ychwaneg y mae yr offeiriad a'r cerddor galluog, y Parch Owen Davies (Eos Llechid), rheithor y Rhiw, wedi ei daflu i ganol pair poeth profedigaeth cliwerw yn marwolaeth ei hoifus fab, Mr. Edmund Davies, ysgolfeistr, Llandyfnan, Mon. Bu i'r Eos bump o fechgyn addawol, a chafodd y fraint o'u gweled oil wedi tyfu i fyny, ac i droi mewn cylchoedd pwysig mewn cymdeithas, a llenwi sefyllfaoeddanrhyd- eddus, a hyuy gyda llwyddiant anghyffredin. Ond Ow wele y gelyn angeu wedi symud y diweddaf o hornynt oddi ar chwareufwrdd amser i'r byd ysbrydol. Cafodd Mr. Davies hir a mynych wendid, a bu am fisoedd yn rhodio glan yr hen afon donog, ddu marwolaeth. Yr afiechyd twyllodrus, y darfodedigaeth, oedd wedi ^afael yn nghyfansoddiad ei berson hardd a lluniaidd, ac er pob gofal gwraig hoBus a charuaidd, a gailu y meddygon goreu, a chared- igrwydd cyfi'redinol perthynasau a chyfeillion mynwesol, bu y gelyn angeu yn drech na hwynt oil. A phriodol gerfiad ar faen cof iddo fuasai yr englyn hwn y bu ugeiniau o weithiau yn ei ddarlien yn bersonoi, ac sydd i'w weled ar gareg fedd, wrth oelir y llwybr sydd yn arwain i'r eglwys yn hen fynwent ei blwyf enedigol, Llanllechid :— Wele, er cri f'anwylyd—er eli Er olion yr hollfyd Nychais yn wan o iechyd, N es goi-phwys o bwys byd." aeth'yffifcau i dawel orphwys oddiwrth ei lafur, yn nglianol arwyddion amlwg ei fod yn myned i well gwlad i fyw. Yr oedd y Parch. Sinnett Jones, rheithor Llandyfnan, plwyf yr oedd yr ymadawedig wedi bod yn ysgolfeistr llwyddianus am flynyddau, yn ymwelydd cyson ag ef i weini cysuron ysbrydol iddo. Yr oedd yn gerddor campus, a chyfansoddodd amryw ddaraau elasnrul yn anthemydd naturiol, ac eailiedd ar amryw o dônatl mewn cystadleu- -LI, aeihau pwvsig chwareuai yr organ gyda medr •d'.hafal bron yr oedd hefyd yn fardd naturiol, f) ryw a gwaed yr awen wir. Y mae y penill- ¡,)11 a gyfansoddodd ar foddiad ei eneth fach yn Saesueg yn cynwys gemau prydferth jr iaith. Ond ynyhanol ei alluoedd disglaer a'i fawr •idefnyddioldrib, hunodd yn ieuanc yn mreichiau i anwyl Waredwr, yn 36 mlwydd oed, gan adael i alaru eu colled ar ei ol weddw dorcalon- '1" a phump o blant amddifaid, tad a mam a $ji^dair chv/aer gariadus, a 11a o beirthynasau a -'byfeiiiioTi' mynwesol galaras. Yr Arglwydd vdtlo sjymorth iddynt oil i ddal o dan y brof- edi<'aetii chwrw a'u goddiweddodd yn nyffryn Cvaded iddynt fod dan nawdd ac aden- «M uii-idiflS'sioi y Set.'—Ap Morus.
CAERNARFON.
CAERNARFON. AXGLADD MILWROL.—Ddydd Ian diweddaf, hebryngwyd y rhan farwol o Mr. John Murry, Hendref Street, o'r dref hon, i orwedd yn myn- went Llanbeblig. Am lawer o flynyddau bu yn adod o'r gwirfoddolwyr, pa rai a flaenorasant yr angladd. Gwoinyddwyd gan y Parch. J. W. Wynne-Jones, M.A., ficer. Ar lan y bedd, gwnaeth y gwirfoddolwyr eu rhan yn y dull arferol. Gadawodd briod a phlant i alaru eu colled ar ei ol. LLAFUR DYFOHOL YR YSGOLION SUL.-Da genyf Jdeall fod maes llafur wedi ei dori allan gogyfer a" arholi aelodau Ysgolion Sul Eglwys- ig ein tref, set 1 Cor. xv. Dyma symudiad yn yr iawn ffordd er creu undeb Eglwysig, ac i feithrin gwyb'odaeth mewn perthynas k phync- iau ifydd yr Eglwys Gatbolig. r, z!1 YSTAFELL ADLONIADOL NEWYDD. — Erbyn hyn mae ystafell adloniadol gyfleus wedi cael ei hiigor yn Mhorth yr Aur, y dref hon, er rhoddi maniai* i blant tlodion fwynhau eu huuain m 'wn darlien llyfrau buddiol a thrwywahanol chwareuon diniwed, yn hytrach na'u bod yn cyflawni drygaii hyd yr heolydd. Agorwyd yr ystafell hon gan ein parclius Ficer trwy wledd i'r COifÍ, a chafwyd ^y.-ledd i'r meddwl trwy • :;ymiryw a boneddig- a gyriirrsit.it :.rJdrddordeb yn y gwaith da n. i?->. vw jjwoio'ri ••i-tVdliadau o'r fath yn c 'tie'ill Y(I(1d:vnt i ddarpRtw-ng y gwn^f sto fwy yp y QJ ieiriad ym&. HELYNT Y BATON Aup,Mawr yw yr ystwr i mewn perthynas i'r llaw-ffon aur hon, pa un a enillwyd ddwywaith gan gor y dref hon yn y ddwy eisteddfod ddiweddaf. Teimla aelodau y cor mai hwynt-hwy oedd a. hawl iddi, ond mynai yr arweinydd gadw meddiant ohoni. Yr wyth- nos hon awd a'r hawl i'w drafod i lys barn, a mawr y dyddordeb ynglyn a'r mater. Wedi gwrando amryw dystion, teimlai y barnwr mai gwell fyddai iddo gadw ei ddyfarniad am amser eto, gan adael pawb i ddyfalu pa fodd y try y fantol. Rhyfedd fel y bodola gwahanol olyg- iadau hyd yn nod mewn cysylltiad a phetb di- bwys fel hwn, a'rcwbl i'w briodoli i ddiffyg undeb. Mae yr anghydfod hwn wedi bod yn foddion i greu gelyniaeth cydrhwng cyfeillion a'u gilydd. PABYDDIAETH YW POBPETI-I NEWYDD.—Di- amheu iod ein Heglwysi wedi esgeuluso dwyn i mewn' lawer o arwyddion sydd, ond darllen hanes yr Eglwys gyntefig, yn angenrheidiol eu cadw mewn parhad, er bod yn gyffelyb i'r Eg- Iwysi Cristionogol cyntaf. Gymaint yw yr an- wybodaeth ynglyn a puethau o'r fath, fel pan symudir ymlaen yn y cyfeiriad hwn, coda rhai dynion eu llais, gan ddweyd mai Pabyddiaeth yw pobpeth'nad ydynt wedi ei weled o'r blaen. Oredwyf, pa agosaf yr awn i wneyd a chadw arferion cysylltiadol henafol yr Eglwys, mwy cymeradwy fydd yr addoliad. Mae lie i ofui weithiau nad yw eiu hoffeiriadon yn ddigon penderfynol mewn cario allan hen arferion, ond yn hytrach yn rhoddi i mewn i'r gwran- dawyr, cyn yn gyntaf eu dysgu i weled yr angenrlieidrwydd am arwyddion cysgodol o'r Sylwedd Mawr. Lie bynag y mae Ymneillduaeth yn enill tir, mae hyny i'w briod- oli i raddau mawr i ddiffyg ymlyniad wrth hen arferion gosodedig yr Eglwys Gyntefig. Am danaf fy hun, gwell genyf anfoddloni dynion na dibrisio egwyddorion ac arterion sydd wedi dal eu tir yn ngwyneb pob cyfnewidiad sydd wedi bod ar fyd. Gwaith hawdd ydyw enill poblog- rwydd wrth fyned ar ol tueddiadou dynion, y rhai y gellir eu troi gyda phob awel dysg- eidiaeth sydd yn cydfyned a'u teimlad hwynt. Os am enill buddugoliaeth ar y byd, y cnawd, a'r diafol, glynwn wrth ein proffes a'n hen ar- ferion cysegredig. Y DULL NEWYDD o GLAI)DU.-Mawr oedd y cri yn y wlad am ddull newydd i gladdu, ond erbyn heddyw mae cyfnewidiad mawr wedi cy- meryd lie, hyd yn nod ymhlith yr Ymneilldu- wvr, y rhai yn ddyddiol sydd yn anwylo hen drefn gysegredig ein Heglwys. Y dydd o'r blaen, yr oedd Cristion cywir yn ffarwelio a'r bywyd yma, ac yn ei funydau olaf dywedai, Gadewch i mi fyned drwy yr Eglwys a thi-efn ei gwasanaeth i'm gwely olaf," er ei fod am 50 mlynedd yn aelod gycÏa'r Bedyddwyr yn ein tref. Gwnaed yn hysbys ei ddymuniad olaf i'n parchns l-icer, yr hwn a gydsyniodd âï gais.— Un o Feibion yr Eglwys.
NODION 0 GROESOSWALLT.
NODION 0 GROESOSWALLT. Dirwest.—Ddydd. Llun, y 12fed cyfisol, mewn cysylltiad ag Eglwys y Drindod, cynaliwyd dau gyfarfod—un yn y pryd- nawn a'r Hall yn yr hwyr—mewn ystafell gyfleus perthynol i'r plwyf, pryd y llyw- yddwyd ar y ddau achlysur gan Esgob Llanelwy. Dyben y cyfarfod oedd rhoddi tipyn mwy o fywyd yn y gwaith dirwestol yn y plwyf—i symbylu y rhai oeddynt bresenol i gymeryd rowy o ddyddordeb yn y gangen bwysig hon o waith yr Eglwys. Gwahoddedigion gwraig hy- naws Faer y dref a gyfansoddai y cyfar- fod prydnawnol yn gyfangwbl, Daeth oddeutu cant yn nghyd ac ar ol anerch- iad gwir ymarferol gan yr Esgob, ac araeth hyawdl a doniol dros ben gan ryw foneddiges oedd wedi dyfod o bell i siarad a'r chwiorydd yn y dref, cafwyd te ar draul yr haelionus Mrs. Corrie, Park Hall. Am 8 o'r gloch, cafwyd yr ail gyfarfod. Yr oedd yr ystafell yn orlawn y pryd hwn. Gwelwyd llawer yn y dorf oedd- ynt gaethweision a chaethforwynion i'r ddiod gadarn, a gwedd y naill fel y llall yn dangos yr ymadawent yn fuan, pe medrent, druain anffodus, a gwasanaeth y meistr caled. hwn. Cawsant gynghor- ion gwerthfawr ac os y cymer y dir- westwyr fwy o ddyddordeb yn en brodyr a'u chwiorydd sydd wedi syrthio i ddiota, gwelir gwell agwedd ar y plwyf ac Eg- lwys y Drindod yn fmHl iawn. Cur ad Neit,ydd.-Y Parch. J. H. Rees, o Athrofa Rhydychain, sydd wedi olynu y Parch. W. L. Richards, yr hwn sydd yn awr yn gweithio yn Llandudno. Bendith fo ar ei waith ef yma. Eglwys y Plwyf.-Cynaliwyd nodach- fa mewn cysylltiad ag ysgolion Sul y plwyf hwn nos Fawrth, y 13eg cyfisol, yn y Victoria Rooms. Yr oedd rhai canoedd o blant wedi dyfod yn nghyd. Ond ni chawsai neb gymeryd rhan yn y wledd hon ond y plant oeddynt wedi mynychu yr Ysgol Sul ddeugain o weithiau yn ystod y flwyddyn. Rhoddid gwobr i bob un o'r rhai hyn mewn paper-money; felly, dyben y nodachfa yma oedd agor marchnad i'r plant i basio eu hapian. Yr p r oedd y byrddau yn Uwythog o Feiblau, Llyfrau Emynau, Llyfrau Gweddi, a llyfrau buddiol ereill, yn nghyd a dolls, dillad, handkerchiefs, &c. Golygfa gwerth ei chofio oedd gweled cynifer o blant gyda'u gilydd, a phob un yn newid ei arian am y cyntaf, a'r oil yn lion ac yn fywyd i gyd. Y Parch. R. B. Faulkner yw arolygwr Ysgol Sul y Saeson, a'n cyfaill Mr. John Da vies, Pool Road, ydyw arolygwr Ysgol Sul y Cymry. Llwydd- iant i'r ddwy ysgol.
LLITH 0 DDYFFRYN MAELOR.
LLITH 0 DDYFFRYN MAELOR. Anaml, Mr. Golygydd, y gwelir nodion o'r dyffryn uchod ar dudalenau eich newyddiadur clodwiw. Nis gellir priodoli hyn i ddiffyg bywyd yn y dyffryn-nid bywyd llysieuol a feddyliaf, gan, mi debygaf, fod pob dyffryn yn ein gwlad rywbeth Yl1 gyffelyb, yn yr ystyr hon, ar yr adeg yma o'r flwyddyn—ond mewn j ystyr fasnachol ac Eglwysig yr ydym yn llawn bywyd ac yni. Os marw ydyw anian, mae ein masnach a'n Heglwys yn fyw. Ac efallai mai y busy times yma sydd yn esbonio, i ryw raddau, ddistaw- rwydd eich gohebwyr yn y rhanbarth hon o'r wlad, gan, mi dybiaf, fod eu hamdden i gymeryd yr ysgrifell i'w llaw yn brin. Gyda chymaint a hynyna o ragymadrodd, ni a sylwn ar ychydig bethau sydd yn myned ymlaen yn y dyffryn. Masnach.—Nis gallwn ddweyd ein bod vn cofio amserau gwell, a masnach yn hvy bloq.euog-digonedd o waith, y pyll- 11.1 llaww SWiit, 1r: cyieg ya ( achel. Pump a chwe' blynedd yn ol, da iawn oedd dau neu dri turn o waith yn yr wythnos, a phris y glo yn isel heblaw hyny. Ond yn awr mae tro ar fyd wedi cymeryd lie, oriau IlaNvu a phrisiau uchel. Nis gellir dweyd fod pethau yn llawn cystal yn ein brickyards. Un rheswm am hyn yw gerwinder yr hin, ond dis- gwyliwn, pan ddaw pelydrau cawr y dydd yn fwy nerthol, y daw ei belydrau a llewyrch i fasnach y priddfeini. Ond beth yw effeithiau masnach frigog a chyflogau uchel ar yr ardal yn gyffredinol? A ydyw yr effeithiau yn ddaionus ? Dywed rhai eu bod. Edrychwch, medd- nut, ar y casgliadau mawrion a wnaed gan AnghydSurfwyr y Rhos. Glowyr yn cyfranu £600 ar un prydnawn Sul. Buasai hyn yn anmhosibl ar wahan i'r cyflogau mawr. Digon gwir, ond y mae bron mor sicr a bod y swm uchod wedi ei gasglu, na buasai ddim wedi ei wneyd oni bae fod yna elfen o jingoism wedi ei dwyn i fewn mewn perthynas ag ef—un enwad wedi penderfynu na adawant i'w cariadus frodyr o'r enwad arall eu euro. Nid canlyniad y cyflogau mawr yn unig yw y casgliadau mawr, ond mae gan y ffaith fod dau geiliog enwadol wedi eu rhoddi i yinladd a'u gilydd lawer iawn i'w wneyd a haelioni Anghydffurf- iol Dyffryn Maelor. Cawn well arbrawf o effaith ein masnach lwyddianus yn am- gylchiadau cyffredin bywyd y trigolion nag mewn casgliadau mawr. Cwestiynau o'r natur yma a ddengys natur ein llwyddiant—A ydyw y trust yn llai yn y siop nag ydoedd amser yn ol ? Beth am bres ysgol, a yw y rhai hyn yn cael eu talu yn well ? A delir yr ardreth yn fwy cyson ? A' yw y teuluoedd yn fwy trefnus eu gwisgoedd, a'r tai yn well eu dodrefniad ? Credwn fod hyn yn well test o lawer i ddangos effaith ein llwydd- iant na big collection fights rhwng dau enwad. Ac yn y cysylltiadau a nod wyd, ni phetruswn ddweyd mai ychydig yw effaith ddaionus yr "amserau da." Gresyn yw gorfod addef fed swm mawr o'r arian a enillir yn nghanol peryglon, a thrwy gymaint o chwys, yn cael ei was- traffu mewn afradlonedd a phechod. Difrifol yw iiiedd-wl nad ywychwaneg- iad mewn cyflog ddim yn golygu-yn achos canoedd o lowyr ein hardal- ychwaneg o ddiddosrwydd i draed haner noethion a chefnau carpiog eu rhai bychain nid yw yn meddwl ychwaneg o fwyd yn y cwpwrdd a chysur ar yr aelwyd, ond yn hollol i'r gwrthwyneb— ychwaneg o drueni a phob anghysur. Cofied ein cydweithwyr na phery yr amserau da byth, ac y daw tro ar yr olwyn eto, set amser byr a chyflog bychan, ac yna ceir amser i edifarhau am yr afradlonedd presenol. Ond ni thycia, oblegid ni bydd ile i edifeirweh, Ni a a, ddiweddwn y rhto hon o'n Uith gyda dwy hen ddiareb Seisnig-un o rybudd, a'r llall o anogaeth-" NVilf -Lil waste makes woeful want," "Make hay while the sun shines," Cawsom yr hyfrydwch o fod yn bre- senol mewn cyfarfod o'r C.E.T.S. yn Ysgoldy Cenedlaethol y Rhos nos Ferch- er diweddaf. Daeth nifer weddol dda ynghyd, ac ystyried yr hin. Cadeiriwyd gan Ficer y plwyf, yr hwn, ar ol anerch- iad byr a phwrpasol, a alwodd ar y Parch. D. Davies, ysgrifenydd y C.E.T.S. yn Esgobaeth Llanelwy, i draddodi anerch- iad. Ni chawsom ein boddhau gymaint er's amser maith mewn araithddirwestol, ac yr ydyin yn calonog longyfarch y gymdeithas ar benodiad Mr. Davies. Yr yedd y difrifoldeb k pha un y triniai y pwnc yn eglur ddangos fod ysbryd yr ysgrifenydd yn y gwaith. Rhwydd hynt iddo ydyw ein dymuniad diffuant, a gobeithio y cawn ei glywed yn fuan eto. Deallwn fod y Parch. T. Jones, Ficer y Rhos, yn brysur wrth y gorchwyl q gasglu arian tuag at adeiladu eglwys new" ydd yn Johnstown, rhan o'rjplwyf sydd yn myned ar gynydd cyflym. Clywsom fod dros £1,000 wedi eu haddaw eisoes. Ein dymuniad ydyw ar i'r rhelyw o'r arian ddyfod yn fuan i law, ac yr adeil- adir eglwys fyddo yn addurn i'rlle, ac yn ganolbwynt crefyddol i'r rhan bwysig hon o blwyf y Rhos. Mae y Parch. M'Lane yn traddodi cyf- res o ddarlithiau yn y Dyffryn yn bre- senol dros Gymdeithas Amddiffynol yr Eglwys. [Dywedir fod y darlithiau yn benigamp, ac yn cael eu hegluro gyda'r magic lantern, yr hyn sydd yn gymorth mawr i'w hargraffu ar y cof. Hyderwn gael y fraint o'i glywed yr wythnos hon, ac fe geir hanes y ddarlith yn ein llith nesaf. MABIOR.
MARWOLAETH Y DUC SOMERSET.
MARWOLAETH Y DUC SOMERSET. Bu y pendefig hwn farw ddydd Sad- wrn yn Brighton, i'r hwn le yr aethai i geisio adferiad iechyd. Yr oedd yn 80 mlwydd oed. Ni bu efe yn briod, a dis- gynafei (J.eitJ. i'w frawd, Arglwydd Banks De Maur, • •-— —-—
11 0 DDYNION WEDI EU LLADD…
11 0 DDYNION WEDI EU LLADD MEWN MWNGLAWDD. Tra yr oedd nifer o ddynion yn cael eu gollwng i lawr i lofa Utica, ger St. Andreas, Califfornia, ddydd Mawrth, tor- odd y rhaff, a chwympodd y cawell i r dyfnder o 450 o droedfeddi. Lladdwyd 11 o ddynion yn y fan.
—.-Y DIWEDDAR GANON LIDDON.
— Y DIWEDDAR GANON LIDDON. Yn ei erthygl ddyddorol yn y Contem- porary Review ar y diweddar dduwinydd dwfn a phregethwr hyawdl a fyddai yn arferol o gadw y torfeydd a gyrchent i'w wrandaw yn pregethu yn mhwlpud St. Paul's yn hoeliedig wrth ei wefusau am dros awr o amser, y mae y Canon MacColl yn gwrthbrofi syniad ag sydd yn cael ei goleddu yn lied gyffredinol o barthed i'w gysylltiadau a'r Llys Brenhinol. Y mae yn gwadu yn bendant ddarfod i'n Bren- ,b.1J.ej¡ y Liddon ifoel yn esgob. Ni chynygiwyd esgobaeth iddo cyn y flwyddyn olaf o'i fywyd, pan y cafodcl gynyg ar St. Albans. Rai blynyddoedd yn flaenorol, pan oedd dwy esgobaeth yn digwydd bod yn wag, darfu i'r Prif Weinidog erfyn ar Ddeon St. Paul's i wneyd ymchwiliad personol o barthed i deimlad y Dr. Liddon perthy nas i'w etholiad i wisgo y meitr. Canlyniad hyn oedd i'r Dr. Liddon ddatgan ei wrth- wynebiad pendant i ymgymeryd a dyled- swyddau nad oeddynt yn cydfyned a'i dueddiadau, ac, fel y barnai ef, a'i allu- oedd, ac i hyn y dylid priodoli y ffaith na wnaed ef yn esgob.
----- ..! COLEG Y BRIFYSGOL…
COLEG Y BRIFYSGOL I GYMRU, ABERYSTWYTH. YSGOLORIAETHAU. Y mae Senodd y Coleg hwn wedi dy- farnu yr ysgoloriaethau canlynol i'r ym- geiswyr llwyddianus yn yr arholiad a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf. Gwerth yr yngolori aeth.au ydoedd £ 10 yr un :—Howell Davies, Abernant, Sir Gaer- fyrddin Thomas E. Jones, Gwrecsam Robert John Jones, Pwllhel D. Cad van Jones, Caerfyrddin, a John Thomas Jones, Gaerwen, Mon. Yr oedd ygystadleuaeth yn gyfyngedig i rai genedigol o Gymru, neu ynte i rai yn medru Cymraeg.
. Y FRENHINES A'R CHWISCI…
Y FRENHINES A'R CHWISCI CYMREIG. Llawenychwyd calon cyfranddalwyr y ddarllawfa chwisci Cymreig, yr hon a saif ar lan yr afon Tryweryn, Trawsfynydd, y dydd o'r blaen gan yr hysbysiad fod ei Mawrhydi y Frenhines wedi mynegu ei bod yn cymeryd gryn ddyddordeb yn nistylliant y chwisci Cymreig. Ym- ddengys mai y dull a gymerodd ei Mawr- hydi i wneyd hyn yn hysbys oedd gor- chymyn fod darluniau a phlaniau o'r ddarllawfa yn cael eu hanfon yn ddi- atreg. Yna, dywedir fod ei Mawrhydi yn rasol, w^di cydsynio i dderbyn rhyw gymaint o'r gwirod newydd yn anrheg ac i'r dyben o gludo y cyfryw i'w chastell yn Windsor, gwnaed costrel arbenig, a dodwyd y ddiod ynddi.
HEN WRAIG YN LLOSGI I FARW-j…
HEN WRAIG YN LLOSGI I FARW-j OLAETH YN NHREFFYNON. Ddydd Llun, cynhaliodd crwner Sir Fflint drengholiad i achos poenus o farw- olaeth trwy losgiad yn Mhantasaph, ger Treffynon. Hen wraig o'r enw Mary Williams ydoedd y drancedig, yr hon a drigai gyda'i merch; a'r dydd Gwener blaenorol aeth y ferch i Dreffynon, gan adael ei mam yn y ty ei hunan. Ar ei dychweliad cafodd y ty yn llawn o fwg, a'r drancedig ar lawr y gegin wedi ei ifbsgi yn ddychrynllyd. Rhoddwyd hi yn ei gwely yn fuan, ac anfonwyd am feddyg, ond dydd Sul rhyddhaodd angeu yr hen wraig o'i phoenau dirdynol cyn iddi ddweyd pa fodd y digwyddasai y ddamwain. Dedfryd y rheithwyr ydoedd iddi "farw yn ddamweiniol drwy losgi."
——o-----MARWOLAETH MR. J.…
— —o- MARWOLAETH MR. J. DONALD BELL. Y mae yn ofidus genym gofnodi marw- olaeth y gwr da uchod, yr hwn a fu am flynyddau yn un o reolwyr y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. Cyflawnodd Mr. Bell ei ddyledswyddau gyda medr a ffyddlondeb, ac enillodd iddo ei hun gylch eang o gyfeillion. Yr oedd yn byw yn LJynlleifiad, ac yn cymeryd y rhan flaenllaw gydag amryw gymdeithasau llenyddol a gwyddonol yn y ddinas. Efe oedd llyfrgellydd Cym- deithas yr Arlujywyr, o ba un yr oedd yn aelod gweithgar, Mewn gwleidyddiaeth, yr oedd yn Geidwadwr aiddgar, er na fyddai yn cymeryd y rhan flaenllaw mewn materion gwleidyddol. Teimlir colled fawr ar ei ol.
» » GWAELEDD IECHYD AELODAU…
» » GWAELEDD IECHYD AELODAU SENEDDOL CYMREIG. Drwg genym ddeall fod Mr. Pritchard Morgan, A.S., yr "Aur Frenin," yn bur wael ei iechyd yn Llundain, ac yn gyf- yngedig i'w ystafell, ond credir y bydd yn alluog yn fuan i afael yn ei ddyled- swyddau seneddol. Mr. Dillwyn, yr aelod henafol dros Abertawe, yw y nesaf. Y mae ef wedi bod yn dioddef gan bronchitis a conges- tion yr ysgyfaint. Er ei fod gwrs yn well,, gorchymynodd ei feddyg iddo beidio ymgymeryd a dim ymrwymiadau cyhoeddus am amser. Un o'r hen ysgol o Radicaliaid yn Nhy y Cyffredin yw yr aelod anrhydeddus. Ganwyd ef y flwyddyn cyn brwydr Waterloo, ac y mae wedi cynrychioli y dref Gymreig a enwyd yn ddifwlch am 36 o flynyddoedd.
ARCHESGOBAETH CAEREFROG.
ARCHESGOBAETH CAEREFROG. Y mae y Gwir Barchedig William Connor Magee, Esgob Peterborough, wedi cael ei enwi gan y Goron i fod yn olynydd i'r diweddar Dr. Thompson fel Arch- esgob Caerefrog. Ganwyd yr Esgob Magee yn Cork yn y flwyddyn 1821. Ei dad ydoedd y Parch. John Magee, curad plwyf Cadeiriol Cork. Wedi derbyn ei a.ldysg yn Ngholeg y Drindod, dechreu- .odd ei yrfa glerigol mewn curadiaeth yn Dublin. Wedi talu ymweliad a Malaga er lies ei iechyd, yr hwn ni fu un amser yn gryf iawn, efe a dderbyniodd gurad- iaeth St. Saviour's, Bath, yn 1848. Dwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd ef yn gyd-lafurwr ag Incumbent yr Octagon Chapel, yn y dref hono, ac ymhen ych- ydig yin Incumbent. Yno y gwnaeth ei fare, fel y dywedir, yn fwyaf neillduol mewn cysylltiad a'r gwaith o amddiffyn yr Eglwys. Yn ystod y naw mlynedd a dreuliodd yn Bath y traddododd ac y cy- hoeddodd amryw o anerchiadau taraw- iadol ar faterion pwysig, heblaw dyfod yn siaradwr mynych ar lwyfanau y gwa hanol gymdeithasau Eglwysig. Yn 1856, aeth i Lundain fel olynydd i'r Debni Goulbum yn y Quebec Qkapei, ac yu L860 penodwyd ef i reithoriaeth Innis- iillen gan Brifysgol Dublin. Pedair olynedd yn ddiweddarach, gwnaed ef yn Ddeon Cork. Yn 1868, penodwyd ef gan Mr. Disraeli i Esgobaeth Peterborough, ac snwogodd ei hun yn fuan yn Nhy yr Arglwyddi drwy ei araith hyawdl. yn erbyn Dadgysylltiad yr Eglwys Wyddolig. Y mae nid yn unig yn enwog fel areith- ydd, ond hefyd ar gyfrif y dull llwydd- ianus y gweinyddodd yn ei Esgobaeth. Llafuriodd yn galed fel Esgob Peter- borough am ddwy flynedd ar hugain, a thrwy ei ddiwydrwydd a'i weithgarwch diflino ef y mae y marweidd-dra a nod- weddai yr Esgobaeth yn flaenorol i'w ben- odiad wedi ei symud ymaith. Gellir dweyd fod ei benodiad i olynu y Dr. Thompson yn nghadair Caerefrog wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol, gan ei fod yn "hollol anmhleidgar, ac yn dra phoblogaidd gyda phob plaid Eglwysig.
,..-— LLOFRUDDIAD PRIODASFERCH.
— LLOFRUDDIAD PRIODASFERCH. Cymerodd digwyddiad erchryslawn Ie yn Alabama, yr Unol Daleithiau, yr wyth- nos ddiweddaf, pryd y llofruddiwyd priodasferch ar ddydd ei phriodas. Yr oedd y gwasanaeth yn yr Eglwys ben- trefol newydd orphen, a'r. par ieuanc yn derbyn llongyfarchiadau cyntaf eu perth- ynasau a'n cyfeillion, pan y saethwyd ergyd trwy ffenestr yr Eglwys ac y lladd- wyd y wraig ieuanc yn y fan. Rhuthr- odd y dynion oeddynt yn y parti allan ar unwaith i ddal y llofrudd, ond ni welsant neb yn agos i'r adeiliad yn unlle, ac ni wasanaethodd yr ymchwiliadau a wnaed yn ddilynol i sefydlu unrhyw brawf o'i hunaniaeth. Y mae drwgdybiaeth, fodd bynag, wedi syrthio ar garwr gwrthod- edig y ddynes anffodus, a thybir iddo gyflawni y weithred ysgeler pan yn dioddef oddiwrth wallgofrwydd amserol oherwydd ei wrthodiad ganddi.
... OFERGOELEDD YN FFRAINC.
OFERGOELEDD YN FFRAINC. Er gwaethaf y symiau anferth o arian sydd wedi eu gwario yn y blynyddoedd diweddaf er addysgu y tlodion, y mae ofergoeledd anghredadwy bron yn parhau i ddal gafael ar y werin yn Ffrainc (sylwa gohebydd y Standard). Cafwyd prawf ychwanegol o hyn mewn digwyddiad a gymerodd le y mis diweddaf mewn pen- tref yn Nhalaeth y Pyrenees Orientates. Ar yr lleg o Ragfyr, fe frathwyd bachgen bach pump oed, o'r enw Francois Lleuse, gan gi cynddeiriog. Anfonodd ei dad ar unwaith am ddewin a drigianai yn y lie, yr hwn, fe ymddengys, a feddai gymer- iad mor uchel yn mhlith y bobl, fel y bu hyd yn nod i Faer y pentref gymeradwyo gwaith y tad yn ymgynghori ag ef. Yn unol a chyfarwyddyd y dewin, cauwyd y plentyn, druan, mewn ystafell dywell, lie yr oedd i ymprydio am ddeugain niwr- nod. Darfu i'r awdurdodau, fodd bynag, pan glywasant am y driniaeth annynol hon, orchymyn ar fod i'r plentyn gael ei ryddhau yn uniongyrchol ond dywedir mai nid cynt y trodd swyddogion y gyf- raith eu cefn nag yr awd a Francois yn ol i'w gell dywell. Y mae y rhieni i gael eu herlyn am gamdrin eu plentyn.
—— ESGOB CAERLLEON A GWAITH…
—— ESGOB CAERLLEON A GWAITH CENHADOL. Wrth gyfeirio at gynygiad i gynal cen- hadaeth yn Crewe a'r plwyfydd cyfagos, sylwai y Dr. Jayne, Esgob Caerlleon, mai ymdrech arbenig i ddyfnhau a lledaenu teyrnas Crist mewn tref neu gymydog- aeth neillduol ydyw cenhadaeth. Y mae profiad o fywyd mewn gwahanol gylch- oedd yn ein dysgu fod y cyfryw ym- drechion arbenig i ddiwygio, gwellhau, a dadblygu yn angenrheidiol o bryd i bryd. Gellir ystyried cenhadaeth fel math o anturiaeth ysprydol o natur beirianyddol, ac y mae yn hawlio yr holl fedr, llafur, a sel a all yr Eglwys ddwyn i ddylanwadu arni. Y mae yn darparu gwaith i bawb -y tlawd a'r cyfoethog, gweithwyr a meistriaid, y dysgedig a'r annysgedig, y difrifol yn ogystal a'r diofal, y mab ufudd a serchog yn ogystal a'r mab afradlawn. Y mae galwad neillduol i gynorthwyo yn y gwaith ar y rhai hyny ag y mae Duw wedi cyffwrdd eu calonau i deimlo, a'u llygaid i ganfod, ffeithiau tragywyddol bywyd. Y mae ymraniadau y byd Crist- ionogol yn ein parlysu yn ofnadwy yn y wlad hon ac mewn gwledydd tramor na fydded i unrhyw wreiddyn chwerwedd dyfu i fyny ac andwyo yr anturiaethau ysprydol hyn.
. CULNI DIRMYGUS PREGETHWR…
CULNI DIRMYGUS PREGETHWR YMNEILLDUOL YN ABERMAW. Yn y dyddiau presenol, pan y mae y wasg Radicalaidd mor hoff o gyhuddo y clerigwyr o gulni ac anhaelfrydedd yn eu hymwneyd a'u plwyfolion, y mae llawer o Eglwyswyr yn dewis anwybyddu yr engreifftiau lliosog a geir o benboethni a chulni o du y pregethwyr Ymneillduol. Tra yn gwerthfawrogi yn llawn y cym- hellion pur a'r dueddfryd amyneddgar sydd yn eu tueddu i wneyd hyn, credwn ar yr un pryd eu bod yn goddef i'w cariad at dangnefedd eu cario i eithafion yn y cyfeiriad hwn. Yn bresenol, fe frithir y newyddiaduron Radicalaidd gan ymosodiadau llwfraidd a diegwyddor ar Reithor parchus a gweithgar Abermaw, yn y rhai y portreadir pregethwyr Ym- neillduol yn y lie fel yn perthyn i'r dos- barth hyny o saint o ba rai nid yw y byd drwg presenol yn deilwng. Fodd byhag, yr wythnos o'r blaen cymerodd digwydd- iad le sydd yn profi nad yw un o honynt, o'r hyn lleiaf, y Parch. Z. Mathers, yn dyfod i fyny yn hollol a'r cymeriad gor- uchel hwn.. Bu aelod o eglwys" y gwr parchedig hwn farw, ac ar ei wely angau amlygodd ei ddymuniad o gael ei gladdu yn unol a'r hen drefn, ys dy- wedir. Pan ddeallodd Mr. Mathers hyn, gwrthododd yn bendant fyned i ddarllen rhan o'r Ysgrythyr, ac offryml1 gweddi wrth y ty, cyn i'r cynhebrwng gychwyn ac, o dan yr amgylchiadau, daeth un o elodaq ei gyauUeidla yailaea i gy^awj# y gwaith. Nid oes angen ychwanegu dim mewn ffordd o feirniadaeth ar gyfryw ymddygiad a hwn. Os dyma yw y Rhyddfrydiaeth y mae pregethwyr Ymneillduol ein gwlad yn ei bro-ff esu ac yn ymladd drosto, nid oes genym ond dymuno yn ddifrifol am gael ein gwaredu oddiwrtho.
UNDEB GWEISION MASNACHDAI.
UNDEB GWEISION MASNACHDAI. Cafodd cyfarfod o ddirprwywyr cym- deithasau gweision masnachdai Dehendir Cymru ei gynal yn y Neuadd Drefol, Castellnedd, ddydd Sul. Yr oedd y dirprwvwvr canlvnol yn bresenol:—Mri. Ashton, R. Davies, a Knapp (Caerdydd), Mri. Howells, Davies, a Bray (Abertawe), Mri. B. Davies a D. Phillips (Castellnedd), Mri. Long a Jeff- reys (Brynmawr), Mri. Allen a Griffiths (Blaina), Mri. Thomas a Davies (Aberdar), Mri. Evans a Millar (Llanelli), Mri. Williams a Hannay (Morriston), a Mri. Davies a Puntan (Tredegar). Y Parch. A. F. Mills, Castellnedd, oedd yn llywyddu. Darllenodd Mr. Davies (Caerdydd), ysgrifenydd yr undeb, faterion y cyfar- fod diweddaf, y rhai a fabwysiadwyd. Cymerodd dadleuaeth frwd le mewn cysylltiad a derbyn y meistri i'r undeb fel aelodau cyffredin, neu ynte fel aelod- au mygedol yn unig. Penderfynwyd eu derbyn fel aelodau mygedol. Hefyd, penderfynwyd— (1) Sefydlu trysorfa flwydd-daliadol ar gyfer gweddwon gweision masnachdai. (2) Fod cofrestrau i gael eu cadw gan bob cymdeithas ar gyfer cynorthwyo yr aelodau fyddont yn chwilio am sefyllfa- oedd. (3) Rhoddi cynorthwy cyfreithiol i unrhyw aelod a fyddo ag angen hyny arno yn ei alwedigaeth fel gwas i fasnach- wr. Fod y cyfryw gynorthwy i'w gael ond danfon gair at y cynghor gweithred- iadol drwy yr ysgrifenydd lleol. Ar ol gorphen gweithrediadau y cyfar- fod, cymerodd y dirprwywyr de gyda'u gilydd yn y Mackworth Hotel. Cynelir cyfarfod arall o'r dirprwywyr yn Nghas- -tellnedd ddydd Sul, y laf o Chwefror.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU, A MARWOLAETHAU. GENEDIGAETHAU. Jones—Ionawr 15, priod Mr. W. E. Jones (Ap Ellis), East Toothill, Caernarfon, ar fab. Gelwir ef yn Gwllym. Goulden Ionawr 13, yn 15, Church Street, Croesoswallt, priod Mr. J. W. Goulden, ar ferch. J ones-Ionawr 10, yn yr Hermitage, Beaumaris, priod Mr. W. R. Jones, ar ferch. Rogers-Jones-Ionawr 12, yn Church Street, Llanrwst, priod Mr. T. Rogers- Jones, ar fab. PRIODASAU. Griffith-Roberts-Ion. 12, yn swyddfa y cofrestrydd, Caernarfon, Mr. William Griffith, Foundry Terrace, Talysarn, a. Miss Catherine Roberts, Talysarn Hall. Parry-Hughes-Ionawr 9, yn nghapel Victoria, gan y Parch. David Williams, William Thomas Parry, High Street, Upper Bangor, a Mary Ellen Hughes,, 4, Craig-y-don, Upper Bangor. MARWOLAETHAU. Davies-Ionawr 15fed, yn Rhinfa, Pwll- heli, Dewi lorwerth, baban David. Evan ac Ellen Davies, yn ddau fisi oed. Evans—Dydd Gwener diweddaf, yn No. 39, Ambrose-street, Hirael, Bangor, ar ol cystudd maith, Mr. Hugh Evans, yn 64 mlwydd oed. Jones-Ionawr lleg, Mr. William Jones, Porthmadog (Lloyd's agent), a adwaen- id wrth yr enw Mr. William Jones, yr Yard, yn 65 mlwydd oed. Lewis-Ionawr 12fed, ar ol byr gystudd, Mrs. Lewis, priod Mr. Owen Lewis, diweddar o'r Fronoleu, yn 30 mlwydd oed. Yr oedd hon yn briodas fer iawn. —dim ond tri mis. Miller-Ionawr 13eg, yn Bryn Cottage, Dinbych, ar ol cystudd maith a dialed,, Mr. Timothy Miller, journalist, yn 66- mlwydd oed. Williams-Ionawr 12fed, ar of cystudd. caled, yn 42, Fountain-street, Hirael1, Bangor, William Llewelyn Williams, anwyl fab Richard a Catherine Wil- liams, yn 9 mlwydd oed. Williams-Ionawr 15fed, Edward, mab hynaf Mr. Robert Williams, 31, Church- street, Llangollen, yn 33 mlwydd oed.
[No title]
Onid wyt yn ddigon doeth i lefaru, bydd ddistaw. A fu hi farw o farwolaeth naturiol ?" "Do;; bu farw yn siarad." Os cyferfydd hwn 4 llygaid John Smith, meddai dyn digofus, gan godi ei ddwrn i fyny,, a'i ysgwyd, efe a glyw am rywbeth a fydd o- fantais iddo."
Advertising
¡ IF you suffer from head-aches, bilious or liver complaints, indigestion, eostiveiwss,, rheumatism, or tic-doloreux, try KERN ICR'S VKUKT- ABLE PILLS. They are easy to swallow, being lery" small require no confinement indoors, strengthen the) system, and have been tried by thousands, who pro- nounce them to be the best medicine in the world. TESTIMONIAL from J. BALBIRINIIJ, lisq., m.A., M.D., Lecturer on Physiology," Author of "A Treatise on the Turkish Bath," &c It 1 have examined the Pills known as K¡"1dvTt!" Vegetable Pills.' 1 certify their composition to be purely1 vegetable I have also tried their effect, and consider theni to be one of the best aperient Pills for cottstipitted habits that 1 know of. A (Signed), "JOlIN BALBIRNIE, M.A., M. 7)." Mr CRANWELL. Apothecary, Monte Video, writing" to a Master of a Vessel, says Bring me a supply of Kerniek's Vegetable Pills.1 I have found them very efficacious they cured me afterr many other Medicines had failed, and I lmve since- given them to my patients with equal success^" Thousands of other Testimonials, equally gratifying,, might be published. "Kernick's Pil{s" give energy to" the system, need no special with regard to iliet,, and are universally dcclareq" W. be the best Medicine off the kind ever discovered. Sold in boxes at 2s Sit, Is lid, and 7 d each, by most. respectable Cherinsts and Druggists in England and the,, ColonityL witti directions for restoring and prescrvingil Wiftltb. I P q P IIIUII M.wilimr
NODION O'R GARW VALLEY.
dan lywyddiaath y Rheithor, pryd yr ymdrin- iwyU a llawer o faterion Eglwysig, ond ynbenaf yr Eglwys Gymreig. Eglnrodd y Rheithor yn fanwl yr hyn oedd eisoes wedi ei wneyd. Yaffhyd a'r cynlluc a farnai ef yn creu i'w fab- wpiadu yn y dyfodoi. Goiynodd am ea cyd- woit-krodiftU, a mynecodd ei gred ddiysgog y byddai gauddynt adeilad hardd a chyfleus yn haivd i'w agor yn ddiddyled cyn mis Medi Ni.it yormodydyw dweyd fod pawb yn livi,iuI i wneyd en rhan yn llawen acyn ewyllys- jvar. uiu yn uüi' gyda chyfsanu yn 01 eu gallu, OTKI hefyd roddi pob cynorthwy gyda thori y bvlÙtn ac hyrwyddo y gwaith ymhob dull a modti.—Et'lwyswr.